Cymryd rhan mewn ‘Cymerwch Ran’ 2026 – safbwynt artist ifanc, Cara Walker

Cara Walker, 8 Hydref 2026

Tra bod Amgueddfa Lechi Cymru ar gau dros dro ar gyfer prosiect ailddatblygu mawr, mae’r tîm wedi bod yn brysur yn teithio gyda’n ‘pop-ups’ ac yn mynychu digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Maent wedi bod yn treialu ac yn profi gweithgareddau fydd yn cael eu plethu i mewn i’r ailddatblygiad, ac yn rhannu’r cynlluniau gyda’n cymunedau.  Darllenwch isod sut y rhoddwyd cyfleoedd llawrydd i weithwyr creadigol fel rhan o raglen Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn ystod y digwyddiad blynyddol ‘Cymerwch Ran’ yn Venue Cymru.

Cynllunio a pharatoi  

Cefais daith rithiol o gwmpas y ganolfan gasgliadau ym Mangor.  Roedd hyn yn hynod addysgiadol ac yn rhoi posibiliadau a syniadau da i mi ar gyfer creu gweithdai.  Edrychwyd ar bethau fel enwau gweithwyr benywaidd oedd wedi'u cerfio ar swîts fwrdd teleffon; wagenni wedi'u creu gan grwpiau o chwarelwyr a fyddai'n eu cludo i ac o'r chwarel - byddai'r rhain yn cael eu haddurno gan grwpiau o ddynion a phob wagen yn unigryw; plât wedi'i gynllunio a'i greu'n ofalus gyda stribedi o lechi, pob un yn lliw gwahanol ac yn gysylltiedig ag ardal lechi penodol.  Wrth edrych y tu hwnt i'r pethau ymarferol fel peiriannau ac offer, roedd gennyf ddiddordeb yng nghrefft y chwarelwyr, yn eu sgiliau creadigol a ddefnyddiwyd yn hollti a naddu llechi. Roedd llawer o gerfluniau llechi wedi'u creu gan chwarelwyr tu allan i'w oriau gwaith. Yr oedd y gwaith yn fanwl a chymhleth, adeiladau hardd a chlytiau o lechi wedi'u cerfio'n fanwl a gofalus gan ddefnyddio offer traddodiadol.  


Syniadau Cyntaf Unigol  

Roedd rhai o’r syniadau cychwynnol oedd gennyf wedi'u hysbrydoli gan wagenni'r chwarelwyr megis y Falwoden Lwyd, yr enw wedi’i beintio ar ochr un ohonynt.  Roeddwn i'n hoffi'r syniad o addasu gwrthrych o’r casgliadau - yn enwedig un ble byddai rhywun yn cael y profiad o eistedd ynddo. Yn llawn brwdfrydedd meddyliais am greu wagen ble byddai cyfranogwyr yn gallu ei addurno ac eistedd ynddo. Sylweddolais yn gyflym na fyddai hyn yn bosibl oherwydd yn gyntaf byddai'r gofod i bob cyfranogwr gyfrannu ato yn gyfyngedig, gan godi'r cwestiwn am y niferoedd o wagenni - daeth hyn braidd yn hunllef ymarferol a logistaidd yn fy mhen. Fodd bynnag, efo’r syniad o’r casgliadau dal yn y cof, byddai cyfranogwyr yn gallu creu baner ar y cyd fel atgof am y chwarelwyr.  Fel y wagenni - roedd y syniad o’r faner yn un cyffrous gan y byddai yn dipyn o faint ac yn eitem y gellid ei hongian neu ei arddangos.

Cyfarfod cyntaf gyda Iza  

Ar ôl fy nhaith gychwynnol a chael amser i feddwl am syniadau cefais y pleser o gyd weithio gydag Iza, Artist Symudedd ar y prosiect yma gan gyfarfod yn gyntaf ar-lein. Fe wnaethom rannu ein canfyddiadau gan ystyried ein syniadau ac roedd yn ymddangos ein bod wedi ein denu at y cerfiadau llechen a’r merched a oedd wedi cerfio eu henwau ar y swîts fwrdd teleffon a'r syniad o faner. Deuthum i benderfyniad i ymchwilio yn benodol i fywydau merched a chwarelwyr tu allan i’r gwaith a beth roeddent yn ei wneud yn eu hamser hamdden.  Penderfynwyd ar hyn wedi i Iza sôn am le tân oedd eisoes wedi’i greu fel prop ar gyfer arddangosfa ddiweddar a fyddai'n creu amgylchedd ystafell fyw wych.    


Roedd trefniant ystafell fyw yn caniatáu i fwy o adrodd straeon ac addysg ddigwydd yn naturiol. Mi wnaethon feddwl am natur y gweithgaredd a sut i annog pobl i greu gyda’i gilydd drwy efallai eistedd mewn cylch yn hytrach na chael byrddau mewn rhesi a fuasai'n gwneud y gweithgaredd yn fwy ffurfiol ac annibynnol. Hefyd, beth arall allai ddenu pobl i mewn i ofod o’r fath? Gallai lluniau ar y wal ddenu pobl (os maent wedi’u gosod yn iawn) a rhoi caniatâd iddynt gamu mewn a chymryd golwg o’r hyn sydd yno. I lenwi’r ystafell ymhellach, roedden ni eisiau ychwanegu matiau rhacs oedd fel arfer yn cael eu gwneud gan y gwragedd, hongian lluniau o chwarelwyr fel pe baent yn bortreadau o'n teuluoedd ynghyd â darnau o’r casgliad fel addurniadau ar y lle tân.  


Adroddiad Terfynol  

Ar gyfer yr adroddiad terfynol roeddem yn gallu cynnwys bron pob elfen o'n dyluniad. Fel y gwelwch isod, ail-grewyd yr ymdeimlad o ystafell fyw gan ddefnyddio matiau rhacs. Roedd gennym ruban coch yn hongian uwchben y lle tân i hongian yr hyn grëwyd gan y cyfranogwyr.  Roedd rhuban coch yn symbol a ymddangosai yn rheolaidd yn ein hymchwil megis ar faneri felly roedden ni eisiau cynnwys hyn yma hefyd.  

Gan fod y digwyddiad takePart yn llawn bwrlwm a digwyddiadau amrywiol o dan yr un to nid oedd hi’n ymarferol i ni drefnu dylunio ac argraffu mewn fformat cylch ar y llawr.  Yn hytrach na hynny roedd gennym dau fwrdd, un ar gyfer cerfio’r dylunio arno.  Yma byddem yn egluro a chyflwyno beth oedd cerfio llechi yn draddodiadol gan gyfeirio at yr offer y byddai chwarelwyr wedi'u defnyddio. Defnyddiodd y cyfranogwyr yn lle hynny pensiliau, brigau a morthwylion pren bach i efelychu'r broses draddodiadol. Hefyd, roeddem yn darparu enghreifftiau o ddyluniadau crefft llechen a allai gael eu defnyddio fel ysbrydoliaeth.  

Yna byddai'r cyfranogwyr yn symud ymlaen i'r bwrdd paent a chael dewis lliw yn seiliedig ar liwiau amrywiol y plât wedi'u gwneud gyda lliwiau gwahanol o lechen. Daeth y plât lechen hwn yn sail ar gyfer y printio.  Gwnaethom hyn hefyd i addysgu pobl oedd yn galw heibio, doedd llawer ddim yn sylweddoli bod llechen yn amrywio yn ei liw. Creodd hyn hefyd elfennau ble gallai nifer o bobl ifanc gysylltu ag adnabod enwau oedd yn gyfarwydd iddynt fel Penrhyn.

Gwaith gorffenedig yn y gweithdy print

Yn gyffredinol roedd y gweithdy'n llwyddiant mawr, gyda dros 300 o gyfranogwyr!  Cawsom amser hyfryd yn rhyngweithio gyda phobl ifanc oedd eisiau arbrofi gyda’r posibiliadau o brint fel defnyddio lliwiau niferus a haenau amrywiol.  Cawsom hefyd ymateb gwych gan rieni oedd yn awyddus iawn i gymryd rhan gan eu hannog i greu printiadau unigryw eu hunain. 

Mae prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston, a chyllidwyr eraill.
 

Cymryd rhan mewn ‘Cymerwch Ran’ 2026 – safbwynt artist ifanc, Iza Jem

Iza Jem, 8 Hydref 2026

Tra bod Amgueddfa Lechi Cymru ar gau dros dro ar gyfer prosiect ailddatblygu mawr, mae’r tîm wedi bod yn brysur yn teithio gyda’n ‘pop-ups’ ac yn mynychu digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Maent wedi bod yn treialu ac yn profi gweithgareddau fydd yn cael eu plethu i mewn i’r ailddatblygiad, ac yn rhannu’r cynlluniau gyda’n cymunedau.  Darllenwch isod sut y rhoddwyd cyfleoedd llawrydd i weithwyr creadigol fel rhan o raglen Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn ystod y digwyddiad blynyddol ‘Cymryd Ran’ yn Venue Cymru.

Dechreuodd y prosiect hwn drwy ymchwil a gweld casgliadau’r Amgueddfa Lechi.  Roedd y cyfle o weld sut mae nifer helaeth o eitemau yn cael eu storio, eu catalogio, a'r gofal a roddir yn ddiddorol iawn.  Rhoddodd hyn deimlad gwirioneddol i mi o beth allwn i'w wneud a’i ddatblygu gan sbarduno syniadau wedi'u gwreiddio yn hanes y diwydiant llechi ledled Gogledd Cymru a thu hwnt.  Roedd yr atyniad tuag at ochr creadigol y cymunedau llechi fel cerfio addurniadol, barddoniaeth, a gwneud baneri yn gryf iawn ynof.  

Roedd gweithio gyda Cara yn rhan ganolog o’r broses. Dechreuon ni gan ymchwilio’n unigol wedyn cymharu nodiadau, rhannu diddordebau a thrafod beth oedd wedi ein hysbrydoli. Yn y flwyddyn newydd fe wnaethon ni gyfarfod i rannu syniadau.  Yn y cyfarfod hwnnw roeddem yn rhannu’r un brwdfrydedd ac ar yr un llwybr yn enwedig wrth archwilio printio sbwng (foam) fel bod y cyfranogwyr yn gallu creu eu patrymau llechen eu hunain. Penderfynon ni ar weithdy cerdded-i-mewn a fyddai'n caniatáu i bobl brofi hanes ac estheteg o le tân cerfiedig o lechi yn Ddyffryn Ogwen.  Cawsom ein hysbrydoli gan y plât a grëwyd o lechi ac felly dewison ni baled lliw gan dynnu sylw at lechen fel diwydiant byd-eang ac amrywiol. Roedd y cydweithio ei hun yn ysgogol iawn gan ein bod yn cyfnewid syniadau yn gyson.  

Un o uchafbwyntiau'r gweithdy oedd gweld ymatebion y plant wrth i’w printiau ymddangos; eu balchder, y syndod a’r cyffro.  Dangosai hyn pa mor bwerus yw creu amgylchedd i gyfranogwyr weld eu syniadau a’u lleisiau yn cael ei adlewyrchu yn yr hyn maent yn ei greu. Gwelais hefyd pa mor hanfodol yw paratoi ar gyfer y math yma o weithdy, mae bron yn amhosibl paratoi yn ormodol.  Roedd meddwl am y broses, gosod deunyddiau yn barod a rhoi camau mewn lle i gynnal gweithdy o’r math yn sicr wedi gwneud gwahaniaeth pan oedd deg o blant angen cefnogaeth ar yr un pryd.  

Yn y pen draw, gwelais werth symleiddio a lleihau cymhlethdod a hynny heb gyfyngu ar ddychymyg er enghraifft, roedd cyfyngu ar y lliwiau ar y palet yn annog ffocysu ac arbrofi yn hytrach na chyfyngu ar bosibiliadau creadigol.    

Mi wnaeth y prosiect ddyfnhau fy nghysylltiad gyda chasgliad Amgueddfa Lechi ac atgyfnerthu fy sgiliau cydweithio, hyrwyddo, a dylunio gweithdai.  Rhoddodd i mi mewnwelediad newydd i gadw cydbwysedd rhwng strwythur a rhyddid a roddai cyfle i’r cyfranogwyr weld eu hunain yn yr hyn yr oeddent yn ei greu.  

Mae prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston, a chyllidwyr eraill.

Chwareli llechi yn y dirwedd a’u henwau

Siân Shakespear, Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli, 8 Hydref 2026

Mae Amgueddfa Lechi Cymru’n awyddus i ddathlu cyfoeth enwau chwareli llechi ledled Cymru drwy  eu hysgythru i mewn i lwybr llechi a fydd yn arwain at borth yr Amgueddfa ar ei newydd wedd. Wrth grwydro sawl bro yng Nghymru mae’n hawdd sylwi ar olion ymdrech anferthol cenedlaethau gynt i gloddio am ac echdynnu llechfaen o’r ddaear a’i drawsnewid yn llechi o wahanol fathau. Mae rhai o’r olion i’w gweld yn gwbl amlwg oherwydd i’r chwarelwyr ail-siapio’r dirwedd drwy dyllu a thywallt gwastraff i mewn i domennydd. Ac eto mae olion rhai chwareli bellach mond yn grychdon ar wyneb y ddaear, oherwydd na weithiwyd nhw am ddigon hir i gynhyrchu llawer o wastraff na chreu’r angen am dyllau niferus, ceudodau, adeiladau na system gludo. Beth bynnag yw maint a sylwedd yr olion ffisegol mae math o gliw arall yn gallu dangos bodolaeth chwarel, a hynny yw enw’r chwarel.


Mae rhan fwyaf o’r enwau yn rhai Cymraeg ac yn aml maent yn deillio o nodwedd gyfagos yn y tir megis Ffynnon y Gog, Dŵr Oer, Pompren a Rhiw Gwreiddyn. Mae ambell un wedi’i henwi ar ôl person megis Doctor Hughes, Chwarel Gethin, Mathew’s, Palmerston’s, Vivian a Hollands. Mae enwau nifer fawr  o’r chwareli yn hanu o enw’r lleoliad neu ardal lle maent yn gorwedd megis Tal y Fan, Nantlle Vale, Hafod y Llan, Garreg Fawr a Deeside. Efallai ei fod yn anodd olrhain yn union pam yr enwyd ambell i chwarel ond mae’r enw mor adnabyddus nes bod yr enw yn unig yn gyfystyr â chwarel gan hepgor yr angen i ychwanegu ‘chwarel’ o’i flaen. Yn hyn o beth gellid cyfeirio at Dorothea, Glynrhonwy, Llechwedd, Prince of Wales ac Alexandra.


Yn anad dim mae’r llu enwau sydd ar chwareli yng nghorneli amrywiol o Gymru’n deyrnged i’r chwys a’r llafur a wariwyd i gynhyrchu ac allforio llechi i bedwar ban byd. Mae arbenigwyr a haneswyr ar hyd y blynyddoedd wedi cofnodi nifer fawr o’r chwareli yn ogystal â’u nodweddion mewn llyfrau a phapurau gwahanol. Mae project ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru’n awyddus i ddathlu cyfoeth y dreftadaeth yma drwy ysgythru gymaint o enwau chwareli Cymru â phosibl i mewn i lwybr llechi a fydd yn arwain at borth yr Amgueddfa ar ei newydd wedd. Wedi hir bori drwy ffynonellau amrywiol mae staff yr Amgueddfa wedi hel rhestr o 196 enw sy’n cynnwys enwau o ardal Safle Treftadaeth y Byd yng Ngogledd Orllewin Cymru yn ogystal â Siroedd Dinbych, Penfro, Maesyfed a Chaerfyrddin. Fodd bynnag rydym eisiau sicrhau bod y llwybr yn gynrychioladol ac yn gyflawn ac felly rydym yn galw ar wybodusion lleol ar hyd a lled Cymru i gyfrannu drwy fewnbynnu enwau chwareli llai adnabyddus. 

Cyfrannwch yn fan hyn: Ffurflen Google
 

Mwy o wybodaeth: ein gwefan

Beth allwch chi ffeindio yn yr ardd?

Athro'r Ardd, 25 Awst 2026

Helo pawb! Athro’r Ardd yma!

Gobeithio eich bod chi'n mwynhau eich gwyliau haf, neu os ydych chi eisoes wedi dychwelyd i'r ysgol, gobeithio eich bod chi'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn Arolygiad Hinsawdd Blodau'r Gwanwyn eleni!

Os ydych chi'n chwilio am weithgaredd cyffrous i'w wneud ymlaen llaw, edrychiwch ar ein Gwaith Sylwi Bywyd Gwyllt a gweld pa anifeiliaid a phryfed y gallwch eu canfod yn eich ardal chi!

Cwrdd eto'n fuan!

Siopa yn y Gorffennol

Catherine Pinkerton, Rheolwr Masnachol Grŵp, 18 Awst 2026

Eleni cafodd siop yr Amgueddfa’r trawsnewidiad mwyaf yn ei hanes, i greu siop sy’n cynrychioli Sain Ffagan a’i chasgliadau’n wirioneddol ac yn caniatáu i’n hymwelwyr fynd â darn o Sain Ffagan adref gyda nhw.

Un o'r pethau mwyaf arbennig am Sain Ffagan yw'r amrywiaeth o adeiladau ac arddangosfeydd, felly penderfynon ni droi siop yr Amgueddfa yn siop wedi'i hysbrydoli gan siop fawr. Yn hytrach nag adrannau traddodiadol fel teganau neu fwyd, mae pob ardal o'n siop yn cynrychioli adeilad neu arddangosfa wahanol o bob rhan o'r Amgueddfa. Rydyn ni hyd yn oed wedi creu trac sain fel y gall ymwelwyr glywed synau o iard yr ysgol, y fferm neu'r siop losin wrth iddyn nhw siopa o'r adrannau hynny.

Gan weithio gyda llawer o gyflenwyr lleol a chymreig, rydyn ni wedi creu dros 230 o gynhyrchion newydd wedi'u hysbrydoli gan yr Amgueddfa. Maen nhw'n llawn straeon; o gacennau y mae perthnasau pobydd gwreiddiol Siop Gwalia wedi'u gwneud i glytwaith anorffenedig o'r casgliad sydd wedi ysbrydoli amrywiaeth o fagiau llaw a phyrsiau. O lwyau cariad i bicau ar y maen, eitemau wedi'u gwneud â llaw gan ein crefftwyr i ddeunydd ysgrifennu o'r ysgol, mae'r siop yn brofiad ynddo'i hun. 

Gobeithiwn y bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau siop yr Amgueddfa fel profiad arbennig; holl uchafbwyntiau ymweliad â Sain Ffagan wedi’u cynrychioli drwy amrywiaeth enfawr o gynhyrchion, ac yn well fyth, mae popeth sy'n cael ei brynu'n cefnogi’r Amgueddfa.

Serch hynny, nid ydyn ni wedi bod yn datblygu siop yr Amgueddfa yn unig, draw yn Siop Losin rydyn ni wedi creu profiad siopa wedi'i ysbrydoli gan y 1920au. Gall ymwelwyr nawr fwynhau’r arddangosfeydd wedi'u hysbrydoli gan y 1920au, cwrdd â staff mewn gwisg hanesyddol a dewis o ddetholiad enfawr o losin traddodiadol sy’n cael eu pwyso o flaen eu llygaid! Mae arogleuon, golygfeydd a synau’r gorffennol wedi’u hail-greu drwy ymchwil hanesyddol, ac rydyn ni wedi gweithio gyda chrefftwyr bach a busnesau o Gymru i ganiatáu i ymwelwyr gael blas ar y gorffennol nawr hefyd!
 Mae pecynnau a dyluniadau'r cynhyrchion i gyd wedi'u hysbrydoli gan felysion y 1920au ac mae bag siopa Siop Losin wedi dod yn eitem boblogaidd.

Gobeithiwn y byddwch chi'n gallu ymuno â ni am ddiwrnod mas llawn hwyl dros yr haf a dewch draw i Siop Losin a siop yr Amgueddfa i gael blas o’r gorffennol!