Darlun Ffug yn yr Oriel? 29 Mehefin 2016 Caernarvon Castle gan Richard Wilson Claude Monet, Pont Charing Cross, 1902 'Adeiladau yn Napoli' gan Thomas Jones, 1782 'The Sea's Edge', Arthur Giardelli, 1990 The Beacon Light, J.M.W. Turner Campwaith ar Goll Yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ein gwaith yw datguddio straeon cudd ein casgliadau celf. O ddarluniau cudd sydd ond i'w gweld dan belydr-x, i ddilyn ôl troed artistiaid: rydym ni'n darganfod pethe newydd am ein casgliad yn gyson. Dros y mis nesaf, 'dyn ni am osod sialens i weld a allwch chi ddarganfod rhywbeth ymhlith y peintiadau: mae na ddarlun ffug rywle yn yr oriel. Drwy gydol mis Gorffennaf, bydd un o'n darluniau yn cael ei gyfnewid am fersiwn ffug, fel rhan o gystadleuaeth a rhaglen deledu Sky Arts: Fake! The Great Masterpiece Challenge. Ble mae'r darlun ffug? Rydym ni'n apelio ar bob ditectif celf amatur, i ddod i ymweld â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i chwilio amdano. Mae copi ffug o baentiad o ysgol 'Dirlunio Prydain' wedi'i osod, a bydd modd ei weld drwy fis Gorffennaf. Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu pa waith yw'r un ffug, pleidleisiwch arlein - caiff y cwbwl ei ddadorchuddio ar Sky Arts 'nes mlaen eleni, a'i arddangos ochr-yn-ochr â'r fersiwn wreiddiol mewn arddangosfa arbennig. Casgliadau Celf Caerdydd Mae dros fil o weithiau celf yn hongian yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: gweithiau enwog yr Argraffiadwyr, celf modern gan artistiaid fel Francis Bacon; gosodweithiau a chelf gymhwysol. Mae mynediad i'r amgueddfa yn rhad ac am ddim, felly dewch draw y mis yma i chwilio am y darlun ffug. I wneud pethe 'chydig yn haws i chi, bydd y sialens o chwilio am ddarlun ffug wedi'i ffocysu ar ein casgliad o dirluniau. Dyma rai o drysorau cudd ac uchafbwyntiau y casgliad hwnnw: Oes Aur y Picarésg Gelwir Richard Wilson yn 'Dad Tirlunio Prydain', am ei fod yn meddu ar allu arbennig i gyfleu golau euraidd Môr y Canoldir a golygfeydd mytholegol, deniadol. Mae'n dod â'r naws yma i sawl tirlun o Gymru, wrth beintio cestyll Caernarfon a Dolbadarn. Cewch weld portread o'r artist Cymreig wrth ei isl, yn gwisgo'i benwisg nodweddiadol, yn ein Oriel Gelf Hanesyddol, a ddarluniwyd gan Anton Mengs. Perspectif Newydd: Tirlun y Ddinas a'r Tywyllwch Wrth i'r tirwedd o'n cwmpas newid, mae agwedd artistiaid tuag ato yn newid hefyd. 'Dyw darluniau Thomas Jones ddim mwy na cherdyn post, a maent yn rhoi cipolwg ar olygfeydd o ddinas Napoli, o'i thoeon a'i strydoedd cefn - testun arloesol ar gyfer artist ym 1780. Mae gwaith Jones i'w ganfod ymhlith darluniau o fyd natur a'r dref yn yr oriel Peintio o Natur. Mae dinasoedd yr Eidal yn ymddangos dro ar ôl tro yn yr oriel Celf Brydeinig tua 1900, gyda Fenis yn enwedig yn denu llygad Walter Sickert wrth iddo beintio'r 'Palazzo Camerlenghi', a'r 'Palazzo Eleanora Duse', a Whistler, wrth iddo beintio 'Noslun: Glas ac Aur' o'r Piazza San Marco. Peintio Golau Oherwydd gwaith craff y Chwiorydd Davies, mae casgliad gwych o weithiau argraffiadol i'w gweld yn yr amgueddfa, fel astudiaethau awyr-agored Dorothea Sharp, lilis dŵr enwog Monet, a champwaith ôl-argraffiadol Cézanne, 'Argae François Zola'. Bu un o artistiaid enwocaf Prydain, J.M.W Turner, yn ysbrydoliaeth i'r steil argraffiadol - yn creu storom frochus neu wawr heddychlon, mewn gweithiau fel 'Yr Oleufa' a 'Bore Wedi'r Storm'. Yn ddiweddar, canfu dîm o arbeniwyr bod tri darlun gan Turner, a frandiwyd fel rhai ffug ym 1950, wedi eu paentio gan y dyn ei hun. Maent nawr yn cael eu harddangos yn ein Oriel Fictoraidd, ochr yn ochr â gwaith y cyn-Raffaeliad Gabriel Dante Rossetti, a model o un o nodweddion enwocaf y brif ddinas: Wal yr Anifeiliaid yng Nghastell Caerdydd. Grym Tirwedd Cymru Yn oriel Pŵer y Tir: Oriel Tirluniau Cymru cewch weld stori tirwedd ein gwlad - y ffordd y mae wedi newid dros y canrifoedd, a sut mae ei harddwch wedi ysbrydoli peintwyr, cerflunwyr a theithwyr. O’r ddeunawfed ganrif ymlaen, daeth artistiaid yn llu i archwilio’n gwlad. Mae Cymru’n dal i ddenu artistiaid heddiw i ail-ddehongli llefydd a lluniau o’r gorffennol, gan edrych ar y tir mewn ffyrdd newydd. Mwynhewch waith Kyffin Williams sy'n dangos mynyddoedd diarffordd, a golygfeydd o ddiwydiant fel dociau Caerdydd. Yn yr oriel gron, brydferth yma, fe ddowch o hyd i sawl golwg ar Gymru. Digwyddiadau Os hoffech chi edrych yn fanylach ar ein casgliadau, ymunwch â thaith dywys am ddim, bob dydd Mercher a Sadwrn am 12.30pm. Bydd tywysydd cyfeillgar yn dangos uchafbwyntiau'r casgliad i chi, gan gynnwys Cézanne, L.S Lowry, Richard Wilson a J.M.W. Turner.
Cyfraniad Cymru at dŵf ymerodraeth forwrol Prydain Oliver Fairclough, 27 Tachwedd 2015 Mae gan Amgueddfa Cymru ddau bortread sy’n dangos rôl Cymru yn natblygiad ymerodraeth forwrol Prydain yn y ddeunawfed ganrif. Paentiwyd y lleiaf o’r rhain oddeutu 1764 ac mae’n bortread llawn (54.5 x 42.6 cm) o William Owen (1737-1778). Paentiwyd yr ail yn Canton, Tsieina oddeutu 1791 ac mae’n bortread o John Jones (1751-1828), Capten yn gwasanaethu’r East India Company. William Owen William Owen (1737-1778) Ganwyd William i deulu cefnog Owens of Cefyn-yr-Hafodau yn Sir Feirionydd. Roed bywyd ar y môr yn beryglus, a gwneud gyrfa ohoni yn waith caled oed yn galw am dylanwad yn ogystal â thalent. Roedd yn yrfa addas i ŵr bonheddig, fodd bynnag, nad oedd yn gofyn am fuddsoddiad ariannol mawr gyda phosibilrwydd hefyd o wneud ffortiwn o gipio trysor a gwobrwyon. Byddai’n rhaid i deuluoedd berswadio Capten i groesawu eu mab i’w griw fel ‘gŵr bonheddig ifanc’ er mwyn ennill y chwe mlynedd o wasanaeth fyddai’n rhaid eu cwblhau i gymhwyso fel Is-gapten. Derbyniodd tad William eirda gan Ysgrifennydd y Morlys a roddodd y bachen yng ngofal ei fab-yng-nghyfraith. Gwasanaethodd William yng Ngorllewin Affrica ac India’r Gorllewin cyn hwylio am India ym 1754. Roedd ei saith mlynedd yn yr is-gyfandir yn rhai prysur gyda Phrydain mewn rhyfel â Ffrainc. Ymladdodd William ar y tir ym Mrwydr Plassey yn ogystal ag ar y môr, a chael ei anafu gan belen mysged. Fe’i dyrchafwyd yn Is-gapten ym 1758, ac roedd yn rhan o’r gwarchae ar harbwr Pondicherry lle cafodd ei anafu drachefn wrth ymosod ar ddwy long Ffrengig. Gwelir Owen yn lifrau Is-gapten yn y Llynges Frenhinol (patrwm 1748-1767). Esboniodd mewn cofnod o’i wasanaeth sut iddo golli rhan o’i fraich dde wrth ymosod ar ddwy long Ffrengig dan ynnau Pondicherry: 'on the night of 7 Oct 1760 he [was] ordered to cut out the French ships La Baleine and Hermoine from under the guns of Pondicherry, … [when] he had the misfortune to have his right arm shot off … by a Cannon Ball. Dychwelodd Owen i Brydain ar hanner cyflog ar ddiwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1762. Prin oedd y cyfle am ddyrchafiad mewn cyfnod o heddwch ac ym 1766 hwyliodd i Nova Scotia gyda’r Arglwydd William Campbell, oedd newydd gael ei benodi’n llywodraethwr. Rhoddodd Campbell ynys iddo ym Mae Passamaquoddy (rhwng New Brunswick a Maine) ac erbyn 1771 roedd 73 o bobl wedi ymsefydlu yno. Dychwelodd i Brydain wrth i ryfel Sbaen gorddi, ond rhaid oedd aros tan 1776 cyn derbyn comisiwn unwaith eto a hwylio am India. Daeth dyrchafiad i’w ran i swydd Comander y slŵp HMS Cormorant. Yn anffodus, ni welodd William ddiwedd y rhyfel – cafodd ei ladd mewn damwain feddw y Madras yn Hydref 1778. John Jones John Jones (1751-1828) Ganwyd John Jones i deulu dosbarth canol yn Abertawe ym mis Awst 1751. Daeth yn brentis morwr masnachol cyn gwasanaethu ar un o longau’r East India Company, Queen, ar fordaith i Madras a Tsieina ym 1770-1772. Wedi dychwelyd ymunodd â’r Llynges Frenhinol. Roedd heddwch ym Mhrydain ym 1773 ac mae’n debyg iddo ymrestru er mwyn gwella ei statws cymdeithasol a phroffesiynol. Roedd o ddosbarth is na William Owen ac fellu bu’n gwasanaethu fel Meistr (gwarantswyddog yn gyfrifol am fordwyo) cyn derbyn comisiwn Is‑gapten ym 1782 ar ddiwedd Rhyfel America. Heb swydd ar ddiwedd y rhyfel, ymunodd â’r East India Company gan wasanaethu am bymtheg mlynedd. Ef oedd Mêt 1af y Carnatic ym 1786-7, a Mêt 1af y Deptford ym 1787-9. Yn y pen draw fe’i penodwyd yn Gapten un o longau’r cwmni, Boddam, gan hwylio dair gwaith i Tsieina ym 1791-2, 1793-4 a 1800-1. Mae ei lyfr cyfrifon personol o fordaith gyntaf y Boddam wedi goroesi ac yn dangos iddo fuddsoddi £11,000 mewn nwyddau i’w gwerthu ym Madras a Canton (gan gynnwys haid o gŵn hela) gan wneud elw personol o bron i £4,000. Defnyddiodd yr arian hwn i brynu gwerth £7,500 o nwyddau lleol yn Canton, fyddai wedi’u gwerthu am fwy o elw yn Llundain. Paentiwyd ei bortread gan Guan Zuolin, artist o Tsieina oedd yn gweithio yn Canton rhwng 1770 a 1805. Roedd yn arfer y dull flat, clir, Ewropeaidd o baentio mewn paent olew wedi’i deneuo â dŵr. Ym 1794 prynodd Jones Dŷ Sain Helen uwchlaw Bae Abertawe a comisiynodd y pensaer William Jernegan i’w ailadeiladu fel fila neo-glasurol. Mae golygfa o’r tŷ ym 1800 yn ei ddangos mewn glaswelltir gyda cheffylau, gwartheg a defaid John Jones yn pori. Treuliodd ymddeoliad cyfforddus yno tan ei farwolaeth mewn damwain cerbyd ym 1828. Dŷ Sain Helen
Gwres, Mwg a Dagrau - Gwaith Maurice Marinot Rachel Conroy, 19 Tachwedd 2015 'Welais i erioed unrhyw beth mor brydferth, mor werthfawr ac eto mor syml’ (André Derain). Mewn Gardd, 1908, olew ar gynfas. (DA007037) Dyluniad ar gyfer addurn enamel, 1921, dyfrlliw, inc a phensel ar bapur. (DA008188) Maurice Marinot (1882-1960) yw un o wneuthurwyr gwydr pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Chwaraeodd ran flaenllaw wrth ddatblygu gwydr yn gyfrwng celfyddydol. Mae ei waith gwydr yn brin iawn, gan i gerbyd oedd yn cario arfau ffrwydro tu allan i’w stiwdio ym 1944 a dinistrio llafur ei oes. Yn enedigol o Troyes, i’r de-ddwyrain o Baris, arlunydd ydoedd yn wreiddiol (Ffig. 1). Cafodd le yn un o ysgolion celf gorau’r brifddinas, ond cafodd ei ddiarddel am fod yn ‘anghydffurfiwr peryglus’. Yn arddangosfa hydref y Salon d’Automne ym Mharis, 1905, arddangoswyd ei baentiadau ochr yn ochr ag artistiaid gan gynnwys Matisse a Derain. Ond fe’i beirniadwyd yn hallt. Yn ôl y beirniaid, roedd gormodedd o liw, a rhoddwyd yr enw fauves i’r artistiaid, yr ‘anifeiliaid gwyllt’ (Ffig. 2). Daeth tro ar fyd ym 1911. Ar ymweliad â ffatri wydr hen ffrindiau ysgol iddo, Gabriel ac Eugène Viard yn Bar-sur-Seine (Ffig. 3), daeth Marinot dan gyfaredd gwydr. Ac yntau ar dân eisiau dysgu holl gyfrinachau’r grefft, llwyddodd i berswadio’r brodyr i roi lle ac offer iddo weithio. Defnyddiodd ei sgiliau â brwsh paent i gychwyn, gan addurno darnau gwydr a wnaed gan eraill ag enamel llachar, trawiadol (Ffig. 4). Erbyn dechrau’r 1920au, roedd wedi meithrin digon o sgiliau i greu ei ffurfiau gwydr ei hun, a dechreuodd eu harddangos. Hunanbortread, 1947, pen ac inc ar bapur. (DA008196) Ger Bar-sur-Seine, 1925, pen, inc a phensel ar bapur. (DA006752) ‘I fod yn wneuthurwr gwydr rhaid chwythu’r stwff tryloyw yn agos at y ffwrnais wyllt... gweithio mewn gwres a mwg llethol, eich llygaid yn llawn dagrau, eich dwylo yn llwch glo ac yn llosgiadau drostynt’ (Maurice Marinot, 1920). Cynhyrchodd Marinot waith unigryw, y cyfan â llaw, ac yn ei lygaid ef, roedd yr un mor greadigol ac arwyddocaol â phaentiad neu gerflun (Ffig. 5). Mae gwydr Marinot yn ddwys, yn feiddgar ac yn arbrofol iawn, gyda phwyslais ar ffurf a diddordeb parhaus mewn effaith golau. Drwy weithio â gwydr, cafodd Marinot y cyfle i arbrofi’n fwy helaeth â lliw – o binciau ysgafn afloyw a phorffor cyfoethog, i liwiau gwyrdd clir a metalau sgleiniog (Ffig. 6). Gan ddwyn ysbrydoliaeth o fyd natur, ymddengys ei waith fel talpiau a dorrwyd o flociau iâ sy’n dadmer, a naddwyd o wenithfaen neu a lenwyd gyda dŵr o bwll budr (Ffig. 7). Bu gyrfa gwydr Marinot yn brysur ac yn hynod o lwyddiannus, ac eto, bu’n gymharol fer. Ym 1937, wedi i’w iechyd dorri ac ar ôl i dân ddinistrio’r ffatri wydr, penderfynodd roi terfyn ar y gwaith wedi 26 mlynedd o arbrofi. Mae ei waith hynod yn parhau i ddylanwadu ar artistiaid gwydr hyd heddiw. Ym 1974, rhoddodd Florence Marinot, merch yr arlunydd, waith celf i Amgueddfa Cymru. Dewisodd Florence roi’r gwaith i’r amgueddfa hon oherwydd y casgliadau cyfoethog o baentiadau Ffrengig modern sydd yma. Dim ond tri chasgliad arall yn y DU ac Iwerddon sydd â gwaith gan yr artist: Amgueddfa Fictoria ac Albert, Amgueddfa New Walk yng Nghaerlŷr ac Oriel Genedlaethol Iwerddon. Manylyn potel, 1929, gwydr â swigod ac ysgythriad asid. (DA008203_05) Potel a chaead, 1929, ysgythriad asid, gwydr wedi’i gracio. (DA008205_03) Gyda diolch i’r Dr P. Merat am ganiatâd i atgynhyrchu delweddau o’r gwaith. Yr holl ddelweddau © Dr P. Merat.
Jâd Tsieina yn Amgueddfa Cymru Penelope Hines (Curadur Celf Gymhwysol dros dro), 14 Medi 2015 Deunydd gwydn, lled dryloyw yw jâd a gall gael ei droi yn addurniadau, arfau seremonïol a gwrthrychau defodol. Am saith milenia a mwy mae jâd wedi bod yn bwysig yn niwylliant Tsieina a dros y canrifoedd mae crefftwyr wedi troi eu dawn a’u dylunio arloesol at greu amrywiaeth o wrthrychau, gydag amrywiaeth o jâd gwahanol. Y Deunydd Yr enw Tsieinëeg am jâd yw ‘Yu’, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw garreg brydferth neu werthfawr – fel agat neu lasfaen – sy’n dangos y pum nodwedd canlynol: Llyfn Caled Strwythur dwys Lled dryloyw Arlliwiau gwahanol Ond pan fyddwn ni’n trafod ‘jâd’ (yn enwedig mewn amgueddfa yn y Gorllewin) rydyn ni’n cyfeirio’n benodol at ddau fwyn gwahanol – neffrit ac arenfaen (jadeite). Dyfodiad cymharol ddiweddar i Tsieina yw arenfaen (tua diwedd y 18fed ganrif) felly neffrit yw’r rhan fwyaf o jâd Tseina. Jâd Amgueddfa Cymru Roedd pob anifail a gerfiwyd yn ystod llinachau Ming a Qing yn llawn ystyron ffafriol a dymuniadau da i’r gwyliwr. Dyma yw’r rhan fwyaf o wrthrychau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Hwyaden (NMW A 50761) Mae’r hwyaden hon fel pe bai’n nofio. Ar ei chefn ac yn ei phig mae blodau lotws fydd yn dod â lwc dda i’r perchennog. Roedd cyfuno ffurfiau syml a manyldeb cain yn nodweddiadol o ddiwedd cyfnod Ming. Byffalo (NMW A 50764) Defnyddiwyd y byffalo mewn tai i gadw ysbrydion drwg draw, ond gan fod yr anifail hefyd yn tynnu’r aradr mae wedi tyfu’n symbol o amaethyddiaeth a’r gwanwyn. Gall byffalo yn gorwedd gyda’i ben wedi troi ddynodi bod y byd mewn heddwch. Alarch / Ŵydd (NMW A 50767) Mae’n aneglur os taw alarch neu ŵydd sydd yma. Yn niwylliant Tsieina hynafol roedd yr alarch yn fersiwn ddwyfol o’r ŵydd, ond mae’r ddau aderyn yn sanctaidd. Llew (NMW A 50787) Does dim llewod yn byw yn Tsieina ond daethant yn adnabyddus gyda thwf Bwdhaeth. Mewn porslen ar ei orffwys y caiff y teigr ei bortreadu’n draddodiadol, ond mewn jâd byddant fel arfer yn cael eu darlunio yn yr un modd â chŵn. Mae hon yn esiampl dda o ddefnyddio jâd i ddangos cyfoeth. Diferwr Dŵr (NMW A 50777) Defnyddiwyd y diferwr dŵr i gynnal trysorau’r stiwdio, fel y brws, inc, papur a’r garreg inc. Defnyddiwyd y darnau yma mor gynnar â’r 13eg ganrif ond daethant yn offer cyfarwydd yn ystod llinachau Ming a Qing. Prin oedd y rhai fyddai’n casglu jâd Tsieina yn Ewrop cyn y 19eg ganrif ac mae’n debyg i’r diddordeb dyfu wedi dangos gwaith yn un o arddangosfeydd mawreddog y Crystal Palace. Daw’r eitemau cyntaf yn ein casgliad o gasgliad Tŷ Turner mewn gwirionedd, wedi’u caffael yn y 1800au mwy na thebyg gan noddwr cyntaf yr orielau, John Pike Thomas. Daw’r mwyafrif, fodd bynnag, o gymynrodd David Bertram Levinson ym 1967. Prin yw’r wybodaeth am darddiad y jâd ond mae’n debyg eu bod i gyd yn dyddio o’r 1800au a’r 1900au. Erthygl yn dilyn sgwrs am Jâd Tsieina, 15 Mai 2015. Llyfryddiaeth Llyfrau Lin, J C S. The Immortal Stone: Chinese Jades from the Neolithic Period to the Twentieth Century. The Fitzwilliam Museum, (Scala Publishers, 2009). Wilson, M. Chinese Jades, (V&A Publications, 2004). Erthyglau / Penodau Nichol, D. 2010. Chinese Jade from the National Museum of Wales Collection. National Museum of Wales Geological Series No 2x, 000pp. Gwefannau Casgliad Celf Ar-lein Amgueddfa Cymru
John Dillwyn Llewelyn — Arloeswr Ffotograffiaeth Cymru Mark Etheridge, 21 Ebrill 2015 Ffotograffau Casgliad John Dillwyn Llewelyn yn Amgueddfa Cymru yw rhai o’r cynharaf a dynnwyd yng Nghymru erioed. Yn ogystal ag oddeutu 850 o brintiau ffotograffig (y rhan fwyaf ar bapur halen), mae yn y casgliad 230 negatif papur Caloteip, 160 negatif gwydr Colodion a rhai dogfennau ac offer ffotograffig. Mae yn y casgliad hefyd negatifau a phrintiau a dynnwyd gan y teulu Llewelyn a nifer o brintiau gan ffotograffwyr eraill a gasglwyd gan y teulu (gan gynnwys Calvert Richard Jones a Roger Fenton). Gallwch weld yr holl luniau a negyddion o gasgliad John Dillwyn Llewelyn ar gatalog Casgliadau Arlein Amgueddfa Cymru. John Dillwyn Llewelyn (1810 – 1882) Ganwyd John Dillwyn Llewelyn yn The Willows, Abertawe ar 12 Ionawr 1810. Roedd y teulu yn byw bedair milltir i’r gogledd ar ystâd Penllergare ers 1817, a phan ddaeth i oed etifeddodd John yr ystâd o’i dad-cu ar ochr ei Fam a chymryd Llewelyn yn gyfenw ychwanegol. Ar yr ystâd yn y 1850au y tynnwyd nifer o’r ffotograffau yn y casgliad hwn. Ar 18 Mehefin 1833 priododd John ag Emma Thomasina Talbot, merch ieuengaf Thomas Mansel Talbot o Margam a Penrice. Mae hyn yn nodedig gan taw cefnder cyntaf Emma oedd y ffotograffydd arloesol William Henry Fox Talbot – dyfeisiwr y broses negatif a fu, ym 1839, mewn cystadleuaeth â’r Ffrancwr Daguerre. Bu farw ar 24 Awst 1882 yn ei gartref yn Llundain, Atherton Grange, ac mae wedi’i gladdu gyda’i wraig Emma ym Mhenllergare. Negatif gwydr colodion o John Dillwyn Llewelyn, tua 1853 Negatif gwydr colodion yn dangos Tŷ Penllergare o’r de, 1858 Gwyddonydd, Botanegydd a Seryddwr Roedd ei deulu yn gyfoethog dros ben gyda’i dad, Lewis Weston Dillwyn, yn berchennog gweithfeydd Crochenwaith Cambrian yn Abertawe. Gallai John felly ganolbwyntio ar ei ddiddordeb ym maes gwyddoniaeth, botaneg a seryddiaeth heb boeni am ennill bywoliaeth. Roedd yn wyddonydd amatur medrus ac yn aelod o Sefydliad Brenhinol De Cymru. Ar dir yr ystâd ym Mhenllergare fe adeiladodd arsyllfa (sy’n dal i sefyll heddiw) a tÅ· tegeirian. Print papur halen yn dangos fâs rosynnau yn y cyntedd yn Nhŷ Penllergare, 1850au Negatif papur caloteip o’r arsyllfa ym Mhenllergare, 1850au Ffotograffydd Arloesol Gyda’i ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth a chysylltiad teulu ei wraig â Fox Talbot, mae’n hawdd gweld sut y denwyd John at ffotograffiaeth o ddyddiau cyntaf y cyfrwng ym 1839. Prin oedd ei lwyddiant yn y dyddiau cynnar, gyda thechneg Talbot neu Daguerre. Aeth rhai o’r trafferthion technegol yn drech nag ef a trodd ei gefn ar ffotograffiaeth tan ddechrau’r 1850au. O’r ddegawd hon y daw mwyafrif casgliad Amgueddfa Cymru. Fel un o sylfaenwyr Cymdeithas Ffotograffig Llundain (y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn ddiweddarach) mynychodd y cyfarfod cyntaf ym 1853. Dangosodd ei waith yn rheolaidd yn arddangosfeydd cynnar y Gymdeithas ac hefyd yn Dundee, arddangosfa Trysorau Celf Manceinion ac arddangosfa Paris 1855. Roedd gan John ddawn o ddal ennyd mewn amser – tonnau, symud cymylau a stêm. Yn arddangosfa Paris ym 1855 dyfarnwyd medal arian iddo am gyfres o bedwar delwedd dan y teitl Motion: tonnau’n torri ym Mae Caswell; llong hwylio ar arfordir Caswell; y llong stêm JUNO yn chwythu stêm yn Nimbych y Pysgod; cymylau uwchlaw Ynys Catrin, Dinbych y Pysgod. Negatif gwydr colodion o’r gyfres Motion yn dangos y llong stêm JUNO yn Nimbych y Pysgod, tua 1855 Negatif gwydr colodion yn dangos John gyda’i gamera caloteip ym 1853 Tynnwyd y ffotograff hwn gan ddefnyddio’r broses Oxymel. Cafodd ei dynnu ar 15 Mawrth 1858 am 1pm, gyda’r plât wedi’i ddatguddio am 15 munud. Golygfa o Abertawe o St. Thomas, gyda llongau hwylio yn y cefndir. Dyfeisio’r Broses Oxymel Ym 1856 dyfeisiodd y broses Oxymel, datblygiad o’r broses colodion oedd yn defnyddio toddiant asid asetig, dŵr a mêl i sefydlogi delweddau. Mantais hyn oedd y gallai negatif gwydr gael ei baratoi ymlaen llaw a’i ddatguddio yn y camera yn ôl y galw. Wedi hyn, doedd ffotograffwyr tirlun ddim yn gorfod cario labordai bychan a phabelli tywyll gyda nhw i bobman. Ym 1856 esboniodd yr Illustrated London News “...y gallai’r platiau gael eu paratoi adref a’u cludo fesul bocs, a meddyliwch am hyn dwristiaid, wrth i chi deithio a tharo ar olygfa wych nid oes ond ffrwyno’r ceffylau, tynnu eich camera, ac mewn mater o funudau gellir cynhyrchu llun, gan law Natur ei hun, fyddai wedi cymryd oriau i’w fraslunio â llaw.” Print papur halen yn dangos John gyda’r holl gyfarpar i greu negatif colodion Y ffotograff cyntaf o ddyn eira yng Nghymru? Tynnwyd y ffotograff oddeutu 1853/54 mwy na thebyg gan Mary Dillwyn neu Thereza Llewelyn. Y Teulu Llewelyn Cafodd John ac Emma saith o blant ond bu farw un pan yn blentyn. Mae’n debyg bod gan nifer o aelodau’r teulu ddiddordeb mewn ffotograffiaeth. Gwaith ei ferch Thereza yw nifer o’r ffotograffau yn y casgliad, ac rydyn ni’n gwybod i Thereza a’i Mam helpu i brintio rhai o’i ffotograffau. Roedd ei chwaer ieuengaf, Mary Dillwyn, hefyd yn amlwg yn y maes a caiff ei chyfri fel ffotograffydd benywaidd cyntaf Cymru. Ffotograff yn dangos y plant Llewelyn yn cael picnic ar y Goppa ger Abertawe ym 1855. Un o gyfres o ffotograffau o’r plant a dynnwyd gan John ar 23 Medi bob blwyddyn – pen-blwydd ei wraig. Casgliad Ffotograffiaeth Hanesyddol Darllen Pellach Penllergare A Victoria Paradise gan Richard Morris, 1999. The Photographer of Penllergare A Life of John Dillwyn Llewelyn 1810-1882 gan Noel Chanan, 2013.