Arlunydd o'r deunawfed ganrif wrth ei waith: Technegau Richard Wilson 16 Ebrill 2007 Amgueddfa Cymru yw perchennog y casgliad mwyaf o baentiadau Richard Wilson y tu allan i Lundain, ac mae dros 20 o baentiadau yn ei storfeydd, ac ar ddangos i'r cyhoedd. Yr Artist Richard Wilson (1714-1782). Anton Mengs beintiodd y portread hwn yn Rhufain yn gyfnewid am un o dirluniau Wilson - gweithred o gyfeillgarwch ac edmygedd y naill ddyn at y llall. Portread o Foneddiges: Morwyn Anrhydeddus [Portrait of a Lady: Maid of Honour]. Richard Wilson (1714 - 1782) Ganed a magwyd Richard Wilson ym Mhenegoes , Sir Drefaldwyn, ac fe symudodd i Lundain ym 1729 i dderbyn hyfforddiant gan Thomas Wright fel paentiwr portreadau. Yn dilyn ei brentisiaeth ym 1735, dechreuodd gynhyrchu portreadau o eisteddwyr o Gymru a Lloegr. Ym 1750 gadawodd Lundain am Rufain, a bu yno tan 1757. Yn ystod y cyfnod hwn datblygodd sgiliau newydd fel arlunydd tirluniau yn y dull clasurol mawr, yn dilyn esiampl Poussin, Claude a Zuccarelli. Pan ddychwelodd i Lundain fe gyflogodd nifer o brentisiaid, gyda Thomas Jones a Joseph Farington ymysg y disgyblion a oedd yn talu, ac fe fabwysiadodd y ddau ohonynt rai o arferion stiwdio Wilson. Dros y pymtheng mlynedd nesaf cynhyrchodd nifer fawr o dirluniau Eidalaidd, Seisnig a Chymreig, gan ailadrodd droeon y testunau mwyaf poblogaidd. Yn raddol, diflannodd y farchnad am baentiadau felly, a lleihawyd ei incwm. Roedd yn un o'r aelodau a sefydlodd yr Academi Frenhinol ym 1768, a chafodd ei gyflogi ganddynt yn llyfrgellydd ar gyflog o £50 y flwyddyn. Dirywiodd ei iechyd yn raddol, ac aeth i ymddeol yng Ngholomendy, ger Yr Wyddgrug, lle bu farw ym 1782. Techneg Paentio Portreadau Mae portreadau cyntaf Wilson yn dyddio o 1740-50, ac maent yn adlewyrchu chwaeth ei gyfnod. Fel arfer, darlunnir pen ac ysgwyddau unigolion o fewn hirgrwn, gyda'r cefndir addas yn adleisio dyheadau'r eisteddwyr. Roedd Wilson yn trin paent yn rhydd ac yn feistrolgar, ac mae hyn yn amlwg yn nillad ei eisteddwyr, sy'n dangos manylion y ffasneri a nodweddion addurnol eraill. Peintiai Wilson arlliwiau croen mewn tri cham. Byddai elfennau sylfaenol yr wyneb yn cael eu sefydlu trwy ddefnyddio arlliw tywyll ar gyfer lliwiau tywyll, ac arlliw golau ar gyfer lliw cnawd cyffredinol. Ar ôl i'r cyntaf sychu, byddai'r ail beintiad yn dwysáu'r lliwiau golau, gwydro'r lliwiau tywyll, ac yn ychwanegu lliw fflamgoch i'r gwefusau a'r bochau. Byddai'r peintiad olaf, neu'r trydydd, yn gyfle i wneud gwelliannau terfynol i'r gwydro. Nodwedd neilltuol o'i bortreadau yw'r tanbaent llwyd, a adawyd heb ei orchuddio, i ffurfio arlliw canolig ar gyfer lliw croen. Mae hyn yn amlwg iawn yn y portreadau o Richard Owen (NMW A 5005) a'r Maid of Honour (NMW A 67). Technegau Paentio Tirluniau Penderfynodd Wilson adael portreadau a chanolbwyntio ar baentio tirluniau tra oedd yn yr Eidal. Cynhyrchwyd ei dirluniau drwy wneud tan ddarlun o baent brown yn gyntaf, cyn ychwanegu'r 'lliwiau pŵl' (dead-colouring), tasg a roddwyd i'r prentisiaid stiwdio. Ychwanegwyd haenau tenau o liw yn ystod y cam hwn; Glas Prwsiaidd a llwyd-frown ar gyfer yr awyr, a chymysgedd o bigmentau coch a glas ar gyfer y tirlun. Byddai lliw yn cael ei osod mewn trwch yn dibynnu ar y dyfnder arlliw oedd ei angen, a fyddai'n amlygu arlliw golau'r grwnd tuag at y gorwel. Ar ôl i'r lliwiau pŵl sychu, gosodwyd olew ar y darlun cyn yr ail beintiad. Ar gyfer y blaendir, dywed Joseph Farington bod Wilson wedi 'mynd drosodd eildro, gan ddwysau pob rhan gyda lliw a dyfnhau'r cysgodion, ond yn llonydd, yn frown, yn rhydd ac yn fflat, wedi'i adael mewn cyflwr i gael ei orffen: yr hanner-arlliwiau wedi'u gosod, ond heb oleubwyntio.' Wrth beintio'r blaendir am y trydydd tro, byddai Wilson yn newid yr arlliwiau, gan ychwanegu'r eglurder angenrheidiol i'r gwahanol wrthrychau, cyn eu gwydro ag arlliwiau cyfoethog a chynnes, ac ychwanegu arlliwiau solet drostynt. Ar y llaw arall, gweithiwyd yr awyr a'r tirlun pell yn wlyb ar baent gwlyb ar ôl cwblhau'r lliwio pŵl gwreiddiol, yn hytrach nag mewn dau gam ar wahân. Roedd hyn yn galluogi Wilson i gymysgu'r cymylau gyda glas yr awyr, gan ddefnyddio dulas yn hytrach na glas Prwsiaidd ar gyfer y cam hwn o'r peintio, mae'n debyg. Yn olaf addaswyd y gorwel a meddalwyd y pellter gyda llwydfrown eto yn ôl yr angen. Ymarfer Arlunio Roedd arlunio yn bwysig i Wilson, a neilltuwyd y flwyddyn gyntaf o hyfforddiant ei ddisgyblion ar gyfer arlunio, a roddai sail dda iddynt 'yn egwyddorion golau a chysgod heb gael eu dallu a'u camarwain gan gyffro lliwiau'. Mae'r rhan fwyaf o'i luniau sydd wedi goroesi yn dyddio o'i ymweliad â'r Eidal (1750 -7). Mae'r rhain yn cynnwys astudiaethau uniongyrchol o fyd natur, a chynlluniau o'i ddychymyg ei hun. Ei hoff gyfrwng oedd sialc du a stwmp ar bapur llwyd. Defnyddiodd y lluniau hyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer ei beintiadau olew, ond pur anaml y byddai'n eu trosi i baent yn uniongyrchol. Roedd yn ailwampio'r cynlluniau gwreiddiol hyn ac yn gwneud addasiadau cyson wrth beintio. Yn ogystal â hyn, byddai ei liwiau wedi deillio o'i gof gweledol neu ei ddychymyg gan nad oedd yn cymeradwyo brasluniau wedi'u harlliwio, ac ni fyddai'n defnyddio dyfrlliwiau i wneud astudiaethau o fyd natur. Palet Wilson yn ôl Paul Sandby o Artists and their Friends in England 1700-1799, gan Whitley. (cyhoeddwyd gan Medici Society 1928) Palet Wilson: Cofnodwyd palet Wilson gan Joseph Farington, a oedd yn ddisgybl iddo ym 1763, ac un o'i ffrindiau, y dyfrlliwiwr Paul Sandby. Mae eu hadroddiadau'n amrywio ychydig, ond gyda'i gilydd maent yn rhoi'r amrediad o bigmentau y byddem yn disgwyl eu gweld yn ei beintiadau. Gleision: dulas, glas Prwseg, indigo Chochion: fermiliwn, coch golau, cochliw Melynion: ocr melyn, melynlliw, melyn Naples, pinc-frown Browniau: Ocr Rhufeinig, sienna llosg Gwyrddion: terre verte White: gwyn plwm Black: du ifori neu asgwrn Cipolwg: 1714: Ganed yn Sir Drefaldwyn 1728: Symudodd i Lundain i fwrw prentisiaeth gyda Thomas Wright 1735: Daeth yn baentiwr cydnabyddedig 1750: Teithiodd i Rufain i ddatblygu ei allu i baentio yn arddull Poussin, Claude a Zuccarelli 1757: Dychwelodd i Lundain i hyfforddi disgyblion megis Thomas Jones a Joseph Farington 1768: Aelod Sefydlu'r Academi Frenhinol 1772: Fe'i penodwyd yn Llyfrgellydd yr Academi Frenhinol 1782: Bu farw yn yr Wyddgrug > Gweithiau gan Richard Wilson yn Amgueddfa Cymru
Darganfyddiadau canfyddwr metel o Sir Fynwy: darganfod dau drysor arbennig 16 Ebrill 2007 Ym 1988 dadorchuddiodd canfyddwyr metel yn Sir Fynwy ddau ddarganfyddiad gwahanol ond arwyddocaol — celc unigryw o geiniogau Rhufeinig o Rogiet, a modrwy aur o Raglan. Mae'r ddau yn enghreifftiau gwych o drysor sydd bellach yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Deddf Trysor 1997 Celc Rogiet, fel yr oedd pan gafodd ei ddarganfod. 'Carausius a'i frodyr' (celc Rogiet) Mae Deddf Trysor 1997 yn cwmpasu dosbarthiadau arbennig o geiniogau a gwrthrychau metel drudfawr sy'n cael eu darganfod yng Nghymru a Lloegr. Mae'n estyn amddiffyniad cyfreithiol i wrthrychau unigol o aur ac arian, ac i bob celc o geiniogau bron. Mae'r rheoliadau newydd yn darparu gwell amddiffyniad ar gyfer rhai categorïau o hynafiaethau sydd newydd gael eu darganfod, a gwell cyfleoedd ar gyfer eu cadw er budd y cyhoedd. Ers i'r ddeddf ddod i rym, mae staff Amgueddfa Cymru wedi trafod nifer o ddarganfyddiadau, yn cynnwys darganfyddiad syfrdanol y celc unigryw o geiniogau Rhufeinig o Rogiet, a'r sêl-fodrwy aur anferth o Raglan. Un o'r celciau gwychaf o geiniogau Rhufeinig a ddarganfuwyd yng Nghymru erioed Ym Medi 1998, darganfuodd Colin Roberts filoedd o geiniogau Rhufeinig o'r drydedd ganrif OC yn Rogiet, Sir Fynwy. Dyma un o'r celciau gwychaf erioed a gofnodwyd yng Nghymru, a chafodd ei ddatgan yn drysor yn Rhagfyr 1998. Claddwyd y 3,750 o geiniogau, mewn bocs pren o bosib, tua 295-6 OC (credir mai dyma'r dyddiad cywir, gan nad oedd ceiniogau diweddarach yn y bocs). Maent yn pontio cyfnod o bedwardeg mlynedd ac yn cynrychioli dau ddeg dau ymerawdwr, sy'n arwydd o ansefydlogrwydd gwleidyddol y cyfnod. Trafferthion Gwleidyddol Mae'n debyg bod y ffaith iddynt gael eu cuddio, a bod y perchennog wedi methu dod nôl i'w casglu, yn gysylltiedig ag ansefydlogrwydd milwrol a gwleidyddol y cyfnod. Fodd bynnag, roedd arian yr Ymerodraeth Rufeinig yn mynd trwy gyfnod o newid mawr ar y pryd. Yn 294-5 OC, cyflwynwyd ceiniogau aur, arian ac aloi copr newydd, gyda chynlluniau a safonau unffurf drwy'r ymerodraeth. Mae'r celc yn gymysgedd anarferol, o ystyried ei fod yn ddarganfyddiad Prydeinig, gan ei fod yn cynnwys ceiniogau na gylchredwyd mewn niferoedd mawr yma. Mae'r celc yn arwyddocaol gan ei fod yn cynnwys nifer o geiniogau gwallus o'r 260au, ac yn cynnwys dros 750 o geiniogau o'r ddau unigolyn a ddatganodd eu bod yn Ymerodwyr ym Mhrydain, sef Carausius (287-93) ac Allectus (293-96). Mae'n anghyffredin eu darganfod mewn celciau, ac maent yn cynnwys gwerthoedd anarferol sy'n cynrychioli amrywiaeth o longau rhyfel. Mae'r celc yn cynnwys enghraifft arbennig o dda, y gorau sydd mewn bodolaeth efallai, o geiniog glasurol a phrin o gyfres y ceiniogau Rhufeinig-Prydeinig. Mae'n debyg bod Carausius yn chwilio am werthfawrogiad swyddogol yr ymerawdwyr Diocletian a Maximian wrth gyflwyno arian yn eu henwau hwy, yn ogystal â'i enw ei hun tua 292 OC. Darluniodd ei hun gyda'r lleill mewn un llun hyd yn oed, gyda'r slogan 'Carausius a'i frodyr'. Fodd bynnag, nid pawb oedd yn teimlo'r un fath, a chyn pen blwyddyn roedd Carausius wedi mynd, wedi'i lofruddio gan ei weinidog, Allectus. Modrwy aur addurnedig o Raglan Modrwy Rhaglan Yn yr un flwyddyn ag y ffeindiwyd y ceiniogau Rhufeinig yn Rogiet, darganfuodd Ron Treadgold sêl-fodrwy aur addurnedig ger Rhaglan, a chafodd hon ei datgan yn drysor hefyd. Mae gan y fodrwy wefl gron â llun llew ar wely blodau wedi'i ysgythru arno, yn ogystal ag ymyl rhaffog sengl gyda'r geiriau: to yow feythfoull or feythfoull to yow, a'r llythrennau W A bob ochr i'r llew. Yr engrhaifft orau o emwaith aur o ddiwedd yr Oesoedd Canol i'w darganfod yng Nghymru Addurnwyd ysgwyddau'r fodrwy â blodau a dail, ac mae'n arwyddocaol ym maes astudio modrwyon yr Oesoedd Canol diweddar, gan fod modd ei gymharu'n agos â'r ysgythriad ar fodrwy esgobol aur John Stanbury, Esgob Henffordd (1452-1474), croes o ganol y bymthegfed ganrif o Winteringham, Swydd Lincoln, a modrwy aur o Briordy Godstow, Swydd Rhydychen. Mae'n debygol bod modrwy Rhaglan yn dyddio o ganol, neu drydydd chwarter y bymthegfed ganrif, ac mae'n bosib mai dyma'r enghraifft orau o emwaith aur o ddiwedd yr Oesoedd Canol i gael ei darganfod yng Nghymru. Perchennog y fodrwy Ni wyddom pwy yw perchennog y sêl-fodrwy ar hyn o bryd, ond mae'r ffaith iddi gael ei chanfod ger Rhaglan, gyda'r llythrennau W A arni'n golygu bod William Herbert, Iarll cyntaf Penfro (a ddienyddiwyd ar ôl brwydr Banbury yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, ym 1469) yn bosibilrwydd. Priododd Anne Devereux, ac fe allai'r llythrennau gynrychioli William ac Anne. Mae maint y fodrwy'n awgrymu mai dyn oedd yn ei gwisgo, a gellir gweld yr ysgythriad fel arwydd o'i ffyddlondeb i'w wraig. Roedd Herbert yn un o ddau ddyn a alwyd 'y dewisedig a'r ffyddlon' i'r brenin newydd, Edward IV, ac fe'i urddwyd yn sgil coroni Edward. Serch hynny, does dim prawf mai modrwy William Herbert oedd hwn, ac mae enwau eraill yn bosib. Ar hyn o bryd, yr unig sicrwydd yw bod y fodrwy'n arwydd o statws cymdeithasol, a'i bod, siŵr o fod, yn eiddo i swyddog neu ymwelydd pwysig â Rhaglan yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif.
Hygyrchedd 2.0 Chris Owen, 15 Ebrill 2007 Rydyn wedi bod mor brysyr gyda'r gynhadledd mae'n anodd ffeindio amser i ysgrifennu ein blog. Rydyn wedi cymryd llawer o'r gynhadledd, fallai un o'r gwersi gorau oedd i ysgrifennu ein mynediadau ystod diwedd y sesiynnau fel ein ffrind Nate o Walker Art Center.Ges i'r wers hon tra yn sesiwn Accessibility 2.0 gan Brian Kelly (UKOLN) a Prof. Stephen Brown (Prifysgol De Montfort). Roedden yn edrych ar pa mor effeithiol mae canllawiau yr WAI (Web Accessibility Initiative). Mae e werth edrych ar fel allen cael i addasu gan crewyd y canllawiau yma yn 1999. Ac er bod set newydd o ganllawiau yn cael eu creu, dyw llawer ddim yn credu bod rhain yn ateb rhai o'r problemau sy'n ein gwynebu.Roedd e'n diddorol eistedd gyda rhai oedd yn gweithio i archifau a llyfrgelloedd Canada. Mae nhw'n gwynebu rhau o'r un problemau a ni gyda dwyieithrwydd. Hyd yn oed yn waeth - mae rhaid gwneud peth stwff yn Métis ac Inuit! Mae'r archifau a'r llyfrgelloedd yn Canada yn cael eu noddi gan y llywodraeth, felly mae ganddynt canllawiau strict iawn.Mae'n bwysig i ni edrych ar ein safwe mewn ffordd sy'n ateb canllawiau hygyrchu, ond hefyd i weld os mae ein cynnwys yn galluogi pobl i ddysgu mewn ffyrdd gwahanol i'r cyfrifiadur - fel roedd Brian yn sôn am - blended learning. Er bod dal lle am yr WAI, mae'n bwysig edrych ar dynesiad mwy holistaidd.
Moving outside our web-site Chris Owen, 14 Ebrill 2007 It's always interesting at conferences like Museums & The Web how individuals seem to be independently moving the in the same direction. Dafydd mentioned the Brooklyn Museum's Graffiti Mural which is a really nice example of how gallery spaces and online spaces can be combined to provide an experience for everybody. There's also a distinction developing between a museum's web-site and a museum's online presence. In the past, if you spread your wings outside your own site, it was to pay a tourism or web-links site to promote your museum, and I think it was mostly a fruitless venture. A lot of the teams here have actively participating on a new generation of participatory sites like MySpace, Facebook, Flickr, Digg, YouTube and the community of museum bloggers (the 'blog-o-sphere'). The audience for these sites tends to be a little different to the average web-site visitor looking for opening times or driving directions. Actively participating in online communities - leaving comments, flagging up related links, and linking to others - can be one of the big drivers for people to come to your site. If you can get this community talking to the people standing in the exhibitions, you can build a much stronger community than museums have ever had before, and reach a wider variety of people too.
Alternative realities Chris Owen, 14 Ebrill 2007 There are some great projects looking at immersive learning that are finding good ways of appealing to young people. Game scenarios are an effective motivator.Dick van Dijk from the Waag Society presented Operation Sigismund, which is an adventure game used to create a learning environment. It is based on existing archive material in the basement of the monumental building of the archive. It seems like a good example of playful learning vs. traditional elements.Hasselt University and Provincial Gallo-Roman Museum (both in Belgium) developed a trading game on PDA where up to four players with different goals can only achieve these goals by collaborating. It allows exchange of data and direct communications (using Voice over IP), which were very popular as families could keep in touch with each other.Second Life is causing a lot of buzz in Museums and the Web this year. For those of you not familiar with the concept, Second Life (SL) is a 3D online world which allows users to build virtual communities. Some museums within SL have been created and maintained by residents that are not affiliated with 'physical' museums, though some organisations are now trying to capitalise on the popularity of the virtual world - the Exploratorium in San Francisco has set up the 'Splo, which has some optical illusions and interactions.