Dirgelwch ffosil a ganfuwyd yn Oes Fictoria 5 Gorffennaf 2007 Yr ichthyosor cyn gwneud y gwaith arno (1750mm x 720 mm x 70 mm) Yr ichthyosor ar ôl gwneud gwaith cadwraeth arno yn dangos bod y pen a'r corff yn dod o ddau anifail, a'r esgyll mewn plastr Cafodd y stori lawer o sylw gan y wasg Wrth wneud gwaith gwarchod arferol ar gasgliadau ffosilau Adran Ddaeareg Amgueddfa Cymru, penderfynwyd bod angen ychydig bach o waith adfer ar un o'r sbesimenau. Ond trodd y dasg fach yn brosiect cadwraeth mawr a gafodd sylw gan y cyfryngau ym Mhrydain a thramor. Yr ichthyosor Ichthyosor yw'r sbesimen dan sylw. Ymlusgiad morol a drigai yn y Cyfnod Mesosöig, 65-200,000,000 o flynyddoedd yn ôl — yr un pryd â'r deinosoriaid — oedd hwn. Mae ichthyosoriaid yn debyg i ddolffiniaid — mae ganddynt lygaid mawr, genau hir, dannedd miniog ac esgyll. Rhoddwyd y sbesimen hwn i hen Amgueddfa Caerdydd yn y 1880au ac yna daeth yn rhan o gasgliadau'r Amgueddfa Genedlaethol. I ddechrau, gosodwyd ef mewn plastr y tu mewn i ffrâm bren ac yna paentiwyd y plastr a'r sbesimen. Cafodd y sbesimen ei adfer sawl gwaith yn yr 20fed ganrif, yn cynnwys rhoi plastr newydd ac ailbaentio. Roedd label yn nodi enw'r rhywogaeth sef Ichthyosaurus intermedius, a gasglwyd o Wlad yr Haf, ac roedd yn cynnwys y disgrifiad hwn o'r sgerbwd: 'the greater part of a small individual preserved with but little disturbance of the bones'. Gwelwyd yn ddiweddarach nad oedd hyn yn hollol gywir. Archwiliwyd y sbesimen yn fanwl a gwelwyd ei fod wedi'i ddifrodi'n ddrwg, â chraciau trwyddo. Roedd y plastr a'r ffrâm bren mewn cyflwr gwael ac felly penderfynwyd tynnu'r plastr a'r paent er mwyn mynd yn ôl at y sgerbwd a'r graig wreiddiol. Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn oherwydd roeddem yn gwybod y byddai'r sbesimen yn edrych yn hollol wahanol wedyn. Datgelu'r sbesimen Ar ôl tynnu'r paent, gwelwyd bod pennau coll yr asennau wedi'u mowldio mewn plastr ac yna'u paentio fel gweddill y sbesimen, gan roi'r argraff gamarweiniol bod yno esgyrn. Wrth astudio lluniau pelydr-X o'r sbesimen, gwelwyd anghysondeb mewn un rhan o feingefn y ffosil; roedd cysgod tywyll o gwmpas yr esgyrn. Pan dynnwyd y paent o'r rhan hon, daeth yn amlwg bod sianel wedi'i cherfio yn y graig a bod esgyrn rhydd unigol wedi'u gosod ynddi â phlastr. O dan y paent, gwelwyd bod esgyrn yr un asgell flaen a oedd wedi'i chadw wedi'u gosod mewn plastr hefyd. Mae'r tyllau a welir yn y graig o'i gwmpas yn awgrymu o ble y cymerwyd yr esgyrn cyn eu symud, ond mae'n bosib bod rhai esgyrn wedi'u cymryd o sbesimenau eraill. Cafwyd y syndod mwyaf pan dynnwyd y paent o'r rhan o gwmpas yr ên; roedd o liw a math hollol wahanol i weddill y sgerbwd. Yn ogystal â bod y sbesimen yn cynnwys o leiaf ddau greadur, dangosodd gwaith astudio pellach bod y pen a'r corff yn dod o ddwy rywogaeth hollol wahanol o ichthyosor! Roedd cadwraethwyr Oes Fictoria wedi gwneud cryn dipyn o waith newid ar y sbesimen hwn. Ail arddangos y ffosil ar ôl gwneud gwaith cadwraeth arno Er bod y sbesimen yn cynnwys dwy rywogaeth wahanol, penderfynwyd cadw'r pen a'r corff gyda'i gilydd yn unol â'r bwriad gwreiddiol. Gadawyd y plastr o gwmpas yr asgell a rhan o'r asennau a wnaed o blastr fel yr oeddent hefyd. Adeiladwyd system gynnal newydd ysgafn. Yn hytrach na'i arddangos fel dim ond sbesimen mewn amgueddfa, bydd yr ichthyosor hwn yn cael ei ddefnyddio i dynnu sylw at y technegau a ddefnyddiwyd gan rai pobl yn Oes Fictoria i 'adfer', arddangos a chyflwyno sbesimenau o ffosilau a sut y bu i waith gwarchod manwl heddiw ddatgelu'r gwir y tu ôl i'r sbesimen. Dechreuodd y cyfryngau ymddiddori yn y mater pan gyhoeddodd yr Amgueddfa sgwrs gyhoeddus ar waith gwarchod y sbesimen. O ganlyniad i hyn, cafodd y stori sylw yn y wasg ym Mhrydain a thramor ac ar y teledu, y radio a'r rhyngrwyd, yn cynnwys cyfweliad byw ar ABC Radio yn Awstralia!
Ailwampio Cerbyd Rhif 238 o Rheilffyrdd y Cambrian 4 Gorffennaf 2007 Y cerbyd cyn dechrau ar y gwaith Y tu mewn i brif ran y cerbyd Y cerbyd wedi'i gwblhau Mae cerbyd trên o'r 19 eg ganrif yn ganolbwynt i un o raglenni gwarchod ac ail-greu mwyaf Amgueddfa Cymru. Rheilffyrdd teithwyr y 19eg ganrif Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd Rheilffyrdd y Cambrian yn gwasanaethu rhan fawr o'r Canolbarth. Yn wahanol i reilffyrdd y De, a oedd yn cludo haearn a glo yn bennaf ar daith fer o'r cymoedd i'r arfordir, roedd Rheilffyrdd y Cambrian yn cario pobl ar deithiau pell. Roeddent yn cysylltu trefi glan môr fel Aberystwyth â dinasoedd mawr Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Llundain. Moethusrwydd O'u cymharu â threnau heddiw, roedd cerbydau teithwyr y 19eg ganrif yn eithaf cymhleth. Roedd gan gerbyd rhif 238 le bach i gadw bagiau yn un pen, yna dwy adran ddosbarth cyntaf a phedair adran trydydd dosbarth. Roedd yno dri thoiled, un ar gyfer teithwyr dosbarth cyntaf yn unig. Er mwyn cadw teithwyr y gwahanol ddosbarthiadau ar wahân, roedd coridor y teithwyr dosbarth cyntaf ar un ochr i'r cerbyd a choridor y teithwyr trydydd dosbarth ar yr ochr arall. Adeiladwyd cerbyd rhif 238 yn Birmingham ym 1895 i safonau uchel iawn. Yn ôl y cynllun gwreiddiol: "Interior panelling of polished sycamore framed with walnut wood and gold lined". O gerbyd moethus i gragen wag Dechreuwyd defnyddio'r cerbyd ym 1895 a bu'n teithio'n bennaf rhwng Aberystwyth a Manceinion rhwng hynny a 1939. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei droi'n fan radio. Wedyn, cafodd ei gadw mewn storfa cyn ei drosglwyddo i Amguddfa Genedlaethol Cymru ym 1991. Erbyn hynny, nid oedd fawr mwy na chragen wag. Penderfynodd yr amgueddfa adfer un adran dosbarth cyntaf ac un adran trydydd dosbarth yn y naill ben a'r llall i'r cerbyd, a defnyddio gweddill y lle ar gyfer grwpiau o ymwelwyr. Codwyd canopi arbennig i dros y cerbyd fel y gellid gweithio arno hyd yn oed mewn tywydd drwg. Gwaith adfer y cerbyd I ddechrau, rhoddwyd to newydd ar y cerbyd ac wedyn llawr newydd o estyll 'tafod a rhigol'. Gwelwyd bod un set o estyll yn yr adran dosbarth cyntaf wedi'i gosod ar ongl o 45 gradd i gorff y cerbyd a bod yr haen uchaf ar ongl o 90 gradd i'r haen isaf. Mae'n debyg bod hyn yn gwneud y daith yn llai swnllyd i'r teithwyr dosbarth cyntaf. Ar ôl hynny, adnewyddwyd y panelau allanol a'r mowldiadau, ac yna'r parwydydd mewnol a fframiau'r seddau. Dilynwyd y cynlluniau gwreiddiol trwy'r amser hyd yn oed wrth lunio'r bracedi metal a oedd yn dal y rac fagiau. Gwnaed copïau o un o'r bracedi gwreiddiol yn y ffowndri bres yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Yn wreiddiol, cafodd y cerbyd 14 côt o baent. Yn ffodus, does dim angen cynifer o gotiau o baent modern. Cambrian Green yw lliw hanner isaf y cerbyd a defnyddiwyd sampl o'r paent gwreiddiol i greu'r lliw cywir. Manylion Defnyddiwyd arfbais y Cambrian Railway Company a phlu Tywysog Cymru i addurno'r cerbyd. Cafodd ffotograffau o'r rhai gwreiddiol eu sganio a'u hargraffu i sicrhau eu bod yn union yr un fath. Bydd y cerbyd godidog hwn yn ein hatgoffa o oes aur y rheilffyrdd ar ddechrau'r 20fed ganrif pan oedd pobl yn dod o bob rhan o Loegr ar eu gwyliau i Fae Ceredigion.
Casgliad trawiadol o bortreadau planhigion 12 Mehefin 2007 Y Fritheg Gyffredin (Fritillaria meleagris) gan E.F. Crowley Briallu (Primula vulgaris) gan E.F. Crowley Roedd botaneg yn weithgaredd poblogaidd a ffasiynol ym Mhrydain yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Roedd yn beth diogel i ferched dosbarth canol ei wneud i basio'r amser a'r farn oedd ei fod yn dysgu gwersi moesol a chrefyddol ac yn cadw'r merched rhag segurdod. Ym mis Ebrill 1927, ddau fis ar ôl i'r Brenin Siôr V agor Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn swyddogol, ysgrifennodd Miss Gwendolen Crowley o Eastbourne at Geidwad Botaneg yr amgueddfa newydd yn cynnig casgliad o 200 y luniau botanegol dyfrlliw. Yn ogystal â lluniau gan Miss Crowley, roedd rhai tebyg gan ei mam, Mrs Curtis Crowley, ei chwaer, Marion, a modryb iddi, Mrs E.F. Crowley, a oedd yn golygu bod cyfanswm o 367 o luniau dyfrlliw wedi'u rhoi i'r Amgueddfa newydd. Rai blynyddoedd cyn hynny, roedd Gwendolen a Marion wedi cychwyn Clwb Paentio Botanegol gyda'r nod o ddarlunio cynifer ag oedd modd o flodau gwyllt a'r casgliad hwn oedd canlyniad y symudiad hwnnw. Mae arysgrif ar gefn un o luniau Marion o Glychau Dulas Tuswog (Muscari comosum) yn dweud, "Known also as Tassel-Hyacinth. See Curtis's Botanical Magazine." Cyfeirad yw hwn at William Curtis (1746-1799), a oedd yn dysgu yn y Chelsea Physic Garden yn Llundain. Curtis a ysgrifennodd un o flodeulyfrau darluniedig cyntaf Lloegr, Flora Londinensis (1775-87) sy'n cynnwys yr holl flodau gwyllt oedd yn tyfu o fewn cylch o ddeng milltir i Lundain. Mae gwaith yr Amgueddfa yn cynnwys cynnal a gwarchod y lluniau bregus hyn. Cafodd y lluniau i gyd eu glanhau â dilwyr feinyl a'u cadw mewn amlenni polyester rhag iddynt gael eu rhwbio a rhag i asid gael ei drosglwyddo iddynt, cyn eu symud i flychau archifau a gynlluniwyd yn arbennig i gadw defnyddiau bregus. Lluniau dyfrlliw gwreiddiol ydynt i gyd, yn mesur tua 25cm wrth 18cm.
Peli Camffor ac Arsenig, Llau Llyfrau a Phryfed Arian - Peryglon Llysieufa'r Amgueddfa 12 Mehefin 2007 Sbesimen wedi'i ddifrodi gan chwilen bisgedi Gwneud profion i ganfod lefelau anwedd arian byw yng nghypyrddau'r llysieufa Enghraifft o afliwio a achoswyd gan blaleiddiaid. Dangosodd gwaith ymchwil bod y sbesimen hwn wedi'i drin ag arsenig, arian byw a bariwm — sy'n niweidiol i'r sbesimen ac i iechyd Mae dros 250,000 o sbesimenau o blanhigion wedi'u sychu o bedwar ban byd yn Amgueddfa Cymru, rhai ohonynt yn dyddio 'nôl i'r 18fed ganrif. Gall plaleiddiaid tocsig a ddefnyddiwyd ar y sbesimenau hyn dros y blynyddoedd wneud drwg iddynt a pheryglu iechyd y rhai sy'n gweithio arnynt. Rhoddir plaleiddiaid ar y sbesimenau i wrthsefyll plâu fel llau llyfrau, chwilod bisgedi a phryfed arian. Mae plâu wedi bod yn fygythiad i sbesimenau o fyd natur erioed a gallant gael effaith ddinistriol ar gasgliad botanegol gan ddifa manylion pwysig neu hyd yn oed sbesimenau cyfan. Erbyn hyn, gwyddom fod rhai mathau o blaleiddiaid a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn niweidiol ac yn wenwynig. Gallai pobl sy'n trafod y casgliadau beryglu eu hiechyd, yn enwedig gan na wyddom faint o gemegau a pha fath o gemegau a ddefnyddid yn y plaleiddiaid. Cafodd samplau bychan o ddalenni o lysieufa'r Amgueddfa eu dadansoddi i weld pa gemegau oedd mewn un sampl. Er enghrafft, pe bai arian byw ac arsenig wedi'u defnyddio ar ddalen yn y llysieufa, byddai un prawf yn canfod y ddau fetal. Gwelwyd mai'r cemegau a ddefnyddid amlaf oedd carbon deusylffid, clorid mercwrig, methyl bromid, naphthalin, paradiclorobensen a pyrethroidau. Arian Byw Canfuwyd llawer o arian byw yn y samplau papur a chymerwyd camau ar unwaith i ddiogelu pobl oedd yn trafod sbesimenau. Gall arian byw gael ei gymryd i'r corff trwy ei anadlu, ei amsugno a'i lyncu a gall ei effeithiau amharu ar ffrwythlondeb, gall achosi mwtadu genynnol, cryndod, nam ar y golwg, newidiadau difrifol i'r bersonoliaeth a hyd yn oed ddifrod i'r ymennydd. Mesurwyd faint o anwedd arian byw oedd yn y llysieufa ac roedd y darlleniadau ym mhob safle lle cymerwyd darlleniadau ymhell islaw y safon iechyd a diogelwch a argymhellir. Rhoddwyd offer monitro ar ddillad unigolion. Peli Camffor ac Arsenig Er ei bod yn anodd mesur arsenig yn fanwl, canfuwyd peth ohono ar y rhan fwyaf o'r sbesimenau y cynhaliwyd profion arnynt. Canfuwyd naphthalin ar yr holl samplau, yn ôl y disgwyl. Defnyddiwyd peli camffor, a wnaed o naphthalin, yng nghypyrddau'r llysieufa tan y 1980au. Llwyddodd y prosiect i ganfod y cemegau a'r metalau peryglus a oedd yn olion y plaleiddiaid a bwriedir parhau i fonitro ansawdd yr aer a'r staff fel y gellir parhau i weithio yn y llysieufa heb berygl. Ar ôl gwneud y profion, lluniwyd cronfa ddata yn nodi'r sbesimenau, y plaleiddiaid, y llygryddion a'r peryglon i iechyd ac i'r sbesimenau. Defnyddiwyd y gronfa hon i helpu i ganfod peryglon yn llysieufeydd sefydliadau botanegol eraill.
Trwsio'r gwaith trwsio - Gofalu am fodelau gwydr unigryw Blaschka 16 Mai 2007 Leopold Blaschka, tua 1895. Delwedd trwy garedigrwydd Yr Amgueddfa Fotanegol, Prifysgol Harvard, Cambridge, MA. Rudolf Blaschka, tua 1895. Delwedd trwy garedigrwydd Yr Amgueddfa Fotanegol, Prifysgol Harvard, Cambridge, MA. Llun ffynhonnell o'r model o Gragen Bedr Bapur (Argonata argo). Model o'r Gragen Bedr Bapur wedi torri. Y model o Gragen Bedr Bapur ar ôl y gwaith cadwraeth. Mae gan Amgueddfa Cymru tua 200 o fodelau gwydr manwl hyfryd o greaduriaid môr o waith Leopold a Rudolf Blaschka. Gwnaed yr eitemau manwl a bregus hyn yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac maent wedi cael eu harddangos yn agored am flynyddoedd a'u storio dan amodau gwael, gan achosi difrod iddynt a'u gadael yn frwnt. Campweithiau unigryw Datblygwyd y portreadau gwydr prydferth hyn o anifeiliaid y môr yn wreiddiol fel modelau addysgol. I ni heddiw, maen nhw'n gampweithiau celf unigryw a phwysig. Mae gofalu am fodelau Blaschka'n frith o anawsterau. Oherwydd eu hoedran a'u cymhlethrwydd, mae angen gofal mawr wrth lanhau neu drwsio'r modelau. Rhaid clirio gwerth degawdau o faw, a chywiro difrod o waith trwsio cynharach heb niweidio na newid y model gwreiddiol. Y cam cyntaf mewn unrhyw broject cadwraeth yw deall beth mae'r darn yn ei gynrychioli, wedyn rhaid deall sut cafodd ei wneud. Cymysgedd cymhleth o wydr, paent a chaenau gweog sydd ym modelau Blaschka, a chawsant eu creu'n arbennig i ddangos gweadedd a lliwiau'r anifeiliaid byw. Clirio gwerth degawdau o faw Y peth cyntaf i'w wneud yw dod o hyd i ffordd briodol o lanhau'r modelau, wedyn rhaid datblygu ffyrdd o gywiro gwaith trwsio blaenorol. Yn olaf, rhaid trwsio'r modelau lle bo angen. Roedd y modelau'n anodd iawn i'w glanhau. Roedd paent wedi ei ychwanegu at lawer o'r sbesimenau i ychwanegu gwead a lliw. Roedd llwch wedi cronni ar y rhain dros y blynyddoedd, ac roedd hi'n anodd ei glirio. Cafodd nifer o doddyddion a hylifau glanhau eu profi'n ofalus. Er bod dŵr (â glanedydd anionig) yn effeithiol wrth gael gwared ar y baw, roedd y paent ar y wyneb yn doddadwy ac mewn perygl o gael ei olchi i ffwrdd. Yn y pen-draw, canfuwyd bod gwirod gwyn yn cael gwared ar y baw heb niweidio'r paent gwreiddiol. Cywiro hen waith trwsio Roedd llawer o'r sbesimenau, yn enwedig y seffalopodau, wedi cael eu torri a'u trwsio dro ar ôl tro dros amser. Mae llawer o'r gwaith trwsio wedi afliwio neu'n dechrau dadfeilio. Roedd rhai darnau, tentaclau er enghraifft, wedi cael eu glynu nôl yn y lle anghywir. Roedd y gwaith trwsio hynaf yn tueddu i ddefnyddio glud anifeiliaid oedd yn meddalu'n rhwydd mewn dŵr, ond roedd angen gofal mawr lle roedd paent ar wyneb y darn am ei fod yn toddi mewn dŵr. Roedd aseton yn toddi mathau eraill o lud. Ar ôl cael gwared ar yr hen lud, roedd angen rhoi'r modelau nôl at ei gilydd. Ail-drwsio'n gywir Roedd y gwydr a wnaed i wneud y rhan fwyaf o'r modelau'n denau ac yn fregus dros ben. Roedd rhai o'r darnau wedi eu chwalu'n ddarnau di-ri, a'r darnau wedi eu glynu nôl yn y llefydd anghywir ar ryw adeg yn y gorffennol. Yn gyntaf, roedd angen sicrhau bod modd dadwneud y gwaith trwsio newydd yn y dyfodol. Cafodd glud resin epocsi eu diystyru yn gyflym am eu bod mor gryf, am nad oedd modd dadwneud y gwaith ac oherwydd problemau sefydlogrwydd tymor hir. Dewiswyd y cyfnerthydd, Paraloid B-72TM, am ei fod yn ddeunydd sefydlog, ac am fod modd dadwneud y gwaith a chael gwared arno os oes angen. Mae'n ddeunydd trwsio gwan hefyd a fydd yn torri cyn y gwydr, gan leihau'r posibilrwydd o achosi difrod pellach i'r modelau. Mae modd gweld y deunydd mewn rhai math o olau hefyd, sy'n golygu y bydd modd i guraduron y casgliad yn y dyfodol weld y gwaith cadwraeth a wnaed. Datblygwyd y gwaith cadwraeth i wella ymddangosiad a chyflawnder y modelau, heb newid rhagor ar y strwythur gwreiddiol. Mae modelau gwydr Blaschka'n gasgliad pwysig sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Bydd y gwaith a wnaed ar y casgliad yn helpu i sicrhau ei fod yn cael ei gadw i'w fwynhau gan genedlaethau'r dyfodol.