: Mwyngloddio

'Straeon o grombil y ddaear' - atgofion glowr Bois Bevin

4 Ionawr 2008

Bod yn Bachgen Bevin yn Glofa Cwm 1944-1947, gan Mel Harris.

Mel Harris, Bachgen Bevin, Glofa Cwm 1944-1947

Mel Harris, Bachgen Bevin, Glofa Cwm 1944-1947

Fe wnes i sawl swydd ar ôl i Ernest Bevin fy anfon i'r pwll glo yn lle'r RAF. Bues i'n gweithio gyda chywirwr a haliwr, gyda thaniwr, ac fel y cyd-deithiwr ar y dramiau — wastad yn wrthryfelwr, yn anfodlon, a heb unrhyw ddiddordeb o gwbl yn y gwaith.

"Erbyn hyn, o'n i ar y ffas lo gyda hen löwr oedd yn gadeirydd ar gyfrinfa'r glowyr — arweinydd y glowyr yn y pwll... Wrth i'r dyddiau fynd heibio, bydden i'n edrych arno fe'n gweithio, a gweld mor daclus a gofalus oedd e wrth weithio. Os nad ydych chi'n gyfarwydd â gwaith y glöwr, mae'n edrych yn ddigon didoreth ond mae'n waith crefftus iawn, bron yn esthetig weithiau. O'n nhw mor ofalus wrth drimio llawr, wyneb a thop y stent, cadw'r pyst a'r trawstiau'n syth ac o'n nhw mor browd o adael y stent yn daclus i gyd ar ddiwedd y shifft.

"Er fy mod i'n gweithio'n galed gyda Mr David — ac alwes i ddim byd arall arno byth — wnaeth fy nheimladau i am fyd y lofa ddim newid. O'dd fy ffrindiau i gyd yn lifrai'r lluoedd ac yn gwasanaethu dros y môr, a minnau mewn dillad bob dydd heb yr un iwnifform ond y sgidie mawr a'r helmed. Digon tlawd oedd y bwyd hefyd, roedd y gyflog yn bitw ac roedd pobl yn y'ch galw chi'n llwfrgi. Er i mi wneud sawl ymgais i symud i swyddi milwrol, ges i f'atal bob tro ac roedd y rhagolygon at y dyfodol yn ofnadw o ddu.

"Yn yr anobaith 'ma, o'n i'n dal i weithio gyda Mr David ac yn araf bach fe ddaeth e â heddwch i fi a helpu fy agwedd i hefyd. Dechreues i ei weld e fel patrwm i'w ddilyn i edrych ar fywyd mewn ffordd fwy cytbwys ac optimistig. Doedd dim llawer o addysg ganddo, ond roedd e'n ddyn deallus iawn a barn glir iawn ganddo am hawliau a chyfrifoldebau. Fe ofynnes iddo unwaith sut roedd e, fel cadeirydd y gyfrinfa, yn trin a thrafod y cytundebau tâl gyda'r rheolwr. Dyma beth ddwedodd e 'Fe wna i'n siŵr ei fod e'n cadw ei ochr e o'r fargen - ac os bydd unrhyw un o'r dynion yn ei thorri hi, fyddan nhw'n ateb i fi.'

"Roedd yn gas gen i fod yn Bachgen Bevin o hyd, ond fe helpodd e fi i edrych arno fel profiad a fyddai o les i fi yn nes ymlaen yn fy mywyd."

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o cyhoeddiad Glo gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma:

Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943-9

Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943 - 1949

Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943 - 1949

Ges i ngeni yn Herstmonceux, Dwyrain Sussex. Gadawes i'r ysgol yn 14 oed i fynd i weithio mewn ffatri oedd yn gwneud rhannau i geir. Pan ddes i'n 18 oed, ges i alwad i fynd i Brighton i gael prawf meddygol. Roeddwn i eisiau ymuno â'r fyddin, ond a dweud y gwir bydden i wedi bod yn ddigon bodlon aros gartre!

"Daeth fy rhif i lan yn y balot i fynd i'r pyllau glo ac fe anfonon nhw fi i Ganolfan Hyfforddi Oakdale. Fues i'n lletya gyda Mrs Jones yn Rhisga, fi a Wyndham Jones, cocni oedd â pherthnasau yn Abertyleri. Cawson ni chwech wythnos o hyffordiat yn Oakdale (roedd Wyndham 'fel menyw' ar y rhaw) a'n hala wedyn i Lofa Roseheyworth. Roedd rhaid inni wisgo'n dillad ein hunain yn y gwaith. Fy rhieni roddodd fy nillad i fi ac roeddwn i'n arfer eu hala nhw adre i Sussex bob wythnos i mam gael eu golchi nhw. Roedd hi'n arfer dweud 'Byddai'n well gen i weld Raymond yn mynd i'r fyddin na lawr y pwll' — roedd hi'n meddwl bod y cyfan yn ofnadwy, a bod y Cymry'n byw mewn ogofâu.

"Ar ôl sbel es i weithio gyda Sid Fox ar hedin lle bydden ni'n llanw 13 neu 14 dram bob shifft — byddai Sid yn rhoi rhyw £3 o 'arian cnoco' i fi. Pan fyddai Sid yn sâl, fydden i'n gweithio ar yr hewl gyda Gerald Williams.

"Gerald gyflwynodd fi i Phyllis ar ryw noson mâs - roeddwn i'n swil ac yn ffaelu dawnsio a dyna'r unig ffordd i'w gwneud hi yn y dyddiau hynny. Ond yn y diwedd, dyna'r unig ferch i fi fynd mâs gyda hi erioed ac r'yn ni'n briod ers 58 o flynyddoedd mis Awst yma (2005). Priodas dawel geson ni, roedd fy rhieni i'n sâl ac yn ffaelu dod lawr a doedd neb arall yna ar fy ochr i o'r teulu. I Weston Super Mare aethon ni ar ein mis mêl. Doedd y wraig newydd ddim am setlo yn Eastbourne, felly aros yng Nghymru wnaethon ni. Roedd hi wastad yn 'Helo Ray' bob deg munud yng Nghymru - yn Eastbourne gallech chi gerdded o gwmpas am chwe mis a fyddai torri gair â chi!

"Bues i'n gweithio yn y pyllau am chwe mlynedd. Rwy'n cofio goruchwyliwr yn pwyntio ata i a dweud wrth rywun 'Chi'n gweld y bachan 'na? Bachgen Bevin sy'n dal i weithio yma — ni'n ffaelu cael gwared arno fe!' Fe godes i'r acen hyd yn oed i ryw raddau, ond i atal pobl rhag gwneud hwyl ar ben fy acen Sussex i y gwnes i hynny. Erbyn hyn rwy'n teimlo'n fwy o Gymro na'r wraig!"

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o'r cylchgrawn 'Glo' a gynhyrchwyd gan gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r cylchgrawn i gyd yma

Cofio'r Bois Bevin yn yr Ail Rhyfel y Byd

3 Ionawr 2008

Baner goffa'r Bechgyn Bevin.

Baner goffa'r Bechgyn Bevin.

Bois Bevin

Bois Bevin o de Cymru

Bathodyn poced Cymdeithas y Bechgyn Bevin.

Bathodyn poced Cymdeithas y Bechgyn Bevin.

Ceffyl pwll wedi ymddeol gyda dau Fachgen Bevin yn yr aduniad blynyddol yng ngerddi Trentham, Stoke-on-Trent.

Ceffyl pwll wedi ymddeol gyda dau Fachgen Bevin yn yr aduniad blynyddol yng ngerddi Trentham, Stoke-on-Trent.

Bechgyn Bevin yn yr Orymdaith Goffa yn Llundain ar 14 Tachwedd 2004.

Bechgyn Bevin yn yr Orymdaith Goffa yn Llundain ar 14 Tachwedd 2004.

Y ffrynt danddaear

Dydy stori'r Bois Bevin ddim yn un cyfarwydd. Ni chafodd y dynion di-ri hynny a dreuliodd y rhyfel ar y 'ffrynt danddaear' eu cydnabod am bron i hanner canrif.

Pan gyhoeddwyd y rhyfel ym 1939, ymunodd miloedd o lowyr profiadol â'r lluoedd arfog, neu drosglwyddo i'r 'diwydiannau rhyfel' oedd yn talu'n well. Erbyn canol 1943 roedd mwy na 36,000 o ddynion wedi gadael y diwydiant glo. Penderfynodd llywodraeth Prydain fod angen tua 40,000 o ddynion i gymryd eu lle.

Ernest Bevin

Ym mis Rhagfyr 1943, creodd Ernest Bevin, y Gweinidog dros Lafur a Gwasanaeth Gwladol, gynllun oedd yn cynnwys cynnal balot i anfon cyfran o'r dynion oedd yn cael eu galw i wasanaethu i'r pyllau glo yn lle'r lluoedd arfog. Byddai deg rhif yn mynd i'r het bob mis a dau'n cael eu tynnu. Os oedd rhif cofrestru Gwasanaeth Gwladol dyn yn gorffen gyda'r ddau rif yna, fe fyddai'n mynd i weithio yn y diwydiant glo. Dechreuodd y dynion hyn gael eu galw'n 'Bois Bevin'

Yn ogystal â'r rhai a gafodd eu dewis yn y balot, roedd yna wirfoddolwyr hefyd. Roedd y dynion yma wedi gwirfoddoli i wasanaethu yn y pyllau glo yn hytrach na'r lluoedd arfog. Rhwng 1943 a 1948, cafodd 48,000 o ddynion ifanc eu galw i'r Gwasanaeth Gwladol mewn swyddi ym mhyllau glo Prydain. Yn groes i'r gred gyffredin ar y pryd, dim ond 41 ohonyn nhw oedd yn wrthwynebwyr cydwybodol.

Roedd Bois Bevin yn dod o bob dosbarth cymdeithasol a phob rhan o Brydain - nid dim ond yr ardaloedd glofaol. Rhyw wybodaeth ddigon niwlog oedd gan lawer ohonyn nhw am y diwydiant glo cyn cael eu drafftio. Roedd y rhan fwyaf wedi gosod eu bryd ar yrfa yn y lluoedd arfog ac roedd yn gas ganddyn nhw gael eu hanfon i'r glofeydd.

Ciab a rhaw

Yn wahanol i'r glowyr cyffredin, oedd yn gwisgo'u dillad eu hunain, roedd Bois Bevin yn cael oferôl, helmed ddiogelwch ac esgidiau gwaith. Ond roedden nhw'n gorfod talu am eu hoffer eu hunain ac ambell un yn cwyno nad oedd y milwyr yn gorfod prynu eu drylliau eu hunain, felly pam ddylen nhw orfod talu am gaib a rhaw!

Dim ond cyfran fach o Fois Bevin gafodd eu cyflogi i dorri glo ar y ffas, er bod rhai'n helpu'r glowyr i lenwi dramiau. Roedd y rhan fwyaf yn gwneud gwaith cynnal-a-chadw ar yr hewlydd tanddaear, yn clymu ac yn datod dramiau neu'n rheoli symudiadau'r cludiant tanddaear. Byddai nifer fach oedd wedi cael profiad o waith trydan neu waith peiriannu'n gwneud gwaith tebyg yn y glofeydd.

Ym 1943, roedd un o bob pedwar glöwr yn cael ei ladd neu ei anafu, ac roedd cael eich cyflogi i gludo glo neu offer bron mor beryglus â chynhyrchu glo ar y ffas. Roedd trin a thrafod dramiau'n dal i achosi llawer o anafiadau i'r bysedd a'r dwylo ac, yn fwy difrifol, fe allai arwain at farwolaeth pe bai rhywun yn cael ei wasgu o dan y cerbydau cyflym.

Glowyr anfodlon oedd y rhan fwyaf o Fois Bevin. Doedd ganddyn nhw fawr o ddiddordeb yn y gwaith, ac roedd gweddill y gweithwyr yn tueddu i gredu eu bod yn ddiwerth. Roedden nhw'n amhoblogaidd ymhlith teuluoedd glofaol lleol, oedd wedi gweld eu plant eu hunain yn cael eu drafftio i'r lluoedd arfog a gweld pobl o'r tu allan yn cymryd eu lle. At hynny, os nad oedd dynion ifanc mewn lifrai, fe allen nhw gael eu poeni gan y cyhoedd, a gallai'r heddlu amau eu bod nhw wedi dianc o'r fyddin neu eu bod nhw'n sbïo ar ran y gelyn. Does dim syndod bod llawer ohonyn nhw'n mynd yn absennol heb ganiatâd. Nifer fach iawn arhosodd yn y diwydiant glo ar ôl y rhyfel: roedd y rhan fwyaf ar dân eisiau rhoi'r gorau iddi.

"Demob"

Daeth y balot i ben ym mis Mai 1945 a chafodd y canolfannau hyfforddi eu cau'r mis wedyn. Ers mis Ionawr 1944 roedd Oakdale wedi hyfforddi 5,615 o ddynion, ac roedd 5,400 ohonyn nhw'n dal i weithio. O'r rhain, roedd 1,465 yn wirfoddolwyr.

Cafodd yr olaf o Fois Bevin eu rhyddhau ym 1948 ond, yn wahanol i'r dynion eraill oedd wedi cael eu gorfodi i wasanaethu, doedd dim hawl ganddyn nhw i fynd nôl i'w hen swyddi. Chawson nhw ddim medal am wasanaethu, dim siwt o ddillad "demob" na hyd yn oed llythyr o ddiolch. Cafodd y cofnodion swyddogol eu dinistrio yn y 1950au, ac felly dyw Bois Bevin ddim hyd yn oed yn gallu profi eu bod wedi gwasanaethau os nad ydyn nhw wedi cadw eu dogfennau eu hunain.

Cafodd aduniad swyddogol cyntaf Bois Bevin ei gynnal yn Amgueddfa Fwyngloddio Chatterley Whitfield ym 1989 ac mae mwy wedi bod yma ac acw ers hynny. Serch hynny, dim ond ym 1995, 50 mlynedd ar ôl Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, y rhoddodd llywodraeth Prydain gydnabyddiaeth i'w gwasanaeth yn y rhyfel a chaniat´u i Fois Bevin gymryd rhan swyddogol yn y gwasanaeth ar Sul y Cofio yn Whitehall.

Am fwy o wybodaeth am y Bois Bevin, Cysylltwch â:
Warwick H Taylor, Vice President, Bevin Boys Association, 1 Rundlestone Court, Dorchester Dorset, DT1 3TN

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.

Ysbryd y mwynwyr

1 Hydref 2007

spirit of the miners logo

Dyw Sir Ceredigion ddim yn uniongyrchol a chysylltiad a hanes mwyngloddio. Ond fel y teithiwch tuag at Aberystwyth ar yr arfordir, gan ddilyn dyffrynnoedd mewndirol afonydd Ystwyth, Rheidol a Mynach, byddech yn camgymryd wrth gredu mai amaethyddiaeth fu economi Ceredigion ar hyd yr amser.

Mae mwyngloddio am gopor, plwm, zinc ac arian wedi bod yn rhan bwysig o economi'r sir ers 4,000 o flynyddoedd.

Edrychwch yn fanylach ar natur a wyneb y tirlun sy'n newid wrth i chi deithio i'r bryniau, a bydd stori arall dod i'r amlwg. Wrth deithio o un pentref i'r llall, mae'r tirwedd hynafol yn cuddio nifer o storïau, traddodiadau a cynllwynio a fu'n amlwg yn ystod y blynyddoedd gynt.

Mae'r gwasgariad o gymunedau sy'n cynnwys Ponterwyd, Pontrhydfendigaid, Ffair Rhos, Cwmystwyth, Ysbyty Ystwyth, Goginan, Ystumtuen, Pontrhydygroes, Cwmsymlog, Taliesin a Thalybont heb unrhyw beth yn eu cysylltu yn ôl pob golwg. Ond maent yn cynnwys un thema sy'n berthnasol iddynt oll - diwylliant hanesyddol cloddio.

Mae'r gwybodaeth hon yn rhan o'r wefan 'Ysbryd y Mwynwyr' - project adfywio cymunedol i geisio creu hunaniaeth i ogledd Ceredigion trwy fanteisio ar yr etifeddiaeth mwyngloddio metel fel thema.

x

Pwll Glo Nantgarw - y pwll glo dyfnaf yn Ne Cymru

2 Medi 2007

Parc Nantgarw

Adeiladu Pwll Glo Nantgarw Mai/Mehefin 1951

Adeiladu Pwll Glo Nantgarw Mai/Mehefin 1951

Efallai nad yw pawb sy'n ymweld â Chanolfan Gasgliadau Amgueddfa Cymru ym Mharc Nantgarw, i'r gogledd o Gaerdydd, yn sylweddoli ei fod ar un adeg yn safle un o'r pyllau glo enwocaf yn ne Cymru. Y cyfan sy'n parhau yw dau byramid concrit bychan yn nodi safleoedd y siafftiau ac olwyn godi goffaol.

Y pwll glo dyfnaf yn Ne Cymru

Pwll glo Nantgarw oedd un o byllau blaenllaw'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Hwn oedd y pwll glo dwfn agosaf i Gaerdydd, ac yn arwydd i deithwyr eu bod wedi cyrraedd meysydd glo de Cymru.

Wedi'i agor ym 1911, roedd yno ddwy siafft fawr ac, ar ddyfnder o 782.73m (856 llath), dyma oedd pwll glo dyfnaf de Cymru. Serch hynny, er ymddangos fel esiampl dda o ddiwydiant glo glân ac effeithiol, rhoddwyd y gorau i'r pwll glo ym 1927 yn sgil prinder dynion, perthynas ddiwydiannol wael ac, uwchlaw dim, y lleoliad uwchben daeareg gymhleth iawn o dan y ddaear.

Blynyddoedd y Rhyfel

Agorwyd y pwll eto ym 1937 yn dilyn adrefniant sylweddol, ond gohiriwyd y gwaith pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939. Cymeradwywyd cynllun hwyrach i ail agor y pwll gan y Weinyddiaeth Tanwydd a Phŵer ym 1946. Dyma'r cynllun sylweddol cyntaf i gael ei weithredu gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn rhanbarth y de orllewin.

Pwll glo modern newydd

Nantgarw yn 1974

Nantgarw yn 1974

Er mwyn creu model o bwll glo yn Nantgarw, dinistriwyd pob ôl o'r gwreiddiol a chynlluniwyd adeiladau newydd ar yr wyneb, gydag adnoddau modern. Gosodwyd teclynnau i leihau mwg a mygdarth, ac fe osodwyd yr holl wastraff o dan y ddaear gan gadw'r arwyneb yn glir o domennu gwastraff hyll. Roedd y rhwydwaith tanddaearol cyfan wedi ei gynllunio i leihau perygl damweiniau. Cymerwyd gofal mawr i leihau unrhyw lwch a gynhyrchwyd o dan y ddaear ac ar yr wyneb, er mwyn amddiffyn y gweithlu rhag dal afiechydon megis pneumoconiosis.

Dim digon o lowyr

Yn ystod yr 1940au roedd dirywiad amlwg yn y nifer o ddynion a oedd yn fodlon ystyried gyrfa fel glöwr, hyd yn oed mewn ardaloedd traddodiadol glofaol megis y Rhondda. 
Roedd problem benodol o brinder dynion ym mhwll Nantgarw, gyda'r boblogaeth waith yn dewis gweithio mewn llefydd eraill. Roedd yn rhaid recriwtio'r gweithlu o ymgeiswyr newydd neu o byllau glo mewn ardaloedd eraill a oedd wedi cau. Erbyn 12 Mawrth 1954 roedd cyfanswm costau'r project wedi cynyddu i £5.25 miliwn. Roedd perthynas lafur hefyd yn peri gofid. Yn ystod 1958 roedd 65 enghraifft o ataliad, gweithio'n araf a cherdded allan o'r pwll.

Ffawd yn dirywio

Goroesodd Nantgarw'r cyfnod o gau llu o byllau glo yn y 1960au. Ym 1975, unodd gyda Phwll Glo Windsor ger Abertridwr. Erbyn 1979, roedd Pwll Glo Nantgarw / Windsor ar y cyd yn cyflogi tua 650 o ddynion, gan gynhyrchu dros 4,000 tunnell o lo bob wythnos. Yn ystod 1979-80 gwnaethpwyd elw o ychydig dros £0.5 miliwn. Er yr anawsterau datblygu, ymddangosai bod dyfodol y pwll yn weddol sicr.

Serch hynny, erbyn dechrau'r 1980au, tarwyd ffawd y pwll eto gan brinder dynion ac amgylchiadau daearegol gwael. Collodd y pwll £7miliwn ym 1981, ac ym 1982 dirywiodd yr allbwn yn sydyn wrth i wythïen lo allweddol ddod yn anweithiadwy. Blwyddyn yn ddiweddarach, arweiniodd gwaharddiad ar oramser yn uniongyrchol at streic deuddeg mis 1984-5. O fewn deunaw mis i ddiwedd y streic, caewyd mwy o byllau glo yn ne Cymru. Y tro hwn, cafodd Pwll Glo Nantgarw ei gynnwys. Daeth bron i 80 mlynedd o hanes glofaol yn Nantgarw i ben.

Gwasgarwyd gan ryfel a chwyldro

12 Mehefin 2007

Arwydd mewn glofa mewn Saesneg a Phwyleg

Arwydd mewn glofa mewn Saesneg a Phwyleg

Gweithwyr o'r Almaen mewn glofa yn ne Cymru

Gweithwyr o'r Almaen mewn glofa yn ne Cymru

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd galw mawr am lo ac felly roedd angen rhagor o lowyr. Un ffynhonnell oedd y miloedd o bobl a oedd wedi gorfod dianc o'u cartrefi yn Ewrop yn ystod y Rhyfel.

Ym mis Ionawr 1947, gwnaed cytundeb cenedlaethol rhwng Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) a'r Bwrdd Glo Gwladol (NCB) i recriwtio o blith y nifer fawr o filwyr o Wlad Pwyl a oedd wedi ymladd gyda'r Cynghreiriaid yn ystod y Rhyfel.

Fodd bynnag, nid oedd yr undebau lleol yn hapus â hyn. Erbyn diwedd Mai 1947, roedd Pwyliaid wedi cwblhau eu hyfforddiant ond nid oedd glofeydd yn fodlon eu cymryd.

Gofynnodd yr NCB i'r NUM am gymorth a chyflwynodd yr Undeb benderfyniad cryf i gynhadledd o blaid derbyn y Pwyliaid. Cafodd y rhan fwyaf ohonynt waith yn y pen draw.

Ym mis Medi 1947, lansiwyd cynllun i recriwtio pobl o wledydd eraill yn nwyrain Ewrop a oedd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi. Roedd yr undebau lleol yn gwrthwynebu'n ffyrnig y tro hwn eto ac, erbyn y gaeaf, dim ond ychydig oedd wedi dod o hyd i lofeydd oedd yn barod i'w cymryd.

Erbyn 1951, dim ond 10,000 o'r 18,000 o weithwyr tramor oedd yn dal yn y pyllau glo a lansiwyd cynllun arall i recriwtio Eidalwyr. Roedd gwrthwynebiad lleol i hynny hefyd, dim ond 400 a gafodd lefydd a daeth yr ymgyrch recriwtio i ben ym mis Ebrill 1952.

Nid oedd y sefyllfa'n ddim gwell pan geisiodd y Bwrdd Glo Gwladol recriwtio ymhlith ffoaduriaid a adawodd Hwngari yn ystod chwyldro 1956. Roedd dros 4,000 o wirfoddolwyr ond cafodd llai na thraean ohonynt waith yn y glofeydd. Aeth y lleill i ddiwydiannau eraill.

Daeth y 'gweithwyr tramor' i Gymru ar ôl blynyddoedd o galedi a pherygl. Ymhen amser, llwyddodd y rhai a gafodd waith yn y diwydiant glo i wneud enw iddynt eu hunain fel gweithwyr caled a phobl barchus. Dylai Cymru fod yn falch ohonynt a'r rhan y maent wedi'i chwarae yn ei hanes diwydiannol.