Mae mis yn amser hir... Owain Rhys, 11 Gorffennaf 2007 Mae'r cofnod yma'n mynd i fod yn fyr. Roeddwn newydd orffen fersiwn estynedig o'r mis diwethaf, yn Gymraeg ac yn Saesneg - fe wasgais 'Arbed', ac mi ddiflannodd y cwbl. Felly dwi'n pwdu. Yn fras, dyma sut aeth y mis diwethaf: Mehefin 18 - Cyfarfod gyda'r Llyfrgell Genedlaethol. Fe drafodwyd casglu gwefannau, rhaglenni teledu a recordiau, ymysg pethau eraill (effemera, sut i gofnodi Youtube ayb). Diddorol iawn, a diolch o galon i bawb yn y Llyfrgell am y croeso. Mehefin 19 a 20 - Gweithdy Storïau Digidol gyda'r BBC yn Aberystwyth. Techneg defnyddiol ar gyfer cofnodi bywyd cyfoes. Ewch i'r wefan www.bbc.co.uk/wales/capturewales/ Mehefin 21 - Colli Cynhadledd Stori Ddigidol oherwydd salwch Mehefin 23 - Priodas Deuluol Mehefin 24 i Orffennaf 1 - Gwyliau yng Nghaernarfon Gorffennaf 6 a 7 - Cynhadledd Haness llafar yn Llundain. Eto, techneg sy'n ddefnyddiol dros ben ar gyfer cofnodi bywyd cyfoes. Gorffennaf 12 (fory) - Cwrdd gyda Gr?p Hanes Johnstown yn Wrecsam i drafod curadu'r Ddresel Gymunedol nesaf. Os hoffai rhywun wybod mwy am y rhain, yna cysylltwch â mi. Yn y blog gwreiddiol, llwyddais i sôn am Glyn Wise, Big Brother, amgueddfa rithiol yn Second Life, enw Cymraeg i Facebook (Gweplyfr) a nifer o bethau hynod ddiddorol tebyg. Ond dyna fo, dyna pa mor anwadal yw'r ether.
Diflaniad y bwthyn gwledig Cymreig 6 Gorffennaf 2007 Waliau mwd a thoeau gwellt Erbyn heddiw, ychydig iawn o'r bythynnod gwledig a godwyd cyn canol y deunawfed ganrif sydd ar ôl yng Nghymru. Y gred gyffredinol oedd na allai'r bobl dlawd fforddio defnyddiau a fyddai'n para. Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu'n wahanol. Mewn gwirionedd, roedd bythynnod yn cael eu codi mewn ffordd glyfar iawn, gan dalu sylw i'r manylyn lleiaf a defnyddio'r stwff lleol gorau. Aeth Amgueddfa Cymru ati i astudio bythynnod Cymreig ac adroddiadau o'r cyfnod, a daethom i'r casgliad mai'r hyn a arweiniodd at eu diflaniad oedd diffyg cynnal a chadw ac, yn bennaf oll, newidiadau yn y ffasiwn o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol. Adeiladau cynaliadwy Roedd hi'n costio'n ddrud i gludo defnyddiau ac felly byddai adeiladwyr slawer dydd yn hen lawiau ar ddefnyddio'u hamgylchedd lleol mewn ffordd gynaliadwy. Er enghraifft, defnyddient dom da i wrteithio'r caeau, i wneud lloriau clai, i helpu i rwymo waliau bythynnod ac i helpu i gadw simneiau a wnaed o blethwaith rhag mynd ar dân. Pridd a thywyrch Gan na allai pobl dlawd fforddio brics, roedd waliau bythynnod yn cael eu gwneud o gerrig, pridd neu goed. Roedden nhw'n defnyddio'r hyn oedd ar gael yn hwylus ac yn rhad. Yn iseldiroedd gorllewin Cymru — Ynys Môn, Pen Llŷn, Ceredigion a Sir Benfro er enghraifft — pridd oedd y defnydd hwnnw. Ychydig iawn o fythynnod pridd sydd ar ôl yng Nghymru heddiw; ceir llawer mwy mewn rhannau sychach o Loegr. Yn yr uwchdiroedd gwlyb, byddai'r bobl yn codi bythynnod â waliau tywyrch gan fod tywyrch yn para'n hirach o lawer na phridd. Tai to gwellt Yn y cyfnod cyn datblygiad chwareli llechi mawr y gogledd yn y 19eg ganrif a dyfodiad y rheilffyrdd, roedd tai to gwellt yn gyffredin iawn. Erbyn heddiw, mae llawer mwy o dai to gwellt i'w gweld yn Lloegr nag yng Nghymru. Roedd pedwar dull gwahanol o doi â gwellt yn gyffredin yng Nghymru. Dim ond un ohonynt sy'n dal hyd heddiw a hynny yn y dwyrain. Yng ngorllewin a gogledd Cymru, roedd yr haen uchaf yn cynnwys dyrneidiau o wellt wedi'u clymu a'u gwthio â theclyn fforchiog i haen isaf o wellt. Yn aml, byddai'r haen isaf yn cael ei gosod ar wely o blethwaith. Mewn ardaloedd agored, gellid defnyddio rhwydwaith o raffau wedi'u rhoi'n sownd wrth begiau ym mhen y wal neu wedi'u dal yn eu lle â cherrig trymion i ddal y to i lawr. Simneiau gwellt a phlethwaith O bridd neu laid y gwnaed lloriau bythynnod yn aml. Gellid defnyddio plethwaith neu raff wellt wedi'u gorchuddio â dwb i wneud y parwydydd. Yn aml, hefyd, roedd y corn simnai a'r lwfer uwch ei ben wedi'u gwneud o blethwaith a dwb. Does dim rhyfedd bod cynifer o'r bythynnod hyn yn llosgi i'r llawr. Er bod defnyddiau adeiladu'r bythynnod hyn yn rhai cynaliadwy, daethant i ddiwedd eu hoes oherwydd newidiadau cymdeithasol a ffasiynau newydd. Newid yn y ffasiwn Wrth i'r Chwyldro Diwydiannol fynd rhagddo ac i fwydydd gael eu mewnforio, roedd mwy a mwy o bobl yn gadael eu bythynnod yng nghefn gwlad i fyw yn y dref. Aeth mwy a mwy o fythynnod yn eiddo i'r stadau mawr ac fe ddechreuodd y rheini godi tai mwy o faint ar gyfer eu gweithwyr. Yn aml, roedd yn haws dymchwel y bythynnod gwreiddiol nag ychwanegu ail lawr atynt neu eu haddasu. Erbyn heddiw, ychydig iawn o'r bythynnod traddodiadol cynnar sydd ar ôl ac mae'r enghreifftiau gorau i gyd wedi'u rhestru fel rhai sydd o bwysigrwydd pensaernïol arbennig.
Llyfrgell Amgueddfa Cymru 6 Gorffennaf 2007 Sefydlwyd llyfrgell Amgueddfa Cymru flynyddoedd lawer cyn i brif adeilad yr Amguedda yng Nghaerdydd gael ei agor yn ffurfiol ym 1927. Y llyfrgell yn Amgueddfa Cymru Miss E.M. Breese, catalogydd o Brifysgol Cymru gerllaw, oedd y Llyfrgellydd cyntaf. Er mai ym 1913 y cyrhaeddodd Miss Breese, dechreuwyd derbynodi llyfrau ym 1909. Dechreuadau casgliad Yr eitem gyntaf i gael ei derbynodi oedd copi o lawlyfr John Ward o bethau o gaer Rufeinig Gelligaer (yn nes ymlaen, daeth John Ward, Curadur amgueddfa Caerdydd, yn Geidwad Archeoleg Amgueddfa Cymru). Ymhlith y llyfrau cyntaf a brynwyd ym 1909/10, roedd y Yearbook to learned and scientific societies, llyfr Esther Crawford, Cataloguing: suggestions for the small public library ac arweinlyfr i Dŷ'r Cyffredin. Ym mhrif Lyfrgell yr Amgueddfa, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ceir ystafell ganolog ag ynddi silffoedd a lle ar gyfer staff a darllenwyr a dwy adain o raciau symudol trwm o'r 1920au, sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw. Daw'r unig enghraifft arall y gwyddom amdani o raciau fel hyn, yn crogi o drawstiau haearn, o hen staciau llyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig. Yr Amgueddfa'n ehangu Wrth i'r Llyfrgell fynd yn rhy fawr i'r lleoliad gwreiddiol, cafodd llyfrgelloedd adrannol eu creu. Yn ogystal â'r llyfrgelloedd a geir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ceir casgliad sylweddol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Erbyn hyn, mae'r llyfrgell sy'n ymdrin â hanes diwydiant ac archeoleg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym Abertawe a cheir casgliadau bychain yn Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Caiff y tair llyfrgell eu gweinyddu o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Casgliadau pwysig ac arwyddocaol Mae'r Llyfrgell wedi cael nifer o roddion pwysig. Y rhodd bwysicaf oedd llyfrgell Tomlin o lyfrau o'r 17eg ganrif ymlaen ar Folysgiaid. Mae'n cynnwys sawl cyfrol o'r ysgythriadau astudiaethau natur gorau erioed a liwiwyd â llaw. Ym 1953, cyrhaeddodd casgliad Willoughby Gardner, gyda nifer o lyfrau argraffedig cynnar ar y gwyddorau naturiol, yn cynnwys llysieulyfr a'r unig ddau incwnabwlwm (llyfrau a gyhoeddwyd cyn 1501) — sef dau argraffiad o ysgrifau Pliny ar astudiaethau natur o 1481 a 1487. Yn ogystal â staff yr Amgueddfa, mae llawer o fyfyrwyr yn defnyddio'r Brif Lyfrgell ac mae'r cyhoedd yn gallu trefnu ymlaen llaw i'w ddefnyddio. Casgliadau arbennig Yn ogystal â llyfrau am waith cyffredinol amgueddfeydd a chadwraeth, ceir nifer o gasgliadau arbennig yn y Brif Lyfrgell yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Er enghraifft, ceir yno gasgliad da o lyfrau am dopograffeg Cymru — llyfrau taith o'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg yn bennaf, a rhai llawysgrifau. Ar fenthyg i'r llyfrgell, mae set o gopïau Gwendoline Davies ei hunan o lyfrau yr hen Wasg Gregynog mewn rhwymiadau arbennig. Bu'r Llyfrgell yn prynu enghreifftiau o lyfrau o weisg preifat eraill o'r un cyfnod â rhai yr hen Wasg Gregynog, yn ogystal â gweisg preifat modern yng Nghymru fel Old Stile Press a Red Hen Press. Mae'r Llyfrgell dal yn casglu heddiw.
Dirgelwch ffosil a ganfuwyd yn Oes Fictoria 5 Gorffennaf 2007 Yr ichthyosor cyn gwneud y gwaith arno (1750mm x 720 mm x 70 mm) Yr ichthyosor ar ôl gwneud gwaith cadwraeth arno yn dangos bod y pen a'r corff yn dod o ddau anifail, a'r esgyll mewn plastr Cafodd y stori lawer o sylw gan y wasg Wrth wneud gwaith gwarchod arferol ar gasgliadau ffosilau Adran Ddaeareg Amgueddfa Cymru, penderfynwyd bod angen ychydig bach o waith adfer ar un o'r sbesimenau. Ond trodd y dasg fach yn brosiect cadwraeth mawr a gafodd sylw gan y cyfryngau ym Mhrydain a thramor. Yr ichthyosor Ichthyosor yw'r sbesimen dan sylw. Ymlusgiad morol a drigai yn y Cyfnod Mesosöig, 65-200,000,000 o flynyddoedd yn ôl — yr un pryd â'r deinosoriaid — oedd hwn. Mae ichthyosoriaid yn debyg i ddolffiniaid — mae ganddynt lygaid mawr, genau hir, dannedd miniog ac esgyll. Rhoddwyd y sbesimen hwn i hen Amgueddfa Caerdydd yn y 1880au ac yna daeth yn rhan o gasgliadau'r Amgueddfa Genedlaethol. I ddechrau, gosodwyd ef mewn plastr y tu mewn i ffrâm bren ac yna paentiwyd y plastr a'r sbesimen. Cafodd y sbesimen ei adfer sawl gwaith yn yr 20fed ganrif, yn cynnwys rhoi plastr newydd ac ailbaentio. Roedd label yn nodi enw'r rhywogaeth sef Ichthyosaurus intermedius, a gasglwyd o Wlad yr Haf, ac roedd yn cynnwys y disgrifiad hwn o'r sgerbwd: 'the greater part of a small individual preserved with but little disturbance of the bones'. Gwelwyd yn ddiweddarach nad oedd hyn yn hollol gywir. Archwiliwyd y sbesimen yn fanwl a gwelwyd ei fod wedi'i ddifrodi'n ddrwg, â chraciau trwyddo. Roedd y plastr a'r ffrâm bren mewn cyflwr gwael ac felly penderfynwyd tynnu'r plastr a'r paent er mwyn mynd yn ôl at y sgerbwd a'r graig wreiddiol. Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn oherwydd roeddem yn gwybod y byddai'r sbesimen yn edrych yn hollol wahanol wedyn. Datgelu'r sbesimen Ar ôl tynnu'r paent, gwelwyd bod pennau coll yr asennau wedi'u mowldio mewn plastr ac yna'u paentio fel gweddill y sbesimen, gan roi'r argraff gamarweiniol bod yno esgyrn. Wrth astudio lluniau pelydr-X o'r sbesimen, gwelwyd anghysondeb mewn un rhan o feingefn y ffosil; roedd cysgod tywyll o gwmpas yr esgyrn. Pan dynnwyd y paent o'r rhan hon, daeth yn amlwg bod sianel wedi'i cherfio yn y graig a bod esgyrn rhydd unigol wedi'u gosod ynddi â phlastr. O dan y paent, gwelwyd bod esgyrn yr un asgell flaen a oedd wedi'i chadw wedi'u gosod mewn plastr hefyd. Mae'r tyllau a welir yn y graig o'i gwmpas yn awgrymu o ble y cymerwyd yr esgyrn cyn eu symud, ond mae'n bosib bod rhai esgyrn wedi'u cymryd o sbesimenau eraill. Cafwyd y syndod mwyaf pan dynnwyd y paent o'r rhan o gwmpas yr ên; roedd o liw a math hollol wahanol i weddill y sgerbwd. Yn ogystal â bod y sbesimen yn cynnwys o leiaf ddau greadur, dangosodd gwaith astudio pellach bod y pen a'r corff yn dod o ddwy rywogaeth hollol wahanol o ichthyosor! Roedd cadwraethwyr Oes Fictoria wedi gwneud cryn dipyn o waith newid ar y sbesimen hwn. Ail arddangos y ffosil ar ôl gwneud gwaith cadwraeth arno Er bod y sbesimen yn cynnwys dwy rywogaeth wahanol, penderfynwyd cadw'r pen a'r corff gyda'i gilydd yn unol â'r bwriad gwreiddiol. Gadawyd y plastr o gwmpas yr asgell a rhan o'r asennau a wnaed o blastr fel yr oeddent hefyd. Adeiladwyd system gynnal newydd ysgafn. Yn hytrach na'i arddangos fel dim ond sbesimen mewn amgueddfa, bydd yr ichthyosor hwn yn cael ei ddefnyddio i dynnu sylw at y technegau a ddefnyddiwyd gan rai pobl yn Oes Fictoria i 'adfer', arddangos a chyflwyno sbesimenau o ffosilau a sut y bu i waith gwarchod manwl heddiw ddatgelu'r gwir y tu ôl i'r sbesimen. Dechreuodd y cyfryngau ymddiddori yn y mater pan gyhoeddodd yr Amgueddfa sgwrs gyhoeddus ar waith gwarchod y sbesimen. O ganlyniad i hyn, cafodd y stori sylw yn y wasg ym Mhrydain a thramor ac ar y teledu, y radio a'r rhyngrwyd, yn cynnwys cyfweliad byw ar ABC Radio yn Awstralia!