Gweolyn Llan-gors: campwaith canoloesol cynnar 3 Mai 2007 Y cloddiad ar safle Llyn Syfaddan yn 1991. Darganfuwyd y gweolyn yn y gwaddodion siltiog y tu hwnt i'r palisâd derw sydd i'w weld yn y ffos. Lwmp o weolyn wedi'i ruddo y cafwyd hyd iddo'n gorwedd ar ddarn o bren. Rhan o'r addurn sydd wedi'i gadw ar wyneb y gweolyn, yn dangos grŵp o adar o fewn ffrâm o winwydd. Yn anffodus, nid oes dim o liw gwreiddiol y gweolyn wedi goroesi, sy'n golygu ei bod hi'n anodd iawn gweld y cynllun heb gymorth. Fe'i nodir yma gan y llinellau gwyng. Arwynebedd y darn yw tua 9cm o uchder wrth 7cm o led (3.5 x 2.8 modfedd). Efelychiad digidol o liw ar ffotograff o'r gweolyn gwreiddiol. Ym 1990 ffeindiodd archaeolegwyr oedd yn gweithio ar safle Llyn Syfaddan, ger Aberhonddu, ddarganfyddiad annisgwyl - gweddillion gweolyn, wedi'i addurno'n wych, oedd dros fil o flynyddoedd oed. Ger glan ogleddol Llyn Syfaddan ceir crannog (ynys o wneuthuriad dyn) a fu'n safle brenhinol a adeiladwyd ar gyfer tywysog Brycheiniog yn y 890au - cyfnod cythryblus yn hanes y dywysogaeth. Ar y pryd, roedd nifer o dywysogaethau cyfagos yn bygwth Brycheiniog, ac roedd Llan-gors, yn ôl pob golwg, yn noddfa ddiogel. Fodd bynnag, mae cloddiadau a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru rhwng 1989 a 1993 wedi dangos mai byrhoedlog fu'r noddfa hon oherwydd fe'i dinistriwyd gan dân yn gynnar yn y ddegfed ganrif. Roedd y gwaith ger Llan-gors yn canolbwyntio, i raddau helaeth, ar y gwaddodion siltiog dwrlawn sy'n amgylchynu'r crannog. Yn y fan yma y cafwyd hyd i'r gweolyn, wedi'i ruddo'n wael ac yn frau iawn. O ganlyniad i driniaeth gadwraeth fanwl bu modd gwahanu a glanhau ei haenau niferus, gwaith a ddangosodd bod y lwmp anhrawiadol hwn ymhlith yr enghreifftiau pwysicaf o weolion canoloesol cynnar i'w ddarganfod ym Mhrydain hyd yn hyn. Y defnydd sy'n sylfaen i'r gweolyn yw lliain mân iawn o wehyddiad plaen. Defnyddiwyd edefion sidan a lliain i addurno rhyw ddwy ran o dair o darn o'r gweolyn sydd ar ôl ag adar a chreaduriaid eraill o fewn fframwaith o winwydd, ac mae'r borderi yn cynnwys patrymau ailadroddus neu lewod. Mae safon crefftwaith y gweolyn yn dal i fod yn destun rhyfeddod. Mae i'r lliain 23 edau i'r centimetr - cyflawniad gwych o ystyried yr offer oedd ar gael yn ystod y nawfed a'r ddegfed ganrif OC. Ymddengys fod y gweolyn yn rhan o wisg neu diwnig neu ffrog efallai - mae ganddo hem a dolen ar gyfer gwregys - ond, gwaetha'r modd, nid oes digon wedi goroesi i ddangos ffurf fanwl y dilledyn. Awgryma'r rhannau sydd wedi treulio nad oedd y dilledyn yn newydd pan gafodd ei golli, a gallwn fod yn sicr fod ei berchennog yn wraig neu'n ŵr o gryn statws oherwydd cafodd y sidan a ddefnyddiwyd i'w addurno ei fewnforio i Brydain, ac mae safon y gwniadwaith yn awgrymu y cafodd ei gynhyrchu mewn gweithdy arbenigol. Felly, sut collwyd y gweolyn gwych hwn? Ceir cliw yn y Cronicl Eingl-Sacsonaidd ar gyfer OC916, sy'n cofnodi bod byddin Fersiaidd o Loegr wedi dinistrio safle dan yr enw Brecenanmere (Brecknock-mere = Llyn Syfaddan) yn y flwyddyn honno a chipio gwraig y brenin a 33 o bobl eraill. Ai dyma'r digwyddiad a arweiniodd at losgi Llan-gors a cholli'r gweolyn? Mae'n demtasiwn i gredu hynny. Darllen Cefndir 'A fine quality insular embroidery from Llangors Crannog, near Brecon' gan H. Granger-Taylor a F. Pritchard. Yn Pattern and purpose in insular art gan M. Redknap, S. Youngs, A. Lane a J. Knight, tt91-99. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (2001). 'Worn by a Welsh Queen?' gan L. Mumford a M. Redknap. Yn Amgueddfa, cyf. 2, tt52-4 (1999). 'The Llangorse textile; approaches to understanding an early medieval masterpiece' gan L. Mumford, H. Prosser a J. Taylor, mewn C. Gillis and M.-L. B. Nosch (eds), Ancient Textiles: Production, Craft and Society, 158-62. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (2007).
Disgleirdeb a Swyn - gwisgoedd nodedig Casgliad Tredegar 11 Ebrill 2007 Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow. G?n llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (g?n ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed tua 1730-40. Byddai'r wisg ysblennydd hon wedi cael ei gwisgo ar achlysur cyflwyno'r sawl a'i gwisgai i'r llys. Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725. Am ddisgleirdeb a swyn, nid oes angen chwilio y tu hwnt i Gasgliad Tredegar. Cyflwynwyd y casgliad trawiadol hwn o wisgoedd o'r 18fed ganrif i'r Amgueddfa ym 1923 gan Courtenay Morgan, a adwaenir hefyd fel Arglwydd Tredegar. Roedd y casgliad yn eiddo i'w gyndeidiau cyfoethog a oedd am ddangos eu cyfoeth a'u pŵer. Cynlluniwyd pob dilledyn i syfrdanu. Er mai teulu'r Morganiaid oedd perchnogion Tŷ Tredegar ger Casnewydd, roeddent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn Llundain. I'r boneddigion, y brifddinas oedd yr atyniad mwyaf. Gerddi pleser, operâu a chynulliadau - cymdeithasu oedd canolbwynt eu bywydau. Parti brenhinol cyntaf Mae'n debygol mai yn Llundain y gwnaethpwyd gwisgoedd Tredegar, gan ddefnyddio'r damasg a'r sidanau brocêd gorau y gellid eu prynu ag arian. Mae'r wisg mwyaf cain yn y casgliad yn dyddio o tua gynnar yn y 1720au. Awgryma crandrwydd y wisg las â'r blaen agored - a elwir yn mantua yn aml - ei bod wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer parti brenhinol cyntaf merch ifanc. Mae'r gwaith manwl yn goeth a chain, ar y blaen a'r cefn. Yn wreiddiol, roedd y wisg yn hirach o lawer, ond torrwyd rhan fawr i ffwrdd yn ystod y 1800au, ar gyfer parti gwisg ffansi mae'n debyg. Corsedau o asgwrn morfil Roedd gwisgoedd fel yr un yma'n lletchwith iawn i'w gwisgo. Er mwyn cyflawni'r ffasiwn ormodol, gwisgai'r menywod beisiau crwn, llydan i gynyddu lled y sgertiau. Gwisgent hefyd gorsedau tynn wedi'u hatgyfnerthu ag asgwrn morfil o dan eu gwisgoedd. Roedd corsedau'n cynorthwyo i sicrhau osgo da trwy wasgu rhan uchaf y corff i siâp. Roedd steil yn bwysicach na chysur. Gwnaethpwyd y ffrog-côt eurbleth felen hon yn gynnar yn y 1720au. Mae'r cynllun blodeuog yn nodweddiadol o'r cyfnod, fel y mae'r lliw melyn llachar. Darllen Cefndir M. R. Apted, 'Social Conditions at Tredegar House, Newport, in the 17th and 18th Centuries', The Monmouthshire Antiquary 3:2 (1972-3), pp. 124-54. Janet Arnold, 'A Court Mantua of c. 1740', Costume: Journal of the Costume Society 6 (1972), pp. 48-52. Avril Hart & Susan North, Historical Fashion in Detail: The 17th and 18th Centuries (London: V & A Publications, 1998).
Siwt frodiog ysblennydd o'r 1770au 19 Chwefror 2007 Siwt felfed yn dyddio o 1770 Gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur. Prynwyd y darnau pwysicaf o gasgliad Amgueddfa Cymru o ddillad dynion o'r 18fed-ganrif ym 1996. Mae'r siwt felfed yn dyddio o 1770 ac roedd yn eiddo i Syr Watkin Williams-Wynn. Mae wedi'i brodio â sidanau a secwinau aur, ac mae mewn cyflwr arbennig o dda. Syr Watkin Williams-Wynn Roedd Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789) o Wynnstay yn noddi'r celfyddydau ac roedd yn eithriadol o gyfoethog ac adnabyddus. Adlewyrchai ei ddillad ei ffordd o fyw. Prynodd siwtiau melfed coeth yn Ffrainc a'r Eidal tra'r oedd ar ei Daith Fawr ym 1768-9. Yn ystod y 1770au prynodd ddillad oddi wrth nifer o deilwriaid, hosanwyr a gwneuthurwyr les Llundain, gan wario tua £1,000 y flwyddyn ar siwtiau'n unig - swm anferthol ar y pryd. Secwinau aur ac edafedd arian Mae'r gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur. Gwnaethpwyd y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd â hi ychydig yn ddiweddarach. Prynodd yr Amgueddfa got wlân goch o'r un cyfnod, wedi'i haddurno â brodwaith o edafedd arian. Magodd Syr Watkin gryn dipyn o bwysau wrth iddo heneiddio, ac efallai mai dyna pam fod y siwt wedi goroesi mewn cyflwr mor dda. Brodwaith cyfoethog Mae gan gôt y siwt flaen rhandoredig a choler fer sy'n sefyll i fyny. Mae'r leinin o sidan gwyrdd i gyd-fynd â defnydd y wasgod. Mae gan y wasgod flaenau o sidan gwyrdd a leinin a chefn o sidan mwy gwelw ei liw, o wehyddiad plaen. Fel y siwt, mae'r brodwaith yn cynnwys ymylweoedd aur, secwinau metel a rhubanau blodeuog. Mae'r gwaith yn gain dros ben. Mae'n debygol y cafodd y siwt ei wneud mewn gweithdy teiliwr o Lundain. Y crefftwyr gorau ynghyd â nifer o frodwyr proffesiynol fyddai wedi'i chreu. Mae'n debygol iawn y cafodd y gôt wlân goch ei gwneud yn yr un gweithdy, gan fod y brodwaith ar honno hefyd yn cynnwys secwinau aur ac arian, ymylweoedd metel ac edeifion sidan, gyda themâu tebyg o fwâu, addurnblethau a thaselau. Dillad crand ar gyfer achlysuron mawreddog Y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd Roedd y dillad hyn mor ddrud gellid bod wedi eu gwisgo yn y llys brenhinol. Yng Nghymru, gallai Syr Watkin fod wedi gwisgo dillad o'r fath yn ei barti i ddathlu ei ben-blwydd yn un-ar-hugain ym 1770. Daeth y parti i fod yn chwedlonol oherwydd ei ormodedd a'i faint - cafwyd 15,000 o westeion a daeth tair coets o gogyddion o Lundain. Adeiladwyd neuadd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o'r prif adeilad yn Wynnstay, pan ychwanegwyd ystafelloedd gwely uwch ei ben. Mae'r bwyd a fwytawyd yn y parti yn cynnwys 30 buwch, 50 mochyn, 50 llo, 80 dafad, 18 oen, 37 twrci a 421 pwys o eog. Efallai bod hyn yn esbonio maint Syr Watkin yn ei henaint! Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1735, penododd y Brenin Siôr III Syr Watkin yn Arglwydd Raglaw (cynrychiolwr y brenin) ar gyfer Meirionnydd.