: Cloddio a Darganfod

Plant mewn Pyllau Glo

11 Ebrill 2011

Plant mewn Pyllau Glo

Yn unig yn y tywyllwch

Roedd Mary Davis yn 'ferch fach bert' chwe mlwydd oed. Daeth Archwiliwr y Llywodraeth o hyd iddi yn cysgu'n sownd yn erbyn carreg fawr dan y ddaear ym Mhwll Glo Plymouth, Merthyr. Wedi cael ei dihuno dywedodd: "Fe es i gysgu oherwydd bod fy lamp wedi diffodd am nad oedd digon o olew ar ôl. Roedd ofn arna i am fod rhywun wedi dwyn fy mara a caws. Dwi'n credu taw'r llygod mawr wnaeth."

Dywedodd Susan Reece, oedd hefyd yn chwe mlwydd oed ac yn geidwad drws yn yr un pwll glo: "Dwi wedi bod dan y ddaear am chwech neu wyth mis a dydw i ddim yn ei hoffi rhyw lawer. Rwy'n dod yma am chwech y bore ac yn gadael am chwech y nos. Pan fydd fy lamp yn diffodd, neu fy mod i'n llwgu, bydda i'n rhedeg adref. Dydw i heb gael niwed eto."

Mewn perygl

Roedd pwll glo yn lle peryglus iawn i oedolion, felly does dim syndod bod nifer o blant wedi cael eu hanafu'n wael dan y ddaear.

"Roedd damwain bron i flwyddyn yn ôl a cafodd y rhan fwyaf ohonon ni ein llosgi. Cefais i fy nghario gartref gan ryw ddyn. Roedd yn boenus iawn am fod y croen wedi llosgi o fy wyneb. Doeddwn i ddim yn gallu gweithio am chwe mis."

Phillip Phillips, 9 oed, Pyllau glo Plymouth, Merthyr

"Cafodd fy mhen i ei wasgu beth amser yn ôl gan ddarn o'r to yn cwympo..."

William Skidmore, 8 oed, Pwll Glo Buttery Hatch, Mynydd Islwyn

"..cafodd fy nghoesau i eu gwasgu beth amser wedyn, wnaeth fy nghadw o'r gwaith am rai wythnosau."

John Reece, 14 oed, Pwll Glo Hengoed

Plant o lowyr a gyrwyr ceffylau

Byddai rhai plant yn treulio hyd at 12 awr ar eu pen eu hunain, ond roedd brawd Susan Reece, John yn gweithio gyda'i dad ar y ffas:

"Rydw i'n helpu fy nhad ac rydw i wedi bod yn gweithio yma am ddeuddeg mis. Rydw i'n cario ei offer drosto ac yn llenwi'r dramiau â'r glo mae wedi ei gloddio neu ei ffrwydro. Fe es i i'r ysgol am rai diwrnodau a dysgu'r wyddor." John Reece, 8 oed, Pyllau Glo Plymouth, Merthyr

Roedd gan Philip Davies geffyl yn gwmni. Roedd yn welw a heb fawr o gig amdano ac yn gwisgo dillad carpiog wedi treulio. Doedd 'e ddim yn gallu darllen:

"Rydw i wedi bod yn gyrru ceffylau ers oeddwn i'n saith ond roeddwn i'n gweithio ar ddrws aer am flwyddyn cyn hynny. Byddwn i'n hoffi mynd i'r ysgol ond rydw i wedi blino gormod gan fy mod i'n gweithio deuddeg awr." Philip Davies, 10 oed, Pwll Glo Dinas, y Rhondda

Byddai dramwyr yn tynnu eu certi gyda chadwyn wedi'i chlymu o amgylch y canol. Bydden nhw'n gweithio yn y twnneli isel rhwng y ffasau glo a'r prif dwneli uwch lle gallai ceffylau gael eu defnyddio. Roedd y ceirt yn pwyso tua 1½cwt. o lo ac roedd yn rhaid ei dynnu am bellter o tua 50 llath mewn twnnel tua 3 troedfedd o uchder.

"Fy swydd i yw cludo glo o'r pen i'r brif ffordd; mae'r pellter yn 60 llath; does dim olwynion ar y ceirt; rydw i'n eu gwthio nhw o fy mlaen; weithiau, bydda i'n eu llusgo nhw am fod y cert weithiau yn cael ei dynnu arnon ni, ac rydyn ni'n cael ein gwasgu'n aml."

Edward Edwards, 9 oed, Pwll Glo Yskyn, Llansawel

Byddai dramiwr yn ennill tua 5c y diwrnod am hyn.

Y Tair Chwaer

Roedd gwaith dur Dowlais hefyd yn berchen ar byllau glo a haearn; nhw oedd y mwyaf yn y byd ar y pryd ac yn darparu cynnyrch i bob rhan o'r byd. Roedden nhw yn dal i ddibynnu ar blant am eu helw fodd bynnag. Roedd tair chwaer yn gweithio yn un o'u pyllau glo:

"Rydyn ni'n gofalu am y drysau yn y lefel pedair troedfedd. Rydyn ni'n gadael y tŷ cyn chwech bob bore ac rydyn ni yn y lefel tan saith o'r gloch, neu'n hwyrach weithiau. Rydyn ni'n ennill 2p y diwrnod ac mae ein golau yn costio 2½c yr wythnos. Roedd Rachel mewn ysgol ddydd ac mae hi'n gallu darllen rhywfaint. Cafodd hi ei gwasgu dan ddram amser yn ôl ac roedd hi adref yn sal am amser hir, ond fe wellodd hi."

Elizabeth Williams, 10 oed a Mary a Rachel Enoch, 11 a 12 oed, Pyllau Dowlais, Merthyr.

Yn Dilyn y Deddfu

Roedd hi'n anochel y byddai deddf yn cael ei phasio wedi'r dicter cyhoeddus a glywyd yn sgil cyhoeddi'r Adroddiad. Pasiwyd y Ddeddf Rheoli Pyllau Glo o'r diwedd ar 4 Awst 1842. O 1 Mawrth 1843 roedd hi'n anghyfreithlon i fenywod neu unrhyw blentyn o dan ddeg oed weithio dan y ddaear ym Mhrydain.

Doedd dim iawndal i'r sawl a gollodd eu swyddi ac a achosodd hyn galedi mawr. Ond roedd hi'n hawdd osgoi'r Ddeddf — dim ond un arolygwr oedd ym Mhrydain gyfan ac roedd yn rhaid iddo roi rhybudd cyn ymweld âr pyllau glo. Mae'n debyg bod nifer o fenywod wedi parhau i weithio yn anghyfreithlon am sawl blwyddyn, a dim ond wrth iddynt gael eu lladd neu eu hanafu fyddai pobl yn dod i glywed.

Daeth hi'n llai derbyniol i fenywod ennill cyflog yn y diwydiant glo wrth i amser basio. Er hyn, roedd nifer fechan o fenywod yn gweithio ar yr wyneb yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ym 1990 diddymwyd y ddeddf warchod gan roi'r hawl unwaith eto i fenywod weithio o dan y ddaear.

Tanwydd ar gyfer teithio i'r Antarctig: Cwmni Tanwydd Patent y Goron, Caerdydd

Jennifer Protheroe-Jones, 23 Gorffennaf 2010

Bloc o Danwydd Patent y Goron

Bloc o Danwydd Patent y Goron

Teithiau arwrol i gyfandir yr Antarctig

Cafwyd sawl taith arwrol i gyfandir yr Antarctig tua dechrau'r ugeinfed ganrif. Tanwydd Patent y Goron o'r De oedd y tanwydd a ddewiswyd ar gyfer yr allteithiau hyn i'r Antarctig.

Tanwydd Patent y Goron

Yn ogystal â derbyn 100 tunnell o lo stêm gan gwmnïau glo'r De, cafodd Alldaith Brydeinig Capten Scott i'r Antarctig 300 tunnell o flociau tanwydd gan Gwmni Tanwydd Patent y Goron Caerdydd. Diolch i hyn a'r nawdd arall a gafwyd o Gaerdydd a'r De, penderfynodd Scott ddynodi Caerdydd yn borthladd cartref ei long, y Terra Nova. Anfonodd y Terra Nova i lwytho tanwydd yng Nghaerdydd yn hytrach na'i anfon ar y trên i Lundain.

Roedd gwaith Tanwydd Patent y Goron ger camlas Morgannwg yn y Maendy. Roedd yn un o nifer ar hyd y gamlas, a diolch i'w cyfraniad nhw a chyfraniad nifer o weithfeydd eraill mewn porthladdoedd eraill yn y De, roedd y rhanbarth hwn yn cynhyrchu mwy o danwydd patent nag unman arall yn y byd. Cafodd y rhan fwyaf o'r tanwydd patent ei allforio, ac roedd Ffrainc yn un o'r prif gwsmeriaid.

Scott yn canmol llwyddiant y tanwydd patent

Er mwyn gwneud y tanwydd roedd rhaid cymysgu a chynhesu glo mân wastraff a phyg, gweddillion tar glo distyll, a chywasgu'r cymysgedd mewn mowldiau. Cynhyrchwyd blociau yn amrywio o 7 pwys i 56 pwys. Blociau 28 pwys oedd y rhai mwyaf cyffredin — a dyna'r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer alldaith Scott. Roedd modd pentyrru'r blociau yn rhwydd ac nid oeddynt angen cymaint o le â glo.

Pan gyrhaeddodd yr anturwyr eu prif wersyll yn Cape Evans ar Ynys Ross yn yr Antarctig, defnyddiwyd y blociau tanwydd i adeiladu wal gefn y stablau a godwyd ar gyfer merlod yr alldaith.

Teithiau cynharach

Ym 1901 derbyniodd llong y Discovery a ddefnyddiodd Capten Scott ar ei alldaith gyntaf i'r Antarctig 200 tunnell o Danwydd Patent yng Nghaerdydd. Roedd yr Aurora, llong Alldaith Awstralasia i'r Antarctig (1911-14) hefyd yng Nghaerdydd i dderbyn Tanwydd Patent y Goron ar 4 Awst 1911 cyn hwylio i Awstralia a'r Antarctig.

Capten Scott yn hwylio o Gaerdydd

David Jenkins, 9 Mehefin 2010

Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910

Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910

Ar fwrdd y Terra Nova yng Nghaerdydd, 17 Mehefin 1913.

F.C. Bowring (blaen ar y chwith) a Daniel Radcliffe (blaen ar y dde) gyda'r Comander E.R.G.R. Evans (mewn het silc) ar fwrdd y Terra Nova yng Nghaerdydd, 17 Mehefin 1913.

Y Terra Nova yn gadael Caerdydd, 15 Mehefin 1910

Y Terra Nova yn gadael Caerdydd, 15 Mehefin 1910

Robert Falcon Scott (1868-1912) oddeutu 1905

Robert Falcon Scott (1868-1912) oddeutu 1905

SS Terra Nova

Ar 15 Mehefin 1910 gwaeddodd tyrfa fawr, gynhyrfus a swnllyd nerth eu pennau wrth i long dan bwysau llwyth trwm adael Basn y Rhath, yn nociau Caerdydd. Roedd yr

SS Terra Nova yn mynd am y de — i'r Antarctig. Ar ei bwrdd roedd y Capten Robert Falcon Scott ac aelodau o'i Alldaith Brydeinig i'r Antarctig , a oedd yn anelu i fod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De.

Glo Cymreig

Roedd y Terra Nova wedi cyrraedd Caerdydd bum niwrnod ynghynt i baratoi ar gyfer ei thaith ac i lwytho tanwydd. Darparodd cwmnïau glo Cymru dri chan tunnell o Danwydd Patent y Goron a chan tunnell o lo stêm, ynghyd â phum can galwyn o olew peiriannau ac olew lampau — a hynny'n rhad ac am ddim. Y Cwmni Tunplat Cymreig o Lanelli ddarparodd yr holl offer coginio ar gyfer y daith, a phrynwyd sach gysgu Capten Robert Falcon Scott gydag arian a godwyd gan Ysgol y Sir yn Aberteifi. Yn ogystal â chymorth mewn da, codwyd £2,500 pellach yng Nghaerdydd, mwy nag yn unrhyw ddinas arall. Yn lleol, y noddwyr unigol mwyaf, a dau o gefnogwyr mwyaf brwd y fenter, oedd y perchnogion llong o Gaerdydd, Daniel Radcliffe a

William J. Tatem . Chwaraeodd y ddau ran bwysig wrth godi arian a sicrhau arian nawdd o blith cymunedau busnes Cymru, a drwy ddarparu cyfleusterau doc ar gyfer y Terra Nova. Cymaint oedd y gefnogaeth i'r daith yng Nghymru fel y dynodwyd Caerdydd yn borthladd cartref y Terra Nova, ac i Ddoc Bute y dychwelodd ar ddiwedd yr alldaith ar 14 Mehefin 1913.

Pam Caerdydd?

Ym Mehefin 1909, cyfarfu William Davies, golygydd y Western Mail, a swyddog llynges ifanc, yr is-gapten E.R.G.R. Evans, a oedd yn trefnu ei alldaith ei hun i'r Antarctig. Roedd Davies yn awyddus iawn i gefnogi'r hyn a ystyriai yn Alldaith Antarctig Genedlaethol Gymreig — mae'n debygol mai brodor o Gaerdydd oedd tad-cu Davies — a chredai y byddai busnesau Caerdydd yn cefnogi menter o'r fath.

Yn fuan wedi hynny, clywodd Evans am alldaith arfaethedig Scott, ac ymunodd ag ef fel dirprwy, gan ddod a chefnogaeth golygydd y Western Mail, a'r posibilrwydd o noddwyr Cymreig, gydag ef. Roedd Davies yn allweddol nid yn unig o ran ennill cefnogaeth busnesau a chyhoedd Cymru ar gyfer alldaith Scott, ond hefyd drwy ddwyn perswâd ar ei gydwladwr, Canghellor y Trysorlys, David Lloyd George, i ddarparu grant llywodraeth o £20,000. Yn wir, heb ddylanwad Davies, cefnogaeth y Western Mail, a'r perchnogion llong Cymreig, ni fyddai Capten Scott wedi gadael mewn pryd i gyrraedd y Pegwn yn 1912.

Cysylltiadau Cymreig

Roedd yna Evans arall yng nghriw'r Terra Nova, sef Is-swyddog Edgar Evans o Rhosili, Gŵyr. Roedd wedi bod yn yr Antarctig gyda Scott ar alldaith y Discovery yn 1901—4, ac fe'i dewiswyd gan Scott i fod yn aelod o'i fintai ar alldaith 1910—12. Evans oedd y cyntaf i farw ar yr ymdaith yn ôl o Begwn y De.

Coffâd

I goffáu cysylltiadau Scott â Chaerdydd codwyd goleudy ym 1915 ym Mharc y Rhath a gosodwyd plac efydd ar risiau Neuadd y Ddinas ym 1916. Ym Mehefin 2003 datgelwyd cerflun coffaol ym Mae Caerdydd.

Diwylliant Yfed Hynafol: Tancard Langstone

1 Ebrill 2010

Tancard Langstone

Tancard Langstone

Cymryd samplau pren o'r tancard

Cadwraethwr yr Amgueddfa, Mary Davis a'r archeolegydd amgylcheddol Nigel Nayling (Prifysgol Llambed) yn cymryd samplau pren o'r tancard. Dengys dadansoddiad microsgop fod y tancard wedi'i wneud o bren ywen, rhywogaeth o goeden sy'n tyfu'n araf iawn, ac a ddewiswyd yn arbennig.

Archwilio safle darganfod y tancard

Y darganfyddwr, Craig Mills, ac archeolegydd yr Amgueddfa, Mark Lewis (Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion), yn archwilio safle darganfod y tancard

Ym mis Rhagfyr 2007, daeth Craig Mills o hyd i dancard pren cyflawn wrth chwilio am fetel mewn cae ger Langstone, Casnewydd. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno'r llestr prin, tua 2000 oed, sydd wedi goroesi'n arbennig o dda, gan ddangos sut mae cadwraeth ac ymchwil yr Amgueddfa yn cynorthwyo i ddatgelu ei stori...

Y tancard

Pan yn llawn, byddai'r tancard wedi dal bron i bedwar peint o gwrw neu seidr. Byddai'n cael ei ddal â dwy law a'i basio o amgylch grŵp, fwy na thebyg, fel llestr yfed cymunedol. Gwnaed y llestr o chwe astell bren, wedi'u gosod o amgylch gwaelod crwn. O amgylch yr wyneb allanol mae dau fand o efydd. Mae gan y llestr ddolen aloi copr cast, gyda dau bâr o rybedion yn ei chysylltu gyda'r tancard.

Yn dyddio i ddiwedd yr Oes Haearn neu ddechrau'r cyfnod Rhufeinig, yr unig reswm y goroesodd y tancard oedd gan iddo gael ei gladdu mewn pridd dyfrlawn, heb gysylltiad o gwbl gyda'r aer. Cyn gynted ag iddo gael ei godi o'r tir, cychwynnodd sychu gyda pherygl gwirioneddol y gallai grebachu, cracio ac anffurfio tu hwnt i adnabyddiaeth. Treuliodd y cadwraethwyr lawer o amser a gofal wrth ei fonitro, cyn medru ei gadw. Cyflawnwyd hyn drwy ei osod mewn alcohol (unwaith eto!) er mwyn disodli'r dŵr o'r celloedd yn y pren. Yna disodlwyd yr alcohol gydag ether (sylwedd anweddol), a anweddodd yn hawdd o arwyneb y pren i adael y gwrthrych yn 'sych'. Yn olaf, cafodd y ffitiadau eu glanhau a'u sefydlogi'n ofalus.

Arwyddocâd y darganfyddiad

Roedd tancardiau yn llestri yfed poblogaidd ledled gorllewin a de Prydain ar ddiwedd yr Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig. Dyma un o'r chwe thancard cyflawn sydd wedi goroesi ym Mhrydain ac Iwerddon. Yr enghraifft arall o Gymru yw tancard Trawsfynydd (Gwynedd), sydd wedi'i addurno'n helaeth, a ganfuwyd tua 1850 ac a oedd hefyd wedi'i gadw mewn mawn dyfrlawn. Mae darganfyddiadau o ddolenni efydd tancardiau yn fwy cyffredin. Mae'n anodd dyddio tancard Langstone yn gywir. Mae'r ddolen a oroesodd yn debyg iawn i ddolen tancard a ganfuwyd yn y gaer Rufeinig yn Llwchwr (Abertawe). Roedd wedi'i chladdu mewn ffynnon, a lenwyd yn ystod yr ail ganrif OC. Fodd bynnag, awgryma archwiliad manwl o dancard Langstone fod y ddolen hon, nad oedd wedi'i ffitio'n dda, wedi'i gosod yn ddiweddarach yn lle'r un gwreiddiol, sydd bellach ar goll. Y darn blaenfain ar yr ymyl a'r pinnau efydd cain sydd ar ôl yn wal ganol y tancard yw'r dystiolaeth sydd wedi goroesi o'r ddolen gynnar hon. Awgryma hyn fod y tancard wedi'i wneud yn y ganrif gyntaf neu ddechrau'r ail ganrif OC (1-150 OC).

Ychydig fetrau i ffwrdd o'r fan lle canfuwyd y tancard, daeth Craig Mills o hyd i

ddwy ddysgl efydd a hidlen win tua'r un pryd. Gwnaed y llestri hyn, sydd bron yn gyflawn, yn ystod diwedd yr Oes Haearn, ac fe'u haddurnwyd yn arddull Celf Geltaidd. Cawsant eu claddu mewn haenen fawnog dyfrlawn debyg, fwy na thebyg yn ystod canol y ganrif gyntaf OC. Mae'r defnydd tebyg hwn, ar gyfer hidlo a dal hylif, megis gwin neu foddion, yn awgrymu fod y lleoliad hwn yn arbennig o arwyddocaol i'r perchnogion, a ddewisodd gladdu eu hoffer yfed yma.

Ysgrifennwyd gan Adam Gwilt, gyda chyfraniadau gan Evan Chapman, Mary Davis, Mark Lewis, Mark Lodwick, Craig Mills a Nigel Nayling

Dysglau yn y Gors: Datgelu Trysor Langstone

23 Mawrth 2010

Y celc o ddwy ddysgl a hidlydd gwin

Y celc o ddwy ddysgl a hidlydd gwin

Y ddolen addurnedig (arfbais) ar y ddysgl fawr

Y ddolen addurnedig (arfbais) ar y ddysgl fawr

Archwilio'r man dyfrlawn lle canfuwyd y dysglau a'r hidlydd gwin.

Archwilio'r man dyfrlawn lle canfuwyd y dysglau a'r hidlydd gwin. Cyflawnwyd fel rhan o achos o drysor gan staff Cynllun Henebion Cludadwy Cymru ac Amgueddfa Cymru

Ym mis Rhagfyr 2007, daeth Craig Mills o hyd i ddwy ddysgl efydd a hidlydd efydd o ddiwedd yr Oes Haearn, wedi'u haddurno mewn arddull Celfyddyd Geltaidd. Gwnaed y darganfyddiadau wrth chwilio am fetel mewn cae isel ger Langstone, Casnewydd. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno'r canfyddiadau prin ac yn dangos sut mae gwaith maes ac ymchwil yr amgueddfa yn cynorthwyo i adrodd eu stori.....

Y llestri efydd

Roedd y celc hwn o ddysglau a 'hidlydd gwin' ar un adeg yn set yfed, ar gyfer ardywallt a hidlo hylifau. Efallai iddynt gael eu defnyddio ar gyfer paratoi ac yfed y gwin Canoldirol ffasiynol newydd. Neu efallai bod iddynt ddefnydd meddygol neu grefyddol.

Mae gan y dysglau waelod crwn, ac ymylon wedi'u ffurfio'n ofalus. Er bod un ychydig yn fwy na'r llall, mae'r hidlydd yn eistedd yn gysurus yn y ddau. Mae gan y dysglau ddarnau addurnedig o dan yr ymyl, lle'r oedd modrwyau yn cael eu gosod ar gyfer eu hongian a'u storio. Mae gan yr hidlydd ymyl llydan a chorff crwn, gyda modrwy i'w hongian. Addurnwyd y gwaelod â phatrwm hidlo wedi'i gynllunio'n ofalus, wedi'i gyflawni drwy dorri tyllau bychain crwn yn ofalus. Mae'r patrwm tyllau yn ffurfio tri siâp trymped, o amgylch patrwm trisgell tair coes. Gwelir y cynllun trisgell yn aml mewn Celfyddyd Geltaidd ar waith metel Oes Haearn yng Nghymru.

Arwyddocâd y darganfyddiad

Gwnaed y ddwy ddysgl efydd o Langstone yn ystod diwedd yr Oes Haearn (50 CC-60 OC). Daethpwyd o hyd i enghreifftiau blaenorol ledled de orllewin a de ddwyrain Lloegr, weithiau mewn mannau dyfrol ac weithiau mewn beddau. Mae'r rhain, ac adroddiadau am ddarn o ddysgl debyg yn ddiweddar o Llandeilo Gresynni (Sir Fynwy), yn dangos eu bod yn cael eu defnyddio ledled de Cymru. Mae darganfyddiadau Langstone yn darparu cyfle prin i astudio darganfyddiad diweddar gan ddefnyddio technegau archeolegol modern.

Yn y gorffennol, ystyriwyd hidlwyr gwin o'r math hwn fel rhai o'r cyfnod Rhufeinig cynnar (75-150 OC), gydag enghreifftiau hysbys o Maenorbŷr (Sir Benfro) a Coygan (Sir Gaerfyrddin). Fodd bynnag, mae'r enghraifft hon, a ganfuwyd gyda set o ddysglau o ddiwedd yr Oes Haearn, yn awgrymu eu bod wedi cychwyn cael eu gwneud a'u defnyddio ychydig yn gynharach, rhwng 40-70 OC yn ôl pob tebyg.

Pam fod llestri gwerthfawr a chyflawn yn cael eu claddu mewn cors?

Rhai metrau i ffwrdd o'r fan lle canfuwyd y celc, daethpwyd o hyd i

dancard pren cyflawn o oedran tebyg ar yr un pryd. Awgryma hyn fod arwyddocâd arbennig i'r lle, yn gysylltiedig gydag yfed a chladdu llestri yfed.

Cloddiwyd dau bwll prawf bychan, a datgelwyd union leoliad y canfyddiadau hyn, o fewn yr un haenen fawnog. Roedd y llestri wedi cael eu gosod yn ofalus ar ymyl y gors isel neu lyn bas. Gerllaw, yng nghanol y gors, ar ynys fechan o raean, mae safle fila Rufeinig hysbys. Fodd bynnag, mae'r ynys anghysbell hon yn safle anarferol ar gyfer aneddiad. Efallai iddo gael ei ddewis yn y lle cyntaf fel man o bwysigrwydd crefyddol, cyn dod yn drigfan o bwysigrwydd yn y cyfnod Rhufeinig.

Rhoddion i'r duwiau

Roedd claddu gwrthrychau gwerthfawr mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd yn arfer cyffredin ledled gogledd orllewin Ewrop yn ystod yr Oes Haearn. Dewiswyd y mannau hyn ar gyfer seremonïau i roi eitemau gwerthfawr i'r duwiau a oedd yn trigo yno. Efallai mai'r rhesymeg dros y weithred hon oedd y straen a brofwyd gan y gymuned Oes Haearn lleol. Yn ystod canol y ganrif gyntaf OC, roedd llwyth Silures de Cymru ynghanol gwrthdaro chwerw a pharhaus gyda byddin Rufeinig. Efallai bod rhoddion o'r fath yn arwydd o fesur brys, galwad ar rym y duwiau Celtaidd i gynorthwyo yn erbyn y llu ymosodol.

Ysgrifennwyd gan Adam Gwilt, gyda chyfraniadau gan Evan Chapman, Mary Davis, Mark Lewis, Mark Lodwick, Craig Mills a Nigel Nayling