Rhowch i ni UN GAIR - dim ond un - am Gymru Angharad Wynne, 17 Chwefror 2021 Heddiw, mae Cymru’n genedl fodern, amlethnig, amlddiwylliannol, ac mae llawer o’n teulu, ffrindiau a chyd Gymry wedi’u gwasgaru ledled y byd. Rydyn ni wedi bod yn byw trwy amseroedd digynsail, mae ein byd yn newid. Felly wrth i Ddydd Gŵyl Ddewi agosáu, rydyn ni am weld os yw hunaniaeth Gymreig yn newid hefyd.Rydym yn colli’ch croesawu i oriel Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru lle rydym yn archwilio hunaniaeth Gymreig ac yn gofyn ichi rannu eich syniadau amdani, felly hoffem glywed gennych yn fawr iawn. Gofynwn i chi rhoi UN GAIR i ni – dim ond UN GAIR i ddisgrifio Cymru neu Gymreictod ar hyn o bryd. Gallai fod yn beth, yn emosiwn, yn lliw, beth bynnag ydyw i chi, nawr. Un Gair am Gymru Rydym am wybod a yw pethau megis cennin Pedr neu gawl neu gysyniadau fel ‘hiraeth’ neu ‘cwtch’ yn ein cynrychioli ni o hyd, neu a oes yna bethau a theimladau eraill sy’n dod i’r amlwg fel eiconau neu fel syniadau am Gymru gyfoes.Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan bawb ac unrhyw un sy’n byw yng Nghymru, neu unrhyw un sy’n uniaethu fel Cymry – o ba bynnag gefndir ethnig neu ddiwylliannol, waeth ble rydych chi’n byw yn y byd ar hyn o bryd.Byddwn yn casglu’ch holl eiriau gyda’i gilydd ac yn gwneud rhywbeth hardd gyda nhw i’w rannu gyda chi ychydig cyn Dydd Gŵyl Ddewi.Mae croeso i chi drydar eich gair neu greu Instagram i’w rannu, ond cofiwch ychwanegu’r hashnod #gairamgymru i’ch post fel y gallwn ddod o hyd iddo a’i gynnwys yn ein hymatebion. Fel arall, e-bostiwch eich gair atom gan ddefnyddio: ungairamgymru@amgueddfacymru.ac.uk. A chofiwch rannu hyn gyda ffrindiau a theulu ledled Cymru ac ar draws y byd.
CYSTADLEUAETH! Creuwch a Traddodwch stori wedi eu Hysbrydoli gan y Ffrog Briodas hon. Angharad Wynne, 1 Chwefror 2021 Mae'n Wythnos Genedlaethol Storïo !! Er mwyn ei ddathlu, rydyn ni'n eich gwahodd i greu a dweud stori wrthym .... am y ffrog briodas hon!Byddwn yn adrodd mwy o hanes y ffrog yma ar ddiwedd y gystadleuaeth, gan nad ydym am gyfyngu ar eich creadigrwydd na dylanwadu ar eich syniadau, ond efallai y byddai gennych ddiddordeb gwybod ei bod wedi'i gwneud o frethyn cain, wedi'i brynu ym 1974, pan oedd ein hamgueddfa yn dal i fod yn felin wlân weithredol o'r enw Melin Cambrian. Bydd yr enillydd yn derbyn Carthen Cymraeg wlân ddwbl, a wnaed ar ein safle amgueddfa gan Melin Teifi. Mae nifer o ddewisiadau lliw ar gael. Bydd y gwehydd stori orau yn ennill blanced Gymraeg ddwbl hardd, draddodiadol, a wnaed gan Melin Teifi ar ein safle amgueddfa. Yn draddodiadol, rhoddwyd y blancedi hyn fel anrheg briodas, ac maent yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u casglu ledled y byd.SUT I GYSTADLU:Mae'r grefft o adrodd straeon yn un hynafol yma yng Nghymru. Cafodd ei ymarfer gan Gyfarwyddion yn llysoedd ein brenhinoedd ac arglwyddi yn ogystal ag wrth dan yr efail ac ar aelwydydd ledled y Genedl. I anrhydeddu'r traddodiad hwn, ar gyfer wythnos adrodd straeon, rydyn ni'n gofyn i chi DDWEUD stori, yn hytrach nag ysgrifennu un i lawr. Mae croeso i chi ymgeisio trwy'r Gymraeg neu'r Saesneg. Felly,1. Breuddwydiwch, dychmygwch a meddyliwch trwy stori fer, wreiddiol, a ysbrydolwyd gan y ffrog briodas hon o'n casgliad. Efallai y bydd hi'n ddefnyddiol i chi nodi ychydig o bwyntiau i strwythuro’r stori.2. Ymarferwch DWEUD y stori, ac amserwch eich hun i sicrhau ei bod DAN 2 FINUD O HYD. Ni fyddwn yn derbyn straeon sy'n mynd dros amser.3. Pan fyddwch chi'n teimlo'n hyderus, ffilmiwch eich hun yn adrodd y stori mewn llai na 2 funud. Nid oes angen iddo fod yn ffansi, bydd ffilm ar gamera ffôn yn hollol dderbyniol. Fel arall, allech chi recordio'ch hun yn siarad y stori (dim mwy na 2 funud o hyd) ac anfon y recordiad sain atom. Fodd bynnag, peidiwch â DARLLEN stori I ni. Mae gwahaniaeth mawr rhwng traddodi stori ar lafar a'i darllen. 4. Pan fydd gennych recordiad ffilm / sain rydych chi'n hapus ag ef, anfonwch e dros e-bost atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad yma: stori@amgueddfacymru.ac.uk Yn draddodiadol, rhoddid y blancedi yma'n anrhegion priodas, ac maent yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u casglu ledled y byd. DYDDIAD CAU’R GYSTADLEUAETH: DYDD MERCHER 10 CHWEFROR am 15:00. Am delerau ac amodau cystadlu, gwelwch isodByddwn yn rhannu'r 5 stori orau trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Ddydd San Ffolant, ac yn cyhoeddi'r enillydd y prynhawn hwnnw. CYNGOR AM RECORDIO EICH STORI YN DEFNYDDIO FFÔN SYMUDOL / TABLET / GLINIADUR / CYFRIFIADUR BEN-DESGGoleuo- Defnyddiwch olau naturiol: y tu allan neu wrth ymyl y ffenestr gyda'r golau ar eich wyneb.- Ceisiwch osgoi cael golau’r tu cefn i chi, megis ffenestr, lampau, teledu ayyb. Fframio a Lleoli- Ffilmiwch gan ddefnyddio fformat tirwedd, yn hytrach na portred.- Cadwch eich ffôn mor llonydd ag y gallwch trwy ddefnyddio tripod neu ei orffwys ar wyneb cyson. Cisiwch osgoi ffilmio â llaw. Cofnodi ar Gliniadur neu Gyfrifiadur Ben-desg- Cychwynwch Zoom, Tims, Skype, FaceTime ac ati gan sicrhau eich bod chi'n gallu gweld eich hun, yna dechreuwch QuickTime Player. Defnyddio nodwedd cipio sgrin gyda QuickTime Player- O fewn y rhaglen: File, “New Screen Recording”, pwyswch botwm recordio coch i ddechrau recordio.- Pwyswch y botwm stopio i ddiweddu'r recordiad.- Safiwch y ffeil: Ffeil, “Export As”, 1080p, teitl y fideo, dewis lleoliad y ffeil, “Save”. Telerau ac Amodau· Yr Hyrwyddwr yw: Amgueddfa Genedlaethol Cymru / the National Museum of Wales (Rhif Elusen: 525774) sydd â’i swyddfeydd cofrestredig ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP.· Ni chaiff gweithwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru na aelodau'r teulu, neu unrhyw un arall sydd ynghlwm â'r gystadleuaeth mewn unrhyw fodd, gystadlu.· Nid oes tâl mynediad i'r gystadleuaeth ac nid oes yn rhaid gwneud unrhyw bryniad i gystadlu.· Ni fydd unrhyw ymgais sy’n rhoi ymgeisydd, staff neu unrhyw berson arall mewn perygl yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth.· Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw anaf neu niwed corfforol i ymgeiswyr neu unrhyw berson arall wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.· Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau eu diogelwch eu hunain, ac unrhyw berson arall presennol, tra’u bod yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.· Dyddiad cau’r gystadleuaeth fydd Mercher, 10 Chwefror am 15.00. Wedi’r dyddiad hwn ni chaiff ceisiadau pellach eu derbyn.· Ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw geisiadau nas derbynnir, am unrhyw reswm. Nid yw prawf anfon yn brawf fod y cais wedi'i dderbyn.· Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl i ddileu neu newid y gystadleuaeth a’r telerau a’r amodau hyn heb rybudd yn achos unrhyw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth yr Hyrwyddwr. Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r ymgeiswyr cyn gynted â phosibl o unrhyw newid i’r gystadleuaeth.· Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am fanylion anghywir am wobrau a ddarperir i ymgeisydd gan unrhyw drydydd parti sydd ynghlwm â’r gystadleuaeth.· Ni chaiff gwobrau ariannol eu cynnig yn lle’r gwobrau a nodir. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau. Cynigir y gwobrau yn unol â’u hargaeledd a cheidw’r Hyrwyddwr yr hawl i gyfnewid unrhyw wobr am wobr gyfwerth heb rybudd.· Caiff yr enillwyr eu dewis gan gynrychiolydd yr Hyrwyddwr.· Caiff yr enillwyr eu hysbysu drwy ebost, Facebook neu Twitter erbyn 15 Chwefror. Os na ellir cysylltu â’r enillwyr, neu os na fyddant yn hawlio eu gwobr o fewn 72 awr o gael eu hysbysu, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl a’i dyfarnu i enillydd arall.· Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r enillydd pryd a ble y gellir casglu’r wobr – neu lle i’w bostio· Bydd penderfyniadau’r Hyrwyddwr, ym mhob achos yn ymwneud â’r gystadleuaeth, yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.· Caiff y gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn eu rheoli dan gyfraith y DU a bydd unrhyw anghydfod yn atebol i awdurdod llysoedd y DU yn unig.· Wrth ymgeisio, mae pob ymgeisydd yn rhyddhau Facebook, Twitter a Instagram o unrhyw a phob atebolrwydd sy'n ymwneud â'r gystadleuaeth hon.· Bydd pob ymgeisydd yn cytuno y gall Amgueddfa Genedlaethol Cymru arddangos a rhannu’r cais a gyflwynwyd, ar eu gwefan a’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gydnabod eu henw os yw’r wybodaeth ar gael. Erys hawlfraint ddeallusol y gweithiau ym meddiant yr ymgeisydd· Mae’r enillwyr yn cytuno i yrru neges o gydnabyddiaeth ar Facebook, Instagram neu Twitter, gan enwi @amgueddfacymru yn eu neges.· Mae’r enillydd yn cytuno y gellir defnyddio ei enw, llun, a’r gwaith a gyflwynwyd mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd.· Caiff unrhyw ddata personol yn ymwneud â’r enillydd neu unrhyw ymgeiswyr eraill ei ddefnyddio’n unol â chyfraith ddiogelu data gyfredol y DU yn unig ac ni chaiff ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd ymlaen llaw gan yr ymgeisydd.· Bydd ymgeisio yn y gystadleuaeth yn gyfystyr â derbyn y telerau ac amodau hyn.· Nid yw’r gystadleuaeth hon wedi ei noddi, ei chymeradwyo na’i gweinyddu, nac ychwaith yn gysylltiedig â Facebook neu unrhyw Rwydwaith Gymdeithasol arall. Rydych yn darparu eich gwybodaeth bersonol i Amgueddfa Cymru yn hytrach nag unrhyw barti arall. Caiff y wybodaeth a ddarperir ei defnyddio yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
Cacennau Blasus, Rhamantus yn barod ar gyfer Dydd Santes Dwynwen Angharad Wynne, 20 Ionawr 2021 Mae'n Ddydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr, y diwrnod pan rydyn ni'n dathlu cariad yma yng Nghymru. Rhag ofn eich bod ar wahan oddi wrth anwylyd yn ystod y cyfnod clo hwn, rydyn ni'n rhannu’r rysáit hon yn gynnar er mwyn i chi gael cyfle i'w danfon yn y post. Beth bynnag rydych chi'n ei wneud, rydyn ni'n anfon cwtch mawr Covid- ddiogel atoch o'r amgueddfa.Daw'r rysáit hyfryd hon wrth ein tîm arlwyo yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Drefach Felindre. Pice Bach Siap Calon CYNHWYSION:Blawd hunan-godi 1 lbMenyn 8ozSiwgr caster 6oz2 wy2 lond llaw o gyrens - neu llugaeron os ydych chi am ychwanegu tipyn o liw coch ar gyfer diwrnod Santes Dwynwen!Menyn ychwanegol ar gyfer seimio DULL:1. Hidlwch y blawd mewn i fowlen ac ychwanegwch y menyn wedi'i ddeisio.2. Rhwbiwch â'ch bysedd, neu mewn prosesydd bwyd, nes bod y gymysgedd yn debyg i friwsion bara.3. Ychwanegwch y siwgr, y cyrens / llugaeron a'r wyau wedi'u curo a'u cymysgu'n dda i ffurfio pelen o does, gan ddefnyddio sblash o laeth os oes angen.4. Rholiwch y toes allan ar fwrdd â blawd arno i drwch o tua 5mm / ½ modfedd.5. Torrwch y toes gyda thorrwr siap calon 7.5–10cm / 3-4in.6. Rhwbiwch lech neu radell haearn trwm â menyn, sychwch unrhyw ormodedd a'i roi ar yr hob nes ei fod yn cael ei gynhesu drwyddo.7. Coginiwch y picie bach ychydig ar y tro am 2–3 munud ar bob ochr, neu nes eu bod yn frown euraidd.8. Tynnwch o'r radell a taenwch siwgr mân trostynt tra’n gynnes. Dyma nhw! Pice Bach blasus a rhamantus! Mwynhewch!!
Arddangosfa Gobaith - Diweddariad y Flwyddyn Newydd! Kate Evans, 6 Ionawr 2021 Lansiodd Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru ym mis Ebrill 2020, ar ddechrau’r cyfnod clo cenedlaethol. Nod y project yw creu sgwariau lliw enfys 8” neu 20cm gan ddefnyddio hoff dechneg y crefftwr – gweu, ffeltio, gwehyddu neu grosio. Bydd y sgwariau wedyn yn cael eu rhoi at ei gilydd gan wirfoddolwyr Amgueddfa Wlân Cymru gan greu carthen enfys enfawr a gaiff ei arddangos yn yr Amgueddfa ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Yn dilyn yr arddangosfa caiff carthenni llai eu creu o’r garthen enfawr a’u rhoi i elusennau amrywiol.Hoffem ddweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y project hyd yn hyn, mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel ac rydym wedi derbyn dros 670 o sgwariau o bob cwr o’r wlad! Rydym yn ddiolchgar am bob sgwâr a dderbyniwn, ynghyd â’ch negeseuon caredig a dymuniadau gorau. Mae’n hyfryd clywed bod cynifer ohonoch wedi teimlo bod creu’r sgwariau hyn wedi helpu yn ystod y cyfnod digynsail a heriol hwn. Er nad oes modd i ni gyfarfod, rydym yn un mewn ysbryd, gobaith a chymuned.Aeres Ingram yw ein cyfrannwr mwyaf toreithiog ar hyn o bryd, mae hi wedi gwau 70 sgwâr ar gyfer y flanced! Wrth siarad am y prosiect, meddai: "roedd gwau’r sgwariau ar gyfer y flanced enfys wedi fy helpu'n fawr yn ystod y cyfnod clo ac fe roddodd ymdeimlad o berthyn a chyflawniad i mi, gan wybod fy mod yn ymwneud â rhywbeth pwysig a hefyd helpu rhai mewn angen. Edrychaf ymlaen at weld y darnau wedi’u gwnïo gyda’i gilydd a’r flanced orffenedig." Cafodd Arddangosfa Gobaith ei chynnwys yn Wythnos Addysg Oedolion a rhyddhawyd dau fideo o’r Grefftwraig Non Mitchell yn dangos sut i greu sgwâr wedi’i ffeltio a’i wehyddu. Os hoffech greu sgwar, gymrwch olwg ar rhain: Rhannodd elusen Crisis (de Cymru), sy’n cefnogi pobl ddigartref, wybodaeth am Arddangosfa Gobaith ar eu tudalennau Facebook a chreu pecynnau yn cynnwys gwlân a chyfarwyddiadau i’w hanfon at ddefnyddwyr y gwasanaeth i’w helpu i gymryd rhan.Lluniwyd y sgwariau hynod gain mewn lliwiau, arddulliau, pwythau, a chynlluniau amrywiol. Dyma hanes rhai o’r sgwariau a’u crefftwyr... Sgwâr o liwiau'r enfys wedi'i wau ar gyfer y flanced obaith Crewyd y sgwâr hwn gan ein Gwirfoddolwr Gardd Susan Martin. Mae Susan wedi troellli edafedd ei hun a’i liwio’n naturiol. Mae’r lliwiau enfys yn dod o gymysgu glaslys, llysiau lliw a’r gwreiddrudd gwyllt â gwyn i greu effaith ysgafnach a brethynnog, gellir dod o hyd i’r holl blanhigion hyn yng Ngardd Lliwurau Amgueddfa Wlân Cymru. Derbyniodd Gardd Lliwurau Naturiol yr Amgueddfa Wobr Gymunedol y Faner Werdd sy’n newyddion arbennig! Mae rhagor o wybodaeth am yr Ardd Liwurau ar ein gwefan. Sgwâr wedi'i weu a logo Amgueddfa Genedlaethol y Glannau arno ar gyfer ein blanced obaith. Lluniwyd y sgwâr hwn gan y Gwirfoddolwr Crefft Cristina gan ddefnyddio’r edafedd cyntaf a wnaed gan y Cynorthwyydd Amgueddfa, Stephen Williams, a’r crefftwyr dan hyfforddiant Richard Collins a James Whittall wrth iddynt ddysgu i droelli. Cyfrannodd ymwelwyr yn ogystal at greu’r edafedd, gan gynnwys menyw oedd heb droelli ers ugain mlynedd, plentyn tra byddar, â mam i aelod o staff. Sgwâr wedi'i weu a logo Amgueddfa Genedlaethol y Glannau arno ar gyfer ein blanced obaith. Crëwyd y sgwâr hyfryd hwn gyda logo’r Amgueddfa gan Gynorthwyydd Oriel Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ruth Melton. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r Gwirfoddolwyr Crefft yn ôl i’r Amgueddfa y flwyddyn yma a dechrau ar y gwaith o greu’r garthen. Cadwch lygad barcud ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Diolch i The Ashley Family Foundation a Sefydliad Cymunedol Cymru am gefnogaeth gyda’r prosiect.Y dyddiad cau ar hyn o bryd ar gyfer cyfraniadau yw 31/03/2021. Cliciwch yma am wybodaeth ar sut i gymryd rhan. Diolch unwaith eto am eich holl gefnogaeth.
'Becoming' the branding behind the Burton exhibition Rachael Hazell-Edwards, 21 Rhagfyr 2020 Shw'mae! I’m Rachael, one of the graphic designers here at Amgueddfa Cymru.Branding an event or exhibition is one of my favourite parts of my role across our museums. The project team often meet and throw ideas around, seeking sources of inspiration from our collections and the public connections people have with whatever exhibition or event we’re preparing.We knew that Burton was going to mean a lot to visitors, but how to approach it was an important focus for this project. There are plenty of people who know who Burton is, but an early exit from Hollywood meant that he didn’t get his “final act”. As such, a whole generation missed out on seeing him act through his twilight years, and we found that Burton is an unknown name in young audiences in particular. We experimented with a 1960s mid-century feel at first, playing with Burton’s profile in a traditional theatre style. Because of his changing life, we found that while some people recognised the illustration instantly, others didn’t see “their” Burton. Taking those bright colours on black we began to try adding photographs from Burton’s life, giving a representation of the Burton who people knew, and who they would get to know in the course of the exhibition. However, our leading man needed a larger centre stage and we went back to our original favourite images to find a strong image which represented the iconic years. Our final option, against the poster you are now familiar with, was a later-in-life image of Burton, shot by the photographer Douglas Kirkland. This was a personal favourite, but rather than remembering Burton for the tabloid headlines view of an aged, world-weary actor we wanted to show Burton as that and more, the family man, the Welshman, the author. A final addition of the red, to symbolise the Hollywood red carpet and Burton’s Welsh roots, made the poster complete.The Becoming Richard Burton exhibition opened in November, but the exhibition and the museum have been closed due to government guidelines regarding the COVID-19 pandemic since December. We hope that the museum and the exhibition will reopen to visitors again soon. In the meantime, visitors can see some of the photos and personal papers from the exhibition on the Becoming Richard Burton digital platform. Visit the platform now.