Ymrysonfa'r Gladiatoriaid - Darganfyddiadau yn Amffitheatr Rhufeinig Caerllion 18 Ebrill 2007 Mrs T. V. Wheeler yn sefyll wrth fynedfa B yr amffitheatr yn ystod y gwaith cloddio. Ailgread o amffitheatr Caerllion gan Alan Sorrell. Dangosir yr amffitheatr fel strwythur gwaith maen i'w uchder llawn. Sut y gallai'r amffitheatr fod wedi edrych mewn gwirionedd. Llun gan Dale Evans (1988) ar sail ailgread gan R. A. Anderson (1981). Cadw: Henebion Cymru, Hawlfraint y Goron. Milwyr yn Caerleon Wrth ymyl y gaer Rhufeinig yn Nghaerllion, ger Casnewydd, mae olion amffitheatr hirgrwn sydd wedi ei gadw'n dda. Ei enw mewn chwedloniaeth leol yw Bord Gron y Brenin Arthur. Cloddiwyd yn amffitheatr gan Dr Mortimer Wheeler, Ceidwad Archaeoleg wedyn Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol, yn y 1920au. Mae ailgreadau Wheeler am olwg tebygol yr amffitheatr wedi cael eu diystyrru ers hynny am fod darganfyddiadau diweddarach wedi gwneud i bobl feddwl eto am adeiladwaith y safle gwreiddiol. Sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith cloddio Dechreuodd Wheeler ei raglen helaeth o waith cloddio yng Nghaerllion trwy fanteisio ar y cysylltiadau â'r Brenin Arthur yn y wasg er mwyn denu nawdd. Cytunodd y Daily Mail i dalu £1,000 am hawliau unigryw ac adroddiadau dyddiol ar ddadorchuddio Brod Gron y Brenin Arthur. Yn y pen-draw, treblodd y papur newydd ei gynnig gwreiddiol a chyflwynodd yr olion a gloddiwyd i'r Swyddfa Gwaith (rhagflaenydd Cadw: Henebion Cymru) fel heneb cenedlaethol. Cynllunio a chloddio Ym 1926, derbyniodd Wheeler swydd fel Ceidwad Amgueddfa Llundain. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd iddo barhau i chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith cloddio, ond roedd nawdd y Daily Mail yn golygu brys a gorfodaeth, felly cymrodd ei wraig, Tessa, yr awenau. Bob nos, roedd angen anfon stori oedd yn haeddu sylw am ddarganfyddiadau'r diwrnod at y Daily Mail, gyda phenawdau cyffrous fel 'Where Gladiators Fought'. Strwythur o bridd a gwaith maen Ar ôl cwblhau'r gwaith cloddio ac archwilio 30,000 tunnell o bridd a'i symud o'r safle, daeth y cloddwyr i'r casgliad bod yr amffitheatr wedi cael ei adeiladu tua OC 80, sawl blwyddyn ar ôl sefydlu'r brif gaer yng Nghaerllion. Yn yr adroddiad ar y canfyddiadau a gyhoeddwyd ym 1928, ailadeiladwyd yr amffitheatr fel strwythur o bridd a gwaith maen gydag awditoriwm a gynhaliwyd gan waliau mewnol ac allanol o waith maen, â bwtresi i'w hategu. Yn ôl y cyfrifiadau a wnaed, byddai'n rhaid i wal wreiddiol yr arena godi i uchder o bedwar metr a rhaid i'r wal allanol fod tua deg metr o uchder. Mae hi bron yn sicr mai seddi pren oedd yna, am na ffeindiwyd unrhyw dystiolaeth o seddi cerrig. Ym 1939, dangosodd J. A. Wright, peintiwr ailgreadau archaeolegol adnabyddus, yr amffitheatr o waith maen i'w uchder llawn. Theori newydd Ym 1962, cloddiodd George Boon (a fu'n Geidwad Adran Archaeoleg yr Amgueddfa'n ddiweddarach) ffos fach yng nghlawdd yr amffitheatr, gan beri i bobl feddwl o'r newydd am y ffordd y cafodd y strwythur mawr ei adeiladu. Datguddiwyd strwythur gwreiddiol y clawdd yn agos iawn at wyneb y tir, felly mae'n rhaid nad oedd y cloddiau rhyw lawer yn uwch na heddiw. Roedd pyllau metr sgwâr a metr o ddyfnder wedi eu torri yn wyneb y cloddiau. Daeth Boon i'r casgliad taw estyll mawr oedd wedi bod yn y pyllau hyn, gan greu stand mawr agored o bren. Ers y darganfyddiad, mae'r ailgreadau o'r amffitheatr wedi cael eu hail-wneud gan ddangos rhan isaf o waith maen a strwythur uwch o bren. Gwelir amffitheatr o adeiladwaith tebyg ar Golofn Trajan yn Dobreta, canolfan y Rhufeiniaid wrth y bont dros afon Donwy yn Romania. Amcangyfrifwyd bod rhyw 6,000 o seddi yn y grandstand pren yng Nghaerllion, sef digon o le i'r lleng gyfan fwy neu lai. Er bod y digwyddiadau yn yr amffitheatr dipyn yn llai gwaedlyd heddiw, mae'r ailgreadau dramatig a'r digwyddiadau cyson yn dal i ddenu cynulleidfaoedd mawr heddiw.
Symud murlun ffresgo cain i'w gadw 30 Mawrth 2007 Dyfrlliw gan F.G. Newton, 1905 Tynnu un o'r paneli Ym 1988, yn ystod cloddfa archeolegol ar safle siambr y cyngor ym masilica (neuadd ymgynnull) tref Rufeinig Caerwent, datguddiwyd murlun cain sydd bellach wedi cael ei symud i'w gadw a'i arddangos. Roedd y plastr paentiedig, neu'r ffresgo, sydd 5 metr o hyd ac l metr o uchder, wedi'i gysylltu â wal ddeheuol y siambr. Cofnodwyd ef yn flaenorol mewn darlun dyfrlliw gan F.G. Newton ym 1905, cyn iddo gael ei orchuddio eto. Mae'r ffresgo'n dangos persbectif pensaernïol, gyda philastrau melyn neu baneli uwchben dado pinc â gwythiennau brown. Mae'n bosib bod y darn brown tywyll ynghanol y pilastr canolog yn rhan o banel addurnedig, a oedd, o bosib, yn cynnwys corff dyn. Penderfynwyd tynnu'r ffresgo er mwyn atal dirywiad pellach gan fod y plastr yn hynod o fregus. Ar ôl gorchuddio'r gwaith celf cain yn ofalus gyda mwslin a glud, torrwyd y paentiad yn pum panel - pob un wedi'i gau mewn bocs pwrpasol. Roedd tynnu'r paentiad o'r wal yn broses anodd, a bu'n rhaid defnyddio amrywiaeth o lifiau a chynion i wneud y gwaith. Gan nad oedd modd cael mynediad at gefn pob panel ond trwy'r pen uchaf ac un o'r ochrau'n unig, roedd y broses yn anodd ac roedd angen cryn dipyn o amynedd a dyfeisgarwch. Cymerodd gyfanswm o naw niwrnod i symud y paentiad, ac aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn i'r gwaith cadwraethol, a'r gwaith o ailosod cefn y paentiad ddod i ben. Bellach, mae'r ffresco'n cael ei gadw a'i storio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Darllen cefndir:
Y Forum-basilica Fawr yng Nghaerwent 30 Mawrth 2007 Caerwent: y wal ddeheuol a'r tyrau Dim ond dwy dref Rufeinig a fodolai yng Nghymru hyd y gwyddom, sef Caerfyrddin (Maridunum) a Chaerwent (Venta Silurum). Caerwent oedd y dref fwyaf o bell ffordd. Ar un adeg pentref bach Caerwent, ger Cas-gwent yn ne Cymru, oedd prif dref weinyddol y Silwriaid, y llwyth Celtaidd a boblogai dde-ddwyrain Cymru. Yn y 1980au cyflawnodd Amgueddfa Cymru raglen gynhwysfawr o gloddfeydd ymchwil i gynnyddu'r wybodaeth am ddatblygiad cynnar y dref Rufeinig hon. Dim ond topiau'r adeiladau a ddatgelwyd gan gloddfeydd cynharach, a roddodd ddarlun o dref o gyfnod Rhufeinig hwyr. Y Forum-basilica Fel pob tref Rufeinig, safai'r fforwm (marchnad) yn ei chanol, a'r basilica (neuadd ymgynnull) wrth ei ochr. Archwiliwyd y forum-basilica yn gyntaf ym 1907 a 1909. Adferwyd cynllun yr adeilad bron yn gyfan gwbl, ond nid oedd tystiolaeth bendant ynglŷn â'r dyddiad y cafodd ei adeiladu'n wreiddiol. Yn ystod cloddfeydd yn y 1980au dadorchuddiwyd rhannau mwyaf trawiadol yr adeilad er mwyn eu harddangos, ac yn y diwedd, datryswyd eu hanes strwythurol. Aed i mewn o'r brif stryd i'r forum, marchnad betryal agored wedi'i hamgylchynu ag ystafelloedd ar dair ochr, drwy fynedfa fwaog. Byddai sgwâr palmantog yn darparu gofod addas i osod stondinau dros dro ar ddyddiau marchnad. Byddai'r rhesi o ystafelloedd, a osodwyd y tu ôl i golofnres orchuddiedig, yn cael eu defnyddio fel siopau, tafarndai a swyddfeydd. Mae'n debygol y byddai ail lawr wedi bod uwch eu pen, gyda rhagor o ystafelloedd, a theras efallai. Mae'r basilica'n cynnwys y neuadd fawr yn ogystal ag amrywiaeth o ystafelloedd a siambrau. Byddai'r neuadd fawr wedi cael ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus mawr a seremonïau. Hyd yn oed cyn dechrau'r gloddfa, safai rhai o'r muriau gymaint â 2m uwch lefel y tir, gan iddynt gael eu hymgorffori i adeiladau amaethyddol a godwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cloddfa ochr ddwyreiniol prif neuadd y basilica, gyda'r draen ym mlaen y llun Yn ôl yr arfer, mae'r brif neuadd yn cynnwys corff a dwy ystlys wedi'u rhannu gan golofnresau a gynhaliai lofft olau fel sydd mewn eglwysi mawr. Roedd seiliau'r muriau oedd yn cynnal y colofnau bron 2m o ddyfnder. Safai'r colofnau mawr cerrig, a gerfiwyd o dywodfaen lleol, yn 9m o uchder. Amcangyfrifir bod y basilica dros 20m o uchder. Rhedai ffos o dan lawr y basilica i gario dŵr glaw oedd wedi cronni yn y cafnau o amgylch parc y forum. Defnyddiwyd blociau anferth o dywodfaen lleol, rhai ohonynt yn pwyso mwy na thunnell, ar gyfer ochrau a chaead y ffos, a gorchuddiwyd y llawr gyda theils to. Roedd modd cael mynediad i'r draen i'w lanhau drwy dwll archwilio hanner-cylch, a dorrwyd o un o'r meini capan. Yn y canol roedd yr aedes, neu'r gysegrfa, lle byddai cerfluniau o'r Ymerawdwr a duwiau dinesig wedi'u gosod. Roedd y llawr yn y rhan hon yn uwch na gweddill y basilica, gan ei gwneud yn fwy amlwg. Ar ochr orllewinol yr aedes roedd ystafell y curia neu siambr y cyngor. Mae'r mur deheuol tua 2m o uchder wedi goroesi ac wedi'i orchuddio â phlastr sy'n cynnwys dyluniadau pensaernïol. Ym mlynyddoedd olaf ei hanes, addurnwyd y llawr â phaneli mosäig. Roedd sianelau bob ochr i'r mosaigau, a chanfuwyd ceudodau cyfatebol yn y plastr ar y mur deheuol. Eu swyddogaeth oedd dal fframwaith pren y meinciau yr eisteddai cynghorwyr y cynulliad llwythol arnynt. Ar ochr ddwyreiniol yr ystafell roedd sylfaen gerrig ar gyfer llwyfan bren gyda grisiau, lle byddai ynadon wedi llywyddu cyfarfodydd y cyngor. Ail-gread o'r forum-basilica. (Cadw, Crown Copyright) Adeiladwyd yr adeilad mawr hwn ym mlynyddoedd cynnar yr ail ganrif O.C. Roedd adeiladau'r forum-basilica ymysg y rhai mwyaf a godwyd ym Mhrydain tan ddyfodiad eglwysi cadeiriol anferth yr Oesoedd Canol, ac mae'n rhaid eu bod wedi gosod straen aruthrol ar adnoddau a chyllid. Mae'n ymddangos bod y basilica wedi cael ei ail-adeiladu, yn gyfan gwbl bron, yn hanner olaf y drydedd ganrif. Tynnwyd y llechi o do'r brif neuadd a dymchwelwyd y colofnau. Yn ystod yr ail-adeiladu atgyfnerthwyd y muriau a chodwyd y lloriau oherwydd ymsuddiant, mae'n debyg. Mae'n bosibl y cafwyd problemau strwythurol o'r cychwyn cyntaf, oherwydd torrwyd dau dwll enfawr drwy'r lloriau gwreiddiol er mwyn archwilio'r seiliau. Bwcl a phlât o wregys yn dyddio o'r bedwaredd ganrif a ganfuwyd ar safle'r basilica. Addurnwyd y bwcl gyda dolffiniaid yn wynebu'i gilydd a phennau ceffylau'n edrych tuag allan. Parhaodd y basilica i weithredu fel y pencadlys gweinyddol tan y 330au, pan newidiwyd y defnydd a wnaed o'r adeilad. Darganfuwyd nifer o aelwydydd yng nghorff yr adeilad, sy'n arwydd ei fod yn safle gweithgarwch diwydiannol ysgafn ar un adeg. Tuag ugain neu ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, cafodd y basilica ei ddymchwel. Mae arian a fathwyd yn y 390au yn arwydd o weithgaredd ar y safle hwn. Erys natur yr anheddiad hwn, mewn cyfnod pan oedd gweddill y dref yn dadfeilio, yn ansicr. Mae'r cloddfeydd yng Nghaerwent wedi datgelu llawer am hanes yr adeilad anferth hwn, ac nid yw'r nodweddion a ddisgrifir wedi cael eu gweld yn unrhyw le arall ym Mhrydain.
Yr hen gloc yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis 22 Chwefror 2007 Y cloc uwchben mynedfa Amgueddfa Lechi Cymru Un o nodweddion amlwg Amgueddfa Lechi Cymru yw'r wyneb cloc siâp diemwnt sydd ar flaen yr adeilad. Uwch ei ben ar y to mae strwythur tebyg i bagoda bychan sy'n cynnwys cloch a morthwyl sydd wedi'i gysylltu â'r cloc â rhaff wifrau. Gosodwyd mecanwaith y cloc ar ail lawr yr adeilad. Cafodd ei gynhyrchu yn Sir Amwythig ond nid yw'r dyddiad yn eglur. Gan nad yw'r cloc yn ymddangos mewn ffotograffau cynnar o'r adeilad, a godwyd ym 1870, mae'n debygol na chafodd mo'i osod tan ganol y 1890au. Amserydd ar gyfer ffrwydradau'r chwarel Mae'r Amgueddfa wedi'i lleoli yng ngweithdai Fictoraidd Chwarel Dinorwig. Roedd y cloc yn gymorth i sicrhau prydlondeb y trenau a gludai'r llechi o'r chwarel i borthladd y Cwmni yn y Felinheli. Fodd bynnag, roedd yn fwy nag amserydd ar gyfer y gweithdai, ac ar un adeg yn ei hanes ychwanegwyd cyfres o gysylltiadau trydanol ato. Ar amserau penodol, byddai'r cloc yn anfon cerrynt trydanol i rannau eraill o safle mawr y Chwarel. Roedd hyn yn sicrhau bod ffrwydradau'n digwydd ar amser. Fel arfer, byddai systemau o'r fath yn cael eu marchnata fel clociau pulsynetic. Gwerthwyd hwy gan wneuthurwyr clociau enwog fel Gent o Gaerlŷr. Yn y Felinheli, wrth gwrs, cynhyrchodd y gweithwyr eu fersiwn ddibynadwy eu hunain. Graffiti 100 mlwydd oed Roedd angen cyflenwad pŵer i gynhyrchu'r cerrynt trydanol. Byddai hyn yn cael ei ddarparu drwy gelloedd gwlybion neu gronaduron a storiwyd wrth ochr y cloc. Un o'r darganfyddiadau a wnaed pan adnewyddwyd y rhan hon o'r adeilad ganol y 1990au oedd y graffiti gwreiddiol ar y waliau a'r paneli cyfagos, a oedd yn nodi dyddiadau llwytho'r batri. Ar 10 Mehenfin 1909, er enghraifft, llwythwyd y batrïau gan Willie Owen Williams a George Hughes. Glanhau'r cloc Er bod y cloc wedi cael ei gynnal a'i gadw dros y blynyddoedd, erbyn 2001 roedd angen sylw arbenigol arno. Roedd busnes y gwneuthurwyr J.B. Joyce and Company yn dal i weithredu. Cafodd y busnes ei sefydlu yn yr Eglwys Wen yn Sir Amwythig, ac mae'n dal i fod yno dros dri chan mlynedd yn ddiweddarach. Yn anffodus nid oes ganddynt gofnod o'r clociau unigol a gynhyrchwyd, ond roeddent yn fodlon ymweld â'r Amgueddfa i archwilio'r cloc. Dychwelwyd y mecanwaith i weithdy Joyce lle cafodd ei lanhau a'u wasanaethu. Yna fe ailadeiladwyd y cloc, cyn ei ddychweleyd i'r Amgueddfa a'i roi ar waith unwaith eto. Heddiw mae'r cloc yn rhedeg yn llyfn ac mae'n gywir i raddau helaeth. Cloc ar gyfer y Pentref Mewn cyfnod pan nad oedd oriawr yn rhywbeth cyffredin, roedd y cloc a osodwyd yng ngweithdai Chwarel Dinorwig yn gloc ar gyfer y gymuned leol, a gallai holl drigolion Llanberis a'r cyffiniau glywed ei gloch. Meddai un awdur lleol: 'Torrai ar y distawrwydd yn nhrymder nos, a chlywyd aml i glaf yn cwyno yn y bore,"Chysgis i ddim gwerth neithiwr - clywed yr hen gloc yn taro pob awr nes iddi 'leuo"' Mae'r cloc yn parhau i fesur treigl amser wrth i'r unfed ganrif ar hugain fynd rhagddi yn Llanberis.