Ebrill 11, 2007 Sara Huws, 11 Ebrill 2007 'Dych chi'n ymuno â fi heddiw ar chwa fach dawel - cyfle, o'r diwedd, i wneud 'chydig o ymchwil ac i ddechrau gwaith ar ddigideiddio (tocyn iaith i fi plis ...) llawer o'r wybodaeth sydd gennym am Eglwys Teilo Sant. Dwi'n gobeithio y bydd hynny'n gallu cyflenwi dipyn ar y wybodaeth fydd ar gael i ymwelwyr wedi'r agoriad - rydym ni'n colli ein gofod arddangos (collwyd sawl deigryn dros ddifodiant y 'Ddehongl-fan', neu'r 'Chalet Gwybodaeth', credwch fi!) ac yn gorfod meddwl am ffyrdd amgenach o ddifyrru'r ymwelydd. Mae llawer o'r wybodaeth 'dyn ni'n ei gasglu, fodd bynnag, ar gof aelodau o staff yr amgueddfa, ambell i ysgolhaig, criw y Bont (a Hendy, Gorseinon ac ati!). Rhaid i fi ymuno, felly, â rhaglen hyfforddi hanes llafar yr amgueddfa. Fe fydd pobl yn sôn yn ffeind iawn am gen-garafan-hel-straeon Sain Ffagan, oedd yn arfer teithio hyd a lled y wlad yn recordio coelion gwerin, hanes lleol a thafodieithau. Mae'n technegau ni wedi newid dipyn ers hynny, a mae'r garafan wedi mynd i, wel, i le bynnag y ma carafannau'n mynd ar ôl darfod: "the great steddfod in the sky" ella. Ta waeth - mae'r casgliad yn enfawr, yn eang ei sgôp a bron wastad yn ddifyr. Braf oedd darganfod llais fy Nain, fu farw yn ystod fy mhlentyndod cynnar, ar dâp yn yr archif ac yn trafod arferion Gwrachod Llanddona yn serchus. Dwi'n gobeithio y gallwn ni gael hanesion yr Eglwys ar dâp, a'u rhoi ar wefan yr Amgueddfa'n fuan. Gan roi'r 'ymchwil' i'r naill ochr am eiliad, rhaid i fi gyfadde fy mod i wedi cuddio yn y swyddfa heddiw - weithie ma'r diwrnod yn cael ei amlyncu gan ebyst a chyfarfodydd: mae angen 'diwrnod hanes' arnai bob ryw dipyn. Dwi'n ail-adrodd yr un ffeithiau ar lafar mor aml yn fy swydd, rhaid gwneud yn hollol si?r, weithiau, eu bod nhw dal yn wir! Rheswm gwell fyth cael diwrnod tawel heddiw: roedd gweithio dros benwythnos y Pasg yn yr Eglwys yn brysur eithriadol. Fe welsom ni filoedd o ymwelwyr bob dydd: cofion cynnes at unryw rai o'r staff blaen ty sydd yn dal i orwedd lawr mewn stafell dywyll yn eu sgil. I'r rhai ohonoch welais i - gobeithio i chi fwynhau. I'r rhai na ddaeth i'n gweld ni: mae gynnoch chi tan 16 o Ebrill i ddod i beintio ffenestr liw gyda ni!
Disgleirdeb a Swyn - gwisgoedd nodedig Casgliad Tredegar 11 Ebrill 2007 Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow. G?n llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (g?n ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed tua 1730-40. Byddai'r wisg ysblennydd hon wedi cael ei gwisgo ar achlysur cyflwyno'r sawl a'i gwisgai i'r llys. Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725. Am ddisgleirdeb a swyn, nid oes angen chwilio y tu hwnt i Gasgliad Tredegar. Cyflwynwyd y casgliad trawiadol hwn o wisgoedd o'r 18fed ganrif i'r Amgueddfa ym 1923 gan Courtenay Morgan, a adwaenir hefyd fel Arglwydd Tredegar. Roedd y casgliad yn eiddo i'w gyndeidiau cyfoethog a oedd am ddangos eu cyfoeth a'u pŵer. Cynlluniwyd pob dilledyn i syfrdanu. Er mai teulu'r Morganiaid oedd perchnogion Tŷ Tredegar ger Casnewydd, roeddent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn Llundain. I'r boneddigion, y brifddinas oedd yr atyniad mwyaf. Gerddi pleser, operâu a chynulliadau - cymdeithasu oedd canolbwynt eu bywydau. Parti brenhinol cyntaf Mae'n debygol mai yn Llundain y gwnaethpwyd gwisgoedd Tredegar, gan ddefnyddio'r damasg a'r sidanau brocêd gorau y gellid eu prynu ag arian. Mae'r wisg mwyaf cain yn y casgliad yn dyddio o tua gynnar yn y 1720au. Awgryma crandrwydd y wisg las â'r blaen agored - a elwir yn mantua yn aml - ei bod wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer parti brenhinol cyntaf merch ifanc. Mae'r gwaith manwl yn goeth a chain, ar y blaen a'r cefn. Yn wreiddiol, roedd y wisg yn hirach o lawer, ond torrwyd rhan fawr i ffwrdd yn ystod y 1800au, ar gyfer parti gwisg ffansi mae'n debyg. Corsedau o asgwrn morfil Roedd gwisgoedd fel yr un yma'n lletchwith iawn i'w gwisgo. Er mwyn cyflawni'r ffasiwn ormodol, gwisgai'r menywod beisiau crwn, llydan i gynyddu lled y sgertiau. Gwisgent hefyd gorsedau tynn wedi'u hatgyfnerthu ag asgwrn morfil o dan eu gwisgoedd. Roedd corsedau'n cynorthwyo i sicrhau osgo da trwy wasgu rhan uchaf y corff i siâp. Roedd steil yn bwysicach na chysur. Gwnaethpwyd y ffrog-côt eurbleth felen hon yn gynnar yn y 1720au. Mae'r cynllun blodeuog yn nodweddiadol o'r cyfnod, fel y mae'r lliw melyn llachar. Darllen Cefndir M. R. Apted, 'Social Conditions at Tredegar House, Newport, in the 17th and 18th Centuries', The Monmouthshire Antiquary 3:2 (1972-3), pp. 124-54. Janet Arnold, 'A Court Mantua of c. 1740', Costume: Journal of the Costume Society 6 (1972), pp. 48-52. Avril Hart & Susan North, Historical Fashion in Detail: The 17th and 18th Centuries (London: V & A Publications, 1998).
Symud talcen glo i'r amgueddfa 11 Ebrill 2007 Pan gaeodd ysbyty i lowyr yn 2001, datgymalwyd y talcen glo a ddefnyddiwyd i roi ymarfer corff i'r cleifion a'u paratoi i ddychwelyd i'r gwaith, a'i symud i gasgliadau Amgueddfa Cymru. Tŷ Talygarn Tŷ Talygarn: golygfa o'r model maint llawn o dalcen glo Ym 1880, agorwyd ysbyty ym mhlasty cerrig sylweddol Talygarn. Addurnwyd y tu mewn â phaneli pren a nenfydau peintiedig. Roedd parcdiroedd helaeth o gwmpas y tŷ, lle tyfwyd sbesimenau o bob coeden sy'n gallu tyfu ym Mhrydain, yn ôl yr hanes. Talygarn fel Cartref Ymadfer Yn Hydref 1923, agorwyd Tŷ Talygarn fel cartref ymadfer ar gyfer glowyr, ac o fewn 15 mlynedd roedd dros 41,000 o gleifion wedi bod trwy'r drysau. Ym 1943, gofynnwyd i Gomisiwn Lles y Glowyr drefnu gwasanaeth adfer ar gyfer glowyr oedd wedi'u hanafu. Oherwydd bod prinder gweithwyr ar y pryd, roedd hi'n hanfodol bod glowyr oedd wedi'u hanafu'n dychwelyd i'w gwaith mor fuan â phosib. Am hynny, prynwyd Tŷ Talygarn fel canolfan i wasanaethu meysydd glo de Cymru. Erbyn 1964, roedd 95% o'r cleifion a gafodd eu trin yn Nhalygarn yn dychwelyd i'r diwydiant glo. Parhaodd i weithredu fel canolfan ymadfer a ffisiotherapi nes cael ei osod ar werth yn Awst 2000. Adfer glowyr a'r 'Model o Bwll Glo' Oherwydd yr angen i galedi'r dynion cyn iddynt ddychwelyd i'r pyllau glo, darparwyd gweithdy gwaith coed, lle byddai'r cleifion yn torri pren ac yn llifio boncyffion. Roedd grisiau bach a beiciau llonydd ar gael i ymarfer eu cyhyrau segur. Yn Nhŷ Talygarn roedd yna fodel mawr o bwll glo lle gallai'r cleifion ymgyfarwyddo â gweithio mewn pwll glo unwaith eto. Un twnnel hir a gynhaliwyd gan hytrawstiau bwaog oedd y strwythur. Roedd gan y ffordd gledrau, yn ogystal â fframwaith metel o'r enw horsehead, a fyddai'n atal cerrig rhag cwympo mewn talcennau glo go iawn. Symud y pwll glo Ym 2001, rhoddwyd cynnwys y model o bwll glo' i Amgueddfa Cymru fel 'ffordd barhaol o atgoffa ymwelwyr am waith canolfan ymadfer Talygarn'. Datgymalwyd y talcennau glo fel petasent yn rai go iawn. Er mai dim ond pedair troedfedd o uchder oedd ar gael i gyflawni'r gwaith, llwyddwyd i ddatgymu a symud y cludwr cadwyn, trideg troedfedd o hyd. Cludwyd yr holl eitemau i'r Ganolfan Casgliadau yn Nantgarw. Mae rhodd Talygarn yn rhan unigryw, tri deg troedfedd o hyd, o dalcen glo rhannol-fecanyddol, sydd wedi goroesi o'r 1960au cynnar.
Adeiladu'r casgliad pwysicaf o bryfed Cymru 11 Ebrill 2007 Gyda marwolaeth Joan Morgan ym Mangor ym 1998, daeth bywyd hynod ym maes entomoleg [astudio pryfed] i ben. Yn sgil hyn, daeth casgliad anferth o dros 50,000 o sbesimenau i'r amgueddfa genedlaethol. Mike Wilson, pennaeth entomoleg yr Amgueddfa yn astudio casgliad Bangor Yn sgil newidiadau ym mhrifysgolion Prydain dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae nifer o gasgliadau dysg wedi eu chwalu neu eu diddymu. Cafodd rhai o gasgliadau dysg y prifysgolion eu cronni dros gyfnod o flynyddoedd gan unigolion ymroddgar â diddordeb mewn ymchwilio a dysgu. Gyda marwolaeth Joan Morgan ym Mangor ym 1998, daeth bywyd hynod ym maes entomoleg [astudio pryfed] i ben. Yn sgil hyn, daeth casgliad anferth o dros 50,000 o sbesimenau i'r amgueddfa genedlaethol. Joan Morgan Symudodd Joan Morgan i Fangor ym 1953 gan fynd yn ddarlithydd amser llawn yng Ngholeg Prifysgol y ddinas. Bu'n weithwraig maes brwdfrydig am dros 40 mlynedd, gan gasglu miloedd o sbesimenau, o'r gogledd yn arbennig, ar gyfer y brifysgol. Nid oes modd gor-bwysleisio pwysigrwydd y casgliad. Mae'n darparu tystiolaeth o nifer o sbesimenau o wahanol leoliadau, yn ogystal â deunydd cyfeirio a rhyw 60,000 o gofnodion ar gardiau. Parhaodd i gynnal y casgliad ar ôl ymddeol. Yn dilyn ei marwolaeth, cytunodd y coleg y dylid trosglwyddo'r casgliad i'r Amgueddfa. Mae'r casgliad yn cynnwys tua 50,000 o sbesimenau, o Brydain yn bennaf. Mae'n cynnwys pob grŵp o bryfed, yn ogystal â chynrychiolaeth wych o sbesimenau o'r gogledd. Ar ôl cyfnod cwarantîn mewn rhewgell, llwyddwyd i gyfuno sbesimenau â chasgliadau entomoleg yr Amgueddfa. Drwy hyn bu modd i'r Amgueddfa greu casgliad pryfed Cymreig pwysicaf Prydain. Mae'n adnodd gwerthfawr ar gyfer ymchwil gwyddonwyr ledled y byd.
Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan 11 Ebrill 2007 Ym 1992 cludwyd swyddfa bost leiaf Cymru o Flaenwaun i'r Amgueddfa. Diolch i garedigrwydd cyllidwyr y project, Post Office Counters Ltd, datgymalwyd yr adeilad bach brics, ac fe'i symudwyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, lle cafodd ei ail-adeiladu gan dîm arbenigol yr Amgueddfa. Mae swyddfeydd post y pentref wedi chwarae ran bwysig ym mywyd cymunedol Cymru dros y 90 mlynedd ddiwethaf. Erbyn y 1950au roedd gan bron bob pentref ei changen ei hun, a oedd yn fan i ddosbarthu'r post, casglu parseli ac i bobl ymgynnull i glywed y newyddion lleol. Byddai ymweliadau rheolaidd y postmon cefn gwlad ar ei feic, ac yn ddiweddarach mewn Morris Minor coch neu fan Fordson, yn helpu trigolion y cymunedau gwledig i gadw mewn cysylltiad â'i gilydd. Swyddfa Bost lleiaf Cymru, ym Mlaenwaun, Sir Gaerfyrddin Swyddfa Bost Blaenwaun yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Swyddfa Bost y Wlad Wrth gwrs, pur anaml byddai adeiladau swyddfeydd post cefn gwlad mor drawiadol â'r rhai trefol. Fel rheol lleolwyd hwy yng nghornel siop y pentref neu mewn ystafell flaen tŷ. Weithiau gwerthai'r swyddfeydd post hyn amrywiaeth o eitemau, ond dibynnai rai'n llwyr ar werthu stampiau, archebion post, trwyddedi a thystysgrifau cynilion, a oedd yn unig ffynhonnell incwm iddynt. Roedd Swyddfa Bost Blaenwaun, a leolir tuag wyth milltir i'r gogledd o Hendy-gwyn, Dyfed, yn fusnes o'r fath. Fe'i adeiladwyd ym 1936 gan y saer maen Evan Isaac, a'i saer o gefnder, David Williams. Rhedwyd y Swyddfa Bost, yn ogystal â thafarn y Lamb ar draws y ffordd, gan Mrs Hannah Beatrice Griffiths (Isaac gynt), merch Evan Isaac, a'i gŵr. Bob dydd cludwyd y post o Hendy-gwyn cyn cael ei ddidoli ar fainc isel yn ystafell gefn y Swyddfa Bost. Dosbarthwyd y post i'r gymuned leol gan Mrs Griffiths, a fyddai'n ymgymryd â'r siwrne wyth milltir ar gefn beic cyn croesi'r ffordd i weithio yn y dafarn. Medrai unrhyw gwsmeriaid a gyrhaeddai i'r Swyddfa Bost tra bod Mr a Mrs Griffiths yn gweithio yn y dafarn wasgu botwm a fyddai'n canu cloch y tu ôl i'r bar. Roedd gan y Swyddfa Bost, a fesurai cwta 5 metr o hyd a 2.9 metr o led, ddwy ystafell: ystafell wasanaethu allanol yn cynnwys cownter, a swyddfa fewnol neu ystafell ddidoli yn cynnwys lle tân bach a mainc o dan y ffenest. Gwahanwyd yr ystafelloedd gan bared pren. Peintiwyd y waliau mewnol yn frown i uchder o tua un metr uwch y llawr, a lliw hufen at y to, a llinell drwchus ddu rhwng y ddau. Y tu allan, uwch ffenest yr ystafell wasanaethu, gosodwyd arwydd a wnaed o ddalen tun trwchus wedi'i pheintio ag arni'r geiriau: BLAENWAUN POST OFFICE. Gosodwyd blwch post bach ar y wal rhwng y ffenest a'r fynedfa. Yn y dyddiau cynnar, roedd ffôn ar y cownter at ddefnydd y Swyddfa Bost ac, efallai, at ddefnydd y pentrefwyr yn ogystal. Yn ddiweddarach, gosodwyd ciosg cyhoeddus y tu allan i'r adeilad bach. Roedd yna hefyd Dderbynnydd o'r Adran Ryfel yn y swyddfa er mwyn derbyn negeseuon brys ar adegau o argyfwng. Yn dilyn marwolaeth Mr Griffiths yn y 1960au cynnar, symudwyd y busnes i fyngalo newydd a adeiladwyd gan ei ferch, Mrs Evanna James. Bu'r hen Swyddfa Bost yn wag o'r amser hwnnw tan y cynigiwyd hi i'r Amgueddfa ym 1991. Mae modd ymweld â hi yn adran 'pentref' amgueddfa awyr agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ger y popty a siop y teiliwr. Adferwyd hi i'r golwg oedd arni yng nghyfnod y rhyfel, ac mae'n cynrychioli cyfnod yn hanes Cymru na ddangosir gan unrhyw un o adeiladau eraill yr Amgueddfa.