Owen Ladd – Cymro a fu farw ar fwrdd y Lusitania
, 5 Mai 2015
Gan mlynedd union yn ôl, ar 7 Mai 1915, cafodd y llong Brydeinig y Lusitania ei tharo gan dorpido Almaenig oddi ar arfordir Iwerddon, wrth iddi ddychwelyd o Efrog Newydd i Lerpwl. Fe suddodd mewn ugain munud. O’r 1,959 o deithwyr ar ei bwrdd – yn cynnwys plant a’r criw – bu farw 1,198. I nifer, roedd hon yn ‘drosedd yn erbyn dynoliaeth’ gan yr Almaenwyr, a chyhuddwyd y Kaiser Wilhelm II o ‘lofruddiaeth fwriadol ar raddfa eang’. Yn yr Almaen, cafodd medal ei chreu i gofio’r digwyddiad, ac mae gennym gopi ohoni yn y casgliad.
Ymysg y cannoedd a fu farw roedd Cymro o’r enw Owen Ladd. Ganwyd Owen ym 1882, yn fab i William a Phoebe Ladd o Eglwyswrw yng ngogledd Sir Benfro. Aeth i Ysgol Fwrdd Llantwyd cyn mynd yn brentis i wneuthurwr watshys yn Aberteifi. Bu hefyd yn rhedeg siop yn Pentre, y Rhondda, am naw mlynedd.
Ym 1911, gadawodd Gymru i ymuno â’i frawd, David, oedd yn gyfrifydd yn Winnipeg, Canada. Mewn dim o dro, daeth yn aelod amlwg o’r gymuned Gymraeg yno – roedd yn drysorydd Cymdeithas Dewi Sant, yn aelod blaenllaw o Eglwys Fedyddwyr Nassau Street, ac yn beirniadu mewn eisteddfodau lleol o bryd i’w gilydd.
Ym 1915, penderfynodd Owen ddychwelyd i Gymru – roedd ei rieni’n oedrannus ac roedd yn ystyried ymuno â’r fyddin. Yn anffodus, bu farw ar fwrdd y Lusitania cyn cyrraedd adref.
Ar 12 Mai 1915, roedd adroddiad ar suddo’r Lusitania yn The Haverfordwest and Milford Haven Telegraph yn crybwyll fod Owen Ladd ymysg y rhai oedd ar goll. Yna ar 20 Mai 1915 cafwyd adroddiad llygad-dyst ym mhapur wythnosol gogledd Penfro,
The County Echo, yn sôn am farwolaeth Owen.
Ym 1977 daeth rhai o ddyddiaduron a llythyrau perthnasau Owen i law’r Amgueddfa. Mae’r dogfennau yn cynnwys dau lythyr a yrrwyd gan Owen o Winnipeg ar 8 Mawrth a 15 Ebrill 1915.
Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys telegram, gafodd ei yrru gan ei frawd David o Winnipeg ar 8 Mai 1915 yn holi os oedd Owen yn iawn, ac ateb a yrrwyd yn hwyrach y diwrnod hwnnw gan Cunard’s yn Lerpwl, yn datgelu dim. Mae yma hefyd lythyr a yrrwyd ar 14 Mai 1915 i un o frodyr eraill Owen, Hugh Ladd o Eglwyswrw, gan ‘The Cunard Steam Ship Company Limited’, Queenstown .
Mae casgliad Owen Ladd i’w weld arlein yng nghatalog Casgliadau’r Rhyfel Byd Cyntaf.