Peli Camffor ac Arsenig, Llau Llyfrau a Phryfed Arian - Peryglon Llysieufa'r Amgueddfa 12 Mehefin 2007 Sbesimen wedi'i ddifrodi gan chwilen bisgedi Gwneud profion i ganfod lefelau anwedd arian byw yng nghypyrddau'r llysieufa Enghraifft o afliwio a achoswyd gan blaleiddiaid. Dangosodd gwaith ymchwil bod y sbesimen hwn wedi'i drin ag arsenig, arian byw a bariwm — sy'n niweidiol i'r sbesimen ac i iechyd Mae dros 250,000 o sbesimenau o blanhigion wedi'u sychu o bedwar ban byd yn Amgueddfa Cymru, rhai ohonynt yn dyddio 'nôl i'r 18fed ganrif. Gall plaleiddiaid tocsig a ddefnyddiwyd ar y sbesimenau hyn dros y blynyddoedd wneud drwg iddynt a pheryglu iechyd y rhai sy'n gweithio arnynt. Rhoddir plaleiddiaid ar y sbesimenau i wrthsefyll plâu fel llau llyfrau, chwilod bisgedi a phryfed arian. Mae plâu wedi bod yn fygythiad i sbesimenau o fyd natur erioed a gallant gael effaith ddinistriol ar gasgliad botanegol gan ddifa manylion pwysig neu hyd yn oed sbesimenau cyfan. Erbyn hyn, gwyddom fod rhai mathau o blaleiddiaid a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn niweidiol ac yn wenwynig. Gallai pobl sy'n trafod y casgliadau beryglu eu hiechyd, yn enwedig gan na wyddom faint o gemegau a pha fath o gemegau a ddefnyddid yn y plaleiddiaid. Cafodd samplau bychan o ddalenni o lysieufa'r Amgueddfa eu dadansoddi i weld pa gemegau oedd mewn un sampl. Er enghrafft, pe bai arian byw ac arsenig wedi'u defnyddio ar ddalen yn y llysieufa, byddai un prawf yn canfod y ddau fetal. Gwelwyd mai'r cemegau a ddefnyddid amlaf oedd carbon deusylffid, clorid mercwrig, methyl bromid, naphthalin, paradiclorobensen a pyrethroidau. Arian Byw Canfuwyd llawer o arian byw yn y samplau papur a chymerwyd camau ar unwaith i ddiogelu pobl oedd yn trafod sbesimenau. Gall arian byw gael ei gymryd i'r corff trwy ei anadlu, ei amsugno a'i lyncu a gall ei effeithiau amharu ar ffrwythlondeb, gall achosi mwtadu genynnol, cryndod, nam ar y golwg, newidiadau difrifol i'r bersonoliaeth a hyd yn oed ddifrod i'r ymennydd. Mesurwyd faint o anwedd arian byw oedd yn y llysieufa ac roedd y darlleniadau ym mhob safle lle cymerwyd darlleniadau ymhell islaw y safon iechyd a diogelwch a argymhellir. Rhoddwyd offer monitro ar ddillad unigolion. Peli Camffor ac Arsenig Er ei bod yn anodd mesur arsenig yn fanwl, canfuwyd peth ohono ar y rhan fwyaf o'r sbesimenau y cynhaliwyd profion arnynt. Canfuwyd naphthalin ar yr holl samplau, yn ôl y disgwyl. Defnyddiwyd peli camffor, a wnaed o naphthalin, yng nghypyrddau'r llysieufa tan y 1980au. Llwyddodd y prosiect i ganfod y cemegau a'r metalau peryglus a oedd yn olion y plaleiddiaid a bwriedir parhau i fonitro ansawdd yr aer a'r staff fel y gellir parhau i weithio yn y llysieufa heb berygl. Ar ôl gwneud y profion, lluniwyd cronfa ddata yn nodi'r sbesimenau, y plaleiddiaid, y llygryddion a'r peryglon i iechyd ac i'r sbesimenau. Defnyddiwyd y gronfa hon i helpu i ganfod peryglon yn llysieufeydd sefydliadau botanegol eraill.
Trwsio'r gwaith trwsio - Gofalu am fodelau gwydr unigryw Blaschka 16 Mai 2007 Leopold Blaschka, tua 1895. Delwedd trwy garedigrwydd Yr Amgueddfa Fotanegol, Prifysgol Harvard, Cambridge, MA. Rudolf Blaschka, tua 1895. Delwedd trwy garedigrwydd Yr Amgueddfa Fotanegol, Prifysgol Harvard, Cambridge, MA. Llun ffynhonnell o'r model o Gragen Bedr Bapur (Argonata argo). Model o'r Gragen Bedr Bapur wedi torri. Y model o Gragen Bedr Bapur ar ôl y gwaith cadwraeth. Mae gan Amgueddfa Cymru tua 200 o fodelau gwydr manwl hyfryd o greaduriaid môr o waith Leopold a Rudolf Blaschka. Gwnaed yr eitemau manwl a bregus hyn yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac maent wedi cael eu harddangos yn agored am flynyddoedd a'u storio dan amodau gwael, gan achosi difrod iddynt a'u gadael yn frwnt. Campweithiau unigryw Datblygwyd y portreadau gwydr prydferth hyn o anifeiliaid y môr yn wreiddiol fel modelau addysgol. I ni heddiw, maen nhw'n gampweithiau celf unigryw a phwysig. Mae gofalu am fodelau Blaschka'n frith o anawsterau. Oherwydd eu hoedran a'u cymhlethrwydd, mae angen gofal mawr wrth lanhau neu drwsio'r modelau. Rhaid clirio gwerth degawdau o faw, a chywiro difrod o waith trwsio cynharach heb niweidio na newid y model gwreiddiol. Y cam cyntaf mewn unrhyw broject cadwraeth yw deall beth mae'r darn yn ei gynrychioli, wedyn rhaid deall sut cafodd ei wneud. Cymysgedd cymhleth o wydr, paent a chaenau gweog sydd ym modelau Blaschka, a chawsant eu creu'n arbennig i ddangos gweadedd a lliwiau'r anifeiliaid byw. Clirio gwerth degawdau o faw Y peth cyntaf i'w wneud yw dod o hyd i ffordd briodol o lanhau'r modelau, wedyn rhaid datblygu ffyrdd o gywiro gwaith trwsio blaenorol. Yn olaf, rhaid trwsio'r modelau lle bo angen. Roedd y modelau'n anodd iawn i'w glanhau. Roedd paent wedi ei ychwanegu at lawer o'r sbesimenau i ychwanegu gwead a lliw. Roedd llwch wedi cronni ar y rhain dros y blynyddoedd, ac roedd hi'n anodd ei glirio. Cafodd nifer o doddyddion a hylifau glanhau eu profi'n ofalus. Er bod dŵr (â glanedydd anionig) yn effeithiol wrth gael gwared ar y baw, roedd y paent ar y wyneb yn doddadwy ac mewn perygl o gael ei olchi i ffwrdd. Yn y pen-draw, canfuwyd bod gwirod gwyn yn cael gwared ar y baw heb niweidio'r paent gwreiddiol. Cywiro hen waith trwsio Roedd llawer o'r sbesimenau, yn enwedig y seffalopodau, wedi cael eu torri a'u trwsio dro ar ôl tro dros amser. Mae llawer o'r gwaith trwsio wedi afliwio neu'n dechrau dadfeilio. Roedd rhai darnau, tentaclau er enghraifft, wedi cael eu glynu nôl yn y lle anghywir. Roedd y gwaith trwsio hynaf yn tueddu i ddefnyddio glud anifeiliaid oedd yn meddalu'n rhwydd mewn dŵr, ond roedd angen gofal mawr lle roedd paent ar wyneb y darn am ei fod yn toddi mewn dŵr. Roedd aseton yn toddi mathau eraill o lud. Ar ôl cael gwared ar yr hen lud, roedd angen rhoi'r modelau nôl at ei gilydd. Ail-drwsio'n gywir Roedd y gwydr a wnaed i wneud y rhan fwyaf o'r modelau'n denau ac yn fregus dros ben. Roedd rhai o'r darnau wedi eu chwalu'n ddarnau di-ri, a'r darnau wedi eu glynu nôl yn y llefydd anghywir ar ryw adeg yn y gorffennol. Yn gyntaf, roedd angen sicrhau bod modd dadwneud y gwaith trwsio newydd yn y dyfodol. Cafodd glud resin epocsi eu diystyru yn gyflym am eu bod mor gryf, am nad oedd modd dadwneud y gwaith ac oherwydd problemau sefydlogrwydd tymor hir. Dewiswyd y cyfnerthydd, Paraloid B-72TM, am ei fod yn ddeunydd sefydlog, ac am fod modd dadwneud y gwaith a chael gwared arno os oes angen. Mae'n ddeunydd trwsio gwan hefyd a fydd yn torri cyn y gwydr, gan leihau'r posibilrwydd o achosi difrod pellach i'r modelau. Mae modd gweld y deunydd mewn rhai math o olau hefyd, sy'n golygu y bydd modd i guraduron y casgliad yn y dyfodol weld y gwaith cadwraeth a wnaed. Datblygwyd y gwaith cadwraeth i wella ymddangosiad a chyflawnder y modelau, heb newid rhagor ar y strwythur gwreiddiol. Mae modelau gwydr Blaschka'n gasgliad pwysig sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Bydd y gwaith a wnaed ar y casgliad yn helpu i sicrhau ei fod yn cael ei gadw i'w fwynhau gan genedlaethau'r dyfodol.
Creaduriaid y Dyfnfor - Modelau Gwydr Blaschka 15 Mai 2007 Tua diwedd y 19eg ganrif, bu Leopola Blaschka (1822-1895) a'i fab Rudolf (1857-1929) yn gwneud modelau gwydr cywrain o greaduriaid hynod y môr ar gyfer amgueddfeydd byd natur ac acwaria ym mhedwar ban byd. Galwyd eu gwaith yn: "rhyfeddod celfyddydol ym maes gwyddoniaeth a rhyfeddod gwyddonol ym maes celfydyd." Hyd yn oed heddiw, mae gwaith y Blaschkas yn ymddangos yn eithriadol o gyfoes a hwythau'n croesi'r ffiniau rhwng dylunio, crefft, celfyddyd a diwydiant. Cliciwch ar y mân-luniau isod i weld lluniau mwy o rai o'r modelau gwydr nodedig hyn a gedwir yn y Amgueddfa Cymru. Blaschka Actinia mesembryanthum Synapta mammillosa Rhizostoma cuvierii Amoeba roteus Glaucus longicirrhus Slefren fôr gyffredin neu 'slefren fôr leuad' lawn main Aurelia aurita. Cragen Bedr bapur lawn maint Argonauta argo Model wedi'i chwyddo'n fawr o reiddiolyn un-gell (Actinophrys sol). Diamedr: 200mm (yn cynnwys y pigau). Tiwnigog llawn maint (Doliolum mülleri). Tua 70mm o hyd. Y llun gwreiddiol o'r gragen Bedr bapur fenywaidd (Argonata Argo) a ddefnyddiwyd i wneud y model. Cragen Bedr bapur fenywaidd (Argonata Argo) ar ôl ei thrwsio. Hyd: 225mm. Uchder: 150mm. Cragen Bedr bapur fenywaidd (Argonata Argo) cyn ei thrwsio. Hyd: 225mm. Uchder: 150mm. Môr-lawes lawn maint (Loligo marmorae). Hyd: 145mm. Môr-lawes lawn maint (Loligo alessandrini). Hyd: 85mm. Anemonïau môr yn ffraeo dros diriogaeth. Yma, mae S. troglodytes yn tanio celloedd pigo at A. mesembryanthemum sydd wedi mentro'n rhy agos. Gwelwyd hyn yn digwydd go iawn yn yr acwaria yng nghartref y teulu Blaschka. Gwaelod: 180x110mm. Uchder: 80mm. Cwrel meddal llawn maint (Xenia umbellata). Tua 80mm o uchder. Cwrel meddal llawn maint (Paralcyonium elegans). Tua 130mm ar draws. Model wedi'i chwyddo'n fawr o gyfnod datblygu sbwng (Sycandra raphanus). Diamedr: 100mm Model wedi'i chwyddo'n fawr o ameba un-gell (Amoeba proteus). Diamedr: 120mm. Model maint llawn o falwen fôr (Cerithium vulgatum) â chorff gwydr wedi'i osod mewn cragen iawn. Hyd: 90mm. Llyngyren fôr sy'n byw mewn tiwb, wedi'i chwyddo (Sabellaria alveolata). Hyd: 230mm. 'Slefren gribog' neu 'gwsberen fôr' (Pleurobranchia rhododactyla). Hyd: 205mm. Slefren fôr (Pelagia cyanella). Diamedr y gloch: 60mm. Uchder: 180mm. Dau gwrel cwpanog Dyfnaint (Caryophyllia smithii), y naill ar agor a'r llall ar gau. Uchder: 100mm. Actinoloba dianthus, Anemoni Môr Pluaidd - gwahanol ffurfiau a chyfnodau tyfiant. Gwaelod: 300x575mm. Uchder: 250mm. 'Môr-gacynen' maint llawn (Charybdea periphyllum) Lled: 60mm. Uchder: 50mm. 'Slefren fôr gytrefol' (Apolemia uvaria). Lled: 45mm. Uchder: 180mm. Slefren fôr (Carmarina hastata) Diamedr y 'gloch': 80mm. Uchder: 110mm. Model cywrain o chwysigen fôr (Physalia arethusa) Mae'r 'arnofyn' yn mesur rhyw 55mm o led a 90mm o hyd. Uchder cyfan: 240mm. Ceir rhyw ddau gant o dentaclau wedi'u gwneud o wydr lliw, main. Cânt eu dal a'u cynnal gan wifrau copr main.
Ewyllys Rufeinig 10 Mai 2007 Trawsfynydd yn y cyfnod Rhufeinig 'Tudalen' gyntaf ewyllys Rufeinig a ddarganfuwyd ger Trawsfynydd yn y 19g. Mae nodyn o ganol y 19g. yn nodi bod y tabled eisoes wedi'i dorri yn ei hanner. Darganfuwyd yr unig ewyllys Rufeinig i oroesi ym Mhrydain ger Trawsfynydd, Gwynedd, yn y 19eg ganrif. Mae dau lythyr a ysgrifennwyd ar y pryd yn cofnodi manylion y darganfyddiad a hanes yr ewyllys wedi hynny. Darganfuwyd yr unig ewyllys Rufeinig i oroesi ym Mhrydain ger Trawsfynydd, Gwynedd, yn y 19eg ganrif. Mae dau lythyr a ysgrifennwyd ar y pryd yn cofnodi manylion y darganfyddiad a hanes yr ewyllys wedi hynny. Yn ôl y llythyr cyntaf cafodd y 'llyfr pren', oedd yn cynnwys 10 neu 12 o dudalennau, ei ddarganfod gan weision fferm wrth iddynt ladd mawn i wneud tanwydd ar fferm Bodyfuddau, tua 5km i'r de-ddwyrain o gaer Rufeinig Tomen-y-mur. Nododd awdur y llythyr: "Gwelais i'r llyfr ychydig ddiwrnodau wedi iddo ddod i'r fei – dim ond 2 neu 3 o'r tudalennau oedd yn cynnwys arysgrifen berffaith bryd hynny – roedd wedi'i dileu yn rhannol gan ddiofalwch y gweision fferm ar y lleill. Yn ôl pob tebyg, crair oedd yn eiddo i'r Derwyddon yw'r gwaith. Mae'n bosibl iddyn nhw ddefnyddio rhyw lun ar yr wyddor Rufeinig i ysgrifennu eu hiaith eu hunain." Gwnaeth awdur y llythyr gamgymeriad wrth briodoli'r testun i'r Derwyddon, ond roedd i'w ganmol am adnabod yr elfen Rufeinig, oherwydd roedd ysgrifen redeg Rufeinig (â'r llythrennau wedi'u cysylltu wrth ei gilydd) yn anhysbys ar y pryd. Raglen deledu am y tabledi Pot inc crochenwaith, ysgrifbin haearn i ysgrifennu ar dabledi cwyrog, blwch sêl a marciwr eiddo plwm. Mae'r ail lythyr yn cofnodi rhoi un dudalen i George Carr Pearson, gŵr a chanddo swyddfeydd yn agos i Chancery Lane, Llundain, tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg. Astudiodd Pearson y tabled, ond ni ddychwelodd y gwrthrych. Ymhen amser, darganfuwyd y tabled unwaith eto wrth glirio tŷ merch Pearson, Grace, yn West Kensington ym 1991. Daeth yn eiddo i Mr Stafford Ellerman, a welodd raglen deledu am y tabledi ysgrifennu a ddarganfuwyd yng nghaer Rufeinig Vindolanda ar Fur Hadrian yn 2003. Sylweddolodd Ellerman ei fod yntau'n berchen ar dabled ysgrifennu Rhufeinig ac aeth ag ef i'r Amgueddfa Brydeinig er mwyn ei adnabod. Yna, rhoddodd y tabled, yn garedig iawn, i Amgueddfeydd Cymru. Yr ewyllys Manylyn o'r tabled yn datgelu'r ysgrifen Rufeinig sydd wedi'i chadw ar ei wyneb. Tafell hirsgwar denau o bren ffynidwydden arian yr dabled. Nid yw'r ffynidwydden arian yn un o goed brodorol Prydain. Bellach, mae'r gorchudd o gŵyr ar un ochr wedi dirywio. Byddai hyn wedi bod yn orchudd tywyll llyfn o gŵyr gwenyn a deunydd lliwio (huddygl yn ôl pob tebyg) yn wreiddiol. Byddai'r ysgrifennydd yn ysgrifennu ynddo gan ddefnyddio ei 'ysgrifbin' (offeryn metel pigfain) i ddatgelu'r pren golau oddi tano. Erbyn hyn, cafwyd hyd i ryw 300 o dabledi ysgrifbin ar safleoedd ym Mhrydain. Gyda chymorth ffotograffiaeth ofalus ac astudiaeth fanwl o'r gwreiddiol, mae'n bosibl dirnad rhyw gysgod o ysgrifen mewn sawl man. Mae'r testun wedi'i ysgrifennu mewn llythrennau bach Rhufeinig rhedol. Tudalen gyntaf ewyllys Rufeinig wedi'i hysgrifennu mewn Lladin yw'r tabled. Mae awdur yr ewyllys yn enwi etifedd i'w stad, ei wraig neu ei ferch o bosibl, ac yn rhoi'r cyfrifoldeb iddi dderbyn yr etifeddiaeth cyn pen 100 diwrnod ar ôl cael gwybod amdani. Mae'n debyg i enw'r awdur a maint y stad gael eu nodi ar y tabledi eraill sydd ar goll erbyn hyn. Mae ffurf yr ysgrifen yn debyg i honno ar dabledi eraill o Brydain sy'n dyddio o'r cyfnod OC75-125. Mae presenoldeb ewyllys Rufeinig ffurfiol ynddo'i hun yn rhyfeddod yn yr ardal anghysbell hon o Gymru. Ni allwn ond dyfalu sut cyrhaeddodd yr ardal. Ni chafwyd hyd i'r ddogfen yn y gaer neu ei ficws (anheddiad sifil cysylltiedig) fel y byddem wedi disgwyl, o bosibl. Ond, efallai fod yr ewyllys yn gysylltiedig â'r anheddiad cyfagos ar Ffridd Bod y Fyddai. Mae'n bosibl mai fferm hen filwr cynorthwyol oedd y clwstwr hwn o gytiau, milwr a brynodd dir gyda'i gynilion, neu ag arian a gafodd gan ei wraig. Efallai y gallai gwaith cloddio fwrw goleuni ar y ddamcaniaeth. O ystyried y byddai miliynau o ddinasyddion Rhufeinig yn ysgrifennu ewyllysiau ar dabledi cwyrog gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel, mae'n syndod bod y tabledi mor brin; gwyddom am bedwar o'r Aifft ac yn awr yr enghraifft hon o Gymru. Darllen cefndir ‘A Roman Will from North Wales’ gan R. S. O. Tomlin. Yn Archaeologia Cambrensis, 150 (2004) tt. 143 56 Life and Letters on the Roman Frontier gan A. K. Bowman. Cyhoeddwyd gan Wasg yr Amgueddfa Brydeinig (1994).
Cwpan llewpart y Fenni 9 Mai 2007 Y cwpan llewpart. 115cm (4.5 modfedd) o uchder. Manylyn o'r glust ar ffurf llewpart, yn dangos nodweddion ei chrefftwaith cain a smotiau arian. Y cwpan llewpart yn cael ei osod yn y Microsgop Sganio Electron. Pelydr-X o'r cwpan. Microffotograff o wyneb y llewpart. Darganfuwyd un o'r llestri Rhufeinig gwychaf i'w ddarganfod yng Nghymru ger y Fenni yn 2003, gan Mr Gary Mapps. Mae crefftwaith y cwpan o safon uchel ac, yn ôl pob tebyg, fe'i cynhyrchwyd yn yr Eidal yn ystod y ganrif gyntaf OC. Cafwyd hyd i gwpanau tebyg iawn yn ninas Pompeii, a ddinistriwyd wedi ffrwydrad llosgfynydd Feswfiws yn 79 OC. Gwaith Cloddio Dangosodd gwaith cloddio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent fod y cwpan wedi'i osod wyneb i waered mewn pydew bach oedd yn cynnwys corfflosgiad. Roedd y corfflosgiad yn rhan o fynwent ger ffordd Rufeinig, gryn bellter o'r gaer Rufeinig (Gobannium) yn y Fenni, sy'n dyddio o ganol y ganrif gyntaf hyd ddechrau'r ail ganrif. Yn ogystal, yng nghyffiniau'r fynwent hon, ceir mwy a mwy o dystiolaeth am anheddiad sifil sy'n dyddio o'r ail ganrif hyd y bedwaredd. Cwpan Pwy? Nid ydym yn gwybod a oedd y cwpan yn eiddo i aelod o'r fyddin Rufeinig oedd yn gwasanaethu neu'n rhan o'r garsiwn yn Gobannium, neu, efallai, yn eiddo i un o frodorion yr anheddiad sifil gerllaw. Pa esboniad bynnag sy'n gywir, roedd y cwpan hwn o'r ganrif gyntaf yn fewnforyn drud ac yn ôl pob tebyg roedd yn eiddo i rywun o fri. A chymaint oedd meddwl y perchennog ohono, mynnai y câi ei gladdu yn yr un bedd â'i lwch. Gwneuthuriad y Cwpan Castiwyd mewn mowld gan ddefnyddio efydd plwm. Ffurfiwyd mowld clai o amgylch model cŵyr o lewpart. Arllwyswyd efydd i'r gwagle lle fu'r cŵyr, a thorri'r mowld wedi i'r metel oeri. Llenwyd tyllau'r smotiau ar y corff gydag arian, ac mae'n bosib mai ambr oedd y llygaid. Roedd dewis llewpart yn addas iawn ar gyfer cwpan gwin, gan ei fod yn greadur pwysig ym mytholeg y Rhufeiniaid, yn gydymaith i Bacchws, duw gwin, a addolwyd drwy wledda, diota, cerddoriaeth a dawns. Darllen Cefndir Things Fall Apart: museum conservation in practice Amguedddfa Genedlaethol Cymru, 2006