Ffermdy mawr neu fatsien fechan: gofalu am gasgliadau Hanes Cymdeithasol Sain Ffagan 22 Chwefror 2007 Cedwir casgliadau Hanes Cymdeithasol Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan. Gan ei bod yn amgueddfa awyr-agored, mae'r gwrthrychau'n amrywio rhwng adeiladau hanesyddol wedi'u hail-godi a gwrthrychau bach, bregus, sydd mewn storfa dymherus. Maent yn amrywio o ran maint rhwng matsis a gwelyau pedwar postyn, a gallant fod mor fregus â chregyn addurnol Fictoraidd brau, neu mor gadarn ag ysgythriadau wedi'u cerfio mewn carreg. Basged o'r casgliadau bywyd cartref sy'n dangos sut y gall glanhau arwynebedd gwrthrych gael effaith ddramatig ar ei ymddangosiad Gall gwrthrychau syml fod yn gymhleth dros ben. Gwnaed y gêm hon o dri math o bapur yn ogystal â metel, plastig a phaent. Yn aml mae gwrthrychau wedi'u gwneud o fwy nag un deunydd. Mae hyn yn golygu bod angen defnyddio gwahanol dechnegau cadwraethol ar gyfer gwahanol rannau o'r gwrthrychau. Rhaid i'r staff cadwraethol asesu gwrthrychau newydd i'w sefydlogi, ac archwilio'r eitemau sydd wedi'u storio'n rheolaidd. Cadwraeth ar gyfer y dyfodol Rhaid i bob gwrthrych yng nghasgliadau'r Amgueddfa fod yn strwythurol gadarn ac yn sefydlog yn gemegol os ydynt am oroesi. Wrth drin unrhyw wrthrych y cam cyntaf yw ei archwilio'n fanwl i weld a yw'n gyflawn. Os yw'n fudr, rhaid ystyried a yw'r budreddi'n bwysig i hanes y gwrthrych neu beidio. Pan fydd gwrthrych wedi ei ddifrodi, mae'n bwysig gwybod a gafodd ei ddifrodi wrth gael ei wneud neu wrth gael ei ddefnyddio. Cadw'r hen ddarn gwreiddiol neu arddangos gwrthrych wedi'i adfer yn llwyr? Bellach, nid yw ymwelwyr i amgueddfeydd yn disgwyl i bob gwrthrych fod yn "berffaith". Canlyniad hyn yw bod modd i ni roi blaenoriaeth i gadw'r hyn sydd wedi goroesi yn hytrach nag adfer yr hyn sydd wedi ei golli. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd gwybodaeth bwysig ynglŷn â'r broses o greu a defnyddio'r gwrthrych yn cael ei guddio neu'i ddinistrio. Ar ôl cofnodi cyflwr gwrthrych, gallwn fynd ati i weithredu'r triniaethau perthnasol. Mewn rhai achosion mae'n bosib rhwystro, neu o leiaf arafu, dirywiad pellach drwy ail bacio'r gwrthrych mewn deunyddiau di-asid a'i storio neu'i arddangos mewn amgylchedd sydd â'r tymheredd a'r lleithder cymharol priodol. Pan arddangosir gwrthrychau sydd mewn perygl o golli eu lliw, gellir eu gosod o dan olau gwan. Gall gwrthrychau Hanes Cymdeithasol fod wedi'u gwneud o unrhywbeth, bron, ac fel arfer maent wedi'u gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau. Hyd yn oed os yw gwrthrych wedi'i wneud yn gyfan gwbl o bren, mae'n bosibl bod nifer o fathau gwahanol o bren wedi cael eu defnyddio. Cyn cadw'r gwrthrych, rhaid gwneud profion i sicrhau na fydd y toddyddion a ddefnyddir yn toddi unrhyw ran o'r gwrthrych. Defnyddir cyn lleied ag sy'n bosibl o unrhyw driniaeth a ddewisir. Ni ddylai gwaith atgyweirio guddio unrhyw fanylion sydd ar y gwrthrych gwreiddiol. Rydym yn dilyn rheol y dylai sbesimen ymddangos yn gyflawn o bellter o 6 troedfedd 6 modfedd, ond dylid bod modd gweld y gwaith atgyweirio o'i archwilio'n fanwl. Bydd pob agwedd o'r gwaith cadwraethol yn cael ei gofnodi. Golyga hyn bod hanes llawn y gwrthrych ar gael, ac y gellir cyfeirio ato bob amser. Mae'r cofnod hwn hefyd yn ychwanegu at ein gwybodaeth ynglŷn â'r modd y mae deunyddiau modern yn heneiddio, gan fod dyddiad pob triniaeth yn cael ei gofnodi. Y cam olaf wrth drin unrhyw wrthrych yw sicrhau ei fod yn cael ei ddychwelyd neu ei osod mewn amgylchedd addas, gan leihau neu symud unrhyw beth a allai achosi'i ddirywiad neu ei ddifrodi. Mae arolygu'r amgylchedd a gofalu rhag plâu yn hanfodol. Wrth i gasgliadau'r Amgueddfa gynyddu, felly hefyd y gwna'r angen am waith cadwraethol. Mae hyn wedi cynyddu'r pwyslais ar waith cadwraeth ataliol, er enghraifft lle mae newid bach i'r amgylchedd neu i arferion gweithio yn gallu bod yn fuddiol i nifer fawr o wrthrychau. Drwy ail-ystyried y modd y caiff gwrthrychau eu harddangos a'u storio, rydym yn gobeithio symud tuag at gadwraeth gynaliadwy.
Dwy wraig Syr Watkin Williams-Wynn 19 Chwefror 2007 Dau bortread godidog gan Syr Joshua Reynolds Syr Joshua Reynolds (1723-1792), Sir Watkin Williams-Wynne and Henrietta Somerset. Priodwyd ar 11 Ebrill 1769 a bu hi farw ar 24 Gorffennaf yr un flwyddyn. Mae Syr Joshua Reynolds (1723-1792) yn ffigwr pwysig ymysg arlunwyr Prydain. Un o'i noddwyr mwyaf brwd oedd y tirfeddiannwr cyfoethog Cymreig Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789). Erbyn yr 1760au hwyr roedd incwm Syr Watkin yn caniatáu iddo wario symiau anferthol ar brosiectau adeiladu a phrynu gweithiau celf. Ym 1769 priododd Syr Watkin y Fonesig Henrietta Somerset, merch 4ydd Dug Beaufort. Bu'n briodas fer gan i Henrietta farw dri mis yn ddiweddarach. Prynodd ei mam-yng-nghyfraith set ymolchi arianwaith, wedi'i wneud gan Thomas Heming ym 1768, i Henrietta yn anrheg priodas. Syr Watkin Williams-Wynn a Henrietta Somerset Mae portread cyntaf Reynolds ar gyfer Syr Watkin, Sir Watkin Williams-Wynn and Henrietta Somerset, yn ddarlun maint llawn o'r pâr mewn gwisgoedd du a phinc sy'n cyfateb â'i gilydd. Maent yn dal mygydau theatrig mewn lleoliad pensaernïol o flaen llenni a fâs anferth. Gwelir y math yma o fâs mewn nifer o bortreadau gan Reynolds. Mae wedi'i gopïo o ysgythriad o'r 17eg-ganrif gan G.B. Galestruzzi yn null Polidoro da Caravaggio. Mae'r modelau'n gwisgo gwisg a gysylltir gyda'r peintiwr portreadau Anthony Van Dyck, a oedd yn ffasiynol o'r 1740au hyd yr 1770au. Roedd gwisgoedd du i fenywod gan Van Dyck yn anghyffredin, ac roedd yn anghyffredin i bâr wisgo dillad o'r un lliw, heblaw mewn dawns fasgiau. Darlunnir Henrietta mewn osgo sy'n gyffredin ym mhortreadau Reynolds o fenywod, a ddysgodd gan ei athro, Thomas Hudson. Darlunnir Syr Watkin â golwg melancolaidd ar ei wyneb, gydag osgo sy'n gweddu i'w gorffolaeth fer, gadarn. Er i'r darlun gael ei ddechrau fel portread priodas yn ôl pob tebyg, awgryma'r wisg ddu iddo gael ei gwblhau fel portread coffaol. Charlotte Grenville gyda'i phlant Sir Joshua Reynolds (1723-1792), Charlotte Grenville gyda'i phlant yn dangos ail wraig Syr Watkin Williams-Wynn. Mae'r ail bortread, Charlotte Grenville and her children, yn dangos ail wraig Syr Watkin. Roedd Charlotte Grenville (1754-1830) yn aelod o un o brif deuluoedd llywodraethol Prydain yn y 18fed-ganrif. Hi oedd merch hynaf George Grenville (1712-70) a oedd yn Brif Weinidog ym 1763-5. Fe wnaethant briodi ym 1771, ddwy flynedd wedi marwolaeth Henrietta. Mae'r paentiad hwn yn ei dangos gyda thri o'i phlant hynaf. Awgryma oedran y plant i'r portread gael ei baentio tua 1778. Mae'r cyfansoddiad yn adleisio'r paentiadau o Rest on the Flight with St John the Baptist o Fenis ar ddechrau'r 16eg ganrif. Mae safle'r plant yn y darlun yn adleisio'r grŵp sydd ar y dde yn y darlun Vendramin Family gan Titian (Oriel Genedlaethol), yr oedd Raynolds yn gyfarwydd ag ef. Gwnaed gwisg y Fonesig Charlotte yn y ffasiwn Dwrcaidd ac mae ei hosgo'n deillio o'r portreadau pastel Ladies in Turkish dress gan Jean-Etienne Liotard. Un o bortreadau mwyaf godidog Reynolds o'r 1770au yw Charlotte Grenville and her children a baentiodd pan oedd yn ei anterth. Mae'n debygol i'r ddau bortread gostio tua £315 yr un i Syr Watkins. Paentiwyd hwy yn null y Grand Manner, ac maent yn mynegi'r rhinweddau yr oedd Reynolds yn eu hedmygu fwyaf yng Nghelfyddyd Uchel y Dadeni. Maent hefyd yn dangos uchelgeisiau diwylliannol Syr Watkin Williams-Wynn a'i wragedd. Bu'r portreadau ym meddiant y teulu Williams-Wynn am dros ddwy ganrif cyn iddynt gael eu prynu gan yr Amgueddfa ym 1998. Mae gan yr Amgueddfa gasgliad ysblennydd o weithiau o gasgliad Syr Watkin yn cynnwys paentiadau pwysig gan Batoni a Mengs, ac arianwaith a chelfi wedi'u cynllunio gan Robert Adam.
Achub casgliad unigryw o arianwaith rhag y morthwyl 19 Chwefror 2007 Yn 2000, clywodd Amgueddfa Cymru y byddai cannoedd o ddarnau o arianwaith prin, a fu ar fenthyg yn yr Amgueddfa ers i'w drysau agor am y tro cyntaf, yn cael eu dychwelyd a'u gwerthu. Daw'r eitemau, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif, o gasgliad Syr Charles Jackson (1849-1923), cyfreithiwr a dyn busnes Cymreig. Yn ffodus, yn dilyn llawer o drafod a chodi arian, fe'u prynwyd gan yr Amgueddfa gyda chymorth sylweddol Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Casgliadau Celf Cenedlaethol a'r Worshipful Company of Goldsmiths. Felly pam mae'r casgliad hwn mor bwysig? Syr Charles Jackson (1849-1923) Syr Charles Jackson Ganwyd Syr Charles Jackson yn Nhrefynwy. Roedd yn un o grŵp o gasglwyr a hynafiaethwyr oedd yn cynnwys Robert Drane, T. H. Thomas a Wilfred de Winton. Gyda'i gilydd cawsant gryn ddylanwad ar ddatblygiad Amgueddfa Caerdydd. Fe chwaraeodd y grŵp ei ran hefyd i sicrhau mai Caerdydd fyddai lleoliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Trysorau Hynod Mae rhai o'r gwrthrychau a gasglwyd gan Jackson o safon esthetig neilltuol. Mae'r eitemau prin yn cynnwys llwy pen mesen o ddechrau'r 14eg ganrif, sy'n un o'r darnau cynharaf o arian Seisnig i gael ei ddilysnodi, a set gyflawn o lwyau 'apostol' (deuddeg apostol ac un 'Meistr') o 1638. Yr eitem bwysicaf mae'n debyg yw cwpan dwy-ddolen mewn arddull 'awriglaidd' (arddull addurnol o'r 17eg ganrif yn seiliedig ar rannau o'r corff, yn enwedig y glust ddynol, a roddodd yr enw i'r arddull) sy'n cael ei gysylltu â'r gof-arian Iseldirol Christian van Vianen, a oedd yn gweithio yn llys Siarl I. Mae dilysnod 1668 ar y cwpan, ac mae'n un o lond dwrn o ddarnau wedi'u gwneud yn Llundain yn yr arddull nodweddiadol hwn. Nid yw marc y gwneuthurwr wedi'i ddarllen eto, ond mae'n bosibl mai enw George Bowers neu Jean-Gerard Cooques sydd ar y gwaith, gan fod y ddau wedi gweithio fel eurychod yn llys Siarl II. Darnau prin ysbrydoledig Cwpan dwy-ddolen a chaead, Llundain 1668 Mae darnau anghyffredin, ysbrydoledig y casgliad yn cynnwys un o'r blaswyr gwin cynharaf, cwpan cymun Catholig o'r 17eg ganrif a wnaed yng Nghorc y gellid ei dynnu'n ddarnau er mwyn ei guddio, a stand inc ar ffurf glôb llyfrgell. Mae amrywiaeth eang gwrthrychau mwy cyffredin y casgliad, megis llestri halen a jygiau hufen, yn dangos esblygiad siapiau dros amser, ac yn dweud llawer wrthym am arferion cymdeithasol, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â bwyta. Mae'r gyfres ryfeddol o lwyau'n cynnwys bron pob math a gafodd eu gwneud dros gyfnod o 400 mlynedd. Gwerth academaidd unigryw Er bod y casgliad yn cynnwys nifer o wrthrychau prin a phrydferth, y rheswm pennaf dros ei gadw gyda'i gilydd yw ei werth academaidd unigryw. Dau brif gyhoeddiad Jackson, sef English Goldsmiths and their Marks (1905) a The Illustrated History of English Plate (1911), yw sylfaen ysgolheictod arian modern. Ynddynt mae Jackson yn dibynnu'n helaeth ar ei gasgliad ei hun i egluro marciau a datblygiad arddulliau dros amser. Byddai'n gohebu â phrif gasglwyr ei gyfnod, ac mae ei gasgliad yn crynhoi'r wybodaeth am arian hanesyddol ym Mhrydain yn y 1900au cynnar. Mae'n ffynhonnell unigryw o ddeunydd cyfeiriol ac mae'n parhau hyd heddiw i fod yn destun ymholiadau cyson oddi wrth arbenigwyr arianwaith ledled y byd. Mae casgliad Jackson hefyd yn cyfannu ac yn cyfoethogi casgliad rhagorol yr Amgueddfa o arianwaith hanesyddol, sy'n gysylltiedig â theuluoedd llywodraethol hanesyddol Cymru. Drwy brynu hanner casgliad Jackson, ar ôl iddo gael ei arddangos am wyth-deg o flynyddoedd, gyda'r tebygolrwydd y bydd gweddill y casgliad yn dilyn ryw ddydd, gall yr Amgueddfa ddatblygu ei rôl fel cartref un o'r prif gasgliadau astudiaeth o arianwaith hanesyddol. Darllen Cefndir Andrew Renton, 'Sir Charles Jackson (1849-1923)' yn Silver Studies - the Journal of the Silver Society, vol 19 (2005), 144-6
Cwpan o aur Cymru solet 19 Chwefror 2007 Aur Cymru Y cwpan aur solet a wnaethpwyd o gynllun mewn darlun o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i Jane Seymour ym 1536. Cwpan a chaead, aur 22 carat, R & S Garrard & Co, London 1867-68. Uchder: 39.8 cm (15 ''/16 modfedd). Mae aur Cymru'n brin iawn. Gwnaethpwyd modrwyau priodas teulu Brenhinol presennol Prydain ohono, ond y gwrthrych mwyaf i gael ei wneud o aur Cymru yw'r copi o gwpan a roddodd Harri VIII i un o'i wragedd. Y teulu cyfoethocaf yng Nghymru Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain. Teulu'r Williams-Wynn oedd y teulu cyfoethocaf yng Nghymru ar y pryd. Roeddent yn enwog am eu cyfoeth, gan ei wario ar dai crand, paentiadau drud ac arianwaith. Mae llawer o'r rhain bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa. Y Rhuthr am Aur Cymru Mae nifer yn gwybod am y rhuthr am aur yn Califfornia ym 1848, ond nid oes llawer yn gwybod am y rhuthr am aur Cymru a ddigwyddodd ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Ym 1862 darganfuwyd aur ym Meirionnydd ac yn fuan wedi hynny agorodd Syr Watkin-Wynn (1820-1885) waith aur Castell Carn Dochan ar ei dir. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r aur o'r gloddfa hon rhwng 1865 a 1873. Taliadau o Aur Talwyd breindaliadau mawr i Syr Watkin am yr aur a gloddiwyd, a thalwyd ef gyda'i ingotau aur ei hun. Fodd bynnag, nid oedd angen yr incwm hwn arno gan ei fod mor gyfoethog, a gallai drin yr aur fel difyrrwch. Cwpan o Aur Solet Defnyddiwyd peth o'r aur i wneud cwpan ysblennydd. Mae'r cwpan yn 40cm o uchder ac wedi'i wneud o aur 22-carat. Mae arno'r ysgythriad "MADE OF GOLD THE ROYALTY FROM CASTELL CARNDOCHAN MINE 1867" yn ogystal â'r dilysnod R & S Garrard and Co., Haymarket, Llundain. Mae'n addurnol, yn y steil a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod y Dadeni cynnar. Mae'n sefyll ar droed gron, ac mae ochrau'r goes wedi ei haddurno â phennau blodau, dolffiniaid a chlychau. Mae nifer o arwyddeiriau teuluol wedi'u hysgythru ar y cwpan: eryr eryrod eryri, y cadarn a'r cyfrwys, bwch yn uchaf a cwrw da yw allwedd calon. Mae arfbais Williams-Wynn ar y caead tal, ac arno hwrdd ifanc yn cael ei gynnal gan geriwbiaid ar y brig. Cynllun Brenhinol ar gyfer Harri VIII Y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cwpan a roddwyd i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536-37 yn yr Amgueddfa Brydeinig. Hans Holbein yr Ieuaf, pen ag inc ar bapur. Hawlfraint Yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain Fe seiliodd gwneuthurwyr y cwpan eu cynllun ar ddarlun sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536. Addurnwyd y cwpan â diemwntau a pherlau. Toddwyd cwpan Jane Seymour ar orchymyn Siarl I ym 1629, pan oedd yn brin o arian.
Paentio Meistres - dwy agwedd holloll wahanol 19 Chwefror 2007 Mae agwedd artistiaid tuag at gariad a godineb wedi amrywio'n fawr mewn gwahanol gyfnodau. Yma gwelwn ddwy ymdriniaeth tra gwahanol o "Fair Rosamund", meistres Harri II, gan Dante Gabriel Rossetti (1861) a John William Waterhouse (1916). Y Chwedl Mae 'Fair Rosamund' (Dante Gabriel Rossetti, 1861) yn ymddangos yma y tu ôl i falwstrad ym maenor brenhinol Woodstock. Roedd y model, Fanny Cornforth, yn modelu'n gyson ar gyfer Rossetti, ac wedi marwolaeth ei wraig, Elizabeth Siddall yn 1862, aeth yn wraig cadw tŷ iddo. 1861. Olew ar gynfas. Roedd y Brenin Harri II (1154-1189) yn briod ag Elinor o Acwitania. Roedd ganddo hefyd feistres o'r enw Rosamund. Yn ôl y chwedl, adeiladodd Henry balas ar gyfer Rosamund nad oedd modd ei gyrraedd ond trwy ddrysfa. Defnyddiai gordyn coch i ffeindio'i ffordd drwy'r ddrysfa ac i roi gwybod i Rosamund ei fod wedi cyrraedd. Fe ddaeth Elinor o hyd i'r ddrysfa, a dilynodd y cordyn i ganfod meistres ei gŵr, a'i llofruddio. Cynigiodd iddi'r dewis o yfed gwenwyn neu gael ei thrywanu. Mewn gwirionedd, ni lofruddiwyd Rosamund gan Elinor; aeth i fyw mewn lleiandy, ble y bu farw ym 1176. Roedd gan Elinor alibi gwych ar gyfer amser marwolaeth Rosamund - roedd hi yn y carchar am deyrnfradwriaeth. Fe'i carcharwyd gan Harri am gefnogi eu meibion mewn gwrthryfel yn ei erbyn, fel y gwelir yn y ffilm The Lion in Winter. Dante Gabriel Rossetti Yn fersiwn Rossetti dim ond Rosamund a gynrychiolir, a'r unig gyfeiriad at y stori yw'r cordyn coch. Addurnir y balwstrad y mae Rosamund yn pwyso arno gyda chalonnau â choronau ar eu pen, sy'n cyfeirio at ei safle fel meistres y brenin. Cyfeiria'r rhosyn yn ei gwallt at ei henw. Y model ar gyfer y gwaith oedd Fanny Cronforth, putain a gyfarfu â Rossetti ym 1858, ac a ddaeth yn feistres iddo. Mae Rossetti yn darlunio Rosamund yn segur; does ganddi ddim pwrpas heblaw disgwyl dyfodiad ei chariad. Mae ei gwisg yn anymarferol ac yn dangos popeth wrth iddi lithro oddi ar ei hysgwyddau. Mae'n gwisgo gemwaith dirywiedig ac mae ei hwyneb yn wridog a'i gwallt yn rhydd. Yma, gwelwn y cysyniad ystrydebol Fictoraidd o'r feistres fel menyw anghynhyrchiol, rywiol. John William Waterhouse Fair Rosamund - John William Waterhouse (1916). Mae ymdriniaeth dosturiol Waterhouse o Rosamund yn esiampl o'r modd y dehonglir godineb canoloesol weithiau fel cariad rhwystredig. 1916. Olew ar gynfas. Yn ei waith, a baentiwyd 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae Waterhouse yn cyflwyno darlun o Rosamund sydd i'r gwrthwyneb bron. Yn y darlun hwn gwelwn Rosamund wedi'i gorchuddio'n llwyr ac yn penlinio, ei dwylo ynghyd fel petasai'n gweddïo, ei gwaith tapestri wedi'i anghofio am ennyd wrth iddi syllu allan drwy'r ffenestr yn disgwyl ei chariad. Ymdeimlad o gariad sanctaidd rhwng gŵr a gwraig sydd yn y gwaith, yn hytrach na godineb. Darluniodd Waterhouse Rosamund yn gwisgo coron, fel arwydd efallai nad serch y Brenin tuag at Rosamund yw'r prif fygythiad i Elinor, ond y ffaith ei bod yn frenhines gystadleuol. Os edrychwn y tu hwnt i Rosamund gwelwn Elinor, y wraig sydd wedi cael cam, yn agor y llenni, ar fin myned i'r ystafell i'w llofruddio. Roedd darlunio digwyddiad yn arwain yn raddol at uchafbwynt — cyfarfod angheuol fel arfer — yn gyffredin mewn celfyddyd Fictoraidd. Yma, mae Waterhouse yn creu'r olygfa, ond mae'n gadael i'r gynulleidfa ddychmygu'r canlyniadau. Mae ymdriniaeth dosturiol Waterhouse o Rosamund yn esiampl o'r modd y dehonglwyd godineb canoloesol ar adegau fel cariad rhwystredig, er enghraifft yn storïau Gwenhwyfar a Lawnslot neu Trystan ac Esyllt. Cynghreiriau gwleidyddol yn hytrach nag uniadau'n deillio o gariad oedd priodasau canoloesol, felly, pan fyddai cariad yn digwydd, roedd yn ennyn cydymdeimlad. Serch hynny, nid dyna oedd barn y gymdeithas Fictoraidd, na'r llywodraeth. Diswyddwyd y gwleidydd Gwyddelig Charles Parnell fel arweinydd Plaid Seneddol Iwerddon ym 1890 pan ddaeth i'r amlwg ei fod wedi cynnal carwriaeth â menyw briod.