: Mwyngloddio

Caerdydd, Metropolis Glo a Llongau

18 Ebrill 2007

Caerdydd: y porthladd cynddiwydiannol.

Caerdydd: y porthladd cynddiwydiannol. Dwy slŵp ar lannau afon Taf, fel y'u portreadwyd gan Paul Sandby yn 1776.

Caerdydd: y porthladd diwydiannol. Awyrlun yn dangos y dociau gorffenedig yn eu cyfanrwydd tua 1948.

Caerdydd: y porthladd diwydiannol. Awyrlun yn dangos y dociau gorffenedig yn eu cyfanrwydd tua 1948.

Un o longau cargo nodweddiadol Caerdydd - SS Pontwen, a adeiladwyd yn 1914.

Un o longau cargo nodweddiadol Caerdydd - SS Pontwen, a adeiladwyd yn 1914.

Cyfnod y dirwasgiad. Llongau segur yn nociau Caerdydd tua 1930.

Cyfnod y dirwasgiad. Llongau segur yn nociau Caerdydd tua 1930.

Caerdydd: y porthladd wedi'i drawsffurfio.

Caerdydd: y porthladd wedi'i drawsffurfio. Bellach, saif datblygiadau adwerthol modern yn y man lle yr arferai glo gael ei allforio i bedwar ban byd.

Ail Ardalydd Bute

Yn 1862, allforiwyd 2,000,000 o dunelli metrig o lo o Ddociau Caerdydd ; erbyn 1913 roedd y cyfanswm hwn wedi codi i 10,700,000 tunnell fetrig. Y cyfnod hwn oedd yr oes aur cyn dirwasgiad y 1930au.

Caerdydd, heb os, oedd tref ffyniannus Prydain ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd. Am ychydig flynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y tunelli o gargo a drafodwyd yn y porthladd yn drech na thunelledd Llundain neu Lerpwl. Eto i gyd, ddiwedd y ddeunawfed ganrif, roedd '...two sloops trading to Bristol on alternate days' yn ddigon i drafod masnach Caerdydd! Beth fu'n gyfrifol am y trawsnewidiad hwn?

Twf y diwydiant haearn ym mlaenau cymoedd de Cymru fu'r sbardun gwreiddiol i ddatblygiad Caerdydd fel porthladd. Yn 1794, cwblhawyd

Camlas Morgannwg a gysylltai Caerdydd â Merthyr, ac yn 1798 adeiladwyd basn yn cysylltu'r gamlas â'r môr. Bu'r galw cynyddol am gyfleusterau doc priodol yn fodd i ddarbwyllo ail Ardalydd Bute, tirfeddiannwr mwyaf blaenllaw Caerdydd, i hyrwyddo'r gwaith o adeiladu Doc West Bute, a agorwyd ym mis Hydref 1839. Prin ddwy flynedd yn ddiweddarach, agorwyd Rheilffordd Dyffryn Taf .

Glo ddisodli haearn

O'r 1850au ymlaen, dechreuodd glo ddisodli haearn fel sylfaen diwydiannol de Cymru, pan ddechreuwyd cloddio gwythiennau dwfn Cwm Rhondda a Chwm Cynon. Ymhen dim o dro, glo rhydd de Cymru fyddai i gyflenwadau egni'r byd yr hyn yw olew heddiw, ac mor gynnar â 1862 câi 2 filiwn o dunelli metrig ei allforio. Agorwyd doc ychwanegol, yr East Bute, yn 1859, ond yn dilyn marwolaeth yr ail Ardalydd yn 1848 roedd ymddiriedolwyr Stad Bute yn orofalus ac yn gyndyn i fuddsoddi mewn cyfleusterau doc newydd.

Arweiniodd y rhwystredigaeth yn sgil y diffyg datblygu yng Nghaerdydd at agoriad dociau cystadleuol ym Mhenarth yn 1865 a'r

Barri yn 1889. Yn y pen draw, bu'r datblygiadau hyn yn gymhelliad i Gaerdydd weithredu a gwelwyd agor Doc y Rhath yn 1887, a Doc y Frenhines Alexandra yn 1907. Erbyn hynny, câi oddeutu 9 miliwn o dunelli metrig o lo y flwyddyn ei allforio, llawer ohono yn howldiau llongau cargo a oedd yn eiddo i berchnogion lleol.

Cargoau o lo

Llong ager gyntaf Caerdydd oedd y llong fach Llandaff a adeiladwyd yn 1865, a hon oedd y gyntaf o fflyd o longau ager a dyfodd yn gyflym ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn 1910, roedd tua 250 o longau cargo a oedd yn eiddo i gwmnïau adnabyddus megis Cory, Morel, Radcliffe, Tatem a Reardon Smith, oll o Gaerdydd. Bob dydd, arferai penaethiaid y cwmnïau hyn gwrdd yn y

Gyfnewidfa Lo ysblennydd yn Sgwâr Mount Stuart er mwyn trefnu cargoau o lo ar gyfer eu llongau. Roedd y fasnach hon yn ei hanterth yn 1913, pan allforiwyd 10.7 miliwn o dunelli metrig o lo o'r porthladd.

Rhyfel Byd Cyntaf

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd bri mawr ar y fasnach longau yng Nghaerdydd, ac yn 1920 roedd 122 o gwmnïau llongau mewn bod. Fodd bynnag, byrhoedlog fu'r cyfnod ffyniannus; roedd pwysigrwydd olew fel tanwydd llongau ar gynnydd ac ymhen dim o dro sicrhaodd telerau Cytundeb Versailles fod digonedd o lo iawn rhad yr Almaen ar gael ledled Ewrop. Erbyn 1932, pan oedd y dirwasgiad yn ei anterth, câi llai na 5 miliwn o dunelli metrig o lo ei allforio ac roedd dwsinau o longau a oedd yn eiddo i berchnogion lleol yn segur. Mewn gwirionedd, ni lwyddodd Caerdydd i ailgodi ar ei thraed wedi'r cyfnod o ddirwasgiad ac, er gwaethaf prysurdeb mawr y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gostwng fu hanes yr allforion glo, masnach a ddaeth i ben yn gyfan gwbl yn 1964.

Porthladd Caerdydd heddiw

Heddiw, mae pryd a gwedd porthladd Caerdydd yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd ganrif yn ôl. Trawsffurfiwyd y glannau yn gyfan gwbl gan yr argae sy'n cronni afonydd Taf ac El'i, gan greu llyn dŵr croyw mawr. Bellach, saif fflatiau drudfawr lle yr arferai craeniau glo sefyll, a disodlwyd tafarnau garw'r gymdeithas forwrol gan fistros parchus. Dau ddoc yn unig, y Rhath a'r Frenhines Alexandra, a gaiff eu defnyddio, ac er eu bod yn ffynnu - diolch i'w diddordebau byd-eang - dim ond dau gwmni llongau sydd ar ôl.

Hyd heddiw, mae rhywfaint o fasnach mewn coed, olew, sgrap a chynwysyddion, ond mae'r dyddiau pan oedd y porthladd yn llawn llongau cargo dan orchudd o lwch glo wrth iddynt lwytho'r 'diemyntau du' a ddeuai o gymoedd de Cymru, wedi hen fynd heibio.

Darllen Cefndir

Cardiff and the Marquesses of Bute, gan John Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (1981).

Cardiff Shipowners, gan J. Geraint Jenkins a David Jenkins. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1986).

Coal Metropolis: Cardiff, 1970-1914, gan Martin Daunton. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caerlŷr (1977).

Clawdd pileri llechi Thomas Williams yn Bisham

18 Ebrill 2007

Y clawdd pileri llechi yn Bisham (Windsor a Maidenhead).

Y clawdd pileri llechi yn Bisham (Windsor a Maidenhead). Mae tua 150m (164 llath) o'r clawdd hwn wedi goroesi, er bod trigolion lleol yn cofio'r adeg pan oedd yn hwy o lawer. At ei gilydd, mae pileri'r clawdd yn Bisham yn codi tua 180cm (5.9 troedfedd) uwchlaw'r ddaear ac mae'n rhaid bod oddeutu 40cm (1.3 troedfedd) yn ychwanegol o dan y ddaear. Mae pob piler tua 20cm (7.9 modfedd) o led a 3.5cm (1.4 modfedd) o drwch.

Beth a barodd i glawdd pileri llechi gael ei godi yn nyffryn Tafwys, 300km o chwareli llechi gogledd-orllewin Cymru?

Daeth cloddiau pileri llechi yn gyffredin yng ngogledd-orllewin Cymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Yn 1861, er enghraifft, cynhyrchai Chwarel y Penrhyn, Bethesda (Gwynedd) - un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd bryd hynny - tua 9,000 o bileri unigol. Roedd y pileri hyn ar ffurf darnau unionsyth o lechfaen glas o ansawdd gwael, pob un, fel arfer, tua 150cm (4.9 troedfedd) o uchder. Mor gynnar â 1798, sylwodd y Parchedig W. Bingley, ar stad yr Arglwydd Penrhyn, y câi'r darnau eu gyrru:

"into the ground about a foot distant from each other, and interwoven near the top with briars, or any kind of flexible branches to hold them together."

Caent eu defnyddio o amgylch caeau a gerddi ac o boptu rheilffyrdd a ffyrdd, ac roedd eu gwneuthuriad syml yn dra chyfaddas ar gyfer y tywydd garw sy'n nodweddu'r ucheldiroedd.

Er eu bod i'w canfod yng nghyffiniau chwareli llechi Cymru, mae cloddiau pileri llechi yn brin iawn y tu hwnt i'r ardaloedd chwarelyddol. Felly, mae'r clawdd pileri llechi a ganfuwyd yn ddiweddar gerllaw Temple House (wedi'i ddymchwel bellach) yn Bisham (Windsor a Maidenhead), yn anarferol iawn. Gwyddys i sicrwydd ar sail y lliw glasborffor y cloddiwyd y llechfaen yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn Chwarel y Penrhyn yn ôl pob tebyg.

Cwyd y cwestiwn, felly, beth a barodd i glawdd pileri llechi gael ei godi bron 300km (186 milltir) o ffynhonnell y garreg? Mae a wnelo'r ateb â chyn berchnogion Temple House.

Adeiladwyd Temple House tua 1790 ar gyfer Thomas Williams, perchennog gwaith copr Temple Mill gerllaw. Cyfreithiwr o ogledd Cymru oedd Thomas Williams (1737-1802) a ddaeth yn ŵr blaenllaw yn niwydiant copr Prydain. Cyflogodd Williams y pensaer, Samuel Wyatt, i ddatblygu Temple Mills, ac mae'n debyg mai i Samuel hefyd yr ymddiriedwyd y dasg o godi Temple House.

Roedd gan Samuel Wyatt gysylltiadau agos â pherchnogion Chwarel y Penrhyn. Yn 1782 adnewyddodd ef adeilad ar ran Richard Pennant (yr Arglwydd Penrhyn yn ddiweddarach), ac yn 1786 penodwyd ei frawd, Benjamin II, yn brif reolwr stad y Penrhyn. Sicrhaodd y berthynas hon gyflenwad cyson o lechi i Samuel ar gyfer ei weithgareddau masnachol ei hun. Talodd Samuel y gymwynas yn ei hôl drwy hyrwyddo'r defnydd o lechfaen yn ardal Llundain, gan ei ddefnyddio at ddibenion silffoedd, tanciau dŵr, seddau tai bach, siliau ffenestri ac ar gyfer wynebu muriau, yn ogystal â deunydd toi.

Os cafodd pileri llechi Temple House eu cyflenwi gan Samuel Wyatt, gellid bod wedi'u cludo i Bisham heb fawr o drafferth. Hyd yn oed cyn adeiladu tramffordd o Chwarel y Penrhyn i'r cei ym Mangor (Port Penrhyn) yn 1801, roedd rhwydwaith effeithiol o ffyrdd eisoes yn cysylltu'r chwarel â'r porthladd.

O'r cei, roedd fflyd o longau yn cludo llechi o amgylch arfordir yr Ynysoedd Prydeinig. Roedd gan deulu Wyatt fuddsoddiadau mewn nifer o'r llongau hyn. O Lundain, gellid cludo llwythi o lechi ar fadau a hwyliai i fyny afon Tafwys.

Felly, mae llawer o dystiolaeth amgylchiadol yn cysylltu clawdd pileri llechi Bisham â Samuel Wyatt a Chwarel y Penrhyn, ac yn awgrymu y cafodd y clawdd ei godi tua 1790. Ond mae un wedd ar y modd y cafodd y pileri eu trin yn bwrw amheuaeth ar hyn. Mae'n amlwg y torrwyd rhai o'r pileri cynhaliol mwyaf â llif gron - techneg na chafodd ei defnyddio cyn 1805, yn sicr, ac a ddaeth yn gyffredin dim ond wedi 1840.

Un awgrym sy'n cyfuno'r naill ddarn o dystiolaeth a'r llall yw'r posibilrwydd y cafodd y clawdd gwreiddiol ei godi tua 1790, ond iddo ddirywio wrth ymsuddo ym mhridd llifwaddod meddal ardal Bisham. Y canlyniad posibl oedd archebu ail lwyth o lechi Cymru tua 1840 er mwyn trwsio'r clawdd.

Mae'n ymddangos yn rhesymol, felly, i ddod i'r casgliad fod y clawdd gerllaw Temple House yn dyst i'r cysylltiadau rhwng dau o ddiwydianwyr mawr Cymru, y meistr copr Thomas Williams a Richard Pennant o Chwarel y Penrhyn, drwy'r pensaer Samuel Wyatt. Rhannai'r ddau dreftadaeth gyffredin ac, felly, onid oedd yn gwbl naturiol i Thomas Williams a'i bensaer arddangos potensial llechi Cymru gerllaw ei waith copr yn Temple Mill?

The Wyatts: an architectural dynasty gan John Martin Robinson. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1979).

Dafydd Roberts, 'Copor a Llechi : Ffens Llechi Thomas Williams yn Bisham', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 65, tt. 89-97 (2004).

Symud talcen glo i'r amgueddfa

11 Ebrill 2007

Pan gaeodd ysbyty i lowyr yn 2001, datgymalwyd y talcen glo a ddefnyddiwyd i roi ymarfer corff i'r cleifion a'u paratoi i ddychwelyd i'r gwaith, a'i symud i gasgliadau Amgueddfa Cymru.

Tŷ Talygarn

Tŷ Talygarn: golygfa o'r model maint llawn o dalcen glo

Tŷ Talygarn: golygfa o'r model maint llawn o dalcen glo

Ym 1880, agorwyd ysbyty ym mhlasty cerrig sylweddol Talygarn. Addurnwyd y tu mewn â phaneli pren a nenfydau peintiedig. Roedd parcdiroedd helaeth o gwmpas y tŷ, lle tyfwyd sbesimenau o bob coeden sy'n gallu tyfu ym Mhrydain, yn ôl yr hanes.

Talygarn fel Cartref Ymadfer

Yn Hydref 1923, agorwyd Tŷ Talygarn fel cartref ymadfer ar gyfer glowyr, ac o fewn 15 mlynedd roedd dros 41,000 o gleifion wedi bod trwy'r drysau.

Ym 1943, gofynnwyd i Gomisiwn Lles y Glowyr drefnu gwasanaeth adfer ar gyfer glowyr oedd wedi'u hanafu. Oherwydd bod prinder gweithwyr ar y pryd, roedd hi'n hanfodol bod glowyr oedd wedi'u hanafu'n dychwelyd i'w gwaith mor fuan â phosib. Am hynny, prynwyd Tŷ Talygarn fel canolfan i wasanaethu meysydd glo de Cymru.

Erbyn 1964, roedd 95% o'r cleifion a gafodd eu trin yn Nhalygarn yn dychwelyd i'r diwydiant glo. Parhaodd i weithredu fel canolfan ymadfer a ffisiotherapi nes cael ei osod ar werth yn Awst 2000.

Adfer glowyr a'r 'Model o Bwll Glo'

Oherwydd yr angen i galedi'r dynion cyn iddynt ddychwelyd i'r pyllau glo, darparwyd gweithdy gwaith coed, lle byddai'r cleifion yn torri pren ac yn llifio boncyffion. Roedd grisiau bach a beiciau llonydd ar gael i ymarfer eu cyhyrau segur.

Yn Nhŷ Talygarn roedd yna fodel mawr o bwll glo lle gallai'r cleifion ymgyfarwyddo â gweithio mewn pwll glo unwaith eto. Un twnnel hir a gynhaliwyd gan hytrawstiau bwaog oedd y strwythur. Roedd gan y ffordd gledrau, yn ogystal â fframwaith metel o'r enw horsehead, a fyddai'n atal cerrig rhag cwympo mewn talcennau glo go iawn.

Symud y pwll glo

Ym 2001, rhoddwyd cynnwys y model o bwll glo' i Amgueddfa Cymru fel 'ffordd barhaol o atgoffa ymwelwyr am waith canolfan ymadfer Talygarn'.

Datgymalwyd y talcennau glo fel petasent yn rai go iawn. Er mai dim ond pedair troedfedd o uchder oedd ar gael i gyflawni'r gwaith, llwyddwyd i ddatgymu a symud y cludwr cadwyn, trideg troedfedd o hyd.

Cludwyd yr holl eitemau i'r Ganolfan Casgliadau yn Nantgarw. Mae rhodd Talygarn yn rhan unigryw, tri deg troedfedd o hyd, o dalcen glo rhannol-fecanyddol, sydd wedi goroesi o'r 1960au cynnar.

200 Mlynedd o Flaengaredd Diwydiannol yng Nglynebwy

10 Ebrill 2007

Gweithfeydd Haearn Abersychan, 1866, a redwyd gan Gwmni Glynebwy, 1852-83

Gweithfeydd Haearn Abersychan, 1866, a redwyd gan Gwmni Glynebwy, 1852-83

Ffwrneisi chwyth Glynebwy, tua 1900

Ffwrneisi chwyth Glynebwy, tua 1900

Melin arw mewn gwaith dur, 1907

Melin arw mewn gwaith dur, 1907

Melin arw mewn gwaith dur, 1907

Melin arw mewn gwaith dur, 1907

Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy

Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy oedd un o brif gynhyrchwyr haearn y de yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd o bwys rhyngwladol, nid yn unig am ei faint, ond hefyd am ei flaengaredd technolegol.

Can mlynedd yn ddiweddarach, y cwmni oedd y cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio technegau Americanaidd i gynhyrchu dur a thunplat. Heddiw, y cwmni yw prif gynhyrchwr tunplat Prydain.

1790, y Ffwrnais Chwyth cyntaf

Mae gwreiddiau gweithfeydd Glynebwy yn ymestyn yn ôl i 1790, pan sefydlwyd ei ffwrnais chwyth cyntaf. Y teulu Halford oedd y perchnogion rhwng 1796 ac 1844, a bu'r gweithfeydd yn llwyddiant yn ystod y cyfnod hwn. Bu'n arloesol ym maes rholio cledrau, gan ddarparu cledrau ar gyfer rheilffordd Stockton a Darlington ym 1829.

Yn yr un cyfnod, arbrofodd y cwmni gyda locomotifau — un o'r gweithfeydd haearn cyntaf yn y de i wneud hynny. Ffurfiwyd Cwmni Glynebwy ym 1848, a ffynnodd y gweithfeydd. Ymgorfforwyd pedwar gwaith haearn arall yn Abersychan, Sirhywi a Phont-y-pŵl.

Y gwaith dur cyntaf ym Mhrydain

Roedd y cwmni'n arloeswr yn y broses o droi haearn gyr yn ddur. Cynhaliodd ei arbrofion ei hun ym 1854, ac agorodd un o'r gweithfeydd dur cyntaf ym Mhrydain ym 1866.

Dirywiodd y gweithfeydd yn yr 1870au a'r 1880au oherwydd rheolaeth wael, ond bu ehangiad cyflym y diwydiant glo yn ddigon i arbed y gwaith rhag cau.

Adfywiad yr 20fed ganrif

Adfywiwyd y gweithfeydd haearn a dur ar ddechrau'r 20fed ganrif, a bu ffyniant marchnad glo stêm Cymru'n help i sefydlu'r cwmni fel prif gwmni haearn a glo integredig Cymru.

Cau a chaledi

Erbyn y 1920au cynnar roedd y cwmni'n cyflogi 34,000 o ddynion. Cynyddwyd ei ddyledion i ariannu ehangiad mewn cyfnod pan oedd y diwydiannau dur a glo yn dirywio'n sylweddol. Arweiniodd hyn at gau'r gweithfeydd a gwerthu'r glofeydd ym 1929.

Adfywiad ac ehangiad gyda thunplat

O ganlyniad i'r caledi mawr a'r diweithdra yn y dref, penderfynodd y Llywodraeth y dylid gosod melin stribed dur cyntaf Prydain yng Nglynebwy. Ail-adeiladwyd y gweithfeydd ym 1936-38 o dan berchnogaeth Richard Thomas & Company, cynhyrchwyr tunplat mwyaf Prydain.

Cafodd y gweithfeydd newydd hwb pellach ym 1947, pan gosodwyd llinell tunplat electrolytig cyntaf Ewrop yno. Parhawyd i foderneiddio ac ehangu pob rhan o'r gweithfeydd, ac ym 1960 gosodwyd y Trawsnewidydd LD cyntaf Prydain yn y gwaith dur.

Y cynhyrchwr tunplat mwyaf ym Mhrydain

Bu rhesymoliad y diwydiant dur ar ôl ei wladoli ym 1967 yn gyfrifol am leihau cyfanswm y dur a gynhyrchwyd yng Nglynebwy, a chaewyd y gwaith dur ym 1978. Ers hynny canolbwyntiodd y gwaith ar gynhyrchu tunplat a galfaneiddio, gan ddatblygu i fod yn brif gynhyrchwr tunplat Prydain. Caewyd y gwaith yn 2002.