Addysg

Gwyrth y Gwanwyn

Gareth Bonello, 27 Ebrill 2010

Ar ôl un o’r gaeafau oeraf a hiraf a gofnodwyd erioed, mae’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r tywydd wedi bod yn gynhesach na nifer o hafau diweddar. Golyga hyn, ynghyd â’r ffrwydradau o flodau sydd i’w gweld ymhob cae, gardd a hollt yn y pafin bod y gwanwyn hwn yn argoeli i fod yn drawiadol dros ben.

Wedi gaeaf hirach nag arfer mae nifer o rywogaethau sydd fel arfer yn blodeuo’n gynnar yn y tymor wedi ymatal tan nawr. Er enghraifft y Cenau Cyll (‘Cynffonnau Ŵyn Bach’ i chi a fi), a flodeuodd yma ddiwedd Ionawr 2009, ond na ddechreuodd ddod i’r golwg nes dechrau Mawrth eleni. Yn Sain Ffagan mae’r blodeuo hwyr wedi golygu bod sawl rhywogaeth gynnar a hwyr yn blodeuo gyda’i gilydd; Eirlysiau, Llysiau’r Llew, Cennin Pedr a Chlychau’r Gog, felly mae gwledd a hanner i’r llygaid ar hyn o bryd! Am erthygl ddifyr am y tywydd anarferol eleni a’r goblygiadau i fywyd gwyllt cliciwch yma.

Ond mae’r gwanwyn yn fwy na blodau, ac mae crïoedd yr adar wedi bod yn cryfhau wrth i’r tywydd wella. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae ein cyfeillion pluog yn ceisio denu cymar a gwarchod eu tiriogaeth drwy ganu mor uchel ac mor aml â phosibl. Wedi cyflawni’r dasg hon rhaid iddynt adeiladu nyth a magu nythaid (neu ddwy hyd yn oed os oes ganddynt ddigon o egni). Mae hyn yn fy arwain at newyddion cyffrous sydd gen i am y Titw Mawr sy’n nythu yn ein blwch nythu arbennig. Ar hyn o bryd adeiladu’r nyth a chlwydo yno yn y prynhawn yn unig y mae hi, ond unwaith y bydd yn dodwy wyau (dyma fi’n croesi ‘mysedd) bydd yn hynod o gyffrous! Byddaf yn cadw llygad barcud ar ddigwyddiadau ac yn rhoi unrhyw newyddion ar fy nhudalen Twitter – felly agorwch gyfrif os hoffech dderbyn ‘tweets’ am ein nythaid o gywion ar Twitter!

Mae nifer o adar wedi hedfan o’r cyfandir, neu hyd yn oed Affrica, i fanteisio ar yr holl bryfaid sy’n deor yma yr adeg hon o’r flwyddyn. Teloriaid fel y Siff-saff, yr Helygddryw, Telor y Coed a’r Telor Penddu yw’r mwyafrif o’r adar mudol hyn, ac maent yn ychwanegu digonedd o leisiau newydd i gorws y wawr, sydd ar ei orau ar hyn o bryd. Mae ambell le ar ôl ar daith corws y wawr dydd Sadwrn, os ydych chi awydd codi’n gynnar a mynd am dro o amgylch Sain Ffagan.

Ta waeth, mae’n well i mi ei throi hi. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n galw’n ôl yn fuan oherwydd mae’n mynd i fod yn dymor prysur!

Tystysgrifau a gwobrau i Wyddonwyr Gwych!

Danielle Cowell, 21 Ebrill 2010

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni! Bu’r plant yn cwblhau heriau ac yn cadw cofnodion o’r tywydd i ennill tystysgrifau a gwobrau Gwyddonwyr Gwych. Diolch yn fawr i’r Really Welsh Company am gyflenwi cennin pedr a’r wobr 1af – diwrnod yn casglu cennin pedr ar eu fferm ger Pen-y-bont ar Ogwr – a diolch yn fawr iawn hefyd i staff Gwarchodfa Natur Cynffig.

Roedd y safon yn uchel iawn eleni ac fe hoffai Athro’r Ardd ddiolch i’r holl ysgolion sydd wedi sicrhau llwyddiant yr ymchwiliad hwn! Dyma’r ysgolion a’r plant sy’n cael eu haddysgu gartref a ddaeth i’r brig.

1af: Ysgol Iau Pentrepoeth, Treforys, Abertawe. Dan arweiniad yr athrawes Kay Mills. Gwobr: Taith i’r Really Welsh Farm a Gwarchodfa Natur Cynffig. 

2il: Ysgol Gynradd Glyncollen hefyd o Dreforys, Abertawe. Dan arweiniad yr athrawes Ann Richards. Gwobr: Ysbienddrych digidol.

Buddugwyr plant sy’n derbyn addysg yn y cartref: Mae’r teulu Jones o Landrindod a’r teulu Butterworth o Sir Gaerfyrddin wedi dangos llawer o ymroddiad gyda’u gwaith cofnodi. Gwobr: Taith i’r Really Welsh Farm a Gwarchodfa Natur Cynffig. 

Ysgolion a gafodd ganmoliaeth uchel: Ysgol Nant Y Coed, Ysgol Talhaiarn, Ysgol Howells Llandaf, Ysgol y Ffridd, Ysgol Porth y Felin, Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Ysgol Penycae (Ystradgynlais) Gwobrau: Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac eginblanhigion i’w hysgol.

Ysgolion a gafodd ganmoliaeth am eu hymroddiad a’u cofnodion da: Ysgol Gynradd Deganwy, Ysgol Iau Aberdaugleddau, Ysgol Gatholig Joseff Sant, Coleg Powys, Glan Conwy, Ysgol Iau Hen Golwyn, Ysgol Pen y Garth, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bishop Childs, Ysgol Iau Murch, Ysgol Gynradd Newton, Ysgol Gynradd Oakfield, Ysgol Gynradd Windsor Clive, Ysgol Gynradd Brynconin, Ysgol Gynradd Deganwy. Gwobrau: Pob disgybl i dderbyn tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac eginblanhigion i’w hysgol.

Blodau hwyr = adroddiad hwyr: Fel arfer, erbyn yr adeg hon o’r flwyddyn rydym yn gallu dyddiadau blodeuo eleni gyda’r rhai a gofnodwyd yn y blynyddoedd blaenorol, ond gan fod y tywydd wedi bod mor oer, rydym yn dal i dderbyn rhai cofnodion. Dros yr wythnosau nesaf, bydd Athro’r Ardd yn gweithio ar yr adroddiad hwn a’i gyhoeddi ar wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau

 

 

 

 

Cennin pasg!

Danielle Cowell, 1 Ebrill 2010

Finally, my daffodils opened on the 28th of March. Here are a few pictures. Many more have now opened in the schools across Wales. Happy Easter!

O'r diwedd, mae'r cennin Pedr ar y ffordd!

Danielle Cowell, 26 Mawrth 2010

Y gaeaf hwn oedd yr oeraf ers 30 mlynedd – felly mae ein blodau wedi agor llawer hwyrach nag arfer. Cofnodwyd ein crocws cyntaf yn Ysgol Gynradd Murch ar 14 Chwefror a’r cennin Pedr cyntaf yno hefyd ar 17 Chwefror.

Ers hynny mae llawer mwy wedi agor ledled y wlad. Astudiwch y mapiau a’r graffiau i ddysgu mwy: http://www.museumwales.ac.uk/en/1719/

Yn olaf, yr wythnos hon mae’r cennin Pedr yn fy ngardd wedi blaguro, ac fe ddylen nhw fod yn barod i agor cyn bo hir gobeithio! Maen nhw’n edrych ychydig yn fyrrach na blodau’r blynyddoedd diwethaf. Byddwn yn astudio’r cofnodion i weld os yw hyn yn duedd eleni.

Diolch yn fawr

Athro’r Ardd

 

Mystery bulb No.1 Can you guess what it is?

Mystery bulb No.2 Can you guess what it is?

 

22/3/2010 Daffodils in Cardiff. Sent in by Mr. Alun Jones

Fesul dipyn, mae�r egin yn dod�

Danielle Cowell, 20 Chwefror 2010

Yn gynnar yn Rhagfyr roedden ni’n edrych ymlaen i gael gwanwyn cynnar, ond yna daeth y tywydd oer i arafu pethau. Nawr, gyda’r tymheredd yn codi’n araf, mae gwyddonwyr yr ysgolion yn adrodd am arwyddion newydd o’r gwanwyn ledled Cymru! Mae fy egin innau wedi dechrau dod i’r golwg hefyd!

Yn Ysgol Gynradd Pentrepoeth, Abertawe. Roedd disgyblion wrth eu bod eu bod wedi ffeindio crocysau, cennin Pedr a bylbiau dirgel yn pipio drwy’r pridd. Fe’u synnwyd cymaint roedd eu hegin yn amrywio mewn maint, ac roeddynt wrth eu bodd yn cofnodi manylion y tymheredd a’r glaw.

Ar y fferm y Really Welshym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae ffermwyr wedi dechrau pigo cennin Pedr a’u hanfon i bob cwr o dde Cymru. Meddent: 'Does dim llawer iawn ohonynt ar hyn o bryd i ddweud y gwir, rydyn ni’n siomedig iawn pa mor araf mae’r cennin Pedr yn tyfu eleni. Rydyn ni tua 5 wythnos ar ei hol hi ar gyfer y mathau cynharaf, ac yn croesi’n bysedd y bydd gyda ni ddigonedd o gennin Pedr ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi’.

Blog Bylbiau Athro’r Ardd:

20/02/10 Agorodd fy nghrocws heddiw! Daeth eginyn y blodyn cyntaf i’r golwg, yna, pan ddaeth yr haul allan amser cinio - agorodd y blodyn. Roedd y lliwiau’n anhygoel, petalau piws llachar a brigerau a stigma oren llachar. Mae’n braf iawn cael ychydig o liw yn yr ardd o’r diwedd. Yn hwyrach yn y prynhawn, wrth i’r heulwen ddiflannu, caeodd y blodyn eto. Byddaf yn rhoi’r lluniau ar y wefan fory. Ydy’ch crocws chi’n gwneud hyn? Beth am roi cynnig ar rai o fy syniadau ymchwilio i? Gweler y ddolen isod.

15/02/10 Mae egin fy nghennin Pedr a’r crocysau wedi dechrau dod drwodd. Nid ydynt ddim talach na 2cm, sydd yn eithaf bach am yr amser yma o’r flwyddyn. Yn 2008, pan oedd y gaeaf yn fwyn, roedd blodau fy nghrocws eisoes wedi agor ac roedd y cennin Pedr yn 11cm o daldra!

Pa egin yw pa un? Mae gan egin cennin Pedr flaenau llyfn, gwyrdd golau. Maent yn llawer lletach na blaenau’r crocysau. Mae gan egin y crocws egin main, pigog sy’n ymddangos mewn clystyrau o bump fel arfer. Mae ganddynt ymylon gwyrdd tywyll - sy’n eu gwneud i edrych ychydig yn streipïog.