Eiconau Kalighat - Paentiadau o Galcutta'r 19eg ganrif 2 Ebrill 2007 Daethpwyd â'r paentiadau arddull 'Kalighat' yng nghasgliad Amgueddfa Cymru o India tua 1880. Maent yn cynrychioli ffurf ar gelfyddyd Indiaidd a oedd wedi diflannu erbyn 1940. Maent yn weithiau gan arlunwyr proffesiynol a elwir yn 'patuas' yn Bengaleg, a gwerthwyd hwy am swm oedd yn gyfwerth â cheiniog yr un mewn marchnadoedd a ffeiriau yn ardal Calcutta a'r cylch, yn arbennig wrth gatiau teml enwog Kalighat, a roddodd yr enw i'r arddull. Adrodd Hanesion Yn Bengal, ers canrifoedd, bu arlunwyr teithiol proffesiynol, a elwir yn 'patuas' neu 'chitrakars', yn peintio lluniau neu 'pattas' ar lieiniau neu bapur wedi'i wneud â llaw. Byddai'r rhain yn cael eu gwnïo at ei gilydd er mwyn creu sgroliau hir o ddelweddau. Teithiai'r arlunwyr hyn o amgylch pentrefi gwledig, gan ddadrolio'r delweddau wrth adrodd neu ganu'r straeon. Mae teuluoedd patua sy'n byw yn yr ardaloedd gwledig o amgylch Calcutta, yn parhau'r traddodiad hyd heddiw. Patuas yn symud i'r ddinas Erbyn 1806, roedd rhai patuas wedi symud i Galcutta – basâr mwyaf Bengal. Roedd gan y farchnad drefol newydd hon botensial anferth. Yn ogystal â'r trigolion lleol, roedd ymwelwyr tymhorol â Chalcutta eisiau cofroddion fforddiadwy. Gyda phapur rhad wedi'i wneud â pheiriant a phaentiau parod, sefydlwyd nodweddion hanfodol yr arddull. Cedwid y cynlluniau'n syml, fel bod modd eu hailadrodd yn unol â phoblogrwydd y llun. Byddai manylder y sgroliau'n diflannu wrth i'w poblogrwydd gynyddu. Traddodiadau a chrefydd Arweinid yr arlunydd gan rai traddodiadau Hindŵaidd. Roedd gan bob Duwdod fformwla fyfyriol arbennig – dhyan mantra – y byddai'r arlunwyr yn ceisio'u cynhyrchu mewn llinellau a lliw. Mae'r straeon traddodiadol yn disgrifio ymarweddiad a gweithredoedd y duwiau a'r duwiesau, eu pryd a'u gwedd, eu hosgo, eu meirch a'u harfau, ac roedd raid iddynt ddarlunio'r cyfan yn gywir. Delweddau Hindŵaidd a gwyliau Moslemaidd Gan fod Calcutta'n eithriadol o gosmopolitaidd, cynrychiolir yr ŵyl Foslemaidd bwysig Muharram yn ogystal â'r delweddau Hindŵaidd. Mae'n bosib bod nifer o'r arlunwyr Kalighat wedi derbyn credoau Hindŵaidd a Moslemaidd, fel y gwna nifer o'r arlunwyr sgroliau heddiw, gan fabwysiadu dau enw gwahanol, un o'r naill draddodiad a'r llall. Cychwyn y Casgliad Kalighat Nid oes modd olrhain y casgliad yn yr Amgueddfa yn gynharach na 1954. Gan gymryd eu bod yn ffurfio un grŵp, mae'n debygol iddynt gael eu prynu yn Calcutta tua 1873. Mae'n bosib mai Ffrancwr oedd y perchennog gwreiddiol. Prynwyd casgliad sydd bellach yn Llyfrgell Bodley, Rhydychen, rhwng 1860 a 1870, ac mae'n cynnwys delweddau tebyg. Mae'n gasgliad tebyg i'r saithdeg a thri o eitemau sydd yn yr Amgueddfa Victoria and Albert, yn Llundain, a brynwyd yn India rhwng 1865 a 1893. Cwymp arddull y Kalighat Mae'n debyg mai 1870 oedd y flwyddyn pan gyrhaeddodd poblogrwydd y paentiadau hyn eu hanterth. Er mwyn cyflymu'r broses gynhyrchu, ceisiodd rhai teuluoedd ddefnyddio amlinelliad lithograffig yn ystod y 1840au, ond ni pharhaodd hyn am lawer o flynyddoedd. Daeth y cromolithograff, a fedrai gynhyrchu lliwiau mwy llachar a phrintio niferoedd uchel iawn, i danseilio'r teuluoedd a fu'n peintio a llaw, a llyncu'r farchnad. Erbyn y 1930au roedd y ffurf gelfyddydol boblogaidd hon wedi diflannu'n gyfan gwbl. Yn anffodus, dim ond nifer fach o'r miloedd o'r pats Kalighat o'r 19eg ganrif sydd yn goroesi yn India heddiw, naill ai mewn Amgueddfeydd neu mewn casgliadau preifat. Ni phrynwyd hwy erioed gan y cyfoethogion a ystyriai nad oeddynt yn deilwng i gael eu galw'n gelfyddyd. Cafodd y papur rhad a nodweddiadol fregus a oedd yn cynnwys cynnyrch celfyddyd y patuas ei ddifrodi'n fuan iawn yn y cartrefi tlotaf, naill ai drwy ddifrod uniongyrchol neu gan nad oedd dim i'w amddiffyn rhag yr hinsawdd laith. Darllen Cefndir W. G. Archer, Kalighat Paintings, London 1971 Balraj Khanna, Kalighat – Indian Popular Paintings, London, 1993 Hana Knizkova, The Drawings of the Kalighat Style, Prague, 1975
Celfyddyd Geltaidd - Gwreiddiau a Chwedlau 2 Ebrill 2007 Y Celtiaid Y darn harnais o'r Oes Haearn Hwyr o Alltwen Mae astudio gwahanol arddulliau celf 'Geltaidd' ar waith metel yn gymorth i ddeall pobloedd Ewrop yn Oes yr Haearn. Defnyddiwyd celfyddyd La Tène, sef yr enw cywir amdano, ar draws Ewrop o ddiwedd y 5ed ganrif CC ymlaen. Roedd y gelfyddyd yn gwbl wahanol i arddulliau'r byd Canoldirol clasurol, a ddefnyddiai ffurfiau naturiol mewn arddull a lifai'n rhydd. Credir mai'r Celtiaid oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r arddulliau La Tène cynnar. Roeddent yn bobl oedd yn rhannu ieithoedd, cymdeithasau a chredoau crefyddol paganaidd cyffelyb. Heriwyd y dyb yma'n ddiweddar; heddiw mae arbenigwyr yn credu bod arddulliau gwaith metel tebyg yn awgrymu i'r math yma o gelfyddyd groesi ffiniau diwylliannol, ac na wnaeth, o reidrwydd, aros o fewn ffiniau un hunaniaeth ethnig arbennig. Mae gan Gymru nifer o ddarganfyddiadau o waith metel wedi'u haddurno yn yr arddulliau celf La Tène, ac mae esiamplau ohonynt yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Enamelau Gwydr Dadansoddi samplau yn defnyddio Microsgop Scanio Electron Meistrolwyd y dechneg o osod 'enamel' coch ar waith metel addurnedig gan weithwyr metel ym Mhrydain o'r 3ydd ganrif CC ymlaen. Math o wydr yw'r enamel mewn gwirionedd, a osodir drwy dorri darnau i'r siapiau cywir; cynheswyd y darnau yn ofalus nes eu bod yn feddal, cyn eu gwthio i mewn i'r gwaith metel. Darganfuwyd esiampl wedi ei addurno drwy gelfyddyd La Tène, gyda'r enamel coch, yn Alltwen ger Pontardawe (Castell Nedd - Port Talbot), a brynwyd gan Amgueddfa Cymru. Mae'r darganfyddiad wedi codi cwestiynau ynghylch gwrthrychau enamlog ac addurnedig o Oes yr Haearn. Pa mor debyg (neu wahanol) oedd traddodiadau gwaith metal gogledd a de Cymru? A fu Aber yr Afon Hafren yn rhwystr neu'n ffocws diwylliannol i weithwyr metel rhwng De Cymru a de-orllewin Lloegr yn ystod yr Oes Haearn hwyr? Sut mae'r 'enamelau' (gwaith gwydr) yma'n dirywio? Tynnu samplau i'w dadansoddi Crysialau cwprit o fewn i'r matrics gwydr Ymhlith yr eitemau a ddewiswyd ar gyfer eu hastudio roedd darn o gyfrwy ceffyl o Gaerdydd, Powlen yr Wyddfa (Gwynedd) gyda'r motiff sy'n debyg i gath, a detholiad o offer marchogaeth o gelc Blaendulais (Castell Nedd - Port Talbot), yn ogystal â darganfyddiad Alltwen. Cymerwyd samplau bach o enamel o'r gwrthrychau; gosodwyd a chabolwyd hwy ar sleid microsgop. Gwnaed dadansoddiadau o samplau gan ddefnyddio Microsgop Sganio Electron a dadansoddiad Pelydr-x. Astudiwyd strwythur yr enamelau hefyd, drwy ddefnyddio cyfuniad o olau trosglwyddedig ac achlysurol gan ddefnyddio microsgop polareiddio golau. Mae canlyniadau'r dadansoddi'n dangos gwydr 'calch-soda', a oedd yn cynnwys llawer o blwm a chopr. Dyma sydd yn gyfrifol am liw coch llachar ac anhryloywder y gwydrau hyn. Mae'r broses o'u cynhyrchu'n un ddatblygedig yn dechnegol, a gellir eu cynhyrchu yn unig drwy reoli cynhwysion y gwydr ac amodau'r ffwrnais yn ofalus. Mae'r canlyniadau'n dangos bod gwrthrychau enamel o dde Cymru'n cyfateb yn weddol agos i'r rhai o dde-orllewin Lloegr; Fodd bynnag, mae'r enamel ar Bowlen yr Wyddfa yn wahanol iawn i'r gweddill. Awgryma hyn bod y broses o gynhyrchu'r gwydrau yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru.
Pan Ymosododd y Llychlynwyr ar Ogledd Cymru 2 Ebrill 2007 Mae cofnodion hanesyddol yn sôn am gyfres o ymosodiadau brawychus gan oresgynwyr Llychlynnaidd ar arfordiroedd Prydain, Ffrainc a'r Iwerddon yn negawd olaf yr 8fed ganrif. Digwyddodd y cyrch cyntaf ar Gymru i gael ei gofnodi yn 852, a gwyddwn i'r Llychlynwyr ymosod ar Ynys Môn a Gwynedd o 854 ymlaen. Rhodri Mawr, Brenin Gwynedd (844-78) oedd arweinydd y gwrthsafiad i'r ymosodiadau hyn, ac fe laddodd bennaeth y Daniaid, Gorm, yn 855. Yn 903 daeth y Llychlynwyr i Ynys Môn wedi iddynt gael eu herlid o Ddulyn. Yn ôl cofnodion y Gwyddelod a'r Cymry, methiant fu eu hymdrechion i sefydlu troedle yng Nghymru, a bu'n rhaid iddynt hwylio ymlaen i Gaer. Anrheithiwyd Ynys Môn gan y Llychlynwyr eto yn 918. Bu ymosodiadau cyson ar yr ynys yn ystod ail hanner y 10fed ganrif; adeiladodd Olaf o Ddulyn gastell o'r enw 'Castell Olaf' neu 'Castell Bon y Dom' tua'r flwyddyn 1000. Bellach, mae'r darlun hanesyddol unochrog hwn o'r Llychlynwyr yn brawychu'r wlad wedi cael ei drawsnewid gan archeoleg. Roedd y Llychlynwyr yn sicr yn elyniaethus a threisgar ar brydiau, ond gweld eu cyfle a wnaent yn aml. Mewn rhai ardaloedd, ymsefydlodd y Llychlynwyr yn amaethwyr heddychlon, a dengys tystiolaeth archeolegol eu bod yn wladychwyr, masnachwyr, a chrefftwyr medrus. Hyd heddiw, natur ymsefydliad y Llychlynwyr yng Nghymru, ac ar Ynys Môn yn enwedig, yw un o ddirgelion mwyaf archeoleg yr Oesoedd Canol cynnar. Amlygir hyn wrth blotio'r mesuriad Llychlynnaidd - 'un diwrnod o hwylio' o Ynys Manaw, Dulyn, Caer a Chilgwri, gan eu bod i gyd yn cyfarfod yn nyfroedd Ynys Môn. Darnau o ingotau arian a breichdorchau o'r 10fed ganrif Y Llychlynwyr yn enwi Ynys Môn Mae'r dystiolaeth ffisegol am y Llychlynwyr yng Nghymru'n llai pendant, hyd yn oed. Gwyddom fod y Llychlynwyr yn gyfarwydd ag Ynys Môn oherwydd rhoddwyd enwau o darddiad Sgandinafaidd i'r nodweddion arfordirol amlwg a ddefnyddiwyd ganddynt fel cymorth wrth fordwyo: Onguls-ey ei hun, sy'n ymgorffori enw personol yn ôl y traddodiad - arweinydd Llychlynnaidd mae'n debyg, The Skerries (Ynysoedd y Moelrhoniaid), Piscar, Priestholm (prestaholmr) ac Osmond's Air ger Biwmares, sy'n tarddu o'r enw Asmundr & eyrr, traethell raean ger y môr. Dadorchuddio tystiolaeth o'r Llychlynwyr yng Nghymru Am ddarlun mwy gwirioneddol o'r Llychlynwyr yng Nghymru, rhaid troi at archeoleg. Darganfuwyd y rhan fwyaf o'r darnau arian Llychlynnaidd a ganfuwyd yng Nghymru mewn ardaloedd arfordirol. Canfuwyd dau gelc ym mynachlog Sant Deiniol, Bangor, un yn dyddio o tua 925, a grŵp bach o geiniogau a osodwyd yno tua 970. Gosodwyd celc ceiniogau Bryn Maelgwn , ger Llandudno yn y 1020au canol, ac fe allai fod yn ysbail Lychlynnaidd yn hytrach na chynilion lleol; ac fe ganfuwyd celc hynod o bum breichdorch arian cyflawn yn y 19eg ganrif ar Draeth Coch, Ynys Môn. Anheddiad Oes y Llychlynwyr yn Llanbedrgoch Un o'r safleoedd archeolegol mwyaf diddorol o gyfnod y Llychlynwyr yw Llanbedrgoch , ar Ynys Môn, ac mae gwaith ymchwil gan Amgueddfa Cymru wedi cyfrannu tuag at ddatgelu natur bywyd yn Oes y Llychlynwyr, sydd wedi bod yn ddirgelwch i ysgolheigion ers degawdau.
Symud murlun ffresgo cain i'w gadw 30 Mawrth 2007 Dyfrlliw gan F.G. Newton, 1905 Tynnu un o'r paneli Ym 1988, yn ystod cloddfa archeolegol ar safle siambr y cyngor ym masilica (neuadd ymgynnull) tref Rufeinig Caerwent, datguddiwyd murlun cain sydd bellach wedi cael ei symud i'w gadw a'i arddangos. Roedd y plastr paentiedig, neu'r ffresgo, sydd 5 metr o hyd ac l metr o uchder, wedi'i gysylltu â wal ddeheuol y siambr. Cofnodwyd ef yn flaenorol mewn darlun dyfrlliw gan F.G. Newton ym 1905, cyn iddo gael ei orchuddio eto. Mae'r ffresgo'n dangos persbectif pensaernïol, gyda philastrau melyn neu baneli uwchben dado pinc â gwythiennau brown. Mae'n bosib bod y darn brown tywyll ynghanol y pilastr canolog yn rhan o banel addurnedig, a oedd, o bosib, yn cynnwys corff dyn. Penderfynwyd tynnu'r ffresgo er mwyn atal dirywiad pellach gan fod y plastr yn hynod o fregus. Ar ôl gorchuddio'r gwaith celf cain yn ofalus gyda mwslin a glud, torrwyd y paentiad yn pum panel - pob un wedi'i gau mewn bocs pwrpasol. Roedd tynnu'r paentiad o'r wal yn broses anodd, a bu'n rhaid defnyddio amrywiaeth o lifiau a chynion i wneud y gwaith. Gan nad oedd modd cael mynediad at gefn pob panel ond trwy'r pen uchaf ac un o'r ochrau'n unig, roedd y broses yn anodd ac roedd angen cryn dipyn o amynedd a dyfeisgarwch. Cymerodd gyfanswm o naw niwrnod i symud y paentiad, ac aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn i'r gwaith cadwraethol, a'r gwaith o ailosod cefn y paentiad ddod i ben. Bellach, mae'r ffresco'n cael ei gadw a'i storio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Darllen cefndir:
Dyrnaid o Ddoleri 30 Mawrth 2007 Arian 8-reales, neu'r 'Pillar Dollar', Mecsico, 1741. Tra bo casgliad nwmismateg (darnau arian) yr Amgueddfa'n cynnwys darnau arian o Brydain yn bennaf, mae hefyd yn cynnwys grwpiau o ddarnau sy'n nodweddiadol o arian tramor, sy'n hwyluso'r broses o osod esblygiad arian Prydeinig yn ei gyd-destun rhyngwladol. Tarddodd y ddoler, un o unedau arian mwyaf dylanwadol y byd heddiw, ym mlynyddoedd olaf y 15fed ganrif. Bu cynnydd aruthrol yng nghynhyrchiant metel yn Ewrop yn sgil darganfod meysydd arian newydd a datblygiadau yn nhechnoleg mwyngloddio, ac fe ddechreuodd gwledydd canolbarth Ewrop gynhyrchu ceiniogau arian mawr a oedd yn gyfwerth â cheiniogau aur y cyfnod. Mae'r enw 'dollar' yn tarddu o'r St Joachimsthaler Guldengroschen a fathwyd gan yr Ieirll Slik yng Nghanolbarth Ewrop tua 1520. Wrth i'r 'Thaler' ddod yn enw generig am ddarnau arian maint coron yn y taleithiau Almaenig, dechreuodd y term Saesneg 'dollar' ymddangos tua dechrau'r 17eg ganrif. Masnachwyd niferoedd anferth o'r doleri a gynhyrchwyd yn nhrefedigaethau Sbaenaidd Mecsico a De America ('darnau wyth') drwy'r byd, gan osod y safon ar gyfer arian nifer o'r gwledydd oedd yn datblygu yn y 18fed a'r 19eg ganrif.