Crefft y Seremoni De Japaneaidd 22 Chwefror 2007 Ym 1915 fe dderbyniodd yr Amgueddfa nifer o gratiau a oedd yn cynnwys tecstilau, lacer, printiau bloc pren a llestri ar gyfer y seremoni de Japaneaidd (chanoyu). Anfonwyd hwy o Siapan gan Bernard Leach, crochenydd y dylanwadwyd arno'n gryf drwy gydol ei yrfa gan ei brofiadau Japaneaidd. Gan na chofnodwyd yr eitemau ar y pryd fe aeth y rheswm dros eu prynu'n angof. Serch hynny, mae wedi bod yn bosib eu hadnabod yn ddiweddar. '...rhywbeth unigryw' Chaire (pot te), llestri caled Shigaraki, o ddiwedd yr 16eg ganrif mae'n debyg Pan aeth Bernard Leach i Japan am y tro cyntaf, roedd yn artist ifanc a oedd newydd ddarganfod crochenwaith Japaneaidd. Fodd bynnag, sefydlodd ei hun, mewn amser byr iawn, fel prif grochenydd Prydeinig yr 20fed ganrif. Nid oedd yn amau gwerth y casgliad a ddisgrifiwyd ganddo fel 'rhywbeth unigryw'. Dilynodd gyngor y meistri te Japaneaidd, a chasglodd eitemau o'r math oedd yn cael eu trysori fwyaf yn y traddodiad Japaneaidd chanoyu, yn seiliedig ar egwyddorion a sefydlwyd yn y 16eg ganrif. Yn ôl yr egwyddorion hyn fe ddylai'r gwrthrychau sy'n cael eu defnyddio fod yn syml ac yn ddiymhongar, gan gyfrannu at yr ymdeimlad o fyfyrdod tawel a ysbrydolir gan y seremoni. Mae'r chaire (pot te) a anfonwyd gan Leach yn arddangos y nodweddion hyn yn berffaith. Mae'n esiampl o wneuthuriad garw crochenwaith caled Shigaraki, a werthfawrogir gan arbenigwyr te ers y 15fed ganrif. Yn draddodiadol byddai gwestai yn archwilio ac yn clodfori gwrthrych o'r fath ar ôl i'r gwesteiwr orffen gweini'r te. Ail-greu chanoyu Mae Chanoyu yn gelfyddyd ac yn ffordd o fyw, ac mae'n weithred o letygarwch a chanddi nifer o ddefodau. Mae gwrthrychau'n cael eu dewis, eu gosod a'u trin yn ofalus iawn, nes bod y cyfuniad o'r gwrthrychau a'r bobl, a'r amser a'r lle'n golygu bod pob seremoni yn ddigwyddiad unigryw na ellir ei ailadrodd. Mynnodd Leach y dylid dangos yr un parch pan ddangoswyd y casgliad yn yr Amgueddfa ym 1924. Traddodiadau Japaneaidd Gwrthrychau Chanoyu a gasglwyd gan Bernard Leach Pan oedd Leach yn Japan, roedd treftadaeth y wlad mewn perygl o gael ei cholli oherwydd twf cyflym diwydiant ac effaith y gorllewin. Roedd rhai yn gweld y seremoni de fel metaffor o'r Japan draddodiadol, a gobaith Leach oedd y byddai'r caffaeliad yn medru helpu i wella'r ddealltwriaeth rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin. Yn ei henaint, defnyddiodd Leach ei brofiad i weithredu fel cyfryngwr rhwng byd diwylliannol Gorllewin Ewrop a Dwyrain Asia. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bellach bod y cylchoedd Japaneaidd yr oedd yn troi ynddynt wedi cael eu dylanwadu'n helaeth gan athroniaeth y Gorllewin, ac y dylid amau ei honiad iddo ddeall traddodiad dilys Japan. Serch hynny, mae Leach yn ffigwr nodedig yn hanes y rhyngweithio parhaol rhwng Ewrop a Dwyrain Asia. Mae'n addas felly bod yr eitemau hyn yn cael eu gwerthfawrogi, nid yn unig am eu prydferthwch a'u hynafiaeth, ond hefyd y cyswllt rhyngddynt â Leach ei hun. Darllen CefndirEdmund de Waal, Bernard Leach (London: Tate, 1999); Emmanuel Cooper, Bernard Leach: Life and Work (New Haven & London: Yale University Press, 2003); Kakuzo Okakura, The Book of Tea (New York: Dover, 1964); Paul Varley and Kumakura Isao (eds), Tea in Japan: Essays on the History of Chanoyu, (Honolulu: University of Hawaii Press, 1989)
Paentio Chwedlau Canoloesol o Rufain a Phrydain 22 Chwefror 2007 Cynrychiolir dwy chwedl ganoloesol wahanol mewn dau waith gan yr artist o'r 19eg ganrif, Syr Edward Burne Jones. Mae Olwyn Ffawd (1882) ac Arthur yn Afallon (1890) yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Mae'r darlun anorffenedig hwn o tua 1882 yn darlunio'r thema ganol oesol o olwyn ffawd, sy'n codi neu'n darostwng dyn wrth iddi gael ei throi gan y dduwies Fortuna. Mae'r darluniau o'r noethion a dillad y dduwies yn dangos astudiaeth agos yr artist o Michaelangelo. Bruce Jones. Olew ar Gynfas. Seiliwyd yr Olwyn Ffawd ar fytholeg Rufeinig. Roedd y dduwies Fortuna' cynrychioli lwc i'r Rhufeiniaid. Fodd bynnag, yn yr Oesoedd Canol fe esblygodd y syniad o olwyn ffawd o ysgrifau Boethius, merthyr Cristnogol o'r 6ed ganrif. Ysgrifennodd yn The Consolation of Philosophy mai rhan o ewyllys dwyfol Duw oedd newidiadau hap a damwain bywyd, ac felly bod yn rhaid i ddyn dderbyn ei ffawd. Mae darlunio duwiau' fwy o ran maint na bodau dynol yn hen draddodiad mewn celf, ac yma mae Burne Jones yn darlunio Ffawd yn fwy na'r bodau dynol y mae' eu troi ar ei holwyn. Nid yw' ei darlunio' gwisgo mwgwd fel oedd yn arferol, ond â'i llygaid ar gau. Yn draddodiadol, mae pedwar ffigwr ar yr olwyn. Maent yn cynrychioli pedwar cyfnod bywyd: "Byddaf yn teyrnasu", "Rwyf yn teyrnasu", "Rwyf wedi teyrnasu" a "Nid oes gennyf deyrnas". Dim ond tri ffigwr a ddarlunnir gan Burne Jones ar yr olwyn, ond mae' cynnal y syniad o deyrnasiad drwy osod coron ar ben y ffigwr canolog. Disgrifiodd yr awdur ffeministaidd Camille Paglia y gwaith hwn fel darlun sadomasocistaidd gyda "Fortuna' troi ei holwyn artaith o ddynion ifanc prydferth, yn ddiegni â'u cyrff yn ymestyn mewn dioddefaint cnawdol". Er bod y dynion yn derbyn eu ffawd, faint o ddewis sydd ganddynt mewn gwirionedd? Mae eu breichiau a'u coesau wedi'u hymestyn, nid mewn cnawdolrwydd, ond i ddangos bod rhaid sathru ar rywun arall i ddringo, a bod yr un peth yn digwydd i chi yn eich tro. Mae hyn yn rhywbeth y teimlodd Burne Jones ei hun. Ysgrifennodd ym 1893 "Mae fy olwyn Ffawd yn ddarlun o wirionedd, cymerwn ein tro arni, a chawn ein dryllio arni." Fodd bynnag, byddai'r syniad hwn o godi a disgyn wedi bod yn arwyddocaol iawn yn y gymdeithas Fictoraidd ehangach, pan oedd modd i unigolion hel cyfoeth a chodi dosbarth drwy wneud ffortiwn o ddiwydiant, mewn cyfnod pan mai'r Ymerodraeth Brydeinig oedd y mwyaf pwerus yn y byd. Os oeddech ar frig yr olwyn, fe allai'r tro nesaf eich gosod ar ei gwaelod. Paentiodd Burne Jones chwedl arall gydag Arthur yn Afallon. Cymerwyd y chwedl hon o gerdd enwog Thomas Malory o 1470 Morte d'Arthur ('Marwolaeth Arthur'). Roedd chwedlau Arthuraidd yn boblogaidd gan artistiaid am nifer o resymau. Roeddent yn adnabyddus ac yn cynnwys marchogion dewr, cariadon rhwystredig a hudolesau. Yn wahanol i'r byd clasurol, Cristnogion oedd yr arwyr hyn, ac yn well fyth, roedd eu gwreiddiau yn hanes Prydain. Roedd lle o hyd i arwyr Groeg a Rhufain, ond byddai arwr lleol yn fwy tebygol o ysbrydoli darpar-adeiladwyr yr ymerodraeth. Yn Arthur at Avalon mae Burne Jones yn dangos golygfa marwolaeth Arthur. Wedi iddo gael ei anafu' farwol mewn brwydr gan Medrawd (ei fab gan ei hanner-chawer), cludir Arthur i Ynys Afallon mewn ymgais i wella'i glwyfau. Byddai pobl yn arfer credu bod Afallon yn lle hudol, ac mae'r enw (sy' golygu 'ynys yr afalau'), yn gysylltiedig â'r pren gwybodaeth. Yng nghefndir y paentiad gwelwn flodau ar goed, ac mae' bosib mai coed afalau yw'r rhain. Gorchmynnodd Arthur i Syr Bedwyr roi ei gleddyf, Caledfwlch, i Forwyn y Llyn, ond pan ddychwelodd Bedwyr, roedd Arthur wedi mynd. Ystyr hyn yn ôl rhai yw na fu Arthur farw, ond ei fod yn cysgu tan yr awr pan fydd ei angen unwaith eto. Parhaodd y chwedl Arthuraidd i ennyn diddordeb ymysg artistiaid drwy gydol yr 19eg ganrif, ac mae'n parhau i ysbrydoli artistiaid, awduron a gwneuthurwyr ffilmiau hyd heddiw. Arthur At Avalon, Burne Jones, 1890
Achub casgliad unigryw o arianwaith rhag y morthwyl 19 Chwefror 2007 Yn 2000, clywodd Amgueddfa Cymru y byddai cannoedd o ddarnau o arianwaith prin, a fu ar fenthyg yn yr Amgueddfa ers i'w drysau agor am y tro cyntaf, yn cael eu dychwelyd a'u gwerthu. Daw'r eitemau, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif, o gasgliad Syr Charles Jackson (1849-1923), cyfreithiwr a dyn busnes Cymreig. Yn ffodus, yn dilyn llawer o drafod a chodi arian, fe'u prynwyd gan yr Amgueddfa gyda chymorth sylweddol Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Casgliadau Celf Cenedlaethol a'r Worshipful Company of Goldsmiths. Felly pam mae'r casgliad hwn mor bwysig? Syr Charles Jackson (1849-1923) Syr Charles Jackson Ganwyd Syr Charles Jackson yn Nhrefynwy. Roedd yn un o grŵp o gasglwyr a hynafiaethwyr oedd yn cynnwys Robert Drane, T. H. Thomas a Wilfred de Winton. Gyda'i gilydd cawsant gryn ddylanwad ar ddatblygiad Amgueddfa Caerdydd. Fe chwaraeodd y grŵp ei ran hefyd i sicrhau mai Caerdydd fyddai lleoliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Trysorau Hynod Mae rhai o'r gwrthrychau a gasglwyd gan Jackson o safon esthetig neilltuol. Mae'r eitemau prin yn cynnwys llwy pen mesen o ddechrau'r 14eg ganrif, sy'n un o'r darnau cynharaf o arian Seisnig i gael ei ddilysnodi, a set gyflawn o lwyau 'apostol' (deuddeg apostol ac un 'Meistr') o 1638. Yr eitem bwysicaf mae'n debyg yw cwpan dwy-ddolen mewn arddull 'awriglaidd' (arddull addurnol o'r 17eg ganrif yn seiliedig ar rannau o'r corff, yn enwedig y glust ddynol, a roddodd yr enw i'r arddull) sy'n cael ei gysylltu â'r gof-arian Iseldirol Christian van Vianen, a oedd yn gweithio yn llys Siarl I. Mae dilysnod 1668 ar y cwpan, ac mae'n un o lond dwrn o ddarnau wedi'u gwneud yn Llundain yn yr arddull nodweddiadol hwn. Nid yw marc y gwneuthurwr wedi'i ddarllen eto, ond mae'n bosibl mai enw George Bowers neu Jean-Gerard Cooques sydd ar y gwaith, gan fod y ddau wedi gweithio fel eurychod yn llys Siarl II. Darnau prin ysbrydoledig Cwpan dwy-ddolen a chaead, Llundain 1668 Mae darnau anghyffredin, ysbrydoledig y casgliad yn cynnwys un o'r blaswyr gwin cynharaf, cwpan cymun Catholig o'r 17eg ganrif a wnaed yng Nghorc y gellid ei dynnu'n ddarnau er mwyn ei guddio, a stand inc ar ffurf glôb llyfrgell. Mae amrywiaeth eang gwrthrychau mwy cyffredin y casgliad, megis llestri halen a jygiau hufen, yn dangos esblygiad siapiau dros amser, ac yn dweud llawer wrthym am arferion cymdeithasol, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â bwyta. Mae'r gyfres ryfeddol o lwyau'n cynnwys bron pob math a gafodd eu gwneud dros gyfnod o 400 mlynedd. Gwerth academaidd unigryw Er bod y casgliad yn cynnwys nifer o wrthrychau prin a phrydferth, y rheswm pennaf dros ei gadw gyda'i gilydd yw ei werth academaidd unigryw. Dau brif gyhoeddiad Jackson, sef English Goldsmiths and their Marks (1905) a The Illustrated History of English Plate (1911), yw sylfaen ysgolheictod arian modern. Ynddynt mae Jackson yn dibynnu'n helaeth ar ei gasgliad ei hun i egluro marciau a datblygiad arddulliau dros amser. Byddai'n gohebu â phrif gasglwyr ei gyfnod, ac mae ei gasgliad yn crynhoi'r wybodaeth am arian hanesyddol ym Mhrydain yn y 1900au cynnar. Mae'n ffynhonnell unigryw o ddeunydd cyfeiriol ac mae'n parhau hyd heddiw i fod yn destun ymholiadau cyson oddi wrth arbenigwyr arianwaith ledled y byd. Mae casgliad Jackson hefyd yn cyfannu ac yn cyfoethogi casgliad rhagorol yr Amgueddfa o arianwaith hanesyddol, sy'n gysylltiedig â theuluoedd llywodraethol hanesyddol Cymru. Drwy brynu hanner casgliad Jackson, ar ôl iddo gael ei arddangos am wyth-deg o flynyddoedd, gyda'r tebygolrwydd y bydd gweddill y casgliad yn dilyn ryw ddydd, gall yr Amgueddfa ddatblygu ei rôl fel cartref un o'r prif gasgliadau astudiaeth o arianwaith hanesyddol. Darllen Cefndir Andrew Renton, 'Sir Charles Jackson (1849-1923)' yn Silver Studies - the Journal of the Silver Society, vol 19 (2005), 144-6
Cwpan o aur Cymru solet 19 Chwefror 2007 Aur Cymru Y cwpan aur solet a wnaethpwyd o gynllun mewn darlun o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i Jane Seymour ym 1536. Cwpan a chaead, aur 22 carat, R & S Garrard & Co, London 1867-68. Uchder: 39.8 cm (15 ''/16 modfedd). Mae aur Cymru'n brin iawn. Gwnaethpwyd modrwyau priodas teulu Brenhinol presennol Prydain ohono, ond y gwrthrych mwyaf i gael ei wneud o aur Cymru yw'r copi o gwpan a roddodd Harri VIII i un o'i wragedd. Y teulu cyfoethocaf yng Nghymru Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain. Teulu'r Williams-Wynn oedd y teulu cyfoethocaf yng Nghymru ar y pryd. Roeddent yn enwog am eu cyfoeth, gan ei wario ar dai crand, paentiadau drud ac arianwaith. Mae llawer o'r rhain bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa. Y Rhuthr am Aur Cymru Mae nifer yn gwybod am y rhuthr am aur yn Califfornia ym 1848, ond nid oes llawer yn gwybod am y rhuthr am aur Cymru a ddigwyddodd ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Ym 1862 darganfuwyd aur ym Meirionnydd ac yn fuan wedi hynny agorodd Syr Watkin-Wynn (1820-1885) waith aur Castell Carn Dochan ar ei dir. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r aur o'r gloddfa hon rhwng 1865 a 1873. Taliadau o Aur Talwyd breindaliadau mawr i Syr Watkin am yr aur a gloddiwyd, a thalwyd ef gyda'i ingotau aur ei hun. Fodd bynnag, nid oedd angen yr incwm hwn arno gan ei fod mor gyfoethog, a gallai drin yr aur fel difyrrwch. Cwpan o Aur Solet Defnyddiwyd peth o'r aur i wneud cwpan ysblennydd. Mae'r cwpan yn 40cm o uchder ac wedi'i wneud o aur 22-carat. Mae arno'r ysgythriad "MADE OF GOLD THE ROYALTY FROM CASTELL CARNDOCHAN MINE 1867" yn ogystal â'r dilysnod R & S Garrard and Co., Haymarket, Llundain. Mae'n addurnol, yn y steil a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod y Dadeni cynnar. Mae'n sefyll ar droed gron, ac mae ochrau'r goes wedi ei haddurno â phennau blodau, dolffiniaid a chlychau. Mae nifer o arwyddeiriau teuluol wedi'u hysgythru ar y cwpan: eryr eryrod eryri, y cadarn a'r cyfrwys, bwch yn uchaf a cwrw da yw allwedd calon. Mae arfbais Williams-Wynn ar y caead tal, ac arno hwrdd ifanc yn cael ei gynnal gan geriwbiaid ar y brig. Cynllun Brenhinol ar gyfer Harri VIII Y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cwpan a roddwyd i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536-37 yn yr Amgueddfa Brydeinig. Hans Holbein yr Ieuaf, pen ag inc ar bapur. Hawlfraint Yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain Fe seiliodd gwneuthurwyr y cwpan eu cynllun ar ddarlun sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536. Addurnwyd y cwpan â diemwntau a pherlau. Toddwyd cwpan Jane Seymour ar orchymyn Siarl I ym 1629, pan oedd yn brin o arian.
Paentio Meistres - dwy agwedd holloll wahanol 19 Chwefror 2007 Mae agwedd artistiaid tuag at gariad a godineb wedi amrywio'n fawr mewn gwahanol gyfnodau. Yma gwelwn ddwy ymdriniaeth tra gwahanol o "Fair Rosamund", meistres Harri II, gan Dante Gabriel Rossetti (1861) a John William Waterhouse (1916). Y Chwedl Mae 'Fair Rosamund' (Dante Gabriel Rossetti, 1861) yn ymddangos yma y tu ôl i falwstrad ym maenor brenhinol Woodstock. Roedd y model, Fanny Cornforth, yn modelu'n gyson ar gyfer Rossetti, ac wedi marwolaeth ei wraig, Elizabeth Siddall yn 1862, aeth yn wraig cadw tŷ iddo. 1861. Olew ar gynfas. Roedd y Brenin Harri II (1154-1189) yn briod ag Elinor o Acwitania. Roedd ganddo hefyd feistres o'r enw Rosamund. Yn ôl y chwedl, adeiladodd Henry balas ar gyfer Rosamund nad oedd modd ei gyrraedd ond trwy ddrysfa. Defnyddiai gordyn coch i ffeindio'i ffordd drwy'r ddrysfa ac i roi gwybod i Rosamund ei fod wedi cyrraedd. Fe ddaeth Elinor o hyd i'r ddrysfa, a dilynodd y cordyn i ganfod meistres ei gŵr, a'i llofruddio. Cynigiodd iddi'r dewis o yfed gwenwyn neu gael ei thrywanu. Mewn gwirionedd, ni lofruddiwyd Rosamund gan Elinor; aeth i fyw mewn lleiandy, ble y bu farw ym 1176. Roedd gan Elinor alibi gwych ar gyfer amser marwolaeth Rosamund - roedd hi yn y carchar am deyrnfradwriaeth. Fe'i carcharwyd gan Harri am gefnogi eu meibion mewn gwrthryfel yn ei erbyn, fel y gwelir yn y ffilm The Lion in Winter. Dante Gabriel Rossetti Yn fersiwn Rossetti dim ond Rosamund a gynrychiolir, a'r unig gyfeiriad at y stori yw'r cordyn coch. Addurnir y balwstrad y mae Rosamund yn pwyso arno gyda chalonnau â choronau ar eu pen, sy'n cyfeirio at ei safle fel meistres y brenin. Cyfeiria'r rhosyn yn ei gwallt at ei henw. Y model ar gyfer y gwaith oedd Fanny Cronforth, putain a gyfarfu â Rossetti ym 1858, ac a ddaeth yn feistres iddo. Mae Rossetti yn darlunio Rosamund yn segur; does ganddi ddim pwrpas heblaw disgwyl dyfodiad ei chariad. Mae ei gwisg yn anymarferol ac yn dangos popeth wrth iddi lithro oddi ar ei hysgwyddau. Mae'n gwisgo gemwaith dirywiedig ac mae ei hwyneb yn wridog a'i gwallt yn rhydd. Yma, gwelwn y cysyniad ystrydebol Fictoraidd o'r feistres fel menyw anghynhyrchiol, rywiol. John William Waterhouse Fair Rosamund - John William Waterhouse (1916). Mae ymdriniaeth dosturiol Waterhouse o Rosamund yn esiampl o'r modd y dehonglir godineb canoloesol weithiau fel cariad rhwystredig. 1916. Olew ar gynfas. Yn ei waith, a baentiwyd 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae Waterhouse yn cyflwyno darlun o Rosamund sydd i'r gwrthwyneb bron. Yn y darlun hwn gwelwn Rosamund wedi'i gorchuddio'n llwyr ac yn penlinio, ei dwylo ynghyd fel petasai'n gweddïo, ei gwaith tapestri wedi'i anghofio am ennyd wrth iddi syllu allan drwy'r ffenestr yn disgwyl ei chariad. Ymdeimlad o gariad sanctaidd rhwng gŵr a gwraig sydd yn y gwaith, yn hytrach na godineb. Darluniodd Waterhouse Rosamund yn gwisgo coron, fel arwydd efallai nad serch y Brenin tuag at Rosamund yw'r prif fygythiad i Elinor, ond y ffaith ei bod yn frenhines gystadleuol. Os edrychwn y tu hwnt i Rosamund gwelwn Elinor, y wraig sydd wedi cael cam, yn agor y llenni, ar fin myned i'r ystafell i'w llofruddio. Roedd darlunio digwyddiad yn arwain yn raddol at uchafbwynt — cyfarfod angheuol fel arfer — yn gyffredin mewn celfyddyd Fictoraidd. Yma, mae Waterhouse yn creu'r olygfa, ond mae'n gadael i'r gynulleidfa ddychmygu'r canlyniadau. Mae ymdriniaeth dosturiol Waterhouse o Rosamund yn esiampl o'r modd y dehonglwyd godineb canoloesol ar adegau fel cariad rhwystredig, er enghraifft yn storïau Gwenhwyfar a Lawnslot neu Trystan ac Esyllt. Cynghreiriau gwleidyddol yn hytrach nag uniadau'n deillio o gariad oedd priodasau canoloesol, felly, pan fyddai cariad yn digwydd, roedd yn ennyn cydymdeimlad. Serch hynny, nid dyna oedd barn y gymdeithas Fictoraidd, na'r llywodraeth. Diswyddwyd y gwleidydd Gwyddelig Charles Parnell fel arweinydd Plaid Seneddol Iwerddon ym 1890 pan ddaeth i'r amlwg ei fod wedi cynnal carwriaeth â menyw briod.