Yr 20fed Ganrif

Bardd Cymraeg yn cwympo yn Flanders

25 Ebrill 2007

"Dydd ola o Orffenna', 'dech chi'n gweld, diwrnod cynta'r frwydyr fwya fuo yn y byd 'ma 'rioed ma'n debyg. Brwydyr Passchendaele".

(Simon Jones, 1975).

Aeth dros chwarter miliwn o ŵyr o Gymru i ymladd yn rhyfel 1914-1918. Yn eu plith roedd y bardd Ellis Humphrey Evans o Drawsfynydd, neu a rhoi iddo ei enw barddol, Hedd Wyn. Galwyd ef i'r rhyfel ym 1917, a'i anfon i ymladd yn Fflandrys. Yno fe'i lladdwyd ym mis Awst 1917 ar Gefnen enbyd Pilckem, ar ddechrau'r cyrch ar Passchendaele.

Y Gadair Ddu

Chwech wythnos wedi ei farwolaeth dyfarnwyd iddo'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl Yr Arwr, cerdd a gwblhaodd byr amser yn unig cyn ei farw. Yn ystod defod y cadeirio taenwyd gorchudd du dros y Gadair ei hun, a byth ers hynny adwaenir hi fel Y Gadair Ddu.

Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn; 1887 - 1917)

Llygad-dyst

Bu Mr Simon B. Jones, Aberangell (ganed 1893), yn gwasanaethu yn yr un gatrawd â Hedd Wyn, a honnai iddo ei weld yn disgyn ar faes y gad. Clywch ei dystiolaeth ef, fel y'i cofnodwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1975:

AWC 4763. Recordiwyd: 26.9.1975, gan Robin Gwyndaf.
AWC 4764. Recordiwyd: 26.9.1975, gan Robin Gwyndaf.
Simon Jones yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Simon Jones, yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Mi gweles o'n syrthio. A mi allaf ddeud mae nosecap shell yn 'i fol lladdodd o, wyddoch chi. Ôch chi'n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo mae'n wir. Odd rhaid ichi ddal i fynd, 'de".

(Simon Jones, 1975).

 

Cenhedlaeth coll

Roedd Hedd Wyn yn un o blith 32,000 o filwyr a laddwyd yn ystod yr ymosodiad ar Gefnen Pilckem. Ni chipiwyd pentref drylliedig Passchendaele hyd Dachwedd 6ed, 98 diwrnod wedi i'r frwydr gychwyn. Talwyd pris uchel am yr ymgripio araf hwn dros brin bum milltir o dir: bu farw 310,000 o luoedd y Cynghreiriaid a 260,000 o Almaenwyr.

Erys y Gadair Ddu yn arwydd grymus o effaith ddychrynllyd y Rhyfel Byd Cyntaf ar gymunedau trwy Gymru benbaladr, ac addewid coll cenhedlaeth gyfan o ŵyr ifainc o Gymry.

Achub bywyd ar draphont Crymlyn, 1914

23 Ebrill 2007

Fedal Edward am dewrder

James Dally, yn gwisgo Medal Edward. Daw'r llun o Great Western Railway Magazine, Medi 1915.

James Dally, yn gwisgo Medal Edward. Daw'r llun o Great Western Railway Magazine, Medi 1915.

Ym mis Hydref 1914 achubodd James Dally un o'i gydweithwyr rhag syrthio 52m oddi ar draphont Crymlyn. Ym 1915 cafodd Fedal Edward am ei ddewrder.

Ar 25 Chwefror 1915 anfonodd Frank Potter, Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd y Great Western (GWR), lythyr i'r Swyddfa Gartref oedd yn cynnwys adroddiad am ddigwyddiad ar draphont Crymlyn ger Trecelyn, Sir Fynwy, ac yn argymell y dylid dyfarnu Medal Edward, prif fedal Prydain am ddewrder sifil ar y pryd, i James Dally.

Ar 28 Hydref 1914, roedd contactwyr G.W.R. yn peintio'r draphont. Roedden nhw'n defnyddio sgaffaldiau ar ffurf estyll oedd yn cael eu cynnal gan ben distiau llorweddol. Tua 5.00 pm, wrth i'r ddau ddyn symud y sgaffaldiau, torrodd un o'r pen distiau, a syrthiodd y fforman, Mr Skevington, 52m (175 troedfedd) i'w farwolaeth ar lawr yr iard nwyddau islaw. Llwyddodd yr ail ddyn, Thomas Bond, afael mewn estynnwr haearn oedd yn rhan o brif adeiladwaith y bont, ond roedd yn hongian yn yr awyr.

Achub bywyd

Traphont Crymlyn. Mae'r smotyn coch yn dynodi lleoliad y digwyddiad.

Traphont Crymlyn. Mae'r smotyn coch yn dynodi lleoliad y digwyddiad.

Roedd James Dally, adeiladwr pontydd o Grymlyn gerllaw yn goruchwylio'r gwaith. Heb oedi dim, aeth ati i cropian oddi ar y gangwe cyn belled â'r rhwymiadau lletraws (8cm [3 modfedd] o led) rhwng trawstiau gwaelodol y prif hytrawstiau:

"Gofynnais iddo godi ei goesau o amgylch yr estynnwr os oedd modd. Llwyddodd i wneud hyn. Wedyn gafaelais yn ei goesau a dweud wrtho i symud un llaw ar y tro; a dyna sut llwyddodd Bond i symud yn agosach at y gangwe. Pan oedd yn ddigon agos cefais well afael arno, ac yn y pen draw llwyddais i'w osod yn ddiogel ar y gangwe."

Yn ôl y London Gazette, "The man would probably have lost his life had it not been for the courage and presence of mind shown by Dally." Doedd dim amheuaeth gan Bond: "Roeddwn i'n hongian yn yr awyr; pe na bai Mr Dally ar y gangwe ar y pryd, a phe na bai wedi gwneud beth wnaeth e, fydden i ddim wedi gallu achub fy hunan... Mae fy nyled i Mr Dally'n fawr, oni bai am ei anogaeth a'i ymdrech yn y fan a'r lle, byddwn i wedi diodde'r un dynged â Mr Skevington, heb os nac oni bai."

Fedal Edward oddi wrth y Brenin Siôr V

Medal Edward, Diwydiant, Ail Ddosbarth (efydd) James Dally, wyneb.

Medal Edward, Diwydiant, Ail Ddosbarth (efydd) James Dally, wyneb.

Fel y digwyddodd, cafodd Dally ei Fedal Edward oddi wrth y Brenin Siôr V ar 12 Gorffennaf 1916. Cafodd y fedal ei chreu ym 1907 i gydnabod "gweithredoedd dewr mwyngloddwyr a chwarelwyr" ac ym 1909 penderfynwyd ei chyflwyno i gydnabod gweithredoedd dewr mewn diwydiannau eraill. Cafodd ei disodli gan Groes Siôr ym 1971.

Roedd traphont Crymlyn 512m (1,680 troedfedd) o hyd ac yn codi tua 60m (200 troedfedd) uwchlaw afon Ebwy. Roedd yn rhan o estyniad Dyffryn Taf o Reilffordd Casnewydd, y Fenni a Henffordd, ac fe'i cwblhawyd ym 1857-58. Agorwyd y draphont ar 1 Mehefin 1857 ac erbyn 1863 roedd yn rhan o rwydwaith rheilffordd y Great Western. Cafodd ei dymchwel ym 1965-66.

Darllen Cefndir

For Those in Peril, gan Edward Besly. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2004).

Gallantry: its public recognition and reward in peace and war at home and abroad gan A. Wilson a J. H. F. McEwen. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1939).

Medal Albert a enillwyd yng Nghaerdydd 1919

23 Ebrill 2007

Walter Cleall, enillydd Medal Albert. Hawlfraint y llun Kenneth Williams.

Walter Cleall, enillydd Medal Albert. Hawlfraint y llun Kenneth Williams.

Medal Albert (wyneb).

Medal Albert (wyneb).

Y Gwesty Brenhinol, Caerdydd (tynnwyd y llun yn 2003).

Y Gwesty Brenhinol, Caerdydd (tynnwyd y llun yn 2003).

Ym 1919 enillodd Walter Cleall Fedal Albert am ddewrder am achub bywyd Winnie Jones o dŷn yn y Gwesty Brenhinol, Caerdydd.

Yn ystod prynhawn 11 Awst 1919, cafodd Winnie Jones, morwyn ystafell nad oedd ar ddyletswydd ar y pryd, ei hun yn gaeth yn ei hystafell ar 6ed llawr y Gwesty Brenhinol oedd ar dân. Ni allai ysgolion y Frigad Dân ei chyrraedd. Roedd torf wedi ymgynnull a rhedodd dau ŵr - Tom Hill a Walter Cleall - i mewn i'r gwesty i geisio ei hachub.

Rywsut neu'i gilydd, llwyddodd Cleall i gyrraedd y 6ed llawr, ond er mwyn cyrraedd y ferch bu'n rhaid iddo dorri ffenest a throedio ar hyd parapet cul bron i 30m (100 troedfedd) uwchlaw Stryd Wood. Cariodd y ferch nôl yr un ffordd ac wrth i'r ddau ymadael â'r ystafell, dymchwelodd y to. Aed â'r ferch a'i hachubwr yn anymwybodol i'r ysbyty.

Bu bargyfreithiwr o Lundain, oedd yn digwydd bod yng Nghaerdydd y diwrnod hwnnw, yn dyst i'r digwyddiad. Yn ddi-oed, ysgrifennodd at yr Ysgrifennydd Cartref (bargyfreithiwr arall) ac ymhen deudydd roedd y Swyddfa Gartref yn archwilio p'un ai a ddylid gwobrwyo dewrder Cleall. Y mis Mawrth dilynol, arwisgwyd Cleall â Medal Albert gan y Brenin, prif wobrwy dewrder sifil Prydain bryd hynny.

Dyfarnwyd Medal Albert am y tro cyntaf ym 1866 am ddewrder wrth achub bywyd ar y môr. Ym 1877, cafodd yr amodau eu hymestyn i gynnwys digwyddiadau ar y tir, yn dilyn achubiaeth ddramatig pump o lowyr a fu'n gaeth dan ddaear dros gyfnod o naw diwrnod yng nglofa Tynewydd yng Nghwm Rhondda. Mewn dim o dro, câi'r medal ei galw yn 'Groes Victoria Sifil'. Pan grëwyd Croes Siôr ym 1940, nid oedd angen Medal Albert mwyach, ac eithrio ar gyfer ambell wobrwy ar ôl marwolaeth, ac ym 1971 fe'i diddymwyd. Gwahoddwyd ei deiliaid a oedd ar dir y byw i'w chyfnewid am Groes Siôr. Roedd Walter Cleall yn un o bump a ddewisodd gyflwyno eu medalau gwreiddiol i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Darllen Cefndir

For Those in Peril, gan Edward Besly. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2004).

Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan

11 Ebrill 2007

Ym 1992 cludwyd swyddfa bost leiaf Cymru o Flaenwaun i'r Amgueddfa. Diolch i garedigrwydd cyllidwyr y project, Post Office Counters Ltd, datgymalwyd yr adeilad bach brics, ac fe'i symudwyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, lle cafodd ei ail-adeiladu gan dîm arbenigol yr Amgueddfa.

Mae swyddfeydd post y pentref wedi chwarae ran bwysig ym mywyd cymunedol Cymru dros y 90 mlynedd ddiwethaf. Erbyn y 1950au roedd gan bron bob pentref ei changen ei hun, a oedd yn fan i ddosbarthu'r post, casglu parseli ac i bobl ymgynnull i glywed y newyddion lleol. Byddai ymweliadau rheolaidd y postmon cefn gwlad ar ei feic, ac yn ddiweddarach mewn Morris Minor coch neu fan Fordson, yn helpu trigolion y cymunedau gwledig i gadw mewn cysylltiad â'i gilydd.

Swyddfa Bost lleiaf Cymru, ym Mlaenwaun, Sir Gaerfyrddin

Swyddfa Bost lleiaf Cymru, ym Mlaenwaun, Sir Gaerfyrddin

Swyddfa Bost Blaenwaun yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Swyddfa Bost Blaenwaun yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Swyddfa Bost y Wlad

Wrth gwrs, pur anaml byddai adeiladau swyddfeydd post cefn gwlad mor drawiadol â'r rhai trefol. Fel rheol lleolwyd hwy yng nghornel siop y pentref neu mewn ystafell flaen tŷ. Weithiau gwerthai'r swyddfeydd post hyn amrywiaeth o eitemau, ond dibynnai rai'n llwyr ar werthu stampiau, archebion post, trwyddedi a thystysgrifau cynilion, a oedd yn unig ffynhonnell incwm iddynt.

Roedd Swyddfa Bost Blaenwaun, a leolir tuag wyth milltir i'r gogledd o Hendy-gwyn, Dyfed, yn fusnes o'r fath. Fe'i adeiladwyd ym 1936 gan y saer maen Evan Isaac, a'i saer o gefnder, David Williams. Rhedwyd y Swyddfa Bost, yn ogystal â thafarn y Lamb ar draws y ffordd, gan Mrs Hannah Beatrice Griffiths (Isaac gynt), merch Evan Isaac, a'i gŵr.

Bob dydd cludwyd y post o Hendy-gwyn cyn cael ei ddidoli ar fainc isel yn ystafell gefn y Swyddfa Bost. Dosbarthwyd y post i'r gymuned leol gan Mrs Griffiths, a fyddai'n ymgymryd â'r siwrne wyth milltir ar gefn beic cyn croesi'r ffordd i weithio yn y dafarn. Medrai unrhyw gwsmeriaid a gyrhaeddai i'r Swyddfa Bost tra bod Mr a Mrs Griffiths yn gweithio yn y dafarn wasgu botwm a fyddai'n canu cloch y tu ôl i'r bar.

Roedd gan y Swyddfa Bost, a fesurai cwta 5 metr o hyd a 2.9 metr o led, ddwy ystafell: ystafell wasanaethu allanol yn cynnwys cownter, a swyddfa fewnol neu ystafell ddidoli yn cynnwys lle tân bach a mainc o dan y ffenest. Gwahanwyd yr ystafelloedd gan bared pren. Peintiwyd y waliau mewnol yn frown i uchder o tua un metr uwch y llawr, a lliw hufen at y to, a llinell drwchus ddu rhwng y ddau.

Y tu allan, uwch ffenest yr ystafell wasanaethu, gosodwyd arwydd a wnaed o ddalen tun trwchus wedi'i pheintio ag arni'r geiriau: BLAENWAUN POST OFFICE. Gosodwyd blwch post bach ar y wal rhwng y ffenest a'r fynedfa.

Yn y dyddiau cynnar, roedd ffôn ar y cownter at ddefnydd y Swyddfa Bost ac, efallai, at ddefnydd y pentrefwyr yn ogystal. Yn ddiweddarach, gosodwyd ciosg cyhoeddus y tu allan i'r adeilad bach. Roedd yna hefyd Dderbynnydd o'r Adran Ryfel yn y swyddfa er mwyn derbyn negeseuon brys ar adegau o argyfwng.

Yn dilyn marwolaeth Mr Griffiths yn y 1960au cynnar, symudwyd y busnes i fyngalo newydd a adeiladwyd gan ei ferch, Mrs Evanna James. Bu'r hen Swyddfa Bost yn wag o'r amser hwnnw tan y cynigiwyd hi i'r Amgueddfa ym 1991.

Mae modd ymweld â hi yn adran 'pentref' amgueddfa awyr agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ger y popty a siop y teiliwr. Adferwyd hi i'r golwg oedd arni yng nghyfnod y rhyfel, ac mae'n cynrychioli cyfnod yn hanes Cymru na ddangosir gan unrhyw un o adeiladau eraill yr Amgueddfa.

Oriorau Ymbelydrol yn Amgueddfa Cymru

2 Ebrill 2007

Mae nifer o eitemau yng nghasgliad oriorau Amgueddfa Cymru'n 'tywynnu mewn tywyllwch'. Y sylwedd sy'n achosi'r oriorau i dywynnu (goleuedd) yw radiwm. Gan fod radiwm yn ymbelydrol, mae'n rhaid cymryd gofal wrth drin a thrafod yr oriorau, sy'n golygu bod eu cadw, eu harddangos, a darparu mynediad atynt, yn her fawr.

Radiwm

Oriawr garddwrn dyn, o 1918, yn dangos rhannau lle mae'r paent radiwm wedi dirywio, neu ar goll yn gyfangwbl.

Oriawr garddwrn dyn, o 1918, yn dangos rhannau lle mae'r paent radiwm wedi dirywio, neu ar goll yn gyfangwbl.

Darganfuwyd Radiwm gan Marie Curie ym 1898, a daeth i fod yn rhyfeddod y ganrif newydd - credwyd, yn eironig, ei fod gwella popeth, o arthritis i ganser. Achosir yr effaith dywynnol drwy gymysgu sylweddau megis sylffid sinc a radiwm. Ym 1902, defnyddiwyd y sylwedd ymoleuol hwn yn wreiddiol i beintio wynebau a bysedd oriorau a chlociau, er mwyn eu gweld yn y tywyllwch.

Bu farw Marie Curie ym 1934 o ganlyniad i'w chysylltiad agos â radiwm. Mae'r llyfrau nodiadau, a ddefnyddiodd i gofnodi'r holl arbrofion, yn parhau i fod yn rhy ymbelydrol i'w trafod heddiw.

Y Merched Radiwm

Yn fuan daeth oriorau a dywynnai yn y tywyllwch yn boblogaidd gyda'r farchnad dorfol, ac yn y 1920au, sefydlwyd ffatrïoedd cynhyrchu lle byddai merched yn cymysgu glud, dŵr, a phowdr radiwm, i wneud paent tywynnol gwyn â gwawr werdd i'w osod ar yr oriorau.

Er mwyn peintio rhifau taclus a chlir ar y deialau, roedd angen sicrhau bod gan y brwsis flaenau main iawn. Collai'r brwsis eu siâp ar ôl ychydig gyffyrddiadau, felly byddai'r merched yn eu "miniogi" drwy rolio'r blaenau ar eu tafodau i sythu'r blew, weithiau gymaint â 6 thro ar gyfer pob wyneb oriawr. Byddai rhai'n peintio'u dannedd hyd yn oed, neu'n gwisgo "colur" tywynnol fel y gallent frolio i'w ffrindiau. Bu nifer o'r merched yma farw o ganser yn ddiweddarach.

Profi am ymbelydredd yn yr amgueddfa

Defnyddiwyd mesurydd ymbelydredd (mesurydd Geiger) i fesur lefelau ymbelydredd y clociau a'r oriorau sydd yng nghasgliadau'r amgueddfa. Dangosodd y darlleniadau uchaf bod gan rai deialau ddarlleniad o 3000 cyfrif yr eiliad, o'i gymharu â'r lefel naturiol o 8-10 cyfrif yr eiliad.

Mae'r dos mesuradwy o Radiwm sydd mewn oriawr tua 5 gwaith yn fwy na'r dos a geir mewn pelydr-x safonol o'r frest.

Cadarnhaodd y darlleniadau y gallai'r wynebau fod yn beryglus, os na wneid unrhyw beth i gyfyngu ar gysylltiad pobl â hwy. Penderfynwyd, felly, y dylid:

  • Cau'r eitemau ymbelydrol mewn deunydd o ddwysedd digonol;
  • Cadw'r eitemau ymbelydrol mewn rhan dawel o'r storfeydd;
  • Gosod arwyddion yn rhybuddio natur y perygl.

Symudwyd pob gwrthrych a oedd yn cynnwys radiwm, a oedd yn cael ei arddangos yn gyhoeddus, er mwyn ei storio'n ddiogel.

Llwch ymbelydrol

Er bod modd rheoli amodau storio'r gwrthrychau hyn yn effeithiol, mae eu cadw'n fater o bryder. Gan fod rhai o'r wynebau gymaint â 100 mlwydd oed, gall y paent droi'n llwch, gan gynyddu'r perygl o heintio drwy gysylltiad uniongyrchol â'r llwch ymbelydrol.

Mae'n bosib anadlu'r llwch wrth weithio ar y wynebau, megis gweithio ar y mecanwaith, glanhau'r deialau, y bysedd neu'r gorchuddion, er enghraifft. O ganlyniad, caiff pob gwrthrych ymbelydrol yn yr amgueddfa ei drin gyda'r gofal priodol, er mwyn gwarchod staff cadwraethol.

Dadfeilio Ymbelydrol

Yn ddiddorol, mae profion yn dangos nad yw gloywder y wynebau'n gysylltiedig â'r lefel o ymbelydredd sy'n bresennol. Hyd yn oed os yw paent yr wyneb yn wan neu'n anweledig yn y tywyllwch, gall roi darlleniad ymbelydrol uchel. Er bod y cemegyn ymoleuol adweithiol wedi dadfeilio, gall yr elfen ymbelydrol, sef radiwm, barhau i fod yn beryglus am flynyddoedd i ddod.