Llun am Lun: David Hurn yn trafod Ffotograffieth 29 Medi 2017 Mae Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn rhedeg o 30 Medi 2017 to 11 Mawrth 2018. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu rhodd sylweddol gan David Hurn – ffotograffau o’i gasgliad preifat. Cynhelir yr arddangosfa yn yr oriel gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei neilltuo i ffotograffiaeth. Dyma ffilmiau o'r arddangosfa: Y Casgliad "Wnaeth y casgliad ddim dechrau tan 1958, am wn i. Fe ddechreuais i dynnu lluniau ym 1955, ac ym 1958 roeddwn i’n tynnu lluniau yn Trafalgar Square, ac roedd ffotograffydd arall yno. Daeth ata i a dweud rhywbeth rhyfedd iawn. Dywedodd, “rwy’n meddwl y gallet ti fod yn ffotograffydd da iawn”. Beth bynnag, Sergio Larrain oedd e. Roeddwn i’n edrych ar luniau Sergio ac fe roddodd gwpl i mi. Ac fe sylweddolais fy mod yn trysori, nid yn unig y lluniau, ond mae yna rywbeth (annisgrifiadwy yn fy marn i) am y cysylltiad rhwng cael print sydd wedi cael sêl bendith y ffotograffydd ei hun. Felly fe ddechreuais i gasglu ac yna cefais y syniad o gyfnewid printiau. Ac felly dyna ddechreuais i wneud, ac roedd gen i’r hyder i fynd at ffotograffwyr fel Dorothea Lange a phobl felly. Wedyn roeddwn i’n ddigon haerllug i gwrdd â hi a dweud faint oeddwn i’n hoffi ei lluniau, ac y byddwn wrth fy modd yn cyfnewid print. Yna fe sylwais fod pobl yn hoffi cyfnewid. Rwy’n credu ei fod yn gasgliad personol iawn. Rwy’n meddwl am y ffotograffwyr sydd yna; allech chi ddim cael gwell casgliad." Dorothea Lange White Angel Breadline, San Francisco, 1933. "Mae Dorothea Lange yn un o ffotograffwyr mawr hanes. Roedd hi’n bwysig iawn, yn benodol achos ei gwaith cyn y rhyfel yn y basn llwch. Fe wyddwn i am Dorothea Lange, roeddwn i’n digwydd bod yn Chicago ac yn gwybod ei bod hithau’n byw yno, felly fe es i... roeddwn i’n dechrau dod yn adnabyddus fel ffotograffydd, felly fe es i’w gweld hi. Doeddwn i heb feddwl am gael print, roedd hyn cyn i mi ddechrau cyfnewid lluniau hyd yn oed. Roedd hi’n dangos rhai printiau i mi, ac fe ddywedais, “Rwy wrth fy modd â hwn”, ac fe roddodd hi’r llun i mi. Fe gyhoeddodd hi lyfr gwych, gyda’i gŵr, ac mae’n un o’r llyfrau mwyaf cyflawn. Mae’n tynnu sylw at broblem gymdeithasol. Mae’n hardd iawn, yn dangos sut gall llyfr gael ei osod, a sut gall y capsiynau cywir a'r testun cywir a’r lluniau cywir, gyda’i gilydd, greu dadl gref dros rywbeth. Rwy’n credu ei fod yn llyfr pwysig iawn." Henri Cartier-Bresson French painter Henri Matisse at his home, villa 'Le Rêve'. Vence, France, 1944. "Roedd Henri Cartier-Bresson yn briod â ffotograffydd gwych o’r enw Martine Franck. Roedd Martine wedi tynnu lluniau ar Ynys Toraí, ynys fach oddi ar arfordir Iwerddon, ac wedi tynnu llun James Dixon y paentiwr naïf. Fel mae’n digwydd, mae un arall o’r casgliadau sydd gennyf – edrychwch o gwmpas – gan arlunwyr naïf, ac roedd gen i dri phaentiad gan James Dixon achos roeddwn i hefyd wedi bod ar Ynys Toraí yn tynnu lluniau. Dywedais, “Iawn te, beth am imi gyfnewid y paentiad am lun gan Bresson a llun gennyt ti?” Felly cefais ddau ffotograff am y paentiad. Felly, fe gyrhaeddodd y lluniau ac mae’r ddau lun gen i – llun hyfryd iawn gan Martine Franck. Ac yna fe apeliodd hwn ataf am ei fod yn llun o fy hoff baentiwr o bosibl, gan un o fy hoff ffotograffwyr. Mae portread Bresson o Matisse yn un o fy hoff ffotograffau erioed. Wedi i Henri farw cefais amlen drwy’r post oddi wrth Martine yn cynnwys copi arall o’r un llun, ond fod plygiad yn y gornel. Mae gen i nodyn hefyd sy’n fwy hyfryd fyth, ac mae’n dweud: “Cefais hyd i’r llun hwn. Sylweddolodd Henri fod y print gwreiddiol wedi’i niweidio a gwnaeth ail brint”, achos doedd e byth yn gwneud ei brintiau ei hun, yr un bobl oedd wastad yn eu gwneud, “felly meddyliais efallai yr hoffet ti gael hwn hefyd.” Mae’n bortread hyfryd. I mi, mae’n bopeth y dylai portread fod." Llun ar pen y tudalen gan John Davies. Mwy o Wybodaeth (Saesneg yn unig) David Hurn yn Magnum Henri Cartier-Bresson yn Magnum Sergio Larrain yn Magnum Martine Franck yn Magnum Dorothea Lange yn y History Place
Gwaith Artistiaid Preswyl yn Sain Ffagan Sian Lile-Pastore, 20 Gorffennaf 2017 Hanes, Celf a Chwarae Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn nodedig am ei gosodweithiau hanesyddol - o eglwys ganoloesol i siop teiliwr, popty a thai teras . Mae'r amgueddfa a'i chasgliadau wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid, sydd wedi defnyddio ein safle, ein casgliadau a'n archifau dros y blynyddoedd. Yn ddiweddar, rydym wedi ceisio creu rhagor o gyfleon i artistiaid i ddefnyddio'r amgueddfa mewn ffordd ddyfeisgar, trwy raglen artistiaid preswyl. Diolch i gefnogaeth hael Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae'r rhaglen artistiaid preswyl yn rhoi cyfle i artistiaid ddatblygu eu gwaith, yn ogystal â datblygu profiadau newydd ar gyfer ymwelwyr - fel y lle chwarae i blant, gan yr artist Nils Norman: Manylun o'r Iard, lle chwarae wedi'i ddatblygu gan Nils Norman yn Sain Ffagan Yn 2017-2018 rydym yn falch o weithio gydag Owen Griffiths, Sean Edwards gyda chymorth ymchwil gan Louise Hobson. Eu briff yw i archwilio sut 'mae ymwelwyr yn symud trwy'r safle. Artistiaid Preswyl Sain Ffagan Nils Norman, 2015-16 Fel rhan o’r gwaith ailddatblygu Sain Ffagan , roedd angen lle chwarae newydd – un fyddai’n unigryw i’r safle ac yn annog chwarae creadigol. Gwahoddwyd yr artist Nils Norman i dreulio cyfnod yn yr amgueddfa fel artist preswyl ac i ddylunio lle chwarae newydd a chynnig syniadau am chwarae creadigol dros y safle. Artist sy’n gweithio yn Llundain yw Nils ac mae wedi gweithio ar nifer o brojectau yn ymwneud â chwarae a dylunio dinesig. Mae’n awdur pedwar cyhoeddiad ac yn Athro yn Academi Celf a Dylunio Frenhinol Denmark yn Copenhagen lle mae’n arwain yr Ysgol Waliau a Gofod. Gweld mwy o waith Nils Norman. 'Birdscreens' - Nils Norman Imogen Higgins "Mae’r cyfnod preswyl yn Sain Ffagan wedi rhoi rhyddid i mi arbrofi gyda photensial celf gymunedol yn annibynnol. Cefais ryddid i ddatblygu syniadau sy’n manteisio ar fy nghryfderau a’m diddordebau. Cefais gyfle hefyd i weithio gyda mwy o ffocws a chanolbwyntio ar friff penodol. Bu’n rhaid i mi hefyd arbrofi gyda dulliau creadigol o gasglu gwybodaeth, fydd yn sicr o fantais i mi yn fy ngyrfa fel artist cymunedol.” Artist cerameg newydd raddio ac yn gweithio yng Nghaerdydd yw Imogen Higgins. Ei diddordeb pennaf yw celf ac ymgysylltu cymunedol, a’i thasg hi oedd cydweithio â grwpiau lleol er mwyn llywio datblygiad y lle chwarae. Dechreuodd Imogen ei gweithdai drwy edrych ar batrymau yn y casgliadau ac ar y safle – cwiltiau clytwaith, teils canoloesol a’r patrwm teilio yn yr ardd Eidalaidd – yn ogystal ag ymchwilio i lefydd chwarae a chwarae creadigol yng Nghaerdydd. Bu dau grŵp lleol yn cydweithio gyda hi yn ystod y project – myfyrwyr Ysgol Uwchradd Woodlands a phlant a rhieni Ysgol Gynradd Hywel Dda. Gellir gweld mwy o'r gwaith hwnnw ar flog prosiect Imogen Gweithdy - Imogen Higgins Fern Thomas “Fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf, mae fy ngwaith wedi bod yn arbrofi â naratif, dogfennau ac archifau hanesyddol. Rwy’n cael fy nenu gan wrthrychau cudd a straeon neu wybodaeth ddirgel, gan ddychmygu’r haenau o hanes i’w dadorchuddio mewn lle. Roedd potensial y cyfnod preswyl hwn, a’r cyfle i bori drwy archifau Sain Ffagan, felly yn fy nghyffroi yn fawr.” Artist yn gweithio yn Abertawe yw Fern Thomas sydd ag ymchwil yn greiddiol i’w gwaith. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn llên a dewiniaeth werin. Ymchwilio i’r lle chwarae oedd ei rôl hi yn y project, ac ar ei gwefan mae ganddi erthygl yn trafod yr hyn ddaeth i’r fei (http://www.thesefuturefields.eu/researching-the-archives-play-hauntings-and-women-of-the-land/) yn ogystal a gwybodaeth am brojectau, ymchwil a gwaith arall. “Mae’r cyfnod preswyl wedi bod yn allweddol wrth i mi ychwanegu gogwydd newydd i’m gwaith, gan fy helpu i fireinio fy niddordeb mewn archifau a hanes Cymru, fydd yn llywio fy ngwaith a’m ymchwil i’r dyfodol.” Fern Thomas Melissa Appleton "Fy mwriad i oedd cael blas o’r safle a chreu detholiad o dameidiau – gofod gwrthdrawiadau rhwng y domestig a’r ysbrydol, y cyffredin a’r arallfydol. Wedi casglu strwythurau, planhigion, ffenestri, patrymau, gwrthrychau, cerrig, offer a drysau, y bwriad oedd eu haildrefnu yn dirlun anghyfarwydd, cyfarwydd. Creu drych o Sain Ffagan oedd y bwriad yn y bôn, gydag un droed yn y byd hwn a’r llall mewn rhith fyd.” (cyfieithiad o gyfweliad gyda chylchgrawn CCQ, 2015) Y tu allan i waliau arddangosfa y caiff gwaith Melissa Appleton ei lwyfannu fel arfer. Mae’n cyfuno amgylchfyd artiffisial, digwyddiadau byw, sain a deunyddiau eraill mewn math o gerflunio estynedig. Yn ystod ei chyfnod preswyl yn 2015 ymdriniodd Melissa â’r safle o bell ac agos, gan gydweithio â Mighty Sky (Abertawe) i ffilmio’r Amgueddfa gyda drôn, a gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i fapio rhannau o’r safle gyda sganiwr 3D. Drwy gyfuno’r rhain â chyfweliadau ag aelodau staff, casglodd Melissa ddetholiad o elfennau oedd yn cynnwys: dyn ar draeth yn hudo mecryll â chân, trisgell gyda thri sgwarnog a’u clustiau ymhleth, telyn deires, fframiau ffenestri wedi’u hailgylchu o awyrennau, ffigwr marwolaeth wedi’i naddu i bren gwely, a cwrwglwr noeth yn padlo’n wyllt ar draws afon. Lluniodd Melissa uwchgynllun amgen ar gyfer yr Amgueddfa, wedi’i lywio gan esblygiad Sain Ffagan dan law dyheadau a breuddwydion cenedlaethau o guraduron a staff yr hanner canrif diwethaf. Wrth i’r cyfnod preswyl fynd rhagddo, cafodd Melissa ei hudo gan y ‘stiwdio a labordy gwrando’ (y stiwdio recordio a’r archif sgrin a sain). Yn ei lleoliad ar gyrion y gwaith ailddatblygu (ar y pryd) ond prin wedi newid ers y 1960au ei hun, ymddangosai fel stiwdio wedi’i dal rhwng y dyfodol arfaethedig a’r presennol. Mae Melissa bellach yn gweithio gyda Bedwyr Williams (oedd hefyd yn artist preswyl yn 2015) ar broject posibl i fynd â’r archif sgrin a sain ar daith drwy Gymru, mewn cerbyd sy’n adlais o garafán y curadur gwreiddiol. Melissa Appleton James Parkinson “Penderfynais fynd ati i ymchwilio i hanes pensaernïol yr Amgueddfa a’r broses o gofnodi, symud ac ailadeiladu. Roeddwn i am astudio mannau ar draws yr Amgueddfa lle cafodd elfennau gwreiddiol a replica eu hasio i greu cyfanwaith credadwy. Y peth diddorol i mi oedd bod hyn yn greiddiol i greu’r Amgueddfa a’i datblygiad parhaus, ond eto’n herio’r syniad bod henebion yn ddisyfl a disymud.” Artist yn gweithio ym Mryste yw James Parkinson sy’n defnyddio’r broses o drosi deunyddiau i ailddiffinio’r cysyniad o ofod, gwrthrych a chorff. Yn ystod ei gyfnod preswyl treuliodd James fwyafrif ei amser gyda chadwraethwyr a staff yr Uned Adeiladau Hanesyddol, ac ers hynny, mae wedi parhau i ddatblygu ac adeiladu ar y syniadau a lywiwyd gan ei amser yn Sain Ffagan. “Yn ystod y cyfnod preswyl llwyddais i ddatblygu cyfres o ysgrifau drwy drawsgrifio cyfweliadau â chadwraethwyr yn disgrifio’r technegau a ddefnyddiwyd i ddadorchuddio cyfres o furluniau. Fy niddordeb i yw dadorchuddio o’r newydd gyflwr arteffactau a henebion yng nghasgliad yr Amgueddfa trwy gyfrwng ysgrifau, a dilyn effaith y broses drosi hon. Mae agor y drws i’r lleisiau yma yn foment fawr yn fy ngwaith, ac rwy’n cyffroi wrth feddwl am y posibiliadau o gyfosod yr ysgrifau hyn ag agweddau eraill o’m gwaith yn y dyfodol.” Mwy am waith yr artist: Gwefan James Parkinson 'Around Anything', 2015, James Parkinson 'That's the Original' - James Parkinson Claire Prosser Mae gwaith Claire Prosser yn cwmpasu celf weledol, ysgrifennu a pherfformio. Yn ystod ei chyfnod preswyl yn Sain Ffagan bu’n gweithio gyda gofalwyr yr Amgueddfa, crefftwyr, garddwyr a glanhawyr i gofnodi’r symudiadau bach, ailadroddus y bydd pobl yn eu hailadrodd yn ddifeddwl yn eu gwaith bob dydd – sut y defnyddia’r gofalwyr eu dwylo i droi’r allweddi yng nghloeon yr adeiladau hanesyddol a symudiad y crydd clocsiau wrth wnïo neu dorri lledr. Ar ddiwedd y cyfnod preswyl cyfansoddodd Claire berfformiad o’r enw ‘Petai Symudiad yn Wrthrych’ a lwyfannwyd i’r cyhoedd gan yr artist a chwmni dawns Expressions. “Pan oeddwn i’n treulio amser gyda’r staff, sylweddolais taw nid symudiadau technegol y gwaith oedd yn tanio fy nychymyg, ond yn hytrach symudiadau hanfodol, anymwybodol, mympwyol pob unigolyn. […] Symudiadau sy’n ddynol, angenrheidiol a naturiol. Symudiadau a dyf o dreulio amser mewn lle wrth i berson, dros amser, ddod yn gyfarwydd a’r lle. Symudiadau sy’n perthyn i’r person hwnnw, sydd yn y lle hwnnw, ar yr amser hwnnw, bob dydd. Daw’r bobl yn rhan o’r lle fel ag y daw’r lle yn rhan ohonynt hwythau. Beth sy’n digwydd wrth osod y symudiadau yn rhywle arall? Ydyn nhw’n ffitio? Fel gwrthrych sy’n ffitio mewn lle penodol, all symudiad gael ei symud a’i ail-ffitio?” Claire Prosser Claire Prosser Bedwyr Williams Bedwyr Williams oedd cynrychiolydd Cymru yn Biennale Fenis 2015 ac roedd ar restr fer Artes Mundi 2016. Yn ystod ei gyfnod preswyl yn Sain Ffagan treuliodd Bedwyr ran helaeth o’i amser yn yr archifau sain ac yn crwydro’r Amgueddfa yn ffilmio a thynnu ffotograffau. Mae wrthi o hyd yn ystyried ffyrdd o gynnwys yr ymchwil yn ei waith, ond fe gynhyrchodd ffilm fer yn ystod ei amser yn Sain Ffagan sydd wedi’i harddangos yn ei arddangosfa yn Oriel Whitworth, Manceinion. Ers cyflwyno ei waith yn Artes Mundi 2016, enillodd Bedwyr Wobr Ymddiriedolaeth Derek Williams, a thrwy garedigrwydd yr Ymddiriedolaeth, mae ei waith, 'Tyrrau Mawrion' 'nawr yn rhan o'r casgliad cenedlaethol. Darllen mwy am brosiect ail-ddatblygu Sain Ffagan neu archwilio casgliad celf Amgueddfa Cymru.
Traddodiad Radical: Caerdydd a Chelf Cyfoes 30 Ionawr 2017 Mae gwobr gelf ryngwladol fwyaf Prydain, Artes Mundi, yn dirwyn i ben ar ddiwedd mis Chwefror yng Nghaerdydd. Wrth i ni ddathlu gwobrwyo John Akomfrah fel ennillydd y wobr o £40,000, dyma olwg yn ôl ar draddodiad celf radical ac anarferol prifddinas Cymru: Y Chwiorydd Davies - Casglu Golau Roedd Gwendolene Davies a Mary Davies yn chwiorydd o gefndir Methodistaidd, a adeiladodd gasgliad o gelf beiddgar ar ddechrau'r 20ed ganrif, yn defnyddio etifeddiaeth o'r diwydiant glo. Erbyn heddiw, mae'r gweithiau a brynwyd ganddynt yn edrych yn barchus iawn i'n llygaid ni: lilis gan Monet, môrluniau Fenis, portreadau o'r dosbarth canol Ffrengig. Ddim fel hynny fuodd hi erioed: ym 1874, disgrifiodd newyddiadurwyr waith yr argraffiadwyr fel hyn: "Smear a panel with grey, plonk some black and yellow lines across it, and the enlightened few, the visionaries, exclaim: Isn't that ... perfect ..?". Roedd y chwiorydd yn rhai o gasglwyr cynharaf yr argraffiadwyr ym Mhrydain, a fe roddwyd y casgliad yn rodd i bobl Cymru rhwng 1951-63 - yn creu egin y casgliad cenedlaethol sy'n cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd heddiw. Yn ogystal â'r argraffiadwyr, cewch weld weithiau gan artistiaid oedd yn ymateb i newidiadau mawr yn Ewrop ar droad yr 20ed ganrif. Agorodd y chwiorydd eu drysau i artistiaid oedd ar ffo - fel yr rhai oedd yn cyrchu lloches wedi ymosodiad ar Wlad Belg yn 1914. Ers hynny, mae'r amgueddfa wedi casglu gwaith gan David Jones, Paul Nash a nifer o artistiaid eraill a ymatebodd ar ganfas i'w profiadau yn y Rhyfeloedd Byd. Pont Charing Cross, Claude Monet, 1902 Cymru Yfory - Dyfodol Celf (ym 1969) Erbyn canol yr ugeinfed ganrif, roedd artistiaid beiddgar y ganrif gynt - fel Monet - yn ddigon parchus. Wedi'r Ail Ryfel Byd, roedd cenhedlaeth newydd o artistiaid yn awyddus i arbrofi gyda thechnegau newydd - perfformio, 'happenings' a chelf pop. Plannwyd un o hadau cynnar celf perfformio yn Abertawe, dan ofal yr artist perfformio ifanc Ifor Davies, oedd hefyd yn defnyddio ffilm, ffrwydradau a thân yn ei waith. Y llynedd, daeth Ifor, sydd 'nawr yn 80 oed, i edrych yn ôl ar ei waith a chyfraniad Cymru i draddodiad celf perfformio. Daeth Theatr Reardon Smith yr Amgueddfa yn gartref i'r 'happening' cyntaf yng Nghymru, yn ogystal a gweithiau perfformiad gan artistiaid rhyngwladol fel Yoko Ono. Yn hytrach na pherfformio yn y cnawd, danfonodd Ono lun mawr ohoni'i hun i'r amgueddfa mewn tacsi o Lundain. Wrth i artistiaid ddefnyddio technegau a deunyddiau newydd - fel feinyl, gwastraff wedi'i ailgylchu a pherspex - dechreuodd yr amgueddfa gasglu ac adlewyrchu'r newid byd yn ei sioe 'Cymru Yfory' ym 1969. Gwahoddwyd artistiaid i ddychmygu 'Cymru'r Dyfodol' - gwlad â dyfodol llewyrchus, diwydiannau llwyddiannus a llwyth o go-go boots. Visit Silent Explosion for rare images of @yokoono performing with #ivordavies in 1966 at DIAS #destructioninartpic.twitter.com/q17P0E3bmM — National Museum Art (@NatMuseumArt) November 25, 2015 Cartref i Gelf Cyfoes Parhau mae ymroddiad Amgueddfa Genedlaethol Cymru at arddangos celf heddiw, ynghyd â chelf hanesyddol. Mae'r Oriel Colwinston yn arddangos gweithiau gan bobl sy'n ymateb i'r byd sydd ohoni heddiw - o uchelseinydd aur deuddeg troedfedd; gosodwaith o fwsog o gasgliad yr amgueddfa; tirluniau wedi'u hysbrydoli gan drip asid enwog Allan Ginsberg ym mryniau Brycheiniog. Yn fwyaf diweddar, fe arddangoswyd portreadau dirdynnol Shimon Attie o drigolion Aberfan heddiw, i goffàu hanner can mlwyddiant trychineb yn y pentre. Mae curaduron yr amgueddfa yn rhan o draddodiad o gasglu ac arddangos radical - yn annog ymwelwyr i falu teiliau porslen yn yr arddangosfa 'Bregus?' a hyd yn oed yn ymuno i chwarae offerynnau yn ystod celf perfformio chwareus Ifor Davies. Mae Artes Mundi yn cadw cysylltiadau'r amgueddfa ag ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol yn fyw. Mae'r gystadleuaeth yn dod ag artistiaid o led-led y byd i Gaerdydd - a'n ein hannog i edrych ar faterion byd-eang drwy lygaid artistiaid beiddgar. Arddangosir celf sy'n ymateb i'r byd o'n cwmpas, sy'n holi cwestiynau dwys a chwareus am y 'status quo'. Mae'r casgliad cenedlaethol, a gaiff ei arddangos yn yr un orielau, yn ein hatgoffa bod lilis dwr Monet yn feiddgar ac anarferol, ar un adeg. Gallwch glywed rhagor am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn yr Amgueddfa drwy danysgrifio i'w newyddlen. Trwy gydol Artes Mundi, bydd tywyswyr cyfeillgar ar gael os fyddwch yn dymuno taith o amgylch yr arddangosfa. Dewch i weld Artes Mundi cyn i'r sioe ddod i ben ar y 25ain o Chwefror - a thanysgrifiwch i gael clywed rhagor am gelf cyfoes ar draws Cymru oddi wrth Gyngor y Celfyddydau. Cewch weld gweithiau Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chanolfan Gelfyddydau Chapter. I gael newyddion gan Artes Mundi tanysgrifiwch i dderbyn eu e-newyddlen. Ymwelwyr yn torri teils yn 'Bregus' yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Llareggub: Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood Rhodri Viney, 10 Tachwedd 2016 'Llareggub: Darluniau Peter Blake ar gyfer Under Milk Wood' oedd arddangosfa a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cymru rhwng 23 Tachwedd 2013 - 16 Mawrth 2014. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys portreadau mewn pensil du a gwyn ar bapur arlliwiedig, lluniau dyfrlliw o olygfeydd breuddwydiol y ddrama, darluniau ‘naratif a lleoliadol’ mewn amrywiol gyfryngau gan gynnwys collage, a ffotograffau a dynnwyd gan Blake ei hun yn Nhalacharn yn y 1970au. Dyma Syr Peter Blake yn trafod ei ddulliau, ei dechneg a’i berthynas ag Under Milk Wood yn y ffilmiau hyn a wnaed yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa. Maent i’w gweld ar YouTube, gydag isdeitlau Cymraeg: Under Milk Wood | Portraeadau | Collage | Breddwydion Under Milk Wood yn Entiharmon Editions Peter Blake ar Wicipedia (Saesneg) Peter Blake yn y Tate (Saesneg) Under Milk Wood ar Wicipedia Dylan Thomas ar Wicipedia 'Dylan' yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Fâs diwlipau a ddyluniwyd gan William Burges ar gyfer Castell Caerdydd, 1874 Andrew Renton, 20 Hydref 2016 Fâs diwlipau a ddyluniwyd gan William Burges, 1874 Yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru mae fâs grochenwaith ryfeddol a ddyluniwyd gan William Burges (1827-1881) ar gyfer Ystafell Ysmygu’r Haf yng Nghastell Caerdydd – y plasty lled-ganoloesol a gynlluniodd ar gyfer John Patrick Crichton-Stuart 3ydd Marcwis Bute (1847-1900). Mae’r fas ymhlith yr esiamplau pwysicaf o ddylunio Fictoraidd Cymreig. Cynhyrchwyd y gwaith ar gyfer comisiwn pensaernïol ac addurnol oedd ymhlith y pwysicaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn sicr y mwyaf nodedig yng Nghymru. William Burges (1827-1881) Burges o bosibl oedd pensaer-ddylunydd mwyaf gwreiddiol a mentrus y 19eg ganrif. Bu farw’n gymharol ifanc, fel ei arwr pennaf – A. W. N. Pugin, addurnwr enwog Palas Westminster – ac erbyn hynny câi ei gydnabod fel dylunydd gorau ei genhedlaeth. Yn gynnar yn ei yrfa cafodd ei ddylanwadu gan arddull ‘eclectig blaengar’ ei noddwr A. J. B. Beresford Hope, oedd yn gobeithio y byddai penseiri yn datblygu arddull newydd, teilwng o Oes Fictoria drwy dynnu ar ystod eang o dechnegau hanesyddol. Ac yntau’n etifedd cyfoethog, teithiodd y pensaer ifanc ledled Ewrop a hyd yn oed i Dwrci, gan astudio celfyddyd Japan, India, Sgandinafia a gogledd Affrica hefyd. Mae ei waith felly yn ddychmygus, ond yn tynnu ar bensaernïaeth a dylunio Ewrop y Canol Oesoedd yn ogystal ag Islam, dwyrain Asia, Pompeii ac Assyria. Castell Marcwis Bute yng Nghaerdydd Diolch i gyfoeth Marcwis Bute, yng nghastell Caerdydd cafodd Burges benrhyddid i ddefnyddio’i ddychymyg i greu un o gampweithiau pensaernïol Oes Fictoria. Ysbrydolwyd ffantasi llwyr yr adeilad gan gestyll canoloesol Ffrainc, tra bod yr ystafelloedd yn llawn cerfiadau lliw, waliau panelog a nenfydau addurnedig. Ystafell Ysmygu’r Haf ym mrig Tŵr y Cloc oedd y pièce de résistance, gyda phedair fâs diwlipau wedi’u dylunio gan Burges ei hun yn rhan allweddol o theatr yr ystafell. Yn hydref ei ddyddiau daeth Burges i gredu taw yn adfywiad y ‘celfyddydau llai’ oedd dyfodol pensaernïaeth. Dyluniodd gelfi, metelwaith, gemwaith, gwydr lliw a cherameg oedd mor ddychmygus, cymhleth ac ysgolheigaidd a’i adeiladau, a phob un yn gweddu’n berffaith i arddull bensaernïol ei briod adeilad. Drwy hyn, daeth yn un o ddylanwadau pennaf y mudiad Celf a Chrefft. Ystafell Ysmygu’r Haf yng Nghastell Caerdydd, tua 1900 Y Fasys Tiwlipau Gwnaed y fasys o grochenwaith caled, gwyn tebyg i gerameg, cyn eu paentio â’u goreuro â llaw. Mae’r siâp fel glôb gyda phedair arfbais hirgrwn teulu Bute yn addurn o’i gylch. Yn ymwthio ohono mae gwddf canolog a phedwar gwddf llai o’i amgylch, ac ar y rhain mae addurn gwydriad yn dangos paracitiaid yn eistedd ar sgrôl o ddeiliach. Ceir arysgrif o amgylch y gwddf (ANNO : DOMINI : 1874) a gwaelod y bol (IOHN^S PATC^S MARCQ DE BUTE) yn dynodi’r dyddiad a’r noddwr. Yn anffodus does dim cofnod o wneuthurwr nac addurnwr y fasys. Y gred gyffredin yw iddyn nhw gael eu cynhyrchu yn Swydd Stafford, ond mae’n bosib taw George Maw o Broseley, Swydd Amwythig oedd y crefftwr. Roedd Maw & Co. fwyaf adnabyddus am eu teils, a nhw fyddai’n cynhyrchu’r teils a ddyluniai Burges, gan gynnwys rhai ar gyfer Ystafell Ysmygu’r Haf yng Nghastell Caerdydd. Roedd y cwmni hefyd yn cynhyrchu cerameg pensaernïol wedi’i fowldio, gan gynnwys llestri anarferol eu siâp fel y fâs adnabyddus ar ffurf alarch a ddyluniwyd gan Walter Crane ym 1889. Erbyn 1874, roedd y cwmni’n barod yn arbrofi â llestri crochenwaith uchelgeisiol ac yn The Art Journal y flwyddyn honno mae Professor Archer yn defnyddio geiriau all fod yn cyfeirio at fasys Burges: 'Some of the designs, as in that of a jardinière in Louis Quatorze style and in a number of vases formed after Indian, Moorish and classic models, are works which would do credit to the oldest-established potteries, whilst some of the colour-effects displayed upon them have a richness that has never been surpassed. For these articles a white clay is used, and they may be classed as semiporcelain with a very firm, hard texture.' Mae’n bosib mai ffrwyth gwaith W. B. Simpson, 456 West Strand, yw’r addurniadau. Ef oedd asiant Maw yn Llundain. At Simpson y byddai Maw yn anfon y teils maiolica pensaernïol a ddatblygodd i’w paentio a’u tanio â llaw. Gwelwn o’r enghreifftiau yng Nghastell Caerdydd safon aruthrol y gwaith hwn, ac mae fasys Ystafell Ysmygu’r Haf llawn cystal. Cynllun Tŵr y Cloc yng Nghastell Caerdydd Axel Haig, dyluniad Ystafell Ysmygu’r Haf yng Nghastell Caerdydd, tua 1870 Axel Haig, manylyn dyluniad Ystafell Ysmygu’r Haf yng Nghastell Caerdydd, tua 1870 Roedd y comisiwn i ailadeiladu Castell Caerdydd yn gyfle heb ei ail i Burges wireddu ei syniadau. Gyda’i gyfoeth digymar, ei hoffter o deithio a’i frwdfrydedd rhamantaidd am y Canol Oesoedd, Bute oedd noddwr delfrydol. Fel yr esbonia un o ysgolheigion amlycaf Burges, J. Mordaunt Crook; ‘Cardiff was the commission of a lifetime: the chance of creating a dream castle for Maecenas himself.’ Tŵr y Cloc yw elfen amlycaf y castell, ac fe berodd gryn gyffro ar ddadorchuddio’r cynllun yn yr Academi Frenhinol ym 1870. Roedd pob llawr yn fwy gwych na’r un blaenorol, ac yn uchafbwynt orielog Ystafell Ysmygu’r Haf fe welwn yr esiampl orau o bensaernïaeth Burges. I Mordaunt Crook roedd yn nendwr o gastell, nendwr mewn lifrai eclectig blaengar. Thema eiconograffig y tŵr yw amser. Ysbrydolwyd addurniadau Ystafell Ysmygu’r Haf gan seryddiaeth, ac mae’r ystafell yn dangos trefn a rhaniad amser a’r bydysawd. Modelwyd y teils ar y rhai a welir o flaen prif allor Abaty Westminster, gan ddangos y pum cyfandir, y ddinas ddwyfol a chylch bywyd adar ac anifeiliaid y ddaear. Ysbrydolwyd cerfiadau’r simdde gan deimladau hwyliog yr haf, yn enwedig cariad. Yno hefyd mae frieze o deils wedi’u paentio yn adrodd chwedl y sidydd ac yn dangos cymeriadau fel Apollo a Cupid, Castor a Pollux, ac Ewropa a’r Tarw. Ar y waliau mae paentiadau gan Frederick Weekes yn cynrychioli dau ar bymtheg o fetelau, a seryddwyr y gorffennol yn y sbandreli. Yn hongian o ganol y nenfwd mae canhwyllyr heuldlws ar ffurf Apollo. Rhwng asennau’r gromen gwelwn y pedair elfen - tir, aer, tân a dŵr - a chorbelau cerfiedig anferth yn y pedwar cornel yn personoli wyth gwynt chwedlonol Groeg, gan gynnwys Africus, Auster a Zephyrus. Burges ddyluniodd y celfi hefyd wrth gwrs, gan gynnwys yr ystolion Otoman moethus a’r cadeiriau Jacobeaidd gyda’u haddurn Romanésg, sy’n nodweddiadol o’i arddull eclectig, awgrymog. Yn eu lleoliad ar y pedwar corbel cerfiedig byddai’r fasys yn greiddiol i effaith theatrig yr ystafell. Oddeutu 1870 paentiodd Axel Haig lun dyfrlliw o weledigaeth Burges ar gyfer Ystafell Ysmygu’r Gogledd (yng nghasgliad Amgueddfa Cymru) ac mae’r fasys yn hwnnw yn fwy nodweddiadol a chyffredin eu siâp. Mae’n amlwg, o’u cymharu â’r fasys terfynol, i Burges ddefnyddio cryn ddychymyg a chymryd cryn ofal wrth ddylunio fasys fyddai’n ganolog i’r ystafell. Roedd yr addurniadau arnynt yn ategu addurn yr ystafell ac yn dod â’r gofod yn fyw. Adlewyrchir y lliwiau – glas, gwyrdd, aur ac ocr – yng ngweddill yr ystafell; yn y defnydd oren a glas ar yr ystolion Otoman a’r arfbeisiau a welir ar waelod yr oriel. Roedd cariad yn thema wrth galon Burges ac mae’r paracitiaid – adar cariad – ar y fasys yn adlais o’r adar a gerfiwyd ac a baentiwyd yn nwylo Amor, ar lwfer y simdde ac mewn paent yn y tariannau o dan yr oriel. Mae cynllun ac addurn y fasys yn gyfuniad dychmygus o ffynonellau amrywiol – o bensaernïaeth ganoloesol a llawysgrifau goleuedig, i grochenwaith maiolica’r Dadeni, crochenwaith Delft yr Iseldiroedd a phorslen Tsieina. Roedd y cyfan yn rhan o’r gêm o gyfeiriadaeth ysgolhaig y byddai Burges yn mwynhau ei chwarae â Marcwis Bute. Gwelir darluniau o fasys tebyg yn llyfr braslunio Burges (yng nghasgliad Athrofa Frenhinol Penseiri Prydain), gyda nodyn gerllaw un yn dweud ‘this is a pot of glass / in which you put flowers’. Mae’n debyg ei fod wedi’i ysbrydoli gan ysgeintiwr dŵr gwydr oedd yn gyffredin yng Nghatalonia rhwng 1550 a 1650. Ffynhonnell arall o ysbrydoliaeth oedd y fasys blodau cerameg aml-yddfog a gynhyrchwyd yn Iran yn y 12fed ganrif ac yn ystod llinach Safavid (1500-1722). Y dylanwad cryfaf oll yw fasys porslen Tsieineaidd o ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif, a gellir gweld esiamplau prin mewn ffotograffau o ystafelloedd Burges yn 15 Buckingham Street, Llundain yn y 1870au. Swyddfa William Burges, 15 Buckingham Street, 1876 © Victoria and Albert Museum, London Manylyn swyddfa William Burges, 15 Buckingham Street, 1876 © Victoria and Albert Museum, London Cegin Abaty Marmoutier, o Dictionnaire raisonné de l’architecture française du XIe au XVIe siècle gan Eugène Viollet-le-Duc (1856) Yn eu helfennau pensaernïol, gwelwn yn ffurf y fasys ddylanwad hoff adeiladau canoloesol Burges – cegin simneog abaty Benedictaidd Marmoutier ger Tours, Ffrainc. Ym 1856 darluniwyd yr adeilad gan un o benseiri dylanwadol yr Adfywiad Gothig Ffrengig, Eugène Viollet-le-Duc, yn ei gyfrol Dictionnaire raisonné de l’architecture française du XIe au XVIe siècle. Mae hefyd yn addasiad o un o gysyniadau pensaernïol cynharach Burges. Nis gwireddwyd ei weledigaeth ar gyfer Ysgol Gelf Bombay ym 1866 ond roedd silwét yr efail gron yno wedi’i hysbrydoli gan gegin Marmoutier. Perodd y dyluniad ar gyfer Bombay gryn gynnwrf ymhlith beirniaid pensaernïol gyda rhai yn ei ystyried ymhlith y dyluniadau mwyaf rhyfeddol a grëwyd erioed. Ym 1947 cyflwynwyd y castell yn rhodd i Ddinas Caerdydd ac erbyn Awst 1948 roedd y set o bedair wedi eu symud. Prynwyd dau gan y bardd John Betjeman, a’u rhoddodd ym 1965 i Charles Handley-Read. Dywedodd yntau yn ei lythyr diolch; ‘I am near to bursting with gratitude and delight.’ Mae un o’r fasys yma bellach i’w gweld yn Amgueddfa Fictoria ac Albert yn Llundain, a’r llall yn The Higgins, Bedford. Prynwyd y ddwy fâs arall gan yr asiant o Gasnewydd John Kyrle Fletcher, a’u gwerthodd i gasglwr preifat. Mae un o’r fasys bellach wedi dychwelyd i Gaerdydd, tra bod trwydded allforio wedi’i gohirio ar gyfer y bedwaredd. Y gobaith yw y bydd modd i sefydliad yn y DU ganfod cyllid i gaffael y fâs er mwyn medru cadw’r uned bwysig mewn dwylo cyhoeddus yn y DU, gyda’r gobaith o’u harddangos gyda’i gilydd yn y dyfodol. Roedd y caffaeliad hwn yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Headley. Diolch i’w grantiau, llwyddodd Amgueddfa Cymru i brynu’r fâs, wedi i’r drwydded allforio gael ei gohirio. Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl hon yng nghylchlythyr Y Cyfeillion. Dysgwch ragor am gefnogi Amgueddfa Cymru drwy ymuno â’r Cyfeillion.