: Cadw a gofalu am ein casgliadau

Planhigion Prin Cymru

1 Ebrill 2009

Mae Cymru'n gyforiog o blanhigion, i wlad mor fach. Mae'r holl greigiau a thopograffeg gwahanol, o galchfeini Penrhyn Gŵyr i gerrig llaid a chreigiau folcanig Eryri, yn gynefin i amrywiaeth o blanhigion arbennig.

Mae Cymru yn gartref i sawl planhigyn prin. Mae rhywogaethau prin fel y Gerddinen Darren Fach neu Heboglys y Mynydd Du yn unigryw i Gymru, ac nid ydynt ar gael unrhyw le arall yn y byd. Mae planhigion prin eraill fel Lili'r Wyddfa neu Lysiau Melyn y Bystwn ar gael mewn gwledydd amrywiol, ond dim ond yng Nghymru y maent i'w cael yng ngwledydd Prydain. Mae eraill fel y Canri Dryflwyddol neu'r Merllys Gorweddol yn brin dros y byd.

Nod Project Planhigion Prin Cymru yw helpu i warchod rhai o'n planhigion prin sydd dan fygythiad trwy gynnig sail wyddonol gadarn ar gyfer eu cadwraeth. Darperir cyngor trwy gasglu gwybodaeth am faint a lleoliad y poblogaethau planhigion prin, asesu'r peryglon i'w gallu i oroesi, casglu gwybodaeth ecolegol, dadansoddi amrywiadau geneteg a gwneud argymhellion ar gyfer rheoli cynefinoedd.

Cychwynnodd y project ym 1998, gan ganolbwyntio ar blanhigion brodorol prin Cymru i ddechrau, ac mae wedi tyfu o egin bach i fod yn gangen braff. Mae'n broject ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol, ac wedi'i ariannu'n rhannol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Cliciwch ar ddelwedd i ddarganfod mwy...

Eglwys Sant Teilo

12 Mawrth 2008

Detholiad o ddelweddau o Eglwys Sant Teilo

Croes bren a arferai ddisgleirio gan aur

4 Medi 2007

Y groes o Gemais, Sir Fynwy

Y groes o Gemais, Sir Fynwy

Manylyn o ben ffigwr y groes.

Manylyn o ben ffigwr y groes.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau wedi'i adlewyrchu.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau wedi'i adlewyrchu.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau uwch fioled.

Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau uwch fioled.

Dengys archwiliad gwyddonol o groes ganoloesol o Gemais, De Cymru, fod y gwrthrych pren a welwn heddiw wedi cael ei addurno'n wreiddiol â lliwiau llachar coeth a haenau aur godidog.

Tua 1850, darganfuwyd gweddillion ffigwr pren cerfiedig o Grist yn eglwys Cemais, rai cilomedrau i'r gorllewin o Gaerllion, de Cymru.

Gwrthrych o bwysigrwydd eithriadol

Cyn y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg (pan newidiodd Cymru a Lloegr yn swyddogol o fod yn genedl Gatholig i un Protestannaidd), roedd ffigyrau o Grist o'r math hwn yn gyffredin trwy Loegr a Chymru, a'r Crist o Gemais yw'r esiampl mwyaf cyflawn o'r ychydig ddarnau canoloesol sydd wedi goroesi ym Mhrydain, ac felly mae o bwys eithriadol.

Darganfuwyd darnau o ffigwr Cemais 'gyda phenglog ac esgyrn', yng 'ngrisiau'r grog caeedig' yn ystod gwaith atgyweirio a newid yr eglwys tua 1886. Trosglwyddwyd ef i Amgueddfa Cymru ym 1930.

Tybir bod y ffigwr yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond nid yw'r dadleuon sy'n cefnogi'r farn hon erioed wedi cael eu mynegi'n fanwl. Mae dyddio'r ffigwr yn dibynnu ar gymharu cerfluniau eraill, a'r gred bellach yw ei fod yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

Gan fod ffigyrau sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn yn brin, rhaid astudio gwrthrychau o'r cyfandir am gliwiau pellach. Mae ffigyrau croes o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg o Sweden, er enghraifft, yn rhannu nifer o nodweddion tebyg, ond mae'r Crist o'r bedwaredd ganrif ar ddeg o Fochdre, Sir Ddinbych, sef yr unig ffigwr pren cyffelyb o Gymru, yn dra gwahanol. Mae'n debygol iawn bod Crist Cemais wedi cael ei wneud yn Lloegr neu yng Nghymru.

Ymchwilio a dadansoddi'r groes

Ychydig iawn o'r lliw a arferai orchuddio'r ffigwr pren a welir heddiw, ond arweiniodd gwaith rheolaidd Amgueddfa Cymru at ymchwiliad manwl o arwynebedd y gwrthrych ym 1999.

Cymerwyd darlun pelydr-x o'r ffigwr ac edrychwyd arno o dan olau uwch-fioled (UV) a golau is-goch (IR) cyn ei archwilio o dan y microsgop. Datgelodd hyn batrwm y lliwiau gwreiddiol, a'r gwahaniaethau rhwng y corff â'r breichiau, yr ystyriwyd yn flaenorol eu bod yn ychwanegiadau diweddarach.

Lliwiau cyfoethog a llachar

Yn wahanol i'w gyflwr presennol, yn wreiddiol roedd Crist Cemais yn gyfoethog a llachar ei liw, yn unol â'r hyn a oedd yn boblogaidd drwy'r Oesoedd Canol. Cymerwyd gofal mawr wrth addurno'r ffigwr. Pan oedd yn newydd, byddai wedi disgleirio o dan haenau aur.

Wrth archwilio'r ffigwr datgelwyd tystiolaeth sylweddol o aml-liwiogrwydd (defnyddio nifer o liwiau), a throsbeintio, fel y gwelir mewn enghreifftiau eraill o gerflunwaith canoloesol. Er nad oes llawer wedi goroesi ar y breichiau, mae'r fraich dde'n cynnwys dwy haenen, sy'n awgrymu, efallai, bod y fraich chwith wedi cael ei hailosod, naill ai yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg, neu'n gynharach hyd yn oed.

Datgelwyd o leiaf tair haen o baent, ond tasg anodd oedd eu dyddio. Ymddengys bod yr ail gynllun lliwiau wedi cynnwys eurwaith ar y gwallt; aur, coch a glas ar du fewn y lliain lwynau; manylion brown tywyll a du ar yr wyneb; coron o ddrain gwyrdd; a lliwiau cnawd pinc gwelw, a choch yn pwysleisio'r clwyfau.

Byddai gwaith aml-liwiog o'r math yma wedi bod yn arferol ar gerflun mor bwysig â hwn. Mae ffigwr Cemais yn cynrychioli Crist ar y groes yn glir, ac fe'i portreadir yn fyw, â'i lygaid ar agor.

Mae Crist Cemais yn enghraifft anghyffredin o ffigwr defosiynol, o'r cyfnod cyn y Diwygiad, a fu unwaith yn gyffredin ar Ynysoedd Prydain. Uchder gwreiddiol y ddelwedd drawiadol o ddioddefaint Crist oedd tua 94cm, felly byddai wedi bod yn weledol iawn ac yn destun gweddi, gan chwarae rhan bwysig iawn ym mywydau pobl bob dydd.

Y Môr-grwban mwyaf yn y byd

15 Awst 2007

Cafodd y môr-grwban lledraidd sydd i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ei olchi i'r lan ar draeth Harlech, Gwynedd, ym mis Medi 1988. Gwaetha'r modd, roedd wedi boddi ar ôl cael ei ddal gan leiniau pysgota. Cafodd y môr-grwban sylw ym mhedwar ban byd gan mai hwn oedd y môr-grwban mwyaf a thrymaf a gofnodwyd erioed. Roedd bron yn 3m (9tr) o hyd ac yn pwyso 914 kilo (2016 pwys).

Pan olchwyd y môr-grwban i'r lan, roedd prysurdeb mawr ymhlith staff yr Amgueddfa gan eu bod yn awyddus i lunio set arddangos o'i gwmpas. Fodd bynnag, nid gwaith syml oedd paratoi sbesimen fel hyn i'w arddangos.

môr-grwban lledrgefn

Bu angen troi'r môr-grwban wyneb i waered i drwsio'r craciau ar ei fol.

Arddangos y môr-grwban mwyaf yn y byd

Ar ôl cael awtopsi er mwyn cael gwybodaeth wyddonol, tynnwyd y croen a'i drin a gwnaed mowld o siâp y corff. Yna, cafodd y croen ei dynnu dros y mowld i wneud i'r anifail edrych yn naturiol.

Tynnwyd y sgerbwd hefyd a'i baratoi i'w arddangos ochr yn ochr â'r corff. Yna, rhoddwyd y mownt tacsidermi a'r sgerbwd i'w harddangos yn eu horiel fach eu hunain gydag arddangosiadau cysylltiedig am hanes y môr-grwban lledraidd, y bygythiadau y mae'n eu hwynebu, y cefndir ecolegol a'r gwaith cadwraeth.

môr-grwban lledrgefn

Glanhau a thrwsio'r môr-grwban.

16 o flynyddoedd yn ddiweddarach

Ar ôl cael ei arddangos am 16 o flynyddoedd, roedd craciau eithaf mawr wedi dechrau ymddangos ar y sbesimen. Roedd wedi dechrau cracio ers peth amser a chafodd ei drwsio yma a thraw dros y blynyddoedd. Sychder yr awyr oedd yn gyfrifol am y craciau ac felly doedd dim dewis ond cau'r rhan hon o'r oriel a mynd ati o ddifrif i wneud gwaith cadwraeth ar y môr-grwban poblogaidd.

Y cam cyntaf oedd glanhau haen o lwch a baw seimllyd oddi ar y môr-grwban. Defnyddiwyd stwff glanhau an-ïonig i dynnu'r rhan fwyaf o'r baw.

Pan oedd yn eithaf glân, y cam nesaf oedd cael y rhannau o'r sbesimen oedd wedi eu hystumio nôl i'r siâp cywir. I wneud hyn, gwylchwyd y rhan allanol â chymysgedd o ddŵr wedi'i ddad-ïoneiddio, halen a glanedydd fel y gellid ei symud yn ôl i'w siâp.

Tynnu'r hen waith trwsio

Ar ôl i'r sbesimen sychu, tynnwyd yr hen waith trwsio. Roedd hon yn broses hir ac araf ac roedd angen bod yn ofalus i beidio â gwneud rhagor o niwed i groen y môr-grwban. Roedd llawer o'r croen wedi'i baentio'n ddu rai blynyddoedd cynt ac felly roedd angen tynnu'r paent hefyd. Gwnaed hyn trwy ddefnyddio aseton a system symudol i gael gwared â'r tarth.

Ar ôl tynnu'r gwaith trwsio cynt a'r paent, roedd patrymau a gwead croen gwreiddiol y môr-grwban i'w gweld unwaith eto. Cafodd bylchau a holltau yn y sbesimen eu llenwi a phaentiwyd drostynt mewn ffordd oedd yn cyd-fynd â lliw ac ansawdd croen gwreiddiol y môr-grwban.

Môr-grwban lledrgefn

Y môr-grwban ar ôl y gwaith cadwraeth.

Môr-grwban lledrgefn

Arddangosfa newydd y môr-grwban lledrgefn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Ailarddangos

Cafodd y sgerbwd ei lanhau'n ofalus hefyd cyn ailosod y môr-grwban gorffenedig fel yr oedd o'r blaen. Ar ôl 4 mis o waith, roedd modd ailagor oriel y môr-grwban i'r cyhoedd unwaith eto.

Taith arall i'r môr-grwban

Roedd sychder yr aer yn oriel y môr-grwban yn dal i achosi problemau o ran cadwraeth. Felly, yn 2006, symudwyd y môr-grwban i le newydd yn yr oriel 'Dyn a'r Amgylchedd' gerllaw, ger y morfil cefngrwm. Mae cyflwr yr aer yn well yn y fan honno ac felly llwyddwyd i gadw'r môr-grwban mewn arddangosfa agored. Yn ogystal, cafodd y panelau arddangos eu hadnewyddu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r môr-grwban, felly, yn ychwanegiad gwerthfawr i'r oriel hon.