On the right track? Chris Owen, 13 Ebrill 2007 From our tour of San Francisco both Chris and I were quite relieved that other Museums were using similar technology to Amgueddfa Cymru – National Museum Wales. Web based delivery of in-gallery digital media seems to be quite popular, and our custom built content management system allows us to roll out responsibility for some services to selected editors.The new gallery at St Fagans, Oriel 1, uses web-based technology for most of its applications. This means that most of the audio-visual content is quite flexible and can be accessed across networks. It's a bit of a testing ground for us!
Web 2.0 Chris Owen, 13 Ebrill 2007 The web 2.0 workshop yesterday allowed us to see how some of the world's leading institutions are connecting to social networks to gain new audiences.Jeff Gates from the Smithsonian explained how they had assembled a blog team, and developed an online identity (Eye Level) that has gained popularity. I was quite suprised at the workflow involved with posting a blog - but happy to see that even a heavliy moderated blog can be successful.Shelley Bernstein and Nicole Caruth from Brooklyn Museum showed some very interesting uses of social networking sites like Flickr. I was particularly impressed with their 'Graffiti Mural' project where people leave tags or comments on the wall, and track the progress of the wall on Flickr - check it out here. You can even upload pictures of exhisting Graffiti. They are really blurring the line between visitors that are physical and virtual - I look forward to visiting them in NYC.Finally there was an enjoyable presentation by Mike Ellis from the Science Museum (UK). Out of the many valid comments Mike made (ranging from bureaucratic to technical), the point of 'start doing' was the main message that came through.
Blogging at Museums & The Web 2007 Chris Owen, 12 Ebrill 2007 It's now Dafydd and I's second day at the Museums & The Web conference, and appropriately today's workshop was on blogging. It was hosted by the web team at the Walker Art Center in Minneapolis. They've been running a series of blogs for quite some time, and it's grown from the first few 'new media' entries into the most popular part of their website, and one of the best museum blogs on the net. We're looking forward to meeting them next week and seeing more of what they do.It was interesting to hear how their blogs have evolved in that time - I think the only way for us to make this area as engaging for people as possible is to keep posting, listen to your feedback (we'll introduce better mechanisms for this soon) and let it happen. What you read now is not the corporate tone, or perhaps what you'll read here in 2 years time.Another striking difference from the rest of the site is how our blog entries are not directly translated into both Welsh and English, but are presented simply as they're written. It's a personal, off-the-cuff medium and I feel this is in the right spirit. We welcome your feedback on this.In later posts, I'll talk a bit about how we work with bilingual content and our own Content Management System (CMS). This will be a major consideration as we take our blogging further.
Darganfod cwch o'r Oesoedd Canol mewn aber yn ne Cymru 12 Ebrill 2007 Gweddillion y cwch yn y mwd Codi'r cwch o'r mwd am 4.00am ar Awst 27ain 1995 Model o'r cwch wedi ei ail-greu Ym 1994, darganfuwyd gweddillion cwch mewn mwd trwchus ar Wastadeddau Gwent. Dangosodd profion ar y pren bod y cwch yn dyddio o tua 1194. Dangosodd gwaith cloddio pellach bod darn 7.2m o hyd a 3.9 o led o'r cwch wedi goroesi'n gyfan, sy'n golygu ei fod yn un o'r cychod canoloesol pwysicaf i gael ei ddarganfod ym Mhrydain ers 25 mlynedd. Codi'r drylliad Roedd hi'n hanfodol adfer y drylliad, ond roedd angen dewis rhwng ei ddatgymalu ar y safle neu ei symud mewn un darn. Roedd angen rheoli'r amodau'n ofalus iawn wrth ei ddatgymalu, ond oherwydd y llanw uchel, dim ond am ryw awr neu ddwy ar y tro y gellid cyrraedd at y drylliad. Am hynny, yr unig ffordd resymol o weithredu oedd adfer y cwch yn gyfan. Cafwyd cymorth i godi'r drylliad gan y cwmni oedd yn adeiladu Ail Bont Hafren gerllaw. Gweithiodd tîm o bobl yn ddiflino ddydd a nos dros gyfnod o saith troad y llanw, i gloddio twneli o dan y cwch er mwyn adeiladu crud o drawstiau alwminiwm. Roedd angen bod yn eithriadol o ofalus rhag niweidio'r cwch, gan ei fod mewn cyflwr mor fregus. Yna cysylltwyd y crud at graen, tynhawyd y ceblau, a chloddiwyd gweddillion y gwaddod i ffwrdd. Codwyd y cwch yn llwyddiannus am 4.00 y bore, cafodd ei gludo i Gaerdydd a'i osod mewn dŵr i atal y pren rhag pydru ymhellach. Cadwyd cofnod o'r gweddillion wrth eu datgymalu a thynnwyd llun o bob darn o bren yn unigol. Roedd y llong yn cario mwyn haearn pan suddodd, felly bu rhaid ei lanhau'n drylwyr. Defnyddiwyd dŵr a brws meddal i dynnu halwynau haearn o'r gweddillion hynafol. Gan mai'r gobaith oedd arddangos y cwch yn ei ffurf wreiddiol yn yr Amgueddfa, bu rhaid cadw'r darnau pren mewn modd a fyddai'n caniatáu ar gyfer eu hail-siapio ar ôl eu cadw, neu eu mowldio i'r siâp cywir cyn eu cadw. Mae manteision ac anfanteision i'r ddau ddull. Cadw'r pren hynafol Er mwyn cadw pren sy'n llawn dŵr, rhaid defnyddio cwyr sy'n toddi mewn dŵr, sy'n golygu naill ai trochi'r pren am bump i ddeng mlynedd mewn sylwedd crynodedig a'i sychu'n araf mewn aer; neu ei drochi mewn sylwedd gwannach a'i sychrewi i gael gwared ar y dŵr, sy'n creu cynnyrch 'sych' o fewn blwyddyn neu ddwy. Gyda'r dull cyntaf, byddai'r gwrthrych yn cynnwys mwy o gwyr na phren, felly ni fyddai'n edrych gymaint fel pren, ond byddai'r cwyr yn caniatáu ar gyfer ail-siapio'r prennau. Ar y llaw arall, byddai sychrewi'n creu deunydd a fyddai'n dal i edrych fel pren, gan ei fod yn defnyddio llai o gwyr o lawer. Fodd bynnag, byddai'r prennau'n fwy bregus o lawer na'r rhai a gafodd y driniaeth gyntaf, ac felly ni fyddai modd eu hail-siapio. Creu model o'r cwch Penderfynwyd ail-siapio'r prennau i'w ffurfiau gwreiddiol cyn cadw'r pren, felly bu rhaid adeiladu model maint llawn o'r strwythur oedd wedi goroesi, i weld pa siâp terfynol ddylai fod ar y prennau. Bu rhaid i'r model ail-greu cynllun a siâp yr holl brennau a oroesodd mewn tri dimensiwn. Yna gallai'r model helpu i greu set o fowldiau, wedi'u hadeiladu yn y siâp cywir, i ddal yr estyll yn ystod y gwaith cadwraeth. Wedi ail-siapio'r gweddillion yn llwyddiannus, cadwyd y prennau gan ddefnyddio'r driniaeth cwyr a sychrewi. Bellach, mae'r prennau sych a sefydlog yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru, ac mae'r gwaith ymchwil ar y cwch, a fydd o gymorth wrth osod y darganfyddiad pwysig hwn yn ei gyd-destun hanesyddol, yn parhau.
Y Dyn Bicer o Landaf - Bedd o'r Oes Efydd Cynnar yn Llandaf 12 Ebrill 2007 Bicer Llandaf Wrth adfer tŷ yn ardal Llandaf ym 1992, dadorchuddiwyd slab carreg anghyffredin oedd wedi'i orchuddio gan dywod afon a silt. O dan y slab roedd asgwrn hir a llestr clai. Daeth yn amlwg mai bicer oedd y llestr — llestr clai addurnedig oedd yn ffasiynol yng ngorllewin Ewrop tua 4,000 mlynedd yn ôl yn ystod 'Cyfnod y Bicer'. Mae'n bosib y byddai'r bicer wedi dal medd, cwrw neu ddiod arbennig arall yn wreiddiol. Roedd y slab cerrig yn dynodi safle bedd. Gyda chydweithrediad ac anogaeth y perchnogion, fe gynhaliodd yr Adran Archeoleg a Niwmismateg gloddfa yn nhramwyfa'r tŷ, i ail-agor y bedd a chloddio'i gynnwys. Roedd y gistfaen amgylchynol a adeiladwyd o slabiau o graig Radyr, yn anarferol gan ei bod ar ogwydd, ei maen capan yn pwyso ar ongl o 30°, yn wahanol i'r cistfeini bicer siâp bocs mwy traddodiadol. Ychydig iawn o'r sgerbwd sydd ar ôl. Y disgwyl oedd y câi'r sgerbwd ei ddarganfod ar ei gwrcwd, sy'n nodweddiadol o gyfnod y Biceri, ond dim ond darnau o'r craniwm (top y benglog) ac esgyrn y breichiau a'r coesau oedd wedi goroesi. Dadorchuddiwyd offer bedd ychwanegol, yn cynnwys mynawd efydd (offeryn pigfain ar gyfer torri tyllau mewn pren neu ledr), a naddyn flint — gwrthrychau a gladdwyd wrth ochr yr unigolyn i'w defnyddio yn y 'byd nesaf'. Cysylltir mynawydau â chladdedigaethau benywaidd fel arfer. Drwy ddadansoddi'r gwaddodion sy'n llenwi'r bedd, gallwn esbonio ffurf anarferol y gistfaen, a pham mai dim ond rhan o'r sgerbwd sydd wedi goroesi. Mae presenoldeb gwaddolion graddedig, a adawyd yn y bedd gan ddŵr, yn awgrymu bod llifogydd wedi ymyrryd ac wedi erydu'r gladdfa. Heddiw, mae'r afon Taf yn llifo heibio gerllaw, a chodwyd yr adeiladau ger man darganfod y bedd ar hen safle gorlifdir yr afon.