Archwilio Hud y Gwanwyn: Tymor o Ddechreuadau Newydd Penny Dacey, 23 Chwefror 2024 Helo Cyfeillion y Gwanwyn! Mae rhywbeth yn yr awyr ar hyn o bryd, wrth i'r gaeaf ddechrau troi'n Wanwyn. Efallai eich bod wedi sylwi ar flodau blodeuo, adar yn canu, a dyddiau hirach? Dyma rai o'r arwyddion cynharaf bod y gwanwyn yn dod! Gadewch i ni blymio i mewn ac archwilio rhai o'r newidiadau cyffrous y gallech sylwi wrth i'r tymor hwn agosáu.Beth yw'r gwanwyn?Mae'r gwanwyn yn un o'r pedwar tymor rydyn ni'n eu profi bob blwyddyn. Mae'n dod ar ôl y gaeaf a chyn yr haf. Yn ystod y gwanwyn, mae'r dyddiau'n dod yn gynhesach, ac mae natur yn dechrau deffro o'i chwsg gaeaf. Yn y DU mae'r gwanwyn yn dechrau ym mis Mawrth, felly mae'n dal ychydig wythnosau i ffwrdd. Ond mae yna lawer o arwyddion bod hyn yn dod. Arwyddion cynnar y gwanwyn:Planhigion yn blodeuo: Un o arwyddion cyntaf y gwanwyn yw ymddangosiad blodau lliwgar. Cadwch lygad allan am gennin Pedr, crocws, tiwlipau, blodau ceirios a llawer mwy wrth iddynt ddechrau blodeuo a phaentio'r byd gyda'u lliwiau bywiog.Adar yn canu: Ydych chi wedi sylwi ar yr alawon siriol yn llenwi'r awyr? Dyna sŵn adar yn dychwelyd o'u mudo gaeaf a chanu i ddenu ffrindiau neu sefydlu tiriogaeth. Gwrandewch yn ofalus, ac efallai y byddwch yn clywed caneuon nodedig y robin goch a'r pincod. Gwenyn a Gloÿnnod Byw: Wrth i'r planhigion flodeuo, maent yn denu gwenyn a gloÿnnod byw prysur. Mae'r peillwyr pwysig hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu planhigion atgynhyrchu. Gwyliwch nhw'n hedfan o flodyn i flodyn, gan gasglu neithdar a phaill.Gwyrddio coed: Edrychwch o gwmpas, a byddwch yn sylwi bod dail y coed yn dechrau tyfu. Mae'r gwanwyn yn dod â thwf newydd, gan drawsnewid coed y gaeaf i ganopïau gwyrdd ffrwythlon. Mae'n arwydd bod bywyd yn dychwelyd i'r tir.Tywydd cynhesach: Dwedwch hwyl fawr i ddyddiau oer wrth i'r gwanwyn ddod â thymereddau cynhesach. Mae'n amser i dynnu'r siacedi gaeaf a mwynhau'r heulwen ysgafn.Anifeiliaid bychan: Mae'r gwanwyn yn amser geni ac adnewyddu. Cadwch lygad allan am fabanai anifeiliaid fel cywion, ŵyn, a chwningen wrth iddynt wneud eu hymddangosiad cyntaf yn y byd. Gallwch wylio am ŵyn newydd ar y SGRINWYNA o 1 Mawrth: Sgrinwyna 2024 (amgueddfa.cymru)Cawodydd glaw: Peidiwch ag anghofio eich ymbarél! Mae'r gwanwyn yn aml yn dod â chawodydd sy'n helpu i feithrin y ddaear a chefnogi twf planhigion newydd. Felly, cofleidiwch y glaw a chael hwyl yn sblasio yn y pyllau.Diwrnodau hirach: Ydych chi wedi sylwi bod y dyddiau'n mynd yn hirach? Mae hynny oherwydd bod y gwanwyn yn nodi'r amser pan fydd echel y Ddaear yn gogwyddo'n agosach at yr haul, gan roi mwy o olau dydd i ni fwynhau anturiaethau awyr agored.Mae'r gwanwyn yn amser hudol o'r flwyddyn, yn llawn rhyfeddod a dechreuadau newydd. Felly, chrafangia eich chwyddwydr, gwisgwch eich het archwiliwr, a mentro yn yr awyr agored i weld faint o arwyddion o'r gwanwyn y gallwch chi eu gweld! Efallai mai un yw eich bylbiau, ydyn nhw wedi dechrau tyfu? Allwch chi weld pa liwiau fydd eich blodau eto? Gallwch rannu eich lluniau trwy e-bost neu Twitter trwy dagio @Professor_PlantOs hwn yw eich hoff ran o'r ymchwiliad hyd yn hyn, efallai y bydd yn ysbrydoli eich cofnodiad i'r gystadleuaeth BYLBCAST. Bylbcast 2024 (amgueddfa.cymru)Daliwch ati gyda'r gwaith da Cyfeillion y Gwanwyn,Athro'r Ardd
Addysg Blynyddoedd Cynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mewn partneriaeth â Dechrau'n Deg Megan Naish, Hwylusydd Addysg, 7 Chwefror 2024 Mae Amgueddfa Cymru wedi cydweithio â Dechrau’n Deg i wahodd teuluoedd â phlant ifanc i edrych ar ein casgliad drwy chwarae, crefftau, a gweithgareddau synhwyraidd fel rhan o’n Rhaglen Addysg Teuluoedd a Blynyddoedd Cynnar.Mae dod â phlant ifanc i amgueddfeydd yn gallu peri pryder a phetrustod i lawer o deuluoedd, felly mae ein sesiynau dydd Sadwrn wedi’u cynllunio i leddfu’r pryder hwnnw drwy ddarparu llefydd diogel o dan oruchwyliaeth ac adnoddau rhyngweithiol i’n hymwelwyr ieuengach sy’n hybu eu chwilfrydedd a’u haddysg. Mae’r sesiwn benwythnos yn cael ei chynnal unwaith y mis, ac mae yna thema gwahanol i bob un yn seiliedig ar agwedd o gasgliad ein hamgueddfa, fel ‘Diwrnod Darganfod Deinosoriaid’, ‘Dan y Môr’, ‘Bwystfilod Bach yn yr Ardd’, ac ‘Oes yr Iâ’. Rydyn ni’n defnyddio Canolfan Ddarganfod Clore fel lleoliad ar gyfer ein sesiynau Dydd Sadwrn i Deuluoedd, a gall teuluoedd daro mewn drwy gydol y dydd a chael cyfle i edrych ar ein casgliad trin a thrafod eang.Ein nod yw rhoi amgylchedd diogel a chroesawgar i’n teuluoedd gael treulio amser gyda’i gilydd, creu atgofion a chael profiad o’r amgueddfa mewn ffordd unigryw sy’n cefnogi anghenion ein hymwelwyr ifanc a’u teuluoedd.
Wedi lansio: Bylbcast 2024 Penny Dacey, 2 Chwefror 2024 Annwyl Cyfeillion y Gwanwyn,Rwy'n gyffrous i gyhoeddi lansiad o gystadleuaeth newydd ar gyfer pawb sy'n cymryd rhan yn Ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion.Rwyf wedi atodi canllaw defnyddiol a all fod eich llawlyfr ar gyfer cwblhau'r her hon.Mae yna hefyd gyflwyniad fideo i weld yma:Wnewch eich fideos tua 30 eiliad hyr a rhannwch dros Twitter neu drwy e-bost erbyn 22 Mawrth.Rwy'n edrych ymlaen at weld beth rydych chi'n ei greu!Pob lwc Cyfeillion y Gwanwyn!
Yn dod cyn hir: Bylbcast 2024 Penny Dacey, 30 Ionawr 2024 Annwyl Cyfeillion y Gwanwyn,Rwyf eisiau rhoi gwybod i chi am gystadleuaeth newydd a fydd yn cael ei lansio yn fuan!Mae'n gyfle i bob grŵp sy'n cymryd rhan yn Ymchwiliad Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion eleni i ddangos eu sgiliau gwych mewn ffilmio ac adroddi straeon! Gofynnir i chi weithio mewn grwpiau i gynhyrchu fideos 30 eiliad yn dangos beth rydych chi wedi'i fwynhau fwyaf am yr Ymchwiliad. Rwyf yn edrych ymlaen at rannu mwy o wybodaeth gyda chi a gweld beth rydych chi i gyd yn creu!Gwyliwch y tudalen yma, bydd ddiweddariadau yn dod yn fuan...Pob hwyl,Athro'r Ardd
Wythnos Addysg Oedolion a’i gwaddol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a ledled Amgueddfa Cymru Loveday Williams , 24 Ionawr 2024 Fis Medi diwethaf, wnaethon ni ddathlu Wythnos Addysg Oedolion, ochr yn ochr â darparwyr dysgu eraill ledled Cymru. Roedden ni’n llawn cyffro i gynnal gweithgareddau ym mhob un o’r saith amgueddfa yn nheulu Amgueddfa Cymru, gan adeiladu ar ein cynigion cyfredol a threialu sesiynau a gweithgareddau newydd.Yn Sain Ffagan, datblygon ni raglen lawn o weithgareddau ar gyfer yr wythnos, gan gynnwys sesiynau blasu a gweithdai crefft, teithiau natur meddylgar, a chyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg a Saesneg.Cafodd rhaglen Amgueddfa Cymru ei hyrwyddo trwy’r adran newydd Dysgu Oedolion a Chymunedau ar ein gwefan, gyda gweithgareddau hefyd yn cael eu hysbysebu ar dudalen Digwyddiadau pob safle. Cawson ni gyfle i hyrwyddo ein rhaglen trwy lwyfan Wythnos Addysg Oedolion, a gefnogir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a chynhalion ni ymgyrch gynhwysfawr ar y cyfryngau cymdeithasol cyn ac yn ystod yr wythnos, ar X (Twitter), Instagram a Facebook. Yn rhan o’r gwaith hwn, aethon ni ati hefyd i hyrwyddo ein cyfres o diwtorialau a sesiynau blasu crefft rhithwir a’r adnoddau dysgwyr hunandywys rydyn ni’n eu cynnig. Buon ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Dysgu Cymraeg Caerdydd, Menter Caerdydd, Addysg Oedolion Cymru a Creative Lives, i gyfoethogi’r rhaglen a sicrhau ei bod wedi’i theilwra i anghenion y dysgwyr roedden ni’n gobeithio eu denu.Yn ystod yr wythnos, gwelson ni 160 o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu yn Sain Ffagan, a chyfanswm o 331 o bobl ar draws safleoedd Amgueddfa Cymru. Rydyn ni’n falch iawn o ddweud mai dyma oedd yr Wythnos Addysg Oedolion fwyaf erioed i ni yn Amgueddfa Cymru. Gallwch weld rhai o’r uchafbwyntiau yma: https://youtu.be/lgKtmLHr1_Q Roedden ni’n awyddus i gasglu adborth gan y dysgwyr i’n helpu ni i ddatblygu a gwella ein darpariaeth addysg i oedolion ledled y sefydliad. Dyma sampl o’r adborth a gawson ni:“Amgylchedd gwych, cadarnhaol, creadigol.” “Mae dysgu sgìl newydd yn hwyl ac yn rhoi boddhad.” “Profiad cymdeithasol a therapiwtig dros ben.” “Roeddwn i wir wedi mwynhau’r gweithdy. Profiad hwyliog a chadarnhaol iawn. Roedd yr hwyluswyr yn wirioneddol gyfeillgar, ac roedd y gweithdy yn therapiwtig a chymdeithasol.” “Wedi mwynhau’n fawr – cyfle gwych i ddysgu sgìl newydd. Athro gwych. Rwy’n teimlo wedi ymlacio’n llwyr ‘nawr.” “Taith gerdded ddifyr a diddorol iawn – gwelais i bethau nad oeddwn i wedi sylwi arnynt o’r blaen.” “Yn agor drws i fyd hudol.” “Roeddwn i wir wedi mwynhau’r daith natur feddylgar yn Sain Ffagan. Dysgais i lawer, a byddwn i’n ei hargymell! Roedd yn wych cael rhywun mor wybodus yn arwain y sesiwn.” “Amgylchedd cyfeillgar iawn; felly os ydych chi am roi cynnig ar rywbeth newydd, ewch amdani!” (gwehyddu bwydwyr adar helyg) “Wedi fy ngrymuso! Ffordd wych o ddysgu sgìl newydd.” “Llawer o hwyl! Ewch amdani, byddwch chi’n mwynhau dysgu sgìl newydd!” “Dw i’n meddwl bod digwyddiadau yn y Gymraeg yn dda iawn.” “Rydw i bob amser wedi eisiau gwneud torch hydref, a rhoddodd y cwrs yr hyder i mi. Roedd yn gwrs ysbrydoledig.” "Roedd yr hyfforddiant yn rhagorol. Roedd yna help pan oedd angen, ond rhoddwyd digon o le ac amser i chi roi cynnig arni eich hun.” “Wedi gwir fwynhau tynnu lluniau eto ar ôl 20 mlynedd. Rhaid i mi ailgydio ynddi nawr!” “Roeddwn i wedi mwynhau’r sesiwn sgetsio yn Sain Ffagan yn fawr iawn, yn ogystal â natur galonogol y grŵp.” “Sesiwn ysgogol, gefnogol a chalonogol dan arweiniad rhagorol Marion a Gareth. Diolch i Loveday am drefnu mor wych.” (Gweithdy sgetsio yn Sain Ffagan gyda Creative Lives). “Mae’n teimlo mor wych rhoi cynnig ar rywbeth newydd a gweld y canlyniadau mor gyflym.” (Sesiwn flas ar enamlo). Rhaglenni gwaddol: Diolch i’r cyfleoedd a gawson ni i dreialu gweithgareddau yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, rydyn ni bellach wedi lansio tair rhaglen Addysg Oedolion reolaidd newydd yn Sain Ffagan ac yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:Ein rhaglen Teithiau Disgrifiad Sain fisol (a rennir rhwng y ddwy amgueddfa bob yn ail fis, ac a fydd yn cael ei lansio yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion cyn bo hir, gyda’r bwriad o’i hymestyn i safleoedd eraill yn ôl y capasiti). Ein Grŵp Sgetsio misol yn Sain Ffagan, mewn partneriaeth â Creative Lives (ac yn adeiladu ar lwyddiant Grŵp Arlunio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd). Rydyn ni wedi cynnal tair sesiwn hyd yma. Denodd y sesiwn gyntaf 6 unigolyn, yr ail 8 unigolyn, a’r drydedd 24! Bu’r adborth yn gadarnhaol ac mae’r neges yn cael ei lledaenu i bobman. Os hoffech ymuno â ni fis nesaf, mae croeso i chi wneud. Mae’r holl wybodaeth ar gael yn y ddolen uchod. Sesiynau Bore i Ddysgwyr Cymraeg tymhorol newydd ar y cyd â Dysgu Cymraeg Caerdydd a Menter Caerdydd. Y tymor diwethaf, bu i ni groesawu 35 o ddysgwyr Cymraeg i’r Amgueddfa i gymryd rhan mewn sesiwn ar draddodiadau’r Nadolig yng Nghymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu grŵp o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ar 25 Ionawr ar gyfer Dydd Santes Dwynwen, lle byddwn ni’n archwilio’r casgliad o Lwyau Caru, ac yna’n cynnal y Bore i Ddysgwyr Cymraeg nesaf. Mae’r chwe addewid sy’n rhan o’n strategaeth ddeng mlynedd Amgueddfa 2030 wedi’u hymgorffori yn ein rhaglen addysg oedolion drwyddi draw, ac yn benodol yr addewid i ysbrydoli creadigrwydd a dysgu am oes. Edrychwn ni ymlaen at barhau i dyfu ein darpariaeth addysg oedolion, a gobeithiwn eich croesawu i un o’n hamgueddfeydd yn 2024 i gymryd rhan mewn gweithgaredd neu i fwynhau defnyddio un o’n hadnoddau hunandywys i ddysgwyr.