Gwreiddiau 'Cymru Anhysbys': Cynhadledd i Ddathlu Bywyd Gwyllt Cymru Ben Rowson, 20 Medi 2023 Mae 'Cymru Anhysbys' yn ddiwrnod cyffrous o sgyrsiau hanes natur cyhoeddus am ddim sy’n cael eu cynnal pob hydref yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’n cynnwys siaradwyr blaenllaw o bob cwr o Gymru, yn siarad am eu darganfyddiadau a phrojectau natur diweddaraf. Mae’r sgyrsiau yn fyr ac yn syml, ac yn aml yn llawer o hwyl!Cynhaliwyd y digwyddiad dwyieithog hwn, sy’n fenter ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, am y tro cyntaf yn 2011. Mae’r gynhadledd yn uchafbwynt poblogaidd yn ein calendr, yn denu’n rheolaidd dros 200 o ymwelwyr wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae awyrgylch drawiadol yn Narlithfa Reardon Smith, lle mae pobl sy’n gweithio ar reng flaen hanes natur a chadwraeth natur yn siarad.Cafodd y digwyddiad ei greu yn wreiddiol i ddiwallu dau angen. Y cyntaf oedd cynhadledd gyhoeddus am ddim wedi’i neilltuo’n arbennig i hanes natur Cymru gyfan. O’r dechrau un, y bwriad oedd ymdrin â meysydd Sŵoleg, Botaneg, a Daeareg – tair agwedd hanfodol ar natur sydd ddim bob amser yn cael eu trafod ar y cyd. Ei nod yw cynnig digwyddiad (a phlatfform) i bawb sydd â diddordeb mewn hanes natur. Mae’r cwestiynau gan y gynulleidfa ar ddiwedd pob sgwrs yn rhoi blas o’r brwdfrydedd sydd gan bobl, yn ogystal â dyfnder dealltwriaeth pob siaradwr. Yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, mae’r diwrnod yn un anghyffredin yn ein calendr digwyddiadau gan ei fod wedi’i anelu’n bennaf at oedolion (er bod unrhyw un dros 12 oed yn cael mynychu).Yr ail angen oedd pwysleisio fod darganfyddiadau newydd yn cael eu gwneud drwy’r amser, gan roi’r enw “Cymru Anhysbys”. Tra bod y digwyddiad bob amser yn cynnwys gwarchodfeydd natur enwog Cymru, rhywogaethau cyfarwydd, a hen arferion cadwraeth, rydyn ni wastad wedi annog diddordeb mewn pynciau ymylol. Mae llawer o’r sgyrsiau yn cynnwys darganfyddiadau gwyddonol diweddar (gan gynnwys rhai a wnaed yn yr Amgueddfa ei hun), neu ddulliau newydd sy’n newid sut mae pobl yn edrych ar a byw gyda natur Cymru. O bryd i gilydd, mae dadleuon wedi bod, wrth i siaradwyr fynd i’r afael â materion a pholisïau amgylcheddol cyfoes. Mae amrywiaeth y sefydliadau a phrojectau sy’n cael eu cwmpasu yn rhoi ysbrydoliaeth i bobl sy’n chwilio am gyfleoedd gyrfa, astudio neu wirfoddoli ym maes bioamrywiaeth.Mae dros 80 o siaradwyr wedi helpu i adeiladu Cymru Anhysbys hyd heddiw, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw. Ambell sgwrs arbennig o gofiadwy oedd Tim Birkhead ar esblygiad cân yr adar, Lynne Boddy ar amrywiaeth ffyngau, Anne Bunker ar wymon Cymreig, a Derek Gow ar ailgyflwyno afancod (sefyllfa sydd wedi newid yn llwyr ers 2011). Mae’r enwogion o’r byd teledu - Rhys Jones, Miranda Krestovnikoff, ac Iolo Williams (ddwy waith!) - oll wedi cymryd rhan i gefnogi’r fenter.Mae’r pynciau sydd wedi cael eu trafod yn amrywio o lygredd afonydd i goed treftadaeth, ogofau, tomenni glo, dolffiniaid, deinosoriaid, ac arolygon eDNA. Rydyn ni wedi cynnwys y newyddion diweddaraf ar rywogaethau eiconig fel gwiwerod coch, brithion y gors, llyffantod cefnfelyn, ac adar drycin Manaw. Ac wrth gwrs, y falwen ludiog ... ein seren nesaf! Peth da arall am gynnwys Cymru gyfan, gan gynnwys ei ardaloedd mwy ynysig a distaw, yw bod milltir sgwâr bron pawb wedi cael ei grybwyll!Mae sawl sgwrs wedi dwyn ffrwyth ar ôl cael awgrymiadau gan y gynulleidfa, gan helpu i’r digwyddiad esblygu. Rydyn ni weithiau wedi chwarae gyda’r fformat, gan arddangos sbesimenau o gasgliadau’r Amgueddfa, rhoi pecynnau rhodd, neu gynnal cystadleuaeth poster, sêl llyfrau neu gwis yn ystod yr egwyl. Cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein ym mhandemig 2020, cyn mabwysiadu’r ffurf hybrid bresennol, sy’n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan.A fydd yna fwy o ddigwyddiadau Cymru Anhysbys yn y dyfodol? Yn sicr! Mae yna wastad dir newydd i’w grwydro a rhyfeddodau newydd i’w gweld ym myd natur Cymru, wrth i’r oes a thechnegau newid. Rydyn ni’n edrych ymlaen at y digwyddiad nesaf, ac at lawer mwy o gyfleoedd i rannu’r rhain gyda phobl eraill sy’n ymddiddori mewn bywyd gwyllt.Dilynwch y ddolen ar gyfer manylion cynhadledd Cymru Anhysbys 2023.
Gŵyl Archaeoleg 2023. David Howell, 1 Medi 2023 Cynllun Henebion Cludadwy Cymru – Cysylltu â Chynulleidfaoedd Ddiwedd 2022, sefydlodd Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) swydd ymgysylltu arloesol er mwyn cynyddu proffil y cynllun a meithrin perthynas â chanfyddwyr ledled y wlad. Er bod PAS Cymru wedi ymgysylltu â chymunedau erioed, roedd cylch gwaith y rôl newydd yn ehangach nag erioed, ac yn cynnig cyfleoedd sylweddol i'r cynllun yng Nghymru. Mae pedwar Swyddog Cyswllt Canfyddiadau (FLO) yng Nghymru ar hyn o bryd. Gallwch chi gysylltu ag FLO yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam, ac mae cefnogaeth gref i adrodd ar ganfyddiadau gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Dyfed a Gwynedd yn y de-orllewin a'r gogledd-orllewin. Mae'r rhwydwaith yn rhoi cyrhaeddiad da, ond amherffaith, ar draws Cymru ac mae creu rôl ymgysylltu PAS wedi ein galluogi i dargedu ymdrechion mewn ardaloedd o Gymru lle mae cael cymorth PAS yn fwy o her. Ddechrau Tachwedd 2022 dechreuodd PAS Cymru gynnal cyfres o weithgareddau ymgysylltu i'r cyhoedd, gan ganolbwyntio ar feithrin cysylltiadau ag aelodau o'r gymuned sydd â diddordeb mewn archaeoleg a threftadaeth. Ym mhob achos posib, datblygwyd y cysylltiadau hyn yn berthynas â phartneriaid allweddol, yn enwedig cymunedau canfyddwyr ac amgueddfeydd lleol. Gan fod PAS yn parhau yn gynllun gwirfoddol rydyn ni'n dibynnu ar ewyllys da ein partneriaid, a dim ond os ydyn nhw'n ymwybodol ohonon ni y gall pobl fod ag ewyllys da! Mae digwyddiadau darganfod PAS Cymru wedi bod yn gyfle i ni hyrwyddo'n hunain i fwy o bobl ac esbonio ein gwaith, a hynny mewn lleoliadau sydd wedi bod yn anodd cael atyn nhw dros y blynyddoedd. Diolch i amgueddfeydd Bangor, Caerfyrddin ac Arberth, dros y blynyddoedd diwethaf mae PAS wedi cysylltu â chanfyddwyr fyddai wedi gorfod teithio filltiroedd lawer fel arall i gyfarfod wyneb yn wyneb ag FLO. Mae perthynas waith gref gydag amgueddfeydd ledled Cymru yn hanfodol i gofnodi deunydd archaeolegol sy'n cael ei ganfod tu hwnt i waith ymchwil swyddogol. Pan fydd sefydliadau treftadaeth yn hyderus yn cyfeirio canfyddwyr aton ni, mae'n haws creu llwybrau sy'n sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn nhreftadaeth eu milltir sgwâr yn gwybod ble i adrodd ar ganfyddiadau. Yn hydref 2023 a gaeaf 2024, bydd amgueddfeydd yng Nghaerfyrddin a sir Benfro yn cynnal arddangosfeydd yn dangos gwaith PAS Cymru, gan greu cyfleoedd ychwanegol i hybu ymwybyddiaeth ymhlith amgueddfeydd lleol a'u cynulleidfaoedd. Mae FLOs yn mynychu cyfarfodydd datgelyddion metel yn barod, ond mae PAS Cymru hefyd yn gweithio'n agos â chlybiau ac unigolion sy'n defnyddio datgelyddion metel ac yn eu gwahodd i ddigwyddiadau mewn amgueddfeydd lleol, ac i gyfrannu atynt. Drwy hyn mae PAS Cymru a datgelyddion metel wedi llwyddo i uno i rannu negeseuon am arferion gorau i gynulleidfa ehangach. Yng ngwanwyn 2023 gwahoddwyd PAS Cymru gan aelodau o'r gymuned datgelyddion metel i gymryd rhan yn un o'u digwyddiadau cyhoeddus yn y Canolbarth. Roedd hyn yn gyfle gwych i ni rannu eu brwdfrydedd am yr holl hanes o'n cwmpas a rhannu syniadau am arferion gorau a chofnodi, a hynny gyda chynulleidfa fyddai prin wedi clywed am y cynllun fel arall. Derbyniodd y rôl ymgysylltu groeso cynnes, ac mae wedi talu ar ei chanfed. Mae amgueddfeydd lleol wedi bod yn frwd dros y potensial o ehangu eu cynulleidfa diolch i bresenoldeb PAS Cymru yn eu calendr digwyddiadau, a datgelyddion metel wedi bod yn barod eu cefnogaeth i'r cynllun ymgysylltu yng Nghymru, gan fynychu a hyrwyddo digwyddiadau ac annog datgelu cyfrifol. Megis dechrau elwa ar y partneriaethau hyn ydyn ni, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld sut y gall cysylltiadau dyfu, er budd cyfoeth archaeolegol Cymru, drwy gydol y flwyddyn.
Protest Comin Greenham - Carole Stuart McIvor Lowri Jenkins, Archifydd Cynorthwyol, 25 Awst 2023 Ar 27 Awst 1981, gwnaeth 36 o fenywod o Gymru adael Caerdydd a gorymdeithio i RAF Comin Greenham yn Berkshire i gychwyn eu hymgyrch i atal arfau niwclear yr Unol Daleithiau rhag cael eu cadw ar dir Prydain. Enwodd y grŵp eu hunain yn 'Women for Life on Earth'. I gydnabod y menywod dewr hyn, hoffwn nodi'r pen-blwydd hwn drwy ganolbwyntio ar gasgliad dwi wedi bod wrthi'n ei gatalogio, sy'n rhoi gwybodaeth werthfawr am brotest Comin Greenham. Rhoddwyd y casgliad gan Carole Stuart McIvor, ymgyrchydd heddwch blaenllaw a oedd yn rhan bwysig o'r protestiadau yng Nghomin Greenham a'r protestiadau diweddarach ym mhencadlys y Ffatri Ordnans Frenhinol yn Llanishen, Caerdydd. Mae’r casgliad yn dogfennu aberth a gwytnwch parhaus Carole a'i chyd-brotestwyr. Ynddo mae nifer o doriadau papur newydd yn dangos y rhagfarn oedden nhw'n ei ddioddef a sut oedd y cyfryngau prif-ffrwd yn eu beirniadu, lluniau o'r heddlu yn eu harestio, a chofnodion o gyfnod Carole dan glo fel un o'r sawl a gafodd eu carcharu am eu gweithredoedd.Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys yr achos llys a gyflwynwyd gan Greenham Women Against Cruise Missiles yn erbyn yr Arlywydd Ronald Reagan ac Ysgrifennydd Amddiffyn yr UDA Caspar Weinberger. Rho Carole Harwood (Carole Stuart McIvor yn ddiweddarach) ei rhesymeg dros gefnogi diarfogi niwclear a mudiad heddwch y menywod yn ei datganiad: "Dyma fi’n dod yn rhan o fudiad heddwch y menywod ar ôl mynd â'n nheulu i lan y môr yn Ninbych-y-pysgod. Wrth wrando ar y chwerthin plant oedd wedi'i glywed ar y traethau hyn ers canrifoedd, dyma fi’n sylweddoli y gallai’r cyfan gael ei ddistewi gan ddynion heb unrhyw ymdrech i’w glywed. Roedd hynny'n rhy boenus... Cefais i fy syfrdanu o ddeall, os fydden ni'n parhau i chwarae gyda deunyddiau niwclear (nid bomiau yn unig) gallai hyd oes plant sy'n cael eu geni nawr fod ar gyfartaled yn 18 mlynedd."Yn ei hanfod, roedd hon yn brotest dros heddwch gan fenywod Cymru, ac eraill ledled y DU, ac mae'r casgliad hwn yn crynhoi'r frwydr honno.
Paddy’r Pangolin: Gwaith Cadwraeth ar Sbesimen Tacsidermi yn yr Amgueddfa Jennifer Gallichan, 3 Awst 2023 Ysgrifennwyd gan Madalyne Epperson, myfyriwr MA Arferion Cadwraeth, Prifysgol Durham – ar leoliad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.Mae casgliadau hanes natur yn aml yn ganolog i’n dealltwriaeth o esblygiad, geneteg poblogaeth, bioamrywiaeth, ac effeithiau amgylcheddol y defnydd o blaladdwyr a newid yn yr hinsawdd, ymysg pethau eraill. Dyma pam mae gofalu am y casgliadau hyn mor bwysig. Daeth pangolin coed tacsidermi – wedi’i enwi’n Paddy gan y tîm cadwraeth – i Amgueddfa Cymru angen triniaeth yn 2017. Casglwyd Paddy ar 4 Awst 1957 gan ymchwilwyr yn ystod Taith Prifysgol Caergrawnt i Orllewin Affrica Ffrengig. Yn ôl dyddiadur y daith, roedd Amgueddfa Cymru wedi gofyn i’r ymchwilwyr ddod â pangolin yn ôl i wneud sbesimen i’r Amgueddfa, oedd yn arfer cyffredin ar y pryd. Yn anffodus, aeth pabell sychu’r daith ar dân ar 25 Awst 1957 a chafodd Paddy ei ddeifio’n ddrwg gan y tân, er tristwch mawr i dîm y daith. Efallai taw dyma’r rheswm na chyrhaeddodd Paddy’r Amgueddfa ar ddiwedd y daith. Dim ond yn 2016/2017 y canfuwyd Paddy yn Swydd Stafford, yng nghartref un o aelodau’r daith ac fe’i anfonwyd at yr Amgueddfa.Cyflwr Paddy cyn y gwaith cadwraethCynhaliwyd dadansoddiad i ddysgu mwy am waith paratoi Paddy, a chafodd ei gyflwr ei asesu cyn gwneud triniaethau cadwraeth ymyrrol. Datgelodd x-radiograffeg weiren haearn yn ymestyn hyd y sbesimen, tra bod sganio microsgopeg electron gyda dadansoddiad elfennol (SEM-EDX) wedi cadarnhau nad oedd unrhyw arsenig, mercwri, neu blaladdwyr eraill yn bresennol. Ar ôl cael ei adael ar ben wardrob am 60 mlynedd, roedd Paddy wedi’i orchuddio â llwch, gwe pryf cop, a halogyddion eraill. Roedd hefyd â haen o waddodion mwg o’r tân a doddodd y cennau ceratin ar ei wyneb, ei frest a’i gynffon. Roedd casynau larfa a ganfuwyd ar y sbesimen a thu mewn iddo yn awgrymu bod pla chwilod carpedi yno ar un adeg, er nad oedd unrhyw arwydd o broblem pla presennol i’w gweld. Efallai mai’r pryder mwyaf oedd y rhaniad ym mrest Paddy, oedd yn debygol o dyfu os na fyddai’n cael ei drin yn iawn. Triniaeth gadwraetholDefnyddiwyd sugnwr llwch cadwraethol a brwsh meddal i gael gwared ar weddillion rhydd, gan gynnwys casynau pryfed a llwch, o arwyneb Paddy. Rhoddwyd cynnig ar sbyngau cosmetig i gael gwared ar faw oedd yn nwfn yng nghennau’r sbesimen ond doedden nhw mor effeithiol â’r disgwyl gan fod y cennau mor fras. Roedd toddiant gwan o lanhäwr di-ïonig Synperonic N mewn 50:50 dŵr ac ethanol ar swabiau cotwm wedi’u gwlychu yn llwyddiannus iawn yn cael gwared ar yr halogyddion styfnig. Unwaith yr oedd Paddy wedi’i lanhau, defnyddiwyd ethanol ar swabiau cotwm i godi unrhyw waddodion arwynebydd oedd ar ôl.Yna, rhoddwyd sylw i’r rhaniad ym mrest Paddy. Cafodd pontydd eu gwneud o bapur sidan Japaneaidd a’u rhoi’n sownd gan ddefnyddio Evacon R, emwlsiwn copolymer ethylen-finyl asetad (EVA) heb ei blastigio sydd â pH niwtral. Defnyddiwyd plyciwr ac offer deintyddol i roi’r stribedi o bapur sidan Japaneaidd llawn glud yn y rhaniad nes bod y bwlch wedi’i lenwi’n ddigonol. Unwaith i’r glud sychu, defnyddiwyd paent acrylig Winsor a Newton i liwio’r papur sidan Japaneaidd. Dilynwyd y rheol “chwe throedfedd, chwe modfedd” yn ystod y broses o liwio. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl dod o hyd i’r bwlch wrth chwilio’n drylwyr, ond yn sicrhau nad ydyw’n tynnu’ch sylw wrth edrych ar y sbesimen mewn arddangosfa.Penderfynwyd tynnu darn o weiren haearn oedd yn dod allan o drwyn Paddy. Er bod y weiren yn rhan o hanes paratoi’r sbesimen, roedd pryderon y byddai’r weiren yn dal ar rywbeth ac yn achosi difrod yn y dyfodol. Defnyddiwyd haclif fach a thorrwr weiars i dynnu’r weiren yn gyflym. Cymerwyd gofal i dorri cymaint o’r weiren â phosibl heb gael effaith ar y deunydd organig o’i chwmpas. Roedd y weiren a dorrwyd yn llachar iawn, felly cafodd y pen ei guddio gan ddefnyddio paent acrylig Winsor a Newton.Mae Paddy bellach yn barod i gwrdd â’r cyhoedd! Mae’r pangolin yn un o’r anifeiliaid sy’n cael eu masnachu fwyaf yn y byd. Mae eu hadwaith amddiffynnol (h.y. mynd yn belen) yn eu gwneud yn hawdd i botsiars eu casglu a’u cludo. Maen nhw’n cael eu dwyn yn bennaf am eu cennau, sy’n werthfawr iawn ym myd meddyginiaeth draddodiadol Tsieina. Gan fod Paddy bellach yn edrych yn daclus unwaith eto, fe all helpu i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r creaduriaid rhyfeddol hyn sydd mewn perygl. Cyfeiriadau:Pan Golin. 2018. GabonExpeditionPart1. [fideo ar-lein] Ar gael ar Youtube (Cyrchwyd 30 May 2023)Dilynwch y ddolen i ddysgu rhagor am gasgliad fertebratau’r Amgueddfa. Os hoffech ddysgu rhagor am y straeon tu ôl i rai o gasgliadau’r Gwyddorau Naturiol a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, ewch i gael golwg ar ein herthyglau.
Arddangosfa Geiriau Diflanedig – Partneriaeth ar waith Lisa Childs, 28 Gorffennaf 2023 Ym mis Mehefin eleni fe deithiais i, Ulrike Smalley ac Aled Williams i Drawsfynydd i helpu gyda'r gwaith o osod arddangosfa Geiriau Diflanedig yn yr Ysgwrn. Mae'r arddangosfa yn ffrwyth partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Dyma leoliad perffaith ar gyfer arddangosfa o waith ar bapur a chasgliad bychan o eitemau yn dathlu'r berthynas rhwng iaith a natur all danio dychymyg. Saif canolfan ddiwylliannol yr Ysgwrn, gyda'i horiel, ei chaffi a'i gofod addysg, yn nhirlun prydferth Eryri. Mae'r hen sgubor yn rhan o'r tyddyn lle magwyd Ellis Humphrey Evans – y bardd enwog, Hedd Wyn. Ffermwyr oedd y teulu, ond roedd ei rieni yn cefnogi ei grefft fel bardd. Enillodd ei gadair gyntaf yn 20 oed, a byddai'n ennill pedair arall cyn iddo farw, naw mlynedd yn ddiweddarach ar Ffrynt y Gorllewin. Bu farw heb wybod iddo wireddu ei uchelgais o ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Cafodd y gadair dderw gain ei chludo ar y trên, ac yna ar gefn ceffyl a chart i'r cartref lle'i magwyd, lle mae ar gael i'w gweld gan y cyhoedd hyd heddiw. Mae Hedd Wyn yn parhau yn symbol o'r genedl goll o ddynion ifanc a aeth i ryfel ond ddaeth fyth yn ôl. Tyfodd ei gartref dros y blynyddoedd yn fan i ddarganfod a dysgu, ac yn bererindod i bobl sydd am ddysgu mwy am ei fywyd a'r hyn â garai.Byddai prydferthwch ei filltir sgwâr yn aml yn ysbrydoli Hedd Wyn. Mae darluniau Jackie Morris yn Geiriau Diflanedig yn tynnu ar yr un prydferthwch, yn dathlu'i fodolaeth a galaru ei ddiflaniad. Gwrthrychau a chreaduriaid byd natur yw testun ei darluniau dyfrlliw ac eurddalen – y bioden a'r castan, y dwrgi a'r drudwy – ac maen nhw'n wirioneddol hardd. Yn ategu'r darluniau mae cerddi yn Saesneg gan Robert MacFarlane ac yn Gymraeg gan Mererid Hopwood. Cyn i'r tîm ddechrau gosod y 25 gwaith yn yr arddangosfa, roedd yn rhaid gorchuddio waliau carreg gwreiddiol yr oriel â byrddau MDF. Wrth i Aled ac Ulli drafod y dylunio, dyma fi'n cael golwg ar y gwrthrychau. Gyda chymorth Naomi a Kevin yn yr Ysgwrn gosodwyd y gweithiau a'r paneli barddoniaeth, trefnwyd y gwrthrychau byd natur mewn hen ddesgiau ysgol wedi'u selio, addaswyd y goleuadau, gludwyd yr arwyddion vinyl, brwsiwyd y llawr, sgleiniwyd y gwydr, a gosodwyd gweision y neidr gwiail i hongian o'r to. Dyma ni'n ailadrodd y broses yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, lle mae ail hanner yr arddangosfa i'w gweld, gan gynnwys sbesimenau o gasgliadau hanes natur Amgueddfa Cymru.Cofiwch alw draw os fyddwch chi'n teithio i Wynedd neu Sir Benfro dros y naw mis nesaf. Bydd y profiad yn hudol.