Gwasanaeth Neilltuol - Medalau am Rhyfelgyrchoedd a Dewrder 30 Mawrth 2007 Bathodyn arian 'Menter Ddiobaith' 1643 Medal De Affrica 1877-79: '1428 Pte E. Jones 2.24th Foot' Sarjant Evan Jones, tua 1917. Ganed yng Nglyn Ebwy ym 1859 ac ymrestrodd ym Milisia Trefynwy ym 1874, gan ymuno â chatrawd y '24th Foot' ym 1877. Gwasanaethodd yn Ne Affrica, ac ar 23 Ionawr 1879 roedd yn rhan o'r gwarchodlu bychan a warchododd Rorke's Drift yn erbyn ymosodiad anferth gan y Zwlŵaid. Gwasanaethodd yn ddiweddarach yn ardal Môr y Canoldir, India a Byrma, ac fe arhosodd yn y fyddin mewn gwahanol unedau tan 1920. Bu farw yn Y Trallwng ym 1931. Casgliadau medalau Amgueddfa Cymru Ffurfiwyd casgliadau medalau Prydeinig Amgueddfa Cymru yn y 1920au diolch i roddion gan ddau ŵr. Ym 1922, rhoddodd y Cyrnol Syr William Watts ei gasgliad o 105 o fedalau llyngesol a milwrol Prydeinig i'r Amgueddfa, ac ym 1923, derbyniwyd medalau tebyg yn rhodd hael gan W. Lisle Bowles. Drwy hyn, cafodd yr Amgueddfa gasgliad nodweddiadol o fedalau rhyfelgyrchoedd milwrol Prydeinig, o frwydr Waterloo (1815), sef y frwydr gyntaf lle cafodd pawb a gymerodd ran ynddi fedal, i Ryfel Mawr 1914–18, ac wedi hynny. Serch hynny, nifer fach yn unig o'r medalau milwrol a dewrder hyn sydd ag unrhyw gysylltiadau Cymreig. Yn ddiweddar, felly, mae'r amgueddfa wedi canolbwyntio ar agweddau Cymreig wrth brynu a derbyn rhoddion, gan mai ein polisi datganedig yw casglu medalau 'sydd â chysylltiadau â gweithredoedd pobl Cymru'. 'Menter ddiobaith' Gwobr filwrol gynharaf y casgliad yw'r bathodyn 'Menter Ddiobaith', o gyfnod Rhyfel Cartref Lloegr, a roddwyd i'r milwyr hynny a ddewiswyd i frwydro ar flaen y gad. Cyflwynwyd y wobr Frenhinol hon ym 1643 gan Thomas Bushell, peiriannydd mwyngloddio a meistr y bathdy yn Aberystwyth. Arwyr Sifil Cyflwynwyd Medal Albert am y tro cyntaf ym 1866, fel cydnabyddiaeth am ddewrder ar y môr yn wreiddiol, ond cafodd ei estyn ym 1877 i gynnwys achub bywydau ar dir sych, pan wobrwywyd arwyr Pwll Glo Tynewydd, y Rhondda, am achub bywydau pump o'u cydweithwyr fu'n gaeth yn ddwfn o dan y ddaear am naw niwrnod oherwydd llifogydd. Bellach mae nifer o'r Medalau Albert oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad hwn yng Nghasgliad yr Amgueddfa. Pan grëwyd Medal Edward ym 1907 am ddewrder mewn pyllau glo a chwareli, cyflwynwyd un o'r ddwy wobr gyntaf i Gymro o'r enw Henry Everson o Bwll Glo Penallta. Rhoddodd ei fab y fedal yn rhodd i'r Amgueddfa ym 1978. O Albert i Edward i George Ym mis Rhagfyr 1971 diddymwyd medalau Albert ac Edward, a chyflwynwyd y George Cross yn eu lle. O blith y rhai a benderfynodd gyfnewid eu gwobrau, dewisodd saith ohonynt roi eu hen fedalau i'r Amgueddfa. Enillodd dau ohonynt, sef Gordon Bastian ac Eynon Hawkins, Fedal Albert am eu dewrder ar y moroedd, ar ôl achub aelodau eraill o'u criw mewn llongau a gafodd eu taro â thorpidos ym 1943. Mae tri o Fedalau 'tir' Albert yn perthyn i Walter Cleall; [linc i Fedal Albert @ CymruFu] Kenneth Farrow, heddwas o Gaerdydd a geisiodd achub bachgen bach rhag boddi; a Margaret Vaughan a achubodd fachgen a gafodd ei ddal gan droad y llanw ar Ynys Sili ger y Barri, pan yr oedd hi'n ferch ysgol. Gwroldeb a Dewrder Mawr Ym 1990, cafodd yr Amgueddfa dair Medal George sydd â chysylltiadau Cymreig. Crëwyd medalau y George Cross a Medal George ym 1940 - yn bennaf fel ymateb i'r cynnydd mewn perygl i ddinasyddion yn ystod y cyrchoedd awyr. Ar 19 Awst 1940, bomiwyd storfa'r Llynges Frenhinol yn Llanreath, Sir Benfro, a bu'n llosgi am ddau ddiwrnod ar bymtheg gan ddinistrio dros ddeg miliwn ar hugain o alwyni o olew. Dyna fu'r tân mwyaf a welwyd erioed ym Mhrydain. Roedd Norman Groom yn un o'r 650 o ddynion tân fu'n ymladd yn erbyn y fflamau ac un o'r tri gŵr o Gaerdydd a dderbyniodd Medal George. Tynnodd Thomas Keenan, gwyliwr nos, fom gyneuol o ben tanc a oedd yn cynnwys 300,000 galwyn o betrol mewn storfa yn Ferry Roed, Caerdydd, ar 2 Ionawr 1941. Dim ond blas ar yr hanes yw'r gwobrau a amlygir yma. Yn wahanol i fedalau gwledydd eraill, mae medalau milwrol a'r mwyafrif o'r medalau gwroldeb Prydeinig, er dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cynnwys enw (ac mewn gwobrau milwrol, rhif, rheng ac uned) pob derbyniwr. Roedd y miliynau o sêr ymgyrchol a medalau Rhyfel Mawr 1914–18 wedi'u henwi yn unigol, er bod rhai'r Ail Ryfel Byd wedi'u dosbarthu heb enwau er mwyn arbed costau, o bosib. Mae'r mwyafrif o'r medalau, felly, yn fan cychwyn ar gyfer ymchwil hanesyddol i fywydau'r unigolion.
Y Forum-basilica Fawr yng Nghaerwent 30 Mawrth 2007 Caerwent: y wal ddeheuol a'r tyrau Dim ond dwy dref Rufeinig a fodolai yng Nghymru hyd y gwyddom, sef Caerfyrddin (Maridunum) a Chaerwent (Venta Silurum). Caerwent oedd y dref fwyaf o bell ffordd. Ar un adeg pentref bach Caerwent, ger Cas-gwent yn ne Cymru, oedd prif dref weinyddol y Silwriaid, y llwyth Celtaidd a boblogai dde-ddwyrain Cymru. Yn y 1980au cyflawnodd Amgueddfa Cymru raglen gynhwysfawr o gloddfeydd ymchwil i gynnyddu'r wybodaeth am ddatblygiad cynnar y dref Rufeinig hon. Dim ond topiau'r adeiladau a ddatgelwyd gan gloddfeydd cynharach, a roddodd ddarlun o dref o gyfnod Rhufeinig hwyr. Y Forum-basilica Fel pob tref Rufeinig, safai'r fforwm (marchnad) yn ei chanol, a'r basilica (neuadd ymgynnull) wrth ei ochr. Archwiliwyd y forum-basilica yn gyntaf ym 1907 a 1909. Adferwyd cynllun yr adeilad bron yn gyfan gwbl, ond nid oedd tystiolaeth bendant ynglŷn â'r dyddiad y cafodd ei adeiladu'n wreiddiol. Yn ystod cloddfeydd yn y 1980au dadorchuddiwyd rhannau mwyaf trawiadol yr adeilad er mwyn eu harddangos, ac yn y diwedd, datryswyd eu hanes strwythurol. Aed i mewn o'r brif stryd i'r forum, marchnad betryal agored wedi'i hamgylchynu ag ystafelloedd ar dair ochr, drwy fynedfa fwaog. Byddai sgwâr palmantog yn darparu gofod addas i osod stondinau dros dro ar ddyddiau marchnad. Byddai'r rhesi o ystafelloedd, a osodwyd y tu ôl i golofnres orchuddiedig, yn cael eu defnyddio fel siopau, tafarndai a swyddfeydd. Mae'n debygol y byddai ail lawr wedi bod uwch eu pen, gyda rhagor o ystafelloedd, a theras efallai. Mae'r basilica'n cynnwys y neuadd fawr yn ogystal ag amrywiaeth o ystafelloedd a siambrau. Byddai'r neuadd fawr wedi cael ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus mawr a seremonïau. Hyd yn oed cyn dechrau'r gloddfa, safai rhai o'r muriau gymaint â 2m uwch lefel y tir, gan iddynt gael eu hymgorffori i adeiladau amaethyddol a godwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cloddfa ochr ddwyreiniol prif neuadd y basilica, gyda'r draen ym mlaen y llun Yn ôl yr arfer, mae'r brif neuadd yn cynnwys corff a dwy ystlys wedi'u rhannu gan golofnresau a gynhaliai lofft olau fel sydd mewn eglwysi mawr. Roedd seiliau'r muriau oedd yn cynnal y colofnau bron 2m o ddyfnder. Safai'r colofnau mawr cerrig, a gerfiwyd o dywodfaen lleol, yn 9m o uchder. Amcangyfrifir bod y basilica dros 20m o uchder. Rhedai ffos o dan lawr y basilica i gario dŵr glaw oedd wedi cronni yn y cafnau o amgylch parc y forum. Defnyddiwyd blociau anferth o dywodfaen lleol, rhai ohonynt yn pwyso mwy na thunnell, ar gyfer ochrau a chaead y ffos, a gorchuddiwyd y llawr gyda theils to. Roedd modd cael mynediad i'r draen i'w lanhau drwy dwll archwilio hanner-cylch, a dorrwyd o un o'r meini capan. Yn y canol roedd yr aedes, neu'r gysegrfa, lle byddai cerfluniau o'r Ymerawdwr a duwiau dinesig wedi'u gosod. Roedd y llawr yn y rhan hon yn uwch na gweddill y basilica, gan ei gwneud yn fwy amlwg. Ar ochr orllewinol yr aedes roedd ystafell y curia neu siambr y cyngor. Mae'r mur deheuol tua 2m o uchder wedi goroesi ac wedi'i orchuddio â phlastr sy'n cynnwys dyluniadau pensaernïol. Ym mlynyddoedd olaf ei hanes, addurnwyd y llawr â phaneli mosäig. Roedd sianelau bob ochr i'r mosaigau, a chanfuwyd ceudodau cyfatebol yn y plastr ar y mur deheuol. Eu swyddogaeth oedd dal fframwaith pren y meinciau yr eisteddai cynghorwyr y cynulliad llwythol arnynt. Ar ochr ddwyreiniol yr ystafell roedd sylfaen gerrig ar gyfer llwyfan bren gyda grisiau, lle byddai ynadon wedi llywyddu cyfarfodydd y cyngor. Ail-gread o'r forum-basilica. (Cadw, Crown Copyright) Adeiladwyd yr adeilad mawr hwn ym mlynyddoedd cynnar yr ail ganrif O.C. Roedd adeiladau'r forum-basilica ymysg y rhai mwyaf a godwyd ym Mhrydain tan ddyfodiad eglwysi cadeiriol anferth yr Oesoedd Canol, ac mae'n rhaid eu bod wedi gosod straen aruthrol ar adnoddau a chyllid. Mae'n ymddangos bod y basilica wedi cael ei ail-adeiladu, yn gyfan gwbl bron, yn hanner olaf y drydedd ganrif. Tynnwyd y llechi o do'r brif neuadd a dymchwelwyd y colofnau. Yn ystod yr ail-adeiladu atgyfnerthwyd y muriau a chodwyd y lloriau oherwydd ymsuddiant, mae'n debyg. Mae'n bosibl y cafwyd problemau strwythurol o'r cychwyn cyntaf, oherwydd torrwyd dau dwll enfawr drwy'r lloriau gwreiddiol er mwyn archwilio'r seiliau. Bwcl a phlât o wregys yn dyddio o'r bedwaredd ganrif a ganfuwyd ar safle'r basilica. Addurnwyd y bwcl gyda dolffiniaid yn wynebu'i gilydd a phennau ceffylau'n edrych tuag allan. Parhaodd y basilica i weithredu fel y pencadlys gweinyddol tan y 330au, pan newidiwyd y defnydd a wnaed o'r adeilad. Darganfuwyd nifer o aelwydydd yng nghorff yr adeilad, sy'n arwydd ei fod yn safle gweithgarwch diwydiannol ysgafn ar un adeg. Tuag ugain neu ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, cafodd y basilica ei ddymchwel. Mae arian a fathwyd yn y 390au yn arwydd o weithgaredd ar y safle hwn. Erys natur yr anheddiad hwn, mewn cyfnod pan oedd gweddill y dref yn dadfeilio, yn ansicr. Mae'r cloddfeydd yng Nghaerwent wedi datgelu llawer am hanes yr adeilad anferth hwn, ac nid yw'r nodweddion a ddisgrifir wedi cael eu gweld yn unrhyw le arall ym Mhrydain.
Oriel Wynebau Cymru 28 Mawrth 2007 Dewch ar daith trwy bum can mlynedd o hanes Cymru. Mae’r oriel yma’n cyflwyno rhai o wynebau mwyaf difyr Cymru, wynebau o fyd gwleidyddiaeth, y theatr, chwaraeon ac with gwrs llenyddiaeth — dynion a merched a newidiodd Cymru eu hoes. Mae’r oriel yn cynnwys gwaith amrywiaeth anhygoel o artistiad, rhai ohonynt mor gyfarwydd ag Augustus John a Hogarth, ac eraill yn fwy o agoriad llygaid. Wynebau Cymru
Wynebau Cymru 26 Mawrth 2007 Mae casgliad portreadau Amgueddfa Cymru yn dangos amrywiaeth o wahanol wynebau sydd wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd Cymru dros y canrifoedd. Cymeriadau Cymreig adnabyddus yw llawer o'r modelau, tra bod gan eraill gysylltiadau cryf â Chymru. Mae rhai'n enwog ar lwyfan rhyngwladol, er nad pob un sy'n adnabyddus am eu gwreiddiau Cymreig. Peintio portreadau cynnar Adriaen van Cronenburgh (tua 1520/5-tua 1604) Catrin o Ferain, 'Mam Cymru' (1534-1591) 1568 - olew ar banel Pompeo Batoni (1708-1787) Sir Watkin Williams Wynn (1749-1789), Thomas Apperley a'r Capten Edward Hamilton 1768-72 - olew ar gynfas Tan y 18fed ganrif, dynion bonedd pwerus, tirfeddianwyr a masnachwyr oedd yr unig bobl oedd yn ddigon cefnog i gomisiynu portreadau. Yn wahanol i'r Alban neu Iwerddon, doedd gan Gymru ddim trefi mawr na phrifddinas cyn canol yr 18fed ganrif, felly byddai bonedd Cymru yn troi at y cyfandir neu Lundain i chwilio am bortreadwyr. Er enghraifft, y portreadau cynharaf yng nghasgliad yr Amgueddfa yw Iarll Cyntaf Penfro (a beintiwyd ym 1565) a Cathryn o Ferain (a beintiwyd ym 1568), y naill a'r llall wedi eu peintio dramor. Yn y 18fed ganrif, roedd tirfeddianwyr mawr fel teulu Williams Wynn a theulu Pennant yn noddi portreadwyr llwyddiannus yn Llundain. Yn wahanol i'r Alban, ni ddatblygodd ysgol bortreadu yng Nghymru yn ystod y cyfnod yma. Er i'r artist o Gymro Richard Wilson ddechrau ei yrfa fel portreadwr, trodd at dirlunio — oedd yn fwy proffidiol — a dilynodd ei ddisgybl Thomas Jones yn ôl ei draed. Y Chwyldro Diwydiannol Oherwydd rhan hanfodol Cymru yn y Chwyldro Diwydiannol, erbyn diwedd yr 18fed ganrif roedd grŵp newydd o ddiwydianwyr cyfoethog fel Thomas Williams, y 'Brenin Copr', yn gallu fforddio talu artistiaid blaenllaw o Lundain i beintio portreadau ohonynt. Gwelwyd cyfoeth yn cael ei ddosbarthu'n gynyddol ymysg dosbarthiadau canol Cymru yn ystod y 19eg ganrif. Roedd hyn yn golygu bod mwy o bobl yn gallu cadw cofnod o'u pryd a'u gwedd at y dyfodol. Datblygiad ffotograffiaeth fu'n gyfrifol am drawsnewid natur portreadu yng Nghymru. Ond parhaodd yr arfer o beintio portreadau, a chynhyrchwyd rhai delweddau eiconaidd fel portread enwog Augustus John o'r bardd Dylan Thomas. Ysbrydolodd hanes diwydiannol cyfoethog Cymru ddelweddau arwrol o'r gweithwyr yn ogystal â pherchnogion y pyllau eu hunain, er enghraifft Coliar Cymreig Evan Walters o 1936. Dim ond yn ddiweddar iawn y canfuwyd pwy oedd y model. Y cerflun efydd cynharaf ym Mhrydain Mae portreadau ar ffurf cerfluniau wedi bod yn boblogaidd yng Nghymru erioed. Mae enghreifftiau'n amrywio o benddelw efydd Le Sueur o'r Arglwydd Herbert, a gomisiynwyd yn ystod teyrnasiad Siarl I ac sydd ymhlith penddelwau efydd cynharaf Prydain, i benddelw Peter Lambda o Aneurin Bevan ym 1945. Bu'r cerflunydd Cymreig Syr William Goscombe John, a fu farw ym 1952, yn ffigur diwylliannol allweddol yng Nghymru, a chwaraeodd ran bwysig wrth greu ein casgliad celf cenedlaethol. Roedd yn aelod anhepgor o Gyngor yr Amgueddfa ac yn gyfrannwr hael a rheolaidd i'r Amgueddfa. Fe'i ganed yng Nghaerdydd a chreodd gerfluniau cyhoeddus a chofebion yn ogystal â phortreadau ar ffurf penddelwau, fel yr un a wnaeth o un o wleidyddion pwysicaf yr 20fed ganrif yng Nghymru, David, Iarll 1af Lloyd George. Mae'r portreadau yma o gasgliad yr Amgueddfa Genedlaethol. Gellir gweld enghreifftiau pellach ac archif o bortreadau Cymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, sydd wedi bod yn casglu portreadau ers ei sefydlu, ac yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.
Ffotograffau coll sy'n dangos darlun unigryw o gefn gwlad y gorllewin 22 Mawrth 2007 Mae casgliad unigryw o ffotograffau o droad yr 20fed ganrif, a achubwyd o domen mewn gardd, yn gofnod prin o fywyd yng nghefn gwlad Ceredigion. Tom Mathias (1866–1940) Yn aml iawn mae lwc yn chwarae rhan fawr wrth ddarganfod caffaeliadau pwysig ar gyfer amgueddfeydd, ac roedd hyn yn wir ym 1990, pan ddarganfuwyd casgliad gwych o ffotograffau hanesyddol a ddaeth i feddiant yr Amgueddfa Genedlaethol. Beth ond lwc all esbonio bod y ffotograffydd proffesiynol a phrofiadol, Maxi Davis, yn digwydd pasio heibio i'r tŷ wrth i'r bocys llawn negatifau gwydr yn cael eu taflu i waelod yr ardd? Beth arall ond lwc allai esbonio bod y negatifau wedi goroesi degawdau o esgeulustod o gael eu storio mewn cypyrddau cegin a siediau? Roedd Aberdyfan, y tŷ o dan sylw, yn cael ei glirio yn dilyn marwolaeth y perchennog, Mr James Mathias. Ei dad, Tom Mathias, dynnodd y ffotograffau. Casgliad gwych o ffotograffau Oherwydd ei gariad at ffotograffiaeth hanesyddol fe achubodd Maxi Davis y negatifau, gan brintio'r rhai oedd mewn cyflwr digon da i'w defnyddio. Datgelodd hyn gasgliad gwych o ffotograffau o ardal Cilgerran a Dyffryn Teifi ar droad yr 20fed ganrif. Thomas Mathias (1866–1940) Roedd Tom Mathias yn ffotograffydd a addysgodd ei hun yn y grefft. Cofnododd fywyd bob dydd ei gymuned gyda chraffter ac eglurdeb technegol anghyffredin, hyd yn oed ymysg ffotograffwyr mwy adnabyddus a ddefnyddiai offer mwy soffistigedig o lawer. Fe'i ganed yng Nghilgerran ym 1866, yn fab i gapten llong. Ychydig a wyddwn am ei flynyddoedd cynnar a'r hyn a sbardunodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth. Ym 1897 priododd Louise Paquier, athrawes o'r Swistir oedd yn gweithio i deulu bonheddig y Gowers o Gastell Malgwyn. Ymgartrefodd y pâr yn Aberdyfan a llwyddodd Tom Mathias i redeg ei fferm fechan yn ogystal â dilyn gyrfa fel ffotograffydd. Roedd ganddynt ddau o blant, James, a anwyd ym 1902, a Tilla, a anwyd ym 1898. Er na gafodd ei hyfforddi'n ffurfiol, roedd yn ddigon hyderus i roi 'ffotograffydd' fel galwedigaeth ar ei dystysgrif priodas ym 1897. Hefyd fe'i rhestrwyd fel ffotograffydd yn y cyfeirlyfrau masnach rhwng 1901a 1920. Nid yw'n glir beth ddigwyddodd ym 1920, ond mae'n debyg na dynnwyd nifer o'r lluniau sydd wedi goroesi wedi'r dyddiad hwn. Cofnodi Bywyd Cefn Gwlad William Johnson a John Morgan, cyryglwyr o Gilgerran, 1905. Fel y mwyafrif o ffotograffwyr gwledig, enillodd Matthias ei fywoliaeth drwy gofnodi digwyddiadau teuluol pwysig, ac mae dros hanner y casgliad yn gyfuniad o luniau priodas, bedydd a grwpiau teuluol, sy'n dangos sut roedd ei arddull wreiddiol yn torri trwy ffurfioldeb ystumiau ei fodelau i gyfleu eu dynoliaeth a'u personoliaeth. Yn ôl y rhai oedd yn ei adnabod, roedd Mathias yn hynod o amyneddgar wrth baratoi i dynnu ei luniau, a gwelir ffrwyth ei amynedd diddiwedd yn fwyaf amlwg yn ei luniau anffurfiol hyfryd o blant. Tynnodd Tom Mathias nifer o ffotograffau o fywyd bob dydd Cilgerran a'r fro, gan greu cofnod heb ei ail o fywyd cymdeithasol ac economaidd ei gymuned. Yn ogystal ag ymddiddori yn y digwyddiadau arbennig, fel dychweliad y gatrawd leol o Ryfel De Affrica, y tripiau Ysgol Sul a dathliadau'r pentref, byddai ei gamera'n cofnodi pethau di-nod a chyffredin bywyd hefyd. Bywyd gwaith Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o ffotograffau amhrisiadwy o fywyd gweithwyr y chwareli lleol a'r ffermydd cyfagos. Yn ogystal â thynnu lluniau o'r pysgotwyr yn eu cwryglau, tynnodd luniau o gowperiaid a chwiltwyr y pentref. Fodd bynnag, mae diddordeb Matthias mewn pobl gyffredin yn amlwg, ac amlygir hyn ym mhob un o'i luniau beth bynnag fo'r testun. Nodwedd anarferol o'r casgliad ffotograffau hanesyddol hwn yw bod cofnod llawn o'r holl ddeunydd wedi goroesi. Yn ogystal ag achub y negatifau, cynhaliodd Maxi Davis a'i wraig Peggy gyfres o arddangosfeydd o'r ffotograffau yng Nghilgerran a'r pentrefi cyfagos. Trwy hyn, llwyddasant i gofnodi lleoliadau a dyddiadau bron pob un o'r ffotograffau, ac adnabod y mwyafrif o'r unigolyn sydd ynddynt! Byddai'r casgliad hynod hwn wedi cael ei golli am byth, oni bai am yr amgylchiadau a drosglwyddodd y ffotograffau o domen gardd i gasgliad pwysig mewn amgueddfa, lle'u cedwir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Stryd Fawr, Cilgerran, yn 1905.