Celc arian Llanfaches 15 Gorffennaf 2011 Yn 2006, daeth un o'r casgliadau gorau o geiniogau arian o Brydain Rufeinig yr ail ganrif i'r wyneb ger Llanfaches, Casnewydd. Darganfuwyd celc o 599 denarii arian wedi'u cuddio mewn llestr coginio a wnaed yn lleol. Maen nhw'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru bellach. Saif Llanfaches rhwng caer yr ail lynges Awgwstaidd yng Nghaerllion a phencadlys y llwythi lleol, Venta Silurum, yng Nghaerwent. Mae'r 599 denarii arian, sy'n dangos Ymerawdwyr Rhufeinig fel Hadrian a Nero, yn dyddio'n ôl i OC 160, a chyhoeddwyd eu bod yn drysor ym mis Gorffennaf 2007. Y Denarius, neu Denarii (lluosog), yw'r darn arian Rhufeinig enwocaf, mwy na thebyg. Dyma'r llythyren 'd' a oedd yn rhan o hen system arian '£-s-d' Prydain. Roedd 1 denarius rywbeth tebyg i gyflog diwrnod ar y pryd, i weithiwr cyffredin (meddyliwch am ddameg y winllan yn y Beibl) neu lengfilwr Rhufeinig. Roedd y denarius, felly, yn ddarn gwerthfawr o arian. Byddai 600 denarii yn swm aruthrol - tybed faint o amser fyddai hi'n ei gymryd i chi gynilo gwerth dwy flynedd o gyflog gros, tybed? Cliciwch ar y mân-luniau isod i bori trwy ddetholiad o'r celc arian. Celc ceiniogau Llanfaches Ffugiad o Hadrian — mae'r ochr arall yn copïo ceiniog Trajan Ffugiad o Hadrian Pietas yn offrymu ger allor [Diva Faustina I] Portread oes o Faustina I Hadrian, portread pen noeth Pax (heddwch) yn rhoi arfau ar dân [Trajan] Dwylo wedi'u plethu: ymerawdwr a'r fyddin [Nerva] Bwystfil estron [Titus] Hwch a moch bach [Vespasian] - yn cyfeirio at chwedl y sefydlu Antoninus Pius (138-61); wedi'i fabwysiadu fel ail olynydd i Hadrian Fortuna ('ffawd') [Trajan] Antoninus Pius (138-61) Hadrian (117-38) Felicitas ('hapusrwydd') [Trajan] Liberalitas — haelioni'r ymerawdwr [Hadrian] Concordia [Antoninus Pius] Clementia ('trugaredd') [Antoninus Pius] Italia - talaith arall wedi'i hymgnawdoli [Antoninus Pius] Sabina, gwraig Hadrian Vesta, duwies yr aelwyd [Sabina] L. Aelius (136-8); penodwyd yn olynydd i Hadrian, ond bu farw'n gyntaf Hadrian fel 'adferwr' Gâl Faustina II, merch Antoninus Pius, gwraig Marcus Faustina I, gwraig Antoninus (m.141); argraffiad coffa ('Diva') Offer offeiriadol [Marcus Aurelius Caesar] Marcus Aurelius fel Cesar o dan A Pius (139-61) Taranfollt ar gadair [Antoninus Pius] Aegyptos - un o'r taleithiau niferus a ymgnawdolir ar geiniogau Hadrian Aequitas ('fair dealing') or Moneta (the mint) [Antoninus Pius] Pietas ('ffyddlondeb, dyletswydd') [Hadrian] Victoria: duwies buddugoliaeth [Hadrian] Fides publica: 'diffuantrwydd' y wladwriaeth (!) [Hadrian] Moneta - ymgnawdoliad o'r bathdy a'r arian bath [Hadrian] Adventus ('cyrraedd') - Hadrian yn cael ei gyfarch gan Roma Neifion, duw dŵr/y môr [Hadrian] Iustitia ('cyfiawnder) [Hadrian] Hercules a'i bastwn [Hadrian] Salus ('Iechyd'/'lles') [Hadrian] Diana, duwies hela a ffrwythlondeb [Hadrian] Libertas ('rhyddid') [Hadrian] Providentia ('rhagweld') [Hadrian] Hilaritas ('gorfoledd') [Hadrian] Hadrian (117-38) Hadrian (117-38) Roma - duwies/ymgnawdoliad o'r ddinas [Hadrian] Hadrian fel gubernator (llywiwr) y Byd Oceanus, ymgnawdoliad o'r afon sy'n amgylchynu'r ddaear [Hadrian] Hadrian (117-38) Virtus ('gwroldeb') [Trajan] Hadrian yn cael ei fabwysiadu fel etifedd Trajan [Hadrian] Felicitas ('hapusrwydd') [Trajan] Anrhydeddu tad Trajan Colofn Trajan, Rhufain - sy'n dal i sefyll heddiw Llumanau milwrol [Trajan] Cerflun marchog o Trajan Trajan mewn gorymdaith orfoleddus Ymgnawdoliad o dalaith Arabia, gyda chamel [Trajan] Tlws o arfau [Trajan] Ceres, duwies amaethyddiaeth [Trajan] Dacian wedi'i drechu [Trajan] Tlws o arfau a Dacian wedi'i ddal [Trajan] Via Traiana, ffordd newydd yn ne'r Eidal [Trajan] Spes ('gobaith') yn dal blodyn [Trajan] Mawrth, duw rhyfel [Trajan] Concwest Dacia [Trajan] Tragwyddoldeb, yn dal yr haul a'r lloer [Trajan] Trajan (98-117) Hercules, yn gwisgo croen llew ac yn dal pastwn [Trajan] Nerva (96-8) Minerva [Domitian Augustus] 'Cytgord y byddinoedd' [Nerva] Domitian, Augustus (81-96) Julia Titi, merch Titus a chariad Domitian Titus, Augustus (79-81) Venus [Titus Augustus] Blaidd gyda Romulus a Remus [Domitian Caesar] Pegasus [Domitian Caesar] Iau [Vespasian] Vespasian Vespasian Judaea - atal y gwrthryfel Iddewig [Vespasian] Vespasian (69-79), cyn-gadlywydd Legio II Augusta Vitellius (OC 69) Vitellius (OC 69) Otho (OC 69) a'i wig drawiadol Iau, Pennaeth y Duwiau [Nero] Nero (OC 54-68) Pegasus Pennau Yn wahanol i'n darnau arian ni heddiw - sydd ag un llywodraethwr yn unig arnynt ac ychydig iawn o gynlluniau gwahanol - roedd arian bath ymerodraeth Rhufain yr ail ganrif yn llawn amrywiaeth: mae celc Llanfaches yn cynnwys ceiniogau â llun 12 ymerawdwr gwahanol a phedair o'u gwragedd neu gariadon. Cynffonnau Roedd dwsinau o gynlluniau gwahanol ar gefnau'r ceiniogau - a oedd fel cronicl o amcanion, gwerthoedd a llwyddiannau ymerodrol (i'r rhai a oedd yn ddigon brwd neu lythrennog hyd yn oed, i'w deall). Roeddynt yn cynnwys: hanes a chwedloniaeth, yr ymerawdwr a'i orchestion, y fyddin, yr ymerodraeth, duwiau Rhufeinig, ymgnawdoliad o gysyniadau haniaethol, a'r byd naturiol hyd yn oed. Felly, dyma gyfle i ddod i adnabod y llywodraethwyr Rhufeinig, eu gwragedd a'u cariadon yn well, a deall y negeseuon y tu ôl i rai o'r ceiniogau mwyaf diddorol yn y casgliad. Y cyd-destun ehangach Mae'n ymddangos mai arian wedi'i gynilo oedd celc Llanfaches (yn hytrach nag arian nad oedd mewn defnydd ar y pryd) - felly ai rhan o gynilion gorfodol a dewisol ychwanegol milwr Rhufeinig oedden nhw? Neu gynilion yn sgil oes o fasnachu yn nhref gyfagos Caerwent? Beth bynnag oedden nhw, roedd cyflog milwrol yn hollbwysig i wasgaru'r arian bath newydd; mae wyth celc o gyfnod Antoninus Pius (138-61 OC) wedi'u darganfod yma yng Nghymru, a chelc Llanfaches yw'r mwyaf o bell ffordd.
St Fagans Collections Manager - FIRST BLOG! Dylan Jones, 1 Gorffennaf 2011 My name is Dylan Jones and I am the Collections Manager at St Fagans:National History Museum. Apart from being responsible for the documentation at St Fagans I also look after the fishing and hunting collection which will be the main focus of my first blog. It will cover the work / preparation for the fishing weekend at St Fagans later on this month.Follow the blog as I finalise details for the weekend which will include Karl Chattington, Coracle maker from the Cynon Valley, lave netsmen of the Severn estuary demonstrating their unique fishing skills and Hywel Morgan giving a demonstration on fly fishing. For the first time around the Netshouse we will also be preparing and cooking fish. I hasten to add it will not be me cooking!Karl is no stranger to St Fagans and over the years he has been a popular attraction on site demonstrating his coracling skills on the ponds at Easter and in the summer months. Karl was part of the Welsh contingent that attended the Smithsonian Folklife Festival in Washington DC in 2009. It was at this particular festival Karl constructed a Tywi coracle within two weeks of the festival – no mean achievement considering the lack of tools / weather conditions. Karl’s exploits at the festival can be read in a later blog.I have already received some good news a few weeks ago with Martin Morgan, Secretary of the Blackrock Lave Net Fishermen Association confirming the presence of the fishermen at the festival. Good news indeed as the netsmen are very popular and informative. Beside showing the lave net Martin and his brother Richard will also bring with them fishing traps known as putchers and a putt which were once used on the Severn estuary until quite recently. Keep reading the blog to learn more about these hardy and unique fishermen. Follow me on Twitter @CollectionsSF
Y Baddondai Pen Pwll Ceri Thompson, 30 Mehefin 2011 The pithead baths at Bit Pit: National Coal Museum Llwch glo llethol Cyn i faddondai pen pwll ddod yn gyfleuster cyffredin, doedd dim dewis gan y rhan fwyaf o lowyr, fyddai wedi ymlâdd ar ôl diwrnod caled o waith, ond teithio adref o'r gwaith yn llwch glo i gyd. Byddai eu dillad yn diferu o chwys yn aml gan godi'r siawns o ddal niwmonia, broncitis neu grydcymalau. Wedi cyrraedd adref, roedd yn rhaid golchi cymaint o'r baw â phosibl ymaith mewn baddon tin o flaen y tân. Menywod y tŷ fyddai'n gyfrifol am gynhesu'r dŵr ar gyfer baddon y glöwr a golchi a sychu'i ddillad fel arfer. Roedd cadw'r tŷ yn lân rhag llwch y glo yn frwydr feunyddiol hefyd. Doedd dim diwedd ar y gwaith caled yma, a byddai blinder a straen corfforol yn arwain at broblemau iechyd difrifol yn aml, ac weithiau at enedigaethau cynamserol a cholli plentyn. Bu'n rhaid i ddiwygwyr cymdeithasol, dan faner 'Mudiad y Baddondai Pen Pwll', lobïo'n galed cyn darbwyllo'r Llywodraeth, y meistri glo a rhai o'r glowyr a'u gwragedd hyd yn oed, bod angen am faddondai pen pwll. Bu'n frwydr hir a chaled, o'r ymgyrchu agoriadol yn y 1890au hyd sefydlu cronfa arbennig ym 1926 i adeiladu baddondai, dan nawdd Pwyllgor Lles y Glowyr. Diwygio Cymdeithasol Roedd baddondai pen pwll wedi cael eu defnyddio yng Ngwlad Belg, Ffrainc a'r Almaen ers y 1880au. Ym 1913 anfonwyd cynrychiolwyr i weld y baddondai Ewropeaidd yma gan David Davies, perchennog cwmni Ocean Coal ac un o eiriolwyr diwygio cymdeithasol. Arweiniodd yr ymweliad hwn at adeiladu'r baddondy cyntaf yng Nghymru ym Mhwll Deep Navigation, Treharris, ym 1916. Bu llwyddiant baddondai Deep Navigation yn allweddol yn yr ymgyrch bropaganda a drefnwyd gan y sawl oedd am weld baddondy pen pwll ym mhob pwll glo yng Nghymru. Ym 1919 sefydlodd Llywodraeth Prydain Gomisiwn Brenhinol ('Comisiwn Sankey') i ymchwilio i amodau cymdeithasol a gwaith y meysydd glo. Sefydlwyd 'Cronfa Lles y Glowyr' o ganlyniad i hyn er mwyn '... improve the social well being, recreation, and condition of living of workers in or about coal mines'. Casglwyd arian y gronfa hon drwy godi ceiniog ar bob tunnell o lo a gloddiwyd. Defnyddiwyd y gronfa at sawl diben, yn cynnwys darparu caeau chwarae, pyllau nofio, llyfrgelloedd a sefydliadau. Codwyd tâl ychwanegol o 1926 ymlaen, i noddi rhaglen adeiladau baddondai. Steil Bensaernïol Fodern Yn ystod bodolaeth Cronfa Les y Glowyr, o 1921 i 1952, adeiladwyd dros 400 o faddondai pen pwll ym Mhrydain. Cynlluniodd adran bensaernïol y Pwyllgor Lles y Glowyr y ffordd fwyaf cost-effeithiol o adeiladu, darparu cyfarpar a gweithredu adeiladau'r baddondai. Roedd 'steil tŷ wedi cael ei datblygu erbyn y 1930au, wedi'i seilio ar ddylunio pensaernïol y 'Mudiad Modern Rhyngwladol'. Byddai'r toeon fflat, y llinellau glan a'r defnydd helaeth o wydr i ddarparu golau naturiol yn sicrhau bod y baddondai yn amlwg yng nghanol adeiladau eraill y pyllau. Cafodd rhai baddondai, fel yr un yn Big Pit, eu rendro yn wyn, sy'n ei wneud yn nodwedd amlwg ar y bryn hyd heddiw. Golygai adnoddau prin Pwyllgor Lles y Glowyr na adeiladwyd baddondai yn nifer o byllau glo Cymru tan y 1950au. Wedi gwladoli'r diwydiant glo ym 1947, cyfrifoldeb y Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd darparu'r baddondai pen pwll.
Diptych Llandaf Mark Redknap, 25 Mehefin 2011 Caiff panel diptych Llandaf ei arddangos gyda chopi o'i bartner wedi'i gerfio mewn resin Defnyddiwyd y dechnoleg ddiweddaraf i greu replica manwl o ddarn Lerpwl. Yn un eto: dwy ddalen diptych Llandaf. Delweddau ar ddau neu dri panel yw diptych a triptych, ac roedden nhw'n amlwg yn y canol oesoedd fel cymorth i addoli a myfyrio ar fywyd a dioddefaint Crist. Yn ddiweddar, mae panel diptych ifori ochr dde o Landaf sydd yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru wedi cael ei uno â'i bartner am y tro cyntaf mewn canrif a mwy. Gwyddom am waith ifori canoloesol o leoliadau seciwlar yng Nghymru, fel darnau hela o gestyll a tharian fechan o Gaerllion (Sir Fynwy). Cafodd gwaith ifori ffigurol o bwys defosiynol ei ganfod wrth gloddio yng Nghastell Dolforwyn (Sir Drefaldwyn), a caed adroddiadau am ddiptych ifori cerfiedig o Abaty Glyn y Groes (Sir Ddinbych) ym 1866. Yng Nghymru, fel ag yn Lloegr, cafodd llawer o wrthrychau defosiwn personol eu dinistrio yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg; mae sawl diptych anghyflawn i'w gweld mewn amgueddfeydd wedi i baneli gael eu colli dros y canrifoedd. Weithiau, caiff paneli eu hailddarganfod a'r darnau eu huno unwaith eto. Diptych Llandaf Ers dros 100 mlynedd, mae panel de diptych ifori eliffant o Landaf wedi cael ei ystyried yn esiampl brin sydd wedi goroesi yng Nghymru. Fe'i gwnaed ym Mharis oddeutu OC 1340-60, ac mae'n dangos Crist ar y groes gyda'r Forwyn Fair ar y chwith, a Ioan Efengylydd fel gŵr ifanc ar y dde yn dal llyfr ac yn troi oddi wrth y groes. Mae'r ffigurau wedi'u gosod o dan ganopi pensaernïol o dri bwa Gothig trefoil, pob un â thâl maen trionglog uwch ei ben gyda chrocedi a therfyniadau. Yn ôl cofnodion yr Amgueddfa, cafodd ei ddarganfod gan Mr Henry Bird o Gaerdydd wrth ddymchwel yr 'hen ffynhondy' yn Llandaf ym Mai 1836. Wedi pasio drwy law sawl perchennog, cafodd ei brynu ym 1901 gan Amgueddfa Caerdydd (rhagflaenydd Amgueddfa Cymru) o ystad John Storrie (curadur 1878-93). Dangosodd ymchwil bod manylion addurniadol, dimensiynau, cyflwr a lleoliad colfachau'r darn yn debyg iawn i banel ifori chwith sydd bellach yng nghasgliadau Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl. Mae'r panel chwith hwn yn dangos y Forwyn a'r Plentyn (yn dal allweddi) a Paul (yn dal cleddyf), sy'n wrthbwynt gweledol taclus i olygfa'r Croeshoeliad ar y panel de. Pryd gafodd y ddau eu gwahanu? Cafodd panel Lerpwl ei gaffael ym 1953 o ystad Mr Philip Nelson, a'i prynodd o ddeliwr yng Nghaerfaddon ym 1934. Prynwyd y panel de gan John Storrie o siop Mr L. Roberts. A gafodd y ddau eu canfod yn Llandaf ym 1836 a dod i law perchnogion gwahanol, neu oeddent wedi cael eu gwahanu cyn hyn? Prif atyniad Llandaf o hyd yw'r eglwys gadeiriol a'r ffynhonnau niferus. Yr esiamplau mwyaf adnabyddus yw Ffynnon Deilo, a Ffynnon y Llaethdy ar dir Llys Llandaf, tŷ a ddefnyddiwyd fel Palas yr Esgob o 1869 i 1940. Bu'r diwethaf yn guddfan i drawst a phen croes o ddiwedd y ddegfed ganrif neu'r unfed ganrif ar ddeg, a osodwyd yn y wal bellaf ym 1870. Saif adeilad caerog Palas yr Esgob o'r drydedd ganrif ar ddeg i'r de ddwyrain o'r eglwys gadeiriol: ai dyma leoliad gwreiddiol y diptych? Heddiw, caiff panel diptych Llandaf ei arddangos gyda chopi o'i bartner wedi'i gerfio mewn resin, a gomisiynwyd o Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl (Technolegau Cadwraeth). Defnyddiwyd y dechnoleg ddiweddaraf i greu replica manwl o ddarn Lerpwl. Un o fanteision mawr y dechneg hon yw nad yw arwyneb yr arteffact gwreiddiol yn cael ei gyffwrdd o gwbl, sy'n golygu nad oes unrhyw risg i'r gwrthrych.
Trysor Cudd Sara Huws, 23 Mehefin 2011 Bore da! Galw heibio'n sydyn ydw i - mae cymaint i'w wneud y bore 'ma na alla i aros yn hir: cynnau'r arogldarth, paratoi'r groes, cwpan a'r ddysgl, a chamu mewn i'm gwisg 1520aidd. Mae hynny'n ddigon o drafferth - fe godais i'n gynnar i blethu fy ngwallt i steil Tuduraidd heddiw hefyd! Dangosodd un o'r Tudor Group imi sut i wneud pan fuon nhw'n aros yma adeg y Pasg. Fe wnaeth hi i'r holl beth edrych yn hawdd iawn - dwi ddim cweit yn plethu'n rhwydd eto, on dyfal barhau sydd raid, am ein bod ar fin cynnal digwyddiad am ffasiwn Tuduraidd fis nesa.Yn y cyfamser, rwy'n paratoi ffilm o Duduriaid ddaeth i'n gweld ni y llynedd, i'w roi yn Oriel 1 yn yr arddangosfa Creu Hanes: 1500-1700. Mae rhai o'm hoff wrthrychau Tuduraidd i'w gweld yno, gan gynnwys ffigur o Grist: gwrthrych prin iawn sy'n olrhain hanes crefyddol Cymru. Wedi'i gerfio cyn y Diwygiad, mae'n wrthrych cain ac anarferol - cafodd ei ddarganfod wedi'i guddio tu fewn i wal yn yr 1850au. Manylyn o gerflun Crog Ni wyddom lawer am sut y cyrhaeddodd y cerflun ei gartref yn y wal, ond bydd Penny Hill, Cadwraethwraig a Hanesydd, yn dod i siarad am ei hanes cudd ar ddydd Sadwrn. Gobeithio y gallwch ymuno â ni ar ddydd Sadwrn yn Oriel 1, am 2 o'r gloch, ar gyfer sgwrs fydd yn mynd ymhellach na'r plwyf lle'r canfuwyd y gerflun. Mae Penny yn arbenigwraig mewn pigmentau a phaentiadau hanesyddol, yn bennaf, ac felly fe fydd yn dod â lliw yn ôl i hanes y Groes o Gemaes. Pigmentau naturiol ar gyfer addurno cerflun Bydd y sgwrs yn Saesneg: galwch am ragor o wybodaeth ar 029 20 57 3424, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gobeithio y gwela i chi yno.