Adnabod mwynau yn Amgueddfa Cymru Amanda Valentine a Jana Horak, 7 Rhagfyr 2009 Y peiriant diffreithio â phelydr ecs yn yr Adran Ddaeareg Rhoi pelydr ecs drwy sampl o garreg o'r tarddiant hyd y synhwyrydd Crisial cwarts Graffit Diamwnt Langit Wroewolfeit Un o weithgareddau'r Adran Ddaeareg yn Amgueddfa Cymru yw dogfennu pob mwyn hysbys yng Nghymru. Gellir adnabod mwynau drwy edrych arnynt ond i gadarnhau'n derfynol defnyddiwn broses a elwir yn ddadansoddiad diffreithio â phelydr ecs. Mae'r dechneg hon yn rhoi i ni ôl bys fel petai o fwynau naturiol ac o waith dyn ac mae modd ei gymharu â chronfa ddata o samplau hysbys. Dadansoddiad diffreithio â phelydr ecs Mae'r rhan fwyaf o fwynau'n grisialaidd sy'n golygu eu bod wedi'u gwneud o fframwaith rheolaidd o atomau sy'n creu 'delltwaith crisialaidd' unigryw. Pan aiff pelydrau ecs drwy fwyn mae'r atomau'n peri bod y pelydrau ecs yn cael eu diffreithio neu eu plygu i sawl gwahanol gyfeiriad. Gellir cofnodi patrwm y pelydrau ecs wedyn i gynhyrchu ôl bys. Nid oes gan unrhyw ddau fwyn yr un trefniant o atomau ac felly mae eu holion bysedd (neu batrymau diffreithio delltwaith) yn unigryw. Gellir defnyddio'r patrymau hyn felly i adnabod mwynau. I ddadansoddi sampl fach o fwyn drwy ddefnyddio diffreithio â phelydr ecs mae'n cael ei falu'n bowdwr a'i pheledu â phelydrau ecs. Cofnodir y data fel graff o'r enw diffreithogram sy'n ffurf hwylus i weld y canlyniad. I adnabod y mwyn cymherir y canlyniad â chronfa ddata o batrymau miloedd o fwynau hysbys. Mwynau sy'n edrych yr un ffunud Mae adnabod wrth weld yn bwysig o hyd am ei bod yn bosibl i ddau fwyn gwahanol feddu ar yr un cyfansoddiad cemegol ond i ymddangos yn wahanol iawn. Er enghraifft mae gan ddiamwnt a graffit (ill dau yn garbon pur) yr un cyfansoddiad cemegol ond maent yn amlwg yn wahanol nid o ran golwg yn unig ond hefyd o ran caledwch a ffurf grisial. Ar y llaw arall mae wroewolfeit a langit yn ddau fwyn copor sydd yr un ffunud yn gemegol ac mae'r ddau ohonynt yn ffurfio nodwyddau glas. Fel canlyniad maent yn anodd iawn gwahaniaethu drwy edrych arnynt yn unig. Ond oherwydd bod ganddynt wahanol strwythurau crisialau maent yn cynhyrchu gwahanol batrymau diffreithio ac felly mae dadansoddiad diffreithio â phelydr ecs yn ffordd gyflym a dibynadwy o wahaniaethu rhyngddynt. Nid oes gan rai mwynau strwythur crisial rheolaidd ac felly ni chynhyrchant batrymau diffreithio. 'Mwynau amorffaidd' yw'r enw arnynt ac ni ellir eu hadnabod drwy ddadansoddiad diffreithio â phelydr ecs. Defnyddio dadansoddiad diffreithio â phelydr ecs Mae'r dechneg yn cael ei defnyddio'n eang ym maes daeareg ac mewn ystod o ddisgyblaethau cysylltiedig. Er enghraifft fe'i defnyddir i adnabod mwynau mewn lliwiau arlunwyr a chyfansoddiad rhwd ar wrthrychau archeolegol. Gall cadwraethwyr wedyn benderfynu ar y driniaeth briodol i sbesimenau mewn amgueddfa.
Mae gwaith y cregynegwr mawr wedi cyrraedd y lan Harriet Wood & Jennifer Gallichan, 9 Tachwedd 2009 Mae casgliadau molysgiaid Amgueddfa Cymru o bwys rhyngwladol ac yn cynnwys cannoedd o filoedd o sbesimenau. Yn 2008 cyhoeddwyd y llyfr diffiniol ar waith y casglwr mawr César-Marie-Felix Ancey (1860–1906). Enwodd César-Marie-Felix Ancey lawer o rywogaethau tir a dŵr croyw oedd yn newydd i wyddoniaeth. Daeth cyfran o’i gasgliad i Amgueddfa Cymru ym 1955 fel rhan o gasgliad Melvill-Tomlin. Er 2004 mae staff Amgueddfa Cymru yn ymchwilio i gasgliad Ancey sydd mewn amgueddfeydd ledled y byd ac erbyn hyn mae ganddynt y rhestr ddiweddaraf a mwyaf cynhwysfawr o’i enwau newydd a’i gyhoeddiadau gwyddonol. Mae’n ddefnyddiol iawn i arbenigwyr ac ymchwilwyr dros y byd. César-Marie-Felix Ancey Un o gregynegwyr mawr oes Fictoria oedd César-Marie-Felix Ancey ac roedd ei gyfraniad yn anferth yn ei fywyd byr. Ganed ef ym Marseille, Ffrainc, ar 15 November 1860 ac roedd ganddo ddiddordeb byw ym myd natur o oed cynnar. Creodd ei gasgliad ei hun o gregyn ac wedyn ysgrifennodd a chyhoeddodd sawl papur ar gregynneg. Pan oedd yn 23 oed cafodd ei benodi’n gadwraethydd casgliadau pryfetegol Oberthur yn Rennes (Roazhon) yn Llydaw. Dychwelodd wedyn i Marseille i astudio’r gyfraith, llenyddiaeth a gwyddoniaeth a chafodd ei ddiploma ym 1885. Dwy flynedd wedyn cafodd swydd gyda’r llywodraeth yn Algeria. Ar ôl 13 o flynyddoedd o waith caled cafodd ei ddyrchafu’n weinyddydd dros dro ym Mascara yng ngorllewin Algeria. Cyflawnodd ei holl astudiaethau o folysgiaid yn ei amser hamdden. Sbesimenau o bob man dan haul Diddordeb pennaf Ancey oedd malwod bychain y tir. Drwy gyfnewid a phrynu y casglodd sbesimenau o bob man dan haul. Mae’r Cefnfor Tawel ac Asia yn cael eu cynrychioli’n arbennig o gryf yn ei gasgliad ond mae hefyd yn cynnwys enghreifftiau o Ewrop, Gogledd a De America ac Affrica. Breuddwyd fawr Ancey oedd taith wyddonol i Ynysoedd Cabo Verde neu Dde America ond ni wireddwyd ei ddymuniad am iddo farw o’r dwymyn pan oedd yn 46 oed. Chwalu’r casgliad Ar ôl marwolaeth Ancey aeth ei holl gasgliad at Paul Geret, masnachwr cregyn, a werthodd y cwbl ym 1919 a 1923. Brwydrodd casglwyr preifat mawr yr oes – Tomlin, Dautzenberg, Connolly ac eraill – yn erbyn ei gilydd i gael cyfran o’r casgliad oedd yn cael ei chwalu. Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o sbesimenau Ancey yn Amgueddfa Cymru (Caerdydd: casgliad Melvill-Tomlin), Sefydliad Brenhinol Gwyddorau Naturiol Gwlad Belg (Brwsel: casgliad Dautzenberg), Muséum National d’Histoire Naturelle (Paris), Amgueddfa Bernice P. Bishop (Honolulu) ac Amgueddfa Hanes Natur (Llundain: casgliad Connolly). Teyrnged i gyflawniadau Ancey Ym 1908 lluniwyd rhestr o’i gyhoeddiadau am folysgiaid wedi’i dilyn yn fuan gan restr ar wahân o’r enwau gwyddonol a gyhoeddodd. Gwelwyd o’r ddau gyhoeddiad hyn fod Ancey wedi disgrifio rhyw 550 o enwau gwyddonol mewn 140 o bapurau. Yn anffodus nid oedd yr un o’r ddwy restr hyn yn gyflawn a bu hyn yn ddraenen yn ystlys ymchwilwyr byth ers hynny. Mae staff yn Amgueddfa Cymru erbyn hyn wedi dod o hyd i holl bapurau Ancey ac wedi llunio llyfryddiaeth gynhwysfawr sy’n rhestru 176 o gyhoeddiadau ac ynddynt 756 o enwau gwyddonol newydd. O gribo drwy gasgliad Melvill-Tomlin gwyddom fod rhyw 300 o’r enwau hyn yn codi yn ein casgliadau o sbesimenau gan Ancey a bod gennym deipsbesimenau o 155 ohonynt. Ffrwyth yr ymchwil hon yw The New Molluscan Names of César-Marie-Felix Ancey sef yr ymdriniaeth lawnaf o’i waith erioed. Mae’r gyfrol yn datgelu gwir faint cyfraniad Ancey i wyddoniaeth a chregynneg gan wneud ei gasgliad yn fwy hygyrch i’r gymuned wyddonol ledled y byd.
Trillabedogion trofannol o'r Ynys Las rewedig Lucy McCobb, 5 Awst 2009 Casglu ffosiliau yn yr eira. 1950. Ffoto o'r Ynys Las o'r awyr: Casglwyd y ffosiliau o'r ardal a liwiwyd yn goch. Ffosil o lygad mawr carolinit sef trillabedog a fu'n nofio drwy'r môr agored yn chwilio am fwyd. Mae gan gynffon y trillabedog asidifforws asgwrn cefn trawiadol. Mae casgliad eang yr Amgueddfa o ffosiliau'n cynnwys ffosiliau trillabedog o oes Ordofigaidd (470-490 miliwn o flynyddoedd yn ôl) o'r Ynys Las. Er bod y cyfandir erbyn hyn yn oer a rhewllyd nid felly y bu gynt. Fforwyr Prydain yn y gogledd rhewllyd Mae'r Ynys Las yn lle anodd iawn o ran astudio a chasglu ffosiliau. Mae'r rhan fwyaf ohoni'n aros dan rew drwy gydol y flwyddyn a dim ond ym misoedd yr haf ar yr arfordir mae modd mynd at gerrig brig yn hawdd. Dechreuodd fforwyr deithio i archwilio daeareg yr Ynys Las yn hwyr yn y 19eg ganrif ac maent yn parhau hyd heddiw. Trefnwyd y teithiau hyn gan Arolwg Daearegol yr Ynys Las sydd wedi'i leoli yng Nghopenhagen. Yn y 1990au cyflwynwyd i'r Amgueddfa gasgliad o drillabedogion o'r oes Gambriaidd ac Ordofigaidd o ganol dwyreiniol yr Ynys Las o deithiau 1950-4 gan y Dr John Cowie, gynt o Brifysgol Bryste a chydweithiwr, y Dr Peter Adams. Yr Ynys Las yn crwydro'r byd Heddiw rydym yn gyfarwydd â'r Ynys Las fel lle oer a rhewllyd ond nid felly y bu gynt. Mae'r platiau tectonig sy'n ffurfio lithosffer y ddaear wedi symud drwy gydol hanes. Mae daearegwyr wedi dangos bod yr Ynys Las yn ystod y cyfnod Ordofigaidd yn agos at y cyhydedd. Gyda gogledd America a Sbitsbergen roedd yn ffurfio cyfandir hynafol o'r enw Lawrensia. Ar yr un adeg roedd Cymru yn bell i ffwrdd yn y lledredau deheuol, uchel, claear yn agos i gyfandir anferth Gondwana. Mae ffosiliau'r planhigion o'r moroedd bas Ordofigaidd o gwmpas Lawrensia a Gondwana yn wahanol iawn i'w gilydd ac nid oes yr un rhywogaeth o drillabedog yn gyffredin i'r Ynys Las a Chymru. Ynys Las yn ystod y cyfnod Ordofigaidd yn agos at y cyhydedd Trillabedogion trofannol yn newydd i wyddoniaeth Mae trillabedogion Ordofigaidd yr Ynys Las wedi'u cadw mewn carreg galch a ymgasglodd ar lawr y moroedd twym, bas ac isdrofannol. Mae tua deugain o rywogaethau gwahanol wedi'u hadnabod yn ein casgliad o'r Ynys Las ac mae ambell un yn newydd i wyddoniaeth. Mae ymchwil wedi cadarnhau eu bod yn gyffredin i drillabedogion rhannau eraill o Lawrensia neu'n perthyn iddynt yn agos. Mae nodweddion gwahanol rywogaethau trillabedog yn awgrymu sut roeddynt yn byw. Roedd y rhan fwyaf mwy na thebyg yn ddyfnderol (yn byw ar lawr y môr) ac yn bwyta sborion neu waddodion. Mae gan eraill nodweddion megis llygaid mawr iawn sy'n dangos eu bod yn gefnforol (nofwyr). Roedd y ffurfiau hyn yn eang eu dosbarthiad yn y cefnforoedd Ordofigaidd ac fe'u ceid mewn ardaloedd trofannol eraill ar wahân i Lawrensia.
Durga 29 Gorffennaf 2009 Y Dduwies Durga yn barod ar gyfer y Puja Am dair wythnos yng ngwanwyn 2009 yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, bu dau artist o India yn creu delweddau prydferth o’r Dduwies Durga a’u theulu. Fesul wythnos trawsffurfiwyd deunyddiau syml fel clai, papier mache, gwellt a phren yn gelfydd i greu cerfluniau manwl - pob un ohonynt â’u symbolau a’u hystyron eu hunain. Fe’u gwnaed ar gyfer Pwyllgor Puja Cymru - grŵp Hindŵaidd sydd wedi addoli yng Nghymru ers y 1970au. Gan fod eu delwedd o’r Dduwies Durga yn hen a threuliedig roedd angen un newydd arnynt. Durga yw’r Fam-dduwies anorchfygol, sy’n marchogaeth i’r frwydr ar gefn llew. Fe’i crëwyd gan y Duwiau pan oedd drygioni’n bygwth y Bydysawd. Hi yw ‘Shakti’ y pŵer dwyfol i wrthsefyll, amsugno ac ymladd pwerau’r fall. Trwy gydol yr addoli, a elwir yn Puja, mae Hindŵiaid yn dathlu buddugoliaeth Durga dros ddrygioni. Fe’i gwelwch yma yn ei holl brydferthwch yn arddangos cryfder, cynhesrwydd a chariad mamol. Saif yn falch ar gefn llew wrth iddi ladd Brenin y demoniaid, Mahisasura. Gyda hi mae ei dau fab, Ganesh a Kartikeya, a’i dwy ferch, Lakshmi a Saraswati. Deuai’r ddau artist llwyddiannus - Purnendu a Dubyendu Dey - o Kolkata, India. Trwy gydol y broses o greu dilynwyd defodau crefyddol arbennig. Y pwysicaf ohonynt oedd Chakkshu Daan – Paentio’r Llygaid. Daeth Purnendu â Durga’n fyw drwy beintio’i llygaid yn ofalus. O’r pwynt hwn ymlaen addolir delwedd o’r Dduwies fel petai ganddi’r holl bwerau a roddodd y Duwiau iddi. Mae’r Pujas yn cychwyn ar chweched diwrnod Navaratri, sef y naw noson o ddefodau i’r Dduwies Durga, gyda chroeso i’r Dduwies a’i theulu. Caiff mantrâu eu llafarganu yn Sansgrit, a chyflwynir offrymau i erfyn am fendith y Dduwies wrth ymladd drygioni. Ar ôl naw niwrnod, daw’r Dushera, y diwrnod olaf. Dyma’r diwrnod i ffarwelio â’r Fam Dduwies a’i theulu. Yn India, fe’u dodir yn nyfroedd yr afon Ganges, gyda’r gobaith o’i chroesawu’n ôl y flwyddyn ganlynol. Yng Nghymru, fe’u storir yn ofalus ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Durga Ffurfio corff Ganesha wrth glymu gwellt at strwythur gwifren Gosod cymysgedd o glai a phapur newydd ar y gwellt i ffurfio pen Ganesha Y Dduwies Durga, ei llew, a'r diawl byfflo wedi eu ffurfio o wellt a gwifren Yr artist Dibyendu Dey yn plethu gwifren a gwellt i ffurfio pen Defnyddio gwresogydd er mwyn sychu'r clai Clymu gwddf alarch Sarasvati i'r corff tra bod y clai'n sychu Lakshmi's owl Gosod mwgwd, a wnaethpwyd gan yr artistiaid eisioes, ar wyneb y Dduwies Durga Yr artist Dibyendu Dey yn ffurfio'r Dduwies Durga, ei llew, a'i gelyn, sef y diawl byfflo Pen pain Kartikeya Y wyneb yn dechrau sychu Ganesha cyn iddo gael ei baentio Llew y Dduwies Durga Rholio'r clai i greu bysedd Y clai wedi ei rholio i ffurfio bysedd a chledrau Gosod y bysedd ar ddwylo'r Dduwies Durga Delw'r Dduwies Durga yn sychu cyn cael ei phaentio Llygoden Ganesha, efallai'n symboleiddio ei ddeallusrwydd parod Paentio glud dros haenen denau o gotwm er mwyn selio'r ddelw Cymysgu'r paent Yr artist Purnendu Dey yn cymysgu'r paent powdr naturiol â dŵr The artist Dibyendu Dey painting the Goddess Durga Ganesha Y Dduwies Durga yn gorchfygu'r diawl byfflo Tylluan Lakshmi Gosod border disglair o amgylch y ddelw. Ystyrir y lliw coch i fod yn lwcus gan bobl India, ac mae gan rhai Duwiau a Duwiesau Hindŵaidd ddwylo coch i ddangos eu duwdod. Lakshmi Yr artist Purnendu Dey yn paentio llygad y llew Llew y Dduwies Durga yn ymosod ar y diawl byfflo Yr artist Purnendu Dey yn paentio pen y byfflo Gosod y cefndir, a baentiwyd â llaw, y tu ôl i'r Dduwies Durga Golwg agosach at gefndir y ddelw, a baentiwyd â llaw Y Dduwies Durga wedi seremoni paentio'r llygad. O'r pwynt hwn ymlaen mae'r Hindŵaid yn credu bod y ddelwedd yn bywiogi, ac fe addolir y Dduwies fel pe bai ganddi yr holl bwerau a roddodd y Duwiau iddi. Sarsvati, Duwies Gwybodaeth a'r Celfyddydau, yn cario ei offeryn, y veena. Kartikeya yn eistedd ar ben pain Lakshmi Ganesha, arglwydd pob peth byw Un o bedair llaw Ganesha Lakshmi, Duwies cyfoeth ac hapusrwydd Golwg agos at wisg a llaw Lakshmi Kartikeya, y milwr dewr a brawd Ganesha Sarasvati Y Dduwies Durga Y Dduwies Durga yn barod ar gyfer y Puja Sarasvati a Kartikeya Ganesha a Lakshmi
Sut y bu glo'n gyfrifol am oeri'r hinsawdd 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl Christopher Cleal, 1 Mehefin 2009 Atgynhyrchiad o lifglawdd afon a lifai trwy'r gwlypdiroedd trofannol 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ceir y planhigion sy'n tyfu ar y llifgloddiau hyn yn aml fel ffosilau yn y creigiau a gysylltir â glo yng Nghymru. Peintiad gan Annette Townsend. Cymhariaeth o sut yr amrywiai'r ardal a orchuddiwyd gan Fforest Lo dros amser, gyda thystiolaeth o newid yn yr hinsawdd yn y cyfnodau Carbonifferaidd diweddar a'r Permaidd cynnar. Atgynhyrchiad o lycophytau anferth a dyfai yng ngwlypdiroedd Cymru tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Noder fod yna blanhigion mewn gwahanol gamau o'u cylch-bywyd. Peintiad gan Annette Townsend. Map o'r tiroedd trofannol tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn dangos mynyddoedd (brown tywyll), iseldiroedd (brown golau) a gwlypdiroedd lle dyddodwyd mawn (gwyrdd). Rhisgl o foncyff lycophyt anferth o'r cyfnod Carbonifferaidd Diweddar, a ganfuwyd yng Nglofa Rhisga, de Cymru. Mae'r strwythurau siâp diemwnt ar yr arwyneb, sydd tua 1cm o hyd a 0.5cm o led, yn dynodi lle cysylltid y dail yn wreiddiol. Côn o lycophyt anferth o'r cyfnod Carbonifferaidd diweddar, a ganfuwyd mewn nodiwl haraenfaen yn ne Cymru. Cynhyrchai'r conau hyn sborau. Cofnodir y raddfa mewn centimedrau. Eginyn deiliog o lycophyt anferth o greigwely Uwch-garbonifferaidd Llanilltud ym Meddau, de Cymru. De Cymru sydd â'r creigiau glo mwyaf agored yn Ewrop. Mae gwyddonwyr yn Amgueddfa Cymru yn arwain tîm rhyngwladol o arbenigwyr sy'n ymchwilio i effaith y broses o ffurfio'r glo hwn ar gyfansoddiad yr atmosffer hynafol. Beth yw glo? Glo yw'r hyn sydd dros ben wedi i fawn gael ei gywasgu a'i gynhesu, nes mai'r unig beth sydd ar ôl yw carbon i bob pwrpas. Mae meysydd glo Cymru'n olion rhan o fforest corstir a orchuddiai rannau mawr o'r trofannau tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl (y Cyfnod Carbonifferaidd diweddar). Gelwir y rhain yn Fforestydd Glo. Mae yna dystiolaeth hefyd o fod iâ helaeth wedi gorchuddio llawer o'r tir o amgylch pegwn y de yn y cyfnod hwn. Dyma'r unig gyfnod arall yn y gorffennol daearegol, ac eithrio'r tua 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf, lle cafwyd y cyfuniad hwn o fforestydd trofannol helaeth ac iâ pegynol. Gall edrych ar y byd Carbonifferaidd diweddar felly gynnig darlun gwerthfawr o sut y gallai planhigion, yr hinsawdd a'r atmosffer fod yn rhyngweithio yn ein byd ni heddiw. Planhigion y Fforestydd Glo Roedd y Fforestydd Glo yn wahanol iawn i unrhyw beth sy'n tyfu heddiw. Y prif blanhigion oedd y lycophytau ('cnwp fwsoglau') tebyg i goed, a fedrai dyfu hyd at 50m o daldra. Yn wahanol i'r goeden fodern, meinwe meddal tebyg i gorc (periderm) oedd prif elfen boncyffion y lycophytau anferth hyn, yn hytrach na phren. Roedd hyn yn galluogi'r planhigion i dyfu i'w maint llawn mewn cyn lleied â 10 mlynedd. Hefyd, yn wahanol i goed modern, pan gyrhaeddai'r lycophytau hyn eu maint llawn, atgynhyrchent drwy gynhyrchu conau, cyn marw. Bywyd, marwolaeth a charbon Gan fod y planhigion hyn yn tyfu mor gyflym ac yna'n marw, cronnodd symiau anferth o fawn ar wely'r fforest. Mewn amser ffurfiodd hyn y glo sydd ym meysydd glo Cymru a rhannau eraill o Ewrop, yn ogystal â Gogledd America a Tsieina. Mae pob planhigyn yn tynnu'r carbon sydd ei angen arnynt i dyfu o'r atmosffer. Credir bod y fforestydd hyn yn gyfrifol am dynnu bron i 100 gigadunnell (mil o filiynau o dunelli) o garbon o'r atmosffer bob blwyddyn, a byddent wedi cael effaith fawr ar gyfansoddiad yr atmosffer yn ystod cyfnodau Carbonifferaidd. Cyfyngu'r Fforestydd Glo a chynhesu byd-eang Arhosodd cynefinoedd y Fforestydd Glo yn sefydlog i bob pwrpas am tua 10 miliwn o flynyddoedd. Yna cyfyngodd eu maint, oherwydd newidiadau ym mhatrymau draeniad y corstiroedd lle'r oeddent yn tyfu mae'n debyg. Digwyddodd hyn ar yr un pryd a chynnydd sylweddol mewn tymereddau byd-eang. Fwyaf nodedig oedd diflaniad haenau iâ mewn rhanbarthau pegynol deheuol, sydd wedi cael eu cofnodi yng nghreigiau Awstralia a'r Ariannin. Mae'n bur debygol fod ciliad y Fforestydd Glo wedi achosi cynnydd yn y carbon (fel CO2) sydd yn yr atmosffer, a bod hyn wedi achosi i'r tymheredd i gynyddu trwy 'effaith tŷ gwydr'. Maes Glo De Cymru Mae yna feysydd glo Carbonifferaidd diweddar ledled Ewrop, Gogledd America a Tsieina. Fodd bynnag, mae maes glo de Cymru yn arbennig o bwysig, gan ei fod yn dangos un o'r dilyniannau mwyaf cyflawn o greigiau sy'n cynnwys olion o'r Fforestydd Glo. Mae hefyd wedi rhoi inni gofnod ffosilau rhagorol o blanhigion, yn ogystal ag anifeiliaid yn cynnwys pryfaid, pryfaid cop, a molysgiaid dŵr croyw. Mae hefyd yn un o'r unig lefydd yn Ewrop lle mae'r creigiau hyn yn agored ar wyneb y tir. Yn y mwyafrif o lefydd eraill, rhaid ymchwilio daeareg y dyddodion glo hyn mewn pyllau tanddaearol - peth cynyddol anodd ei wneud gan fod pyllau glo yn prysur gau. Mae cofnod daearegol Maes Glo de Cymru wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu ein dealltwriaeth o esblygiad y Fforestydd Glo, yn enwedig trwy waith daearegwyr Cymreig fel Emily Dix a David Davies yn ystod y 1920au a'r 1930au. Yn fwy diweddar, mae gwyddonwyr yn Amgueddfa Cymru wedi bod yn ymchwilio sut newidiodd cyfansoddiad fforestydd De Cymru dros amser. Gwnaed hyn drwy edrych ar newidiadau mewn amrywiaeth rhywogaethau yn y cofnod ffosiliau planhigion, a'r dystiolaeth o'r cofnod paill a sborau a echdynnwyd o'r creigiau. Awgryma hyn fod y Fforestydd Glo yn gynefinoedd hynod o sefydlog am y mwyafrif o'u bodolaeth yn ne Cymru, o leiaf tan eu bod wedi cyfyngu gan achosi'r newid mewn tymheredd byd-eang. Erthygl gan: Chris Cleal, Pennaeth Hanes Llystyfiant Darllen pellach Cleal, C. J. a Thomas, B. A. 1994. Plant fossils of the British Coal Measures. Cymdeithas Palaeontoleg, Llundain. Cleal, C. J. & Thomas, B. A. 2005. Palaeozoic tropical rainforests and their effect on global climates: is the past the key to the present? Geobiology, 3, 13-31. Thomas, B. A. a Cleal, C. J. 1993. The Coal Measures forests. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.