Y Gwyfyn Dillad - Prif bla pryfed yr Amgueddfa 5 Ebrill 2007 Webbing cloths moth - Tineola bisselliella Niwed gan wyfynod Larfaod y Gwyfyn Dillad Credir mai'r gwyfyn dillad cyffredin - Tineola bisselliella - yw'r prif bla pryfed a geir mewn Amgueddfeydd ledled y byd. Gall ddinistrio symiau anferth o ddefnydd anifeiliaid. Mae Amgueddfa Cymru'n chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu dulliau newydd i reoli'r pla hwn. Adnabod eich gelyn Yn y gorffennol, roedd amgueddfeydd yn mygdarthu casgliadau'n gyson gyda llawer o bryfleiddiadau gwenwynig iawn, i roi stop ar yr ymosodiadau. Mae dulliau modern o reoli'n ceisio canfod unrhyw broblemau'n gynnar cyn bod unrhyw ddifrod yn cael ei greu - hanfod rheoli pla'n effeithiol yw adnabod eich gelyn. Y gwyfyn dillad cyffredin Pryfyn bach disglair lliw aur tua 6-8mm o hyd yw'r gwyfyn dillad cyffredin, neu'r webbing clothes moth, a welir yn aml yn rhedeg dros ddefnydd heigiannus, neu'n hedfan o amgylch ystafelloedd yn ddiamcan. Unig bwrpas y gwrywod yw cyplysu gyda'r benywod (nad ydynt yn hedfan), cyn iddynt farw. Yna mae'r benywod yn dodwy wyau bach a wthir rhwng ffibrau a blew. Y larfaod sy'n deor o'r wyau hyn sy'n achosi'r difrod. Maent yn gallu treulio ceratin, sydd mewn ffwr, gwlân, plu, gwallt, ewinedd bysedd ac ati. Gan mai diet braidd yn gyfyngedig yw hyn, mae'n well gan larfaod fwyd sy'n staenedig neu'n fudr, sy'n golygu mai dillad gwlanog budr a ymosodir arnynt fel arfer, yn ogystal ag ymylon carpedi sydd allan o gyrraedd y peiriant glanhau carpedi. Gwe sidanaidd amddiffynnol Mae'r larfaod yn amddiffyn eu hunain trwy wau tiwbiau sidanaidd, lle byddant yn byw ac yn bwyta. Y casys sidanaidd hyn sy'n rhoi'r enw webbing clothes moth iddynt. Pan mae'r larfaod wedi gorffen tyfu, maent yn chwilera y tu mewn i'r casys, cyn dod allan ymhen rhai wythnosau, fel gwyfynod. Nid yw'r oedolion yn bwyta nag yn achosi difrod eu hunain, ond maent yn cyplysu ac yn ailddechrau'r cylchdro bywyd unwaith eto. Ar wlân budr mewn awyrgylch cynnes a llaith, mae'n bosib gweld dwy neu dair cenhedlaeth mewn un flwyddyn. Gyda hinsawdd laith y DU, a'r ffaith bod storfeydd ac orielau amgueddfeydd yn cael eu gwresogi, mae'n hawdd gweld pam fod y gwyfyn dillad yn gymaint o bla. Yr arfer yn yr Amgueddfa oedd ymateb ar ôl dod o hyd i ddifrod. Bellach, y nod yw atal pryfed rhag dod i mewn i'r Amgueddfa yn y lle cyntaf, a'i wneud mor anneniadol a phosibl. Mae gan storfeydd ffenestri a drysau wedi'u selio'n dda, a systemau tymheru hidledig. Gan fod amgueddfeydd yn adeiladau cyhoeddus, mae'n anochel bod rhai gwyfynod yn cael eu cludo i mewn, yn oedolion, larfaod neu'n wyau. Cenhedlaeth newydd o drapiau pryfed Mae chwilio am bryfed a difrod a achoswyd ganddynt yn rhan o waith cyson staff cadwraethol, sy'n cynnwys archwilio'n ofalus am arwyddion o ddifrod, a defnyddio trapiau. Mae'r Amgueddfa'n chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad cenhedlaeth newydd o drapiau pryfed, wedi'u cynllunio i ddal rhywogaethau penodol megis y gwyfyn dillad cyffredin. Mae'r trapiau newydd yma wedi'u seilio ar bŵer rhyw. Mae'r benywod yn cynhyrchu persawr, neu fferomon - a all ddenu gwrywod dros bellter o sawl metr. Mae hyn yn effeithiol iawn ar gyfer gwyfynod mewn gofod cyfyng, megis cypyrddau ac ystafelloedd bach. Leinir y trapiau â glud a fersiwn synthetig o fferomon y gwyfyn dillad. Pryfleiddiadau fel dewis olaf Os llwydda'r gwyfynod i ymosod ar y defnydd, er gwaetha'r rhagofalon hyn, defnyddir pryfleiddiadau fel dewis olaf. Un o brif ddulliau rheoli plâu yn yr Amgueddfa yw gosod y gwrthrych mewn bag plastig a'i osod mewn rhewgell am ddau neu dri diwrnod, sy'n lladd y pryfed, yr wyau a'r larfaod, ond heb ddifrodi'r gwrthrych mewn unrhyw fodd, na gadael gwaddodion gwenwynig. Trwy gyfuniad o wyliadwriaeth, glanweithdra da ac arbenigedd, mae plâu o bryfed megis y gwyfyn dillad cyffredin yn brin y dyddiau yma, a gellir delio â hwy'n gyflym.
Ewch am dro i'r goedwig heddiw... 5 Ebrill 2007 Hypulus quercinus (Quensel), chwilen saproscylig brin a gasglwyd ym Mharc Ceirw Dinefwr Mae'r coed hynafol ym mharcdiroedd Prydain yn cynnwys nifer o rywogaethau prin o chwilod sy'n byw ar bren marw a ffwng. Mae arolygon Amgueddfa Cymru o barcdiroedd y wlad wedi datgelu nifer o rywogaethau na wyddys amdanynt ym Mhrydain cyn hynny. Parcdiroedd a Ffermio Ceirw Y Normaniaid oedd y ffermwyr ceirw cyntaf ym Mhrydain. Dechreuodd nifer o'r parcdiroedd fel porfeydd coedwig — tiroedd porfa agored â choed derw ar wasgar. Tociwyd y coed (torri'r canghennau yn ôl at y boncyff) er mwyn cynhyrchu tyfiant newydd. Byddai hyn yn ymestyn oes y coed, gan ddarparu egin y gallai anifeiliaid eu bwyta, yn ogystal â darparu cyflenwad digonol o goed. Y coed hynafol gorau yn Ewrop Trwy reoli'r parcdiroedd Prydeinig yn y modd hwn, cynhyrchwyd rhai o'r esiamplau gorau o goed hynafol yng ngorllewin Ewrop. Mae modd i goed mawr, gwag a goraeddfed oroesi am gannoedd o flynyddoedd. Mae'r coed hynafol hyn, a nifer o ffurfiau o ffwng a chennau, yn cynnal nifer fawr o anifeiliaid di-asgwrn-cefn prin fel chwilod a chlêr. Y Goedwig Hynafol Mae'r bron i 700 o rywogaethau o chwilod Prydeinig, a nifer fawr o anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill, yn dibynnu ar bren a ffwng am eu bodolaeth. Yr enw ar yr anifeiliaid yma yw anifeiliaid saproscylig ac roeddent yn gyffredin cyn i ddyn glirio'r goedwig wreiddiol a fu'n gorchuddio Prydain. Mae bron i 20 rhywogaeth o chwilod saproscylig o Brydain wedi diflannu yn ystod y 200 mlynedd diwethaf ac mae rhai o'r rhywogaethau ymhlith yr anifeiliaid di-asgwrn-cefn sydd mewn perygl ofnadwy ac yn brin iawn ym Mhrydain. Dim ond mewn parcdiroedd a phorfeydd coedwig sefydledig lle cadwyd y coed hynafol y mae'r rhywogaethau prin yma'n llwyddo i oroesi. Arolwg o Barcdiroedd Cymru — y cyntaf o'i fath Nid oedd parcdiroedd Cymru wedi cael eu harchwilio'n fanwl i geisio canfod pa mor bwysig ydyn nhw ar gyfer goroesiad y pryfed saproscylig nes i Amgueddfa Cymru gynnal arolwg ar ran Cyngor Cefn Gwlad Cymru ym 1996. Rhywogaethau newydd ym Mhrydain Darganfuwyd dros 350 rhywogaeth o chwilod a chlêr saposcylig, yn cynnwys rhai rhywogaethau na gofnodwyd yng Nghymru na Phrydain. Cyfoethogwyd casgliad pryfed yr amgueddfa genedlaethol yn fawr drwy ychwanegu'r rhywogaethau newydd hyn. Mae tri o'r safleoedd parcdir Cymreig a astudiwyd ymysg yr 20 safle gorau yn y Deyrnas Unedig yng nghyd-destun yr amrywiaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn saproscylig y maent yn eu cefnogi.
Ebrill 3, 2007 David Thorpe, 3 Ebrill 2007 Ers dechrau gweithio yn Sain Ffagan, mae fy 'niddordeb' mewn materion crefyddol wedi gorfod tyfu'n sylweddol. Ydw, wir, dwi'n ddigon hapus (wrth fy modd, bron) yn mwydro am oriau am yr Eglwys Ganoloesol; llafarganu, cerfluniau, darluniau Almaenig o'r Apocalyps hydnoed - ond mae maes 'Yr Eglwys Heddiw' yn llawer mwy niwlog a chythryblus ei olwg i fi na'r hen, hen hanes. Ces i ddipyn o gyflwyniad i'r pwnc pan yn trafod ail-gysegru'r Eglwys. Roedd yn rhaid ystyried pob math o broblemau dyrys - rhyw hybrid ysbrydol-ymarferol sy'n gorfod ystyried anghenion trigolion Pontarddulais, yr Eglwys yn Nghymru a thros chwe chan mil o ymwelwyr y flwyddyn. Mae'n codi sylw at nyth gacwn o enwadau, defodau, ac, yn naturiol, hanes difodiant adeiladau tebyg, nad oedd lle iddynt yma yn Sain Ffagan.Roedd hi'n braf, felly, gweld yr erthygl hon (http://news.bbc.co.uk/1/hi/magazine/default.stm), felly, ar dudalen Saesneg y BBC. Mae'n adlewyrchu cymaint o'r themau yr hoffem ni - ac y bydd raid i ni - fynd i'r afa'l â nhw wedi i'r Eglwys agor yn swyddogol fis Hydref. Beth yw rôl addoldy heddiw - ai creiryn yn unig fydd yr Eglwys wrth iddi agor? Gobeithio y bydd digon ohonoch chi'n ymweld â ni i roi dipyn o fywyd i'r lle - does dim byd tebyg i'r teimlad yna pan fydd hi'n llawn pobl!Felly, gyda'r mwydro lled-athronyddol o'r ffordd, rhaid troi ngolwg i'r Pasg. Stori'r Atgyfodiad yw prif thema ein murluniau - a bydd yr artist Tracey Williams a minnau'n cynnal gweithgareddau'n peintio a dehongli'r stori dros y pythefnos nesa'. Mae croeso i chi alw i mewn i gymryd rhan - dewch â'ch het artist gyda chi!
Mawrth 27, 2007 David Thorpe, 3 Ebrill 2007 Pnawn da. Gai ddechre trwy estyn gwahoddiad ichi (nage, ddim i'r Eglwys. 'Dych chi ddim wedi blino darllen am honno eto...)?Mae Oriel 'Perthyn' (neu 'Belonging') newydd Sain Ffagan yn agor yn swyddogol ar ddydd Sadwrn, Mawrth 31, 2007 - gobeithio y gallwch ymweld â ni! Mae'r Oriel wedi bod yn wagle tywyll ers rhai misoedd 'nawr, ond mae'r goleuadau, y camerâu a'r gwrthrychau i gyd wedi'u gosod - ac un ohonynt yn arbennig â chysylltiad gyda'r Eglwys. Dim ond jyst a ffitio i mewn i'w chornel 'mae hi, ond mae murlun Santes Catrin yn werth ei gweld. Rhaid ifi gyfadde' teimlo braidd yn bigog-tu-fewn pan welais i hi'n cael ei symud o'i chuddfan yn y Castell i lawr i'w chartref newydd - mae hi gyda un o'r olion hynaf o ddarlunio o'r Eglwys ac yn fregus iawn.Cafodd y Santes ei phaentio yng nghanol y 14eg Ganrif, ac yn ffigwr pwerus, gosgeiddig iawn. Mae'r olwyn y tu ol iddi, wrth gwrs, yn ein hatgoffa o artaith y Cristnogion cynnar - yn ogystal ag agwedd hard sell yr Eglwys Gatholig Ganol Oesol. Mae gan bob un o'r seintiau yn yr Eglwys wrthrychcau i'n atgoffa o stori eu bywyd - ond canolbwyntio ar eu rhinweddau fyddwn ni heddiw, yn hytrach na'r aberth a'r boen welwn yn y darluniau canoloesol. Ta waeth, mae 'na gannoedd o bethau eraill (o oes cyn Crist i foddi Capel Celyn) i'w gweld yn yr Oriel newydd - ond cofiwch ddweud helo wrth y Gatrin pan ewch chi heibio.Cyffro yng nghasgliad yr Amgueddfa - a chyffro felly i'n dehonglwyr: roedd rhaid ffarwelio â'n 'Celt' preswyl, Owain (hwnnw wedi mynd i adeiladu nyth wiail i'w epil newydd), a chroesawu Anna i'n plith (y hi fydd yn gweithio yn Oriel Perthyn) yr wythnos hon. Ychwanegu hwnnw at chwa'r gwanwyn o fysus ysgol, ynghyd â'r gobaith y cai amser i dynnu gwynt a sgrifennu'r wythnos nesa, a dyna fy wythnos. Hwyl am y tro!
Oriorau Ymbelydrol yn Amgueddfa Cymru 2 Ebrill 2007 Mae nifer o eitemau yng nghasgliad oriorau Amgueddfa Cymru'n 'tywynnu mewn tywyllwch'. Y sylwedd sy'n achosi'r oriorau i dywynnu (goleuedd) yw radiwm. Gan fod radiwm yn ymbelydrol, mae'n rhaid cymryd gofal wrth drin a thrafod yr oriorau, sy'n golygu bod eu cadw, eu harddangos, a darparu mynediad atynt, yn her fawr. Radiwm Oriawr garddwrn dyn, o 1918, yn dangos rhannau lle mae'r paent radiwm wedi dirywio, neu ar goll yn gyfangwbl. Darganfuwyd Radiwm gan Marie Curie ym 1898, a daeth i fod yn rhyfeddod y ganrif newydd - credwyd, yn eironig, ei fod gwella popeth, o arthritis i ganser. Achosir yr effaith dywynnol drwy gymysgu sylweddau megis sylffid sinc a radiwm. Ym 1902, defnyddiwyd y sylwedd ymoleuol hwn yn wreiddiol i beintio wynebau a bysedd oriorau a chlociau, er mwyn eu gweld yn y tywyllwch. Bu farw Marie Curie ym 1934 o ganlyniad i'w chysylltiad agos â radiwm. Mae'r llyfrau nodiadau, a ddefnyddiodd i gofnodi'r holl arbrofion, yn parhau i fod yn rhy ymbelydrol i'w trafod heddiw. Y Merched Radiwm Yn fuan daeth oriorau a dywynnai yn y tywyllwch yn boblogaidd gyda'r farchnad dorfol, ac yn y 1920au, sefydlwyd ffatrïoedd cynhyrchu lle byddai merched yn cymysgu glud, dŵr, a phowdr radiwm, i wneud paent tywynnol gwyn â gwawr werdd i'w osod ar yr oriorau. Er mwyn peintio rhifau taclus a chlir ar y deialau, roedd angen sicrhau bod gan y brwsis flaenau main iawn. Collai'r brwsis eu siâp ar ôl ychydig gyffyrddiadau, felly byddai'r merched yn eu "miniogi" drwy rolio'r blaenau ar eu tafodau i sythu'r blew, weithiau gymaint â 6 thro ar gyfer pob wyneb oriawr. Byddai rhai'n peintio'u dannedd hyd yn oed, neu'n gwisgo "colur" tywynnol fel y gallent frolio i'w ffrindiau. Bu nifer o'r merched yma farw o ganser yn ddiweddarach. Profi am ymbelydredd yn yr amgueddfa Defnyddiwyd mesurydd ymbelydredd (mesurydd Geiger) i fesur lefelau ymbelydredd y clociau a'r oriorau sydd yng nghasgliadau'r amgueddfa. Dangosodd y darlleniadau uchaf bod gan rai deialau ddarlleniad o 3000 cyfrif yr eiliad, o'i gymharu â'r lefel naturiol o 8-10 cyfrif yr eiliad. Mae'r dos mesuradwy o Radiwm sydd mewn oriawr tua 5 gwaith yn fwy na'r dos a geir mewn pelydr-x safonol o'r frest. Cadarnhaodd y darlleniadau y gallai'r wynebau fod yn beryglus, os na wneid unrhyw beth i gyfyngu ar gysylltiad pobl â hwy. Penderfynwyd, felly, y dylid: Cau'r eitemau ymbelydrol mewn deunydd o ddwysedd digonol; Cadw'r eitemau ymbelydrol mewn rhan dawel o'r storfeydd; Gosod arwyddion yn rhybuddio natur y perygl. Symudwyd pob gwrthrych a oedd yn cynnwys radiwm, a oedd yn cael ei arddangos yn gyhoeddus, er mwyn ei storio'n ddiogel. Llwch ymbelydrol Er bod modd rheoli amodau storio'r gwrthrychau hyn yn effeithiol, mae eu cadw'n fater o bryder. Gan fod rhai o'r wynebau gymaint â 100 mlwydd oed, gall y paent droi'n llwch, gan gynyddu'r perygl o heintio drwy gysylltiad uniongyrchol â'r llwch ymbelydrol. Mae'n bosib anadlu'r llwch wrth weithio ar y wynebau, megis gweithio ar y mecanwaith, glanhau'r deialau, y bysedd neu'r gorchuddion, er enghraifft. O ganlyniad, caiff pob gwrthrych ymbelydrol yn yr amgueddfa ei drin gyda'r gofal priodol, er mwyn gwarchod staff cadwraethol. Dadfeilio Ymbelydrol Yn ddiddorol, mae profion yn dangos nad yw gloywder y wynebau'n gysylltiedig â'r lefel o ymbelydredd sy'n bresennol. Hyd yn oed os yw paent yr wyneb yn wan neu'n anweledig yn y tywyllwch, gall roi darlleniad ymbelydrol uchel. Er bod y cemegyn ymoleuol adweithiol wedi dadfeilio, gall yr elfen ymbelydrol, sef radiwm, barhau i fod yn beryglus am flynyddoedd i ddod.