: Yr Amgueddfa ar Waith

Archif De la Beche yn Amgueddfa Cymru

Tom Sharpe, 20 Ebrill 2009

Syr Henry Thomas De la Beche (1796-1855)

Syr Henry Thomas De la Beche (1796-1855)

Ddaeareg Jamaica gan De la Beche

Map daearegol cyntaf Jamaica

Duria Antiquior - dyfrlun gan De la Beche yn 1830
Duria Antiquior

- A more Ancient Dorset. Dyfrlliw gan De la Beche yn 1830. Y llun hwn oedd y cyntaf i bortreadu amgylchedd ffosil yn ei gyfanrwydd, ac i ddangos sut yr oedd gwahanol elfennau o'r ffosilau ffawna a flora yn rhyngweithio, yn arbennig felly ymlusgiaid môr mawr y Cyfnod Jwrasig cynnar.

De la Beche a'i merched in Abertawe yn 1853

De la Beche a'i merched yn Abertawe, 1853

Mae Adran Daeareg Amgueddfa Cymru yn rhoi llety i un o'r archifau daearegol pwysicaf yn y byd. Mae'n cynnwys dros 2,000 o eitemau - llythyrau, dyddiaduron, dyddlyfrau, brasluniau a ffotograffau - gan un o brif ddaearegwyr dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Syr Henry Thomas De la Beche (1796-1855).

Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg chwaraeodd De la Beche ran bwysig yng ngwyddor newydd daeareg. Yn ogystal â'i gyfraniadau gwyddonol, sefydlodd ddaeareg fel galwedigaeth a sefydlu nifer o brif sefydliadau daearegol Prydain gan gynnwys y rhain:

  • British Geological Survey
  • Museum of Practical Geology (wedyn y Geological Museum ac erbyn hyn y Natural History Museum yn Llundain)
  • School of Mines (erbyn hyn yn rhan o Imperial College Llundain)
  • Mining Record Office (erbyn hyn yn rhan o'r Coal Authority).

Ganed De la Beche yn Llundain ac fe'i magwyd yn Nyfnaint a Lyme Regis yn Dorset, ble datblygodd ddiddordeb mewn daeareg drwy ei gyfeillgarwch gyda merch leol, Mary Anning (1799-1847) a oedd yn casglu ffosiliau.

Jamaica

Roedd cyfoeth ei deulu'n dod o gaethweision a phlanhigfa siwgwr yn Jamaica, ac ym 1823-4 treuliodd ddeuddeg mis ar yr ystâd. Roedd hefyd wedi teithio o amgylch yr ynys gan archwilio ei cherrig brig. Wrth ddychwelyd i Loegr, cyhoeddodd y disgrifiad cyntaf o ddaeareg Jamaica a'i map daearegol cyntaf. Ystyrir De la Beche fel 'tad daeareg Jamaica'.

Dechreuodd De la Beche fapio creigiau Dyfnaint yn gynnar yn y 1830au. Ond roedd yr aflonyddwch yn Jamaica oherwydd diddymu caethwasiaeth a chwymp yn y farchnad siwgwr wedi ei adael mewn anawsterau ariannol. Nid oedd yn gallu parhau gyda'i waith. Ysgrifennodd at Fwrdd yr Ordnans gan gynnig cwblhau mapio daearegol Dyfnaint i'r llywodraeth am £300. Roedd ei gais yn llwyddiannus a chafodd ei benodi'n Ddaearegydd i Arolwg Trigonometrig yr Ordnans.

Sefydlu Arolwg Daearegol Prydain

Unwaith bod gwaith Dyfnaint wedi'i orffen gwnaeth gais llwyddiannus i barhau gyda mapio daearegol Cernyw ac ym 1835 sefydlwyd Arolwg Daearegol yr Ordnans. O hwn tyfodd Arolwg Daearegol Prydain heddiw. Mewn cyfnod pan oedd y rhan fwyaf o ddaearegwyr yn ficeriaid neu amaturiaid oedd â diddordeb gydag incwm preifat, De la Beche oedd un o'r proffesiynolion cyntaf.

Ym 1837 symudodd De la Beche ei Arolwg Daearegol i Abertawe gan gydnabod pwysigrwydd economaidd maes glo Cymru. Yn fuan daeth yn rhan o fyd gwyddonol lleol fel aelod o Sefydliad Athronyddol a Llenyddol Abertawe a chyfaill i'r naturiaethwr o Abertawe, Lewis Weston Dillwyn.

Roedd gan De la Beche ferch deunaw oed, Elizabeth (Bessie). Yn fuan daeth hi'n gyfaill i un o feibion Dillwyn,

Lewis Llewelyn Dillwyn , a phriodon nhw yn Awst 1838. Gan eu disgynyddion nhw y daeth y rhan fwyaf o archif De la Beche i'r Amgueddfa yn y 1930au.

Darganfod ffosiliau ysblennydd

Mae'r papurau'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am ddaeareg gynnar yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd enwau'r cyfnodau daearegol (Cambriaidd, Ordofigaidd ac ati) sydd erbyn hyn mor hysbys yn cael eu cynnig am y tro cyntaf ac o hyd yn ddadleuol. Roedd ffosiliau newydd ac ysblennydd yn cael eu darganfod a thystiolaeth o Oes y Rhew'n cael ei hadnabod am y tro cyntaf.

Bu De la Beche yn gweithio'n bersonol ar ddisgrifiadau cyntaf ffosiliau'r ymlusgiaid morwrol mawr, y pysgymlusgiaid a'r plesiorsoriaid. Mae llawer yn y papurau hefyd parthed sefydlu'r Arolwg Daearegol a'r sefydliadau eraill roedd ef wedi eu sefydlu.

Darwin yn ysgrifennu at De la Beche

Roedd De la Beche yn gohebu gyda phrif ddaearegwyr y dydd a gofynnwyd iddo'n aml, ar sail ei brofiad o Jamaica, am gyngor am yr ynys. Mae un o lythyrau'r casgliad yn ei holi ym 1842 am liw'r ceffylau, y gwartheg a'r anifeiliaid eraill a fagwyd ers sawl cenhedlaeth ar yr ynys a sut roedden nhw wedi newid. Awdur y llythyr oedd Charles Darwin a oedd adeg honno'n ffurfio ei ddamcaniaeth am esblygiad.

Roedd De la Beche yn ddarluniwr medrus ac mae hyn yn amlwg yn yr archif. Roedd yn gywir iawn wrth fraslunio tirluniau, darluniadau o ffosiliau a chroestoriadau daearegol ond hefyd gwnaeth nifer o wawdluniau a chartwnau. Roedd y rhain yn ffordd iddo wneud sylwadau ar ddatblygiadau mewn daeareg ac ar ei weithgareddau ei hun a rhai ei gyfoedion.

Adnodd pwysig yw'r archif i hanes daeareg ac mae ymchwilwyr o Brydain a thramor yn ymgynghori â hi'n aml - i drefnu ymweliad,

cysylltwch â ni .

Nodyn: fe olygwyd yr erthygl hon ar 28/06/17 i ddileu cyfeiriad at de la Beche fel "perchennog caethweision teg".

Cwiltiau

17 Ebrill 2009

Mae'r casgliad cwiltiau a chlytwaith yn Amgueddfa Cymru yn cynnwys esiamplau o ddillad gwely o'r ddeunawfed i'r ugeinfed ganrif. Mae yma hefyd eitemau llai megis gorchudd clustogau, leinin basgedi bedydd, peisiau o'r ddeunawfed ganrif a gŵn fedydd Peter Morgan o’r Gelli Aur o 1722. Dechreuwyd ar gasgliad cwiltiau'r Amgueddfa yn y 1930au. Er bod nifer o gwiltiau wedi cael eu rhoi i'r Amgueddfa ym 1914, dim ond wedi sefydlu'r Adran Diwylliant a Diwydiant Gwerin ym 1932 y dechreuwyd casglu o ddifrif.

Gellir gweld y casgliad drwy apwyntiad. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r curadur drwy ein Ffurflen E-bost.

Porwch drwy ein casgliadau cwiltiau o dan y categorïau canlynol:

Planhigion Prin Cymru

1 Ebrill 2009

Mae Cymru'n gyforiog o blanhigion, i wlad mor fach. Mae'r holl greigiau a thopograffeg gwahanol, o galchfeini Penrhyn Gŵyr i gerrig llaid a chreigiau folcanig Eryri, yn gynefin i amrywiaeth o blanhigion arbennig.

Mae Cymru yn gartref i sawl planhigyn prin. Mae rhywogaethau prin fel y Gerddinen Darren Fach neu Heboglys y Mynydd Du yn unigryw i Gymru, ac nid ydynt ar gael unrhyw le arall yn y byd. Mae planhigion prin eraill fel Lili'r Wyddfa neu Lysiau Melyn y Bystwn ar gael mewn gwledydd amrywiol, ond dim ond yng Nghymru y maent i'w cael yng ngwledydd Prydain. Mae eraill fel y Canri Dryflwyddol neu'r Merllys Gorweddol yn brin dros y byd.

Nod Project Planhigion Prin Cymru yw helpu i warchod rhai o'n planhigion prin sydd dan fygythiad trwy gynnig sail wyddonol gadarn ar gyfer eu cadwraeth. Darperir cyngor trwy gasglu gwybodaeth am faint a lleoliad y poblogaethau planhigion prin, asesu'r peryglon i'w gallu i oroesi, casglu gwybodaeth ecolegol, dadansoddi amrywiadau geneteg a gwneud argymhellion ar gyfer rheoli cynefinoedd.

Cychwynnodd y project ym 1998, gan ganolbwyntio ar blanhigion brodorol prin Cymru i ddechrau, ac mae wedi tyfu o egin bach i fod yn gangen braff. Mae'n broject ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol, ac wedi'i ariannu'n rhannol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Cliciwch ar ddelwedd i ddarganfod mwy...

Cregyn bylchog sy'n bwyta nwy

1 Ebrill 2008

Genws newydd Spinaxinus sentosus o gargo organig y llong suddedig Francois Vieljeux

Casglwyd y rhywogaeth a'r Genws newydd Spinaxinus sentosus o gargo organig y llong suddedig Francois Vieljeux. Mae'r genws yn wahanol i thyasiridau eraill hysbys, a dyma'r unig gofnod o'r rhywogaeth hon hyd heddiw.

Thyasira methanophila
Thyasira methanophila

, cragen fylchog newydd i wyddoniaeth o ardal tryddiferfannau methan oddi ar arfordir Concepción, Chile. Mae ei enw'n awgrymu ei ddibyniaeth ar fethan.

Darlun manwl o gragen allanol Spinaxinus sentosus

Darlun manwl o gragen allanol Spinaxinus sentosus a ganfuwyd yng nghargo organig y llong suddedig Francois Vieljeux. Ar ôl i wyddonwyr yr Amgueddfa chwyddo'r llun a sylwi ar y pigau, galwyd y genws newydd yn 'Spinaxinus'.

Ceir cronfeydd mawr o olew a nwy naturiol yn ddwfn o dan wely'r môr, ond ni ddarganfuwyd tan yn gymharol ddiweddar fod methan yn tryddiferu o arwyneb gwely'r môr. Gelwir y mannau hyn yn 'dryddiferfannau nwy', ac mae rhai anifeiliaid wedi esblygu yn benodol i fanteisio ar yr amgylchedd unigryw hwn.

Diet o fethan a sylffwr

Mae cymunedau o gregyn bylchog yn byw wrth y tryddiferfannau methan hyn sy'n defnyddio'r nwy fel ffynhonnell fwyd. Nid ydynt yn bwyta'r nwy, ond maent wedi esblygu i lochesu bacteria yn eu meinwe sy'n cyflawni'r dasg yn eu lle.

Gelwir yr organebau hyn yn rhai 'cemosymbiotig', ac mae rhai grwpiau o gregyn bylchog wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth addasu i'r amgylchedd hwn.

Mae'r grŵp hwn o gregyn bylchog yn gallu ecsploetio sylffwr hefyd, ac maent yn byw mewn mannau lle ceir haenau o blanhigion yn pydru, o amgylch carcasau pydredig morfilod, wrth agorfaoedd poeth, a hyd yn oed mewn mwd sydd wedi'i lygru ag olew disel.

Oherwydd bod y cregyn bylchog hyn yn dod o amgylchedd anghyffredin, ac yn aml o ddyfroedd dyfnion, mae llawer ohonynt eto i'w hastudio'n fanwl. Anfonwyd nifer ohonynt i Amgueddfa Cymru i gael eu hadnabod a'u disgrifio.

Cregyn bylchog o Chile

Anfonwyd cregyn yn ogystal â sbesimenau byw o gregyn bylchog i'r Amgueddfa yn dilyn darganfyddiad tryddiferfan nwy oddi ar arfordir Chile 700-900m o dan arwyneb y môr.

Roedd un rhywogaeth o'r fath, mewn grŵp o'r enw Thyasira, yn newydd i wyddoniaeth. . Astudiwyd y bacteria ym meinwe tagell y gragen fylchog drwy ddefnyddio microsgop sganio electronig. Cadarnhaodd hyn y symbiosis (dibyniaeth) rhwng y bacteria a'r gragen fylchog.

Darganfuwyd bod rhywogaeth o'r genws Lucinoma yn newydd i wyddoniaeth hefyd, ond hyd yma dim ond cregyn a ddarganfuwyd. Mae'n debygol bod y mwyafrif o'r rhywogaethau sy'n byw ar y safle hwn yn endemig (wedi'u cyfyngu i'r lleoliad hwn) ac nac ydynt yn bodoli unrhyw le arall yn y byd.

Glandir Pacistan

Anfonwyd rhywogaeth fach o Thyasira atom ar draws y byd o Indus Fan oddi ar arfordir Pacistan. Fe'i casglwyd yn ystod astudiaethau o'r ffawna anghyffredin sy'n byw yn nyfroedd ocsigen isel yr ardal.

Canfuwyd y gragen fylchog bitw hon mewn dwyseddau hyd at 500/y metr sgwâr ac mae'n sicr ei fod wedi manteisio ar y bwyd helaeth. Dyma genws arall sydd heb ei astudio, ac mae'r Amgueddfa'n cydweithio â'r Amgueddfa Hanes Natur, Llundain sy'n astudio trefn folecwlar (DNA) y grŵp.

Cragen fylchog â blas am longddrylliadau

Manteisia'r cregyn hefyd ar ffynonellau artiffisial o fethan a sylffwr, ac un o'r rhyfeddaf ohonynt oedd cargo'r llong gynwysyddion suddedig "Francois Vieljeux". Suddodd y llong oddi ar arfordir gogledd Sbaen mewn 1160m o ddŵr, ynghyd â'i chargo o ffa castor a hadau blodau'r haul.

Yn ystod yr ymdrechion i achub y llong sylwyd bod cregyn bylchog wedi setlo ac wedi tyfu ar y cargo. Roedd y cregyn bylchog i gyd yn perthyn i grwpiau cemosymbiotig ac yn ecsbloetio'r sylffwr a ryddhawyd gan y cargo pydredig. Roedd un o'r cregyn bylchog yn Thyasira tebyg i'r sbesimen o Chile.

Basn Cascadia, oddi ar Dalaith Washington

Tarddell boeth yng ngogledd ddwyrain y Môr Tawel yw Baby Bare Seamount sy'n gartref i rywogaeth newydd o Axinus (tebyg i Thyasira). Mae'r safle'n anghyffredin oherwydd nad oes yno enghreifftiau o'r rhywogaethau deufalf eraill sy'n nodweddiadol mewn lleoliadau tryddiferfannau methan ac awyrellau poeth. Ar y cychwyn roedd ffynhonnell maeth yr anifeiliaid yn ddirgelwch gan fod y lefelau methan a hydrogen sylffid mor isel.

Llosgfynyddoedd Mwd Cadiz

Oddi ar arfordir de Portiwgal ceir nifer o losgfynyddoedd mwd a ffurfiwyd gan wasgiannau'r platiau tectonig Affricanaidd ac Ewrasiaidd. Mae'r gwasgiannau'n gwthio hylif sy'n llawn methan a sylffwr o grombil y llosgfynyddoedd i wely'r môr uwchben. Erbyn i'r hylifau gyrraedd yr arwyneb maent wedi oeri, felly gelwir y llosgfynyddoedd yn dryddiferfannau oer. Ceir nifer o rywogaethau o gregyn bylchog Thyasira ar y safleoedd hyn, ond dim ond rhai ohonynt sy'n llochesu'r bacteria cemosymbiotig i'w galluogi i dynnu maeth o sylffwr a methan. Yn sgil cydweithio rhwng yr Amgueddfa a Phrifysgol Cadiz, Sbaen, disgrifiwyd rhywogaeth newydd o'r enw Thyasira vulcolutre, sy'n golygu 'perthyn i losgfynydd mwd'.

Erbyn hyn, mae'r Amgueddfa, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, yn gweithio ar dacsonomeg Thyasira a gasglwyd mewn folcano mwd yn yr Arctig, a misglen o'r genws Idas a gasglwyd o fwd a lygrwyd gan ddisel o dan lwyfan olew ym Môr y Gogledd.

Mae'r gwaith hwn gan Amgueddfa Cymru yn cynorthwyo i ymchwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio'r cregyn bylchog hyn i lanhau mannau llygredig ar wely'r môr.

Eglwys Sant Teilo

12 Mawrth 2008

Detholiad o ddelweddau o Eglwys Sant Teilo