Walker Art Center, Minneapolis Chris Owen, 18 Ebrill 2007 We had a very successful day today. We met up with Nate and Brent from the Walker Art Center in Minneapolis. It's good to meet with people similar to us - they have built most of their interactive installations and web projects in house. Many museums and galleries in the USA outsource much of their work, at least that's the impression I got from the Museums and the Web conference.The Walker Arts team have gained a reputation for blogging, as they were one of the early adopters of the format. It was a learning curve for them - they intended to roll it out across departments, but before they could do that they needed to understand the software better. And what better way than to use it?It turned out that their New Media Initiatives blog is the second most popular blog on the Walker Arts website. It seems that this is due to peers being extremely interested in what the team were developing. Which is how I found out about their work, and I ended up visiting the center. And I live about 3900 miles away.We spoke at length about our respective organisations' websites. There were some things that both Chris and I liked about their system. We also got to look behind the scenes at some audio-visual installations, and I ended up taking photos of their racks! Chris or I might post more technical details of how we compared in time.Nate has sorted a meeting out for us in the Minneapolis Institute of Arts tomorrow, and we'll hopefully visit the Science Museum of Minnesota if we have time.
Clawdd pileri llechi Thomas Williams yn Bisham 18 Ebrill 2007 Y clawdd pileri llechi yn Bisham (Windsor a Maidenhead). Mae tua 150m (164 llath) o'r clawdd hwn wedi goroesi, er bod trigolion lleol yn cofio'r adeg pan oedd yn hwy o lawer. At ei gilydd, mae pileri'r clawdd yn Bisham yn codi tua 180cm (5.9 troedfedd) uwchlaw'r ddaear ac mae'n rhaid bod oddeutu 40cm (1.3 troedfedd) yn ychwanegol o dan y ddaear. Mae pob piler tua 20cm (7.9 modfedd) o led a 3.5cm (1.4 modfedd) o drwch. Beth a barodd i glawdd pileri llechi gael ei godi yn nyffryn Tafwys, 300km o chwareli llechi gogledd-orllewin Cymru? Daeth cloddiau pileri llechi yn gyffredin yng ngogledd-orllewin Cymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Yn 1861, er enghraifft, cynhyrchai Chwarel y Penrhyn, Bethesda (Gwynedd) - un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd bryd hynny - tua 9,000 o bileri unigol. Roedd y pileri hyn ar ffurf darnau unionsyth o lechfaen glas o ansawdd gwael, pob un, fel arfer, tua 150cm (4.9 troedfedd) o uchder. Mor gynnar â 1798, sylwodd y Parchedig W. Bingley, ar stad yr Arglwydd Penrhyn, y câi'r darnau eu gyrru: "into the ground about a foot distant from each other, and interwoven near the top with briars, or any kind of flexible branches to hold them together." Caent eu defnyddio o amgylch caeau a gerddi ac o boptu rheilffyrdd a ffyrdd, ac roedd eu gwneuthuriad syml yn dra chyfaddas ar gyfer y tywydd garw sy'n nodweddu'r ucheldiroedd. Er eu bod i'w canfod yng nghyffiniau chwareli llechi Cymru, mae cloddiau pileri llechi yn brin iawn y tu hwnt i'r ardaloedd chwarelyddol. Felly, mae'r clawdd pileri llechi a ganfuwyd yn ddiweddar gerllaw Temple House (wedi'i ddymchwel bellach) yn Bisham (Windsor a Maidenhead), yn anarferol iawn. Gwyddys i sicrwydd ar sail y lliw glasborffor y cloddiwyd y llechfaen yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn Chwarel y Penrhyn yn ôl pob tebyg. Cwyd y cwestiwn, felly, beth a barodd i glawdd pileri llechi gael ei godi bron 300km (186 milltir) o ffynhonnell y garreg? Mae a wnelo'r ateb â chyn berchnogion Temple House. Adeiladwyd Temple House tua 1790 ar gyfer Thomas Williams, perchennog gwaith copr Temple Mill gerllaw. Cyfreithiwr o ogledd Cymru oedd Thomas Williams (1737-1802) a ddaeth yn ŵr blaenllaw yn niwydiant copr Prydain. Cyflogodd Williams y pensaer, Samuel Wyatt, i ddatblygu Temple Mills, ac mae'n debyg mai i Samuel hefyd yr ymddiriedwyd y dasg o godi Temple House. Roedd gan Samuel Wyatt gysylltiadau agos â pherchnogion Chwarel y Penrhyn. Yn 1782 adnewyddodd ef adeilad ar ran Richard Pennant (yr Arglwydd Penrhyn yn ddiweddarach), ac yn 1786 penodwyd ei frawd, Benjamin II, yn brif reolwr stad y Penrhyn. Sicrhaodd y berthynas hon gyflenwad cyson o lechi i Samuel ar gyfer ei weithgareddau masnachol ei hun. Talodd Samuel y gymwynas yn ei hôl drwy hyrwyddo'r defnydd o lechfaen yn ardal Llundain, gan ei ddefnyddio at ddibenion silffoedd, tanciau dŵr, seddau tai bach, siliau ffenestri ac ar gyfer wynebu muriau, yn ogystal â deunydd toi. Os cafodd pileri llechi Temple House eu cyflenwi gan Samuel Wyatt, gellid bod wedi'u cludo i Bisham heb fawr o drafferth. Hyd yn oed cyn adeiladu tramffordd o Chwarel y Penrhyn i'r cei ym Mangor (Port Penrhyn) yn 1801, roedd rhwydwaith effeithiol o ffyrdd eisoes yn cysylltu'r chwarel â'r porthladd. O'r cei, roedd fflyd o longau yn cludo llechi o amgylch arfordir yr Ynysoedd Prydeinig. Roedd gan deulu Wyatt fuddsoddiadau mewn nifer o'r llongau hyn. O Lundain, gellid cludo llwythi o lechi ar fadau a hwyliai i fyny afon Tafwys. Felly, mae llawer o dystiolaeth amgylchiadol yn cysylltu clawdd pileri llechi Bisham â Samuel Wyatt a Chwarel y Penrhyn, ac yn awgrymu y cafodd y clawdd ei godi tua 1790. Ond mae un wedd ar y modd y cafodd y pileri eu trin yn bwrw amheuaeth ar hyn. Mae'n amlwg y torrwyd rhai o'r pileri cynhaliol mwyaf â llif gron - techneg na chafodd ei defnyddio cyn 1805, yn sicr, ac a ddaeth yn gyffredin dim ond wedi 1840. Un awgrym sy'n cyfuno'r naill ddarn o dystiolaeth a'r llall yw'r posibilrwydd y cafodd y clawdd gwreiddiol ei godi tua 1790, ond iddo ddirywio wrth ymsuddo ym mhridd llifwaddod meddal ardal Bisham. Y canlyniad posibl oedd archebu ail lwyth o lechi Cymru tua 1840 er mwyn trwsio'r clawdd. Mae'n ymddangos yn rhesymol, felly, i ddod i'r casgliad fod y clawdd gerllaw Temple House yn dyst i'r cysylltiadau rhwng dau o ddiwydianwyr mawr Cymru, y meistr copr Thomas Williams a Richard Pennant o Chwarel y Penrhyn, drwy'r pensaer Samuel Wyatt. Rhannai'r ddau dreftadaeth gyffredin ac, felly, onid oedd yn gwbl naturiol i Thomas Williams a'i bensaer arddangos potensial llechi Cymru gerllaw ei waith copr yn Temple Mill? The Wyatts: an architectural dynasty gan John Martin Robinson. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1979). Dafydd Roberts, 'Copor a Llechi : Ffens Llechi Thomas Williams yn Bisham', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 65, tt. 89-97 (2004).
Cymru – y wlad ddiwydiannol gyntaf 18 Ebrill 2007 Diwydiant yng NghymruErbyn 1850, roedd diwydiant yng Nghymru'n cyflogi mwy o bobl nag amaethyddiaeth ac o ganlyniad, Cymru oedd gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd. Cafodd economi a chymdeithas y wlad eu trawsnewid yn llwyr.Roedd llawer o fwynau gwerthfawr yn y creigiau yng Nghymru, a hebddynt ni fyddai'r cilcyn hwn o ddaear wedi dod yn wlad ddiwydiannol. Wrth gwrs, glo oedd y pwysicaf ohonynt i gyd. Pan oedd y diwydiant ar ei anterth ym 1913, byddai meysydd glo'r wlad yn cynhyrchu rhyw 61 miliwn o dunelli metrig, ac roedd gan lo Cymru ddylanwad economaidd byd-eang tebyg i ddylanwad olew heddiw. Roedd llechi Cymru yn diddosi toeau tai a ffatrïoedd cymunedau diwydiannol ledled Prydain a dros y môr.Haearn CymruDiolch i gyfuniad o ddeunyddiau crai a'r datblygiadau technolegol pwysig a arloeswyd yng Nghymru cafodd cynnyrch a nwyddau o bwys rhyngwladol eu cynhyrchu. Yn ystod y 18fed ganrif câi llongau pren y Llynges Frenhinol eu gorchuddio â chopr o Gymru a byddai canonau o haearn Cymru ar eu byrddau. Yn y 19eg ganrif, cledrau o Gymru oedd y ddolen gyswllt rhwng UDA a Rwsia'r Tsariaid, ac yn ystod y 1870au arloeswyd y 'broses fasig' o gynhyrchu dur ym Mlaenafon. Dyma broses a ddefnyddir hyd heddiw.Arweiniodd y galw am y deunyddiau hyn mewn mannau eraill at ddatblygiadau pwysig mewn cludiant a arloeswyd yng Nghymru. Mae seilwaith cludiant Cymru'n cynnwys campweithiau peirianneg sifil enwog fel traphont ddŵr Pontcysyllte, pontydd Menai a Chonwy a rhai o ddociau mwyaf y byd yn ystod y cyfnod. Cwblhaodd y locomotif ager llwyddiannus cyntaf yn y byd ei siwrnai drwy Ferthyr Tudful ym 1804, ac agorwyd rheilffordd cludo teithwyr gyntaf y byd gludo teithwyr yn y Mwmbwls ym 1807. Trafodwyd llwythi enfawr o gynnyrch – ym 1913, cludwyd tua 40 miliwn o dunelli metrig o lo i borthladdoedd de Cymru ar hyd y rheilffyrdd, i'w hallforio yn howldiau llongau cargo oedd yn eiddo i Gymry ac yng ngofal criwiau o Gymry.Radicaliaeth ddosbarth gweithiolArweiniodd y galw am weithwyr yn y cymunedau diwydiannol at ymfudiad yng Nghymru yn hytrach nag allfudiad torfol. Rhwng 1760 a 1914, symudodd rhyw ddwy ran o dair o'r boblogaeth i fyw ac i weithio yn ne-ddwyrain diwydiannol y wlad. Arweiniodd gwaith caled mewn diwydiannau peryglus ar draddodiad balch o radicaliaeth ddosbarth gweithiol – codwyd y Faner Goch am y tro cyntaf yn ystod Terfysgoedd Merthyr ym 1831, a streic Chwarel y Penrhyn rhwng 1900 a 1903 oedd yn un o'r anghydfodau hiraf yn hanes diwydiannol y DU. Cymry fu'n gyfrifol am rai o welliannau cymdeithasol pwysicaf yr ugeinfed ganrif; cyflwynodd Lloyd George bensiwn yr henoed ym 1909, a rhoddodd Aneurin Bevan y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol i Brydain ym 1948.Mae gweithgarwch diwydiannol yng Nghymru wedi newid yn llwyr yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Mae nifer o ddiwydiannau trwm wedi diflannu bron; a mentrau uwch-dechnoleg, ysgafn wedi cymryd eu lle. Mae menywod yn chwarae rhan bwysicach o lawer yn y byd gwaith. Erbyn hyn, mae 60% o'r gweithlu'n cael eu cyflogi yn y sector gwasanaethau. Ond, mae Cymru yn dal i gynhyrchu 20% o lo'r DU a bron i 100% o ddur dalennog y DU. Nid yw'r hen ddiwydiannau wedi llwyr ddiflannu eto!Darllen PellachHanes Cymru, penodau 7-10, gan John Davies. Cyhoeddwyd gan Penguin Books (1993). Industrial Archaeology of Wales gan Morgan D. Rees. Cyhoeddwyd gan David & Charles (1975). When was Wales?, penodau 9-13, gan Gwyn A. Williams. Cyhoeddwyd gan Penguin Books (1985).
Ymrysonfa'r Gladiatoriaid - Darganfyddiadau yn Amffitheatr Rhufeinig Caerllion 18 Ebrill 2007 Mrs T. V. Wheeler yn sefyll wrth fynedfa B yr amffitheatr yn ystod y gwaith cloddio. Ailgread o amffitheatr Caerllion gan Alan Sorrell. Dangosir yr amffitheatr fel strwythur gwaith maen i'w uchder llawn. Sut y gallai'r amffitheatr fod wedi edrych mewn gwirionedd. Llun gan Dale Evans (1988) ar sail ailgread gan R. A. Anderson (1981). Cadw: Henebion Cymru, Hawlfraint y Goron. Milwyr yn Caerleon Wrth ymyl y gaer Rhufeinig yn Nghaerllion, ger Casnewydd, mae olion amffitheatr hirgrwn sydd wedi ei gadw'n dda. Ei enw mewn chwedloniaeth leol yw Bord Gron y Brenin Arthur. Cloddiwyd yn amffitheatr gan Dr Mortimer Wheeler, Ceidwad Archaeoleg wedyn Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol, yn y 1920au. Mae ailgreadau Wheeler am olwg tebygol yr amffitheatr wedi cael eu diystyrru ers hynny am fod darganfyddiadau diweddarach wedi gwneud i bobl feddwl eto am adeiladwaith y safle gwreiddiol. Sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith cloddio Dechreuodd Wheeler ei raglen helaeth o waith cloddio yng Nghaerllion trwy fanteisio ar y cysylltiadau â'r Brenin Arthur yn y wasg er mwyn denu nawdd. Cytunodd y Daily Mail i dalu £1,000 am hawliau unigryw ac adroddiadau dyddiol ar ddadorchuddio Brod Gron y Brenin Arthur. Yn y pen-draw, treblodd y papur newydd ei gynnig gwreiddiol a chyflwynodd yr olion a gloddiwyd i'r Swyddfa Gwaith (rhagflaenydd Cadw: Henebion Cymru) fel heneb cenedlaethol. Cynllunio a chloddio Ym 1926, derbyniodd Wheeler swydd fel Ceidwad Amgueddfa Llundain. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd iddo barhau i chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith cloddio, ond roedd nawdd y Daily Mail yn golygu brys a gorfodaeth, felly cymrodd ei wraig, Tessa, yr awenau. Bob nos, roedd angen anfon stori oedd yn haeddu sylw am ddarganfyddiadau'r diwrnod at y Daily Mail, gyda phenawdau cyffrous fel 'Where Gladiators Fought'. Strwythur o bridd a gwaith maen Ar ôl cwblhau'r gwaith cloddio ac archwilio 30,000 tunnell o bridd a'i symud o'r safle, daeth y cloddwyr i'r casgliad bod yr amffitheatr wedi cael ei adeiladu tua OC 80, sawl blwyddyn ar ôl sefydlu'r brif gaer yng Nghaerllion. Yn yr adroddiad ar y canfyddiadau a gyhoeddwyd ym 1928, ailadeiladwyd yr amffitheatr fel strwythur o bridd a gwaith maen gydag awditoriwm a gynhaliwyd gan waliau mewnol ac allanol o waith maen, â bwtresi i'w hategu. Yn ôl y cyfrifiadau a wnaed, byddai'n rhaid i wal wreiddiol yr arena godi i uchder o bedwar metr a rhaid i'r wal allanol fod tua deg metr o uchder. Mae hi bron yn sicr mai seddi pren oedd yna, am na ffeindiwyd unrhyw dystiolaeth o seddi cerrig. Ym 1939, dangosodd J. A. Wright, peintiwr ailgreadau archaeolegol adnabyddus, yr amffitheatr o waith maen i'w uchder llawn. Theori newydd Ym 1962, cloddiodd George Boon (a fu'n Geidwad Adran Archaeoleg yr Amgueddfa'n ddiweddarach) ffos fach yng nghlawdd yr amffitheatr, gan beri i bobl feddwl o'r newydd am y ffordd y cafodd y strwythur mawr ei adeiladu. Datguddiwyd strwythur gwreiddiol y clawdd yn agos iawn at wyneb y tir, felly mae'n rhaid nad oedd y cloddiau rhyw lawer yn uwch na heddiw. Roedd pyllau metr sgwâr a metr o ddyfnder wedi eu torri yn wyneb y cloddiau. Daeth Boon i'r casgliad taw estyll mawr oedd wedi bod yn y pyllau hyn, gan greu stand mawr agored o bren. Ers y darganfyddiad, mae'r ailgreadau o'r amffitheatr wedi cael eu hail-wneud gan ddangos rhan isaf o waith maen a strwythur uwch o bren. Gwelir amffitheatr o adeiladwaith tebyg ar Golofn Trajan yn Dobreta, canolfan y Rhufeiniaid wrth y bont dros afon Donwy yn Romania. Amcangyfrifwyd bod rhyw 6,000 o seddi yn y grandstand pren yng Nghaerllion, sef digon o le i'r lleng gyfan fwy neu lai. Er bod y digwyddiadau yn yr amffitheatr dipyn yn llai gwaedlyd heddiw, mae'r ailgreadau dramatig a'r digwyddiadau cyson yn dal i ddenu cynulleidfaoedd mawr heddiw.
Learning@Whitney Chris Owen, 17 Ebrill 2007 At MW2007 staff from the Whitney Museum of American Art examined the development and integration of the Collect Art tool into the Learning@Whitney web-site design from a practical, pedagogical and technical perspective.Chuck Barger from Interactive Knowledge, Inc (USA) who designed the site with the Whitney staff gave us a brief introduction to the technical and navigation side of the site. I was impressed with what I saw and took the time to explore the site myself. The site is divided into Teachers, Kids and Teens. You can pour through their catalogue of works, zooming in to very high resolution. We were told that there were some copyright issues with the site, as I suspected.As well as quality images the site has content to match - there are guidelines for teachers to follow. Not only does each artwork provide teachers with plenty of curriculum links, but also ideas for projects and llinks to further resources. Of course not all teachers need this guidance, but it does provide the site with mass appeal.Examples of what teachers put together showed diverse ways of using the website, from printouts and collages to electronic presentations. I'm looking forward to visiting the Whitney and picking their brains a little further.