Cregyn bylchog sy'n bwyta nwy 1 Ebrill 2008 Casglwyd y rhywogaeth a'r Genws newydd Spinaxinus sentosus o gargo organig y llong suddedig Francois Vieljeux. Mae'r genws yn wahanol i thyasiridau eraill hysbys, a dyma'r unig gofnod o'r rhywogaeth hon hyd heddiw. Thyasira methanophila, cragen fylchog newydd i wyddoniaeth o ardal tryddiferfannau methan oddi ar arfordir Concepción, Chile. Mae ei enw'n awgrymu ei ddibyniaeth ar fethan. Darlun manwl o gragen allanol Spinaxinus sentosus a ganfuwyd yng nghargo organig y llong suddedig Francois Vieljeux. Ar ôl i wyddonwyr yr Amgueddfa chwyddo'r llun a sylwi ar y pigau, galwyd y genws newydd yn 'Spinaxinus'. Ceir cronfeydd mawr o olew a nwy naturiol yn ddwfn o dan wely'r môr, ond ni ddarganfuwyd tan yn gymharol ddiweddar fod methan yn tryddiferu o arwyneb gwely'r môr. Gelwir y mannau hyn yn 'dryddiferfannau nwy', ac mae rhai anifeiliaid wedi esblygu yn benodol i fanteisio ar yr amgylchedd unigryw hwn. Diet o fethan a sylffwr Mae cymunedau o gregyn bylchog yn byw wrth y tryddiferfannau methan hyn sy'n defnyddio'r nwy fel ffynhonnell fwyd. Nid ydynt yn bwyta'r nwy, ond maent wedi esblygu i lochesu bacteria yn eu meinwe sy'n cyflawni'r dasg yn eu lle. Gelwir yr organebau hyn yn rhai 'cemosymbiotig', ac mae rhai grwpiau o gregyn bylchog wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth addasu i'r amgylchedd hwn. Mae'r grŵp hwn o gregyn bylchog yn gallu ecsploetio sylffwr hefyd, ac maent yn byw mewn mannau lle ceir haenau o blanhigion yn pydru, o amgylch carcasau pydredig morfilod, wrth agorfaoedd poeth, a hyd yn oed mewn mwd sydd wedi'i lygru ag olew disel. Oherwydd bod y cregyn bylchog hyn yn dod o amgylchedd anghyffredin, ac yn aml o ddyfroedd dyfnion, mae llawer ohonynt eto i'w hastudio'n fanwl. Anfonwyd nifer ohonynt i Amgueddfa Cymru i gael eu hadnabod a'u disgrifio. Cregyn bylchog o Chile Anfonwyd cregyn yn ogystal â sbesimenau byw o gregyn bylchog i'r Amgueddfa yn dilyn darganfyddiad tryddiferfan nwy oddi ar arfordir Chile 700-900m o dan arwyneb y môr. Roedd un rhywogaeth o'r fath, mewn grŵp o'r enw Thyasira, yn newydd i wyddoniaeth. . Astudiwyd y bacteria ym meinwe tagell y gragen fylchog drwy ddefnyddio microsgop sganio electronig. Cadarnhaodd hyn y symbiosis (dibyniaeth) rhwng y bacteria a'r gragen fylchog. Darganfuwyd bod rhywogaeth o'r genws Lucinoma yn newydd i wyddoniaeth hefyd, ond hyd yma dim ond cregyn a ddarganfuwyd. Mae'n debygol bod y mwyafrif o'r rhywogaethau sy'n byw ar y safle hwn yn endemig (wedi'u cyfyngu i'r lleoliad hwn) ac nac ydynt yn bodoli unrhyw le arall yn y byd. Glandir Pacistan Anfonwyd rhywogaeth fach o Thyasira atom ar draws y byd o Indus Fan oddi ar arfordir Pacistan. Fe'i casglwyd yn ystod astudiaethau o'r ffawna anghyffredin sy'n byw yn nyfroedd ocsigen isel yr ardal. Canfuwyd y gragen fylchog bitw hon mewn dwyseddau hyd at 500/y metr sgwâr ac mae'n sicr ei fod wedi manteisio ar y bwyd helaeth. Dyma genws arall sydd heb ei astudio, ac mae'r Amgueddfa'n cydweithio â'r Amgueddfa Hanes Natur, Llundain sy'n astudio trefn folecwlar (DNA) y grŵp. Cragen fylchog â blas am longddrylliadau Manteisia'r cregyn hefyd ar ffynonellau artiffisial o fethan a sylffwr, ac un o'r rhyfeddaf ohonynt oedd cargo'r llong gynwysyddion suddedig "Francois Vieljeux". Suddodd y llong oddi ar arfordir gogledd Sbaen mewn 1160m o ddŵr, ynghyd â'i chargo o ffa castor a hadau blodau'r haul. Yn ystod yr ymdrechion i achub y llong sylwyd bod cregyn bylchog wedi setlo ac wedi tyfu ar y cargo. Roedd y cregyn bylchog i gyd yn perthyn i grwpiau cemosymbiotig ac yn ecsbloetio'r sylffwr a ryddhawyd gan y cargo pydredig. Roedd un o'r cregyn bylchog yn Thyasira tebyg i'r sbesimen o Chile. Basn Cascadia, oddi ar Dalaith Washington Tarddell boeth yng ngogledd ddwyrain y Môr Tawel yw Baby Bare Seamount sy'n gartref i rywogaeth newydd o Axinus (tebyg i Thyasira). Mae'r safle'n anghyffredin oherwydd nad oes yno enghreifftiau o'r rhywogaethau deufalf eraill sy'n nodweddiadol mewn lleoliadau tryddiferfannau methan ac awyrellau poeth. Ar y cychwyn roedd ffynhonnell maeth yr anifeiliaid yn ddirgelwch gan fod y lefelau methan a hydrogen sylffid mor isel. Llosgfynyddoedd Mwd Cadiz Oddi ar arfordir de Portiwgal ceir nifer o losgfynyddoedd mwd a ffurfiwyd gan wasgiannau'r platiau tectonig Affricanaidd ac Ewrasiaidd. Mae'r gwasgiannau'n gwthio hylif sy'n llawn methan a sylffwr o grombil y llosgfynyddoedd i wely'r môr uwchben. Erbyn i'r hylifau gyrraedd yr arwyneb maent wedi oeri, felly gelwir y llosgfynyddoedd yn dryddiferfannau oer. Ceir nifer o rywogaethau o gregyn bylchog Thyasira ar y safleoedd hyn, ond dim ond rhai ohonynt sy'n llochesu'r bacteria cemosymbiotig i'w galluogi i dynnu maeth o sylffwr a methan. Yn sgil cydweithio rhwng yr Amgueddfa a Phrifysgol Cadiz, Sbaen, disgrifiwyd rhywogaeth newydd o'r enw Thyasira vulcolutre, sy'n golygu 'perthyn i losgfynydd mwd'. Erbyn hyn, mae'r Amgueddfa, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, yn gweithio ar dacsonomeg Thyasira a gasglwyd mewn folcano mwd yn yr Arctig, a misglen o'r genws Idas a gasglwyd o fwd a lygrwyd gan ddisel o dan lwyfan olew ym Môr y Gogledd. Mae'r gwaith hwn gan Amgueddfa Cymru yn cynorthwyo i ymchwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio'r cregyn bylchog hyn i lanhau mannau llygredig ar wely'r môr.
Santes Catherine a'r Olwyn 1 Tachwedd 2007 Murlun canoloesol o Eglwys Sant Teilo, sy'n dyddio o tua 1400. Ym 1998 dechreuodd Sain Ffagan ar yr her o symud, ailgodi ac adfer eglwys ganoloesol o waith maen — un o'r projectau cyntaf o'i fath yn Ewrop. Yn ystod y broses ddatgymalu, dadorchuddiwyd nifer o furluniau prin o dan y waliau gwyngalch. Santes Catherine. Mae un o'r peintiadau hynaf a ddadorchuddiwyd yn dyddio o tua 1400-1430, ac mae'n cynrychioli'r Santes Catherine o Alexandria. Roedd wedi bod ynghudd am ganrifoedd dan haenau o wyngalch, a bu'n rhaid ei dynnu gan ddefnyddio cyllyll llawfeddygol. Ar ôl dadorchuddio'r darlun cyfan, a thynnu'r haenau niferus o wyngalch yn ofalus, datgelwyd y Santes Catherine mewn gwisg o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'n sefyll ger olwyn bigog, yn dal cleddyf. Olwyn arteithio a chleddyf Yr olwyn bigog wrth ei hochr yn y darlun yw'r offeryn arteithio a ddefnyddiwyd pan dedfrydwyd Catherine i farwolaeth am ei daliadau Cristnogol gan yr Ymerawdwr Rhufeinig Maxentius (306-312). Yn ôl y chwedl, chwalodd yr olwyn pan gyffwrddodd Catherine â hi, felly torrwyd ei phen gan y cleddyf sydd yn ei llaw yn y darlun. 'Olwyn Gatrin' Yr olwyn arteithio a gysylltir â'r Santes Catherine yw tarddiad yr enw 'Olwyn Gatrin' (Catherine Wheel) am yr olwyn dân gyffredin. Gellir gweld yr eglwys orffenedig yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, lle mae'r murluniau wedi'u hatgynhyrchu'n fanwl a chelfydd i edrych fel y byddent wedi gwneud tua 1530. Gan fod y peintiad o'r Santes Catherine yn dyddio o tua 1400, nid oes cynrychioliad ohono yn yr adeilad a ailgodwyd gan y byddai wedi'i orchuddio'n llwyr erbyn 1530. Mae'r peintiad gwreiddiol o Santes Catherine yn cael ei storio yn yr amgueddfa a gellir ei weld drwy wneud cais ymlaen llaw.
Diflaniad y bwthyn gwledig Cymreig 6 Gorffennaf 2007 Waliau mwd a thoeau gwellt Erbyn heddiw, ychydig iawn o'r bythynnod gwledig a godwyd cyn canol y deunawfed ganrif sydd ar ôl yng Nghymru. Y gred gyffredinol oedd na allai'r bobl dlawd fforddio defnyddiau a fyddai'n para. Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu'n wahanol. Mewn gwirionedd, roedd bythynnod yn cael eu codi mewn ffordd glyfar iawn, gan dalu sylw i'r manylyn lleiaf a defnyddio'r stwff lleol gorau. Aeth Amgueddfa Cymru ati i astudio bythynnod Cymreig ac adroddiadau o'r cyfnod, a daethom i'r casgliad mai'r hyn a arweiniodd at eu diflaniad oedd diffyg cynnal a chadw ac, yn bennaf oll, newidiadau yn y ffasiwn o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol. Adeiladau cynaliadwy Roedd hi'n costio'n ddrud i gludo defnyddiau ac felly byddai adeiladwyr slawer dydd yn hen lawiau ar ddefnyddio'u hamgylchedd lleol mewn ffordd gynaliadwy. Er enghraifft, defnyddient dom da i wrteithio'r caeau, i wneud lloriau clai, i helpu i rwymo waliau bythynnod ac i helpu i gadw simneiau a wnaed o blethwaith rhag mynd ar dân. Pridd a thywyrch Gan na allai pobl dlawd fforddio brics, roedd waliau bythynnod yn cael eu gwneud o gerrig, pridd neu goed. Roedden nhw'n defnyddio'r hyn oedd ar gael yn hwylus ac yn rhad. Yn iseldiroedd gorllewin Cymru — Ynys Môn, Pen Llŷn, Ceredigion a Sir Benfro er enghraifft — pridd oedd y defnydd hwnnw. Ychydig iawn o fythynnod pridd sydd ar ôl yng Nghymru heddiw; ceir llawer mwy mewn rhannau sychach o Loegr. Yn yr uwchdiroedd gwlyb, byddai'r bobl yn codi bythynnod â waliau tywyrch gan fod tywyrch yn para'n hirach o lawer na phridd. Tai to gwellt Yn y cyfnod cyn datblygiad chwareli llechi mawr y gogledd yn y 19eg ganrif a dyfodiad y rheilffyrdd, roedd tai to gwellt yn gyffredin iawn. Erbyn heddiw, mae llawer mwy o dai to gwellt i'w gweld yn Lloegr nag yng Nghymru. Roedd pedwar dull gwahanol o doi â gwellt yn gyffredin yng Nghymru. Dim ond un ohonynt sy'n dal hyd heddiw a hynny yn y dwyrain. Yng ngorllewin a gogledd Cymru, roedd yr haen uchaf yn cynnwys dyrneidiau o wellt wedi'u clymu a'u gwthio â theclyn fforchiog i haen isaf o wellt. Yn aml, byddai'r haen isaf yn cael ei gosod ar wely o blethwaith. Mewn ardaloedd agored, gellid defnyddio rhwydwaith o raffau wedi'u rhoi'n sownd wrth begiau ym mhen y wal neu wedi'u dal yn eu lle â cherrig trymion i ddal y to i lawr. Simneiau gwellt a phlethwaith O bridd neu laid y gwnaed lloriau bythynnod yn aml. Gellid defnyddio plethwaith neu raff wellt wedi'u gorchuddio â dwb i wneud y parwydydd. Yn aml, hefyd, roedd y corn simnai a'r lwfer uwch ei ben wedi'u gwneud o blethwaith a dwb. Does dim rhyfedd bod cynifer o'r bythynnod hyn yn llosgi i'r llawr. Er bod defnyddiau adeiladu'r bythynnod hyn yn rhai cynaliadwy, daethant i ddiwedd eu hoes oherwydd newidiadau cymdeithasol a ffasiynau newydd. Newid yn y ffasiwn Wrth i'r Chwyldro Diwydiannol fynd rhagddo ac i fwydydd gael eu mewnforio, roedd mwy a mwy o bobl yn gadael eu bythynnod yng nghefn gwlad i fyw yn y dref. Aeth mwy a mwy o fythynnod yn eiddo i'r stadau mawr ac fe ddechreuodd y rheini godi tai mwy o faint ar gyfer eu gweithwyr. Yn aml, roedd yn haws dymchwel y bythynnod gwreiddiol nag ychwanegu ail lawr atynt neu eu haddasu. Erbyn heddiw, ychydig iawn o'r bythynnod traddodiadol cynnar sydd ar ôl ac mae'r enghreifftiau gorau i gyd wedi'u rhestru fel rhai sydd o bwysigrwydd pensaernïol arbennig.
Un casgliad - 786,000 o gregyn - Catalogio a churadu Casgliad Cregyn Melvill-Tomlin 12 Mehefin 2007 James Cosmo Melvill. John Read le Brockton Tomlin. Un o sbesimenau pwysicaf Melvill, Conus gloriamaris. Placostylws o Layard Pan dderbyniodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gasgliad Melvill-Tomlin o folysgiaid ym 1955, dim ond un casgliad mwy o'i fath yn y byd oedd mewn dwylo preifat. Cychwynnwyd y casgliad gan James Melvill ym 1853 a'i drosglwyddo i John Tomlin ym 1919. Roedd ynddo sbesimenau o bob rhan o'r byd ac roedd yn cynnwys bron hanner yr holl rywogaethau o folysgiaid y gwyddai dyn amdanynt. Cafodd dros fil o rywogaethau a oedd yn newydd i fyd gwyddoniaeth eu disgrifio a'u henwi gan Melvill. Daliodd Tomlin ati i ychwanegu sbesimenau newydd o bedwar ban byd tan ddiwedd ei oes ym 1954. Pan fu farw Tomlin ym 1954, derbyniodd yr Amgueddfa y casgliad cyfan ynghyd â'i lyfrgell a'i bapurau. Lle i gadw'r casgliad Cyrhaeddodd y casgliad mewn cabinetau mahogani ond erbyn heddiw fe'i cedwir mewn system raciau symudol, mewn trefn safonol, systematig sy'n hwylus ar gyfer ymchwilwyr tacsonomig sy'n gweithio arno. Gwaith dogfennu araf a maith Erbyn heddiw, caiff sbesimenau eu dogfennu trwy roi manylion mewn cronfa ddata gyfrifiadurol ond, yn y gorffennol, roedd y wybodaeth yn cael ei hysgrifennu â llaw mewn cofrestrau mawr. Rhwng 1978 a 1994, bu staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr yn dilysu a labelu sbesimenau'r casgliad ac yn eu rhoi yn eu lle. Yna, roedd y wybodaeth am y casgliadau'n cael ei chyhoeddi i dacsonomegwyr ym mhob rhan o'r byd fel y gallent hwy wneud rhagor o waith astudio. Pe bai'r broses wedi parhau fel hyn, byddai wedi cymryd 30 mlynedd arall i ddogfennu'r casgliad yn llawn. Cronfa ddata gyfrifiadurol yn cwblhau'r rhestr 'gyntaf' Ym 1995, prynwyd cronfa ddata gyfrifiadurol oedd yn golygu y gallai llawer o bobl gofnodi data ar yr un pryd. Ers hynny, bu dros ugain o staff a gwirfoddolwyr yn cofnodi'r casgliad. Mae'r gwaith o restru'r casgliad, a gychwynnwyd ym 1978, wedi'i gwblhau erbyn hyn a gellir ateb unrhyw ymholiadau mewn munudau yn hytrach na mewn dyddiau neu wythnosau. Dros ddwy flynedd ar hugain, ychwanegwyd dros 786,000 o gregyn i'r gronfa ddata. Newydd i wyddoniaeth Yn y casgliad hwn, ceir miloedd o sbesimenau pwysig iawn a elwir yn 'deipiau'. Roedd y sbesimenau hyn yn ddarganfyddiadau gwyddonol newydd pan gawsant eu casglu ac, fel rheol, cawsant eu disgrifio, eu darlunio a'u henwi gan y casglwr. Yn achos llawer o hen gasgliadau, dim ond gwaith ditectif gan guraduron amgueddfeydd a thacsonomegwyr ym mhedwar ban byd a all helpu i ddilysu'r wybodaeth hon. Mae rhestr eiddo electronig yn gwneud y dasg yn haws o lawer oherwydd gall cronfa ddata gyfan fod ar gael i dacsonomegwyr ble bynnag y maent.
Darganfod y cyfrinachau o dan yr wyneb - Chwyddwydr ar Dechnegau Arlunydd o'r 18fed Ganrif 30 Ebrill 2007 Richard Wilson (1714-1782). Anton Mengs beintiodd y portread hwn yn Rhufain yn gyfnewid am un o dirluniau Wilson - gweithred o gyfeillgarwch ac edmygedd y naill ddyn at y llall. Pelydr-x Caernarvon Castle (NMW A 73) Caernarvon Castle gan Richard Wilson Pelydr-x Dolbadarn Castle (NMW A 73) Dolbadarn Castle mewn Golau Isgoch (NMW A 5203) Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Amgueddfa wedi bod yn archwilio nifer o baentiadau o'r casgliadau gan Richard Wilson. Gall offer gwyddonol modern ddatgelu manylion cuddiedig ynglŷn â'r strwythur a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y paentiadau hyn. Mae'r canlyniadau'n ffurfio darlun diddorol o arddull gweithio'r arlunydd, ac wedi arwain at ddarganfod tarddiad rhai o'r paentiadau sy'n peri'r mwyaf o ansicrwydd o blith gwaith Wilson. Golau Isgoch Defnyddiwyd golau isgoch i weld a wnaeth yr arlunydd addasu neu beintio dros rai o'r paentiadau. Mae golau isgoch yn gallu treiddio unrhyw liw heblaw'r pigmentau glas dyfnaf, i ddatgelu unrhyw arlliwiau tywyll a osodwyd ar y grwnd o liw golau. Darganfuwyd bod yna luniau o dan y braslun olew Castell Dolbadarn (NMW A 5203) a'r paentiad mawr gorffenedig o'r un testun (NMW A 72). Yn y braslun olew, mae pont yn croesi afon yng nghefndir y tan-lun, a ffens ar ochr dde'r blaendir. Ni ddefnyddiwyd y nodweddion hyn yn y braslun terfynol. Hefyd, mae Mynydd yr Wyddfa'n cael ei gynnwys yng nghefndir y fersiwn beintiedig, ac mae'r adeiladau pell ar lan yr afon wedi'u symud yn bellach i'r chwith. Mae ei allu i ailwampio ei gynlluniau'n dod ag amrywiaeth i'r fersiynau niferus a baentiodd o'r un testunau, ac mae'n help i esbonio sut y rhoddodd ymddangosiad mawreddog a chlasurol i'w olygfeydd Cymreig a Seisnig. Strwythur Paent a Deunyddiau Drwy ddefnyddio pelydr-x ar waith Wilson roedd modd archwilio strwythur ei baentiadau. Mae pelydrau-x yn treiddio'n rhwydd i rai deunyddiau, ond mae'n cael ei adlewyrchu gan eraill. Daw rhai pigmentau, a ddefnyddir yn draddodiadol mewn paentiadau olew, o fetelau trwm megis mercwri, cadmiwm a phlwm. Gwyn plwm oedd un o'r rhai mwyaf cyffredin i gael ei ddefnyddio. Mae pelydr-x yn dangos strwythur y paentiad, ac unrhyw newidiadau posibl a wnaed gan ddefnyddio gwyn plwm. Fel arfer byddai Wilson yn paentio awyr gyda chymysgedd o wyn plwm a phigment glas, ond dim ond at y gorwel, gan ddilyn ymylon unrhyw goed a dail a amlinellwyd yn erbyn yr awyr. Paentiwyd y blaendir a'r coed gyda lliwiau daearol yn bennaf, sy'n cael eu treiddio'n hawdd gan belydrau-x. Dylai pelydr-x nodweddiadol o baentiad gan Wilson ddangos cyferbyniad cryf rhwng awyr a darnau o flaendir. Yr enghraifft mwyaf clir o hyn yw Castell Caernarfon (NMW A 73). Gellir tybio felly nad Wilson sy'n gyfrifol am unrhyw dirluniau lle mae'r nodweddion hyn ar goll. Mae rhai o'r paentiadau a archwiliwyd hyd yn hyn yn dangos bod Wilson weithiau'n ailweithio eu cyfansoddiad yn gyfan gwbl. Cychwynnwyd Dinas Bran (NMW A 3277) yn wreiddiol fel Golygfa o Tivoli (gweler NMW A 495). Gwelir y dref sydd ar lethrau'r bryn yn glir o dan belydr-x, yn ogystal â'r gysegrfa ar ymyl y ffordd, sy'n ymddangos mewn lluniau eraill ar yr un testun. Byddai hefyd yn ailddefnyddio cynfas yn achlysurol. Paentiwyd Castell Dolbadarn (NMW A 72) dros bortread o fenyw, ac fe baentiwyd Tirlun gyda Banditti o amgylch Pabell (NMW A 69) dros noethen yn lledorwedd yn y dull Fenisaidd. Microsgopau pwerus Cymerwyd samplau bach o baent ac edrychwyd arnynt o dan ficrosgopau eithriadol o bwerus. Mae'r pigmentau a ddarganfuwyd yn y paent yn cydweddu'n union, bron, gyda'r palet a ddefnyddiodd Wilson. Glas Prwsiaidd ag indigo wedi'u cymysgu gyda phlwm yw'r prif bigmentau a welir yn ei awyr, a cheir ocr, melyn Naples, llynoedd coch a melyn, glas Prwsiaidd ac indigo yn y dail a'r blaendiroedd. Fodd bynnag nid ydym eto wedi dod o hyd i ddulas, a ddefnyddiodd Wilson i gwblhau ei awyr yn ôl ei gyfoedion. Profi Ffugweithiau Er y byddai'r mwyafrif o ddilynwyr agos Wilson wedi defnyddio paletau tebyg iawn i un eu meistr, mae'r math yma o ddadansoddi modern wedi profi bod dynwarediadau diweddarach yn ffug, gan eu bod yn cynnwys pigmentau na ddefnyddiwyd yng nghyfnod Wilson. Mae'r rhain yn cynnwys NMW A 5195 Golygfa Arfordirol ger Naples, sy'n cynnwys glas cobalt, a ddefnyddiwyd yn gyntaf ym 1817, a NMW A 5206 Castell Cilgerran sydd â grwnd sy'n cynnwys grisial trwm, a ddefnyddiwyd gyntaf ddiwedd y 18fed ganrif. Mae'r ymchwil wedi cynhyrchu gwybodaeth hanfodol er mwyn cynyddu'r ddealltwriaeth hanesyddol am ddarnau unigol Wilson, a rhai casgliadau pendant ynglŷn â statws paentiadau o darddiad amheus. > Gweithiau gan Richard Wilson yn Amgueddfa Cymru