Modrwyau Addurnol Rhianydd Biebrach, 8 Mai 2017 Modrwyau saffir ac aur o Penfro Modrwyau Addurnol o Silstwn Modrwyau Addurnol o Holt Mae’r grŵp olaf o fodrwyau yn yr adroddiad hwn yn llawer mwy cyndyn o ddatgelu eu cyfrinachau. Maent yn addurnol, heb arwyddeiriau na symbolau, ac er ei bod yn eithaf posib bod iddynt arwyddocâd personol i’w perchnogion, nid oes modd i ni ganfod beth oedd hynny, gwaetha’r modd. Daeth Mr Kevin Higgs o hyd i enghraifft ardderchog o fodrwy aur a saffir ym Mhenfro ym mis Chwefror 2014. Mae’r saffir wedi'i gaboli (cabosión oedd yr enw am hyn) yn hytrach na’i thorri, fel oedd yn boblogaidd yn y Canol Oesoedd, a’i roi ar osodiad chweochrog. Gwaetha’r modd, mae’r saffir wedi torri’n ddau ac wedi dod allan o’r gosodiad, ond mae ei harddwch yn dal yn amlwg. Câi saffirau eu mewnforio o Sri Lanka ac roedd pobl yn credu eu bod yn gallu gwella cur pen ac afiechydon eraill a gwarchod rhag dewiniaeth, ac felly mae’n bosib bod i’r fodrwy hon ddiben arall heblaw bod yn addurn. Mae’n rhaid bod eitem mor gostus, wedi’i mewnforio o ben draw’r byd, yn eiddo i rywun cyfoethog iawn ac mae’n demtasiwn dyfalu y gallai’r perchennog fod yn byw yng Nghastell Penfro neu’r priordy gerllaw. Nid oes gemau yn y rhan fwyaf o'r modrwyau eraill yn y dosbarth hwn. Dim ond patrymau sydd yn eu haddurno, yn amrywio o’r croeslinellu amrwd, afreolaidd ar fodrwy o arian wedi’i oreuro o’r 15fed ganrif a ganfuwyd yn Silstwn, Bro Morgannwg gan Mr Mark Watson yn 2011, i’r band llyfn, cynnil o belenni a borderi uchel ar fodrwy aur o’r cyfnod Tuduraidd cynnar a ganfuwyd yn Holt yn 2013 gan Mr A. E. Jenkins.
Darnau Arian Ffug Rhianydd Biebrach, 16 Mawrth 2017 Cafodd y person olaf ei ddienyddio am ffugio arian ym 1830 a chafodd ffugwyr oes Fictoria eu cosbi drwy alltudiaeth, carchar a llafur caled. Y gosb ar gyfer ffugio arian heddiw yw blynyddoedd yn y carchar. Fuoch chi erioed yn euog o wario darnau arian ffug? Hanner coron Siarl I ffug. Mae’r metel cyffredin rhydlyd i’w weld yn blaen drwy’r plât arian tenau. Gobeithio mai’ch ateb fydd, “naddo, siŵr iawn!”, ond a fyddech chi’n gallu adnabod arian ffug o’i weld? Yn ôl y Bathdy Brenhinol, roedd ychydig dros 2.5% o’r darnau punt a oedd yn cael eu defnyddio yn 2015 yn rhai ffug, felly sawl un ohonom ni sydd wedi torri’r gyfraith heb yn wybod i ni drwy drafod arian ffug? Nid problem fodern mohoni, chwaith. Efallai y synnwch o glywed bod darnau arian ffug wedi bod yn achosi pen tost i’r awdurdodau ers miloedd o flynyddoedd – ers i ni ddechrau defnyddio arian a dweud y gwir. O bryd i’w gilydd, bydd pobl sydd wedi dod o hyd i geiniogau gyda datgelydd metel yn hysbysu’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) amdanynt ac yn cael gwybod bod rhywbeth o’i le - ac mai ceiniogau ffug ydynt. Yn 2015, o’r 679 o ddarnau arian a ddaeth at sylw’r Cynllun, barnodd arbenigwyr Amgueddfa Cymru mai darnau ffug cyfoes oedd saith ohonynt. Disgrifiwyd llawer o’r lleill fel rhai ‘afreolaidd’ ac felly roedd y rhain hefyd wedi’u cynhyrchu o dan amgylchiadau amheus. Un o’r darnau ffug oedd hanner coron Siarl I, a gafodd ei darganfod gan Mr Nick Mensikov ym Meisgyn, Rhondda Cynon Taf. Darn arian yw hanner coron, ond roedd hi’n amlwg mai un ffug oedd hanner coron Mr Mensikov oherwydd bod cyrydiad yn dangos mai darn o aloi copr wedi’i orchuddio â haen denau o arian ydoedd. Fel newydd, byddai wedi ymddangos yn ddigon dilys i chi a fi, ond byddai’n werth llai o lawer na gwir werth hanner coron, sef deuswllt a chwe cheiniog (neu un wythfed o bunt). Mae deuddeg darn arian ffug o gyfnod teyrnasiad Siarl I wedi cael eu darganfod yng Nghymru a’u hadrodd i PAS Cymru ers 2009, mwy o lawer nag unrhyw frenin neu frenhines arall, ond mae’r mwyafrif helaeth yn hŷn o lawer ac yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid, o’r ganrif gyntaf i ddechrau’r bumed ganrif OC. Mae un o’r darnau hanner coron Siarl I hyn yn un ffug hefyd. Allwch chi ddweud pa un? Pwy oedd yn gwneud arian ffug, a pham? Câi darnau arian ffug eu cynhyrchu am sawl rheswm yn y gorffennol. Weithiau, pan nad oedd digon o’r ceiniogau gwerth is, byddai pobl yn mynd ati i’w cynhyrchu’n answyddogol er mwyn gwneud yn iawn am y diffyg. Ym Mhrydain y Rhufeiniaid, roedd yr arfer hwn mor gyffredin fel ei bod yn bosibl bod llawn cymaint o ddarnau arian ffug yn cael eu defnyddio â rhai iawn ar rai cyfnodau. Ar ôl i Claudius lanio yma yn 43 OC, hwyrach fod y fyddin Rufeinig ei hun wedi bod yn gyfrifol am lawer o’r arian ‘afreolaidd’ hwn. Weithiau byddai llywodraethau’n goddef yr arian ffug fel rhywbeth annymunol ond angenrheidiol. Mewn achosion eraill, byddai pobl yn ffugio darnau arian am un rheswm syml - i wneud elw. Wrth gwrs, nid ar chwarae bach roedd gwneud hyn. Roedd angen cyflenwad o fetel, ffwrnes neu grwsibl, ac offer o bob math, yn cynnwys deiau neu fowldiau gyda chopi digon da o’r darn arian i’w atgynhyrchu wedi’i ysgythru arnynt. Roedd hyn yn golygu bod mwy nag un person yn rhan o’r fenter gan amlaf, a bod angen rhywfaint o fuddsoddiad ariannol cyn cychwyn. Felly nid gobaith olaf dynion neu fenywod tlawd heb unrhyw ffordd arall o gael arian oedd y mentrau hyn. Roedd rhai ‘bathwyr’, eisoes yn unigolion cefnog. Ym 1603, darganfuwyd menter fathu yng Nghaer Duncannon yn Iwerddon. Daethpwyd o hyd i fowldiau, darnau o bres, crwsiblau, ynghyd â chemegau a golosg, yn nesg cadlywydd y gaer, Syr John Brockett. Roedd Syr John wedi bod yn cynhyrchu darnau arian Seisnig a Sbaenaidd ffug, a chafodd fynd o flaen ei well am frad. Doedd dim bwriad defnyddio rhai o’r darnau ffug fel arian bob dydd, serch hynny. Cyn belled yn ôl â’r 16eg ganrif, roedd hynafiaethwyr a chasglwyr wedi dechrau ymddiddori mewn hen ddarnau arian, ac o ganlyniad dechreuodd rhai unigolion diegwyddor wneud busnes o gyflenwi darnau ffug i demtio’r diniwed. Yn Llundain ar ddechrau oes Fictoria, bu dyn o’r enw Edward Emery yn gyfrifol am ychwanegu 5–7,000 o ddarnau ffug o’r oesoedd canol a chyfnod y Tuduriaid at y farchnad casglwyr. Roedd darnau arian Rhufeinig yn boblogaidd tu hwnt hefyd, a chafodd darn ffug a gynhyrchwyd yn yr oes fodern ei ddarganfod gan Mr Rogers ym Mrynbuga yn 2007. Roedd wedi’i wneud o aloi metal cyffredin gwyn er mwyn edrych fel arian. Tybed a wnaeth y perchennog ei daflu i ffwrdd yn ei ddicter pan sylweddolodd ei fod wedi cael ei dwyllo? Sut roedd darnau arian ffug yn cael eu creu? Roedd dau brif ddull o gynhyrchu darnau arian ffug - eu curo o ddeiau a oedd wedi’u dwyn neu eu ffugio, neu eu castio mewn mowldiau. Roedd menter bathu darnau arian yn Iwerddon ym 1601 yn defnyddio deiau sialc a metel i guro’r darnau, a oedd wedi’u gwneud o aloi a oedd yn cynnwys digon o dun i greu’r lliw arian angenrheidiol, ond nid oedd y darnau, wrth reswm, yn cynnwys unrhyw fetel gwerthfawr. Roedd hyn yn amlwg yn waith swnllyd ac felly roedd mentrau o’r fath yn aml wedi’u lleoli mewn ardaloedd prysur fel canol trefi lle byddai’r sŵn a’r gweithgarwch yn cael eu celu gan y mynd a’r dod ar y strydoedd, neu mewn mannau anghysbell y byddai pobl yn annhebygol o fynd iddynt. Dyma oedd dewis y ffugwyr Rhufeinig a oedd wrthi’n bathu arian ffug yn y mwynglawdd plwm yn Nraethen, ger Caerffili, lle daethpwyd o hyd i ddarnau arian, y ‘fflaniau’, neu’r darnau metel gwag, a ddefnyddiwyd i guro’r darnau ffug, yn ogystal â’r ffyn metel y torrwyd y fflaniau oddi arnynt. Darganfuwyd yr eitemau hyn o amgylch lle tân, ac ni allwn ond dyfalu pa mor boeth, annifyr a pheryglus oedd creu darnau arian o dan y ddaear fel hyn. Roedd castio’n broses wahanol, ond roedd gofyn cael ffynhonnell bwerus o wres serch hynny am fod angen metel tawdd. Gwnaed argraff o ddwy ochr darn arian go iawn mewn clai, cwyr neu ludw. Yna, ar ôl iddynt galedu byddai’r mowldiau’n cael eu rhoi at ei gilydd a’u llenwi ag aloi metel tawdd. Mae modd dweud bod rhai darnau arian wedi cael eu castio am nad yw’r sianel lle cafodd y metel ei dywallt wedi cael ei thorri i ffwrdd neu ei llyfnu yn iawn. Mae digon o dystiolaeth i ddangos bod y dull hwn o ffugio ar waith yn Llundain adeg y Rhufeiniaid, yn cynnwys y darnau a gastiwyd eu hunain (mewn aloi efydd neu dun lliw arian yn aml) ynghyd â channoedd o fowldiau. Nid defnydd cyfrwys o aloiau oedd yr unig ffordd o ffugio metel drudfawr er mwyn creu darnau arian a oedd yn argyhoeddi (roedd rhai’n cynnwys arsenig er mwyn gwynnu’r metel!). Roedd rhai darnau – fel yr hanner coron Siarl I y soniwyd amdani gynt – yn cael eu gwneud o fetelau cyffredin ac yna’n cael eu platio â haen denau o arian neu aur er mwyn iddynt edrych fel y dylent. Roedd darnau ffug yr Oesoedd Canol yn aml yn defnyddio techneg o’r enw euro â thân. Byddai darn gwag o fetel cyffredin yn cael ei rwbio â chymysgedd o aur a mercwri ac yna’n cael ei gynhesu. Byddai’r mercwri’n anweddu a’r aur yn cael ei fondio i wyneb y metel. Yna byddai modd curo’r darn rhwng y deiau. Yn amlwg, roedd y broses hon yn gofyn am rywfaint o sgil dechnegol, ac mae yna dystiolaeth fod ffugwyr yn arbrofi gyda dulliau a fyddai’n cael eu defnyddio at ddibenion mwy cyfreithlon maes o law. Gwelwyd bod darn arian ffug yn dyddio o deyrnasiad Wiliam III (1689–1702) wedi cael ei wneud gan ddilyn enghraifft gynnar o dechneg platio Sheffield. Byddai plât copr yn cael ei rolio neu ei forthwylio rhwng dwy haen denau o arian, cyn torri’r darnau arian gwag ohonynt. Yna, byddai’r ymylon yn cael eu gorchuddio ag aloi copr ac arian cyn i’r darnau gwag gael eu curo gyda deiau swyddogol wedi eu smyglo allan o fathdy Llundain. Byddai’r aur a’r arian oedd eu hangen ar gyfer y platio yn cael eu cyflenwi drwy docio arian go iawn (a oedd yn drosedd ynddo’i hun) yn ogystal â thoddi darnau o blât neu ddarnau arian eraill. Cosbau Roedd y cosbau llym ar gyfer ffugio arian yn adlewyrchu natur ddifrifol y drosedd ond hefyd pa mor anodd oedd dod o hyd i’r troseddwyr. Fel llawer o gosbau yn y cyfnod cyn fodern, roeddent yn gosbau corfforol eu natur. Yn yr hen Rufain, roedd yn drosedd ddifrifol iawn, a oedd yn gyfystyr â brad, a’r gosb oedd alltudiaeth neu gaethwasiaeth os oeddech chi’n lwcus neu, fel arall, byddech yn cael eich croeshoelio. Ar ddechrau’r 4edd ganrif, cyflwynodd yr Ymerawdwr Cystennin – sy’n enwocach am wneud Cristionogaeth yn grefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig – losgi fel cosb i ffugwyr. Yn Lloegr yn y 10fed ganrif, o dan y brenin Athelstan (927–939), byddai’r ffugiwr yn colli llaw, ond aeth un o’i olynwyr Normanaidd, Harri I (1100–1135), un yn well. Ac yntau’n amau bod gweithwyr ei fathdy swyddogol yn cynhyrchu arian afreolaidd yn ddistaw ar y slei ac yn anfodlon â safon yr arian rheolaidd, gorchmynnodd iddynt ddod i Gaer-wynt i ddathlu’r Nadolig a thorrodd law dde a cheilliau pob un ohonynt i ffwrdd. O dan Edward I a brenhinoedd diweddarach, marwolaeth drwy grogi oedd y gosb arferol i ddynion, gyda menywod yn cael eu llosgi a’u tagu. Dioddefodd tair anffodus y gosb erchyll hon yng Nghaeredin yn yr 16eg ganrif, ac ym 1560 cafodd Robert Jacke, masnachwr o Dundee, ei grogi a’i chwarteru, dim ond am fewnforio arian ffug. Cafodd 19 o bobl y gosb eithaf am ffugio arian ym 1697 pan oedd Syr Isaac Newton yn Warden y Bathdy Brenhinol.
199 o Geiniogau Arian - Celc y Fenni Edward Besly, 6 Ionawr 2017 Rhan o gelc y Fenni fel y'i darganfuwyd. Yn Ebrill 2002 ffeindiodd tri chwilotwr metal (John L Jones, Richard Johns a Fred Edwards) ddarganfyddiad heb ei ail mewn cae ger y Fenni, Sir Fynwy: celc gwasgaredig o 199 o geiniogau arian. Roedd y celc yn cynnwys darnau arian y brenin Eingl-Sacsonaidd Edward Gyffeswr (1042-66) a Gwilym Goncwerwr, sef y Norman, Wiliam I (1066-87). Cafodd y rhan o Gymru lle y darganfuwyd y darnau arian ei chyfeddiannu yn fuan wedi i'r Normaniaid orchfygu Lloegr. Codwyd cestyll cynnar yng Nghaerllion a Chas-gwent ac mae'r celc yn dyddio o'r cyfnod cyn sefydlu tref gyfagos y Fenni yn y 1080au. Pan gafodd ei ddarganfod roedd y celc wedi'i orchuddio â chrawen drwchus o waddodion haearn. Yn y gwaddodion hyn cafwyd hyd i olion defnydd oedd yn awgrymu bod y darnau arian mewn cwdyn brethyn yn wreiddiol. Ni wyddys p'un ai a oedd yr arian wedi'i guddio'n fwriadol, neu wedi'i golli, ond yr un peth sy'n sicr yw bod ei berchennog yn dlotach o lawer: byddai un swllt ar bymtheg a saith geiniog (16s 7c, neu £0.83c) gyfwerth â chyflog sawl mis yn hanes y rhan fwyaf o bobl. Bathu Arian Mae darnau arian Eingl-Sacsonaidd a Normanaidd yn ffynonellau hanesyddol unigryw: ar bob un datgelir enw'r lle y cafodd ei fathu a'r bathwr arian fu'n gyfrifol am y gwaith. Roedd y boblogaeth o fewn cyrraedd rhwydwaith o fathdai ar hyd a lled Lloegr (nid oedd bathdy yng Nghymru) a bob hyn a hyn câi'r arian a ddefnyddid ei gasglu ynghyd a'i ailfathu gan ddefnyddio cynllun newydd. Wrth reswm, roedd y brenin yn hawlio ei gyfran bob tro. Mae celc y Fenni'n cynnwys cynnyrch 36 o fathdai hysbys, ynghyd â rhai cyhoeddiadau afreolaidd na ellir mo'u lleoli ar hyn o bryd. Darnau arian o fathdai'r ardal, megis Henffordd (34 darn) a Bryste (24), yw'r rhai mwyaf cyffredin; yn fwy niferus na'r rhai o fathdai mawr fel Llundain (19) a Chaer-wynt (20). Ar y llaw arall, ceir darnau arian unigol o fathdai bach fel Bridport (Dorset), neu rai pell i ffwrdd fel Thetford (Norfolk) a Derby. Mae celciau o orllewin Prydain yn brin iawn ac felly mae celc y Fenni wedi dwyn i'r amlwg nifer o gyfuniadau na chawsant eu cofnodi o'r blaen o ran bathdai, bathwyr arian a chyhoeddiadau. Yn ôl pob tebyg, ni chawn wybod sut cyrhaeddodd y darnau arian hyn gornel cae yn Sir Fynwy ond, yn ogystal ag ychwanegu at ein gwybodaeth am arian bath, maent yn bwrw goleuni ar faterion ariannol yn yr ardal wedi'r goncwest Normanaidd. Cafodd y celc, sydd ym meddiant Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, ei ddatgan yn drysor o dan y ddeddfwriaeth gyfoes, ac mae'r darganfyddwyr wedi cael eu gwobrwyo. Abergavenny Hoard Edward the Confessor, 'Expanding Cross'; Llundain, Lifing Edward the Confessor, 'Expanding Cross'; Llundain, Lifing Edward, 'Pointed Helmet'; Llundain, Eadred Edward, 'Pointed Helmet'; Llundain, Eadred Edward, 'Sovereign'; Henffordd, Eadric Edward, 'Sovereign'; Henffordd, Eadric Edward, 'Sovereign'; Taunton, Brihtric Edward, 'Sovereign'; Taunton, Brihtric Edward, 'Sovereign'; Caerwrangon, Garulf Edward, 'Sovereign'; Caerwrangon, Garulf Edward, 'Sovereign/Hammer Cross'; Taunton, Brihtric Edward, 'Sovereign/Hammer Cross'; Taunton, Brihtric Edward, 'Hammer Cross'; Cricklade, Æthelwine Edward, 'Hammer Cross'; Cricklade, Æthelwine Edward, 'Hammer Cross'; Caerwysg, Wicing Edward, 'Hammer Cross'; Caerwysg, Wicing Edward, 'Hammer Cross'; Tamworth, Brininc Edward, 'Hammer Cross'; Tamworth, Brininc Edward, 'Bust Facing'; Caerloyw, Wulfweard Edward, 'Bust Facing'; Caerloyw, Wulfweard Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Ægelric Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Ægelric Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Ælfwi Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Ælfwi Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Earnwi Edward, 'Bust Facing'; Henffordd, Earnwi Edward, 'Bust Facing'; Efrog, Iocetel Edward, 'Bust Facing'; Efrog, Iocetel William I, 'Bonnet'; Caer, Ælfsige William I, 'Bonnet'; Caer, Ælfsige William, 'Two Sceptres/Two Stars'; Wareham, Sideman William, 'Two Sceptres/Two Stars'; Wareham, Sideman William, 'Two Stars'; Bryste, Ceorl William, 'Two Stars'; Bryste, Ceorl William, 'Two Stars'; Henffordd, Leofstan William, 'Two Stars'; Henffordd, Leofstan William, 'Two Stars'; Llundain, Brihtric William, 'Two Stars'; Llundain, Brihtric William, 'Two Stars'; Sandwich, Ælfget William, 'Two Stars'; Sandwich, Ælfget William, 'Two Stars'; irregular issue William, 'Two Stars'; irregular issue William, 'Sword'; Wilton, Ælfwine William, 'Sword'; Wilton, Ælfwine William, 'Profile Right'; Rhydychen, Heregod William, 'Profile Right'; Rhydychen, Heregod Darllen Cefndir Conquest, Coexistence, and Change. Wales 1063-1415 gan R. R. Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1987). The Norman Conquest and the English Coinage gan Michael Dolley. Cyhoeddwyd gan Spink and Son (1966).
John Stuart, 3ydd Iarll Bute (1713-1792): Bute's Botanical Tables Heather Pardoe, 30 Medi 2013 Llun o'r Trydydd Iarll Bute (atgynhyrchwyd o Temple of Flora (1807) gan Robert Thornton). Copi Botanical Tables yr Amgueddfa. Yn 2013 rydym yn dathlu trichanmlwyddiant geni'r Trydydd Iarll Bute, ffigwr pwerus ym Mhrydain y ddeunawfed ganrif a oedd yn enwog fel gwleidydd ac fel botanegydd. Un o'i gyfraniadau mwyaf i fotaneg oedd llyfr o'r enw Botanical Tables. Mae Amgueddfa Cymru yn ffodus i berchen ar set gyflawn o'r gwaith prin a chywrain hwn. Roedd John Stuart, 3ydd Iarll Bute (1713-1792), yn gyfaill mynwesol i Siôr III. Er yn gyndyn i wneud, aeth Bute yn wleidydd yn gynnar yn ei yrfa, a hynny yn dilyn anogaeth gan ei ffrind brenhinol. Ym mis Mai 1762, fe'i hetholwyd yn Brif Weinidog. Er hyn, profodd Bute yn arweinydd amhoblogaidd ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Mae'n rhaid ei fod wedi teimlo rhyddhad i encilio o fywyd cyhoeddus i'w dŷ yn Highcliffe, Hampshire, gan ymroi i'w ddiddordeb mewn botaneg yn ei lyfrgell fotanegol anferth. System dacsonomaidd newydd Carl Linnaeus Bu Bute yn gweithio ar lawer o gyhoeddiadau botanegol a bu'r tacsonomydd enwog o Sweden, Carl Linnaeus, yn ddylanwad mawr arno. Cyhoeddiad enwocaf Bute oedd Botanical Tables. Ei deitl llawn oedd; Botanical Tables containing the different familys of British Plants distinguished by a few obvious parts of Fructification rang'd in a Synoptical method. Cyhoeddwyd y tablau ym 1785 a'r bwriad oedd esbonio egwyddorion system dacsonomaidd newydd a dadleuol Linnaeus. Roedd mwyafrif y darluniau yn y Botanical Tables gan yr arlunydd John Miller (1715-1790). Roedd yn dasg anferth, yn cynnwys dros 600 o ddarluniau o'r organau rhywiol wedi'u rhifo yn unol â system Linnaeus. Mae 9 cyfrol ym mhob set o dablau ac maent yn sôn am yr holl blanhigion sydd ym Mhrydain – gan gynnwys mwsoglau, glaswelltau, blodau a choed, ynghyd â chen, ffwng a gwymon – ac mae'n cynnwys darluniau manwl o bob planhigyn a restrwyd. Argraffwyd deuddeg set o'r Botanical Tables gan yr Arglwydd Bute a thalodd £1,000 amdanynt o'i boced ei hun. Rhwymwyd y mwyafrif ohonynt mewn lledr croen llo gydag arfbais y teulu Bute yn y canol. Cafodd dwy set eu paratoi yn arbennig ar gyfer y teulu brenhinol a'u rhwymo mewn croen gafr coch gydag aur ar ymyl y tudalennau ond heb arfbais Bute. Botaneg fel difyrrwch ffasiynol Roedd Bute yn awyddus iawn i esbonio'r system dacsonomeg i fenywod, oherwydd teimlai fod y "rhan hyfryd hon o natur" yn addas ar gyfer y "rhyw deg"; gyda'u nawdd hwy, byddai botaneg yn dod yn ddifyrrwch ffasiynol ymhen dim o dro. Anrhydeddodd y dymuniad hwn gan gyflwyno saith cyfrol o'r Botanical Tables i fenywod: Y Frenhines Charlotte (gwraig Brenin Siôr III) Catherine II (Ymerodres Rwsia) Duges Portland Mrs Jane Barrington Y Foneddiges Elizabeth (Betty) Mackenzie Y Foneddiges Anne Ruthven Y Foneddiges Jane Macartney. Roedd y tair olaf yn perthyn iddo. Cadwodd Bute ddwy gyfrol ac anfonodd un gyfrol yr un at y botanegydd blaenllaw o Brydain a ddaeth yn Gadeirydd y Gymdeithas Frenhinol, Joseph Banks (1743-1829), y botanegydd blaenllaw o Ffrainc, George Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788) a chyfaill i Bute, Louis Dutens (1730-1812). Mae casgliad Amgueddfa Cymru yn cynnwys darluniau a thablau rhydd a ystyrir yn frasluniau neu'n ddeunydd a oedd yn cael ei baratoi i'w gyhoeddi maes o law. Er hyn, ym 1994, prynodd yr Amgueddfa gopi cyflawn o'r Botanical Tables mewn arwerthiant llyfrau pwysig iawn o lyfrgell Beriah Botfield yn Christie's. Wrth geisio darganfod pa rai o'r 12 set wreiddiol sydd ym meddiant yr Amgueddfa, mae ein hymchwilwyr wedi llwyddo i olrhain 10 ohonynt, ac mae modd cysylltu 7 o'r rheiny â'r sawl a'u derbyniodd yn wreiddiol. Efallai, rhyw ddydd, y bydd rhywun yn dod o hyd i'r ddau sy'n weddill ar silff lychlyd mewn hen lyfrgell. Byddwn wedyn yn gwybod i sicrwydd lle mae pob copi. Derbyniodd Y sawl a dderbyniodd gopi o'r Botanical Tables: Y Frenhines Charlotte (gwraig Brenin Siôr III) [copi croen gafr coch wedi'i rwymo] Catherine II (Ymerodres Rwsia) [copi croen gafr coch wedi'i rwymo] Duges Portland Mrs Jane Barrington Y Foneddiges Elizabeth (Betty) Mackenzie, aelod o'r teulu Y Foneddiges Anne Ruthven, aelod o'r teulu Y Foneddiges Jane Macartney, aelod o'r teulu Syr Joseph Banks (1743-1829) George Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788) Louis Dutens (1730-1812) Cadwyd gan Drydydd Iarll Bute Cadwyd gan Drydydd Iarll Bute Lluniau Botanical Tables gan yr Arglwydd Bute Yn dangos gwahanol forffolegau ffrwythau a chonau. Yn dangos gwahanol forffolegau hadlestri gan gynnwys capsiwlau a chodennau. Yn dangos gwahanol forffolegau blodau. Yn dangos y gwahanol addasiadau mewn planhigion i'w hamddiffyn rhag niwed. Yn dangos y gwahanol fathau o ddail. Yn dangos y gwahanol fathau o flagur dail. Yn dangos y gwahanol fathau o goesynnau noddlawn sydd mewn planhigion, yn enwedig cacti a phlanhigion suddlon eraill. Yn dangos y gwahanol fathau o goesynnau a boncyffion sydd mewn planhigion. Datura stramonium L. (Afalau Dreiniog). Yn dangos y blodau a manylion y ffrwyth. Atropa belladonna L. (Codwarth). Yn dangos strwythur y blodyn a phen yr hedyn. Dianthus caryophyllus L. (Penigan Pêr). Yn dangos manylion y blodyn a phen yr hedyn. Phaseolus coccineus L. (Ffa dringo). Yn dangos manylion y blodyn a'r goden ffa. Caltha palustris L. (Gold y gors). Yn dangos strwythur y blodyn a'r hadau. Cyfeiriadau Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. (gol) 2003. Catalogue of Botanical Prints and Drawings held by the National Museums & Galleries of Wales. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, tud. 319. Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. 2009. Bute's Botanical tables: dictated by Nature. Archives of natural history 36 (2): 277–298. Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. (paratoi ar gyfer) Bute's Botanical Tables (1785). Luton Hoo. Cyhoeddiad Arbennig i ddathlu'r Trichanmlwyddiant.
Dannedd Neanderthalaidd o Ogof Pontnewydd 9 Gorffennaf 2013 Adluniad ar ffurf paentiad o trigolion Neanderthalaidd cynnar. Gorfant plentyn tua 9 oed. Dant Neanderthalaidd cynnar (chwith), a llun pelydr-X (dde). Mae'r llun pelydr-X yn dangos ceudod bywyn mawr a fu'n gymorth i archaeolegwyr adnabod dannedd Pontnewydd a'u priodoli i ddynion Neanderthalaidd. Cloddiwyd Ogof Pontnewydd gan archaeolegwyr Amgueddfa Cenedlaethol Cymru rhwng 1978 a 1995. Codwyd y mur ar draws mynedfa'r ogof yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pryd y câi Ogof Pontnewydd ei defnyddio fel storfa arfau. Ogof Pontnewydd Wrth gloddio yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych, cafodd archaeolegwyr Amgueddfa Cenedlaethol Cymru hyd i'r gweddillion dynol cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru, esgyrn yn dyddio'n ôl tua 230,000 o flynyddoedd. Ym mherfeddion yr ogof y darganfuwyd y rhan fwyaf o'r pedwar dant ar bymtheg a gafodd eu sgubo danddaear gan ddŵr tawdd adeg enciliad y llen iâ a orchuddiai Gymru gyfan, yn ôl pob tebyg, yn ystod Oes yr Iâ. Yn ôl arbenigwyr yn yr Amgueddfa Byd Natur, Llundain, mae'r dannedd yn nodweddiadol o ddynion Neanderthalaidd cynnar. Neanderthalaidd cynnar Roedd y bobl Neanderthalaidd yn un gangen o goeden esblygol yr hil ddynol y credir iddi ddarfod tua 36,000 o flynyddoedd yn ôl. Yr un oedd eu hynafiad hwy â'r rhywogaeth y perthynwn ni iddi, ond ni esblygodd yr hil ddynol bresennol o'r bobl Neanderthalaidd. Roedd y dynion Neanderthalaidd yn gymharol fyr a byrdew a chanddynt wrymiau o dan eu haeliau, genau mawr sgwâr a dannedd sy'n fwy na'n rhai ni heddiw. Drwy astudio'r dannedd a ddarganfuwyd yn Ogof Pontnewydd sylweddolwyd eu bod yn cynrychioli pump o unigolion. Dannedd Neanderthalaidd Dengys lluniau pelydr-X o'r holl ddannedd yr un nodwedd ddiddorol, sef tawrodontiaeth - dannedd ac iddynt geudodau bywyn mawr a gwreiddiau llai. Mae tawrodontiaeth yn nodwedd neilltuol (ond nid unigryw) o ddannedd Neanderthalaidd, a chyffredinolrwydd y cyflwr hwn sydd wedi darbwyllo arbenigwyr mai pobl Neanderthalaidd oedd trigolion Ogof Pontnewydd ac nid bodau dynol cynharach. Roedd plant ifanc ac oedolion ymhlith y rhai oedd yn byw yn Ogof Pontnewydd. Y darganfyddiad mwyaf cyflawn y cafwyd hyd iddo ar y safle yw darn o orfant plentyn tua 9 oed. Yn y rhan hon o'r ên gellir gweld un dant sugno, sydd wedi'i dreulio'n arw, y drws nesaf i gilddant arhosol sydd newydd ymddangos. Bwyd y Neanderthal Ni chafwyd hyd i'r dannedd ar eu pennau eu hunain y tu mewn i'r ogof. Mewn cysylltiad â hwy, darganfuwyd arfau cerrig ac esgyrn anifeiliaid ag olion bwtsiera ar rai ohonynt - tystiolaeth mai'r esgyrn hyn oedd gweddillion prydau bwyd y dynion Neanderthalaidd cynnar a drigai yn yr ogof. Ni wyddys p'un ai a gafodd y bodau dynol hyn eu claddu'n wreiddiol mewn beddau yn yr ogof. Gwaetha'r modd, mae'r grymoedd a fu'n gyfrifol am gadw'r dannedd yng nghrombil Ogof Pontnewydd wedi dinistrio unrhyw olion o'r man lle roeddent yn gorwedd yn wreiddiol. Darllen Cefndir Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales gan S. Green ac E. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1991). In search of the neanderthals: solving the puzzle of human origins gan C. Stringer a C. Gamble. Cyhoeddwyd gan Thames and Hudson (1993). Pontnewydd Cave: a lower Palaeolithic hominid site in Wales: the first report gan H. S. Green. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1984). Neanderthals in Wales: Pontnewydd and the Elwy Valley Caves gan by Stephen Aldhouse-Green, Rick Peterson and Elizabeth A. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Cymru a Oxbow Books (2012).