Caerdydd Ganoloesol 4 Mai 2007 Prifddinas Cymru Map John Speed 1610. Mae map Speed o Gaerdydd yn dangos sawl agwedd o ddatblygiad y ddinas, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r nodweddion a ddisgrifir yn yr erthygl yma. Wrth deithio o gwmpas prifddinas Cymru, mae'n hawdd anghofio i sylfeini'r ddinas fodern gael eu gosod sawl canrif yn ôl. Ffurfiwyd calon y ddinas yn y canoloesoedd, ac mae olion y cyfnod i'w gweld hyd heddiw, yn enwedig yng nghyffiniau'r castell. Mae Caerdydd yn gorwedd yng nghanol tair afon, y Taf, yr El'i a'r Rhymni. Bu'r trigolion cyntaf yn rheoli masnach a symudiad ar hyd yr afonydd hyn, oedd yn golygu bod ganddynt bŵer dros ardal helaeth. Caerdydd Rufeinig Castell Caerdydd fel y byddai wedi bod yn y 14eg ganrif. Mae rhan fewnol y banc canoloesol yn dal i sefyll ar dir y castell. Wrth edrych yn ofalus mae'r sylfeini ar gyfer y mur dwyreiniol canoloesol i'w weld o hyd ar ben y banc. Y bobl gyntaf i fanteisio ar y lleoliad hwn oedd y Rhufeiniaid a sefydlodd gaer yma tua OC55-60. Cafodd y gaer ei hailadeiladu sawl gwaith nes i furiau carreg gymryd lle'r rhai pren ganol i ddiwedd y 3edd ganrif OC. Roedd y gaer anferth yma'n amddiffyn ei thrigolion nes i'r Rhufeiniaid adael Prydain tua OC 350-375. Rhoddodd muriau carreg y gaer ffynhonnell deunydd adeiladu eithriadol o dda i genedlaethau'r dyfodol. Un peth arall a adawodd y Rhufeiniaid i ni oedd rhwydwaith o ffyrdd oedd yn cysylltu Caerdydd â llefydd cyfagos. Presenoldeb yr olion hyn ar leoliad oedd o werth naturiol eithriadol fu'n gyfrifol am ddenu adeiladwyr canoloesol diweddarach. Y castell canoloesol Tŵr Beauchamp, Castell Caerdydd. Adeiladodd Richard Beauchamp, Iarll Warwick, y tŵr yma yn y 15fed ganrif i amddiffyn porth y gorllewin. Roedd y tyllau ar ben y tŵr yn gadael i'r milwyr ollwng cerrig neu dân ar ben unrhyw ymosodwyr. Ychwanegwyd y meindwr anghyffredin yn y 19eg ganrif. Heddiw, mae olion Rhufeinig Caerdydd ar goll i raddau helaeth o dan y castell canoloesol. Daw gwreiddiau'r castell o ddiwedd y 11eg ganrif, adeg goresgyniad y Normaniaid ym Morgannwg. Dechreuodd Wiliam Goncwerwr y gwaith ar ôl dychwelyd o Dyddewi yn Sir Benfro ym 1081. Mae arysgrif ar ddarn arian a ffeindiwyd o fewn muriau'r castell yn cadarnhau hyn, ac yn awgrymu hwyrach bod William wedi sefydlu bathdy yn y castell. Castell pren oedd ar y safle tan y 12fed ganrif pan adeiladodd Robert Consol, Dug Caerloyw, y castell carreg. Robert adeiladodd waliau gorllewinol a deheuol y Castell hefyd, gan adeiladu ar ben olion muriau'r gaer Rufeinig. Tua dechrau'r 15fed ganrif, cafodd y castell, y dref a'r maestrefi eu dinistrio gan fyddin Owain Glyndŵr. Roedd y castell yn adfail nes iddo ddod i feddiant Richard Beauchamp, Iarll Warwick, ym 1423. Adnewyddodd Beauchamp yr amddiffynfeydd ac adeiladau'r castell, ac adeiladu'r ystafelloedd gorllewinol a'r tŵr wythochrog, sef tŵr Beauchamp. Mae rhan helaeth o weddill y castell a'r muriau'n dyddio o'r 19eg ganrif, pan gyflogodd Ardalydd Bute ŵr o'r enw William Burges i adfer, ailwampio ac ailadeiladu'r safle. Y dref ganoloesol Mur y castell, Caerdydd. Adeiladwyd Neuadd Sir Caerdydd y tu fewn i furiau'r castell yn y 14eg neu'r 15fed ganrif. Roedd hi'n dal i gael ei defnyddio fel canolfan weinyddol y dref tan y 17eg ganrif. Roedd y dref ganoloesol yn ymledu allan o Borth Ddeheuol y castell ar hyd y Stryd Fawr a Heol Eglwys Fair. Mae'n ddiddorol nodi bod y Stryd Fawr yn cyd-redeg â'r porth deheuol Rhufeinig yn hytrach na'r un canoloesol, sy'n awgrymu ei fod yn dyddio o gyfnod cynharach. Mae'n debyg i'r dref ganoloesol ddatblygu mewn dwy ran. Roedd y rhan gyntaf mewn llecyn cymharol fach rhwng Working Street a Womanby (Hummanbye) Street a daw'r ddau enw o'r hen Norseg. Credir bod 'Hummanbye' yn dod o'r hen air Norseg 'Hundemanby' sy'n golygu 'ardal y bobl estron. Mae'r dystiolaeth yma'n awgrymu bod gwreiddiau ôl-Rufeinig Caerdydd yn rhagddyddio'r goncwest Normanaidd, ond mae angen rhagor o waith cyn y gellir cadarnhau hyn. Yn ystod ail ran ei datblygiad ehangodd Caerdydd tua'r de eto. Wedyn cafodd ei chau i mewn a'i hamddiffyn gan lan a ffos, wedyn porth garreg yn y dwyrain. Afon Taf oedd yn amddiffyn y dref o'r gorllewin. Bu'r Taf yn ddylanwad mawr ar siâp Caerdydd ganoloesol. Tan y 1840au, roedd yr afon yn ystumio'n araf tua'r de, o gyfeiriad muriau'r castell. Erbyn 1610, roedd yr afon wedi cyrraedd Hummanbye Street, ac roedd yn dechrau tarfu ar eglwys y Santes Fair. Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd yr eglwys wedi cael ei dinistrio'n llwyr, a heddiw dim ond enw'r eglwys sydd ar ôl fel enw stryd. Dim ond dwy ran o'r muriau canoloesol sydd ar ôl, a'r ddwy i'r dwyrain o furiau'r castell. Mae'r cyntaf yn cynnal gwely blodau wrth ymyl mur y gaer Rufeinig, tra bod y darn mwy ar draws y ffordd y tu ôl i'r siopau. Cafodd rhan helaeth o hen sylfeini'r muriau eu dinistrio gan y canolfannau siopa anferth a lyncodd cymaint o lonydd canoloesol cul y ddinas. Cafodd maestref gyntaf Caerdydd ei hadeiladu y tu allan i Borth y Dwyrain, Cokkerton Street, sef Heol y Frenhines erbyn heddiw (er bod yr enw Crockerherbtown Lane yn dal i aros yn y lôn gul y tu ôl i Heol y Frenhines). Mae'r enw'n awgrymu mai crochenwyr ('crockers') fyddai'n gweithio yn yr ardal. Roedd hi'n beth doeth cadw'r diwydiant allan o brif ran y dref am nad yw odynau ac adeiladau pren yn cyd-fyw'n hapus iawn! Crefydd Mur y dref ganoloesol, Caerdydd. Yn anffodus, dyma'r darn gorau o furiau tref Caerdydd sy'n dal i sefyll. Mae'r mur wedi ei guddio y tu ôl i'r siopau mawr ar Heol y Frenhines. Mae Eglwys Sant Ioan yn sefyll yng nghanol Caerdydd. Daw gwreiddiau'r eglwys o gyfnod cyn y 13eg ganrif. Mae'r gwaith maen cynharaf sy'n dal i sefyll yn dyddio o'r 13eg ganrif, ac ychwanegwyd y tŵr tua'r 1470au. Cafodd rhan helaeth o'r eglwys y gwelwn ni heddiw ei ailadeiladu yn ystod y 18fed ganrif. Ar ben deheuol y dref ganoloesol roedd eglwys y Santes Fair, oedd yn gysylltiedig â Phriordy Benedictaidd y Santes Fair a sefydlwyd tua 1171. Cafodd mynachod y Priordy eu galw nôl i'w mam-eglwys, Abaty Tewkesbury, ym 1221, a dinistriwyd popeth ond yr eglwys ym 1607. I'r dwyrain o'r castell roedd anheddiad y Brodyr Llwydion, ac yn y gorllewin roedd y Brodyr Duon. Sefydlwyd y ddau tua 1256-80. Bu'r mynachod yn rhan bwysig o fywyd Caerdydd tan y 1530au pan ddiddymodd Harri VIII eu mynachlogydd. Erbyn 1610, roedd o leiaf un o adeiladau'r Brodyr Duon yn adfail, a throwyd adeilad y Brodyr Llwydion yn blasty fel cartref teulu'r Herbert. Goroesodd adfeilion y plasty tan yr 20fed ganrif pan gawsant eu dymchwel i wneud lle ar gyfer maes parcio aml lawr a bloc swyddfeydd. Darllen Cefndir Olion Tŷ'r Brodyr Duon, Caerdydd, yng Nghae Cooper wrth ymyl y castell. 'Cardiff Castle excavations, 1974-1981' gan Peter Webster. Yn Morgannwg, cyf. 25, t201-11 (1981). Cardiff Castle: its history and architecture by J. P. Grant. Cyhoeddwyd gan William Lewis (1923). Medieval Town Plans gan B. P. Hindle. Cyhoeddwyd gan Shire Archaeology (1990). The Cardiff Story. A history of the city from its earliest times to the present gan Dennis Morgan. Cyhoeddwyd gan Brown and Sons (1991).
Crochenwaith Ffrengig yng Nghymru'r Oesoedd Canol 4 Mai 2007 Jwg Saintonge o gastell Cydweli, Sir Gaerfyrddin. Llestr wedi'i addurno'n gywrain a ddarganfuwyd yng Nghaerdydd. 23.8cm (9.5 modfedd) o uchder. Jwg y cafwyd hyd iddi mewn ffynnon yng Nghastell-y-Bere, Gwynedd. 20.5cm (8.1 modfedd) o uchder. Mae ffurfiau ac addurn cywrain yn nodweddion arbennig o grochenwaith a fewnforiwyd o dde-orllewin Ffrainc yn dilyn yn ôl byddinoedd Edward I. Diolch i'r gofal a gymerwyd wrth adfer llestri toredig, gallwn fwynhau'r llestri bwrdd hardd hyn heddiw. Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd sawl ardal yn Ffrainc yn allforio crochenwaith i Brydain, yn enwedig gogledd Ffrainc, Normandi a'r Ardennes. Ond daeth y rhan fwyaf o'r crochenwaith Ffrengig y cafwyd hyd iddo yng Nghymru o gyffiniau Saintonge yn ne-orllewin Ffrainc. Gwnaed y llestri o'r ardal hon o glai mân oedd yn addas iawn ar gyfer llunio'r ffurfiau ysgafn a thenau eu muriau, megis y rhai a welir yma. Gan mai dim ond ychydig o haearn oedd yn y clai, roedd yn cynhyrchu llestr ac iddo ffabrig gwyn neu lwydfelyn wedi iddo gael ei danio. Dechreuwyd allforio'r crochenwaith o ardal Saintonge i Brydain yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg, masnach a barhaodd am ryw bum can mlynedd. Ar ddechrau'r cyfnod hwn, y Saeson oedd yn llywodraethu Wasgwyn, yr ardal gyfagos, a chafodd llawer o'r llestri y cafwyd hyd iddynt yng Nghymru eu hallforio i Brydain drwy borthladdoedd La Rochelle a Bordeaux, yn ôl pob tebyg. Roedd y llestri yn rhan o lwythi cymysg, er mai gwinoedd o Wasgwyn ac Aquitaine oedd y nwyddau pwysicaf. Cafwyd hyd i'r enghraifft gyntaf a bortreadir yma mewn tomen sbwriel yng nghastell Cydweli (Sir Gaerfyrddin) yn ystod cloddiadau yn y 1930au. Mae'r jwg wedi'i haddurno â motiff sgrôl winwydd nodweddiadol o jygiau Saintonge, ac mae'n debyg y cafodd ei thaflu i ffwrdd ynghyd â nifer o lestri mwy plaen eu gwedd. Yn ôl pob tebyg, fe'i cynhyrchwyd rhwng 1275 a 1320 ac felly mae'n dyddio o'r cyfnod wedi buddugoliaeth Edward I. Dengys y llestr hwn, sydd wedi'i addurno'n gywrain, fedrusrwydd arbennig crochenwyr Saintonge. Mae'n 25cm (9.8 modfedd) o uchder a mewn mannau dim ond 2.4mm (0.1 modfedd) yw trwch ei furiau. Yn ystod y blynyddoedd hyn daeth castell Cydweli, a arferai fod yn eiddo i deulu de Chaworth (teulu a fu'n gyfrifol am wella ei amddiffynfeydd yn sylweddol), i berchnogaeth William de Valence wedyn i Dŷ Lancaster. Aeth y perchnogion mwy diweddar hyn ati i wella ystafelloedd y castell. Mae'n bosibl mai o'r jwg hon yr arllwyswyd gwydraid o win yn y Neuadd Fawr ar gyfer un o'r perchnogion Seisnig hyn, er ei bod yn bosibl y defnyddid jygiau o'r fath yma i ddal dŵr hefyd. Gwyddys am grochenwaith Saintonge a ddaw o safleoedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys enghreifftiau gwych o Gaerdydd a Chastell-y-Bere yng Ngwynedd. At ei gilydd, cafwyd hyd i'r crochenwaith ar safleoedd arfordirol - llefydd a allai fod wedi cael eu rheoli'n rhwyddach gan y Saeson, neu lefydd cymharol hawdd i'w cyrraedd gan fasnachwyr y goresgynwyr - er bod enghreifftiau ohono wedi dod i'r golwg weithiau ar safleoedd ucheldirol anghysbell. Jwg Caerdydd: Cafwyd hyd i'r jwg hon yn ystod gwaith a wnaed yn Stryd Fawr Caerdydd yn 1893. Mae ei haddurn yn cynnwys adar, mygydau ac arfbeisiau ac maent oll yn nodweddion cyffredin ar lestri o grochendai Saintonge. Jwg Castell-y-Bere: Bu Castell-y-Bere ym meddiant y Saeson rhwng 1284 a 1294 yn unig. O ystyried pa mor aml y deuir o hyd i grochenwaith Saintonge mewn cestyll eraill a feddiannwyd gan y Saeson yng Nghymru, mae'r jwg, yn ôl pob tebyg, yn dyddio o'r cyfnod hwn. Er ei bod hi'n bosibl na chafodd y fath botiau eu gwerthfawrogi'n fawr gan eu perchnogion, o'u cymharu â llestri a wnaed o arian, efydd neu bres, maent yn enghreifftiau o grefftwaith arbennig ac yn tystio i'r cysylltiadau a fu rhwng Cymru a'r byd Ewropeaidd ehangach yn ystod yr Oesoedd Canol. Darllen Cefndir 'Kidwelly Castle, Carmarthenshire; including a survey of the polychrome pottery found there and elsewhere in Britain' gan C. Fox a C. A. R. Radford. Yn Archaeologia, cyf. 83, tt93-138 (1933). 'Medieval finds from Castell-y-Bere, Merioneth' gan L. A. S. Butler. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 123, tt78-112 (1974). Medieval pottery and metal-ware in Wales gan J. M. Lewis. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1978).
Pentan haearn Capel Garmon 4 Mai 2007 Pentan haearn Capel Garmon (Conwy). Offeryn addurniadol yw pentan haearn a ddefnyddid i gadw coed yn eu lle ar dân agored. Prif nodwedd yr enghraifft wych hon yw'r pennau a'r myngau a luniwyd fel eu bod yn ymdebygu, ar ryw olwg, i geffyl a tharw. Manylyn yn dangos un o'r pennau ar y pentan haearn. Efallai bod y pen yn cynrychioli creadur chwedlonol y ceid sôn amdano yn hanesion y rhyfelwyr, neu mae'n bosibl mai arwyddlun ydoedd o lwyth neu gymuned ei berchnogion. Llun pelydr-X o un o bennau pentan haearn Capel Garmon. Dengys y llun pelydr-X natur gymhleth gwneuthuriad y pentan haearn. (Cafodd yr ategion llorweddol a fertigol modern eu hychwanegu i sefydlogi'r pen.) Mae gwaith arbrofol wedi dangos faint o amser a'r medr yr oedd ei angen ar grefftwr i gynhyrchu pentan haearn Capel Garmon. Gwaith pen-grefftwr o'r Oes Haearn Geltaidd yw'r pentan haearn hwn o Gapel Garmon sydd wedi'i addurno â phen dau anifail corniog sy'n edrych yn groes i'w gilydd. Darganfuwyd y pentan haearn yn 1852, gan ŵr oedd yn cloddio ffos drwy fawn ar dir fferm Carreg Goedog, Capel Garmon (Conwy). Gorweddai'r pentan ar ei ochr yn ddwfn yn y mawn, rhwng dwy garreg fawr a osodwyd y naill ben iddo. Mae ei gyflwr da a'r ffaith y cafodd ei osod yn ofalus yn y ddaear yn awgrymu mai offrwm oedd i un o dduwiau'r byd Celtaidd paganaidd. Mae hyn yn gydnaws â'r arfer hirsefydlog o osod gwaith metel mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd yng Nghymru yn ystod yr Oes Efydd a'r Oes Haearn. Yn un o bâr yn wreiddiol, byddai'r pentan haearn wedi cael ei osod ar bwys aelwyd yng nghanol tŷ crwn o goed neu gerrig. Byddai'r aelwyd yn ganolbwynt naturiol ar gyfer bwyta, gwledda a thrafod a byddai'r pentan wedi bod yn amlwg i bawb ac yn destun eu hedmygedd. Mae lluniau pelydr-X diweddar o'r pentan haearn hwn, ynghyd ag ymdrech gof i greu copi ohono, wedi dangos bod ei wneuthurwr yn grefftwr o fri, a feddai ar y gallu i drin a llunio haearn. Yn ôl un amcangyfrif, mae'n bosibl y byddai wedi cymryd o leiaf dair blynedd a hanner i un person wneud pentan haearn Capel Garmon, gwaith a olygai gasglu'r deunydd crai, mwyndoddi'r mwyn haearn a llunio'r gwrthrych ei hun. Yn ôl pob tebyg, câi'r gwaith o droi mwyn haearn yn fetel ei ystyried yn broses ddewinol gan y Celtiaid, a byddai gofaint wedi ennyn parch mawr am eu galluoedd goruwchnaturiol. Mae dyddio pentan haearn Capel Garmon yn anodd oherwydd ni chafodd y darganfyddiad na manylion y cloddiad eu cofnodi gan archaeolegwyr. Fodd bynnag, ers i bentan haearn Capel Garmon ddod i'r golwg, darganfuwyd enghreifftiau tebyg yn ne-ddwyrain Lloegr, ym meddrodau penaethiaid yr Oes Haearn. Yn ogystal â'r pentanau haearn, yn y claddfeydd hyn cafwyd nwyddau claddu eraill megis amfforâu a fewnforiwyd o ardal Môr y Canoldir, crochenwaith a gynhyrchwyd ar droell crochenydd, a nwyddau personol eraill, ac mae pob un o'r gwrthrychau hyn yn dyddio o'r cyfnod rhwng 50CC ac OC75 - yr Oes Haearn diweddar. Felly, mae'n debyg y cafodd pentan haearn Capel Garmon ei gladdu yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Defnyddid haearn am y tro cyntaf yng Nghymru tua 750CC. O 300CC ymlaen daeth offer, arfau a thlysau haearn yn fwyfwy cyffredin ar safleodd bryngaerau ac aneddiadau, ac mewn celciau. Fodd bynnag, mae maint ac ansawdd pentan haearn Capel Garmon yn ei osod mewn dosbarth ar wahân i'r gwrthrychau hyn. Er gwaethaf holl ddarganfyddiadau'r 150 o flynyddoedd diwethaf, dyma un o'r enghreifftiau pwysicaf o waith haearn addurnol cynnar i ddod i'r golwg ym Mhrydain. Darllen Cefndir Celtic art, reading the messages gan M. Green. Cyhoeddwyd gan Weidenfeld & Nicholson (1996). 'Firedogs in Iron Age Britain and beyond' gan S. Piggott. Yn The European community in later prehistory: studies in honour of C. F. C. Hawkes gan J. Boardman, M. A. Brown a T. G. E. Powell, tt245-70. Cyhoeddwyd gan Routledge & Kegan Paul (1971). 'The Capel Garmon Firedog' gan C. Fox. Yn The Antiquaries Journal, cyf. 19, tt446-8 (1939).
Achub bywyd ar draphont Crymlyn, 1914 23 Ebrill 2007 Fedal Edward am dewrder James Dally, yn gwisgo Medal Edward. Daw'r llun o Great Western Railway Magazine, Medi 1915. Ym mis Hydref 1914 achubodd James Dally un o'i gydweithwyr rhag syrthio 52m oddi ar draphont Crymlyn. Ym 1915 cafodd Fedal Edward am ei ddewrder. Ar 25 Chwefror 1915 anfonodd Frank Potter, Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd y Great Western (GWR), lythyr i'r Swyddfa Gartref oedd yn cynnwys adroddiad am ddigwyddiad ar draphont Crymlyn ger Trecelyn, Sir Fynwy, ac yn argymell y dylid dyfarnu Medal Edward, prif fedal Prydain am ddewrder sifil ar y pryd, i James Dally. Ar 28 Hydref 1914, roedd contactwyr G.W.R. yn peintio'r draphont. Roedden nhw'n defnyddio sgaffaldiau ar ffurf estyll oedd yn cael eu cynnal gan ben distiau llorweddol. Tua 5.00 pm, wrth i'r ddau ddyn symud y sgaffaldiau, torrodd un o'r pen distiau, a syrthiodd y fforman, Mr Skevington, 52m (175 troedfedd) i'w farwolaeth ar lawr yr iard nwyddau islaw. Llwyddodd yr ail ddyn, Thomas Bond, afael mewn estynnwr haearn oedd yn rhan o brif adeiladwaith y bont, ond roedd yn hongian yn yr awyr. Achub bywyd Traphont Crymlyn. Mae'r smotyn coch yn dynodi lleoliad y digwyddiad. Roedd James Dally, adeiladwr pontydd o Grymlyn gerllaw yn goruchwylio'r gwaith. Heb oedi dim, aeth ati i cropian oddi ar y gangwe cyn belled â'r rhwymiadau lletraws (8cm [3 modfedd] o led) rhwng trawstiau gwaelodol y prif hytrawstiau: "Gofynnais iddo godi ei goesau o amgylch yr estynnwr os oedd modd. Llwyddodd i wneud hyn. Wedyn gafaelais yn ei goesau a dweud wrtho i symud un llaw ar y tro; a dyna sut llwyddodd Bond i symud yn agosach at y gangwe. Pan oedd yn ddigon agos cefais well afael arno, ac yn y pen draw llwyddais i'w osod yn ddiogel ar y gangwe." Yn ôl y London Gazette, "The man would probably have lost his life had it not been for the courage and presence of mind shown by Dally." Doedd dim amheuaeth gan Bond: "Roeddwn i'n hongian yn yr awyr; pe na bai Mr Dally ar y gangwe ar y pryd, a phe na bai wedi gwneud beth wnaeth e, fydden i ddim wedi gallu achub fy hunan... Mae fy nyled i Mr Dally'n fawr, oni bai am ei anogaeth a'i ymdrech yn y fan a'r lle, byddwn i wedi diodde'r un dynged â Mr Skevington, heb os nac oni bai." Fedal Edward oddi wrth y Brenin Siôr V Medal Edward, Diwydiant, Ail Ddosbarth (efydd) James Dally, wyneb. Fel y digwyddodd, cafodd Dally ei Fedal Edward oddi wrth y Brenin Siôr V ar 12 Gorffennaf 1916. Cafodd y fedal ei chreu ym 1907 i gydnabod "gweithredoedd dewr mwyngloddwyr a chwarelwyr" ac ym 1909 penderfynwyd ei chyflwyno i gydnabod gweithredoedd dewr mewn diwydiannau eraill. Cafodd ei disodli gan Groes Siôr ym 1971. Roedd traphont Crymlyn 512m (1,680 troedfedd) o hyd ac yn codi tua 60m (200 troedfedd) uwchlaw afon Ebwy. Roedd yn rhan o estyniad Dyffryn Taf o Reilffordd Casnewydd, y Fenni a Henffordd, ac fe'i cwblhawyd ym 1857-58. Agorwyd y draphont ar 1 Mehefin 1857 ac erbyn 1863 roedd yn rhan o rwydwaith rheilffordd y Great Western. Cafodd ei dymchwel ym 1965-66. Darllen Cefndir For Those in Peril, gan Edward Besly. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2004). Gallantry: its public recognition and reward in peace and war at home and abroad gan A. Wilson a J. H. F. McEwen. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1939).
Dodrefn Bryn-mawr, 1929-40 23 Ebrill 2007 Arbrawf Bryn-mawr Cwpwrdd-cist Tal-y-bont a chadair freichiau Ynys-ddu a wnaed gan Gwmni Dodrefn Bryn-mawr. Pan ddaeth y Crynwyr i dref ddiwydiannol Bryn-mawr ddiwedd y 1920au, ychydig o bobl fyddai wedi credu y byddai'r ymweliad yn agor pennod newydd yn hanes cymdeithasol a chelfyddydol Cymru. Ymgais ar ran Cymdeithas y Cyfeillion i leddfu'r diweithdra oedd yn rhemp yn y dref yn y cyfnod oedd "Arbrawf Bryn-mawr". Y nod oedd sefydlu cwmni cydweithredol a fyddai'n cynnal projectau cymunedol a mentrau oedd yn cynnwys gwneud esgidiau a hosanau, cynhyrchu brethyn, a llunio dodrefn. Nid oedd traddodiad o wneud celfi ym Mryn-mawr cyn sefydlu'r fenter ac felly nid oedd unrhyw un o'r gweithwyr yn hyddysg yn y grefft. Dechreuodd gwaith y fenter ym 1929 wrth gyflogi deuddeg o ddynion lleol heb eu hyfforddi. Yn ddiweddarach, cafodd llanciau ifanc eu cyflogi a'u hyfforddi yn syth o'r ysgol. Yn ystod y blynyddoedd cynnar cefnogwyd y fenter yn bennaf gan gwmnïau llwyddiannus eraill oedd yn eiddo i Grynwyr - yr archeb gyntaf oedd am 400 o gadeiriau ar gyfer ysgol Grynwrol yng Nghaerefrog. Roedd pob cadair yn costio £1 (sef £41 neu $74 yn arian heddiw) ac aeth yr elw i brynu offer a pheiriannau newydd i'r cwmni. Paul Matt Poster hysbysebu Cwmni Dodrefn Bryn-mawr. Priodolwyd llwyddiant dodrefn Bryn-mawr yn bennaf i'w cynllunydd, Paul Matt. Bwrodd ei brentisiaeth dan ofal ei dad, saer dodrefn medrus, ond enillodd brofiad hefyd drwy weithio fel cynllunydd yn Llundain. Mae arddull syml dodrefn Bryn-mawr yn dangos yn gwbl glir y cafodd Matt ei ddylanwadu gan gelfi celfyddyd a chrefftau, a chynllunwyr fel Ambrose Heal a'r brodyr Russell. Bu Paul Matt hefyd yn gyfrifol am gynllunio dodrefn oedd yn gymharol syml eu gwneuthuriad; gwaith a roddai ystyriaeth i'r ffaith fod y rhan fwyaf o'r gweithwyr yn ddi-grefft yn y blynyddoedd cynnar. Gwnaed hyn drwy fabwysiadu dull o osod paneli laminedig o bren haenog mewn fframwaith solet o bren. Roedd yn defnyddio pren derw wedi'i fewnforio'n bennaf ac yn ei gaboli â haen o gwyr clir gan roi pryd a gwedd ddirodres a diaddurn i'r celfi, nodweddion oedd yn gydnaws ag athroniaeth y Crynwyr. Sgwâr Cavendish, Llundain Siop adrannol David Morgan a agorodd yng Nghaerdydd ym 1879. Bu'r siop yn gefn mawr i Gwmni Dodrefn Bryn-mawr rhwng 1932 a 1940. Ar ôl masnachu am gyfnod o 125 o flynyddoedd, gwerthwyd David Morgan Cyf. yn 2004. Yn ogystal â chynhyrchu dodrefn o'r ansawdd gorau, roedd y cwmni hefyd yn llwyddiannus wrth farchnata'r cynnyrch. Drwy ddefnyddio taflenni hysbysebu a chatalogau sgleiniog, pwysleisiwyd delfrydau dyngarol y cwmni, sef cynhyrchu celfi o'r ansawdd gorau o ran eu gwneuthuriad a'u cynllun, a darparu swyddi parhaol er budd y gymuned leol. Apeliodd y delfrydau hyn at ddosbarthiadau canol a phroffesiynol y 1930au megis athrawon felly aeth y cwmni ati i anelu ei gynnyrch at y garfan hon drwy geisio cadw pris y dodrefn o fewn eu cyrraedd. Gellid gweld dodrefn Bryn-mawr hefyd mewn arddangosfeydd a gynhaliwyd mewn siopau adrannol megis Browns yng Nghaer a siopau Lewis's yn Birmingham a Manceinion. Ym 1938 cafodd y cwmni gafael ar leoliad arddangos barhaol yn ardal ffasiynol Sgwâr Cavendish, Llundain. Agorwyd yr arddangosfa gan Mrs Neville Chamberlain a oedd hefyd yn un o noddwyr dodrefn Bryn-mawr. Er i'r cwmni brofi cryn lwyddiant yn Lloegr, roedd hefyd yn awyddus i hyrwyddo dodrefn Bryn-mawr yng Nghymru. Bu David Morgan Cyf., siop adrannol adnabyddus yng Nghaerdydd, yn gefn i'r cwmni o'r dyddiau cynnar, gan roi lle iddo arddangos y cynnyrch yn rhad ac am ddim rhwng 1932 a 1940. Bu'r cwmni hefyd yn cynnal arddangosfeydd blynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cyhoeddi deunydd hysbysebu yn y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, câi'r celfi eu marchnata fel rhai Cymreig a cawsant eu henwi ar ôl enwau lleoedd yng Nghymru, megis cist Cwmbrân, bord Llanelli, seld Talgarth a chadair Cwm-du. Sicrhaodd hyn gefnogaeth ffyddlon ymhlith cylchoedd proffesiynol ac academaidd Cymru drwy gydol y 1930au. Rhyfel Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938 o Ffatri Bryn-mawr. Ym 1936 ymadawodd Paul Matt â'r cwmni er mwyn trefnu gwaith arall ar gyfer y di-waith yn ne Cymru. Ei olynydd oedd ei gynorthwywr, Arthur Reynolds, a fu'n gyfrifol am rai newidiadau bach i'r cynlluniau ac am gynnwys mwy o gelfi pren cyll Ffrengig yn y casgliadau. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd ffatri hen waith Gwalia ei llosgi'n ulw a chodwyd adeilad newydd sbon gerllaw'r hen safle ym 1937. Er na chafodd hyn fawr o effaith ar y gwaith cynhyrchu, dirywiodd y gwerthiant yn araf ddiwedd y 1930au wrth i'r rhyfel agosáu. Wedi i'r rhyfel gychwyn roedd hi hefyd yn anodd mewnforio deunyddiau a gwaetha'r modd, yr unig ddewis oedd i gau ffatri Dodrefn Bryn-mawr ym 1940. Darllen Cefndir "Crafts and the Quakers" gan Gwen Lloyd Davies. Yn Planet, cyf. 51, tt.108-111 (Gorffennaf 1985). "Utopian designer: Paul Matt and the Brynmawr Experiment", gan Roger Smith. Yn Furniture History, cyf. 23, tt.88-94 (1987). "Philanthropic Furniture: Gregynog Hall, Powys" gan Lindsay Shen. Yn Furniture History, cyf. 31, tt.217-235 (1995).