Clawdd pileri llechi Thomas Williams yn Bisham 18 Ebrill 2007 Y clawdd pileri llechi yn Bisham (Windsor a Maidenhead). Mae tua 150m (164 llath) o'r clawdd hwn wedi goroesi, er bod trigolion lleol yn cofio'r adeg pan oedd yn hwy o lawer. At ei gilydd, mae pileri'r clawdd yn Bisham yn codi tua 180cm (5.9 troedfedd) uwchlaw'r ddaear ac mae'n rhaid bod oddeutu 40cm (1.3 troedfedd) yn ychwanegol o dan y ddaear. Mae pob piler tua 20cm (7.9 modfedd) o led a 3.5cm (1.4 modfedd) o drwch. Beth a barodd i glawdd pileri llechi gael ei godi yn nyffryn Tafwys, 300km o chwareli llechi gogledd-orllewin Cymru? Daeth cloddiau pileri llechi yn gyffredin yng ngogledd-orllewin Cymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Yn 1861, er enghraifft, cynhyrchai Chwarel y Penrhyn, Bethesda (Gwynedd) - un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd bryd hynny - tua 9,000 o bileri unigol. Roedd y pileri hyn ar ffurf darnau unionsyth o lechfaen glas o ansawdd gwael, pob un, fel arfer, tua 150cm (4.9 troedfedd) o uchder. Mor gynnar â 1798, sylwodd y Parchedig W. Bingley, ar stad yr Arglwydd Penrhyn, y câi'r darnau eu gyrru: "into the ground about a foot distant from each other, and interwoven near the top with briars, or any kind of flexible branches to hold them together." Caent eu defnyddio o amgylch caeau a gerddi ac o boptu rheilffyrdd a ffyrdd, ac roedd eu gwneuthuriad syml yn dra chyfaddas ar gyfer y tywydd garw sy'n nodweddu'r ucheldiroedd. Er eu bod i'w canfod yng nghyffiniau chwareli llechi Cymru, mae cloddiau pileri llechi yn brin iawn y tu hwnt i'r ardaloedd chwarelyddol. Felly, mae'r clawdd pileri llechi a ganfuwyd yn ddiweddar gerllaw Temple House (wedi'i ddymchwel bellach) yn Bisham (Windsor a Maidenhead), yn anarferol iawn. Gwyddys i sicrwydd ar sail y lliw glasborffor y cloddiwyd y llechfaen yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn Chwarel y Penrhyn yn ôl pob tebyg. Cwyd y cwestiwn, felly, beth a barodd i glawdd pileri llechi gael ei godi bron 300km (186 milltir) o ffynhonnell y garreg? Mae a wnelo'r ateb â chyn berchnogion Temple House. Adeiladwyd Temple House tua 1790 ar gyfer Thomas Williams, perchennog gwaith copr Temple Mill gerllaw. Cyfreithiwr o ogledd Cymru oedd Thomas Williams (1737-1802) a ddaeth yn ŵr blaenllaw yn niwydiant copr Prydain. Cyflogodd Williams y pensaer, Samuel Wyatt, i ddatblygu Temple Mills, ac mae'n debyg mai i Samuel hefyd yr ymddiriedwyd y dasg o godi Temple House. Roedd gan Samuel Wyatt gysylltiadau agos â pherchnogion Chwarel y Penrhyn. Yn 1782 adnewyddodd ef adeilad ar ran Richard Pennant (yr Arglwydd Penrhyn yn ddiweddarach), ac yn 1786 penodwyd ei frawd, Benjamin II, yn brif reolwr stad y Penrhyn. Sicrhaodd y berthynas hon gyflenwad cyson o lechi i Samuel ar gyfer ei weithgareddau masnachol ei hun. Talodd Samuel y gymwynas yn ei hôl drwy hyrwyddo'r defnydd o lechfaen yn ardal Llundain, gan ei ddefnyddio at ddibenion silffoedd, tanciau dŵr, seddau tai bach, siliau ffenestri ac ar gyfer wynebu muriau, yn ogystal â deunydd toi. Os cafodd pileri llechi Temple House eu cyflenwi gan Samuel Wyatt, gellid bod wedi'u cludo i Bisham heb fawr o drafferth. Hyd yn oed cyn adeiladu tramffordd o Chwarel y Penrhyn i'r cei ym Mangor (Port Penrhyn) yn 1801, roedd rhwydwaith effeithiol o ffyrdd eisoes yn cysylltu'r chwarel â'r porthladd. O'r cei, roedd fflyd o longau yn cludo llechi o amgylch arfordir yr Ynysoedd Prydeinig. Roedd gan deulu Wyatt fuddsoddiadau mewn nifer o'r llongau hyn. O Lundain, gellid cludo llwythi o lechi ar fadau a hwyliai i fyny afon Tafwys. Felly, mae llawer o dystiolaeth amgylchiadol yn cysylltu clawdd pileri llechi Bisham â Samuel Wyatt a Chwarel y Penrhyn, ac yn awgrymu y cafodd y clawdd ei godi tua 1790. Ond mae un wedd ar y modd y cafodd y pileri eu trin yn bwrw amheuaeth ar hyn. Mae'n amlwg y torrwyd rhai o'r pileri cynhaliol mwyaf â llif gron - techneg na chafodd ei defnyddio cyn 1805, yn sicr, ac a ddaeth yn gyffredin dim ond wedi 1840. Un awgrym sy'n cyfuno'r naill ddarn o dystiolaeth a'r llall yw'r posibilrwydd y cafodd y clawdd gwreiddiol ei godi tua 1790, ond iddo ddirywio wrth ymsuddo ym mhridd llifwaddod meddal ardal Bisham. Y canlyniad posibl oedd archebu ail lwyth o lechi Cymru tua 1840 er mwyn trwsio'r clawdd. Mae'n ymddangos yn rhesymol, felly, i ddod i'r casgliad fod y clawdd gerllaw Temple House yn dyst i'r cysylltiadau rhwng dau o ddiwydianwyr mawr Cymru, y meistr copr Thomas Williams a Richard Pennant o Chwarel y Penrhyn, drwy'r pensaer Samuel Wyatt. Rhannai'r ddau dreftadaeth gyffredin ac, felly, onid oedd yn gwbl naturiol i Thomas Williams a'i bensaer arddangos potensial llechi Cymru gerllaw ei waith copr yn Temple Mill? The Wyatts: an architectural dynasty gan John Martin Robinson. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1979). Dafydd Roberts, 'Copor a Llechi : Ffens Llechi Thomas Williams yn Bisham', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 65, tt. 89-97 (2004).
Disgleirdeb a Swyn - gwisgoedd nodedig Casgliad Tredegar 11 Ebrill 2007 Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow. G?n llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (g?n ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed tua 1730-40. Byddai'r wisg ysblennydd hon wedi cael ei gwisgo ar achlysur cyflwyno'r sawl a'i gwisgai i'r llys. Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725. Am ddisgleirdeb a swyn, nid oes angen chwilio y tu hwnt i Gasgliad Tredegar. Cyflwynwyd y casgliad trawiadol hwn o wisgoedd o'r 18fed ganrif i'r Amgueddfa ym 1923 gan Courtenay Morgan, a adwaenir hefyd fel Arglwydd Tredegar. Roedd y casgliad yn eiddo i'w gyndeidiau cyfoethog a oedd am ddangos eu cyfoeth a'u pŵer. Cynlluniwyd pob dilledyn i syfrdanu. Er mai teulu'r Morganiaid oedd perchnogion Tŷ Tredegar ger Casnewydd, roeddent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn Llundain. I'r boneddigion, y brifddinas oedd yr atyniad mwyaf. Gerddi pleser, operâu a chynulliadau - cymdeithasu oedd canolbwynt eu bywydau. Parti brenhinol cyntaf Mae'n debygol mai yn Llundain y gwnaethpwyd gwisgoedd Tredegar, gan ddefnyddio'r damasg a'r sidanau brocêd gorau y gellid eu prynu ag arian. Mae'r wisg mwyaf cain yn y casgliad yn dyddio o tua gynnar yn y 1720au. Awgryma crandrwydd y wisg las â'r blaen agored - a elwir yn mantua yn aml - ei bod wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer parti brenhinol cyntaf merch ifanc. Mae'r gwaith manwl yn goeth a chain, ar y blaen a'r cefn. Yn wreiddiol, roedd y wisg yn hirach o lawer, ond torrwyd rhan fawr i ffwrdd yn ystod y 1800au, ar gyfer parti gwisg ffansi mae'n debyg. Corsedau o asgwrn morfil Roedd gwisgoedd fel yr un yma'n lletchwith iawn i'w gwisgo. Er mwyn cyflawni'r ffasiwn ormodol, gwisgai'r menywod beisiau crwn, llydan i gynyddu lled y sgertiau. Gwisgent hefyd gorsedau tynn wedi'u hatgyfnerthu ag asgwrn morfil o dan eu gwisgoedd. Roedd corsedau'n cynorthwyo i sicrhau osgo da trwy wasgu rhan uchaf y corff i siâp. Roedd steil yn bwysicach na chysur. Gwnaethpwyd y ffrog-côt eurbleth felen hon yn gynnar yn y 1720au. Mae'r cynllun blodeuog yn nodweddiadol o'r cyfnod, fel y mae'r lliw melyn llachar. Darllen Cefndir M. R. Apted, 'Social Conditions at Tredegar House, Newport, in the 17th and 18th Centuries', The Monmouthshire Antiquary 3:2 (1972-3), pp. 124-54. Janet Arnold, 'A Court Mantua of c. 1740', Costume: Journal of the Costume Society 6 (1972), pp. 48-52. Avril Hart & Susan North, Historical Fashion in Detail: The 17th and 18th Centuries (London: V & A Publications, 1998).
Symud talcen glo i'r amgueddfa 11 Ebrill 2007 Pan gaeodd ysbyty i lowyr yn 2001, datgymalwyd y talcen glo a ddefnyddiwyd i roi ymarfer corff i'r cleifion a'u paratoi i ddychwelyd i'r gwaith, a'i symud i gasgliadau Amgueddfa Cymru. Tŷ Talygarn Tŷ Talygarn: golygfa o'r model maint llawn o dalcen glo Ym 1880, agorwyd ysbyty ym mhlasty cerrig sylweddol Talygarn. Addurnwyd y tu mewn â phaneli pren a nenfydau peintiedig. Roedd parcdiroedd helaeth o gwmpas y tŷ, lle tyfwyd sbesimenau o bob coeden sy'n gallu tyfu ym Mhrydain, yn ôl yr hanes. Talygarn fel Cartref Ymadfer Yn Hydref 1923, agorwyd Tŷ Talygarn fel cartref ymadfer ar gyfer glowyr, ac o fewn 15 mlynedd roedd dros 41,000 o gleifion wedi bod trwy'r drysau. Ym 1943, gofynnwyd i Gomisiwn Lles y Glowyr drefnu gwasanaeth adfer ar gyfer glowyr oedd wedi'u hanafu. Oherwydd bod prinder gweithwyr ar y pryd, roedd hi'n hanfodol bod glowyr oedd wedi'u hanafu'n dychwelyd i'w gwaith mor fuan â phosib. Am hynny, prynwyd Tŷ Talygarn fel canolfan i wasanaethu meysydd glo de Cymru. Erbyn 1964, roedd 95% o'r cleifion a gafodd eu trin yn Nhalygarn yn dychwelyd i'r diwydiant glo. Parhaodd i weithredu fel canolfan ymadfer a ffisiotherapi nes cael ei osod ar werth yn Awst 2000. Adfer glowyr a'r 'Model o Bwll Glo' Oherwydd yr angen i galedi'r dynion cyn iddynt ddychwelyd i'r pyllau glo, darparwyd gweithdy gwaith coed, lle byddai'r cleifion yn torri pren ac yn llifio boncyffion. Roedd grisiau bach a beiciau llonydd ar gael i ymarfer eu cyhyrau segur. Yn Nhŷ Talygarn roedd yna fodel mawr o bwll glo lle gallai'r cleifion ymgyfarwyddo â gweithio mewn pwll glo unwaith eto. Un twnnel hir a gynhaliwyd gan hytrawstiau bwaog oedd y strwythur. Roedd gan y ffordd gledrau, yn ogystal â fframwaith metel o'r enw horsehead, a fyddai'n atal cerrig rhag cwympo mewn talcennau glo go iawn. Symud y pwll glo Ym 2001, rhoddwyd cynnwys y model o bwll glo' i Amgueddfa Cymru fel 'ffordd barhaol o atgoffa ymwelwyr am waith canolfan ymadfer Talygarn'. Datgymalwyd y talcennau glo fel petasent yn rai go iawn. Er mai dim ond pedair troedfedd o uchder oedd ar gael i gyflawni'r gwaith, llwyddwyd i ddatgymu a symud y cludwr cadwyn, trideg troedfedd o hyd. Cludwyd yr holl eitemau i'r Ganolfan Casgliadau yn Nantgarw. Mae rhodd Talygarn yn rhan unigryw, tri deg troedfedd o hyd, o dalcen glo rhannol-fecanyddol, sydd wedi goroesi o'r 1960au cynnar.