Y Baddondai Pen Pwll Ceri Thompson, 30 Mehefin 2011 The pithead baths at Bit Pit: National Coal Museum Llwch glo llethol Cyn i faddondai pen pwll ddod yn gyfleuster cyffredin, doedd dim dewis gan y rhan fwyaf o lowyr, fyddai wedi ymlâdd ar ôl diwrnod caled o waith, ond teithio adref o'r gwaith yn llwch glo i gyd. Byddai eu dillad yn diferu o chwys yn aml gan godi'r siawns o ddal niwmonia, broncitis neu grydcymalau. Wedi cyrraedd adref, roedd yn rhaid golchi cymaint o'r baw â phosibl ymaith mewn baddon tin o flaen y tân. Menywod y tŷ fyddai'n gyfrifol am gynhesu'r dŵr ar gyfer baddon y glöwr a golchi a sychu'i ddillad fel arfer. Roedd cadw'r tŷ yn lân rhag llwch y glo yn frwydr feunyddiol hefyd. Doedd dim diwedd ar y gwaith caled yma, a byddai blinder a straen corfforol yn arwain at broblemau iechyd difrifol yn aml, ac weithiau at enedigaethau cynamserol a cholli plentyn. Bu'n rhaid i ddiwygwyr cymdeithasol, dan faner 'Mudiad y Baddondai Pen Pwll', lobïo'n galed cyn darbwyllo'r Llywodraeth, y meistri glo a rhai o'r glowyr a'u gwragedd hyd yn oed, bod angen am faddondai pen pwll. Bu'n frwydr hir a chaled, o'r ymgyrchu agoriadol yn y 1890au hyd sefydlu cronfa arbennig ym 1926 i adeiladu baddondai, dan nawdd Pwyllgor Lles y Glowyr. Diwygio Cymdeithasol Roedd baddondai pen pwll wedi cael eu defnyddio yng Ngwlad Belg, Ffrainc a'r Almaen ers y 1880au. Ym 1913 anfonwyd cynrychiolwyr i weld y baddondai Ewropeaidd yma gan David Davies, perchennog cwmni Ocean Coal ac un o eiriolwyr diwygio cymdeithasol. Arweiniodd yr ymweliad hwn at adeiladu'r baddondy cyntaf yng Nghymru ym Mhwll Deep Navigation, Treharris, ym 1916. Bu llwyddiant baddondai Deep Navigation yn allweddol yn yr ymgyrch bropaganda a drefnwyd gan y sawl oedd am weld baddondy pen pwll ym mhob pwll glo yng Nghymru. Ym 1919 sefydlodd Llywodraeth Prydain Gomisiwn Brenhinol ('Comisiwn Sankey') i ymchwilio i amodau cymdeithasol a gwaith y meysydd glo. Sefydlwyd 'Cronfa Lles y Glowyr' o ganlyniad i hyn er mwyn '... improve the social well being, recreation, and condition of living of workers in or about coal mines'. Casglwyd arian y gronfa hon drwy godi ceiniog ar bob tunnell o lo a gloddiwyd. Defnyddiwyd y gronfa at sawl diben, yn cynnwys darparu caeau chwarae, pyllau nofio, llyfrgelloedd a sefydliadau. Codwyd tâl ychwanegol o 1926 ymlaen, i noddi rhaglen adeiladau baddondai. Steil Bensaernïol Fodern Yn ystod bodolaeth Cronfa Les y Glowyr, o 1921 i 1952, adeiladwyd dros 400 o faddondai pen pwll ym Mhrydain. Cynlluniodd adran bensaernïol y Pwyllgor Lles y Glowyr y ffordd fwyaf cost-effeithiol o adeiladu, darparu cyfarpar a gweithredu adeiladau'r baddondai. Roedd 'steil tŷ wedi cael ei datblygu erbyn y 1930au, wedi'i seilio ar ddylunio pensaernïol y 'Mudiad Modern Rhyngwladol'. Byddai'r toeon fflat, y llinellau glan a'r defnydd helaeth o wydr i ddarparu golau naturiol yn sicrhau bod y baddondai yn amlwg yng nghanol adeiladau eraill y pyllau. Cafodd rhai baddondai, fel yr un yn Big Pit, eu rendro yn wyn, sy'n ei wneud yn nodwedd amlwg ar y bryn hyd heddiw. Golygai adnoddau prin Pwyllgor Lles y Glowyr na adeiladwyd baddondai yn nifer o byllau glo Cymru tan y 1950au. Wedi gwladoli'r diwydiant glo ym 1947, cyfrifoldeb y Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd darparu'r baddondai pen pwll.
Ffosilau mewn carreg: Paratoi ffosilau gydag asid Christian Baars, 7 Mehefin 2011 Calchfaen o Southerndown yn ne Cymru, yn cynnwys cregyn ffosil (Gryphaea arcuata — Ewinedd traed y Diafol). Cregyn ffosil (Gryphaea arcuata – Ewinedd traed y Diafol) wedi i'r garreg gael ei thoddi mewn asid. Cragen ddeufalf ffosil sydd ar hanner cael ei pharatoi gan ddefnyddio asid. Mae dwy ran y gragen (y falfiau) yn dal yn sownd i'w gilydd, ac mae'r falf isaf yn dal yn sownd i'r garreg. Anaml y bydd ffosilau mewn cyflwr perffaith yn cael eu canfod. Pan fyddan nhw'n cael eu casglu, bydd y rhan fwyaf o ffosilau wedi'u cuddio'n rhannol, neu yn llwr, mewn matrics carreg. Er mwyn eu hastudio'n fanwl, neu i'w paratoi ar gyfer arddangos, rhai tynnu'r garreg o'u hamgylch yn ofalus. Nid gwaith hawdd yw gwahanu carreg galed a ffosilau sydd weithiau'n hynod fregus, a gall fod yn broses hir drafferthus. Byddwn weithiau'n defnyddio offer llaw (pin, sgrafell, cŷn bach), neu gallwn ddefnyddio offer arbennig ar gyfer paratoi ffosilau, fel pinnau niwmatig tebyg i offer engrafu. Dewis arall yw defnyddio peiriant aer-sgreaffinio sy'n debyg i chwythwr tywod bach. Neu gallwn ni doddi'r garreg mewn asid. Roedd y rhan fwyaf o gregyn ffosil wedi'u gwneud yn wreiddiol o galsiwm carbonad, ac mae nifer wedi'u cadw mewn calchfaen , sydd â'r un cyfansoddiad cemegol. Weithiau fodd bynnag, mae calsiwm carbonad y gragen yn toddi ymaith a silica yn ffurfio yn ei le, ond gan adael y galchfaen yn gyfan. Fydd y silica ddim yn toddi yn yr asid fel y galchfaen, ac felly gallwn ni dynnu sbesimenau o'r fath o'r garreg yn gemegol. Finegr, dim halen os gwelwch yn dda Yr asid fydd yn cael ei ddefnyddio gan amlaf fydd asid asetig — yr asid mewn finegr. Rydyn ni'n defnyddio crynodiad hynod uchel o asid asetig (80%), ond yn ei wanhau mewn dŵr i tua 5%. Yn ystod y broses, bydd sampl carreg yn cynnwys ffosilau yn cael ei throchi yn yr asid asetig wedi'i wanu, fydd yn dechrau sïo bron yn syth wrth i'r asid a'r calchfaen adweithio. Mae'r amser y bydd y garreg yn cymryd i doddi'n llwyr yn amrywio o rai diwrnodiau i sawl mis, yn dibynnu ar gyfansoddiad penodol y garreg. Bydd yr adwaith â'r garreg yn niwtralu'r asid yn raddol, a bydd angen ei adnewyddu o bryd i'w gilydd. Ymhen amser — oriau, diwrnodau neu wythnosau weithiau — y cyfan sydd ar ôl yw gwarged carreg lleidiog a'r ffosilau wedi siliceiddio. Mae nifer o ffosilau siliceiddiedig yn frau iawn ac mae angen gofal mawr wrth eu trin. Bydd yn rhaid i ni eu cryfhau yn aml gyda glud i'w gwneud yn fwy cadarn. Mae'r ffosilau bellach yn barod ar gyfer ymchwil neu arddangosfa. Mae nifer wedi cadw'n hynod o dda; mae rhai cregyn 450-miliwn o flynyddoedd oed sydd wedi'u siliceiddio yn edrych fel petai nhw wedi cael eu codi o'r traeth ddoe!
Pysgod Morol Egsotig — tystiolaeth o gynnydd yn nhymheredd y môr o amgylch Cymru? Graham Oliver, 16 Mawrth 2011 Teircwtiad yr Iwerydd (Lobotes surinamensis) a ddaliwyd ger Peterstone, i'r dwyrain o Gaerdydd. Y pysgodyn gwreiddiol wedi'i gadw mewn gwirod. Paratoi model o Deircwtiad yr Iwerydd mewn labordy yn Amgueddfa Cymru. Y model gorffenedig o Deircwtiad yr Iwerydd. Yn y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi clywed adroddiadau gan bysgotwyr ac aelodau o'r cyhoedd o bob cwr o'n glannau am ddaliadau anghyffredin a physgod morol wedi'u gadael — pysgod fyddai'n byw mewn dyfroedd tipyn cynhesach, trofannol. A yw hyn yn dystiolaeth bellach o gynnydd yn nhymheredd y môr o amgylch glannau Cymru? Mae'r sbesimenau yma yn cael eu cludo i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael eu henwi, cyn cael eu hymgorffori i'r casgliadau cenedlaethol. Er mwyn arddangos eu lliwiau naturiol, mae castiau wedi'u peintio yn cael eu creu a'u harddangos ochr yn ochr â'r pysgod eu hunain sy'n cael eu cadw mewn hylif. Gweld y Teircwtiad trofannol ym moroedd y DU am y tro cyntaf Yn 2006, daliwyd Teircwtiad yr Iwerydd (Lobotes surinamensis) yn rhwyd pysgotwr ym Môr Hafren, ger Peterstone, i'r dwyrain o Gaerdydd. Gan nad oedd y pysgotwr yn adnabod y sbesimen oedd yn 60cm o hyd, daeth ag ef i'r Amgueddfa i'w enwi. Mae Teircwtiaid i'w gweld fel arfer mewn dyfroedd trofannol ac isdrofannol, a dyma'r cofnod cyntaf ohono yn nyfroedd y DU. Rydyn ni'n gwybod bod y pysgod yma yn hoff o aberoedd mwdlyd, sy'n esbonio i raddau pam ei fod wedi cyrraedd Môr Hafren. Mae nhw'n lled ymfudol ac i'w gweld yn aml gyda sbwriel sy'n arnofio, ac mae'n bosibl ei fod wedi teithio yma yn nyfroedd cynnes Llif y Gwlff. Jacs, Cleddbysgod a Chrwbanod Cefn Lledr Cafwyd daliad egsotig arall wrth geg Aberdaugleddau yn Awst 2007, pan ddaliwyd Jac ifanc. Mae'n anodd adnabod Jacs ifanc ac roedd yn rhaid tynnu delwedd pelydr X i gadarnhau taw dyma'r cofnod cyntaf o Jac Almaco yng Nghymru (Seriola rivoliana). Mae'r rhywogaeth hon i'w gweld fel arfer yn nyfroedd cynnes y Caribî, ond rhwng Gorffennaf a Medi 2007 gwelwyd chwech ar arfordir de a gorllewin Prydain, gan ddyblu nifer y cofnodion ers y cyntaf ym 1984. Yna yn 2008 darganfuwyd Cleddbysgodyn (Xiphias gladius) marw 2.2 metr o hyd ar draeth ger y Barri yn ne Cymru. Er nad oedd hyn yn record newydd, prin y caiff y rhywogaeth gefnforol hon ei dal yn nyfroedd Cymru. Mae'n ymddangos bod yr adroddiadau yma am bysgod dyfroedd cynnes yn dystiolaeth bellach o gynnydd yn nhymheredd y môr. Mae'r canfyddiadau yn cyd-fynd â chynydd yn niferoedd crwbanod ym Môr Iwerddon, yn enwedig Crwbanod Cefn Lledr. Nid yw canfod y rhywogaethau morol egsotig yma'n beth newydd fodd bynnag, ac mae Llif y Gwlff wedi dod ag anifeiliaid dŵr cynhesach i'n harfordiroedd yn gyson. Canfuwyd dwy rywogaeth o longbryfed (Bankia gouldi a Uperotus lieberkindii) mewn pren a ddaeth i'r lan ar Benrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru. Mae'r rhain yn rhywogaethau tymheredd cynnes a trofannol, a does dim cofnod ohonynt yn y DU cyn hyn. Mae canfod rhywogaethau mor egsotig ar arfordir Prydain, neu eu canfod yn fwy cyson beth bynnag, yn adlewyrchu newid gwirioneddol yn eu hamrediad daearyddol. Mae cofnodi rhywogaethau morol yn hanfodol i'n dealltwriaeth o newidiadau o'r fath, ac mae pysgotwyr a'r cyhoedd yn chwarae rôl bwysig yn hyn — rydyn ni'n croesawu eu cymorth ac yn edrych ymlaen at y creadur rhyfedd nesaf i lanio ar ein desg ymholiadau. Sbesimen Jac Almaco ifanc (Seriola rivoliana) a ddaliwyd yn Aberdaugleddau. Delwedd pelydr X o'r Jac Almaco ifanc a ddefnyddiwyd i'w enwi. Y Cleddbysgodyn (Xiphias gladius) marw a ganfuwyd ar draeth y Barri. Sylwch ar y niwed i ystlys y pysgodyn, a achoswyd wedi iddo farw mwy na thebyg. Baedd Môr (Capros aper) a ganfuwyd oddi ar arfordir Cymru. Er nad yw'n bysgodyn prin, anaml y caiff ei weld ac mae'n byw mewn dyfroedd dyfnion gan amlaf.
Blynyddoedd cynnar Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Donald Moore, 26 Mai 2010 Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa yn 1950 Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa yn 1970 Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa yn 1970 Dathlodd Gwasanaeth Addysg yr Amgueddfa ei ben-blwydd yn 60 oed yn 2009. Fe'i sefydlwyd ym 1949 fel Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa, ond yr Adran Addysg yw'r enw arno bellach. Syr Ciryl Fox, y Cyfarwyddwr ar y pryd, oedd y grym tu ôl i'r gwasanaeth i ysgolion. Y nod oedd gwella addysgu a dysgu yn y pynciau confensiynol ond hefyd i greu dyheadau tu hwnt i'r cwricwlwm. Darparwyd y mewnbwn creadigol gan swyddogion pwnc, sef athrawon cymwys oedd eisoes wedi'u lleoli yn yr adrannau curadurol priodol.Nid oedd modd integreiddio Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa yn llwyr i'r Amgueddfa gan iddo gael ei ariannu'n annibynnol trwy danysgrifiadau gwahanol Awdurdodau Addysg Lleol. Fodd bynnag, pan dynnwyd cyllid yr Awdurdodau Addysg Lleol yn ôl yn y 1990au, a chyda dyfodiad yr awdurdodau unedol, integreiddiwyd yr Adran Addysg yn llwyr i'r Amgueddfa Genedlaethol. Prif nod y curaduron yw casglu, cadw, dehongli ac arddangos deunydd, a sicrhau bod gwrthrychau o'r casgliadau wrth gefn yn hygyrch i ymchwilwyr. Nid yw eitemau o'r math yn addas ar gyfer cael eu trafod gan grwpiau ysgol, nac fel deunydd benthyg i ysgolion. Fodd bynnag, llwyddodd y Gwasanaeth Ysgolion greu casgliad benthyg sylweddol dros y blynyddoedd, casgliad sydd yn parhau i gael ei gynnal.Lluniwyd catalogau pwnc i alluogi ysgolion ddewis deunydd i'w fenthyg. Dosbarthwyd y benthyciadau ar ddiwedd pob tymor yn barod i'w cludo ledled Cymru ar ddechrau'r tymor nesaf.Erbyn 1970, roedd pob un o'r adrannau curadurol yn cymryd rhan mewn rhyw fodd yn y Gwasanaeth Ysgolion, gan gynnwys Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Roedd pob un o Awdurdodau Addysg Lleol Cymru'n cyfrannu tuag at y cynllun, ac o ganlyniad gallai ysgolion uwchradd dderbyn benthyciadau bob tymor, gallai ysgolion cynradd fwynhau arddangosiadau teithiol, ac wrth gwrs, roedd nifer o ysgolion yn ymweld â'r amgueddfeydd yng Nghaerdydd a Sain Ffagan, fel y gwnânt heddiw gyda'n holl amgueddfeydd.Cymaint oedd enw da'r Gwasanaeth, derbyniodd y staff geisiadau i gynorthwyo gyda'r gwaith o sefydlu mentrau tebyg mewn gwledydd eraill.Erthygl gan Donald Moore (cyn Swyddog Archaeoleg Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa ac, yn ddiweddarach, yr uwch Swyddog oedd yn gyfrifol am weithredu'r gwasanaeth cyfan).
Dogfennu'r Gorffennol - Archif Gohebiaeth Tomlin 15 Chwefror 2010 John Read le Brockton Tomlin oedd un o'r casglwyr cregyn uchaf ei barch yn ei gyfnod. Gan Amgueddfa Cymru mae ei gasgliad helaeth o gregyn ac archif ei ohebiaeth. Amcangyfrifir fod yr archif yn cynnwys ymhell dros fil o ddogfennau yn dyddio o ddechrau'r 1800au i ganol y 1900au. Mae'n gasgliad o'r holl ohebiaeth rhwng Tomlin a nifer o'i gymdeithion cregyn ledled y byd. Gwnaed nifer o ddarganfyddiadau diddorol wrth gatalogio'r archif hwn. Eglurwyd agweddau o fywydau'r casglwyr, gan adrodd am deithiau darganfod, afiechyd a chaledi personol, rhyfel, gwahoddiadau cinio a chardiau Nadolig. Mae dewis o eitemau o'r archif ar gael isod. Golwg agos: Llun o'r casglwr cregyn o Japan, Shintaro Hirase, ei wraig a'i chwech o blant. Golwg agos: Llythyr oddi wrth Yoichiro Hirase yn dweud sut arweiniodd ei afiechyd at gau ei amgueddfa yn Kyoto, Japan. "Rwy'n aml yn teimlo poen difrifol yn yr abdomen, a thwymyn. Mae'n bwysig iawn i mi orffwys yn llwyr, ac rwyf, felly, yn gorfod bod yn llonydd a gorwedd yn dawel yn y gwely". Golwg agos: Cerdyn Nadolig oddi wrth William Evens Hoyle, cyfarwyddwr cyntaf Amgueddfa Cymru, 1909-1926. Golwg agos: Cyfarchion y tymor a cherdd! "Here, direct from a Ceylon friend A Butter-firkin cone I send. 'Tis said to be the largest known, (Well, friend, that's not for me to own) Linnaeus, Martini, Sowerby, Reeve, Might have a bigger up their sleeve. If this should prove the largest size 'Twould be to me a great surprise. Notice its bulk and elevation, ("The finest Betulinus in Creation"). Golwg agos: Llythyr oddi wrth y casglwr cregyn Americanaidd, Joseph Emerson, yn cyhoeddi ei ymddeoliad. "...Rwyf bellach yn 86 a hanner mlwydd oed, ac mae'n rhaid i mi ffarwelio gyda'r gwaith yr wyf yn ei garu ac wedi cyfranogi ynddo cyhyd. Mae'n ormod o dreth ar fy nerfau...". Golwg agos: Gwahoddiad i ginio "Bydd eog hallt, darn o gig oen a salad yn barod ar eich cyfer yma am chwech yfory". Golwg agos: Gwahoddiad oddi wrth y Parchedig Ellerton Alderson i Tomlin, yn cynnig ymweliad gyda'i dŷ yng ngorllewin Sussex. "Mae'r orsaf rheilffordd agosaf yn Goring yn ddiwerth i bob pwrpas, y gwasanaeth trên, fel y dywedwch, yn 'bwdr' ". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Cerdyn post oddi wrth W. Junk, Berlin, 18 Ebrill 1933. "Er gwaethaf fy ngwreiddiau Iddewig, nid wyf wedi dioddef aflonyddwch". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Cerdyn post gan y casglwr a deliwr cregyn Almaenaidd, Martin Holtz, 1 Chwefror 1928. "Erbyn y rhyfel, fodd bynnag, mae fy holl fodolaeth wedi'i ddinistrio, ac yn arbennig fel naturiaethwr, teithiwr a deliwr. Heb fodd a heb gefnogaeth, nid oes modd i mi barhau gyda'm menter wyddonol". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Cerdyn post oddi wrth y cregynegwr o Japan, Yoichiro Hirase, 1 Rhagfyr 1918. "Dymunaf i chi'r Nadolig mwyaf llawen a'r flwyddyn newydd hapusaf, gyda phob math o lwc dda, yn arbennig ar yr achlysur hwn pan fo golau siriol heddwch wedi cychwyn gwawrio i yrru'r cymylau diflas o ddychryn ac arswyd i ffwrdd, y rhai a fu'n drwm dros yr holl fyd am bedair blynedd a hanner, a achoswyd gan y Rhyfel Ewropeaidd mawr, yr ysgytwad hyllaf a'r helaethaf a brofwyd erioed ar y ddaear". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth y cregynegwr Americanaidd Walter Eyerdam, 4 Awst 1935. "Ymddengys fod fy ngwraig wedi'i hysbrydoli gan y system newydd a weithredwyd gan Adolf Hitler ac adfywiad y cynnydd a'r Ysbryd cenedlaethol ymysg Almaenwyr. Fy nymuniad gwirioneddol yw na fydd rhwyg eto rhwng yr Almaen a Lloegr...". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth La Société Guernesiaise, 12 Hydref 1946. "Roeddem yn bwyta cregyn meheryn pan oedd rhai ar gael, roedd yr Almaenwyr hefyd yn eu bwyta yn ystod rhan ddiwethaf eu harhosiad pan na gyrhaeddodd eu bwyd ar ôl D. Day". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth Labordy Cefnforeg yr Alban, Caeredin. 4 Chwefror 1918. "Ni fu unrhyw ddeunydd yn fy labordy yn anoddach cyrraedd ato erioed nag ydyw ar hyn o bryd dan amodau rhyfel. Nid oes gennyf staff (oll yn gwasanaethu neu wedi'u lladd), ac mae'n amhosibl i mi drin y Molysgiaid yr ydych yn gofyn amdanynt". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd Anrhydeddus y Pwyllgor Rhyfel Bioleg, 4 Rhagfyr 1944. "Buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai modd i chi roi unrhyw wybodaeth i mi ar ddosbarthiad cregyn bylchog neu folysgiaid eraill a all ddal nofwyr neu beri anghyfleustra iddynt". Casglu mewn Adfyd &emdash; Adeg Rhyfel: Portread o Arthur Douglas Bacchus. Bataliwn Cartref (Adfyddin), Barics Combermere, Windsor. 17 Ionawr 1917 Teithiau a Gwyliau: Llythyr oddi wrth C. Hughes yn disgrifio ei wyliau yn yr Amerig, 19 Ebrill 1892. "Roedd ein taith i'r Amerig yn hudol! ...Roedd y Grand Canyon yn syfrdanol...". Teithiau a Gwyliau: Cregynegwr Americanaidd, Junius Henderson, yn casglu molysgiaid yn Colorado. "Rhyw fath o gregynegwr mewn trowsus lledr fel cowboi, yn casglu molysgiaid ar Grand Mesa, Colorado...". Teithiau a Gwyliau: Llythyr oddi wrth y cregynegwr o Awstralia, Charles Hedley, yn adrodd am wyliau hir yn Affrica. 11 Ebrill 1925 "Crwydrais yn hamddenol drwy Great Rift Valley, un o ryfeddodau daearegol y byd". Teithiau a Gwyliau: Parhad o'r llythyr oddi wrth Theodore Dru Alison Cockerell, 19 Tachwedd 1927. "Gadawyd y cwch ym Mhort Said ac aethom i ddinas Cairo gan weld y Pyramidiau a'r Sphinx. Mae'r gwrthrychau yn Amgueddfa Cairo yn fwy ysblennydd nag y gall y lluniau ddangos...". Teithiau a Gwyliau: Llythyr a ysgrifennwyd ar y môr gan Theodore Dru Alison Cockerell. 'Gadael Bab-el-Mandeb' (culfor rhwng Yemen, Djibouti ac Eritrea), 19 Tachwedd 1927 "Rwy'n darlunio ochrau'r dopograffeg ar ddwy ochr Bab-el-Mandeb. Mae'n folcanig ac yn rhyfeddol o debyg i ynysoedd lleiaf Madeira." Teithiau a Gwyliau: Anthony Arkell — Sudan (c. 1925) Casglwyr a Chasglu: "Just me in one of my dreams". Thompson van Hyning — Amgueddfa Talaith Florida, 27 Ebrill 1925. Casglwyr a Chasglu: Llun o gyfarfod yn Vienna, Gorffennaf 1930. Casglwyr a Chasglu: Y casglwyr Phillipe Dautzenberg, Charles Hedley a Henri Fischer - Paris, Hydref 1912. Casglwyr a Chasglu: Y casglwyr Emery ac Elsie Chace a Daniel Emery - St Petersburg, Florida. Casglwyr a Chasglu: Y casglwr Ffrengig Eugène Caziot, 1923. Casglwyr a Chasglu: John Wesley Carr o Amgueddfa Hanes Natur, Nottingham. Casglwyr a Chasglu: Y cregynegwr amatur, Henry Burnup a setlodd yn Ne Affrica yn 1894. Casglwyr a Chasglu: Y casglwr Prydeinig Arthur Edwin Boycott, 1925. Casglwyr a Chasglu: Y casglwr Americanaidd, Frank Collins Baker yn ei gasgliad. Casglwyr a Chasglu: Y casglwyr Robert Tucker Abbott, Bill Clench ac Emery Chace - San Pedro, 1940.