Cast ynteu ceiniog? Darganfod bod un o gasgliadau Hynafol Amgueddfa Cymru'n fodern 17 Ebrill 2007 Ddechrau'r ugeinfed ganrif sefydlodd llywydd Amgueddfa Cymru, yr Arglwydd Howard de Walden, gasgliad rhyfeddol o hen arfau ac arfwisgoedd Ewropeaidd. Roedd y casgliad yn cynnwys nifer o ddarnau clasurol - helmedau, cleddyfau, blaenau gwaywffyn, gwregysau ac arfwisgoedd. Credwyd mai darnau Ewropeaidd a Rhufeinig oeddynt yn bennaf - nes i waith yn Amgueddfa Cymru ddatgelu i'r gwrthwyneb... Y casgliad yn dod i Amgueddfa Cymru Portread o'r Arglwydd Howard de Walden (1880-1946) 'Helmed' efydd Etrwsgaidd wedi'i addurno ag aur yn dangos hanner y patina ffug wedi'i dynnu Pelydr-X o'r helmed Ym 1945, benthycodd yr Arglwydd Howard 79 'gwrthrych efydd hynafol' i'r Amgueddfa. Ar ôl ei farwolaeth ym 1946, penderfynodd ei fab gyflwyno gweddill yr eitemau i ni. Ym 1990 datgelodd gwaith ymchwil gan ysgolhaig o Rwsia bod rhai o'r eitemau o'r casgliad wedi'u gwneud mewn gweithdy gemydd yn Odessa, de Rwsia, rhwng 1890 a 1910. Mae gwaith ymchwil pellach wedi dangos bod rhai o'r gwrthrychau'n gwbl ddilys, tra bod eraill yn dangos olion ymdrechion i'w 'gwella', neu wedi cael eu gwneud yn ddiweddarach o ddarnau metel hynafol a drawsffurfiwyd yn ffurfiau clasurol. Gan fod galw mawr am hynafiaethau clasurol yn y cyfnod hwn, peth digon cyffredin oedd cynhyrchu gwrthrych o ddarnau hynafol o nifer o ffynonellau, neu, mewn geiriau eraill, i greu pastiche (gwaith celf sy'n efelychu arddull darn cynharach). Ceir nifer o ffugweithiau hefyd, lle defnyddiwyd y metel anghywir ar gyfer oedran y gwrthrych. Roedd Arglwydd Howard de Walden yn ymwybodol iawn o hyn, ac wrth drefnu'r benthyciad i'r Amgueddfa ysgrifennodd 'efallai na fyddwch am dderbyn rhai o'r darnau rhai na ellid bod yn sicr ynglŷn â'u dilysrwydd'. 'Helmed' efydd Archwiliodd staff cadwraeth yr Amgueddfa un o'r gwrthrychau hyn, sef helmed efydd wedi'i addurno ag aur a ymddangosai ei fod yn dyddio o'r 3edd ganrif CC. Defnyddiwyd pelydr-X i ddatgelu cyflwr y metel, lefel y cyrydu, ac adeiladwaith yr helmed. Fodd bynnag, datgelwyd llawer mwy na'r disgwyl pan sylwyd ar linellau sodro trwchus. Roedd yr helmed wedi cael ei atgyweirio'n gymharol ddiweddar; roedd y craciau wedi cael eu sodro a'r tyllau wedi cael eu hatgyweirio gan ddefnyddio darnau bach o fetel. Gosodwyd patina (y llewyrch sy'n datblygu ar hen wrthrychau o ganlyniad i'w defnyddio) ffug sy'n edrych fel efydd sydd wedi cyrydu, ar ei ben. Dangosodd dadansoddiad o'r metel bod yr helmed efydd, a'r darnau metel a ddefnyddiwyd i atgyweirio'r tyllau, yn hynafol. Serch hynny, gwelwyd arwyddion bod yr aur yn fodern. Atgyweiriwyd ac addurnwyd yr helmed ag aur er mwyn cynyddu ei werth a'i wneud yn fwy deniadol i gasglwyr. Mae'n debyg i'r gwaith gael ei gwblhau ar droad yr 20fed ganrif. A ddylid tynnu neu gadw'r gwaith atgyweirio modern? Yn y diwedd, penderfynwyd tynnu hanner y patina ffug er mwyn dangos y gwaith atgyweirio o dan yr wyneb. Teimlwyd bod y newidiadau'n rhan o hanes y gwrthrych, a fyddai'n bwrw goleuni ar y technegau a ddefnyddiwyd yn y cyfnod pan gasglwyd yr helmed. Mae'r astudiaeth o'r casgliad pwysig hwn yn bwrw goleuni ar dechnoleg hynafol yr arfau a'r arfwisg glasurol, a natur y farchnad hynafiaethau ganrif yn ôl.
Gofalu am DNA mewn Casgliadau Gwyddoniaeth Natur 5 Ebrill 2007 Sbesimenau dros gan mlwydd oed wedi'u cadw mewn hylif, a ffynhonnell bosib i astudiaethau DNA. Y Blaidd Tasmaniaidd, sydd wedi diflannu. Defnyddiwyd DNA a dynnwyd o groen y sbesimenau yn yr Amgueddfa i astudio'r berthynas rhwng y Blaidd Tasmaniaidd ag anifeiliaid bolgodog eraill. Mae casgliadau pryfed hanesyddol yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer astudiaethau genetig y dyfodol. Mae'r argyfwng cynyddol ym mioamrywiaeth y byd wedi creu gofynion newydd i'r casgliadau biolegol sydd gan ein hamgueddfeydd. Hefyd, mae technegau modern yn ein galluogi i edrych ar ein casgliadau mewn ffyrdd newydd megis dadansoddi DNA (Deoxyribonucleic acid). Mae bellach yn bosib echdynnu a darllen DNA o sbesimenau amgueddfa, ond gall hyn ddibynnu ar y ffordd y maent wedi cael eu storio a'u cadw. Casgliadau unigryw Cedwir dros dair miliwn o sbesimenau biolegol yn Amgueddfa Cymru. Wrth i'r pwysau ar ein hamgylchedd naturiol gynyddu, daw'r casgliadau hyn yn adnodd pwysicach o hyd. Mae nifer o'r sbesimenau sy'n cael eu casglu bellach naill ai yn ddiflanedig neu mewn cymaint o berygl fel nad oes modd casglu mwy. Mae nifer o'r sbesimenau hyn yn unigryw ac yn hanfodol wrth ein cynorthwyo i ddeall bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Gall cadw deunydd biolegol fod yn anodd iawn. Mae deunydd biolegol, gan gynnwys DNA, yn dirywio'n gyflym. Mae triniaethau cemegol yn anelu at rwystro'r dirywiad hwn, gan alluogi cadw'r sbesimenau biolegol yn y tymor hir. Cadwraeth gynnar Mae cadw sbesimenau amgueddfa yn dyddio yn ôl dros 300 mlynedd. Yn y lle cyntaf sbesimenau sych ac anadweithiol yn unig y gellid eu cadw. Defnyddiwyd alcohol am y tro cyntaf yn yr 17eg Ganrif, cyflwynwyd fformaldehyd (formalin) yn y 19eg Ganrif. Galluogodd y dulliau hyn i ystod eang o sbesimenau gael eu cadw - ond datblygwyd hyn cyn gwybod am DNA. Gall fod yn anodd iawn cael DNA o sbesimenau a gadwyd gan ddefnyddio formalin. Mae cemegau eraill, megis ethanol (alcohol), yn ddefnyddiol wrth gadw'r sbesimen a'i DNA. Defnyddio DNA o'r casgliadau Gellir defnyddio DNA mewn nifer o feysydd astudiaeth, megis gwaith ar esblygiad, adnabod rhywogaethau, ac ecoleg. Mae astudiaethau DNA yn Amgueddfa Cymru yn cynnwys: Ymchwilio i falwod Hunter o Ddwyrain Affrica a defnyddio DNA i astudio sut y maent yn perthyn i'w gilydd. Mae cregyn gleision perlau dŵr croyw mewn perygl yng Nghymru. Mae ymchwilwyr yr Amgueddfa yn defnyddio DNA i edrych ar eneteg y boblogaeth sydd yn parhau er mwyn cynorthwyo eu cadwraeth. Mae Cennau yn agwedd bwysig o fioamrywiaeth, ond yn anodd eu hadnabod. Mae DNA yn cael ei ddefnyddio i helpu i adnabod cennau. DNA - adnodd bregus Yn anffodus, gellir difrodi DNA mewn nifer o ffyrdd. Yn dilyn marwolaeth organeb, mae molecylau DNA yn dirywio yn gyflym iawn. Golyga hyn bod cadwraeth gofalus a chyflym y sbesimenau yn angenrheidiol i sicrhau cadwraeth y DNA yn ogystal â'r sbesimen yn gyfan. Mae'r amgueddfa yn ymchwilio i ddulliau o gadw DNA. Un dull yw storio mewn rhewgelloedd -80°C neu nitrogen hylifol. Mae rhai amgueddfeydd eisoes wedi sefydlu banciau rhew-feinwe, ond mae'r dulliau hyn yn ddrud. Mae ymchwil parhaus yn ceisio gwella ein dealltwriaeth o effeithiau'r triniaethau hyn, gan ein galluogi i gadw'n sbesimenau DNA yn gyfan ar gyfer y dyfodol