: Yr Amgueddfa ar Waith

Crochenwaith unigryw o Abertawe yn hwb i gasgliad yr Amgueddfa

5 Gorffennaf 2007

Ym 1994, rhoddwyd deugain darn o grochenwaith a phorslen i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn rhodd gan W. J. Grant-Davidson, arbenigwr yn hanes crochendai Cymru. Roedd y casgliad yn cynnwys nifer o eitemau unigryw a phwysig a wnaed yn Abertawe tua dechrau'r 19eg ganrif.

Tancard priddwaith o Abertawe gan William Weston Young.

Tancard priddwaith o Abertawe gan William Weston Young.

Rhoddion hael

Un o'r darnau mwyaf diddorol yw tancard mawr priddwaith. Fe'i gwnaed yng Nghrochendy Cambrian, Abertawe, ym mlynyddoedd cyntaf y 19eg ganrif. Fe'i haddurnwyd â phen ac ysgwyddau derwydd. Dywed yr arysgrif iddo gael ei baentio gan William Weston Young (1776-1847). Mae'r addurn yn unigryw, er bod Weston Young wedi paentio llun derwydd yn torri uchelwydd ar blac hefyd (mae hwnnw yn Amgueddfa Fictoria ac Albert, Llundain erbyn hyn).

William Weston Young

Bu William Weston Young yn gweithio yn y crochendy rhwng 1803 a 1806 fel paentiwr a chynorthwyydd i'r perchennog, Lewis Weston Dillwyn. Syrfëwr tir oedd Weston Young wrth ei broffesiwn ac, yn ddiweddarach, bu'n bartner yn y 'Nantgarw China Works'.

Pos ar ffurf llun

Ymhlith yr eitemau eraill sydd yn y casgliad, mae sosban laeth, cwpanau wy a jwg ac arni'r arysgrif 'John Jinken 1793'. Ceir powlen bwnsh ac arni lun alarch a phenhwyad (sef 'pike' yn Saesneg). Efallai bod hon wedi'i gwneud yn arbennig ar gyfer y teulu Pike o Abertawe.

Crochenydd arloesol

Roedd gan Mr Grant-Davidson ddiddordeb mewn crochenwaith Lloegr hefyd. Ceir deg enghraifft o ganol y 18fed ganrif yn y casgliad a roddodd i'r amgueddfa. Yn ogystal â thri thebot braf o grochenwaith caled Swydd Stafford, ceir dau ddarn dogfennol o hufenwaith Josiah Wedgwood. Mae'r casgliad yn cynnwys un o'r pedwar darn y gwyddom amdanynt o hufenwaith wedi'u haddurno, a wnaed gan y crochenydd Enoch Booth. Gwnaed y darnau hyn yn hanner cyntaf y 1740au ac mae'n bosib mai dyma'r enghreifftiau cynharaf o gorff o briddwaith sy'n un o brif gyfraniadau Prydain at hanes crochenwaith.

Hanesydd a chasglwr

Roedd W.J. Grant-Davidson yn arbenigwr ar hanes crochendai Cymru. Casglai grochenwaith Prydeinig o'r cyfnod rhwng diwedd y Canoloesoedd i ddechrau'r 20fed ganrif. Ei gyhoeddiad mwyaf adnabyddus yw 'Early Swansea Pottery, 1764 - 1810', ac mae sawl darn o'i gasgliad ef i'w gweld yn y llyfr.

Ailwampio Cerbyd Rhif 238 o Rheilffyrdd y Cambrian

4 Gorffennaf 2007

Y cerbyd cyn dechrau ar y gwaith

Y cerbyd cyn dechrau ar y gwaith

Y tu mewn i brif ran y cerbyd

Y tu mewn i brif ran y cerbyd

Y cerbyd wedi'i gwblhau

Y cerbyd wedi'i gwblhau

Mae cerbyd trên o'r 19 eg ganrif yn ganolbwynt i un o raglenni gwarchod ac ail-greu mwyaf Amgueddfa Cymru.

Rheilffyrdd teithwyr y 19eg ganrif

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd Rheilffyrdd y Cambrian yn gwasanaethu rhan fawr o'r Canolbarth. Yn wahanol i reilffyrdd y De, a oedd yn cludo haearn a glo yn bennaf ar daith fer o'r cymoedd i'r arfordir, roedd Rheilffyrdd y Cambrian yn cario pobl ar deithiau pell. Roeddent yn cysylltu trefi glan môr fel Aberystwyth â dinasoedd mawr Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Llundain.

Moethusrwydd

O'u cymharu â threnau heddiw, roedd cerbydau teithwyr y 19eg ganrif yn eithaf cymhleth. Roedd gan gerbyd rhif 238 le bach i gadw bagiau yn un pen, yna dwy adran ddosbarth cyntaf a phedair adran trydydd dosbarth. Roedd yno dri thoiled, un ar gyfer teithwyr dosbarth cyntaf yn unig. Er mwyn cadw teithwyr y gwahanol ddosbarthiadau ar wahân, roedd coridor y teithwyr dosbarth cyntaf ar un ochr i'r cerbyd a choridor y teithwyr trydydd dosbarth ar yr ochr arall.

Adeiladwyd cerbyd rhif 238 yn Birmingham ym 1895 i safonau uchel iawn. Yn ôl y cynllun gwreiddiol: "Interior panelling of polished sycamore framed with walnut wood and gold lined".

O gerbyd moethus i gragen wag

Dechreuwyd defnyddio'r cerbyd ym 1895 a bu'n teithio'n bennaf rhwng Aberystwyth a Manceinion rhwng hynny a 1939. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei droi'n fan radio. Wedyn, cafodd ei gadw mewn storfa cyn ei drosglwyddo i Amguddfa Genedlaethol Cymru ym 1991. Erbyn hynny, nid oedd fawr mwy na chragen wag.

Penderfynodd yr amgueddfa adfer un adran dosbarth cyntaf ac un adran trydydd dosbarth yn y naill ben a'r llall i'r cerbyd, a defnyddio gweddill y lle ar gyfer grwpiau o ymwelwyr. Codwyd canopi arbennig i dros y cerbyd fel y gellid gweithio arno hyd yn oed mewn tywydd drwg.

Gwaith adfer y cerbyd

I ddechrau, rhoddwyd to newydd ar y cerbyd ac wedyn llawr newydd o estyll 'tafod a rhigol'. Gwelwyd bod un set o estyll yn yr adran dosbarth cyntaf wedi'i gosod ar ongl o 45 gradd i gorff y cerbyd a bod yr haen uchaf ar ongl o 90 gradd i'r haen isaf. Mae'n debyg bod hyn yn gwneud y daith yn llai swnllyd i'r teithwyr dosbarth cyntaf. Ar ôl hynny, adnewyddwyd y panelau allanol a'r mowldiadau, ac yna'r parwydydd mewnol a fframiau'r seddau. Dilynwyd y cynlluniau gwreiddiol trwy'r amser hyd yn oed wrth lunio'r bracedi metal a oedd yn dal y rac fagiau. Gwnaed copïau o un o'r bracedi gwreiddiol yn y ffowndri bres yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

Yn wreiddiol, cafodd y cerbyd 14 côt o baent. Yn ffodus, does dim angen cynifer o gotiau o baent modern. Cambrian Green yw lliw hanner isaf y cerbyd a defnyddiwyd sampl o'r paent gwreiddiol i greu'r lliw cywir.

Manylion

Defnyddiwyd arfbais y Cambrian Railway Company a phlu Tywysog Cymru i addurno'r cerbyd. Cafodd ffotograffau o'r rhai gwreiddiol eu sganio a'u hargraffu i sicrhau eu bod yn union yr un fath.

Bydd y cerbyd godidog hwn yn ein hatgoffa o oes aur y rheilffyrdd ar ddechrau'r 20fed ganrif pan oedd pobl yn dod o bob rhan o Loegr ar eu gwyliau i Fae Ceredigion.

Casglu Cyfoes

14 Mehefin 2007

Wel, ar ôl blynyddoedd o ymwrthod, dwi wedi penderfynu sgwennu blog. A dweud y gwir, doedd gen i ddim dewis. Cefais fy mhenodi'n Guradur Bywyd Cyfoes yma'n Amgueddfa Werin Cymru, ac fel rhan o fy ffurflen gais, cyhoeddais i'r byd y buasai'n dda o beth rhoi cyfle i'r curaduron rannu eu bywydau diddorol, llawn cyffro, gyda'r cyhoedd. Hyn er mwyn cynyddu "argaeledd" (buzz-word amgueddfaol) y casgliadau. Roedd yn rhaid, felly, dangos y ffordd.

Casglu cyfoes - beth yn union mae hynny'n olygu? Wel, i hwyluso pethau, penderfynais hollti'r swydd yn ddwy.

Yn gyntaf, rwyf am weithio gyda churaduron eraill i lenwi'r gaps yn y casgliad ers 1950. Mae'n gasgliad eithaf cryf yn nhermau gwrthrychau a hanes llafar y Gymru Gymraeg wledig, amaethyddol cyn 1950, ond yn wannach yn nhermau hanes y Gymru ddi-Gymraeg, drefol, ddiwydiannol yn enwedig ar ol 1950, er fod adeiladu Rhyd-y-car, Oakdale a Gwalia wedi gwella 'r sefyllfa rywfaint.

Bydd rhaid bod yn ddethol iawn wrth ddewis pethau gan fod y stordai yn llawn dop. Y bwriad yw pigo a dewis gwrthrychau'n ofalus, a gweu storiau a hanesion o'u hamgylch e.e. gallwn arddangos camera super 8 mewn cesyn, tra'n arddangos ffilmiau o Dreforgan yn y Chwedegau yn y cefndir, a chael tystiolaeth y bobl oedd yn berchen ar y ffilm ar arwydd.

Mae'r ail ran yn anos. Beth i'w gasglu yn yr oes wastraffus, E-beiaidd hon? Ein penderfyniad yw delio gyda chymunedau, prosiectau penodol, gweithdai a themau. Gallwn wedyn gwtogi'r dewis a chanolbwyntio ar wrthrychau neu storiau sy'n crisialu'r oes.

Er enghraifft, mae gennym Ddresel Gymunedol fydd yn newid pob chwe mis. Bydd cymuned neu grwp gwahanol yn arddangos gwrthrychau sy'n bwysig iddyn nhw. Y grwp cyntaf yw grwp Ieuenctid o Benyrenglyn a arddangosodd Gameboy Nintendo, peldroed wedi ei arwyddo a blanced gysur. Y grwp nesaf fydd Cymdeithas Hanes Johnstown.

Dull arall o gasglu cyfoes yw creu Storiau Digidol. Gwneir hyn trwy dynnu lluniau ar gamera ffon a chreu ffilm fer gyda'r canlyniadau. Rwyf am fynychu cwrs a chynhadledd yn Aberystwyth wythnos nesaf fydd yn delio gydda hyn. Na i adael i chi wybod sut aeth hi.

Fy arddangosfa fawr gyntaf fydd un ar gerddoraieth bop Cymru. Dwi'n gobeithio cynnwys gwrthrychau fel offerynnau, props llwyfan a ffansins, dangos fideos, chwarae recordiadau sain a chynnal gweithgareddau fel gweithdai rap.

Mae mwy i ddod...

Casgliad trawiadol o bortreadau planhigion

12 Mehefin 2007

Y Fritheg Gyffredin

Y Fritheg Gyffredin (Fritillaria meleagris) gan E.F. Crowley

Briallu

Briallu (Primula vulgaris) gan E.F. Crowley

Roedd botaneg yn weithgaredd poblogaidd a ffasiynol ym Mhrydain yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Roedd yn beth diogel i ferched dosbarth canol ei wneud i basio'r amser a'r farn oedd ei fod yn dysgu gwersi moesol a chrefyddol ac yn cadw'r merched rhag segurdod.

Ym mis Ebrill 1927, ddau fis ar ôl i'r Brenin Siôr V agor Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn swyddogol, ysgrifennodd Miss Gwendolen Crowley o Eastbourne at Geidwad Botaneg yr amgueddfa newydd yn cynnig casgliad o 200 y luniau botanegol dyfrlliw.

Yn ogystal â lluniau gan Miss Crowley, roedd rhai tebyg gan ei mam, Mrs Curtis Crowley, ei chwaer, Marion, a modryb iddi, Mrs E.F. Crowley, a oedd yn golygu bod cyfanswm o 367 o luniau dyfrlliw wedi'u rhoi i'r Amgueddfa newydd.

Rai blynyddoedd cyn hynny, roedd Gwendolen a Marion wedi cychwyn Clwb Paentio Botanegol gyda'r nod o ddarlunio cynifer ag oedd modd o flodau gwyllt a'r casgliad hwn oedd canlyniad y symudiad hwnnw.

Mae arysgrif ar gefn un o luniau Marion o Glychau Dulas Tuswog (Muscari comosum) yn dweud,

"Known also as Tassel-Hyacinth. See Curtis's Botanical Magazine."

Cyfeirad yw hwn at William Curtis (1746-1799), a oedd yn dysgu yn y Chelsea Physic Garden yn Llundain. Curtis a ysgrifennodd un o flodeulyfrau darluniedig cyntaf Lloegr, Flora Londinensis (1775-87) sy'n cynnwys yr holl flodau gwyllt oedd yn tyfu o fewn cylch o ddeng milltir i Lundain.

Mae gwaith yr Amgueddfa yn cynnwys cynnal a gwarchod y lluniau bregus hyn. Cafodd y lluniau i gyd eu glanhau â dilwyr feinyl a'u cadw mewn amlenni polyester rhag iddynt gael eu rhwbio a rhag i asid gael ei drosglwyddo iddynt, cyn eu symud i flychau archifau a gynlluniwyd yn arbennig i gadw defnyddiau bregus. Lluniau dyfrlliw gwreiddiol ydynt i gyd, yn mesur tua 25cm wrth 18cm.

Un casgliad - 786,000 o gregyn - Catalogio a churadu Casgliad Cregyn Melvill-Tomlin

12 Mehefin 2007

James Cosmo Melvill.

James Cosmo Melvill.

John Read le Brockton Tomlin.

John Read le Brockton Tomlin.

Conus gloriamaris.

Un o sbesimenau pwysicaf Melvill, Conus gloriamaris.

Placostylus from Layard.
Placostylws

o Layard

Pan dderbyniodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gasgliad Melvill-Tomlin o folysgiaid ym 1955, dim ond un casgliad mwy o'i fath yn y byd oedd mewn dwylo preifat.

Cychwynnwyd y casgliad gan James Melvill ym 1853 a'i drosglwyddo i John Tomlin ym 1919. Roedd ynddo sbesimenau o bob rhan o'r byd ac roedd yn cynnwys bron hanner yr holl rywogaethau o folysgiaid y gwyddai dyn amdanynt.

Cafodd dros fil o rywogaethau a oedd yn newydd i fyd gwyddoniaeth eu disgrifio a'u henwi gan Melvill. Daliodd Tomlin ati i ychwanegu sbesimenau newydd o bedwar ban byd tan ddiwedd ei oes ym 1954.

Pan fu farw Tomlin ym 1954, derbyniodd yr Amgueddfa y casgliad cyfan ynghyd â'i lyfrgell a'i bapurau.

Lle i gadw'r casgliad

Cyrhaeddodd y casgliad mewn cabinetau mahogani ond erbyn heddiw fe'i cedwir mewn system raciau symudol, mewn trefn safonol, systematig sy'n hwylus ar gyfer ymchwilwyr tacsonomig sy'n gweithio arno.

Gwaith dogfennu araf a maith

Erbyn heddiw, caiff sbesimenau eu dogfennu trwy roi manylion mewn cronfa ddata gyfrifiadurol ond, yn y gorffennol, roedd y wybodaeth yn cael ei hysgrifennu â llaw mewn cofrestrau mawr. Rhwng 1978 a 1994, bu staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr yn dilysu a labelu sbesimenau'r casgliad ac yn eu rhoi yn eu lle.

Yna, roedd y wybodaeth am y casgliadau'n cael ei chyhoeddi i dacsonomegwyr ym mhob rhan o'r byd fel y gallent hwy wneud rhagor o waith astudio. Pe bai'r broses wedi parhau fel hyn, byddai wedi cymryd 30 mlynedd arall i ddogfennu'r casgliad yn llawn.

Cronfa ddata gyfrifiadurol yn cwblhau'r rhestr 'gyntaf'

Ym 1995, prynwyd cronfa ddata gyfrifiadurol oedd yn golygu y gallai llawer o bobl gofnodi data ar yr un pryd. Ers hynny, bu dros ugain o staff a gwirfoddolwyr yn cofnodi'r casgliad.

Mae'r gwaith o restru'r casgliad, a gychwynnwyd ym 1978, wedi'i gwblhau erbyn hyn a gellir ateb unrhyw ymholiadau mewn munudau yn hytrach na mewn dyddiau neu wythnosau.

Dros ddwy flynedd ar hugain, ychwanegwyd dros 786,000 o gregyn i'r gronfa ddata.

Newydd i wyddoniaeth

Yn y casgliad hwn, ceir miloedd o sbesimenau pwysig iawn a elwir yn 'deipiau'. Roedd y sbesimenau hyn yn ddarganfyddiadau gwyddonol newydd pan gawsant eu casglu ac, fel rheol, cawsant eu disgrifio, eu darlunio a'u henwi gan y casglwr.

Yn achos llawer o hen gasgliadau, dim ond gwaith ditectif gan guraduron amgueddfeydd a thacsonomegwyr ym mhedwar ban byd a all helpu i ddilysu'r wybodaeth hon. Mae rhestr eiddo electronig yn gwneud y dasg yn haws o lawer oherwydd gall cronfa ddata gyfan fod ar gael i dacsonomegwyr ble bynnag y maent.