Baledwyr Crwydrol Cymru 23 Ebrill 2007 Bertie Stephens Bertie Stephens, baledwr o Sir Gâr (1900-1978) Roedd baledwyr crwydrol yn ddiddanwyr pwysig yng Nghymru cyn dyddiau'r neuaddau cerdd a'r sinema. 'Y Baledwr Pen Ffair 'Rwy'n cofio ers dyddiau am hen gymeriadau Yn canu baledi mewn marchnad a ffair, Hwy ganent mor ddoniol, mewn gair mor gartrefol, Nes twyllo o'r bobl eu harian a'u haur...' Dafydd Jones ('Isfoel'), 1881-1968 Y 19eg ganrif oedd oes aur y baledwyr yng Nghymru, pan gafodd digonedd o ganeuon eu cyfansoddi a'u perfformio mewn ffeiriau, marchnadoedd a thafardai. Mae nifer fawr o'r bobl a recordiwyd ar gyfer y cannoedd o dapiau yn archif sain yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan yn cyfeirio at y baledwyr crwydrol yma. Bertie Stephens oedd un o'r rhain. Cafodd ei eni i deulu fferm yn Abergorlech, Sir Gâr ym 1900. Daeth dan ddylanwad y baledwyr, a recordiodd rhyw 80 o ganeuon difrifol a digri ar gyfer yr Amgueddfa, yn Gymraeg yn bennaf. Clywodd y rhan fwyaf o'r caneuon mewn ffeiriau lleol fel bachgen ifanc. Ond gyda'i gof syfrdanol, byddai'n aml yn cofio'n union pwy ganodd pob cân, a ble. Dechreuodd Bertie Stephens fynd i'r ffeiriau'n bump neu'n chwech oed. Crwydriaid fyddai'n canu'r rhan fwyaf o'r caneuon hyn wrth gasglu arian o'r dyrfa yn eu hetiau. Cafodd eu baledi'r fath argraff ar Bertie ifanc nes iddo eu dysgu nhw ar gof yn y fan a'r lle. Diddanu oedd nod y baledwyr, felly câi'r baledi eu canu mewn iaith syml a phlaen. Roedd y rhan fwyaf yn adrodd stori am achlysur neu brofiad arbennig. Doedd dim papurau newydd dyddio ar gaell, a doedd rhan helaeth o'r genhedlaeth hŷn ddim yn gallu darllen ar droad yr 20fed ganrif ta beth, felly roedd llawer o bobl yn dibynnu ar y baledwyr i glywed y newyddion diweddaraf. Roedd y geiriau'n hollbwysig felly am mai stori ar ffurf cân oedd y cyfansoddiad yn ei hanfod. Daliodd Bertie Stephens ati i ganu yn ei henaint, ac ym 1973, dywedodd: 'Galla'i garantïo i chi nag oes dim awr y dydd yn mynd heibio nag ŵyn canu, dim hanner awr hefyd. Pob dydd.' Hen Feible Annwyl Mam Hen Feibl Annwyl Mam Pan aeth Roy Saer, cyn-guradur yr Amgueddfa, i gyfweld ag ef, roedd Bertie Stephens yn cofio caneuon o'i blentyndod yn glir. Ei ffefrynnau oedd y caneuon crefyddol am ei fod yn teimlo bod mwy o sylwedd iddyn nhw na'r caneuon digri. Gallai caneuon fel Beibl Mam afael mewn perfformiwr, a phwysleisiodd ei bod hi'n hanfodol rhoi'ch cymeriad i gyd i mewn i bob cân. Clywodd ddyn mewn dillad anniben â Beibl dan ei gesail yn canu cân arall am y Beibl, Hen Feibl Mawr y Teulu, ar daith i'r Mwmbwls. Fel un o deulu crefyddol, tristaodd Bertie Stephens o weld y canwr yn defnyddio'r Beibl i godi arian i brynu cwrw. Roedd pobl yn gallu bod yn amheus o'r baledwyr a byddai'r heddlu'n aml yn arestio crwydraid meddw mewn dillad anniben am darfu ar yr heddwch. Dywedodd Bertie Stephens hanes am ei deulu'n rhoi bwyd a lloches i ddau grwydryn un noson, a dysgodd y ddau Gân yr Asyn iddo'n ddiolch. Er mawr siom i dad Bertie, canfu wythnosau wedyn eu bod nhw wedi dwyn peth o'i wlân newydd ei gneifio. Diolch i berfformiad ei fab o Gân yr Asyn, llwyddodd yr heddlu i ddal y dihirod ger Caerfyrddin pan glywsant y ddau'n canu'r un faled yn yr ardal honno. Wrth i'r diwydiant diddanu dyfu ac wrth i bethau fel y sinema a'r neuaddau cerdd ddod yn fwy poblogaidd, collodd y baledwyr eu hapêl, ac erbyn dechrau'r 20fed ganrif, roedden nhw wedi diflannu bron yn llwyr. Wrth i'r cyngherddau ffurfiol ddod yn boblogaidd, symudodd yr hen faledi dan do, a'u daethon nhw'n lanach ac yn fwy parchus. Yn ffodus ddigon, daeth dirywiad y baledi'r ffair a'r stryd yr un pryd â diddordeb newydd mewn casglu alawon a gwybodaeth am y grefft, a ffurfiwyd Cymdeithas Ganeuon Gwerin Cymru ym 1908. Nid oes unrhyw amheuaeth am werth baledi fel sylwebaeth gymdeithasol bwysig, ac mae ein gwybodaeth am y cyfansoddiadau hanesyddol hyn llawer cyfoethocach diolch i unigolion fel Bertie Stephens. Darllen Cefndir Ballads in Wales / Baledi yng Nghymru gan Mary-Ann Constantine. Cyhoeddwyd gan FLS Books (1999). I Fyd y Faled gan Dafydd Owen. Cyhoeddwyd gan Gwasg Gee, (1986).
Medal Albert a enillwyd yng Nghaerdydd 1919 23 Ebrill 2007 Walter Cleall, enillydd Medal Albert. Hawlfraint y llun Kenneth Williams. Medal Albert (wyneb). Y Gwesty Brenhinol, Caerdydd (tynnwyd y llun yn 2003). Ym 1919 enillodd Walter Cleall Fedal Albert am ddewrder am achub bywyd Winnie Jones o dŷn yn y Gwesty Brenhinol, Caerdydd. Yn ystod prynhawn 11 Awst 1919, cafodd Winnie Jones, morwyn ystafell nad oedd ar ddyletswydd ar y pryd, ei hun yn gaeth yn ei hystafell ar 6ed llawr y Gwesty Brenhinol oedd ar dân. Ni allai ysgolion y Frigad Dân ei chyrraedd. Roedd torf wedi ymgynnull a rhedodd dau ŵr - Tom Hill a Walter Cleall - i mewn i'r gwesty i geisio ei hachub. Rywsut neu'i gilydd, llwyddodd Cleall i gyrraedd y 6ed llawr, ond er mwyn cyrraedd y ferch bu'n rhaid iddo dorri ffenest a throedio ar hyd parapet cul bron i 30m (100 troedfedd) uwchlaw Stryd Wood. Cariodd y ferch nôl yr un ffordd ac wrth i'r ddau ymadael â'r ystafell, dymchwelodd y to. Aed â'r ferch a'i hachubwr yn anymwybodol i'r ysbyty. Bu bargyfreithiwr o Lundain, oedd yn digwydd bod yng Nghaerdydd y diwrnod hwnnw, yn dyst i'r digwyddiad. Yn ddi-oed, ysgrifennodd at yr Ysgrifennydd Cartref (bargyfreithiwr arall) ac ymhen deudydd roedd y Swyddfa Gartref yn archwilio p'un ai a ddylid gwobrwyo dewrder Cleall. Y mis Mawrth dilynol, arwisgwyd Cleall â Medal Albert gan y Brenin, prif wobrwy dewrder sifil Prydain bryd hynny. Dyfarnwyd Medal Albert am y tro cyntaf ym 1866 am ddewrder wrth achub bywyd ar y môr. Ym 1877, cafodd yr amodau eu hymestyn i gynnwys digwyddiadau ar y tir, yn dilyn achubiaeth ddramatig pump o lowyr a fu'n gaeth dan ddaear dros gyfnod o naw diwrnod yng nglofa Tynewydd yng Nghwm Rhondda. Mewn dim o dro, câi'r medal ei galw yn 'Groes Victoria Sifil'. Pan grëwyd Croes Siôr ym 1940, nid oedd angen Medal Albert mwyach, ac eithrio ar gyfer ambell wobrwy ar ôl marwolaeth, ac ym 1971 fe'i diddymwyd. Gwahoddwyd ei deiliaid a oedd ar dir y byw i'w chyfnewid am Groes Siôr. Roedd Walter Cleall yn un o bump a ddewisodd gyflwyno eu medalau gwreiddiol i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Darllen Cefndir For Those in Peril, gan Edward Besly. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2004).
More in Minneapolis and St Paul Chris Owen, 20 Ebrill 2007 Yesterday we visited a couple of great museums in the metro area. First we went to the Minneapolis Institute of Arts (MIA). We had a very insightful meeting with Willy Lee, the webmaster at MIA. He told us some of the great ideas he has to incorporate social networking into MIA's website. Things like user tagging, which allows the users to tag objects to help with searches. They are ahead of us in getting their collections online, but they don't have as complicated a database structure as we do at National Museum Wales. The MIA is well worth a visit - online for their resources, and physically for the incredible artworks they have in their collections. We also took the time to cram in a visit to the Science Museum of Minnesota in St Paul, which was a mix of Techniquest and the Science Museum (UK). They had a lot of fun interactives that kept Chris and I occupied for hours, using various technologies from video streams to PCs and microscopes! They also had some very nice high resolution screens, which gave me some digital signage ideas. I hope I can get in touch with one of their staff, as I'd be interested to see what kind of resources they have to support their extensive interactive setup.
Caerdydd, Metropolis Glo a Llongau 18 Ebrill 2007 Caerdydd: y porthladd cynddiwydiannol. Dwy slŵp ar lannau afon Taf, fel y'u portreadwyd gan Paul Sandby yn 1776. Caerdydd: y porthladd diwydiannol. Awyrlun yn dangos y dociau gorffenedig yn eu cyfanrwydd tua 1948. Un o longau cargo nodweddiadol Caerdydd - SS Pontwen, a adeiladwyd yn 1914. Cyfnod y dirwasgiad. Llongau segur yn nociau Caerdydd tua 1930. Caerdydd: y porthladd wedi'i drawsffurfio. Bellach, saif datblygiadau adwerthol modern yn y man lle yr arferai glo gael ei allforio i bedwar ban byd. Ail Ardalydd Bute Yn 1862, allforiwyd 2,000,000 o dunelli metrig o lo o Ddociau Caerdydd ; erbyn 1913 roedd y cyfanswm hwn wedi codi i 10,700,000 tunnell fetrig. Y cyfnod hwn oedd yr oes aur cyn dirwasgiad y 1930au. Caerdydd, heb os, oedd tref ffyniannus Prydain ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd. Am ychydig flynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y tunelli o gargo a drafodwyd yn y porthladd yn drech na thunelledd Llundain neu Lerpwl. Eto i gyd, ddiwedd y ddeunawfed ganrif, roedd '...two sloops trading to Bristol on alternate days' yn ddigon i drafod masnach Caerdydd! Beth fu'n gyfrifol am y trawsnewidiad hwn? Twf y diwydiant haearn ym mlaenau cymoedd de Cymru fu'r sbardun gwreiddiol i ddatblygiad Caerdydd fel porthladd. Yn 1794, cwblhawyd Camlas Morgannwg a gysylltai Caerdydd â Merthyr, ac yn 1798 adeiladwyd basn yn cysylltu'r gamlas â'r môr. Bu'r galw cynyddol am gyfleusterau doc priodol yn fodd i ddarbwyllo ail Ardalydd Bute, tirfeddiannwr mwyaf blaenllaw Caerdydd, i hyrwyddo'r gwaith o adeiladu Doc West Bute, a agorwyd ym mis Hydref 1839. Prin ddwy flynedd yn ddiweddarach, agorwyd Rheilffordd Dyffryn Taf . Glo ddisodli haearn O'r 1850au ymlaen, dechreuodd glo ddisodli haearn fel sylfaen diwydiannol de Cymru, pan ddechreuwyd cloddio gwythiennau dwfn Cwm Rhondda a Chwm Cynon. Ymhen dim o dro, glo rhydd de Cymru fyddai i gyflenwadau egni'r byd yr hyn yw olew heddiw, ac mor gynnar â 1862 câi 2 filiwn o dunelli metrig ei allforio. Agorwyd doc ychwanegol, yr East Bute, yn 1859, ond yn dilyn marwolaeth yr ail Ardalydd yn 1848 roedd ymddiriedolwyr Stad Bute yn orofalus ac yn gyndyn i fuddsoddi mewn cyfleusterau doc newydd. Arweiniodd y rhwystredigaeth yn sgil y diffyg datblygu yng Nghaerdydd at agoriad dociau cystadleuol ym Mhenarth yn 1865 a'r Barri yn 1889. Yn y pen draw, bu'r datblygiadau hyn yn gymhelliad i Gaerdydd weithredu a gwelwyd agor Doc y Rhath yn 1887, a Doc y Frenhines Alexandra yn 1907. Erbyn hynny, câi oddeutu 9 miliwn o dunelli metrig o lo y flwyddyn ei allforio, llawer ohono yn howldiau llongau cargo a oedd yn eiddo i berchnogion lleol. Cargoau o lo Llong ager gyntaf Caerdydd oedd y llong fach Llandaff a adeiladwyd yn 1865, a hon oedd y gyntaf o fflyd o longau ager a dyfodd yn gyflym ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn 1910, roedd tua 250 o longau cargo a oedd yn eiddo i gwmnïau adnabyddus megis Cory, Morel, Radcliffe, Tatem a Reardon Smith, oll o Gaerdydd. Bob dydd, arferai penaethiaid y cwmnïau hyn gwrdd yn y Gyfnewidfa Lo ysblennydd yn Sgwâr Mount Stuart er mwyn trefnu cargoau o lo ar gyfer eu llongau. Roedd y fasnach hon yn ei hanterth yn 1913, pan allforiwyd 10.7 miliwn o dunelli metrig o lo o'r porthladd. Rhyfel Byd Cyntaf Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd bri mawr ar y fasnach longau yng Nghaerdydd, ac yn 1920 roedd 122 o gwmnïau llongau mewn bod. Fodd bynnag, byrhoedlog fu'r cyfnod ffyniannus; roedd pwysigrwydd olew fel tanwydd llongau ar gynnydd ac ymhen dim o dro sicrhaodd telerau Cytundeb Versailles fod digonedd o lo iawn rhad yr Almaen ar gael ledled Ewrop. Erbyn 1932, pan oedd y dirwasgiad yn ei anterth, câi llai na 5 miliwn o dunelli metrig o lo ei allforio ac roedd dwsinau o longau a oedd yn eiddo i berchnogion lleol yn segur. Mewn gwirionedd, ni lwyddodd Caerdydd i ailgodi ar ei thraed wedi'r cyfnod o ddirwasgiad ac, er gwaethaf prysurdeb mawr y porthladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gostwng fu hanes yr allforion glo, masnach a ddaeth i ben yn gyfan gwbl yn 1964. Porthladd Caerdydd heddiw Heddiw, mae pryd a gwedd porthladd Caerdydd yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd ganrif yn ôl. Trawsffurfiwyd y glannau yn gyfan gwbl gan yr argae sy'n cronni afonydd Taf ac El'i, gan greu llyn dŵr croyw mawr. Bellach, saif fflatiau drudfawr lle yr arferai craeniau glo sefyll, a disodlwyd tafarnau garw'r gymdeithas forwrol gan fistros parchus. Dau ddoc yn unig, y Rhath a'r Frenhines Alexandra, a gaiff eu defnyddio, ac er eu bod yn ffynnu - diolch i'w diddordebau byd-eang - dim ond dau gwmni llongau sydd ar ôl. Hyd heddiw, mae rhywfaint o fasnach mewn coed, olew, sgrap a chynwysyddion, ond mae'r dyddiau pan oedd y porthladd yn llawn llongau cargo dan orchudd o lwch glo wrth iddynt lwytho'r 'diemyntau du' a ddeuai o gymoedd de Cymru, wedi hen fynd heibio. Darllen Cefndir Cardiff and the Marquesses of Bute, gan John Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (1981). Cardiff Shipowners, gan J. Geraint Jenkins a David Jenkins. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (1986). Coal Metropolis: Cardiff, 1970-1914, gan Martin Daunton. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caerlŷr (1977).