Un casgliad - 786,000 o gregyn - Catalogio a churadu Casgliad Cregyn Melvill-Tomlin 12 Mehefin 2007 James Cosmo Melvill. John Read le Brockton Tomlin. Un o sbesimenau pwysicaf Melvill, Conus gloriamaris. Placostylws o Layard Pan dderbyniodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gasgliad Melvill-Tomlin o folysgiaid ym 1955, dim ond un casgliad mwy o'i fath yn y byd oedd mewn dwylo preifat. Cychwynnwyd y casgliad gan James Melvill ym 1853 a'i drosglwyddo i John Tomlin ym 1919. Roedd ynddo sbesimenau o bob rhan o'r byd ac roedd yn cynnwys bron hanner yr holl rywogaethau o folysgiaid y gwyddai dyn amdanynt. Cafodd dros fil o rywogaethau a oedd yn newydd i fyd gwyddoniaeth eu disgrifio a'u henwi gan Melvill. Daliodd Tomlin ati i ychwanegu sbesimenau newydd o bedwar ban byd tan ddiwedd ei oes ym 1954. Pan fu farw Tomlin ym 1954, derbyniodd yr Amgueddfa y casgliad cyfan ynghyd â'i lyfrgell a'i bapurau. Lle i gadw'r casgliad Cyrhaeddodd y casgliad mewn cabinetau mahogani ond erbyn heddiw fe'i cedwir mewn system raciau symudol, mewn trefn safonol, systematig sy'n hwylus ar gyfer ymchwilwyr tacsonomig sy'n gweithio arno. Gwaith dogfennu araf a maith Erbyn heddiw, caiff sbesimenau eu dogfennu trwy roi manylion mewn cronfa ddata gyfrifiadurol ond, yn y gorffennol, roedd y wybodaeth yn cael ei hysgrifennu â llaw mewn cofrestrau mawr. Rhwng 1978 a 1994, bu staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr yn dilysu a labelu sbesimenau'r casgliad ac yn eu rhoi yn eu lle. Yna, roedd y wybodaeth am y casgliadau'n cael ei chyhoeddi i dacsonomegwyr ym mhob rhan o'r byd fel y gallent hwy wneud rhagor o waith astudio. Pe bai'r broses wedi parhau fel hyn, byddai wedi cymryd 30 mlynedd arall i ddogfennu'r casgliad yn llawn. Cronfa ddata gyfrifiadurol yn cwblhau'r rhestr 'gyntaf' Ym 1995, prynwyd cronfa ddata gyfrifiadurol oedd yn golygu y gallai llawer o bobl gofnodi data ar yr un pryd. Ers hynny, bu dros ugain o staff a gwirfoddolwyr yn cofnodi'r casgliad. Mae'r gwaith o restru'r casgliad, a gychwynnwyd ym 1978, wedi'i gwblhau erbyn hyn a gellir ateb unrhyw ymholiadau mewn munudau yn hytrach na mewn dyddiau neu wythnosau. Dros ddwy flynedd ar hugain, ychwanegwyd dros 786,000 o gregyn i'r gronfa ddata. Newydd i wyddoniaeth Yn y casgliad hwn, ceir miloedd o sbesimenau pwysig iawn a elwir yn 'deipiau'. Roedd y sbesimenau hyn yn ddarganfyddiadau gwyddonol newydd pan gawsant eu casglu ac, fel rheol, cawsant eu disgrifio, eu darlunio a'u henwi gan y casglwr. Yn achos llawer o hen gasgliadau, dim ond gwaith ditectif gan guraduron amgueddfeydd a thacsonomegwyr ym mhedwar ban byd a all helpu i ddilysu'r wybodaeth hon. Mae rhestr eiddo electronig yn gwneud y dasg yn haws o lawer oherwydd gall cronfa ddata gyfan fod ar gael i dacsonomegwyr ble bynnag y maent.
Peli Camffor ac Arsenig, Llau Llyfrau a Phryfed Arian - Peryglon Llysieufa'r Amgueddfa 12 Mehefin 2007 Sbesimen wedi'i ddifrodi gan chwilen bisgedi Gwneud profion i ganfod lefelau anwedd arian byw yng nghypyrddau'r llysieufa Enghraifft o afliwio a achoswyd gan blaleiddiaid. Dangosodd gwaith ymchwil bod y sbesimen hwn wedi'i drin ag arsenig, arian byw a bariwm — sy'n niweidiol i'r sbesimen ac i iechyd Mae dros 250,000 o sbesimenau o blanhigion wedi'u sychu o bedwar ban byd yn Amgueddfa Cymru, rhai ohonynt yn dyddio 'nôl i'r 18fed ganrif. Gall plaleiddiaid tocsig a ddefnyddiwyd ar y sbesimenau hyn dros y blynyddoedd wneud drwg iddynt a pheryglu iechyd y rhai sy'n gweithio arnynt. Rhoddir plaleiddiaid ar y sbesimenau i wrthsefyll plâu fel llau llyfrau, chwilod bisgedi a phryfed arian. Mae plâu wedi bod yn fygythiad i sbesimenau o fyd natur erioed a gallant gael effaith ddinistriol ar gasgliad botanegol gan ddifa manylion pwysig neu hyd yn oed sbesimenau cyfan. Erbyn hyn, gwyddom fod rhai mathau o blaleiddiaid a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn niweidiol ac yn wenwynig. Gallai pobl sy'n trafod y casgliadau beryglu eu hiechyd, yn enwedig gan na wyddom faint o gemegau a pha fath o gemegau a ddefnyddid yn y plaleiddiaid. Cafodd samplau bychan o ddalenni o lysieufa'r Amgueddfa eu dadansoddi i weld pa gemegau oedd mewn un sampl. Er enghrafft, pe bai arian byw ac arsenig wedi'u defnyddio ar ddalen yn y llysieufa, byddai un prawf yn canfod y ddau fetal. Gwelwyd mai'r cemegau a ddefnyddid amlaf oedd carbon deusylffid, clorid mercwrig, methyl bromid, naphthalin, paradiclorobensen a pyrethroidau. Arian Byw Canfuwyd llawer o arian byw yn y samplau papur a chymerwyd camau ar unwaith i ddiogelu pobl oedd yn trafod sbesimenau. Gall arian byw gael ei gymryd i'r corff trwy ei anadlu, ei amsugno a'i lyncu a gall ei effeithiau amharu ar ffrwythlondeb, gall achosi mwtadu genynnol, cryndod, nam ar y golwg, newidiadau difrifol i'r bersonoliaeth a hyd yn oed ddifrod i'r ymennydd. Mesurwyd faint o anwedd arian byw oedd yn y llysieufa ac roedd y darlleniadau ym mhob safle lle cymerwyd darlleniadau ymhell islaw y safon iechyd a diogelwch a argymhellir. Rhoddwyd offer monitro ar ddillad unigolion. Peli Camffor ac Arsenig Er ei bod yn anodd mesur arsenig yn fanwl, canfuwyd peth ohono ar y rhan fwyaf o'r sbesimenau y cynhaliwyd profion arnynt. Canfuwyd naphthalin ar yr holl samplau, yn ôl y disgwyl. Defnyddiwyd peli camffor, a wnaed o naphthalin, yng nghypyrddau'r llysieufa tan y 1980au. Llwyddodd y prosiect i ganfod y cemegau a'r metalau peryglus a oedd yn olion y plaleiddiaid a bwriedir parhau i fonitro ansawdd yr aer a'r staff fel y gellir parhau i weithio yn y llysieufa heb berygl. Ar ôl gwneud y profion, lluniwyd cronfa ddata yn nodi'r sbesimenau, y plaleiddiaid, y llygryddion a'r peryglon i iechyd ac i'r sbesimenau. Defnyddiwyd y gronfa hon i helpu i ganfod peryglon yn llysieufeydd sefydliadau botanegol eraill.
Coedwigoedd glaw trofannol Cymru 12 Mehefin 2007 Model cŵyr o côn o gnwpfwsoglau enfawr y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar. Model cŵyr o darn o foncyff o gnwpfwsoglau enfawr y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar. Golygfa dros fforestydd glo'r Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar, yn dangos cnwpfwsoglau enfawr y corstir, a'r rhedyn bychain yn tyfu ger y dŵr Ffosil Lepidodentron aculaetum Heddiw, mae coedwigoedd glaw yn gorchuddio rhan helaeth o'r trofannau a cheir capanau rhew mawr yn y pegynau. Dyma fel y bu, fwy neu lai, ers 3-4 miliwm o flynyddoedd ond ymhell, bell yn ôl, roedd pethau'n wahanol iawn. Efallai bod 3-4 miliwn o flynyddoedd yn ymddangos yn amser hir i ni ond, o gofio bod hanes y Ddaear yn mynd yn ôl 4,700 miliwn o flynyddoedd, cyfnod cymharol fyr ydyw. Os awn yn ôl i gyfnodau daearegol pellach, er enghraifft pan oedd deinosoriaid yn crwydro'r Ddaear, roedd y sefyllfa'n wahanol iawn i'r hyn a welwn heddiw. Dim ond mewn un cyfnod arall yn ein gorffennol daearegol y bu'r sefyllfa'n debyg i'r hyn a gawn heddiw, gyda rhew dros ardaloedd eang yn y pegynau a fforestydd glaw yn y trofannau — yn y cyfnod y mae daearegwyr yn ei alw'n Gyfnod Carbonifferaidd Diweddar, 300,000,000 o flynyddoedd yn ôl. Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn y trofannau bellach gan ein bod wedi symud tua'r gogledd i ran fwy tymherus o'r byd. Ond 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru ar y cyhydedd ac roedd gwern-goedwigoedd trofannol iseldirol yn gorchuddio rhan fawr o'r tir. Prif blanhigion y corstiroedd hynafol hyn oedd cnwpfwsoglau enfawr. Ceir cnwpfwsoglau heddiw ond rhai bychan iawn ydynt (a dyna pam y ceir 'mwsogl' yn eu henw), ond roedd y mathau hynafol hyn yn mesur hyd at 40 metr o daldra. Er eu bod mor fawr, nid coed oeddent, oherwydd roedd eu bôn wedi'i wneud o stwff meddal, tebyg i gorc, nid pren. Roedd hyn yn golygu bod y planhigion yn gallu tyfu'n eithriadol o gyflym, gan gyrraedd eu llawn maint mewn cyn lleied â deng mlynedd. Nid oedd y cnwpfwsoglau'n byw yn hir: byddent yn cyrraedd eu llawn maint, yn atgynhyrchu (â sborau, nid â hadau fel y rhan fwyaf o goed heddiw) ac yna'n marw. Gan fod cymaint o olion planhigion marw ar y llawr, roedd y llaid a'r silt yr oeddent yn tyfu ynddo yn mynd yn asidig iawn gan olygu nad oedd y planhigion marw'n pydru mor gyflym. Felly, roedd haenen drwchus o fawn yn ffurfio a honno'n troi mewn amser yn lo — a hwnnw fu'n cael ei gloddio ym meysydd glo de a gogledd Cymru. Y coedwigoedd trofannol Carbonifferaidd oedd un o'r 'sbyngau' cryfaf yn hanes y Ddaear o ran tynnu carbon o'r atmosffer a'i gladdu o dan y ddaear. Trwy edrych ar y newid a fu ym maint y fforestydd hyn (ac felly faint o garbon yr oeddent yn ei dynnu o'r atmosffer) a'i gymharu â newidiadau ym maint y capanau rhew yn y pegynau, cawn syniad gwell o lawer o'r cysylltiad rhwng faint o garbon sydd yn yr atmosffer a thymheredd y byd. Gwyddom am un cyfnod yn benodol pan welwyd y fforestydd a'r capan iâ yn crebachu tua'r un pryd. Er mwyn deall y newidiadau hyn i'r byd yn iawn, mae'n bwysig ein bod yn deall pam a phryd y cafwyd newidiadau yn y fforestydd. I wneud hyn, mae angen edrych yn ofalus ar y newidiadau yn y llystyfiant fel y'i gwelir yn y cofnod ffosilau a'r newidiadau ym maint y fforestydd. Y daearegwr arloesol o'r 19eg ganrif, Charles Lyell, a fathodd yr ymadrodd, 'y presennol yw'r allwedd i'r gorffennol'. Fodd bynnag, y neges a gawn o gofnod daearegol y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar yw mai'r gorffennol, o bosib, yw'r allwedd i ddeall y presennol.
Wedi rhewi mewn amser: y Casgliad Cenedlaethol o Adar yn Amgueddfa Cymru 12 Mehefin 2007 Glas y Dorlan: un o'r sbesimenau newydd o adar wedi'u rhew-sychu Fireo llygatgoch: aderyn mudol prin o Ogledd America a laddwyd wrth daro goleudy Ynys Enlli Hutan: aderyn mudol sy'n brin yng Nghymru; lladdwyd wrth daro Goleudy Enlli Tylluan Glustiog: aderyn magu prin ac ymwelydd gaeaf â Chymru, a laddwyd gan gar Un o gasgliadau cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru nôl ym 1915 oedd casgliad Amgueddfa Caerdydd o adar. Roeddent yn cael eu dangos mewn casys, gyda'u nythod a'u hwyau mewn dioramâu bychain o'u cynefinoedd. Bu'r casgliad hwn yn rhan bwysig o orielau'r Amgueddfa hyd at 1992. Dros y blynyddoedd, bu'r Amgueddfa'n ganolfan ar gyfer astudio llawer o adar, fel y Barcud - mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar (RSPB) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC). Rhew-sychu Erbyn heddiw, mae gan Amgueddfa Cymru gyfleusterau healeth i rew-sychu eitemau er mwyn eu cadw. Caiff sbesimenau eu rhewi mewn siambr wactod ar dymheredd o tua -20°C. O dan yr amodau hyn, mae'r dŵr sydd wedi rhewi yn y sbesimen yn cael ei wthio allan fel anwedd yn hytrach na fel hylif. Mae hyn yn gadael y sbesimen yn hollol sych ac, yn bwysig, mae ei siâp a'i faint fwy neu lai'n union yr un peth ag oeddent pan oedd yn fyw. Mae rhew-sychu yn ddull symlach o lawer na blingo - sef y dull traddodiadol o gadw'r rhan fwyaf o sbesimenau ar gyfer amgueddfeydd. Gosodir yr adar mewn ffordd sy'n golygu y gellir archwilio manylion plu'r adenydd a'r gynffon. Mae hyn yn dangos oed a rhyw'r sbesimenau. Mae'r casgliad yn cael ei anelu at adarwyr y maes ac artistiaid fel ei gilydd ac mae'n ychwanegu at gasgliad presennol yr Amgueddfa o grwyn. Ynys Enlli Ynys Enlli, oddi ar Ben Llŷn, yn y gogledd yw prif ffynhonnell y sbesimenau ar gyfer y casgliad hwn. Mae angen awyr glir ar adar sy'n mudo yn y nos er mwyn canfod eu ffordd. Os bydd yn gymylog neu'n niwlog gallant ddrysu a chânt eu denu at olau goleudy'r ynys. Maent yn hedfan o gwmpas y golau neu i lawr pelydrau'r golau a chânt eu lladd wrth daro'r tŵr. Mae warden yr ynys yn chwilio o gwmpas gwaelod y tŵr bob bore ac mae'n casglu unrhyw adar marw ac yn eu rhewi cyn eu hanfon i'r Amgueddfa yng Nghaerdydd. Rydym yn canolbwyntio ar adar o Brydain ond ceir hefyd rai rhywogaethau prin o rannau eraill o'r byd. Mae'r adar hyn a sbesimenau eraill a gawn gan y cyhoedd yn cael eu harddangos neu eu defnyddio at ddibenion addysgol gan ennyn diddordeb pobl mewn adar a gwneud iddynt edrych yn fwy gofalus ar eu hamgylchoedd. Defnyddir y casgliad i dynnu sylw at fioamrywiaeth a materion amgylcheddol, yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd a cholli cynefin ar adar sy'n mudo rhwng Prydain ac Affrica.
Llywiwr y Swigen Fôr Portwgeaidd 21 Mai 2007 Swigen Fôr Portwgeaidd - Physalia arethusa. Llywiwr y Swigen Fôr Portwgeaidd Nid un anifail yw'r chwysigen fôr, ond 'seiffonoffor', sef anifail sy'n cynnwys clwstwr o organebau sy'n cydweithio â'i gilydd. Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy am y creadur rhyfeddol hwn. Yr arnofyn Môr-gudynnau sy'n angori'r tentaclau Tentaclau Yr arnofyn Mae 'arnofyn' lled dryloyw, â gwawr las neu binc arno, llawn nwy yn cadw'r chwysigen fôr ar wyneb y d?r. Ar ben y chwysigen ceir crib (ychydig fodfeddi o uchder) sy'n gweithio fel hwyl gan symud y creadur ar draws y moroedd. Yr hwyl hon sy'n rhoi ei henw Saesneg i'r chwysigen fôr - Portuguese man-of-war - gan ei bod yn debyg i hwyliau hen longau rhyfel Portiwgal. Môr-gudynnau sy'n angori'r tentaclau Mae clystyrau o fôr-gudynnau'n angori'r tentaclau o dan yr arnofyn. Ceir tri math o fôr-gudynnau: dactylosöid (sy'n canfod ac yn dal prae gan ddefnyddio celloedd pigo gwenwynig o'r enw nematosystau), gonosöid (sy'n atgynhyrchu), a gastrosöid (sy'n treulio bwyd, fel stumog). Tentaclau Gall y tentaclau sydd ar ffurf torch ac a ddefnyddir i bigo fesur hyd at 50m (165 troedfedd).