John Piper: Taith drwy Eryri Melissa Munro, 27 Ebrill 2012 John PiperJagged rocks under Tryfan Copyright John Piper Estate John PiperRock formations Copyright John Piper Estate Rhwng 1943 a 1950 aeth John Piper ar siwrnai artistig ddwys drwy fynyddoedd gogledd Cymru, gan gyfleu angerdd a gweledigaeth nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen. Mae afiaith a disgleirdeb yn y donyddiaeth a'r arlliwiau a drama pur ym mhob un o'r gweithiau. John Piper yw un o ffigyrau blaenllaw celf yr ugeinfed ganrif yng ngwledydd Prydain. Mae ei waith yn cynnwys portreadau, tirluniau, astudiaethau pensaernïol, bywyd llonydd, cerameg a chynlluniau ar gyfer tapestri a gwydr lliw. Aeth diddordeb Piper mewn tirluniau a phensaernïaeth ag ef i bob cwr o Brydain ond cafodd ei gysylltiad arwyddocaol cyntaf â gogledd Cymru tra'n gweithio fel artist rhyfel swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Chwarel Manod Mawr: storfa trysorau'r genedl yn ystod y Blitz Ym 1943, derbyniodd Piper gomisiwn gan y Pwyllgor Cynghori Artistiaid Rhyfel i gofnodi crombil chwarel Manod Mawr. Roedd ar y pryd yn storfa i gasgliadau Oriel Genedlaethol Llundain a'r Casgliadau Brenhinol i'w gwarchod rhag dinistr bomio'r Blitz. Roedd hi'n amhosibl tynnu lluniau na pheintio yng nghrombil yr ogof dywyll a rhoddwyd y gorau i'r comisiwn yn fuan wedyn. Er hynny, bachodd Piper ar y cyfle i grwydro'r Gogledd ymhellach. Bu hyn yn sbardun i gyfnod dwys o gofnodi mynyddoedd Cymru. Ysbrydoliaeth Turner a Wilson Gan ddefnyddio copi o lyfr A.C. Ramsay Old Glaciers of Switzerland and North Wales (1860) fel canllaw, teithiodd Piper drwy'r ardal yn cofnodi'r mynyddoedd. Drwy gydol ei gyfnod yng ngogledd Cymru, byddai'n aml yn defnyddio cyfeirlyfrau neu lyfrau daearegol o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Edmygai'r darluniau wedi'u hengrafu ynddynt, ac roeddent hefyd yn linyn cyswllt rhyngddo â'i hoff artistiaid o'r cyfnod, Richard Wilson (1714-1782) a J.M.W. Turner (1775-1851). Nid yn Eryri na'r Gogledd y dechreuodd teithiau peintio Piper i Gymru fodd bynnag, ond yn Sir Benfro a Sir Geredigion ym 1936. Y Flwyddyn ganlynol cynhyrchodd Pum Capel, 1937, cyfrwng cymysg ar bapur (casgliad AC-NMW). Pensaernïaeth eglwysi o orllewin Cymru Portreadir pum capel: Emmaus, Llanon, Rhos-goch, Rhydygwyn a Tyrhos. Cynhyrchwyd y pum collage yma drwy ddarlunio ar bapur wedi'i dorri a'i rwygo cyn ei ailadeiladu. Mae'n dangos ei ddiddordeb cynnar mewn pensaernïaeth eglwysi yn enwedig pensaernïaeth syml ond neo-glasurol capeli annibynnol Cymru. Piper yng ngogledd Cymru Yn ystod comisiwn aflwyddiannus Manod Mawr, dechreuodd Piper archwilio gogledd Cymru a darganfod lleoliadau fel Cader Idris a baentiwyd gan Wilson a Turner. Daeth y daith hon ag ef yn agos hefyd at Aran Fawddwy, testun ei waith olew trawiadol, Tarddle'r Ddyfi, 1943-44. Mae teitl y paentiad hwn yn cyfeirio at Greiglyn Dyfi, y llyn yn y blaendir a tharddle Afon Dyfi. Peintiodd Turner olygfa ychydig yn wahanol o Aran Fawddwy mewn llun dyfrlliw yn dwyn y teitl A bridge over the Dyfi near Dinas Mawddwy, with Aran Fawddwy beyond (casgliad yr Amgueddfa Brydeinig). Mae'r arddull haniaethol bron, y naws dywyll fygythiol a'r arlliwiau aur, melyn, glas a choch llachar yn y gwaith hwn yn debyg iawn i arddull Turner. Taenwyd haen o geso ar y gynfas a pheintio drosto ag olew. Mae hyn yn rhoi gwead garw iawn i'r gwaith, sy'n ein hatgoffa o erwinder y creigiau a'r tywydd. Ym 1945 dyma Piper a'i deulu yn llogi bwthyn o'r enw Pentre ac mae golygfa o'r tŷ o'r ffordd i'w weld mewn paentiad yn dwyn yr enw Nant Ffrancon Farm, 1950. Tŷ yng nghwm Nant Ffrancon ydyw, gyda bryn serth yn codi y tu ôl iddo a bu'r Pipers yn ei logi am £35 y flwyddyn. Dim ond llwybr mwdlyd oedd yn arwain at y tŷ bryd hynny, yn hytrach na'r ffordd goncrid a welir heddiw, a byddai bron yn amhosibl ei gyrraedd mewn tywydd gaeafol garw. Yn goron ar y cyfan, gan fod y tŷ wrth droed rhiw serth byddai glaw trwm yn achosi llifogydd. I felt then that I was seeing the mountains for the first time and seeing them as nobody had seen them before. John Piper quoted in Richard Ingrams and John Piper, Piper's Places, London, 1986 John PiperThe Rise of the Dovey Copyright John Piper Estate Stormydd a gaeafau Eryri Bu trafferthion a chaledi byw yno, hyd yn oed am gyfnodau byr, yn sbardun i'r teulu Piper symud i dy rhent arall o'r enw Bodesi tua 1947. Mae Bodesi wedi'i leoli ar draws y ffordd i Tryfan yn wynebu'r mynydd a Llyn Ogwen. Hwn oedd hafod, neu dŷ haf y perchennog, felly gallai'r teulu Piper ei ddefnyddio weddill y flwyddyn. Dyma pam fod y rhan fwyaf o baentiadau Piper o Eryri yn stormus a gaeafol. Roedd Bodesi yn leoliad da a cynhyrchwyd llu o baentiadau a darluniau o Tryfan. Mae Creigiau Garw dan fynydd Tryfan, 1949-50, yn esiampl wych o fanylder Piper yn dewis ffurfiau creigiau penodol ar Tryfan ac yn y cyffiniau. Tryfan Bach a welir yma, sydd wrth droed y mynydd ac i'r gorllewin ac mae ei ffurf ddanheddog yn debyg i'r Tryfan mwy. Mwy na thebyg taw patrymau wedi'u gadael ar y cerrig gan gen sydd wedi hen ddiflannu yw'r ffurfiau cylchog gwyn mewn gouache. Gwelir fflachiadau coch a melyn yn y blaendir ar waelod y paentiad. Weithiau maent yn pwysleisio ffurfiau'r creigiau ac weithiau yn dynodi'r cen 'melyn crôm ac oren crôm' fel y disgrifiodd Piper hwy yn ei nodiadau. Bu dylanwad y llyfrau canllaw o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sbardun i Piper ysgrifennu ei ganllaw ei hun i'r ardal, ond yn anffodus wnaeth y syniad fyth adael ei lyfr nodiadau, a gellir ei weld bellach yn archifau Tate Britain. Er na lwyddodd Piper i wireddu'i freuddwyd o gyhoeddi canllaw i Eryri, mae'n deg dweud iddo adael canllaw hudolus i ni yn ei baentiadau a'i ddarluniau. Caiff y gyfres hon ei hystyried ymysg goreuon ei holl waith. Yn y 1960au prynodd y teulu Piper dŷ o'r enw Garn Fawr yn Sir Benfro, ac mae ei waith Cymreig wedi hynny yn canolbwyntio ar Sir Benfro a de Cymru. Ni chafodd gyfnod mor ddwys o weithio yng ngogledd Cymru wedi hyn. Cysylltiadau Tate Britain Barc Cenedlaethol Eryri
Casgliad mwynau chwedlonol y Fonesig Henrietta Antonia, Iarlles Powis Tom Cotterell, 31 Ionawr 2012 Catalogue of Metallic Minerals in the Possession of the Countess of Powis Cyfrol II, 1817: Catalogau gwreiddiol y casgliad. Tudalen gatalog o Gyfrol 1. Earthy Minerals. Olifin ar gwarts o Gernyw, rhodd i Henrietta gan Iarlles Aylesford. Sbesimen 9 cm o hyd. NMW 29.311.GR.80. Yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y cafodd un o gasgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf yn Amgueddfa Cymru ei adeiladu. Y Fonesig Henrietta Antonia Clive (1758-1830), Iarlles Powis oedd y gasglwraig, a cafodd ei roi i'r Amgueddfa gan 4ydd Iarll Powis ym 1929. Mae'n un o'r casgliadau mwynau cyntaf sy'n gysylltiedig â Chymru. Y Fonesig Henrietta, Iarlles Powis Ganwyd y Fonesig Henrietta i deulu Herbert, teulu uchel ei barch â thiroedd helaeth oedd yn disgyn o Iarll Penfro yn y bymthegfed ganrif. Henry Arthur Herbert (c.1703-1772), Iarll 1af Powis oedd ei thad, oedd yn berchen ar ystadau mawr yn Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag eiddo yn Llundain. Ganwyd Henrietta yn eu prif gartref, Parc Oakley, yn Bromfield ger Llwydlo, ond wedi i hwnnw gael ei werthu i Robert, Arglwydd Clive (Clive o India) ym 1771, treuliodd ei harddegau yn y cartref teuluol, Castell Powis. Clive o India Ym 1784, priododd Henrietta Edward, mab hynaf y diweddar Arglwydd Clive, priodas oedd o fudd i'r ddau deulu — roedd y teulu Herbert wedi mynd i ddyled drom, ond roedd eu henw yn dal yn uchel ei barch, tra bod teulu Clive wedi casglu cyfoeth aruthrol drwy ymgyrchoedd milwrol Robert, Arglwydd Clive yn India. Aeth Henrietta ac Edward i fyw yn Neuadd Walcot ger Trefesgob lle ganwyd pedwar o blant iddynt, Edward, Henrietta Antonia, Charlotte Florentia a Robert Henry. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, gwnaed Edward Clive yn Lywodraethwr Madras ac yn ystod ei hamser yn yr India, dechreuodd Henrietta gasgliad o gerrig a mwynau. Yn ddiweddarach bu'n prynu ac yn cyfnewid mwynau â chasglwyr blaenllaw'r cyfnod gan gynnwys James Sowerby, Dr John MacCulloch ac Iarlles Aylesford. Cofnododd sawl sbesimen a roddwyd iddi gan ei phlant hefyd. Mwynau'r Ddaear a Mwynau Metelig Mae casgliad Henrietta yn nodweddiadol o steil casgliadau o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda'r mwynau wedi'u trefnu'n systematig yn ôl eu nodweddion cemegol. Rhannodd Henrietta ei chasgliad yn ddwy gyfrol wedi'u hysgrifennu â llaw: Cyfrol 1 — Earthy Minerals a Chyfrol 2 — Metallic Minerals. Defnyddiodd system rifo i gofnodi pob sbesimen gan lynu label bychain i bob un. Er bod nifer o'r labeli yma wedi hen ddiflannu, mae manylder ei chatalog wedi ein galluogi ailadnabod sbesimenau sydd wedi colli eu rhifau gwreiddiol. Roedd dros fil o sbesimenau yng nghasgliad Henrietta, ac mae cannoedd o samplau wedi cael eu hadnabod yng nghasgliad yr Amgueddfa. Er bod nifer o sbesimenau ar goll, mae'n hynod pa mor gyflawn yw'r casgliad, ag ystyried ei oedran. Heddiw, caiff ei ystyried yn un o'r casgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf yn Amgueddfa Cymru.
William Goscombe John (1860-1952) Oliver Fairclough, 10 Rhagfyr 2011 Morpheus William Goscombe John (1860 - 1952) Icarus Sir Alfred Gilbert (1854 - 1934) Roedd Cymru yn yr oes Edwardaidd yn gyforiog o gyfoeth y diwydiannau glo, haearn a dur, ac yn llawn cyfleon i gerflunydd. Mae cofebion cyhoeddus William Goscombe John i'w gweld ledled Cymru ond yn enwedig yn ei dref enedigol, Caerdydd. Ef hefyd a ddyluniodd medalau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol, sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw. Torri cwys Ganwyd William John yng Nghaerdydd ym Mawrth 1860. Mabwysiadodd yr enw Goscombe o bentref yn Swydd Gaerloyw ger hen gartref ei fam. Roedd ei dad, Thomas John, yn gerfiwr coed yn y gweithdai a sefydlodd yr Arglwydd Bute i ailwampio Castell Caerdydd. Ymunodd William â'i dad pan yn 14, gan astudio yn Ysgol Gelf Caerdydd ar yr un pryd. Ym 1881 symudodd i Lundain fel disgybl gynorthwy-ydd i Thomas Nicholls, y cerflunydd oedd yn gyfrifol am Wal Anifeiliaid y Castell. Parhaodd â'i astudiaethau yn Ysgol Gelf Kensington, ac yn Ysgolion yr Academi Frenhinol o 1884, lle y dysgodd fodelu naturiaethol mewn clai yn y dull Ffrengig, dull a gyflwynwyd i Lundain yn y 1870au gan Jules Dalou. Roedd yn fyfyriwr athrylithgar, ac fe deithiodd ymhell. Treuliodd flwyddyn ym Mharis, yn cynnwys cyfnod yn stiwdio Rodin. Ym 1890 dychwelodd i Lundain ac ymsefydlu yn St John's Wood. Mae ei gerflun Morpheus, a ddangoswyd yn Salon Paris ym 1892, yn dangos yn amlwg ddylanwad Rodin. Y 'Gerflunwaith Newydd' Nod cerflunwyr yng nghenhedlaeth John oedd ceisio creu cerfluniau mwy dynamig drwy bortreadu'r corff dynol mewn modd hynod naturiaethol. Dyma benllanw traddodiad cerfluniol oedd â'i wreiddiau yng nghyfnod y Dadeni, a dyma Rodin a'i gymdeithion yn aildanio'r traddodiad yn Ffrainc yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dilynwyd llwyddiant Morpheus gan gerflun o Ioan Fedyddiwr ar gyfer yr Arglwydd Bute, a grŵp o noethluniau maint llawn yn cynnwys Bachgen yn Chwarae a Coblyn. Mae'r rhain yn dangos ei feistrolaeth wrth lunio'r ffurf ddynol. Erbyn diwedd y 1890au roedd Goscombe John wedi gwneud enw i'w hun, ac wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Daeth sawl comisiwn cyhoeddus mawr i'w law ac roedd yn brysur iawn yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cymru a'r Ymerodraeth Er ei fod yn byw yn Llundain, roedd John yn ystyried ei hun yn gerflunydd cenedlaethol Cymru. Ym 1916 cyfrannodd ganolbwynt marmor Bendith Dewi Sant i'r Bobl i grŵp o ddeg ffigwr a wnaed ar gyfer Neuadd y Ddinas Caerdydd. Derbyniodd sawl comisiwn hefyd gan Gymry blaenllaw'r oes. Adeiladodd John ei yrfa drwy ffyddlondeb i noddwyr lleol, ond derbyniai waith o bob cwr o'r Ymerodraeth, megis Beddrod y Prif Weinidog Ceidwadol, yr Arglwydd Salisbury, yn Abaty Westminster, a'i gerflun marchogol o'r Brenin Edward VII yn Capetown. Ei gerflun cyhoeddus mawr cyntaf oedd cofeb Catrawd y Brenin (1905) yng nghanol Lerpwl; gwaith oedd yn ymgorffori milwyr o hanes y gatrawd, yn cynnwys y Drymiwr Bach anferth, ei waith enwocaf. Cyfunwyd y Cymreig a'r Ymerodrol mewn comisiwn ar gyfer regalia arwisgo'r Tywysog Edward (Edward VIII yn ddiweddarach) yng Nghastell Caernarfon ym 1911. Dyluniodd John goron, modrwy, teyrnwialen a chleddyf oedd yn ymgorffori eiconau 'Cymreig' o ddreigiau, cennin Pedr a chlymau Celtaidd. Doedd gan John fawr i'w ddweud am gerflunwaith modern a elwai yn gerflunwaith 'Ynys y Pasg', gyda'i bwyslais ar gerfio'n uniongyrchol i'r garreg. Roedd tuedd beirniadol yn datblygu hebddo erbyn 1914, ond daeth trasiedi'r Rhyfel Byd Cyntaf â sawl comisiwn newydd am gofebion, nifer ohonynt yng Nghymru. Goscombe John a'r Amgueddfa Genedlaethol Roedd Goscombe John yn un o sylfaenwyr Amgueddfa Cymru a bu'n aelod o'r Cyngor am dros deugain mlynedd gan chwarae rôl flaenllaw wrth bennu tuedd y casgliad celf i'r dyfodol. Yn ogystal â chasgliad cynhwysfawr o'i weithiau ei hun, mae ei roddion i'r Amgueddfa yn cynnwys gwaith nifer o'i gyfoedion yn y mudiad Cerflunwaith Newydd, yn cynnwys Icarus, gan Alfred Gilbert a gweithiau gan nifer o artistiaid a edmygai.
William James Tatem, Barwn 1af Glanely, 1868-1942 David Jenkins, 30 Tachwedd 2011 William James Tatem, Barwn 1af Glanely o Sain Ffagan. Mae'n debyg taw fel perchennog ceffylau rasio nodedig y cofiwn ni am Arglwydd Glanely heddiw, gyda'i geffylau yn ennill pob un o'r pum Clasur Prydeinig. Yn y diwydiant llongau y gwnaeth ei ffortiwn fodd bynnag, ac roedd yn hael yn ei gefnogaeth o achosion da yn ne Cymru, yn enwedig Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Nid Cymro oedd Tatem o gwbl; cafodd ei eni yn Appledore yng ngogledd Dyfnaint ym 1868, ac wedi marwolaeth ei dad yn ifanc, symudodd ei fam y teulu i Gaerdydd pan oedd Tatem yn ddeunaw. Ymunodd â chwmni llongau Anning Brothers fel clerc gan ddod i ddeall y busnes llongau yn drylwyr. Defnyddiodd y wybodaeth hon i fentro i'r busnes ar ei liwt ei hun ym 1897, ac roedd meistr un o'i longau hefyd yn frodor o Appledore, William Reardon Smith. Fflyd fawr Erbyn 1914 roedd Tatem wedi adeiladu fflyd sylweddol o un llong ar bymtheg. Cafodd ei urddo'n fachog ym 1916 ac ym 1918 cafodd ei ddyrchafu'n un o arglwyddi'r deyrnas gan ddwyn y teitl, Barwn Glanely o Sain Ffagan. Roedd yn berchennog llongau craff a werthodd ei fflyd am grocbris ym 1919 pan oedd ffyniant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth, cyn dychwelyd i'r busnes gyda chwe llong newydd am fargen ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Diolch i hyn, bu blynyddoedd y dirwasgiad yn llawer haws iddo na'i gyfoedion. Exning, plasty'r Arglwydd Glanely yn Newmarket Yr Arglwydd Glanely yn arwain Singapore, wedi ennill ras St Leger 1930; Gordon Richards oedd y joci 'Sporting Bill' Datblygodd ei ddiddordeb mewn rasio ceffylau ymhellach wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1919-20 prynodd dŷ gwych Exning yn Newmarket, a stablau cyfagos Lagrange. Daeth ei fuddugoliaeth fawr gyntaf yn Royal Ascot ym 1919 pan enillodd Grand Parade y Derby. Roedd y fuddugoliaeth hon yn ddadleuol ar y pryd, gan taw ef oedd yn berchen y ffefryn yn yr un ras, Dominion. Roedd Dominion ymhell ar ei hol hi pan basiodd Grand Parade y postyn yn gyntaf am bris o 33/1 — gyda arian Glanely i gyd ar hwnnw! Roedd yn ffigwr adnabyddus yn y rasys mawr i gyd a byddai pawb yn ei adnabod fel "sporting Bill". Dyngarwch ac achosion da Roedd yn hael ei gefnogaeth ariannol i Amgueddfa Cymru, ac enwyd Oriel Glanely yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ei ôl. Bu'n llywydd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ddwywaith, ym 1920-25 a 1934-42, ac ariannodd y gwaith o adeiladu labordai gwyddonol newydd. Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen defnyddiodd ddwy o'i longau ei hun i gludo nifer fawr o ffoaduriaid o Wlad y Basg i dde Cymru, a sefydlodd elusen i'w cynorthwyo yn ddiweddarach. Er iddo lwyddo mewn sawl maes, profodd sawl tristwch yn ei fywyd personol. Bu farw ei unig fab, Shandon yn chwe mlwydd oed ym 1905, a bu farw'r Arglwyddes o'i hanafiadau yn dilyn damwain car ym 1930. Cafodd yntau ei ladd mewn cyrch awyr ar Weston-Super-Mare ar 24 Mehefin 1942.