Pwll Glo Nantgarw - y pwll glo dyfnaf yn Ne Cymru 2 Medi 2007 Parc Nantgarw Adeiladu Pwll Glo Nantgarw Mai/Mehefin 1951 Efallai nad yw pawb sy'n ymweld â Chanolfan Gasgliadau Amgueddfa Cymru ym Mharc Nantgarw, i'r gogledd o Gaerdydd, yn sylweddoli ei fod ar un adeg yn safle un o'r pyllau glo enwocaf yn ne Cymru. Y cyfan sy'n parhau yw dau byramid concrit bychan yn nodi safleoedd y siafftiau ac olwyn godi goffaol.Y pwll glo dyfnaf yn Ne CymruPwll glo Nantgarw oedd un o byllau blaenllaw'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Hwn oedd y pwll glo dwfn agosaf i Gaerdydd, ac yn arwydd i deithwyr eu bod wedi cyrraedd meysydd glo de Cymru.Wedi'i agor ym 1911, roedd yno ddwy siafft fawr ac, ar ddyfnder o 782.73m (856 llath), dyma oedd pwll glo dyfnaf de Cymru. Serch hynny, er ymddangos fel esiampl dda o ddiwydiant glo glân ac effeithiol, rhoddwyd y gorau i'r pwll glo ym 1927 yn sgil prinder dynion, perthynas ddiwydiannol wael ac, uwchlaw dim, y lleoliad uwchben daeareg gymhleth iawn o dan y ddaear.Blynyddoedd y RhyfelAgorwyd y pwll eto ym 1937 yn dilyn adrefniant sylweddol, ond gohiriwyd y gwaith pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939. Cymeradwywyd cynllun hwyrach i ail agor y pwll gan y Weinyddiaeth Tanwydd a Phŵer ym 1946. Dyma'r cynllun sylweddol cyntaf i gael ei weithredu gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn rhanbarth y de orllewin.Pwll glo modern newydd Nantgarw yn 1974 Er mwyn creu model o bwll glo yn Nantgarw, dinistriwyd pob ôl o'r gwreiddiol a chynlluniwyd adeiladau newydd ar yr wyneb, gydag adnoddau modern. Gosodwyd teclynnau i leihau mwg a mygdarth, ac fe osodwyd yr holl wastraff o dan y ddaear gan gadw'r arwyneb yn glir o domennu gwastraff hyll. Roedd y rhwydwaith tanddaearol cyfan wedi ei gynllunio i leihau perygl damweiniau. Cymerwyd gofal mawr i leihau unrhyw lwch a gynhyrchwyd o dan y ddaear ac ar yr wyneb, er mwyn amddiffyn y gweithlu rhag dal afiechydon megis pneumoconiosis.Dim digon o lowyrYn ystod yr 1940au roedd dirywiad amlwg yn y nifer o ddynion a oedd yn fodlon ystyried gyrfa fel glöwr, hyd yn oed mewn ardaloedd traddodiadol glofaol megis y Rhondda. Roedd problem benodol o brinder dynion ym mhwll Nantgarw, gyda'r boblogaeth waith yn dewis gweithio mewn llefydd eraill. Roedd yn rhaid recriwtio'r gweithlu o ymgeiswyr newydd neu o byllau glo mewn ardaloedd eraill a oedd wedi cau. Erbyn 12 Mawrth 1954 roedd cyfanswm costau'r project wedi cynyddu i £5.25 miliwn. Roedd perthynas lafur hefyd yn peri gofid. Yn ystod 1958 roedd 65 enghraifft o ataliad, gweithio'n araf a cherdded allan o'r pwll.Ffawd yn dirywioGoroesodd Nantgarw'r cyfnod o gau llu o byllau glo yn y 1960au. Ym 1975, unodd gyda Phwll Glo Windsor ger Abertridwr. Erbyn 1979, roedd Pwll Glo Nantgarw / Windsor ar y cyd yn cyflogi tua 650 o ddynion, gan gynhyrchu dros 4,000 tunnell o lo bob wythnos. Yn ystod 1979-80 gwnaethpwyd elw o ychydig dros £0.5 miliwn. Er yr anawsterau datblygu, ymddangosai bod dyfodol y pwll yn weddol sicr.Serch hynny, erbyn dechrau'r 1980au, tarwyd ffawd y pwll eto gan brinder dynion ac amgylchiadau daearegol gwael. Collodd y pwll £7miliwn ym 1981, ac ym 1982 dirywiodd yr allbwn yn sydyn wrth i wythïen lo allweddol ddod yn anweithiadwy. Blwyddyn yn ddiweddarach, arweiniodd gwaharddiad ar oramser yn uniongyrchol at streic deuddeg mis 1984-5. O fewn deunaw mis i ddiwedd y streic, caewyd mwy o byllau glo yn ne Cymru. Y tro hwn, cafodd Pwll Glo Nantgarw ei gynnwys. Daeth bron i 80 mlynedd o hanes glofaol yn Nantgarw i ben.
Etifeddiaeth ddiwydiannol David Davies 29 Gorffennaf 2007 David Davies (1818-1890) Mae'r llun yn ei ddangos yn gorffwys am ennyd prin. Casgliad preifat (Lord Davies) Hafn Talerddig, y dyfnaf yn y byd ar y pryd. Doc Rhif 1 ym 1913, pan oedd dociau'r Barri'n allforio 11 miliwn tunnell o lo. Mae'r ardal ym mlaen y llun ar y dde'n edrych fel arwynebedd solet a gwastad, ond dŵr y doc yw hwn mewn gwirionedd, wedi'i orchuddio â throchion a llwch glo. David Davies, Llandinam Trawsnewidiodd rhoddion a chymynroddion Gwendoline a Margaret Davies amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru'n llwyr. Y chwiorydd Davies oedd cyfranwyr mwyaf yr Amgueddfa yn ystod ei chanrif gyntaf. Roedd Gwendoline a Margaret Davies yn wyresau i David Davies, Llandinam, un o entrepreneuriaid mwyaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dechreuodd David Davies ei oes fel ffermwr tenant a llifiwr. Gwnaeth ei ffortiwn trwy adeiladu rhan helaeth o system reilffyrdd y canolbarth wrth i Gymru Oes Victoria ddiwydiannu, bu'n arloeswr y diwydiant glo yng nghwm Rhondda, ac ef oedd y grym y tu ôl i'r gwaith o adeiladu dociau'r Barri. Rheilffyrdd Dechreuodd ei yrfa ym myd y rheilffyrdd wrth iddo adeiladu Rheilffordd y Drenewydd a Llanidloes ym 1859, a bu'n allweddol wrth adeiladu nifer o reilffyrdd y canolbarth, Dyffryn Clwyd a Sir Benfro. Ei gamp fwyaf fel peiriannydd y rheilffyrdd oedd hafn fawr Talerddig ar Reilffordd y Drenewydd a Machynlleth - hon oedd hafn ddyfnaf y byd pan gwblhaodd y gwaith ym 1862. Ond ni lwyddodd pob un o fentrau Davies — ni chyrhaeddodd y rheilffordd â'r enw crand Rheilffordd Manceinion a Milffwrdd fyth y naill le na'r llall! Glo — 'Davies yr Ocean' Bu 1864 yn drobwynt yng ngyrfa David Davies pan gymerodd les fwynau arloesol yng nghymoedd y de. Fe gymerodd ddwy flynedd i'r pyllau cyntaf ddechrau cynhyrchu ar raddfa fawr ac roedd wedi agor pum glofa ychwanegol erbyn 1886. Y flwyddyn ganlynol daeth y pyllau dan enw cwmni cyfyngedig cyhoeddus newydd, yr Ocean Coal Co. Ltd. Pan fu farw Davies ym 1890, hwn oedd cwmni glo mwyaf a mwyaf proffidiol y de. O'r pwll i'r porthladd Penllanw gyrfa David Davies oedd adeiladu'r doc yn y Barri. Cyfunodd Davies a nifer o berchnogion glofeydd eraill cwm Rhondda eu hymdrechion i ddatrys problem prysurdeb Rheilffordd Cwm Taf a dociau Bute yng Nghaerdydd. Aethant ati i adeiladu rheilffordd o'r maes glo i'r dociau newydd yn y Barri, oedd yn bentrefan bach bryd hynny. Er gwaetha'r gwrthwynebiad ffyrnig o garfan Bute, agorodd y doc ym 1889. Cyfoeth ar waith Roedd David Davies yn Fethodist Calfinaidd selog. Ffydd anghydffurfiol lem oedd hon, oedd yn unigryw yng Nghymru ac yn wahanol i Fethodistiaeth Wesleaidd. Fel holl aelodau teulu Gwendoline a Margaret, bu'n Sabathydd ac yn llwyrymwrthodwr gydol ei oes. Fe wnaeth hyn feithrin ynddo ymdeimlad dwfn o ddyngarwch a gwasanaeth cyhoeddus. Roedd yn gyfrannwr hael iawn at achosion crefyddol ac addysgol. Gan iddo dderbyn addysg elfennol iawn ei hun, roedd darparu addysg prifysgol yng Nghymru yn agos at galon David Davies. Roedd yn gefnogwr brwd o'r coleg cyntaf a agorwyd yn Aberystwyth ym 1872. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Fwrdeistrefi Ceredigion rhwng 1874-86, a chafodd ei ethol i Gyngor cyntaf Sir Drefaldwyn adeg ei sefydlu ym 1889. Ar ôl David Davies Bu farw David Davies ym 1890 ac fe'i olynwyd gan ei fab Edward. Bu straen rhedeg y busnes yn ormod iddo, a bu farw gwta wyth mlynedd ar ôl ei dad. Olynwyd yntau yn ei dro gan David, brawd Gwendoline a Margaret, yn ddiweddarach Arglwydd Davies y Cyntaf. Ef fu'n gorfod dygymod â dirwasgiad hir y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel. Yn dilyn y rhyfel gwladolwyd y diwydiant glo, y dociau, a'r rheilffyrdd, ac fe gollodd y teulu eu gafael ar eu busnesau helaeth. Heddiw mae holl lofeydd Ocean a'r rhan fwyaf o'r system rheilffordd a greodd David Davies wedi cau, ac mae dociau'r Barri'n gymharol segur.
Gwasg Gregynog 29 Gorffennaf 2007 Chwiorydd Davies Gregynog Wynebddalen The stealing of the mare (1930), gan Robert Maynard. Un o agweddau pwysicaf cysylltiad y chwiorydd Davies â'r celfyddydau oedd sefydlu Gwasg Gregynog. Y Wasg oedd yr unig elfen o'r cynllun celf a chrefft a gynlluniwyd ar gyfer Gregynog i gael ei weithredu, gan ddechrau cynhyrchu tua diwedd 1922. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf, Poems by George Herbert, flwyddyn yn ddiweddarach, a'r llyfr olaf ym 1940. Roedd Gwasg Gregynog, fel gweisg preifat eraill y cyfnod, yn cynhyrchu llyfrau o safon uchel mewn niferoedd cyfyngedig. Argraffwyd llyfrau o'r fath ar bapur wedi'u wneud â llaw fel arfer, gan ddefnyddio gweisg llaw neu beiriannau llythrenwasg bach. Comisiynwyd nifer o brif ysgythrwyr pren yr ugeinfed ganrif i gynhyrchu darluniau ar gyfer y llyfrau. Roedd gan y chwiorydd eisoes lyfrau o rai o weisg preifat gorau diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, fel y rhai o weisg Kelmscott ac Ashendene. Staff Un o'r copïau o'r rhwymiad arbenig o'r Anerchiad a gyflwynwyd i'r Brenin Siôr V ar achlysur agoriad ffurfiol Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar 21 Ebrill 1927. Pan oedd y Wasg yn ei anterth, cyflogwyd dau ar bymtheg aelod o staff. Roedd y rhan helaeth o'r gweithlu cyffredinol yn yr ystafelloedd cysodi a rhwymo yn Gymry lleol. Daeth y staff artistig o Loegr a'r Alban yn bennaf. Ceisiodd Bwrdd Gwasg Gregynog gyflawni tri nod wrth gyhoeddi llyfrau cain, sef: argraffu llyfrau yn Gymraeg; cyhoeddi rhai o'r enghreifftiau gorau o lenyddiaeth Eingl-Gymreig; a chyhoeddi cyfieithiadau o weithiau Cymreig. O'r 1930au ymlaen, roedd y testunau'n fwy amrywiol. O'r pedwar deg dau llyfr, roedd wyth ohonynt yn Gymraeg, ac roedd gan unarddeg arall gysylltiadau Cymreig. Yr ystyriaeth hon o ddeunydd Cymreig oedd un o nodweddion arbennig y Wasg. Argraffiad o Anerchiad y Brenin The fables of Esope (1932). Daeth ysgythriadau pren Agnes Miller Parker ar gyfer y llyfr hwn, a XXI Welsh gypsy folk-tales (1933), â hi i sylw'r cyhoedd fel un o ysgythrwyr pren gorau'r ugeinfed ganrif. Cynhyrchwyd un o'r cyhoeddiadau prydferthaf ar gyfer Amgueddfa Cymru, a hynny ar fyr rybudd. Argraffiad o Anerchiad y Brenin oedd hwn, a ddarllenwyd pan agorodd y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary yr Amgueddfa yn swyddogol ar 21 Ebrill 1927. Rhwymwyd nifer o gopïau mewn 'levant Moroco glas', ag ymylon aur. Argraffu Tudalen lliw Salm XC o Psalmau Dafydd (1929) Argraffwyd y llyfr 'gwasg' cyntaf, Poems by George Herbert, gyda gwasg llaw Albion. Yn fuan wedi hynny gosodwyd gwasg blaten Victoria a bwerwyd gan ei wneud yn llai llafurus. Y Victoria oedd prif wasg Gregynog, er mai defnyddio'r Albion wnaeth William McCance, ail oruchwyliwr y Wasg, pan argraffodd ei lyfr cyntaf, sef Comus John Milton ym 1931. Cyfyngwyd y pedwar llyfr cyntaf i un ffurfdeip (Kennerley), ond yn fuan iawn daeth yn bosibl defnyddio amrywiaeth o deipiau. Cynhyrchodd Gregynog ei theip eu hun hefyd, a ddefnyddiwyd ar gyfer un llyfr yn unig (Eros and Psyche, 1935). Roedd Gwasg Gregynog yn defnyddio papur wedi'i wneud â llaw. O 1927 ymlaen defnyddiwyd papur llaith i hwyluso'r broses argraffu — techneg a fu'n gyffredin am flynyddoedd cyn sefydlu'r Wasg. Herbert Hodgson, yr argraffydd o 1927 tan 1936, oedd yn bennaf gyfrifol am safon ragorol argraffiadau cynnar y llythrenwasg a'r ysgythriadau pren. Ysgythriadau Pren Un o dudalennau The story of the red-deer (1935/6), llyfr i blant, yr unig lyfr a gynhyrchwyd yng Ngregynog â'r darluniau wedi'u hargraffu mewn lliw. Argraffwyd rhai o lyfrau ceinaf Prydain ag ysgythriadau pren addurnol rhwng y ddau ryfel byd. Chwaraeodd y Wasg ran fawr yn y cyfnod hwn. Y 1930au oedd un o gyfnodau hynotaf Gwasg Gregynog yng nghyd-destun darlunio llyfrau ym Mhrydain, gydag ysgythriadau synhwyrus Blair Hughes-Stanton a rhai cymhleth Agnes Miller Parker. Comisiynwyd nifer o artistiaid allanol i baratoi ysgythriadau, ac un o'r mwyaf adnabyddus o'r rhain oedd David Jones; argraffwyd ei ddau ysgythriad yn Llyfr y Pregeth-wr. Rhwymiadau Llun o The stealing of the mare (1930) Roedd Gwasg Gregynog yn unigryw ymysg gweisg preifat, gan ei bod yn ystyried bod rhwymiad llyfr yr un mor bwysig â'i argraffiad. Hyd at 1935 rhwymwyd pob llyfr mewn defnydd bwcram neu bapur brith, ac un ohonynt mewn felwm, ond rhwymwyd nifer bach o argraffiadau arbennig mewn lledr, o liwiau a chynlluniau gwahanol. Fisher fu'n gyfrifol am rwymo bron pob un o'r llyfrau arbennig, ac ystyrir ei fod ymhlith rhwymwyr llyfrau gorau'r ugeinfed ganrif. Yr enghreifftiau gorau o'i ddawn oedd ei waith wrth gyflawni cynlluniau McCance a Hughes-Stanton, yn arbennig The Fables of Esope, The Revelation of Saint John the Divine a The Lamentations of Jeremiah. Cynlluniodd y staff artistig yn cynnwys Maynard a Hughes-Stanton gyfrolau arbennig eraill. Lluniau: Gwasg Gregynog/Gregynog Press
Pan hwyliai llongau Cymru'r moroedd 6 Gorffennaf 2007 Y Breconian Y Breconian Adeiladwyd The Breconian ym 1906; cafodd ei chofrestru yn Aberystwyth a bu Cymry'n ei hwylio dros foroedd y byd am 30 mlynedd. Mae'r portread ohoni, sef un o'r darluniau diwydiannol o longau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, yn rhoi cipolwg eithriadol o ddifyr i ni ar yr oes a fu. Darluniau o Longau Ceir rhyw 250 o ddarluniau o longau yng nghasgliadau diwydiannol Amgueddfa Cymru. Ychydig o'r rhain y gellid eu disgrifio fel celfyddyd gain ond maent yn archif hynod werthfawr o hanes morwriaeth yng Nghymru. Gwaith 'arlunwyr pen pier' yn ardal Môr y Canoldir yw'r rhan fwyaf ohonynt. Am dâl bychan, byddai'r rheiny'n tynnu lluniau lliwgar syml o long ar gyfer y perchennog, y capten neu aelodau'r criw. Yn wreiddiol, byddent yn tynnu parau o luniau, y naill o'r llong ar fôr tawel a'r llall mewn storm. Er nad yw'r lluniau hyn yn gelfyddyd gain, maent yn rhai manwl-gywir o safbwynt technegol. Roedd perchnogion y lluniau — perchennog y llong yn gymaint â gwraig y capten — yn ymfalchïo ynddynt ac roedd iddynt werth sentimental. Llong ac iddi Gynllun Newydd Llun heb ei lofnodi o'r Breconian mewn storm yw hwn. Adeiladwyd y llong ager ar gyfer John Mathias & Sons o Aberystwyth. Roedd yn anghyffredin gan fod y dec yn gulach nag arfer a bod y dec tyredau a osodwyd ar gorff y llong yn ymestyn o'r blaen i'r starn. Roedd y cynllun newydd hwn yn golygu bod y llong yn fwy proffidiol i'w rhedeg. Roedd y cynllun mor llwyddiannus nes bod 429 o longau deciau tyred wedi'u hadeiladu rhwng 1892 a 1911. Cychwynnwyd y cwmni oedd biau'r Breconian ym 1869 pan benderfynodd John Mathias, perchennog uchelgeisiol siop lysiau o Aberystwyth, fentro i fyd y llongau, gan brynu'r sgwner Miss Evans. Ym 1883, symudodd o longau hwyliau i longau ager, gan ffurfio'r Glanrheidol Steamship Company Limited. Erbyn i'r Breconian ymuno â fflyd Mathias, roedd y busnes wedi cymryd yr enw mawreddog The Cambrian Steam Navigation Company Limited. Roedd gan y cwmni saith llong wedi'u henwi, braidd yn anghyffredin, ar ôl ysgolion bonedd. Oherwydd hyn, roedd llongwyr yng Nghaerdydd yn galw'r cwmni yn 'the College line'. Y Breconian, a enwyd ar ôl Coleg Crist, Aberhonddu, oedd yr unig long a enwyd ar ôl ysgol yng Nghymru; enwau'r lleill oedd Etonian, Harrovian, Rugbeian, ac ati. Glo Allan, Grawn yn Ôl Fel y rhan fwyaf o longau cargo'r cyfnod, byddai'r Breconian yn hwylio'n bennaf yn y fasnach 'glo allan, grawn yn ôl', gan gludo glo o dde Cymru i bedwar ban byd a dod â llwyth o rawn yn ôl. Cymry fyddai'r rhan fwyaf o'r criw; ym 1911, Capten David Jones o Aberystwyth oedd y capten ac roedd 20 o'r criw o 28 yn dod o drefi a phentrefi arfordir Cymru. Ym 1917, gwerthwyd y Breconian i'r Tyneside Line Limited o Newcastle ac ym 1926 gwerthwyd hi eto i berchennog llongau o Genoa o'r enw Giovanni Bozzo. Cafodd ei hailenwi'n Lorenzo Bozzo ganddo ef ar ôl ei fab. Chwe blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei chwalu. Erbyn heddiw, dim ond y darlun sydd ar ôl i'n hatgoffa o un agwedd ar ddiwydiant llongau llewyrchus Cymru a'r llongwyr medrus o Gymru a fu'n hwylio moroedd y byd.
Printiau diwydiannol ffotograffydd o fri 6 Gorffennaf 2007 Llun a dynnwyd gan Walter Nurnberg yng Ngwaith Alwminiwm y Tŷ Du, Gwent Llun a dynnwyd gan Walter Nurnberg yng Ngwaith Alwminiwm y Tŷ Du, Gwent Llun a dynnwyd gan Walter Nurnberg yng Ngwaith Alwminiwm y Tŷ Du, Gwent Yn archifau ffotograffig Amgueddfa Cymru ceir nifer o brintiau a dynnwyd gan y ffotograffydd diwydiannol o fri Walter Nurnberg OBE. Lluniau ydynt o'r tu mewn i Waith Alwminiwm y Tŷ Du yng Ngwent ym 1968. O'r Gyfnewidfa Stoc i'r Ystafell Dywyll Ganed Walter Nurnberg yn Berlin ar 18 Ebrill 1907. Dilynodd ei dad i fyd bancio a daeth yn aelod o'r gyfnewidfa stoc ond teimlai bod y gwaith yn ddiflas. Dechreuodd ymddiddori mewn ffotograffiaeth yn dilyn ymweliad â Choleg Celf Reimann yn Berlin ac, ym 1931, dechreuodd fynd i ddosbarthiadau yn y coleg. Wrth astudio, daeth Nurnberg o dan ddylanwad gwaith Albert Renger-Pratsch a Selmar Lerski. Yn y 1920au, roeddent wedi chwyldroi byd ffotograffiaeth gan fynd ati mewn ffordd greadigol i gyflwyno pethau bob-dydd mewn ffordd ddramatig. Cafodd syniadau newydd y 'Neue Sachlichkeit' (Gwrthrychedd Newydd) a gwaith athrofa ddylunio Bauhaus yn Dessau ddylanwad arno hefyd. Roedd y rhain yn pwysleisio agwedd ddadansoddol at dynnu lluniau gan dynnu sylw at fanwl-gywirdeb, realaeth a ffurf. O Berlin i Lundain Ym 1934, aeth Nurnberg i Lundain a chychwyn busnes llwyddiannus fel ffotograffydd hysbysebion a masnach. Bu'n gwasanaethu yng Nghorfflu Arloeswyr y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tan 1944. Dair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei dderbyn yn ddeiliad Prydeinig. Ar ôl gadael y fyddin, cychwynnodd fusnes ffotograffiaeth ddiwydiannol. Dywedodd amdano'i hunan ei fod yn un o'r ffotograffwyr gwallgof hynny a fyddai'n hongian â'i ben i lawr o ben draw braich craen i gael ongl dda ar lun. Ymhen blynyddoedd wedyn, bu Nurnberg yn darlithio yng Ngholeg Polytechnig Canol Llundain ac yng Ngholeg Harrow ac Ealing. Ym 1968, daeth yn bennaeth Ysgol Ffotograffiaeth Guildford yng Ngholeg Celf a Dylunio Gorllewin Surrey. Ysgrifennodd werslyfrau am dechnegau goleuo ar gyfer ffotograffiaeth hefyd. Goleuo dramatig Roedd Nurnburg yn hoffi defnyddio goleuadau tyngsten oherwydd gallai weld yr union effaith y dymunai ei chael gan ddefnyddio lampau â golau siarp, clir. Byddai hyd yn oed yn gofyn am stopio llinellau cynhyrchu os oedd angen ac yn gosod ceblau trydan ychwanegol er mwyn cael ei ffotograffau unigryw. Mae ei ffotograffau'n dangos yn glir pa mor bwysig yw defnyddio golau'n effeithiol. Mae iddynt effaith ddramatig sy'n ein hatgoffa o ffilmiau Americanaidd y 1940au. Mae'r lluniau'n gryf ac yn ddeinamig, yn llawn o rym y byd diwydiannol. Pan ymddeolodd ym 1974, cafodd Nurnburg yr OBE am ei wasanaeth i fyd ffotograffiaeth a diwydiant. Cafodd lawer o wobrau ac anrhydeddau eraill am ei gyfraniad i ffotograffiaeth. Ceir casgliadau o'i ffotograffau yn Amgueddfa Genedlaethol Ffotograffiaeth, Ffilm a Theledu, Bradford; y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol a'r Gyfadran Peirianneg a Gwyddoniaeth yng Ngholeg Polytechnig Canol Llundain yn ogystal ag yn Amgueddfa Cymru. Bu farw Walter Nurnberg yn 84 oed ym 1991.