Ogofau Cefn-yr-Ogof: Creaduriaid rhyfedd a dynion cyntaf Cymru Elizabeth Walker, 7 Mawrth 2013 Ymchwil Ogof Pontnewydd Danedd o ogof Pontnewydd Ogof Pontnewydd Cefn-yr-Ogof edrych allan Mae'r ogofau yn Cefn, ger Llanelwy, wedi bod yn destun cryn sylw dros y blynyddoedd. Ymwelodd nifer o enwau mawr â'r ogofau i weld yr esgyrn anifeiliaid a chartref y Neanderthaliaid cynnar, gan gynnwys Charles Darwin ym 1831. Mae'r ogofau ym mhlwyf Cefn Meiriadog, Sir Ddinbych wedi bod yn leoliad o ddiddordeb i wyddonwyr, artistiaid, beirdd a henaduriaid ers blynyddoedd. Arferai'r ffordd rhwng Dinbych ac Abergele basio drwy'r bwa carreg ger Afon Elwy a byddai nifer yn aros yno i edmygu prydferthwch yr olygfa. Ysgrifennodd yr hynafiaethwr John Leland am Cefn yn y 1530au: 'On the farther ripe of Elwy a 3. or 4. miles above S. Asaphes is a stony rok caullid Kereg the tylluaine, i.e. the rok with hole stones, wher a great cave is, having divers romes in it hewid out of the mayne rok.' Roedd yr awduron Thomas Pennant, Richard Fenton ac Edward Pugh hefyd ymhlith yr ymwelwyr ag Ogofau Cefn cyn 1830. Esgyrn yn y mwd Ymwelodd Charles Darwin â Cefn yn Awst 1831 yn ystod ei daith ddaearegol gyda'r Athro Adam Sedgwick. Disgrifiodd Darwin y galchfaen yn Cefn ac yn ei lyfr nodiadau mae'n nodi bod Sedgwick wedi gweld esgyrn rhinoseros ym mwd yr ogof; mae nodiadau Sedgwick yn dangos i ddant rhinoseros gael ei ddarganfod. Yn anffodus, wnaeth yr un o'r ddau ymhelaethu ar bwysigrwydd palaeontolegol y darganfyddiad. Ym mha ogof oedd Darwin? Mwy na thebyg taw Ogof Cefn oedd hi, gan fod cofnod o ymweliad y Parchedig Edward Stanley y flwyddyn ganlynol yn nodi bod gwaith tirlunio wedi gadael 'esgyrn yn y mwd i'w cymryd' a bod llawer o esgyrn wedi'u lledu fel gwrtaith ar y tir islaw. Cofnododd Stanley iddo weld dant rhinoseros yng nghasgliad perchennog y tir – ai dyma ddant Sedgwick a Darwin? Fyddwn ni byth yn gwybod i sicrwydd. Yr Hipo, y Rhino a'r Eliffant Disgrifiodd Stanley y gwaith tirlunio ar Cefn a'r llwybrau cerdded a adeiladwyd yn y dyffryn, lle bu'n rhaid gwaredu rhannau o graig Cefn-yr-Ogof oedd yn ymwthio. Crëwyd cyfres o risiau graddol o waelod y dyffryn drwy Ogof Cefn. Symudwyd cyfaint anferth o rwbel o'r ogof er mwyn creu un llwybr yn cysylltu'r ddwy fynedfa. Dyma Stanley yn cloddio yn Ogof Cefn ym 1832 gan ddarganfod esgyrn eliffant ag ysgithrau syth, rhinoseros a hipopotamws o'r oes ryngrewlifol ddiwethaf (tua 125,000 o flynyddoedd oed), a gwaddodion oedd o ddiddordeb i nifer o ddaearegwyr a gwyddonwyr eraill a ymwelodd â'r ogofau. Yng nghymdeithas ddysgedig y cyfnod, roedd y ddadl am hyd oes dyn ar y ddaear a'u perthynas ag anifeiliaid diflanedig ar ei hanterth. Felly pan ymddangosodd erthygl ym mhapur newydd The Times, ar 20 Hydref 1870 yn honni bod amffibiad rhyfedd yn byw yn Ogof Cefn, fe achosodd gryn ddiddordeb. Dyma'r erthygl yn galw ar naturiaethwyr i ymchwilio i oroesiad creadur hynafol yng Ngogledd Cymru. Mae erthygl yn The Flintshire Observer ar 4 Tachwedd 1870 yn sôn am fadfall fyw, pedair troedfedd saith modfedd o hyd, tebyg iawn i grocodeil yn cropian o ddyfnderoedd Ogof Cefn. Yn ôl y sôn, Cymro dewr a welodd yr anifail, Mr Thomas Hughes, ysgubwr simneiau o'r Rhyl. O ailadrodd yr hanes, mae'n annhebygol bod y crocodeil wedi cyrraedd Cefn o gwbl – mae'n debyg taw un o atyniadau sioe anifeiliaid a fu farw ar ymweliad â'r Rhyl oedd e. Wedi clywed yr hanes, dyma Mr Hughes yn dyfeisio'r stori am ei ddal yn yr ogof, ac wedi ei brynu, dyma ei arddangos fel madfall hynod Cefn. Ogof Pontnewydd Ym 1872 ymwelodd yr Athro Syr William Boyd Dawkins â Cefn a chloddio yn Ogof Pontnewydd Cave . Pan ddarganfu Stanley yr ogof ar ochr y dyffryn ychydig i'r gogledd-orllewin o Ogof Cefn, nododd ei bod yn hollol ddigyffwrdd. Wnaeth Stanley ddim cloddio yno, ond credir bod y gweinidog lleol y Parchedig Thomas, Mrs Williams Wynn (perchennog y tir), a Boyd Dawkins wedi cloddio yno. Ym 1874 cloddiodd Thomas McKenny Hughes yn helaeth yn yr ogof gan ddarganfod asgwrn dynol hynod o fawr ynghyd ag offer carreg ac esgyrn anifeiliaid. Prin oedd y diddordeb yn Ogofau Cefn wedi hyn tan y 1940au pan trowyd Ogof Pontnewydd yn storfa ffrwydron tir a ffrwydron tanddwr, gan adeiladu'r wal galchfaen, y drysau dur a siambr y gard gyda'i stôf golosg i gadw'r gwyliwr yn gynnes. Byddai pobl yn parhau i ymweld â Cefn, gan dreulio penwythnosau a Gwyliau'r Banc yn archwilio'r ogofau. Ym 1978 dechreuodd Amgueddfa Cymru broject ymchwil i ymchwilio i ogofau Cefn gan ddechrau drwy gloddio yn Ogof Pontnewydd cyn symud i Cefn yn ddiweddarach. Mae Pontnewydd wedi dod yn safle o bwys rhyngwladol yn cynnwys gweddillion math esblygol cynnar o Neanderthal oedd yn defnyddio'r ogof tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Heddiw mae'r ogofau ar dir preifat Plas-yn-Cefn a does dim mynediad i ymwelwyr.
Yn y Ddaear: O dan Eisteddfod 2012, mae tir sanctaidd 3 Awst 2012 Yn yr union fan hwn, 4,000 o flynyddoedd yn ôl, claddodd trigolion Bro Morgannwg rai aelodau o'u cymuned. Adeiladwyd casgliad o domenni claddu cymhleth a thrawiadol i nodi man gorffwys neu fan preswyl eu (ac ein?) cyndeidiau. Yn ystod gaeaf garw 1939-40, datgloddiwyd yr henebion archaeolegol hyn gan Syr Cyril Fox, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol. O'i gwmpas, roedd y teirw dur eisoes yn paratoi'r tir cyn adeiladu maes awyr yr Ail Ryfel Byd yma yn Llandaw. Syr Cyril Fox, y Foneddiges Fox a "hanner dwsin o ddynion caib a rhaw" yn archwilio olion y gorffennol. Roedd y gaeaf hwnnw ym 1939-40 gyda'r oeraf ar gofnod. Roedd y dyfodol yn edrych yn llwm iawn. Oedd pobl yr Oes Efydd yn dathlu cylch bywyd, neu'n galaru? A yw'r cylchoedd defodol hyn yn cynrychioli cylchoedd bywyd a marwolaeth?
Tarddiad Cerrig Gleision Côr y Cewri Richard Bevins, 21 Chwefror 2012 Pont Saeson, Mehefin 2011. Pont Saeson, Mehefin 2011. Mae tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri wedi bod yn destun dyfalu a dadlau ers blynyddoedd. Cafodd tarddiad un math o'r garreg las ei ganfod yng ngogledd Sir Benfro ddechrau'r 1920au, ond erbyn hyn mae daearegwyr Amgueddfa Cymru wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng math arall o'r garreg a rhan wahanol o ogledd Sir Benfro. Tybed a fydd modd i ni ganfod syniadau newydd am sut y cafodd y cerrig eu cludo i Gôr y Cewri? Côr y Cewri Côr y Cewri, ar Wastadeddau Caersallog, yw un o henebion mwyaf eiconig y byd. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae'r un mor gyfarwydd ym mhedwar ban ag y mae safleoedd enwog fel Machu Picchu yn Peru a Rhyfelwyr Terracotta Xian yn Tsieina. Mae Côr y Cewri'n safle cymhleth. Mae fwyaf adnabyddus am ei feini hirion, sy'n cynnwys y Cylch Allanol, y Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Garreg Sawdl ac, o fewn y strwythur, yr 'Allorfaen'. O amgylch y cylch cerrig mae twmpathau a ffosydd, a chyfres o 'dyllau' y tybir iddynt gynnwys meini hirion corau eraill. Mae'r tyllau hyn, sy'n cael eu galw'n Dyllau Aubrey, yn bwysig am eu bod yn cynnwys malurion (neu 'naddion' mae rhai archaeolegwyr yn eu galw) nad yw ei litholeg i'w weld ymhlith y meini hirion cyfredol. Fodd bynnag, rhan yn unig yw Côr y Cewri fel y sefyll heddiw, o ystod ehangach o nodweddion cyfoes sy'n cynnwys y Rhodfa, y Cwrsws, a'r diweddaraf i'w bennu, Côr Gorllewin Amesbury (y'i gelwir yn 'Bluestonehenge' — Côr y Cerrig Gleision). At ei gilydd, dyma Dirwedd Côr y Cewri. Yr enw ar gerrig mawr y Cylch Allanol yw 'Sarsenau'. Dyma gerrig o dywodfaen caled a gwydn y credir iddynt gael eu casglu o amgylchedd lleol Gwastadeddau Caersallog. Mae tarddiad cerrig llai'r Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Allorfaen, sef y Cerrig Gleision, yn fath 'egsotig' yn ardal Gwastadeddau Caersallog. Am flynyddoedd lawer, bu archwilwyr Fictoraidd blaengar yn pendroni yn eu cylch. Dyma litholeg y Cerrig Gleision, fel y'i gelwir. Y Cerrig Gleision Fodd bynnag, yn ei bapur a gyhoeddwyd yn The Antiquaries Journal ym 1923, roedd H. H. Thomas o'r Arolwg Daearegol yn honni iddo ganfod tarddiad dolerit smotiog y Cerrig Gleision ym mrigiadau creigiog, neu 'tyrrau', uchelfannau'r Preseli, i'r gorllewin o Grymych. Yn benodol, credai mai'r tyrrau yng Ngharn Menyn a Cherrig Marchogion oedd y tarddleoedd tebygol. Aeth ymlaen i ystyried sut y cludwyd y cerrig gan bobl i Wastadeddau Caersallog gan fwrw amcan ar ddull cludo ar dir yn hytrach na siwrnai ar fôr a thir. Nid dolerit smotiog yw'r holl Gerrig Gleision sy'n sefyll yng Nghôr y Cewri heddiw fodd bynnag. Tyffiau llif lludw yw pedair ohonynt, o gyfansoddiad dacitig neu ryolitig. Mae malurion a ganfuwyd yn Nhyllau Aubrey ac mewn cloddiadau archaeolegol eraill yng Nghôr y Cewri a'i Dirwedd yn cynnwys dolerit smotiog a rhagor o ddeunydd dacitig a rhyolitig gwahanol iawn. Cynllun o Gôr y Cewri Cynllun o Gôr y Cewri Tirlyn Gôr y Cewri Canfyddiadau diweddar Yn 2009, cychwynnodd Amgueddfa Cymru archwiliadau petrolegol newydd. O astudio malurion o Gae'r Cwrsws, ger y Cwrsws, gwelwyd presenoldeb samplau gafodd eu pennu'n dyffiau llif lludw, gyda phwmis tiwb, darnau crisial a chlastau lithig ar batrwm matrics graen mân wedi'i ailgrisialu. Maent yn gymharol debyg i'r pedair maen hir dacitig a rhyolitig, ond mae gwahaniaethau allweddol. Hefyd yn bresennol oedd samplau y'u gelwyd gynt yn anffurfiol yn 'rhyolit â ffabrig'. Diffinnir y litholeg hon gan ffabrig datblygedig iawn, sy'n bresennol ar raddfa milimetrau. O ddilyn y gwead nodedig hwn, mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi pennu Pont Saeson, sydd yn y tiroedd isel tua'r gogledd i Fynydd Preseli, fel tarddiad y garreg. Anweddu'r Cerrig Gleision I brofi'r tarddiad ymhellach, casglwyd tystiolaeth feintiol drwy ddadansoddi cyfansoddiad mân grisialau sircon, maint micron, o Gôr y Cewri, a samplau rhyolit o Bont Season. Defnyddiwyd techneg o'r enw 'sbectromeg màs anwythiad abladiad laser cypledig' ym Mhrifysgol Aberystwyth. Canolbwyntir pelydr laser pwerus iawn sydd â diamedr o 10 micron yn unig ar y crisialau sircon (sy'n ddim mwy na 100 micron) a'u 'habladu' — sef eu hanweddu fwy neu lai — gan adael y crisialau sircon yn frith o dyllau bach. Yna, caiff yr anwedd a gynhyrchir yn y broses ei ddadansoddi yn y sbectromegydd màs, sy'n dangos cemeg y crisialau sircon. Dyma'r tro cyntaf i gemeg sircon gael ei defnyddio i ganfod tarddiad deunydd archaeolegol. Yn ogystal â sirconiwm (a haffniwm, elfen sy'n perthyn yn agos iddo) roedd y crisialau'n cynnwys crynodiadau digonol i'w hadnabod o ystod o elfennau gan gynnwys sgandiwm, tantalwm, wraniwm, thoriwm a'r elfennau daear prin. Roedd dadansoddiad y ddau set o samplau bron yr union yr un peth, gan ddarparu 'ôl bys' geogemegol. Mae'r canlyniad o bwys sylweddol ac fe'i gyhoeddwyd yn 2011 mewn cyfnodolyn o bwys rhyngwadol, Journal of Archaeological Science. Ym mis Mehefin 2011, cynhaliwyd gwaith samplo manylach gan bennu'r brigiad a elwir yn Graig Rhos-y-felin ger Pont Saeson fel tarddiad y rhan fwyaf o'r malurion rhyolit a ganfuwyd yn ystod gwaith cloddio yng Nghôr y Cewri a gerllaw. Cyhoeddwyd canlyniadau'r cloddiadau diweddaraf hyn yn y cyfnodolyn Archaeology in Wales ym mis Rhagfyr 2011. External links Prifysgol Caerlŷr UNESCO: Côr y Cewri Safle Treftadaeth y Byd Prifysgol Aberystwyth Journal of Archaeological Science Archaeology in Wales Journal
Gwared ni rhag drwg: Dillad cuddiedig Elen Phillips, 9 Awst 2011 O dan y lloriau Esgid chwith oedolyn. Mae naw twll botwm ar hyd yr ochr. Fe'i claddwyd dan loriau Hen Wernyfed, Felindre, Aberhonddu er mwyn dod â lwc i'r tŷ. Wrthi'n adnewyddu hen dŷ? Byddwch yn wyliadwrus! Pwy a ŵyr beth sydd o dan y lloriau neu'r tu ôl i'r waliau? Efallai dewch chi ar draws dilledyn wedi ei guddio'n fwriadol gan gyn-drigolion y tŷ er mwyn dod â lwc a ffrwythlondeb i'r cartref. 'Caches' yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r cuddiadau bwriadol hyn, enw a ddaw o'r gair Ffrangeg am guddio. Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi casglu nifer ohonynt dros y blynyddoedd. Mae pob darganfyddiad newydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar y traddodiad gwerin diddorol hwn. Esgidiau cuddiedig Esgidiau sy'n cael eu darganfod amlaf. Ceir hyd iddynt fel arfer yn agos i simneiau neu lefydd tân, ond anaml y'u darganfyddir fesul pâr. Esgidiau plant ydynt fel arfer. Cafwyd hyd i'r esgid ledr uchod o'r 19eg ganrif y tu ôl i le tân tŷ yn Llanfachreth ym 1994. Fe ddaeth y perchnogion ar draws pedair esgid arall yn yr un man, pob un ohonynt wedi mewn cyflwr treuliedig. Mwy na thebyg roeddent yn perthyn i uned deuluol o ddau riant a thri o blant. Roedd simneiau a llefydd tân yn fannau poblogaidd i guddio pethau oherwydd mai'r aelwyd oedd canolbwynt y cartref. Dyma oedd ffynhonnell gwres a chysur y cartref a lle i'r teulu ymgynnull. Weithiau byddai esgidiau yn cael eu cuddio o dan y lloriau, o gwmpas drysau ac o dan y grisiau. Credai rhai mai'r llefydd hyn oedd y mannau gwannaf mewn adeilad, ac felly gallai ysbrydion drwg neu wrachod gael mynedfa trwyddynt. Gosodid esgidiau yn y llefydd hyn er mwyn dal neu gornelu unrhyw ddrwg. Staes y tu ôl i'r wal! Nid esgidiau yw'r unig bethau sy'n cael eu darganfod. Cafwyd hyd i hetiau, siacedi a chlos penglin hefyd. Daeth y darn yma o staes o dŷ to gwellt yn Heol Cae Cerrig, Pontarddulais, o'r tu ôl i wal drwchus ar un ochr i'r aelwyd. Mae'n dyddio o ganol y 18fed ganrif ac wedi ei wneud o dair haen o ddefnydd: haen allanol o wlân, stribedi o esgyrn morfil a leinin o liain. Mae olion pwythau sidan mewn mannau. Y darn hwn fyddai panel blaen y staes yn wreiddiol, yn gorchuddio'r frest a'r stumog.Beth os dewch chi ar draws dilledyn wedi ei guddio? Os yn bosibl, ceisiwch osgoi ei drafod yn ormodol a chysylltwch â'ch amgueddfa leol am gyngor pellach. Cofiwch gymryd digon o luniau o'r dilledyn yn ei safle gwreiddiol cyn ei symud. Yn anad dim, cadwch eich llygaid ar agor; efallai mai darn o hanes yr adeilad yw'r hen recsyn yna dan y cerrig!
Celc arian Llanfaches 15 Gorffennaf 2011 Yn 2006, daeth un o'r casgliadau gorau o geiniogau arian o Brydain Rufeinig yr ail ganrif i'r wyneb ger Llanfaches, Casnewydd. Darganfuwyd celc o 599 denarii arian wedi'u cuddio mewn llestr coginio a wnaed yn lleol. Maen nhw'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru bellach. Saif Llanfaches rhwng caer yr ail lynges Awgwstaidd yng Nghaerllion a phencadlys y llwythi lleol, Venta Silurum, yng Nghaerwent. Mae'r 599 denarii arian, sy'n dangos Ymerawdwyr Rhufeinig fel Hadrian a Nero, yn dyddio'n ôl i OC 160, a chyhoeddwyd eu bod yn drysor ym mis Gorffennaf 2007. Y Denarius, neu Denarii (lluosog), yw'r darn arian Rhufeinig enwocaf, mwy na thebyg. Dyma'r llythyren 'd' a oedd yn rhan o hen system arian '£-s-d' Prydain. Roedd 1 denarius rywbeth tebyg i gyflog diwrnod ar y pryd, i weithiwr cyffredin (meddyliwch am ddameg y winllan yn y Beibl) neu lengfilwr Rhufeinig. Roedd y denarius, felly, yn ddarn gwerthfawr o arian. Byddai 600 denarii yn swm aruthrol - tybed faint o amser fyddai hi'n ei gymryd i chi gynilo gwerth dwy flynedd o gyflog gros, tybed? Cliciwch ar y mân-luniau isod i bori trwy ddetholiad o'r celc arian. Celc ceiniogau Llanfaches Ffugiad o Hadrian — mae'r ochr arall yn copïo ceiniog Trajan Ffugiad o Hadrian Pietas yn offrymu ger allor [Diva Faustina I] Portread oes o Faustina I Hadrian, portread pen noeth Pax (heddwch) yn rhoi arfau ar dân [Trajan] Dwylo wedi'u plethu: ymerawdwr a'r fyddin [Nerva] Bwystfil estron [Titus] Hwch a moch bach [Vespasian] - yn cyfeirio at chwedl y sefydlu Antoninus Pius (138-61); wedi'i fabwysiadu fel ail olynydd i Hadrian Fortuna ('ffawd') [Trajan] Antoninus Pius (138-61) Hadrian (117-38) Felicitas ('hapusrwydd') [Trajan] Liberalitas — haelioni'r ymerawdwr [Hadrian] Concordia [Antoninus Pius] Clementia ('trugaredd') [Antoninus Pius] Italia - talaith arall wedi'i hymgnawdoli [Antoninus Pius] Sabina, gwraig Hadrian Vesta, duwies yr aelwyd [Sabina] L. Aelius (136-8); penodwyd yn olynydd i Hadrian, ond bu farw'n gyntaf Hadrian fel 'adferwr' Gâl Faustina II, merch Antoninus Pius, gwraig Marcus Faustina I, gwraig Antoninus (m.141); argraffiad coffa ('Diva') Offer offeiriadol [Marcus Aurelius Caesar] Marcus Aurelius fel Cesar o dan A Pius (139-61) Taranfollt ar gadair [Antoninus Pius] Aegyptos - un o'r taleithiau niferus a ymgnawdolir ar geiniogau Hadrian Aequitas ('fair dealing') or Moneta (the mint) [Antoninus Pius] Pietas ('ffyddlondeb, dyletswydd') [Hadrian] Victoria: duwies buddugoliaeth [Hadrian] Fides publica: 'diffuantrwydd' y wladwriaeth (!) [Hadrian] Moneta - ymgnawdoliad o'r bathdy a'r arian bath [Hadrian] Adventus ('cyrraedd') - Hadrian yn cael ei gyfarch gan Roma Neifion, duw dŵr/y môr [Hadrian] Iustitia ('cyfiawnder) [Hadrian] Hercules a'i bastwn [Hadrian] Salus ('Iechyd'/'lles') [Hadrian] Diana, duwies hela a ffrwythlondeb [Hadrian] Libertas ('rhyddid') [Hadrian] Providentia ('rhagweld') [Hadrian] Hilaritas ('gorfoledd') [Hadrian] Hadrian (117-38) Hadrian (117-38) Roma - duwies/ymgnawdoliad o'r ddinas [Hadrian] Hadrian fel gubernator (llywiwr) y Byd Oceanus, ymgnawdoliad o'r afon sy'n amgylchynu'r ddaear [Hadrian] Hadrian (117-38) Virtus ('gwroldeb') [Trajan] Hadrian yn cael ei fabwysiadu fel etifedd Trajan [Hadrian] Felicitas ('hapusrwydd') [Trajan] Anrhydeddu tad Trajan Colofn Trajan, Rhufain - sy'n dal i sefyll heddiw Llumanau milwrol [Trajan] Cerflun marchog o Trajan Trajan mewn gorymdaith orfoleddus Ymgnawdoliad o dalaith Arabia, gyda chamel [Trajan] Tlws o arfau [Trajan] Ceres, duwies amaethyddiaeth [Trajan] Dacian wedi'i drechu [Trajan] Tlws o arfau a Dacian wedi'i ddal [Trajan] Via Traiana, ffordd newydd yn ne'r Eidal [Trajan] Spes ('gobaith') yn dal blodyn [Trajan] Mawrth, duw rhyfel [Trajan] Concwest Dacia [Trajan] Tragwyddoldeb, yn dal yr haul a'r lloer [Trajan] Trajan (98-117) Hercules, yn gwisgo croen llew ac yn dal pastwn [Trajan] Nerva (96-8) Minerva [Domitian Augustus] 'Cytgord y byddinoedd' [Nerva] Domitian, Augustus (81-96) Julia Titi, merch Titus a chariad Domitian Titus, Augustus (79-81) Venus [Titus Augustus] Blaidd gyda Romulus a Remus [Domitian Caesar] Pegasus [Domitian Caesar] Iau [Vespasian] Vespasian Vespasian Judaea - atal y gwrthryfel Iddewig [Vespasian] Vespasian (69-79), cyn-gadlywydd Legio II Augusta Vitellius (OC 69) Vitellius (OC 69) Otho (OC 69) a'i wig drawiadol Iau, Pennaeth y Duwiau [Nero] Nero (OC 54-68) Pegasus Pennau Yn wahanol i'n darnau arian ni heddiw - sydd ag un llywodraethwr yn unig arnynt ac ychydig iawn o gynlluniau gwahanol - roedd arian bath ymerodraeth Rhufain yr ail ganrif yn llawn amrywiaeth: mae celc Llanfaches yn cynnwys ceiniogau â llun 12 ymerawdwr gwahanol a phedair o'u gwragedd neu gariadon. Cynffonnau Roedd dwsinau o gynlluniau gwahanol ar gefnau'r ceiniogau - a oedd fel cronicl o amcanion, gwerthoedd a llwyddiannau ymerodrol (i'r rhai a oedd yn ddigon brwd neu lythrennog hyd yn oed, i'w deall). Roeddynt yn cynnwys: hanes a chwedloniaeth, yr ymerawdwr a'i orchestion, y fyddin, yr ymerodraeth, duwiau Rhufeinig, ymgnawdoliad o gysyniadau haniaethol, a'r byd naturiol hyd yn oed. Felly, dyma gyfle i ddod i adnabod y llywodraethwyr Rhufeinig, eu gwragedd a'u cariadon yn well, a deall y negeseuon y tu ôl i rai o'r ceiniogau mwyaf diddorol yn y casgliad. Y cyd-destun ehangach Mae'n ymddangos mai arian wedi'i gynilo oedd celc Llanfaches (yn hytrach nag arian nad oedd mewn defnydd ar y pryd) - felly ai rhan o gynilion gorfodol a dewisol ychwanegol milwr Rhufeinig oedden nhw? Neu gynilion yn sgil oes o fasnachu yn nhref gyfagos Caerwent? Beth bynnag oedden nhw, roedd cyflog milwrol yn hollbwysig i wasgaru'r arian bath newydd; mae wyth celc o gyfnod Antoninus Pius (138-61 OC) wedi'u darganfod yma yng Nghymru, a chelc Llanfaches yw'r mwyaf o bell ffordd.