Yr hen gloc yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis 22 Chwefror 2007 Y cloc uwchben mynedfa Amgueddfa Lechi Cymru Un o nodweddion amlwg Amgueddfa Lechi Cymru yw'r wyneb cloc siâp diemwnt sydd ar flaen yr adeilad. Uwch ei ben ar y to mae strwythur tebyg i bagoda bychan sy'n cynnwys cloch a morthwyl sydd wedi'i gysylltu â'r cloc â rhaff wifrau. Gosodwyd mecanwaith y cloc ar ail lawr yr adeilad. Cafodd ei gynhyrchu yn Sir Amwythig ond nid yw'r dyddiad yn eglur. Gan nad yw'r cloc yn ymddangos mewn ffotograffau cynnar o'r adeilad, a godwyd ym 1870, mae'n debygol na chafodd mo'i osod tan ganol y 1890au. Amserydd ar gyfer ffrwydradau'r chwarel Mae'r Amgueddfa wedi'i lleoli yng ngweithdai Fictoraidd Chwarel Dinorwig. Roedd y cloc yn gymorth i sicrhau prydlondeb y trenau a gludai'r llechi o'r chwarel i borthladd y Cwmni yn y Felinheli. Fodd bynnag, roedd yn fwy nag amserydd ar gyfer y gweithdai, ac ar un adeg yn ei hanes ychwanegwyd cyfres o gysylltiadau trydanol ato. Ar amserau penodol, byddai'r cloc yn anfon cerrynt trydanol i rannau eraill o safle mawr y Chwarel. Roedd hyn yn sicrhau bod ffrwydradau'n digwydd ar amser. Fel arfer, byddai systemau o'r fath yn cael eu marchnata fel clociau pulsynetic. Gwerthwyd hwy gan wneuthurwyr clociau enwog fel Gent o Gaerlŷr. Yn y Felinheli, wrth gwrs, cynhyrchodd y gweithwyr eu fersiwn ddibynadwy eu hunain. Graffiti 100 mlwydd oed Roedd angen cyflenwad pŵer i gynhyrchu'r cerrynt trydanol. Byddai hyn yn cael ei ddarparu drwy gelloedd gwlybion neu gronaduron a storiwyd wrth ochr y cloc. Un o'r darganfyddiadau a wnaed pan adnewyddwyd y rhan hon o'r adeilad ganol y 1990au oedd y graffiti gwreiddiol ar y waliau a'r paneli cyfagos, a oedd yn nodi dyddiadau llwytho'r batri. Ar 10 Mehenfin 1909, er enghraifft, llwythwyd y batrïau gan Willie Owen Williams a George Hughes. Glanhau'r cloc Er bod y cloc wedi cael ei gynnal a'i gadw dros y blynyddoedd, erbyn 2001 roedd angen sylw arbenigol arno. Roedd busnes y gwneuthurwyr J.B. Joyce and Company yn dal i weithredu. Cafodd y busnes ei sefydlu yn yr Eglwys Wen yn Sir Amwythig, ac mae'n dal i fod yno dros dri chan mlynedd yn ddiweddarach. Yn anffodus nid oes ganddynt gofnod o'r clociau unigol a gynhyrchwyd, ond roeddent yn fodlon ymweld â'r Amgueddfa i archwilio'r cloc. Dychwelwyd y mecanwaith i weithdy Joyce lle cafodd ei lanhau a'u wasanaethu. Yna fe ailadeiladwyd y cloc, cyn ei ddychweleyd i'r Amgueddfa a'i roi ar waith unwaith eto. Heddiw mae'r cloc yn rhedeg yn llyfn ac mae'n gywir i raddau helaeth. Cloc ar gyfer y Pentref Mewn cyfnod pan nad oedd oriawr yn rhywbeth cyffredin, roedd y cloc a osodwyd yng ngweithdai Chwarel Dinorwig yn gloc ar gyfer y gymuned leol, a gallai holl drigolion Llanberis a'r cyffiniau glywed ei gloch. Meddai un awdur lleol: 'Torrai ar y distawrwydd yn nhrymder nos, a chlywyd aml i glaf yn cwyno yn y bore,"Chysgis i ddim gwerth neithiwr - clywed yr hen gloc yn taro pob awr nes iddi 'leuo"' Mae'r cloc yn parhau i fesur treigl amser wrth i'r unfed ganrif ar hugain fynd rhagddi yn Llanberis.
Doedd dim byd yn cael ei wastraffu: lleisiau crefftwyr y Gilfach Ddu 22 Chwefror 2007 Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.
Cwpan o aur Cymru solet 19 Chwefror 2007 Aur Cymru Y cwpan aur solet a wnaethpwyd o gynllun mewn darlun o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i Jane Seymour ym 1536. Cwpan a chaead, aur 22 carat, R & S Garrard & Co, London 1867-68. Uchder: 39.8 cm (15 ''/16 modfedd). Mae aur Cymru'n brin iawn. Gwnaethpwyd modrwyau priodas teulu Brenhinol presennol Prydain ohono, ond y gwrthrych mwyaf i gael ei wneud o aur Cymru yw'r copi o gwpan a roddodd Harri VIII i un o'i wragedd. Y teulu cyfoethocaf yng Nghymru Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain. Teulu'r Williams-Wynn oedd y teulu cyfoethocaf yng Nghymru ar y pryd. Roeddent yn enwog am eu cyfoeth, gan ei wario ar dai crand, paentiadau drud ac arianwaith. Mae llawer o'r rhain bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa. Y Rhuthr am Aur Cymru Mae nifer yn gwybod am y rhuthr am aur yn Califfornia ym 1848, ond nid oes llawer yn gwybod am y rhuthr am aur Cymru a ddigwyddodd ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Ym 1862 darganfuwyd aur ym Meirionnydd ac yn fuan wedi hynny agorodd Syr Watkin-Wynn (1820-1885) waith aur Castell Carn Dochan ar ei dir. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r aur o'r gloddfa hon rhwng 1865 a 1873. Taliadau o Aur Talwyd breindaliadau mawr i Syr Watkin am yr aur a gloddiwyd, a thalwyd ef gyda'i ingotau aur ei hun. Fodd bynnag, nid oedd angen yr incwm hwn arno gan ei fod mor gyfoethog, a gallai drin yr aur fel difyrrwch. Cwpan o Aur Solet Defnyddiwyd peth o'r aur i wneud cwpan ysblennydd. Mae'r cwpan yn 40cm o uchder ac wedi'i wneud o aur 22-carat. Mae arno'r ysgythriad "MADE OF GOLD THE ROYALTY FROM CASTELL CARNDOCHAN MINE 1867" yn ogystal â'r dilysnod R & S Garrard and Co., Haymarket, Llundain. Mae'n addurnol, yn y steil a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod y Dadeni cynnar. Mae'n sefyll ar droed gron, ac mae ochrau'r goes wedi ei haddurno â phennau blodau, dolffiniaid a chlychau. Mae nifer o arwyddeiriau teuluol wedi'u hysgythru ar y cwpan: eryr eryrod eryri, y cadarn a'r cyfrwys, bwch yn uchaf a cwrw da yw allwedd calon. Mae arfbais Williams-Wynn ar y caead tal, ac arno hwrdd ifanc yn cael ei gynnal gan geriwbiaid ar y brig. Cynllun Brenhinol ar gyfer Harri VIII Y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cwpan a roddwyd i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536-37 yn yr Amgueddfa Brydeinig. Hans Holbein yr Ieuaf, pen ag inc ar bapur. Hawlfraint Yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain Fe seiliodd gwneuthurwyr y cwpan eu cynllun ar ddarlun sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536. Addurnwyd y cwpan â diemwntau a pherlau. Toddwyd cwpan Jane Seymour ar orchymyn Siarl I ym 1629, pan oedd yn brin o arian.