Creu Hanes yn Sain Ffagan: Tai Crwn a Llys Tywysog Dafydd Wiliam, 26 Mawrth 2015 Rwyf newydd gychwyn fy mhedwaredd wythnos fel Prif Guradur Adeialdau Hanesyddol yma yn Sain Ffagan, a dyma fy mlog cyntaf. Archaeoleg yw fy nghefndir, ac yn bennodol, archaeoleg arbrofol.Mae’r math yma o ymchwil archaeolegol yn arbrofi’r syniadau sydd wedi tyfu fel canlyniad o waith cloddio archaeolegol. Yn y bôn rydym yn trio codi rhywbeth a fyddai yn gadael yr un tystiolaeth a ddarganfyddwyd, os cloddiwyd yn y dyfodol. Mae hwn yn herio ein syniadau a codi mwy o gwestiynau.Tai Crwn o'r Oes HaearnDros y blynyddoedd rwyf wedi adeiladu pedwar tŷ crwn wedi seilio ar archaeoleg cartrefi Oes yr Hearn. Gan bod yr archaeoleg yma yn gallu bod yn fâs iawn (ond rhyw 30cm o drwch), mae pob elfen o ail-greuad uwchben y ddaear wedi’i seilio ar waith dyfalu – ei hun wedi seilio ar y dystioilaeth sydd wedi goroesi. Fel allech ddychmygu, mae gweithio allan strwythur adeilad sydd heb yw weld mewn 2,000 o flynyddoedd yn eitha sialens, ond un boddhaol. Felly, mae gen i bleser mawr i fod yn rhan o gyweithiau arbrofol newydd yr Amgueddfa - ailgreuad o ffermdy o Oes yr Haearn, wedi ei seilio ar dystiolaeth o Fryn Eryr yn Ynys Môn, a neuadd ganoloesol Llys llywelyn, wedi ei seilio ar dystiolaeth o Llys Rhosyr, eto yn Ynys Môn.Mae tô y ffermdy yn cael ei doi gyda gwellt ar y funud, ag yn fuan mi fydd y tŷ yn ddiddos. Mi fydd hwn yn rhyddhâd mawr gan bod glaw trwn dros y Gaeaf wedi atal y waliau clai, 1.8m o drwch i sychu mor gyflym a gobeithio. Mae waliau o glai yn gymharol anarferol gan taw waliau gwial a dŵb neu cerrig sydd wedi eu darganfod gan amlaf. Hwn fydd yr ail-greuad cyntaf o dŷ crwn o’i fath.Llys Rhosyr - Llys CanoloesolMae waliau y ddau adeilad sydd o’r Llys mor uchel a fy mrest, ac mae’r saer maen yn barod i gychwyn y fframau ffenestri. Fe ddarganfyddwyd y Llys yn Ynys Môn, ac fe’i gloddiwyd rhwng 1992 ag 1996. Mae’r waliau cerrig ond yn sefyll ryw fetr o daldra. Felly, yn yr un modd a’r ffermdy, ail-greuad wedi seilio ar dystiolaeth archaeolegol yw hwn.Mae hanes ysgrifennedig o’r cyfnod, fel ‘Brut y Tywysogion’ yn awgrymmu fod neuadd frenhinol yma, a fu yn un o Lysoedd Llywelyn ap Iorwerth yn ystod hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg. Y peth dydyn ni ddim yn gwybod gyda sicrwydd yw pa olwg oedd ar y neuadd. Mae’r wybodaeth yma wedi ei seilio ar gymhariaethau gyda neuaddau Brenhinol eraill, ag adeialdwyd yn yr un cyfnod, fel a welid yng Nghastell Conwy a Phalas yr Esgob yn Nhŷ Ddewi.Gan fy mod yn bwriadu ysgrifennu blogiau cyson ynglyn a’r datblygiadau diweddaraf, fe wnaf anelu hefyd I amlinellu y gwaith sydd wedi digwydd hyd yn hyn, felly fydd genych fwy o syniad ô’r adeilad hynod yma, ac ein ymgeision i ddod ar Llys yn fyw unwaith eto.
I Spy…Nature out and about Katie Mortimer-Jones, 24 Mawrth 2015 Last year Staff from the Departments of Natural Sciences, and Learning, Participation and Interpretation took their I Spy…Nature themed pop-up museum out into the community. This year we have been delivering I Spy…Nature related workshops throughout March as part of the I Spy…Nature Exhibition outreach programme. Workshops at National Museum Cardiff allowed members of the public to carry out fieldwork within the museum, bringing the outside in! Visitors were able to explore the miniature world of British Slugs and Snails, go pond dipping, explore a rocky shore (utilising our brand new portable 3D Rocky shore) and go worm charming with our OPAL Community Science officer. During the middle part of March, staff ran a series of school workshops both at National Museum Cardiff and within a local primary school, where pupils could explore the seafloor, Fossils and Minerals before trying their hand at scientific illustration with a local artist. The aim of these sessions was to inspire children to explore their natural environment and also to give them a chance to experience the work that museum scientists do. For British Science and Engineering Week, staff held an I Spy…Nature Open day in the main Hall at National Museum Cardiff, with a plethora of specimens from our collections and even a giant lobster, fly and squirrel! For more information on the I Spy…Nature activities see our Storify Story.
New Volunteer Opportunities at St.Fagans - Helping to Care for Collections Penny Hill, 18 Mawrth 2015 As part of the redevelopment project at St.Fagans National History Museum, we wish to open our doors to volunteers and invite them to work alongside the Preventive Conservation team, helping to care for the collections on open display in the historic houses. There are hundreds of objects on display ranging from furniture, textiles, pottery and agricultural equipment. Providing plenty of opportunities to share a skill or learn something new.Caring for this site is no mean feat, we currently have 26 furnished properties including a castle. Plus there are 4 new buildings on the way, including a medieval hall and the Vulcan pub! So plenty to keep us busy. The Museum is also open throughout the year and can have up to 700,000 visitors during that time, which means we are kept on our toes making sure everything continues to look good, day in and day out.This work is a combined effort, involving staff from many different sections, which often goes on behind the scenes unnoticed by visitors. However, we wish to change this and provide opportunities for volunteers to assist us, not only in the care of objects, but also contribute to interpretation and help inform the public.We are currently refurbishing one of the cottages on site, aiming to provide a comfortable and creative work space for our new collection care volunteers. We hope to start recruiting in May so if you're interested, I'll be posting more updates as the project continues to progress.
Introducing three joint projects for conservators at NMW! Kim Thüsing, 17 Mawrth 2015 We’re in the process of preparing objects to go on display in the new galleries that are being built on the site of St Fagans. #makinghistory As the textile conservator, I have come across three objects that, though they are kept in the textile store, are not exclusively made of textile but have paper components and have botanical specimens attached, neither of which come under my area of expertise. Hence, I’ve roped in my two colleagues, the Senior Conservator Archives and the Senior Conservator Natural Sciences and the three of us will now jointly treat these objects. Joint projects are always a great opportunity for sharing skills and learning from colleagues so we’re all really looking forward to this!
Dyddiadur Kate: Anturiaethau’r peiriant dyrnu Elen Phillips, 9 Mawrth 2015 A ninnau bron ar derfyn 3 mis cyntaf @DyddiadurKate, mae un ‘cymeriad’ wedi chwarae rhan blaenllaw iawn yng nghofnodion yr wythnosau diwethaf sy’n haeddu bach o sylw ar y blog – y peiriant dyrnu. Rhwng Ionawr a Mawrth 1915, bu’r peiriant hwn ar grwydr i sawl ffermdy gerllaw cartref Kate a’i theulu. Ynghyd â mynychu’r capel, corddi a chrasu, hynt a helynt y peiriant dyrnu yw un o brif weithgarwch y dyddiadur hyd yma. Ond diolch amdano. Arferion amaethyddol fel hyn sy’n gwreiddio’r dyddiadur o fewn cymuned a chyfnod.18 Ionawr – Yr injan ddyrnu yn Llwyniolyn23 Ionawr – Ellis yn Tynybryn gyda’r peiriant dyrnu30 Ionawr – Y peiriant dyrnu yn Penycefn2 Mawrth – Yr injan ddyrnu yn y Derwgoed4 Mawrth – Ellis yn mynd i Fedwarian at y peiriant dyrnuYma yn Sain Ffagan, mae sawl un mwy cymwys na fi i drafod peiriannau dyrnu. Un o fy mhrif ddiddordebau i fel curadur yw hanes prosesau casglu – y dulliau hynny a ddefnyddwyd gan Iorwerth Peate, Ffransis Payne, Minwel Tibbott ac eraill i roi hanes Cymru ar gof a chadw. Mewn blog blaenorol, soniais am waith arloesol yr Amgueddfa ym maes cofnodi hanes llafar – bu Kate Rowlands ei hun yn destun sawl cyfweliad. Dull poblogaidd arall a fabwysiadwyd gan yr Amgueddfa i gasglu data oedd holiaduron a llyfrau ateb. Roedd y rhain yn cael eu gyrru at unigolion o fewn plwyfi yng Nghymru yn gofyn am wybodaeth benodol ynglyn ag arferion eu milltir sgwâr. Mae casgliad helaeth ohonynt yma yn trafod amrywiol bynciau – meddygyniaethau gwerin, arferion tymhorol ac ati. I’r un perwyl, mae gennym hefyd bentwr o lythyrau ac ysgrifau.Tra’n chwilota am ddeunydd yn yr archif o ardal y Sarnau, Cefnddwysarn a bro @DyddiadurKate, fe ddes i o hyd i ysgrif gan Mary Winifred Jones o’r Hendre, Cwm Main. Bydd mwy ar y blog cyn hir am y teulu hwn – mae tad a brodyr Mary yn cael eu crybwyll sawl gwaith yn y dyddiadur. Ysgrif yw hon sy’n disgrifio ffotograff o ddiwrnod dyrnu ar fferm Pentre Tai’n y Cwm, Cefnddwysarn. Gallwch weld y llun a’r ysgrif fan hyn. Tybed os mai hwn yw’r peiriant dyrnu y mae Kate yn sôn amdano?Ar fuarth fferm Seimon Davies Pentre Tai yn Cwm Cefnddwysarn y tynwyd y darlun hwn. Perchenog y peiriant oedd Morgan Hughes Bryniau Cynlas ar ol hyny. Bu y peiriant yn gyfrwyn i roi gwaith i amryw amaethwyr bychain yn ystod y gaeaf pan oedd ychydig yn dod i fewn am fod ganddo ychwaneg nag un peiriant yr oedd yn rhaid cael dau ddyn i ganlyn pob un sef y gyrwr ar porthwr…Yr hyn sy’n dod yn amlwg wrth ddarllen atgofion Mary Jones, ac yn wir dyddiadur Kate Rowlands, yw pwysigrwydd cydweithio o fewn cymuned amaethyddol – cymdogion a ffrindiau, hen ac ifanc, yn cynorthwyo’i gilydd.