Merched Caneri Ian Smith, 6 Awst 2019 Rhyfel Ar 4 Awst 1914, goresgynnwyd Gwlad Belg gan yr Almaen. Cyhoeddodd Prydain ei bod yn mynd i ryfel. Yn ystod y penwythnos cyntaf hwnnw, aeth cant o ddynion yr awr ati i gofrestru i ymuno â’r lluoedd arfog. Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd dros bum miliwn o ddynion wedi ymuno â’r fyddin. Gyda’r holl bwyslais ar ddyletswydd ar faes y gad, roedd ffatrïoedd gwledydd Prydain yn brin o weithwyr medrus. Cafodd menywod a arferai wneud swyddi isel neu ddomestig eu recriwtio i weithio ym myd diwydiant. Er bod prinder dynion i weithio yn y ffatrïoedd, cafodd menywod eu cyhuddo o ddwyn swyddi oddi ar y rhai na allent fynd i ymladd. Roedd menywod hefyd yn weithlu rhatach gan eu bod nhw’n cael llai o gyflog am wneud yr un gwaith. Prinder Sieliau Newidiodd natur rhyfela yn aruthrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyn hynny, cefnogi milwyr fu swyddogaeth magnelaeth, ond bellach dyna oedd y prif rym dinistriol. Erbyn 1915, roedd prinder sieliau ac arfau. Cafodd senedd San Steffan ei gorfodi i fabwysiadu Polisi Arfau Gwladol, a phenodwyd David Lloyd George yn Weinidog Arfau Rhyfel. Roedd y polisi hwn yn rheoli cyflogau, oriau ac amodau gwaith mewn ffatrïoedd arfau rhyfel, a hefyd yn gorfodi ffatrïoedd i gyflogi mwy o fenywod er mwyn ateb y galw. Y ffatrïoedd arfau rhyfel oedd prif gyflogwr menywod ar y pryd, gyda thros 900,000 yn cael eu cyflogi gan y diwydiant. Er eu bod yn gwneud yr un gwaith â’r dynion, dim ond hanner y cyflog oeddent yn ei dderbyn. Erbyn mis Mehefin 1917, roedd y ffatrïoedd a gyflogai fenywod yn cynhyrchu dros 50 miliwn o sieliau’r flwyddyn, ac erbyn diwedd y rhyfel, roedd byddin Prydain wedi saethu tua 170 miliwn ohonynt. Gwaith Peryglus Wedi i’r rhyfel gael ei gyhoeddi, sylweddolodd sawl cwmni fod cyfle i gynyddu gwerthiant. Aeth cwmnïau peirianneg a chynhyrchu metelau lleol ati i sefydlu Pwyllgorau Arfau Lleol. Sefydlwyd Ffatrïoedd Sieliau Gwladol ar hyd a lled y wlad. Cafodd adeiladau cyfredol eu defnyddio gan Ffatrïoedd Sieliau Gwladol – gan gynnwys adeilad yn Grangetown, Caerdydd a ddefnyddid cyn hynny i nyddu cywarch ac edau; adeilad cwmni rheilffordd Ffestiniog ym Mhorthmadog; a ffatri Baldwins yng Nglandw ˆr, Abertawe. Roedd pob un yn cynhyrchu sieliau a phennau sieliau bach a mawr. Roedd yn waith peryglus dros ben, gyda ffrwydradau’n bosibl ar unrhyw adeg. Bu sawl achos o farwolaeth ac anafiadau difrifol. Pen-bre a’r Merched Caneri Roedd cwmni Nobels Explosives yn berchen ar hen ffatri ddynameit ym Mhen-bre ger Porth Tywyn. Cawsant ganiatâd gan y llywodraeth i agor un o’r ffatrïoedd TNT (trinitrotolwen) pwrpasol cyntaf ym 1914. Cafodd y safle ei feddiannu gan y Weinyddiaeth Arfau Rhyfel a’i ailenwi’n Ffatri Ffrwydron Gwladol Pen-bre erbyn 1917, cyn cau ar ddiwedd y rhyfel. Roedd y gwaith yn galed a pheryglus tu hwnt, a TNT yn sylwedd gwenwynig iawn. Roedd yn cynnwys asid picrig oedd yn troi crwyn y menywod oedd yn gweithio gydag ef yn felyn llachar gan roi’r llysenw ‘merched caneri’ iddyn nhw. Byddai’r menywod yn cael llaeth i’w yfed i geisio gwrthsefyll effeithiau’r cyfansoddion peryglus hyn. Gallent arwain at fethiant yr afu, anaemia a niwed i'r system imiwnedd. Bu farw tua 400 o fenywod yn sgil dod i gysylltiad â gormod o TNT yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Pêl-droed y Munitionettes Dechreuodd menywod gymryd rhan mewn campau fel pêl-droed a chriced yn ystod y rhyfel hefyd. Sefydlwyd timau pêl-droed mewn ffatrïoedd arfau ar hyd a lled Prydain. Roedd y llywodraeth yn annog menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon er lles eu hiechyd ac i’w helpu i gadw’n heini er mwyn gweithio yn y ffatrïoedd. Roedd gogledd-ddwyrain Lloegr yn un o'r prif ganolfannau pêl-droed i ferched. Roedd tîm Blythe Spartans Ladies FC yn ddiguro, a sgoriodd eu hymosodwr, Bella Raey, 33 o goliau mewn un tymor. Cystadlodd 30 o dimau am y Munitionettes’ Cup ym 1918. Roedd y gamp mor boblogaidd nes bod timau wedi’u sefydlu yn y rhan fwyaf o drefi’r ffatrïoedd hyn erbyn diwedd y rhyfel. Heidiodd tua 53,000 o bobl i Barc Goodison ar ddydd San Steffan 1920, i wylio gêm rhwng St Helens Ladies a Dick, Kerr Ladies. Pan ddaeth y dynion nôl adref o’r ffrynt, caeodd y ffatrïoedd arfau rhyfel a chwalodd timau’r menywod. Ym 1921, cafodd menywod eu gwahardd rhag chwarae ar unrhyw un o gaeau'r FA, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, er bod eu gemau nhw lawn mor boblogaidd â phêl-droed i ddynion. Gyda’r dynion yn dychwelyd i fyd y bêl gron, doedd dim croeso mwyach i fenywod chwarae. Roedd rhaid aros tan 1971 cyn i’r Gymdeithas ildio a chaniatáu i fenywod chwarae ar eu meysydd unwaith eto. Tîm pêl-droed Llanelli Ladies FC, 1921. Cydraddoldeb Ym 1915, lluniodd Pwyllgor Gweithwyr Rhyfel y Menywod restr o hawliau yr oeddent am eu cael, gan gynnwys yr hawl i hyfforddiant, aelodaeth o undeb llafur a chyflog cyfartal am waith cyfartal. Roedd menywod oedd mewn swyddi a arferai gael eu gwneud gan ddynion yn cael llawer llai o gyflog, ac yn flin iawn am hynny wrth reswm. Roedd dynion yn poeni hefyd y byddai’r menywod yn parhau i wneud y gwaith hwn ar ôl diwedd y rhyfel, ac y byddai pawb yn derbyn cyflogau is. Ym 1918, cynhaliwyd y streic gyntaf dros gyflog cyfartal yn y Deyrnas Unedig gan fenywod oedd yn gweithio ar fysiau a thramiau Llundain. Roedd y streic yn llwyddiannus, a bu’n rhaid i’r llywodraeth ystyried a ddylai’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fod yn berthnasol i bob maes ym myd diwydiant. Aeth y Cabinet Rhyfel ati i sefydlu pwyllgor ym 1917 i ystyried cydraddoldeb yn y gweithle. Ni chyhoeddwyd yr adroddiad tan 1919. Daeth i gasgliad nad oedd unrhyw wahaniaeth rhwng lefelau cynhyrchiant nag ansawdd gwaith dynion a menywod. Ond parhau wnaeth y syniad fod menywod yn llai abl na dynion. Ffrwydrad ym Mhen-bre Pan ddaeth y rhyfel i ben, defnyddiwyd ffatri arfau Pen-bre, Sir Gaerfyrddin, i ddatgymalu sieliau yn hytrach na’u cynhyrchu. Ar 18 Tachwedd 1918, lladdwyd Mary Fitzmaurice (36 oed), Jane Jenkins (21 oed) ac Edith Ellen Copham (19 oed) mewn ffrwydrad. Anafwyd dwy arall hefyd Ar noson y ddamwain angheuol, roedd y menywod yn trin math gwahanol o siel na’r arfer. Cafodd Jane ei lladd gan y ffrwydrad yn syth. Bu farw Mary ac Edith yn yr ysbyty’r noson honno. Merched o Abertawe oedden nhw i gyd, a chafodd Edith a Mary eu claddu ym mynwent Dan-y-graig yn nwyrain y dref. Bu gorymdaith angladdol enfawr o’r Stryd Fawr gyda band pres yn ei harwain a 500 o ferched y ffatri yn dilyn, oll yn eu lifrai gwaith. Cafwyd teyrnged yn y South Wales Weekly Post, ‘[the women] had died as surely in the service of their country as any on the battlefield’ a nodwyd bod y dorf wedi saliwtio wrth i’r hers basio. Cafodd miliwn a mwy o sieliau eu datgymalu ym Mhen-bre heb unrhyw ddamweiniau pellach. Angladd gweithiwr arfau rhyfel yn Abertawe.
Eisteddfod Genedlaethol 2019 - Pwrcasiad Amgueddfa Cymru Andrew Renton, 6 Awst 2019 Blancedi Argyfwng Cymreig gan Daniel TrivedyTrist yw gweld trafodaeth wleidyddol a chyhoeddus heddiw yn troi fwyfwy yn senoffobia, atgasedd at ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyda sêl bendith llywodraethau, cenedlaetholdeb mewnblyg a hiliaeth agored. Yn y cyd-destun hwn, gellir gweld gwaith Daniel Trivedy fel gwrthsafiad calonogol. Mae'n dangos Cymru fel cenedl groesawgar, drugarog, gynhwysol a gwlad sydd â nod o ddod yn 'Genedl Noddfa', y gyntaf yn dilyn lansio Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2019.Braint Amgueddfa Cymru felly yw dewis Blancedi Argyfwng Cymreig Daniel fel pwrcasiad blynyddol cyntaf y sefydliad o'r Eisteddfod Genedlaethol. Blancedi argyfwng gyda gorchudd ffoil PET arian ac aur yw'r rhain. Mae'r blancedi'n rhan gyfarwydd o'r golygfeydd o driniaeth annynol mewnfudwyr o Fecsico ar ffin UDA, neu'r mewnfudwyr i Ewrop a achubwyd wrth groesi Môr y Canoldir. Ond rhoddwyd naws groesawgar unigryw a Chymreig i'r rhain drwy brintio dros yr ochr aur (sy'n cadw gwres) batrymau blancedi gwlân traddodiadol Cymreig – esiampl wych o gyfuno'r lleol a'r rhyngwladol.Mae Daniel yn deall fod gan ddeunyddiau iaith, a bod gan ddefnyddiau penodol gysylltiadau sy'n ennyn ymateb penodol. Ei nod yw dangos i ni beth all ddigwydd o uno'r gwahanol elfennau. 'Ydyn nhw'n gwrthdaro a chroestynnu, neu'n cydorwedd mewn tawelwch anghysurus? Ydyn nhw'n uno ac asio, yn siarad â'i gilydd, neu'n esgor ar ffurf newydd hyd yn oed?'Ar y naill llaw, dyluniwyd y flanced argyfwng i'w masgynhyrchu yn rhad ac effeithiol, a fawr mwy na hynny. I nifer ohonom, mae'n dwyn i gof boen a dioddefaint ymfudwyr mewn amodau erchyll ar y môr neu mewn gwersylloedd ffoaduriaid. Mae'n perthyn i 'rywle arall' a 'phobol eraill', fel dywed Daniel.Ar y llaw arall, mae'r flanced wlân Gymreig yn cyfleu cynhesrwydd, traddodiad ac atgof, diogelwch a chysur. Beth sy'n digwydd wrth ddod â'r ddwy nodwedd ynghyd? Dwi'n credu ei bod hi'n neges galonogol. Rydyn ni'n sylweddoli ein bod 'ni' ac 'eraill' yr un fath. Fe allwn ac fe ddylem ni feddwl a gweithredu yn lleol ac yn rhyngwladol ar yr un pryd. Fe allwn ac fe ddylem ni ddefnyddio ein traddodiadau, nid i'n cau rhag eraill, ond i ddod at ein gilydd i gefnogi'n gilydd.Ganwyd Daniel Trivedy ym 1975 ac mae o dras Indiaidd. Cafodd ei fagu yn ne-ddwyrain Lloegr ac mae bellach yn gweithio yn Abertawe. Yn ogystal â gweithio fel artist, mae'n darlithio yng Ngholeg Sir Gâr, Caerfyrddin, ac yn Swyddog Rhanbarthol Cyngor Celfyddydau Cymru, Caerfyrddin. Wedi ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Daeareg a Phalaeontoleg yn Imperial College, Llundain (1993-1996), yn ddiweddarach astudiodd Gelfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe (2010-2013). Andrew Renton, Ceidwad Celf http://www.danieltrivedy.com/welsh-emergency-blankets.html
Being Part of the Snake Care Team Pip Diment, 5 Awst 2019 Hi all, I’m Pip Diment from the Exhibitions team, and I'm one of a group of staff volunteering to care for the six live snakes we are housing as part of the 'Snakes’ exhibition at National Museum Cardiff.Our exhibition is now open and runs to 15 September 2019. I was part of the team who cared for the snakes for the second two weeks of the exhibition run. We were trained by Guy Tansley from Bugsnstuff and he showed a group of us volunteers how to check on the snakes safely and provide basic care. We are not required to feed the snakes – we have Dr Rhys Jones generously helping us with that. Our tasks are to change the water daily, remove any poo, ureic acid crystals (wee!) and calcium plugs, also to remove any shed skin and to check the snakes are not too cold or hot and that they are ok. These checks are all done daily by a team of two or three volunteers. On my first day volunteering I worked with Melissa Hinkin (from Artes Mundi, who is a snake enthusiast) and Vic le Poidevin (from our Events team). There was great excitement the first morning as Prestwick, the Jungle Carpet Python had shed her skin and had an enormous poo! She’s a fairly large snake so it shouldn’t have been a surprise, but it was huge! Like a large dogs! The skin itself came off in two parts and is now being used as part of the handling collections (not too much handling as it is fragile!). Underneath all that shed skin Prestwick has now emerged even more beautiful with her skin a stunning irridescent effect. And this was still only day one.On day two I worked with Christian Baars (from Conservation) and Robin Maggs (from Photography). Once again, much excitement as Keith, the Royal Python, shed his skin overnight. Much smaller poo – smaller snake, so made sense! He also looked much more beautiful after shedding his skin.Days three and four were not as eventful – only water changing and general checks required. Everyone seems very healthy and happy, and we are following their care instructions meticulously to ensure they stay that way. I admit I have an unhealthy interest in snake poo – and for the end of my first week we’ve had another poo! This time, again, from Keith. I am not the only one now excited by snake poos – see Robin and Christian admiring Keith’s offering (look closely it has substrate on it which makes it looks like it has eyes!)I’m so glad I agreed to volunteer. I’ve held snakes before, but never spent so much time with them. I love that they all have great names and their own characters: Thanks for reading. You can read some of our other snake blogs here, here and here.The exhibition runs till 15 September 2019, entry charges do apply, and all your contributions go towards bringing you even bigger and better exhibitions in the future.Please note that there is no live handling of the snakes within the exhibition. In August we’ll be having snake handling sessions for the public – see here for details of booking.Also, make sure you come and visit us this saturday (10 August) for our Venom Open Day!
Time to chill Christian Baars, 2 Awst 2019 One of the best reasons for housing heritage collections inside buildings is that the building keeps the weather out. Paintings, fossils, books and skeletons are best kept dry, and walls and roofs protect our collections (as well as staff and visitors) from the elements.In addition, many of the objects in our collections also need specific temperature and humidity ranges to prevent them from suffering damage. Too high a humidity can cause swelling of wood, for example, initiating cracks in objects, or, if humidity gets even higher, mould growth. Therefore, National Museum Cardiff has a complicated air conditioning system. This system is more than 40 years old and has been maintenance-intensive and inefficient for some time.We are happy to report that, after several years of planning, we have just completed the installation of new chillers and humidifiers at National Museum Cardiff. The purpose of chillers in the museum is to provide cold water – for lowering the temperature of galleries and stores in the summer, and for dehumidifying stores and galleries if there is too much moisture in the air. Humidifiers achieve the opposite effect: they increase humidity in stores and galleries if it is too low. Low humidity is usually a problem during the winter months – you may have experienced your skin drying out at home when you have the heating on in winter. To prevent our collections drying out we cannot apply skin cream; instead, we maintain a minimum level of humidity in stores and galleries.The chillers and humidifiers have been commissioned now, and are working well. They have already proved that the control of our indoor environments is better than it was before. A very positive side effect of the new technologies is that they are much more efficient than the old equipment. In fact, they are so efficient that we are anticipating to shave almost 50% off our annual electricity bill for National Museum Cardiff, saving the planet more than 500 tonnes of carbon dioxide every year. That is the equivalent of taking 100 cars off the road, or the average energy a family home uses in 38 years.By investing in such new technologies, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales continues to ensure the safe storage and display of the nation’s heritage collections, whilst at the same time making a massive contribution towards the National Assembly’s commitment to reduce carbon emissions by 80% by 2050 (Environment Wales Act 2016).Find out more about Care of Collections at Amgueddfa Cymru - National Museum Wales here and follow us on Twitter. Follow the progress of the maintenance works during the coming months in 2019 on Twitter using the hashtag #museumcare.
VOLUNTEER BLOG: The Dutch Garden at St Fagans Luciana Skidmore, Garden Trainee & Volunteer , 31 Gorffennaf 2019 If you stroll through St Fagans National Museum of History in August you will be exposed to an exuberant display of color, texture and fragrance at the Dutch Garden. Located at the parterre next to the Castle, this is one of the most beautiful historic gardens in Wales!As you walk through the symmetrical paths you will find a variety of grasses such as the impressive gold Stipa gigantea, the bright green Sesleria autumnalis and the graceful Sporobulous heterolepis surrounding the Cherub statues. These all add texture and the dreamlike feel to the garden. There is also plenty of colour in a palette of purple, blue and red from flowers contrasted with the gold and bright green of grasses. You will notice the Verbena bonariensis with tall stems and clusters of purple miniature flowers, the vigorous blue Geranium Rosanne and the Helenium Moerheim Beauty with dark orange red flowers amongst a variety of Sedums and other cultivars.I suggest that you visit this magnificent garden through different seasons of the year as it goes through a magical transformation.This garden has changed a lot over the years. The most recent design was created by our talented Deputy Head Gardener Ceri Goring and maintained by a team of gifted gardeners and volunteers. This sustainable and drought tolerant garden has been carefully planned to withstand dry summer months, saving not only water but also the gardener’s hosing time.If you walk around the fountain on a warm summer day your senses will be awakened by the fragrance of the lavender hedges, the buzzing of the pollinating bees, the tranquil sound of the cascading water and the impressive visual display of one of the most beautiful gardens in Wales.