: Yr 20fed Ganrif

Ailwampio Cerbyd Rhif 238 o Rheilffyrdd y Cambrian

4 Gorffennaf 2007

Y cerbyd cyn dechrau ar y gwaith

Y cerbyd cyn dechrau ar y gwaith

Y tu mewn i brif ran y cerbyd

Y tu mewn i brif ran y cerbyd

Y cerbyd wedi'i gwblhau

Y cerbyd wedi'i gwblhau

Mae cerbyd trên o'r 19 eg ganrif yn ganolbwynt i un o raglenni gwarchod ac ail-greu mwyaf Amgueddfa Cymru.

Rheilffyrdd teithwyr y 19eg ganrif

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd Rheilffyrdd y Cambrian yn gwasanaethu rhan fawr o'r Canolbarth. Yn wahanol i reilffyrdd y De, a oedd yn cludo haearn a glo yn bennaf ar daith fer o'r cymoedd i'r arfordir, roedd Rheilffyrdd y Cambrian yn cario pobl ar deithiau pell. Roeddent yn cysylltu trefi glan môr fel Aberystwyth â dinasoedd mawr Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Llundain.

Moethusrwydd

O'u cymharu â threnau heddiw, roedd cerbydau teithwyr y 19eg ganrif yn eithaf cymhleth. Roedd gan gerbyd rhif 238 le bach i gadw bagiau yn un pen, yna dwy adran ddosbarth cyntaf a phedair adran trydydd dosbarth. Roedd yno dri thoiled, un ar gyfer teithwyr dosbarth cyntaf yn unig. Er mwyn cadw teithwyr y gwahanol ddosbarthiadau ar wahân, roedd coridor y teithwyr dosbarth cyntaf ar un ochr i'r cerbyd a choridor y teithwyr trydydd dosbarth ar yr ochr arall.

Adeiladwyd cerbyd rhif 238 yn Birmingham ym 1895 i safonau uchel iawn. Yn ôl y cynllun gwreiddiol: "Interior panelling of polished sycamore framed with walnut wood and gold lined".

O gerbyd moethus i gragen wag

Dechreuwyd defnyddio'r cerbyd ym 1895 a bu'n teithio'n bennaf rhwng Aberystwyth a Manceinion rhwng hynny a 1939. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei droi'n fan radio. Wedyn, cafodd ei gadw mewn storfa cyn ei drosglwyddo i Amguddfa Genedlaethol Cymru ym 1991. Erbyn hynny, nid oedd fawr mwy na chragen wag.

Penderfynodd yr amgueddfa adfer un adran dosbarth cyntaf ac un adran trydydd dosbarth yn y naill ben a'r llall i'r cerbyd, a defnyddio gweddill y lle ar gyfer grwpiau o ymwelwyr. Codwyd canopi arbennig i dros y cerbyd fel y gellid gweithio arno hyd yn oed mewn tywydd drwg.

Gwaith adfer y cerbyd

I ddechrau, rhoddwyd to newydd ar y cerbyd ac wedyn llawr newydd o estyll 'tafod a rhigol'. Gwelwyd bod un set o estyll yn yr adran dosbarth cyntaf wedi'i gosod ar ongl o 45 gradd i gorff y cerbyd a bod yr haen uchaf ar ongl o 90 gradd i'r haen isaf. Mae'n debyg bod hyn yn gwneud y daith yn llai swnllyd i'r teithwyr dosbarth cyntaf. Ar ôl hynny, adnewyddwyd y panelau allanol a'r mowldiadau, ac yna'r parwydydd mewnol a fframiau'r seddau. Dilynwyd y cynlluniau gwreiddiol trwy'r amser hyd yn oed wrth lunio'r bracedi metal a oedd yn dal y rac fagiau. Gwnaed copïau o un o'r bracedi gwreiddiol yn y ffowndri bres yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

Yn wreiddiol, cafodd y cerbyd 14 côt o baent. Yn ffodus, does dim angen cynifer o gotiau o baent modern. Cambrian Green yw lliw hanner isaf y cerbyd a defnyddiwyd sampl o'r paent gwreiddiol i greu'r lliw cywir.

Manylion

Defnyddiwyd arfbais y Cambrian Railway Company a phlu Tywysog Cymru i addurno'r cerbyd. Cafodd ffotograffau o'r rhai gwreiddiol eu sganio a'u hargraffu i sicrhau eu bod yn union yr un fath.

Bydd y cerbyd godidog hwn yn ein hatgoffa o oes aur y rheilffyrdd ar ddechrau'r 20fed ganrif pan oedd pobl yn dod o bob rhan o Loegr ar eu gwyliau i Fae Ceredigion.

Gwasgarwyd gan ryfel a chwyldro

12 Mehefin 2007

Arwydd mewn glofa mewn Saesneg a Phwyleg

Arwydd mewn glofa mewn Saesneg a Phwyleg

Gweithwyr o'r Almaen mewn glofa yn ne Cymru

Gweithwyr o'r Almaen mewn glofa yn ne Cymru

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd galw mawr am lo ac felly roedd angen rhagor o lowyr. Un ffynhonnell oedd y miloedd o bobl a oedd wedi gorfod dianc o'u cartrefi yn Ewrop yn ystod y Rhyfel.

Ym mis Ionawr 1947, gwnaed cytundeb cenedlaethol rhwng Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) a'r Bwrdd Glo Gwladol (NCB) i recriwtio o blith y nifer fawr o filwyr o Wlad Pwyl a oedd wedi ymladd gyda'r Cynghreiriaid yn ystod y Rhyfel.

Fodd bynnag, nid oedd yr undebau lleol yn hapus â hyn. Erbyn diwedd Mai 1947, roedd Pwyliaid wedi cwblhau eu hyfforddiant ond nid oedd glofeydd yn fodlon eu cymryd.

Gofynnodd yr NCB i'r NUM am gymorth a chyflwynodd yr Undeb benderfyniad cryf i gynhadledd o blaid derbyn y Pwyliaid. Cafodd y rhan fwyaf ohonynt waith yn y pen draw.

Ym mis Medi 1947, lansiwyd cynllun i recriwtio pobl o wledydd eraill yn nwyrain Ewrop a oedd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi. Roedd yr undebau lleol yn gwrthwynebu'n ffyrnig y tro hwn eto ac, erbyn y gaeaf, dim ond ychydig oedd wedi dod o hyd i lofeydd oedd yn barod i'w cymryd.

Erbyn 1951, dim ond 10,000 o'r 18,000 o weithwyr tramor oedd yn dal yn y pyllau glo a lansiwyd cynllun arall i recriwtio Eidalwyr. Roedd gwrthwynebiad lleol i hynny hefyd, dim ond 400 a gafodd lefydd a daeth yr ymgyrch recriwtio i ben ym mis Ebrill 1952.

Nid oedd y sefyllfa'n ddim gwell pan geisiodd y Bwrdd Glo Gwladol recriwtio ymhlith ffoaduriaid a adawodd Hwngari yn ystod chwyldro 1956. Roedd dros 4,000 o wirfoddolwyr ond cafodd llai na thraean ohonynt waith yn y glofeydd. Aeth y lleill i ddiwydiannau eraill.

Daeth y 'gweithwyr tramor' i Gymru ar ôl blynyddoedd o galedi a pherygl. Ymhen amser, llwyddodd y rhai a gafodd waith yn y diwydiant glo i wneud enw iddynt eu hunain fel gweithwyr caled a phobl barchus. Dylai Cymru fod yn falch ohonynt a'r rhan y maent wedi'i chwarae yn ei hanes diwydiannol.

Dreigiau a sebras yng Nghymru - creu casgliad o gyfrifiaduron Cymreig

16 Mai 2007

Y BBC model B (top) a'r Acorn Electron.

Y BBC model B (top) a'r Acorn Electron.

Y Dragon 32 (chwith) a'r Spectrum Plus.

Y Dragon 32 (chwith) a'r Spectrum Plus.

Amgueddfa Cymru wedi bod yn ceisio ychwanegu enghraifft o bob cyfrifiadur a wnaed yng Nghymru at ei chasgliad.

Ym 1943, roedd Thomas Watson yr hynaf, Cadeirydd IBM, yn dychmygu mai dim ond pum cyfrifiadur gwahanol fyddai yna ym marchnad gyfrifiaduron y dyfodol. Ond roedd o leiaf chwe model gwahanol yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru'n unig yn ystod y 1980au.

Sebras a Dreigiau

Mathau o gyfrifiaduron cynnar oedd y Zebra a'r Dragon.

Cynhyrchwyd y Zebra yn y 1960au. Dim ond deugain gafodd eu gwneud a chafodd y rhan fwyaf eu hallforio. Gwnaed y Zebra sydd yng nghasgliad yr amgueddfa yng Ngasnewydd ac fe'i cyflwynwyd i'r Amgueddfa gan Brifysgol Caerdydd.

Roedd dwy fersiwn o'r Dragon ar gael, y trideg dau a'r chwedeg pedwar. Cyfeiriad o faint cof y peiriannau yw'r rhifau hyn. Er bod ganddynt lai o gof o lawer na chyfrifiaduron modern, roedden nhw'n bwerus iawn yn y 1980au.

Nid tasg hawdd oedd ffeindio gwybodaeth am ble cafodd y cyfrifiaduron cynnar eu gwneud. Ond ffeindiwyd nifer o lyfrau sgrap oedd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol yn Archifdy Morgannwg, a chyflwynodd AB Electronics, Abercynon nhw i'r Amgueddfa. Roedd y llyfrau sgrap yn dangos taw AB Electronics oedd wedi cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r modelau o gyfrifiadur a wnaed yng Nghymru, ac yn rhoi gwybodaeth am gynhyrchwyr eraill yng Nghymru.

Yr Electron a'r BBC

Yr Acorn Company wnaeth yr Electron, sy'n fwyaf adnabyddus am gynhyrchu cyfrifiadur y BBC. Roedd e'n rhatach ac yn llai pwerus o lawer na'r BBC, sef y cyfrifiadur cartref mwyaf pwerus a drytaf oedd ar gael yn y 1980au. Er mai defnydd addysgiadol oedd i hwn yn bennaf, roedd rhai o'r gemau a ysgrifennwyd ar gyfer y BBC ymhlith y gorau i gael eu cynhyrchu ar gyfer unrhyw gyfrifiadur mewn unrhyw gyfnod.

Roedd y llyfrau sgrap yn dangos bod AB Electronics wedi cynhyrchu nifer o beiriannau Electron, a bu cadeirydd Grŵp Defnyddwyr yr Electron mor garedig â chyflwyno peiriant a wnaed yng Nghymru i'r Amgueddfa. Roedd y llyfrau'n dangos bod tri chwmni wedi cynhyrchu'r BBC yng Nghymru: AB Electronics o Abercynon, Race Electronics o Lantrisant ac ICL o Kidsgrove. Cyflwynodd masnachwr hen galedwedd Acorn gyfrifiadur BBC a gynhyrchwyd gan Race Electronics i gasgliadau'r Amgueddfa.

ZX Spectrum

Er bod y Spectrum yn boblogaidd ac ar gael ar raddfa eang, roedd hi'n dipyn o dasg dod o hyd i fodel a wnaed yng Nghymru. AB Electronics o Abercynon oedd wedi gwneud y Spectrum hefyd, ond ffatri Timex yn Dundee oedd wedi gwneud y mwyafrif. Yn y pen-draw, llwyddodd yr Amgueddfa i gael gafael ar enghraifft o Spectrum Plus a wnaed gan AB Electronics i'w ychwanegu at y casgliad.

Torch Computers

Roedd llyfrau sgrap AB yn cyfeirio at 'Torch Computers of Cambridge' oedd â ffatri yng Nghaernarfon ac oedd yn adeiladu peiriannau ar gyfer y farchnad fusnes. Bu'r cwmni mor hael â chynnig enghraifft o beiriant a adeiladwyd yn y gogledd i ni.

Dim ond tri chyfrifiadur sydd eu hangen ar yr Amgueddfa i gwblhau ei chasgliad o gyfrifiaduron a wnaed yng Nghymru. Un o'r rhain yw'r Apple iMac a wnaed gan LG Corporation, Casnewydd.

Mae llawer o wefannau ar gael sy'n gallu rhoi rhagor o wybodaeth am gyfrifiaduron cynnar. Mae rhai o'r gwefannau hyn yn cynnig meddalwedd ar gyfer y peiriannau cynnar, ac mae yna raglenni i'w rhedeg ar gyfrifiaduron personol modern hefyd sy'n efelychu ymddygiad yr hen beiriannau, i ddangos sut mae cyfrifiaduron wedi datblygu.

Croes Fictoria 'ddirgel' a pharot wedi'i stwffio

26 Ebrill 2007

William Williams VC.

William Williams VC. Image © Kenneth Williams Collection.

Medalau William Williams.

Medalau William Williams.

O'r chwith i'r dde: Croes Fictoria, Medal Gwasanaeth Nodedig ynghyd ag ail far, medalau gwasanaeth yn y Rhyfel Mawr (Seren 1914-15, Medal Ryfel, Medal Fuddugoliaeth), Medal Amddiffyn 1939-45, Medalau'r Coroniad (1937 a 1953), Médaille Militaire Ffrainc.

Ym 1917 dyfarnwyd Croes Fictoria i William Williams am ei ran yn y gwaith o suddo llong danfor Almaenig.

Ar 21 Gorffennaf 1917 derbyniodd William Williams, morwr o Fôn, Groes Fictoria, sef prif wobr dewrder Prydain, gan y Brenin Sior V ym Mhalas Buckingham. Yng ngeiriau'r ddyfynneb, fe'i dewiswyd 'by the ship's company of one of H.M. ships to receive the Victoria Cross under Rule 13 of the Royal Warrant...'

O achos y ddyfynneb annelwig hon cyfeiriwyd at yr achos hwn, a rhai tebyg iddo, fel y 'Groes Fictoria ddirgel'. Beth oedd cefndir yr achos hwn?

Yn ystod y Rhyfel Mawr (1914-18), ceisiodd Llynges yr Almaen roi Prydain dan warchae, gan ddefnyddio ei fflyd o longau tanfor i atal bwyd a nwyddau angenrheidiol rhag cyrraedd y wlad. Llwyddwyd i ffrwyno'r bygythiad hwn yn y pen-draw drwy ddefnyddio llongau mewn gosgordd a meysydd ffrwydron, ond tacteg arall oedd camarwain a dal llongau tanfor y gelyn drwy ddefnyddio llongau masnach ac arnynt arfau cudd - y 'llongau-Q' fel y'u gelwid. Aeth y llongau hyn i drafferth mawr i sicrhau bod y gelyn yn ymosod arnynt, yn y gobaith y byddai hynny'n darbwyllo llongau tanfor yr Almaen i ddod i'r wyneb a'u gosod eu hunain o fewn cyrraedd gynnau cudd y llongau masnach.

Bu Williams yn gwasanaethu ar sawl un o'r llongau hyn dan gyfarwyddyd Gordon Campbell VC DSO, comander mwyaf llwyddiannus y llongau-Q. Roedd eisoes yn meddu ar y Fedal Gwasanaeth Nodedig (DSM) am ei ran yn y gwaith o suddo'r llong danfor Almaenig U-83, wedi i'r H.M.S ar 7 Mehefin 1917. Q5 (a elwid gynt yn S.S. Farnborough) gael ei suddo â thorpido oddi ar arfordir gorllewinol Iwerddon ar 17 Chwefror 1917.

Digwyddodd y frwydr a arweiniodd at ddyfarnu Croes Fictoria i Williams ar 7 Mehefin 1917. Suddodd olynydd S.S. Farnborough, sef H.M.S. Pargust (S.S. Vittoria gynt, a atafaelwyd o Ddociau Caerdydd), y llong danfor UC-29, wedi i'r llong gael ei tharo â thorpido. Cymerodd y criw arnynt eu bod hwy - ynghyd â pharot wedi'i stwffio mewn caets - am ymadael â'r llong, gan adael nifer fach o ddynion yn cuddio ar ei bwrdd.

Am dros 30 munud, daliodd y Morwr Williams dwll gwn ochr dde'r llong yn ei le, wedi i'w bwysau ddod yn rhydd yn dilyn ffrwydrad y torpido. Drwy ei weithredoedd llwyddodd i gadw'r gwn o'r golwg hyd yr eiliad y daeth hi'n amser i'w danio, pan ddaeth y llong danfor i'r wyneb gerllaw.

Cydnabuwyd y gamp o suddo'r UC-29 drwy ddyfarnu'r Groes Fictoria i H.M.S. Pargust, y tro cyntaf i long ennill bri dan y Rheol a oedd cyn caniatŷu i weithred o ddewrder torfol gael ei gydnabod.

Dewiswyd un swyddog (Lefftenant R.N. Stuart) ac un llongwr i dderbyn y wobr. Y llongwr hwnnw oedd Williams, ef achubodd y dydd diolch i'w feddwl chwim a'i ymdrech fawr.

Roedd i'w yrfa anrhydeddus un tro annisgwyl arall: ar 8 Awst 1917, suddwyd yr H.M.S. Dunraven (olynydd y Pargust, llong arall o Gaerdydd) oddi ar arfordir Ffrainc wedi brwydr pum-awr â llong danfor arall. Ar yr achlysur hwn derbyniodd Williams far (ail wobr) i'w DSM am ei waith saethu: ei drydydd gwobr am ddewrder ymhen llai na chwe mis!

Rhyddhawyd William Williams o'r Llynges Frenhinol wrth Gefn ym mis Tachwedd 1918. Ymgartrefodd yng Nghaergybi ac ef oedd un o sefydlwyr y gangen leol o'r Lleng Brydeinig. Bu farw ar 23 Hydref 1965.

Darllen Cefndir

My mystery ships gan G. Campbell. Cyhoeddwyd gan Hodder & Stoughton (1928).

Sea killers in disguise gan T. Bridgeland. Cyhoeddwyd gan Leo Cooper (1999).