Crefft y Seremoni De Japaneaidd

22 Chwefror 2007

Ym 1915 fe dderbyniodd yr Amgueddfa nifer o gratiau a oedd yn cynnwys tecstilau, lacer, printiau bloc pren a llestri ar gyfer y seremoni de Japaneaidd (chanoyu). Anfonwyd hwy o Siapan gan Bernard Leach, crochenydd y dylanwadwyd arno'n gryf drwy gydol ei yrfa gan ei brofiadau Japaneaidd. Gan na chofnodwyd yr eitemau ar y pryd fe aeth y rheswm dros eu prynu'n angof. Serch hynny, mae wedi bod yn bosib eu hadnabod yn ddiweddar.

'...rhywbeth unigryw'

Chaire (pot te), llestri caled Shigaraki, o ddiwedd yr 16eg ganrif mae'n debyg

Chaire (pot te), llestri caled Shigaraki, o ddiwedd yr 16eg ganrif mae'n debyg

Pan aeth Bernard Leach i Japan am y tro cyntaf, roedd yn artist ifanc a oedd newydd ddarganfod crochenwaith Japaneaidd. Fodd bynnag, sefydlodd ei hun, mewn amser byr iawn, fel prif grochenydd Prydeinig yr 20fed ganrif.

Nid oedd yn amau gwerth y casgliad a ddisgrifiwyd ganddo fel 'rhywbeth unigryw'. Dilynodd gyngor y meistri te Japaneaidd, a chasglodd eitemau o'r math oedd yn cael eu trysori fwyaf yn y traddodiad Japaneaidd chanoyu, yn seiliedig ar egwyddorion a sefydlwyd yn y 16eg ganrif. Yn ôl yr egwyddorion hyn fe ddylai'r gwrthrychau sy'n cael eu defnyddio fod yn syml ac yn ddiymhongar, gan gyfrannu at yr ymdeimlad o fyfyrdod tawel a ysbrydolir gan y seremoni.

Mae'r chaire (pot te) a anfonwyd gan Leach yn arddangos y nodweddion hyn yn berffaith. Mae'n esiampl o wneuthuriad garw crochenwaith caled Shigaraki, a werthfawrogir gan arbenigwyr te ers y 15fed ganrif. Yn draddodiadol byddai gwestai yn archwilio ac yn clodfori gwrthrych o'r fath ar ôl i'r gwesteiwr orffen gweini'r te.

Ail-greu chanoyu

Mae Chanoyu yn gelfyddyd ac yn ffordd o fyw, ac mae'n weithred o letygarwch a chanddi nifer o ddefodau. Mae gwrthrychau'n cael eu dewis, eu gosod a'u trin yn ofalus iawn, nes bod y cyfuniad o'r gwrthrychau a'r bobl, a'r amser a'r lle'n golygu bod pob seremoni yn ddigwyddiad unigryw na ellir ei ailadrodd. Mynnodd Leach y dylid dangos yr un parch pan ddangoswyd y casgliad yn yr Amgueddfa ym 1924.

Traddodiadau Japaneaidd

Gwrthrychau Chanoyu a gasglwyd gan Bernard Leach

Gwrthrychau Chanoyu a gasglwyd gan Bernard Leach

Pan oedd Leach yn Japan, roedd treftadaeth y wlad mewn perygl o gael ei cholli oherwydd twf cyflym diwydiant ac effaith y gorllewin. Roedd rhai yn gweld y seremoni de fel metaffor o'r Japan draddodiadol, a gobaith Leach oedd y byddai'r caffaeliad yn medru helpu i wella'r ddealltwriaeth rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin.

Yn ei henaint, defnyddiodd Leach ei brofiad i weithredu fel cyfryngwr rhwng byd diwylliannol Gorllewin Ewrop a Dwyrain Asia. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bellach bod y cylchoedd Japaneaidd yr oedd yn troi ynddynt wedi cael eu dylanwadu'n helaeth gan athroniaeth y Gorllewin, ac y dylid amau ei honiad iddo ddeall traddodiad dilys Japan.

Serch hynny, mae Leach yn ffigwr nodedig yn hanes y rhyngweithio parhaol rhwng Ewrop a Dwyrain Asia. Mae'n addas felly bod yr eitemau hyn yn cael eu gwerthfawrogi, nid yn unig am eu prydferthwch a'u hynafiaeth, ond hefyd y cyswllt rhyngddynt â Leach ei hun.

Darllen Cefndir

Edmund de Waal, Bernard Leach (London: Tate, 1999);

Emmanuel Cooper, Bernard Leach: Life and Work (New Haven & London: Yale University Press, 2003);

Kakuzo Okakura, The Book of Tea (New York: Dover, 1964);

Paul Varley and Kumakura Isao (eds), Tea in Japan: Essays on the History of Chanoyu, (Honolulu: University of Hawaii Press, 1989)

Symud eglwys ganoloesol i Sain Ffagan

22 Chwefror 2007

Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Tal-y-bont, yn ei safle grweiddiol ym 1984

Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Tal-y-bont, yn ei safle grweiddiol ym 1984

Ffenestr garreg fylinog o'r Oesoedd Canol a ssaeth i'r amlwg o dan haenau o wyngalch a rendr yn ystod y broses o ddatgymalu'r eglwys

Ffenestr garreg fylinog o'r Oesoedd Canol a ssaeth i'r amlwg o dan haenau o wyngalch a rendr yn ystod y broses o ddatgymalu'r eglwys

Murlun o Santes Catrin, yn ei safle gwreiddiol, a ddarganfuwyd ar fur dwyreiniol transept y de. Mae'n debyg y'i paentiwyd tua 1400

Murlun o Santes Catrin, yn ei safle gwreiddiol, a ddarganfuwyd ar fur dwyreiniol transept y de. Mae'n debyg y'i paentiwyd tua 1400

Yr eglwys ganoloesol o Landeilo Tal-y-bont yw'r eglwys gyntaf o'i math i gael ei symud a'i hailgodi mewn amgueddfa awyr-agored Brydeinig. Mae'r murluniau a ddarganfuwyd o dan wyngalch ei waliau yn bwrw goleuni pellach ar arferion addoli a chredoau'r 15fed ganrif.

O Landeilo Tal-y-bont i Gaerdydd

Adeiladwyd Eglwys Sant Teilo yn ystod yr 13eg ganrif. Mae'n debygol iddi gael ei hadeiladu ar safle eglwys gynharach. Cefnwyd ar yr eglwys yn y 1960au, ac fe'i hychwanegwyd at restr henebion Cadw: Henebion Hanesyddol Cymru yn y 1980au. Gan nad oedd modd achub yr eglwys ddadfeiliedig ar ei safle gwreiddiol, cynigiwyd hi i'r Amgueddfa ym 1984 er mwyn ei datgymalu a'i hailgodi yn Sain Ffagan.

Ar ddechrau'r broses o ddatgymalu'r Eglwys yn ofalus, darganfuwyd dau furlun hynod o'r 15fed a'r 16eg ganrif, yn ogystal â thestunau niferus a rhannau'n cynnwys patrymau arddurniadol. Cofnodwyd pob un ohonynt, cyn eu symud a'u cadw'n ofalus.

Wrth dynnu haenau o wyngalch yn ofalus o wyneb y murluniau, daethpwyd o hyd i gliwiau ynglŷn â dyddiad yr adeilad gwreiddiol. Wedi tynnu'r morter oddi ar y muriau allanol, roedd modd gweld y newidiadau a wnaed yn ystod Oes Fictoria neu'n ddiweddarach. Ar ôl gorffen datgymalu'r adeilad fe gloddiodd yr Amgueddfa'r seiliau, gan ddatgelu rhagor o gliwiau am adeiladwaith yr Eglwys.

Hanes yr Eglwys

Mae'n debyg bod yr adeilad cyntaf i oroesi yn adeilad bach dwy-gell, sef y prif gorff a'r gangell, o'r 13eg - 14eg ganrif. Roedd hwn yn batrwm cyffredin ledled Cymru ar y pryd. Yr ychwanegiad nesaf oedd transept y gogledd, ac adeiladwyd transept y de tua'r un adeg neu'n fuan wedi hynny, gan mai technegau adeiladu tebyg a ddefnyddiwyd i godi'r ddau. Credir bod y rhain yn dyddio o'r 14eg neu ddechrau'r 15fed ganrif, sy'n cyfateb i ddyddiad y murlun ar fur dwyreiniol transept y de.

Tybir mai ddiwedd y 15fed ganrif yr estynnwyd capel y de i ffurfio eil. Yn lle'r hen fur deheuol daeth arcêd o ddau fwa, gyda dau arall yn arwain i'r ddau gapel. Y peth olaf i gael ei ychwanegu at yr eglwys oedd porth a arweiniai at ystlys y de.

Twf cynulleidfaoedd yn ystod Cyfnod y Tuduriaid Cymreig

Penderfynodd yr Amgueddfa ailadeiladu'r Eglwys fel y byddai wedi ymddangos tua 1510-30. Mae'n bosibl defnyddio cliwiau archeolegol o'r cyfnod i gael gwell dealltwriaeth o'r cefndir cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol fu'n sail i lunio a dodrefnu'r Eglwys. Digwyddodd hyn yn fuan wedi estyn capel y de i ffurfio ystlys y de, i ddal cynulleidfa fwy mae'n debyg. Gallai hyn gyd-fynd â'r adferiad mawr yn economi Cymru, wedi'r cyfnod pan ddaeth y Tuduriaid Cymreig yn Frenhinoedd Lloegr ddiwedd y 15fed ganrif. Bryd hynny cafwyd cyfnod cymharol dawel wedi cyfnodau hir o ansefydlogrwydd gwleidyddol a chymdeithasol, yn cynnwys rhyfel cartref.

Mae'r cliwiau yn llunio darlun o'r ffordd yr oedd pobl yn addoli yn ystod y cyfnod hyd at 1530. Y pwysicaf ohonynt yw'r murluniau o'r cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Maent yn dangos gwahanol themâu o fywyd Crist a nifer o seintiau, gan gynnwys Santes Catrin a Sant Cristoffer. Canfuwyd cerrig Corbel yng ngwaith carreg y bwa yn y gangell sy'n dangos olion croglen sgrin a llofft. Byddai'r murluniau, y groglen sgrin a'r llofft wedi cael eu peintio mewn lliwiau llachar.

Beibl y dyn tlawd

Mae murluniau mewn eglwysi wedi cael eu disgrifio fel "Beibl y werin dlawd". Cawsant eu cynllunio fel bod modd i gynulleidfa anllythrennog ddeall golygfeydd o'r Beibl. Eu pwrpas hefyd oedd ennyn arswyd, parchedig ofn, ac ufudd-dod. Mewn rhai achosion, murluniau fel y rhai a ganfuwyd yn Sant Teilo oedd yr unig fodd o gyfleu unrhyw neges grefyddol o gwbl, gan nad oedd cynulleidfaoedd yn deall Lladin, sef iaith y Beibl a phregethu ar y pryd.

Cyfnod o addoli'n dod i ben

O ganlyniad i'r cynnydd ym mhoblogaeth yr ardal, datblygiad eglwysi eraill mwy, fandaliaeth gyson, cefnwyd ar Sant Teilo'n gyfan gwbl. Gellir dadlau bod y digwyddiadau hyn yn adlewyrchu hanes cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol, yn yr un modd ag y gwna'r murluniau o'r cyfnod cyn y Diwygiad. Bydd ailgodi'r eglwys yn yr Amgueddfa'n dynodi pennod arall yn ei hanes, lle bydd ymwelwyr yr 21ain ganrif yr un mor bwysig â'r pererinion o'r Oesoedd Canol! Bellach mae gan Eglwys Sant Teilo bob cyfle i oroesi am flynyddoedd lawer.

Yr hen gloc yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

22 Chwefror 2007

Y cloc uwchben mynedfa Amgueddfa Lechi Cymru

Y cloc uwchben mynedfa Amgueddfa Lechi Cymru

Un o nodweddion amlwg Amgueddfa Lechi Cymru yw'r wyneb cloc siâp diemwnt sydd ar flaen yr adeilad. Uwch ei ben ar y to mae strwythur tebyg i bagoda bychan sy'n cynnwys cloch a morthwyl sydd wedi'i gysylltu â'r cloc â rhaff wifrau.

Gosodwyd mecanwaith y cloc ar ail lawr yr adeilad. Cafodd ei gynhyrchu yn Sir Amwythig ond nid yw'r dyddiad yn eglur. Gan nad yw'r cloc yn ymddangos mewn ffotograffau cynnar o'r adeilad, a godwyd ym 1870, mae'n debygol na chafodd mo'i osod tan ganol y 1890au.

Amserydd ar gyfer ffrwydradau'r chwarel

Mae'r Amgueddfa wedi'i lleoli yng ngweithdai Fictoraidd Chwarel Dinorwig. Roedd y cloc yn gymorth i sicrhau prydlondeb y trenau a gludai'r llechi o'r chwarel i borthladd y Cwmni yn y Felinheli. Fodd bynnag, roedd yn fwy nag amserydd ar gyfer y gweithdai, ac ar un adeg yn ei hanes ychwanegwyd cyfres o gysylltiadau trydanol ato. Ar amserau penodol, byddai'r cloc yn anfon cerrynt trydanol i rannau eraill o safle mawr y Chwarel. Roedd hyn yn sicrhau bod ffrwydradau'n digwydd ar amser. Fel arfer, byddai systemau o'r fath yn cael eu marchnata fel clociau pulsynetic. Gwerthwyd hwy gan wneuthurwyr clociau enwog fel Gent o Gaerlŷr. Yn y Felinheli, wrth gwrs, cynhyrchodd y gweithwyr eu fersiwn ddibynadwy eu hunain.

Graffiti 100 mlwydd oed

Roedd angen cyflenwad pŵer i gynhyrchu'r cerrynt trydanol. Byddai hyn yn cael ei ddarparu drwy gelloedd gwlybion neu gronaduron a storiwyd wrth ochr y cloc. Un o'r darganfyddiadau a wnaed pan adnewyddwyd y rhan hon o'r adeilad ganol y 1990au oedd y graffiti gwreiddiol ar y waliau a'r paneli cyfagos, a oedd yn nodi dyddiadau llwytho'r batri. Ar 10 Mehenfin 1909, er enghraifft, llwythwyd y batrïau gan Willie Owen Williams a George Hughes.

Glanhau'r cloc

Er bod y cloc wedi cael ei gynnal a'i gadw dros y blynyddoedd, erbyn 2001 roedd angen sylw arbenigol arno. Roedd busnes y gwneuthurwyr J.B. Joyce and Company yn dal i weithredu. Cafodd y busnes ei sefydlu yn yr Eglwys Wen yn Sir Amwythig, ac mae'n dal i fod yno dros dri chan mlynedd yn ddiweddarach. Yn anffodus nid oes ganddynt gofnod o'r clociau unigol a gynhyrchwyd, ond roeddent yn fodlon ymweld â'r Amgueddfa i archwilio'r cloc. Dychwelwyd y mecanwaith i weithdy Joyce lle cafodd ei lanhau a'u wasanaethu. Yna fe ailadeiladwyd y cloc, cyn ei ddychweleyd i'r Amgueddfa a'i roi ar waith unwaith eto. Heddiw mae'r cloc yn rhedeg yn llyfn ac mae'n gywir i raddau helaeth.

Cloc ar gyfer y Pentref

Mewn cyfnod pan nad oedd oriawr yn rhywbeth cyffredin, roedd y cloc a osodwyd yng ngweithdai Chwarel Dinorwig yn gloc ar gyfer y gymuned leol, a gallai holl drigolion Llanberis a'r cyffiniau glywed ei gloch. Meddai un awdur lleol:

'Torrai ar y distawrwydd yn nhrymder nos, a chlywyd aml i glaf yn cwyno yn y bore,"Chysgis i ddim gwerth neithiwr - clywed yr hen gloc yn taro pob awr nes iddi 'leuo"'

Mae'r cloc yn parhau i fesur treigl amser wrth i'r unfed ganrif ar hugain fynd rhagddi yn Llanberis.

Paentio Chwedlau Canoloesol o Rufain a Phrydain

22 Chwefror 2007

Cynrychiolir dwy chwedl ganoloesol wahanol mewn dau waith gan yr artist o'r 19eg ganrif, Syr Edward Burne Jones. Mae Olwyn Ffawd (1882) ac Arthur yn Afallon (1890) yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.

Olwyn ffawd, Burne Jones

Mae'r darlun anorffenedig hwn o tua 1882 yn darlunio'r thema ganol oesol o olwyn ffawd, sy'n codi neu'n darostwng dyn wrth iddi gael ei throi gan y dduwies Fortuna. Mae'r darluniau o'r noethion a dillad y dduwies yn dangos astudiaeth agos yr artist o Michaelangelo.
Bruce Jones.
Olew ar Gynfas.

Seiliwyd yr Olwyn Ffawd ar fytholeg Rufeinig. Roedd y dduwies Fortuna' cynrychioli lwc i'r Rhufeiniaid. Fodd bynnag, yn yr Oesoedd Canol fe esblygodd y syniad o olwyn ffawd o ysgrifau Boethius, merthyr Cristnogol o'r 6ed ganrif. Ysgrifennodd yn The Consolation of Philosophy mai rhan o ewyllys dwyfol Duw oedd newidiadau hap a damwain bywyd, ac felly bod yn rhaid i ddyn dderbyn ei ffawd.

Mae darlunio duwiau' fwy o ran maint na bodau dynol yn hen draddodiad mewn celf, ac yma mae Burne Jones yn darlunio Ffawd yn fwy na'r bodau dynol y mae' eu troi ar ei holwyn. Nid yw' ei darlunio' gwisgo mwgwd fel oedd yn arferol, ond â'i llygaid ar gau. Yn draddodiadol, mae pedwar ffigwr ar yr olwyn. Maent yn cynrychioli pedwar cyfnod bywyd: "Byddaf yn teyrnasu", "Rwyf yn teyrnasu", "Rwyf wedi teyrnasu" a "Nid oes gennyf deyrnas". Dim ond tri ffigwr a ddarlunnir gan Burne Jones ar yr olwyn, ond mae' cynnal y syniad o deyrnasiad drwy osod coron ar ben y ffigwr canolog.

Disgrifiodd yr awdur ffeministaidd Camille Paglia y gwaith hwn fel darlun sadomasocistaidd gyda "Fortuna' troi ei holwyn artaith o ddynion ifanc prydferth, yn ddiegni â'u cyrff yn ymestyn mewn dioddefaint cnawdol". Er bod y dynion yn derbyn eu ffawd, faint o ddewis sydd ganddynt mewn gwirionedd? Mae eu breichiau a'u coesau wedi'u hymestyn, nid mewn cnawdolrwydd, ond i ddangos bod rhaid sathru ar rywun arall i ddringo, a bod yr un peth yn digwydd i chi yn eich tro. Mae hyn yn rhywbeth y teimlodd Burne Jones ei hun. Ysgrifennodd ym 1893 "Mae fy olwyn Ffawd yn ddarlun o wirionedd, cymerwn ein tro arni, a chawn ein dryllio arni."

Fodd bynnag, byddai'r syniad hwn o godi a disgyn wedi bod yn arwyddocaol iawn yn y gymdeithas Fictoraidd ehangach, pan oedd modd i unigolion hel cyfoeth a chodi dosbarth drwy wneud ffortiwn o ddiwydiant, mewn cyfnod pan mai'r Ymerodraeth Brydeinig oedd y mwyaf pwerus yn y byd. Os oeddech ar frig yr olwyn, fe allai'r tro nesaf eich gosod ar ei gwaelod.

Paentiodd Burne Jones chwedl arall gydag Arthur yn Afallon. Cymerwyd y chwedl hon o gerdd enwog Thomas Malory o 1470 Morte d'Arthur ('Marwolaeth Arthur'). Roedd chwedlau Arthuraidd yn boblogaidd gan artistiaid am nifer o resymau. Roeddent yn adnabyddus ac yn cynnwys marchogion dewr, cariadon rhwystredig a hudolesau. Yn wahanol i'r byd clasurol, Cristnogion oedd yr arwyr hyn, ac yn well fyth, roedd eu gwreiddiau yn hanes Prydain. Roedd lle o hyd i arwyr Groeg a Rhufain, ond byddai arwr lleol yn fwy tebygol o ysbrydoli darpar-adeiladwyr yr ymerodraeth.

Yn Arthur at Avalon mae Burne Jones yn dangos golygfa marwolaeth Arthur. Wedi iddo gael ei anafu' farwol mewn brwydr gan Medrawd (ei fab gan ei hanner-chawer), cludir Arthur i Ynys Afallon mewn ymgais i wella'i glwyfau. Byddai pobl yn arfer credu bod Afallon yn lle hudol, ac mae'r enw (sy' golygu 'ynys yr afalau'), yn gysylltiedig â'r pren gwybodaeth. Yng nghefndir y paentiad gwelwn flodau ar goed, ac mae' bosib mai coed afalau yw'r rhain. Gorchmynnodd Arthur i Syr Bedwyr roi ei gleddyf, Caledfwlch, i Forwyn y Llyn, ond pan ddychwelodd Bedwyr, roedd Arthur wedi mynd. Ystyr hyn yn ôl rhai yw na fu Arthur farw, ond ei fod yn cysgu tan yr awr pan fydd ei angen unwaith eto. Parhaodd y chwedl Arthuraidd i ennyn diddordeb ymysg artistiaid drwy gydol yr 19eg ganrif, ac mae'n parhau i ysbrydoli artistiaid, awduron a gwneuthurwyr ffilmiau hyd heddiw.

Arthur At Avalon, Burne Jones, 1890
Arthur At Avalon

, Burne Jones, 1890