Symud murlun ffresgo cain i'w gadw 30 Mawrth 2007 Dyfrlliw gan F.G. Newton, 1905 Tynnu un o'r paneli Ym 1988, yn ystod cloddfa archeolegol ar safle siambr y cyngor ym masilica (neuadd ymgynnull) tref Rufeinig Caerwent, datguddiwyd murlun cain sydd bellach wedi cael ei symud i'w gadw a'i arddangos. Roedd y plastr paentiedig, neu'r ffresgo, sydd 5 metr o hyd ac l metr o uchder, wedi'i gysylltu â wal ddeheuol y siambr. Cofnodwyd ef yn flaenorol mewn darlun dyfrlliw gan F.G. Newton ym 1905, cyn iddo gael ei orchuddio eto. Mae'r ffresgo'n dangos persbectif pensaernïol, gyda philastrau melyn neu baneli uwchben dado pinc â gwythiennau brown. Mae'n bosib bod y darn brown tywyll ynghanol y pilastr canolog yn rhan o banel addurnedig, a oedd, o bosib, yn cynnwys corff dyn. Penderfynwyd tynnu'r ffresgo er mwyn atal dirywiad pellach gan fod y plastr yn hynod o fregus. Ar ôl gorchuddio'r gwaith celf cain yn ofalus gyda mwslin a glud, torrwyd y paentiad yn pum panel - pob un wedi'i gau mewn bocs pwrpasol. Roedd tynnu'r paentiad o'r wal yn broses anodd, a bu'n rhaid defnyddio amrywiaeth o lifiau a chynion i wneud y gwaith. Gan nad oedd modd cael mynediad at gefn pob panel ond trwy'r pen uchaf ac un o'r ochrau'n unig, roedd y broses yn anodd ac roedd angen cryn dipyn o amynedd a dyfeisgarwch. Cymerodd gyfanswm o naw niwrnod i symud y paentiad, ac aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn i'r gwaith cadwraethol, a'r gwaith o ailosod cefn y paentiad ddod i ben. Bellach, mae'r ffresco'n cael ei gadw a'i storio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Darllen cefndir:
Oriel Wynebau Cymru 28 Mawrth 2007 Dewch ar daith trwy bum can mlynedd o hanes Cymru. Mae’r oriel yma’n cyflwyno rhai o wynebau mwyaf difyr Cymru, wynebau o fyd gwleidyddiaeth, y theatr, chwaraeon ac with gwrs llenyddiaeth — dynion a merched a newidiodd Cymru eu hoes. Mae’r oriel yn cynnwys gwaith amrywiaeth anhygoel o artistiad, rhai ohonynt mor gyfarwydd ag Augustus John a Hogarth, ac eraill yn fwy o agoriad llygaid. Wynebau Cymru
Wynebau Cymru 26 Mawrth 2007 Mae casgliad portreadau Amgueddfa Cymru yn dangos amrywiaeth o wahanol wynebau sydd wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd Cymru dros y canrifoedd. Cymeriadau Cymreig adnabyddus yw llawer o'r modelau, tra bod gan eraill gysylltiadau cryf â Chymru. Mae rhai'n enwog ar lwyfan rhyngwladol, er nad pob un sy'n adnabyddus am eu gwreiddiau Cymreig. Peintio portreadau cynnar Adriaen van Cronenburgh (tua 1520/5-tua 1604) Catrin o Ferain, 'Mam Cymru' (1534-1591) 1568 - olew ar banel Pompeo Batoni (1708-1787) Sir Watkin Williams Wynn (1749-1789), Thomas Apperley a'r Capten Edward Hamilton 1768-72 - olew ar gynfas Tan y 18fed ganrif, dynion bonedd pwerus, tirfeddianwyr a masnachwyr oedd yr unig bobl oedd yn ddigon cefnog i gomisiynu portreadau. Yn wahanol i'r Alban neu Iwerddon, doedd gan Gymru ddim trefi mawr na phrifddinas cyn canol yr 18fed ganrif, felly byddai bonedd Cymru yn troi at y cyfandir neu Lundain i chwilio am bortreadwyr. Er enghraifft, y portreadau cynharaf yng nghasgliad yr Amgueddfa yw Iarll Cyntaf Penfro (a beintiwyd ym 1565) a Cathryn o Ferain (a beintiwyd ym 1568), y naill a'r llall wedi eu peintio dramor. Yn y 18fed ganrif, roedd tirfeddianwyr mawr fel teulu Williams Wynn a theulu Pennant yn noddi portreadwyr llwyddiannus yn Llundain. Yn wahanol i'r Alban, ni ddatblygodd ysgol bortreadu yng Nghymru yn ystod y cyfnod yma. Er i'r artist o Gymro Richard Wilson ddechrau ei yrfa fel portreadwr, trodd at dirlunio — oedd yn fwy proffidiol — a dilynodd ei ddisgybl Thomas Jones yn ôl ei draed. Y Chwyldro Diwydiannol Oherwydd rhan hanfodol Cymru yn y Chwyldro Diwydiannol, erbyn diwedd yr 18fed ganrif roedd grŵp newydd o ddiwydianwyr cyfoethog fel Thomas Williams, y 'Brenin Copr', yn gallu fforddio talu artistiaid blaenllaw o Lundain i beintio portreadau ohonynt. Gwelwyd cyfoeth yn cael ei ddosbarthu'n gynyddol ymysg dosbarthiadau canol Cymru yn ystod y 19eg ganrif. Roedd hyn yn golygu bod mwy o bobl yn gallu cadw cofnod o'u pryd a'u gwedd at y dyfodol. Datblygiad ffotograffiaeth fu'n gyfrifol am drawsnewid natur portreadu yng Nghymru. Ond parhaodd yr arfer o beintio portreadau, a chynhyrchwyd rhai delweddau eiconaidd fel portread enwog Augustus John o'r bardd Dylan Thomas. Ysbrydolodd hanes diwydiannol cyfoethog Cymru ddelweddau arwrol o'r gweithwyr yn ogystal â pherchnogion y pyllau eu hunain, er enghraifft Coliar Cymreig Evan Walters o 1936. Dim ond yn ddiweddar iawn y canfuwyd pwy oedd y model. Y cerflun efydd cynharaf ym Mhrydain Mae portreadau ar ffurf cerfluniau wedi bod yn boblogaidd yng Nghymru erioed. Mae enghreifftiau'n amrywio o benddelw efydd Le Sueur o'r Arglwydd Herbert, a gomisiynwyd yn ystod teyrnasiad Siarl I ac sydd ymhlith penddelwau efydd cynharaf Prydain, i benddelw Peter Lambda o Aneurin Bevan ym 1945. Bu'r cerflunydd Cymreig Syr William Goscombe John, a fu farw ym 1952, yn ffigur diwylliannol allweddol yng Nghymru, a chwaraeodd ran bwysig wrth greu ein casgliad celf cenedlaethol. Roedd yn aelod anhepgor o Gyngor yr Amgueddfa ac yn gyfrannwr hael a rheolaidd i'r Amgueddfa. Fe'i ganed yng Nghaerdydd a chreodd gerfluniau cyhoeddus a chofebion yn ogystal â phortreadau ar ffurf penddelwau, fel yr un a wnaeth o un o wleidyddion pwysicaf yr 20fed ganrif yng Nghymru, David, Iarll 1af Lloyd George. Mae'r portreadau yma o gasgliad yr Amgueddfa Genedlaethol. Gellir gweld enghreifftiau pellach ac archif o bortreadau Cymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, sydd wedi bod yn casglu portreadau ers ei sefydlu, ac yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.
Ffotograffiau Tom Mathias 21 Mawrth 2007 Mae'r casgliad hynod yma o ffotograffau yn cynrychioli gwaith dau ffotograffydd dawnus o wahanol gyfnodau ac o gefndiroedd gwahanol iawn. Tom Mathias, ffotograffydd oedd wedi dysgu'r grefft ei hun, gymrodd y ffotograffau gwreiddiol ar droad yr ugeinfed ganrif. Gan ddefnyddio offer syml, cofnododd Tom Mathias fywyd pob dydd yng Nghilgerran a'r cylch. Ar ôl ei farwolaeth ym 1940, gadawyd ei holl negatifau mewn cwt, ac anghofiwyd amdanynt am dros drideg mlynedd. Fe'u ffeindiwyd gan James Maxwell (Maxi) Davis, ffotograffydd proffesiynol oedd yn byw yn y fro, yn y 1970au. Roedd y negatifau gwydr mewn cyflwr gwael iawn. Roedd llawer ohonynt wedi torri ac wedi'u difrodi ac nid oedd modd eu hachub. Roedd y rhan fwyaf o'r gweddill wedi dirywio'n sylweddol, roedd hyn yn golygu bod printio'r rhai y gellid eu hadfer yn broses araf a llafurus. Ond roedd digon ar ôl i Maxi Davis allu gwerthfawrogi pwysigrwydd y pethau yr oedd wedi dod o hyd iddynt, ac aeth ati i adfer y ffotograffau. Diolch i'w ymdrechion diwyd, llwyddwyd i achub ffotograffau hynod Tom Mathias ar gyfer y dyfodol. Cewch weld detholiad o ddelweddau o'r casgliad isod. Ffotograffiau Tom Mathias Tom Mathias (1866 - 1940) Aberdyfan, Pont-rhyd-y-ceirt, cartref Tom Mathias. Dyma lle daethpwyd o hyd i'r negyddion yn dilyn marwolaeth James Mathias. James Mathias, mab Thom Mathias, yn bwydo robin goch. Tilla, chwaer Tom Mathias Helen Baud, nith i Tom. Roedd Helen a'i chwaer Paulette yn ymwelwyr cyson ag Aberdyfan ac fe'u gwelir yn amryw o'r lluniau Tom Mathias yn dal cudyll glas. Ystyrid Tom yn arbenigwr ar fywyd gwyllt yr ardal. Tom yn ei berllan. Yn ôl traddodiad bu'n gyfrifol am wella ansawdd mathau lleol o goed afalau. Llun cynnar o Tom Mathias wrthi'n cneifio James Mathias yn adeiladu sied Gweithdai Chwarel Cefn. Sylwer ar y pileri llechi wedi ei turnio Chwarelwyr y Cefn Craen ager Chwarel Fforest, 1910 Chwarel Dolbadau, 1907. Roedd Cilgerran yn ganolfan bwysig o safbwynt y chwareli llechi o diwedd y ddeunawfed ganrif hyd ddechrau'r 1930au. Tynnodd Tom Mathias lawer iawn o luniau o'r chwareli ond, gwaetha'r modd, dim ond cyfran fechan ohonynt sydd yn ddigon da i'w cyhoeddi. William Johnson a John Morgan, cyryglwyr o Gilgerran, 1905. Ychydig iawn o luniau o gyryglau a achubwyd. Yma gwelir William Griffiths o Llechryd yn cwblhau ffrâm corwgl, gyda'i blant Moses a Sarah, yn ei wylio. 1916 Griffith a Thomas Thomas, hwperiaid lleol, gyda'r baban Johnny Michael Thomas, 1892. Cludwyd boncyffion i Felyn Goed Cilgerran i'w llifio'n estyll. Yn y llyn hyn gwelir y boncyff mwyaf i'w drin yn y felin erioed. Roedd coedwigaeth yn ddiwydiant lleol pwysig arall a gofnodwyd yn fanwl gan Tom Mathias. Kathryn Davies yn defnyddio peiriant gwau hosanau Hannah Davies a'i merch Elizabeth, dwy gwiltwraig Bachgen yn dal cribin plentyn Nesta, wyres Tom Mathias, yn chwarae â'i theganau Hugh a Myrddin Jones, Cilfowyr, yn cynwain gwair Maggie Thomas, Plas-y-Berllan, Llechryd. yn gwisgo lifrai'r geidiau, 1925 Pedair cenhedlaeth o deulu Davies, Banc-y-felin, Llechryd. 1913 Richard Morris Cefn Lodge, Cilgerran ar gefn ei geffyl 'Whitre Bud'. Miss Olivia Griffiths, Neuadd, Cilgerran wedi iddi raddio o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1910 gyda gradd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Almaeneg. Evan Peter Morgan, Stryd yr Eglwys, Cilgerran, gydai 'i wraig Elizabeth a'u mab David tra oedd gartref o'r fyddin aged y Rhyfel Fawr (1914-1918) Plismyn o siroedd Penfro, Caerfyrddin a Morgannwg ar ei ffordd i sir Aberteifi i gefnogi Heddlu sir Aberteifi adeg Helynt y Degwm, 1888-94 Fan cigydd, 1910 Fan fara a'r gyrrwr Willie Davies, 1910 David Wilson yn gwerthu pysgod un 1905. Collodd ei goes yn ystod y Rhyfel Fawr a defnyddiodd yr iawndal a dderbyniodd i ddechrau busnes yn Stryd y Bont, Aberteifi. O ganlyniad, fe'i llysenwyd yn 'Lucky Leg Wilson' Tair wraig leol yn gyrru poni a thrap, 1916. Enillai Tom gyfran halaeth o'i fywoliaeth drwy dynnu lluniau o pobl leol. Tynnwyd y lluniau i gyd tu allan neu yng nghartrefi'r cwsmeriaid gan nad oedd Tom yn berchen ar stiwdio. Mrs Ann Williams, 1910. Atgyweirio clochdy Eglwys Llandygwydd. Rhes o fythynnod i weithwyr yn Lancych, sudd mewn cyferbyniad llwyr â'r plastai. Mynd am dro mewn cart asyn. Amlygir amynedd Tom Mathias fel ffotograffydd yn ei llun gwych o blant. Yma gwelir Treifryn Thomas, mab postfeistr Llechryd, ar ei feic newydd. Merch anhysbys yn magu baban mewn siôl fawr. James Mathias (dim perthynas) a'i deulu, tua 1910. Lladdwyd Morgan Mathias, y gŵr ifanc yn y llun, yn ddiweddarach yn y Rhyfel Fawr Gyntaf. Tair cenhedlaeth o deulu o Gilgerran. Seindorf Corfflu Gwirfoddolwyr Aberteifi o flaen gorsaf Cilgerran ar achlysur croesawu'r Is-gapten Colby, Ffynone, adref o Ryfel y Boer, tua 1902. Onnen-deg, Llechryd. Awgryma'r nifer o lluniau tai sydd yn y casgliad fod yna farchnad barod ar ei cyfer. Ffernhill, Llechryd, a welir yn y llun hwn. Seindorf Corfflu Gwirfoddolwyr Aberteifi yn gorymdeithio ar hyd Stryd Fawr Cilgerran 1902, yng nghwmni 'Bois y Batri' (aelodau Cefnlu'r Llynges, Aberteifi) Stryd Fawr, Cilgerran, yn 1905 Sglefrio ar y gamlas a gysylltai afon Teifi â hen waith tun Castell Malgwyn Pentrefwyr yn sglefrio ar afon Teifi yn ystod gaeaf caled 1891 Stryd Fawr, Cilgerran, yn 1910 ...Mae'n debyg mai ymgais Tom Mathias i elwa ar y farchnad gariau oedd y lluniau o ferched mewn 'gwysg Gymreig' ...Fel rheol, dangosid y merched yn gwau, yn mynd i'r farchnad, neu'n yfed te... Tua diwedd y ganrif ddiwethaf, daeth yn ffasiynol i gyhoeddi cardiau post o ferched mewn 'gwisg Gymreig'... Atgyweirio pont Glanarberth, 1912 Atgyweirio pont Pont-rhyd-y-ceirt, 1920. Saif Johnny Michael, arweinydd Côr Plant Cilgerran, ar y chwith gyda'i blant Teifryn an Tegwyn. Plant Ysgol Blaen-ffos, 1915. Y mae'r 'wisg Gymraeg' yn awgrymu bod y llun wedi ei dynnu ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Gwelir y geiriau 'Hen Wlad fy Nhadau' ar y bwrdd du yn y ffenestr Mercherd Ysgol Sul Llwyn Adda mewn 'gwisg Gymreig' Côr Plant Cilgerran a'u harweinydd, Johnny Michael Dosbarth Ysgol Sul o flaen Tŷ Glanolmarch, Llechryd, gyda'r perchennog, Mrs. Stephens Dosbarth Ysgol Sul y gwragedd, Capel Babell, Cilgerran, 1906 Gwibdaith flynyddol Ysgol Sul Penuel i Poppit, 1913 Dosbarth Ysgol Sul yng Nghapel Llwyn Adda, Llechryd. Bu Tom (dde) yn athro yno am flynyddoedd lawer. Margaret Ann Thomas yw'r athrawes. Siop Penrhiw, Aber-cuch. Gwelir y perchennog, W.J. Lewis, yn gwisgo ffedog wen Penrhiw Arms, Aber-cuch, 1914. Gwelir y tafarnwr, David Owens, a'i wraig Elizabeth, ar y grisiau. Dymchwelwyd y dafarn fel rhan o gynllun gwella'r ffordd. 'Y Goets Fawr', a redai o Gastellnewydd Emlyn i Aberteifi, o flaen y Teifi-side Inn, Llechryd, un 1906 Pantdŵr, Llechryd, c. 1900 Bridge House, Cilgerran, 1910. Gwelir Miss Kathryn Davies ar y trothwy tra bod ei brawd yn eistedd ar wal y bont (sydd wedi ei dymchwel erbyn hyn). Edrych as draws afon Teifi tuag at y Tivy-side Inn, Llaechryd ar adeg o lifogydd, tua 1910. Edrych ar draws afon Teifi tuag at y Teify-side Inn, Llechryd. Y mae'r dafarn wedi cau ers blynyddoedd bellach. Ceir nifer o luniau yn y gasgliad sydd yn portreadu golygfeydd lleol ac yn cofnodi digwyddiadau anarferol a nodedig y fro. Pompren newydd yn Aber-cuch, 1908 Adeiladu pompren ar draws afon Teifi yn Aber-cuch, 1908 Miss Rita Morgan Richardson a'i brawd yn ymladd â chleddyfau, gyda Dr. Stephens, Glanolmarch, yn eu gwylio Miss Rita Morgan Richardson, Rhos-y-gilwen, Cilgerran a'i hathrawes o'r Almaen a'i chŵn anghyffredin Teulu Lewis-Bowen, Clyn-fiw, Boncath Mrs Lewis-Bowen, Clyn-fiw, Boncath (ar y dde), a'i phlant, Dorothea a William, yng nghwmni nyrs ac athrawes y teulu. Rita Morgan Richardson yw'r ferch ifanc ar y chwith Buches Rhos-y-gilwen o flaen y plas C. E. G. Morgan Richardson, Rhos-y-gilwen, ymhlith ei fuches enwog o wartheg byrgorn Mrs Morgan Richardson y tu allan i Noyaddwilym, Llechryd. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i fyw i Rhos-y-gilwen Cerbydwr a 'theithiwr' tra anarferol o flaen plasty Castell Malgwyn, adeg Calan Gaeaf yn ôl pop tebyg. Priodas Miss Grace Gower, Castell Malgwyn, â'r Llawfeddyg Gill R. N. yn Eglwys sain Llawddog, Cilgerran, 8 Awst 1907 Lodge, Castell Malgwyn Castell Malgwyn, Llechryd, cartref teulu Gower. mae'r plas yn westy erbyn hyn Thomas Daniels a'i feic Thomas Daniel, garddwr Glanolmarch, Llechryd. Gweision a morynion anhysbys. Roedd glannau Teifi un enwog am e'i 'gwŷr mawr' ac mewn ardel o lai nag ugain milltir sqwâr ceid bron i hanner cant o blastai. Bu'r teuluoedd hyn yn noddwyr cyson i Tom Mathias. Spence Colby, Ffynone, a helgwn Teifiseid. Dilyn cŵn hela oedd un o brif ddiddordebau'r boneddigion lleol. Miss Rita Morgan Richardson, Rhos-y-gilwen, Cilgerran Staff Clyn-fiw, 1906 Cipar anhysbys a'i deulu Pentre, Boncath, 1910 Staff Caedmor yn ei lifrai. Sylwer bod nifer ohonynt yn dal yr offer a ddefnyddient yn ôl eu galwedigaeth Pan oedd y plastai lleol yn eu hanterth cyflogid nifer mawr o pobl i weithio ynddynt. Yma, gwelir staff stad Coedmor yn 1909 Staff Plas Coedmor ar glos y gegin. Roedd glannau Teifi yn enwog am ei 'gwŷr mawr' ac mewn ardal o lai nag ugain milltir sgwâr ceid bron i hanner cant o blastai. Bu'r teuluoedd hyn yn noddwyr cyson i Tom Mathias. Injan Fowler wedi ei llogi gan y fyddin oddi wrth gontractwyr amaethyddol lleol, Dan Ladd o Glunderweb (ar y dde) Gwasg wair (ffurf gynnar o'r byrnwr) ar waith. Gwelir y 'pletau' gwair yn y cefndir. Diogelwyd y peiriant hwn gan Geler Jones, casglwr hen beiriannau lleol. Prynwyd ei gasgliad gan yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol i'r arddangos yn Mhlas Llannerch Aeron. James Evans yn rhibinio gwair ar Fferm Castell Malgwyn, Llechryd Fferm Parcyneithw. Mr a Mrs Griffith Davies a'u saith mechr - Sarah, Margaret, Edith, Ellen, Elizabeth, May and Catherine - eu mab, Ifan (ar y dde) ac Alfred, y gwas. Dyfeisiwyd y peiriant troi gwair cywrain hwn gan ffermwr lleol, sef Arthur John Davies, Penwenallt. Gwnaethpwyd y peiriant gwreiddiol iddo gan of lleol. Yn anffodus, dechreuodd cwmni o Ddylyn gynhyrchu'r peiriant yn fasnachol cyn Davies fedru codi breintlythur arno. Un o'r tractorau a'r beindarau cynharaf i'w gweld yn yr ardal yn cael eu defnyddio ar Fferm Castell Malgwyn. Roedd y cynhaeaf gwair yn adeg o gydweithio rhwng cymdogion. Dengys y llun hwn y nifer mawr o bobl a fyddai'n helpu gyda'r gwaith. Byddai'r cynhaeaf yn achlysur cymdeithasol pwysig. Cynaeafu gwair yn Aberdyfan, tua 1910. Rhaid oedd wrth nifer mawr o weithwyr i gario gwair hyd yn oed ar dyddyn bychan fel Aberdyfan. Sylwer ar y pawl at godi gwair o'r llwyth i'r das Injan yn cael ei defnyddio gan y fyddin Milwyr yn hel gwair. Yn ôl pop tybed aelodau ydynt o gwmni a deithiai o gwmpas y wlad adeg y Rhyfel Fawr er mwyn casglu porthiant i geffylau'r fyddin. Dengys yr amrywiol fathodynnau ar eu capiau eu bod yn perthyn i sawl catrawd wahanol. Posibilrwydd arall yw mai gwrthwynebwyr cydwybodol ydynt yn ymgymryd â dyletswyddau heddychlon.
Portread o Sgweier Cymreig a'i blant, gan Johann Zoffany, arlunydd nodedig Siôr III 22 Chwefror 2007 Mae nifer o bortreadau o Gymry amlwg yng nghasgliadau celf Amgueddfa Cymru. Serch hynny, mae'r Amgueddfa'n casglu portreadau o bobl llai adnabyddus hefyd, oherwydd y gallant fod yn werthfawr fel gweithiau celf. Yn aml, mae astudio'r portreadau hyn yn bwrw goleuni newydd ar gyfnodau a bywydau'r sawl a gafodd ei ddarlunio, gan ychwanegu hefyd at ein dealltwriaeth o gelfyddyd y gorffennol.Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r Amgueddfa wedi caffael nifer o bortreadau nodedig o'r 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, yn cynnwys Henry Knight o Tythegston gyda'i dri o blant, a beintiwyd gan Johann Zoffany (1733-1810) tua 1770.Henry Knight of Tythegston gyda'i dri o blantgan Johann Zoffany Johann Zoffany (1733-1810) Henry Knight o Landudwg (1738-1772) gyda'i Blant. Tua 1770 - olew ar gynfas Mae'r portread yn dangos Henry Knight (1738-1772), sgweier o Sir Forgannwg, gyda'i dri o blant Henry, Robert ac Ethelreda. Bu Henry'n filwr yng nghatrawd y 15th Light Dragoons, a darlunir ei fab hynaf yn gwisgo helmed y gatrawd. Fe etifeddodd Robert Knight (1711-1765), sef tad Henry Knight, ystâd Tythegston teulu'r Lougher drwy ei fam ym 1732. Fe ysgarodd Henry ei wraig ym 1771, a oedd bryd hynny'n broses anodd a drud yr oedd angen Deddf Seneddol breifat i'w gweithredu. Mae'n bosib bod y paentiad wedi cael ei gomisiynu i ddarlunio penderfyniad Henry Knight i adael y fyddin er mwyn gofalu am ei blant. Yn y darlun mae'n gwisgo dillad bob dydd ond mae'n cydio mewn spontoon - math o bicell fer y byddai swyddogion y troedfilwyr yn ei chario - a'r llafn wedi'i wthio i'r ddaear. Mae ei feibion yn dal ei gleddyf, ei gorsied a'i helmed. Gosodir y darlun ar lan y môr, ac mae'n debygol mai cyfeiriad yw hyn at Tythegston, sydd filltir neu ddwy o'r arfordir, rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Mae motiff y goeden, a ddefnyddir yn aml yn narluniau Zoffany o grwpiau teuluol, yn caniatáu pwysigrwydd cyfartal i bob ffigwr. Mae dangos y bechgyn yn chwarae ag arfau ac arfwisg yn perthyn i draddodiad y gellir ei olrhain yn ôl i gyfnod y Dadeni.Johann ZoffanyDyma un o bortreadau teuluol mwyaf Zoffany (yn mesur 240 cm x 149 cm), ac mae'n gomisiwn rhyfeddol o uchelgeisiol ar gyfer sgweier Cymreig o gyfoeth cymedrol. Roedd Zoffany, un o arlunwyr mwyaf adnabyddus teyrnasiad Siôr III, yn enwog am ei arddull anffurfiol. Mae un o'i ddarluniau mwyaf adnabyddus, Syr Lawrence Dundas gyda'i ŵyr, yn dangos y campwaith Isalmaenig o'r 17eg ganrif The Calm gan Jan van de Cappelle, sydd hefyd yng nghasgliadau'r Amgueddfa.Ganwyd Zoffany ger Frankfurt ac fe'i hyfforddwyd yn Rhufain cyn iddo symud i Lundain ym 1760. Mae'n debyg mai'r Arglwydd Bute, prif weinidog cyntaf Siôr III, wnaeth ei gyflwyno i'r Teulu Brenhinol, a daeth i fod yn hoff arlunydd y Frenhines Charlotte. Fe'i penodwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol gan y Brenin ym 1769. Mae apêl ei waith yn deillio o'i ddawn o beintio tebygrwydd da, yn ogystal â'i sylw rhyfeddol at fanylder. Fodd bynnag, mae ei bersbectif yn wallus ar brydiau, ac yma mae'n amlwg bod yr helmed sydd ym mreichiau'r mab hynaf yn rhy fawr.Prynu'r portread ar gyfer yr AmgueddfaMae'r darlun wedi'i gadw mewn cyflwr arbennig o dda. Mae archwiliadau pelydr x yn dangos bod yr arlunudd wedi gwneud newidiadau i ben Robert Knight (y mab ieuengaf mewn gwisg goch), ond dim ond ambell i newid bach arall a wnaed i'r cynllun, a phaentiwyd gweddill y cyfansoddiad yn weddol denau. Benthycwyd y paentiad i'r Amgueddfa o 1940 hyd at 1958. Pan aeth ar werth yn Sotheby's ym 1999 daeth yn flaenoriaeth i'r Amgueddfa ei brynu. Bu'n bosibl ei brynu o ganlyniad i roddion hael oddi wrth gymynrodd June Tiley, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chronfa'r Casgliadau Celf Cenedlaethol.