: Cadwraeth

Paddy’r Pangolin: Gwaith Cadwraeth ar Sbesimen Tacsidermi yn yr Amgueddfa

Jennifer Gallichan, 3 Awst 2023

Ysgrifennwyd gan Madalyne Epperson, myfyriwr MA Arferion Cadwraeth, Prifysgol Durham – ar leoliad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae casgliadau hanes natur yn aml yn ganolog i’n dealltwriaeth o esblygiad, geneteg poblogaeth, bioamrywiaeth, ac effeithiau amgylcheddol y defnydd o blaladdwyr a newid yn yr hinsawdd, ymysg pethau eraill. Dyma pam mae gofalu am y casgliadau hyn mor bwysig. Daeth pangolin coed tacsidermi – wedi’i enwi’n Paddy gan y tîm cadwraeth – i Amgueddfa Cymru angen triniaeth yn 2017. 

Casglwyd Paddy ar 4 Awst 1957 gan ymchwilwyr yn ystod Taith Prifysgol Caergrawnt i Orllewin Affrica Ffrengig. Yn ôl dyddiadur y daith, roedd Amgueddfa Cymru wedi gofyn i’r ymchwilwyr ddod â pangolin yn ôl i wneud sbesimen i’r Amgueddfa, oedd yn arfer cyffredin ar y pryd. Yn anffodus, aeth pabell sychu’r daith ar dân ar 25 Awst 1957 a chafodd Paddy ei ddeifio’n ddrwg gan y tân, er tristwch mawr i dîm y daith. Efallai taw dyma’r rheswm na chyrhaeddodd Paddy’r Amgueddfa ar ddiwedd y daith. Dim ond yn 2016/2017 y canfuwyd Paddy yn Swydd Stafford, yng nghartref un o aelodau’r daith ac fe’i anfonwyd at yr Amgueddfa.

Cyflwr Paddy cyn y gwaith cadwraeth

Cynhaliwyd dadansoddiad i ddysgu mwy am waith paratoi Paddy, a chafodd ei gyflwr ei asesu cyn gwneud triniaethau cadwraeth ymyrrol. Datgelodd x-radiograffeg weiren haearn yn ymestyn hyd y sbesimen, tra bod sganio microsgopeg electron gyda dadansoddiad elfennol (SEM-EDX) wedi cadarnhau nad oedd unrhyw arsenig, mercwri, neu blaladdwyr eraill yn bresennol. 

Ar ôl cael ei adael ar ben wardrob am 60 mlynedd, roedd Paddy wedi’i orchuddio â llwch, gwe pryf cop, a halogyddion eraill. Roedd hefyd â haen o waddodion mwg o’r tân a doddodd y cennau ceratin ar ei wyneb, ei frest a’i gynffon. Roedd casynau larfa a ganfuwyd ar y sbesimen a thu mewn iddo yn awgrymu bod pla chwilod carpedi yno ar un adeg, er nad oedd unrhyw arwydd o broblem pla presennol i’w gweld. Efallai mai’r pryder mwyaf oedd y rhaniad ym mrest Paddy, oedd yn debygol o dyfu os na fyddai’n cael ei drin yn iawn. 

Triniaeth gadwraethol

Defnyddiwyd sugnwr llwch cadwraethol a brwsh meddal i gael gwared ar weddillion rhydd, gan gynnwys casynau pryfed a llwch, o arwyneb Paddy. Rhoddwyd cynnig ar sbyngau cosmetig i gael gwared ar faw oedd yn nwfn yng nghennau’r sbesimen ond doedden nhw mor effeithiol â’r disgwyl gan fod y cennau mor fras. Roedd toddiant gwan o lanhäwr di-ïonig Synperonic N mewn 50:50 dŵr ac ethanol ar swabiau cotwm wedi’u gwlychu yn llwyddiannus iawn yn cael gwared ar yr halogyddion styfnig. Unwaith yr oedd Paddy wedi’i lanhau, defnyddiwyd ethanol ar swabiau cotwm i godi unrhyw waddodion arwynebydd oedd ar ôl.

Yna, rhoddwyd sylw i’r rhaniad ym mrest Paddy. Cafodd pontydd eu gwneud o bapur sidan Japaneaidd a’u rhoi’n sownd gan ddefnyddio Evacon R, emwlsiwn copolymer ethylen-finyl asetad (EVA) heb ei blastigio sydd â pH niwtral. Defnyddiwyd plyciwr ac offer deintyddol i roi’r stribedi o bapur sidan Japaneaidd llawn glud yn y rhaniad nes bod y bwlch wedi’i lenwi’n ddigonol. Unwaith i’r glud sychu, defnyddiwyd paent acrylig Winsor a Newton i liwio’r papur sidan Japaneaidd. ⁠Dilynwyd y rheol “chwe throedfedd, chwe modfedd” yn ystod y broses o liwio. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl dod o hyd i’r bwlch wrth chwilio’n drylwyr, ond yn sicrhau nad ydyw’n tynnu’ch sylw wrth edrych ar y sbesimen mewn arddangosfa.

Penderfynwyd tynnu darn o weiren haearn oedd yn dod allan o drwyn Paddy. Er bod y weiren yn rhan o hanes paratoi’r sbesimen, roedd pryderon y byddai’r weiren yn dal ar rywbeth ac yn achosi difrod yn y dyfodol. Defnyddiwyd haclif fach a thorrwr weiars i dynnu’r weiren yn gyflym. Cymerwyd gofal i dorri cymaint o’r weiren â phosibl heb gael effaith ar y deunydd organig o’i chwmpas. Roedd y weiren a dorrwyd yn llachar iawn, felly cafodd y pen ei guddio gan ddefnyddio paent acrylig Winsor a Newton.

⁠Mae Paddy bellach yn barod i gwrdd â’r cyhoedd! Mae’r pangolin yn un o’r anifeiliaid sy’n cael eu masnachu fwyaf yn y byd. Mae eu hadwaith amddiffynnol (h.y. mynd yn belen) yn eu gwneud yn hawdd i botsiars eu casglu a’u cludo. Maen nhw’n cael eu dwyn yn bennaf am eu cennau, sy’n werthfawr iawn ym myd meddyginiaeth draddodiadol Tsieina. Gan fod Paddy bellach yn edrych yn daclus unwaith eto, fe all helpu i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r creaduriaid rhyfeddol hyn sydd mewn perygl. 

Cyfeiriadau:

Pan Golin. 2018. GabonExpeditionPart1. [fideo ar-lein] Ar gael ar Youtube (Cyrchwyd 30 May 2023)

Dilynwch y ddolen i ddysgu rhagor am gasgliad fertebratau’r Amgueddfa. Os hoffech ddysgu rhagor am y straeon tu ôl i rai o gasgliadau’r Gwyddorau Naturiol a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, ewch i gael golwg ar ein herthyglau.

Arddangosfa Geiriau Diflanedig – Partneriaeth ar waith

Lisa Childs, 28 Gorffennaf 2023

Ym mis Mehefin eleni fe deithiais i, Ulrike Smalley ac Aled Williams i Drawsfynydd i helpu gyda'r gwaith o osod arddangosfa Geiriau Diflanedig yn yr Ysgwrn. ⁠Mae'r arddangosfa yn ffrwyth partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Dyma leoliad perffaith ar gyfer arddangosfa o waith ar bapur a chasgliad bychan o eitemau yn dathlu'r berthynas rhwng iaith a natur all danio dychymyg. ⁠Saif canolfan ddiwylliannol yr Ysgwrn, gyda'i horiel, ei chaffi a'i gofod addysg, yn nhirlun prydferth Eryri. Mae'r hen sgubor yn rhan o'r tyddyn lle magwyd Ellis Humphrey Evans – y bardd enwog, Hedd Wyn. 

Ffermwyr oedd y teulu, ond roedd ei rieni yn cefnogi ei grefft fel bardd. Enillodd ei gadair gyntaf yn 20 oed, a byddai'n ennill pedair arall cyn iddo farw, naw mlynedd yn ddiweddarach ar Ffrynt y Gorllewin. Bu farw heb wybod iddo wireddu ei uchelgais o ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Cafodd y gadair dderw gain ei chludo ar y trên, ac yna ar gefn ceffyl a chart i'r cartref lle'i magwyd, lle mae ar gael i'w gweld gan y cyhoedd hyd heddiw. Mae Hedd Wyn yn parhau yn symbol o'r genedl goll o ddynion ifanc a aeth i ryfel ond ddaeth fyth yn ôl. Tyfodd ei gartref dros y blynyddoedd yn fan i ddarganfod a dysgu, ac yn bererindod i bobl sydd am ddysgu mwy am ei fywyd a'r hyn â garai.

Byddai prydferthwch ei filltir sgwâr yn aml yn ysbrydoli Hedd Wyn. Mae darluniau Jackie Morris yn Geiriau Diflanedig yn tynnu ar yr un prydferthwch, yn dathlu'i fodolaeth a galaru ei ddiflaniad. Gwrthrychau a chreaduriaid byd natur yw testun ei darluniau dyfrlliw ac eurddalen – y bioden a'r castan, y dwrgi a'r drudwy – ac maen nhw'n wirioneddol hardd. Yn ategu'r darluniau mae cerddi yn Saesneg gan Robert MacFarlane ac yn Gymraeg gan Mererid Hopwood. 

Cyn i'r tîm ddechrau gosod y 25 gwaith yn yr arddangosfa, roedd yn rhaid gorchuddio waliau carreg gwreiddiol yr oriel â byrddau MDF. Wrth i Aled ac Ulli drafod y dylunio, dyma fi'n cael golwg ar y gwrthrychau. Gyda chymorth Naomi a Kevin yn yr Ysgwrn gosodwyd y gweithiau a'r paneli barddoniaeth, trefnwyd y gwrthrychau byd natur mewn hen ddesgiau ysgol wedi'u selio, addaswyd y goleuadau, gludwyd yr arwyddion vinyl, brwsiwyd y llawr, sgleiniwyd y gwydr, a gosodwyd gweision y neidr gwiail i hongian o'r to. ⁠ ⁠

Dyma ni'n ailadrodd y broses yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, lle mae ail hanner yr arddangosfa i'w gweld, gan gynnwys sbesimenau o gasgliadau hanes natur Amgueddfa Cymru.

Cofiwch alw draw os fyddwch chi'n teithio i Wynedd neu Sir Benfro dros y naw mis nesaf. Bydd y profiad yn hudol.

Cadwraeth y portraead Jules Dejouy gan Édouard Manet

Adam Webster, 17 Ionawr 2023

Ar ôl degawdau mewn casgliad preifat, wedi’i orchuddio â baw a farnais melyn, cafodd y portread tyner hwn ei ychwanegu i gasgliad Amgueddfa Cymru yn lle treth yn 2020. Roedden ni’n ddigon ffodus i dderbyn nawdd gan TEFAF, Sefydliad Finnis Scott, a Chyfeillion Amgueddfa Cymru i wneud gwaith cadwraeth ar y paentiad a’r ffrâm.

Cafodd y gwaith glanhau a chadwraeth ar y paentiad ei wneud yn ein stiwdio ni, a’r ffrâm mewn stiwdio breifat. Wrth i’r baw gael ei lanhau, cafodd y llun ei drawsnewid, gan raddol ddatgelu’r lliwiau a’r brwshwaith cain. Rydyn ni hefyd wedi trwsio a chryfhau’r ymylon gwan ac wedi tynhau’r cynfas lle’r oedd wedi chwyddo.

Cafodd y broses ei dogfennu yn broffesiynol, ond hefyd fe wnaethom fideo o’r driniaeth a recordio cyfweliadau gyda’r cadwraethydd a’r curadur ar gamau allweddol. Bydd y rhain yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa wrth ymyl y paentiad o ddechrau 2023, a byddant hefyd ar gael ar-lein. Gobeithio y byddant yn helpu ein hymwelwyr i ddeall mwy am y broses, ac yn helpu pobl i ymlacio rhywfaint!

Adam

Dyn yn ffilmio dyn arall yn sefyll o flaen celflun mewn stwidio cadwraeth celf.

Adam Webster a Rhodri Viney yn creu ffilm am y gwaith o adfer portread Manet o Jules Dejouy.

Cymerodd fisoedd i ni adfer y paentiad, ac roedden ni eisiau dogfennu cymaint â phosib o’r gwaith. Fe wnaethon ni recordio’r fideo cyntaf am y portread nôl ym mis Mehefin 2021, felly mae hwn wedi bod yn broject hir.

Ym mis Mehefin 2022, dechreuodd y gwaith o ddifri. Fe wnaethon ni osod camera ‘treigl amser’ i gofnodi gweddnewidiad y llun dros fisoedd, a bues i’n ymweld â’r stiwdio gadwraeth yn rheolaidd i gyfweld Adam am y gwaith. Roedd yn fraint ac yn bleser cael gweld y portread yn newid gyda phob ymweliad. Fe wnes i hefyd yfed galwyni o de – mae croeso i gael bob amser gan y tîm cadwraeth!

Roedd angen golygu gwerth bron i 3 awr a hanner o ffilm, ac mae’r canlyniad i’w weld yn y fideo uchod. Gobeithio ei fod yn gwneud cyfiawnder â gwaith cadwraeth gwych Adam..

Rhodri

Tecstil Llan-gors: Mowntio Ffabrig Bregus

14 Ionawr 2022

Ym mis Medi 2021 cefais gyfle i weithio gyda Thecstil Llan-gors fel rhan o fy lleoliad gwaith gradd meistr yn yr Amgueddfa. Mae’r darn yn dyddio’n ôl i’r 10fed ganrif.  (https://museum.wales/articles/1344/The-Llan-gors-textile-an-early-medieval-masterpiece/Mae wedi’i wneud o liain a sidan, ac mae addurniadau cain wedi’u brodio arno; ond mae wedi’i ddifrodi yn sylweddol gan ddŵr a thân - cafodd ei ddarganfod yng nghrannog Llyn Syfaddan, a ddinistriwyd mewn tân. Oherwydd hyn, mae’n arbennig o fregus. Am fwy o wybodaeth ar y darn rhyfeddol hwn o ddefnydd, gweler y rhestr ar waelod yr erthygl.

Fy mhroject i oedd creu mowntiau newydd ar gyfer darnau o’r defnydd sydd heb addurnwaith ac sydd ddim yn cael eu harddangos, er mwyn gallu eu storio yn ddiogel. Roeddent wedi bod yn cael eu storio ar fyrddau gyda darnau wedi’u torri allan yn arbennig, a’u gorchuddio â rhwyll a ffilm i’w gwarchod. Dros y blynyddoedd roedd y darnau o ddefnydd wedi symud rhywfaint o fewn y byrddau, felly cefais i’r dasg o greu mowntiau newydd i’w cadw’n saff.

                                                       Paratoi’r mowntiau newydd (Llun: L. Mumford)

Roedd dull newydd o fowntio wedi’i ddyfeisio gan gadwraethwyr yr Amgueddfa (ac wedi’i ddefnyddio i arddangos y darnau addurnedig o’r defnydd yn oriel Gweithdy yn Sain Ffagan) cyn i mi gyrraedd. Gan ddilyn y dull hwn, torrais ddarnau o fwrdd i ffitio siâp pob darn o’r defnydd fel bod modd iddynt slotio gyda’i gilydd fel jigso. Roedd hon yn rhan bwysig o’r broses oherwydd mae’r math hwn o fowntio yn galluogi i’r darnau gael eu symud o gwmpas a’u hailddehongli.

Roedd y bwrdd wedi’i orchuddio mewn ffabrig wedi’i liwio’n arbennig sydd â rhywfaint o ael er mwyn dal y darnau bregus i’r wyneb heb fod angen eu gwnïo’n sownd - gan y byddai hyn yn eu difrodi. Cafodd y ffabrig hwn ei dorri i siâp, a rhoddwyd cefn calico iddo i’w dacluso.

                                                 Symud y defnydd i’w fownt newydd (Llun: L. Mumford)

Wedi gwneud y mowntiau, daeth y darn anodd - trosglwyddo’r darnau o ffabrig o’r hen fownt i’r un newydd! Darllenais y nodiadau cadwraeth gwreiddiol i sicrhau bod darnau llac yn cael eu gosod yn y safle cywir - roedd hyn yn anodd gan bod y defnydd i gyd bron yn ddu oherwydd ei fod wedi llosgi. Yn hytrach na lliw, cafodd cyfeiriad y pwythau ar y darnau bach, yn ogystal â’u siapiau, eu defnyddio i’w gosod yn y lle cywir. Dyma’r darn a gymerodd hiraf, ac roedd angen canolbwyntio’n llwyr!

                                                Mownt gwag gyda label wedi’i bwytho (Llun: E. Durrant)

Mae pob gwrthrych mewn amgueddfa yn cael rhif derbynodi, er mwyn gallu eu nabod yn hawdd, ac felly y dasg nesaf oedd creu labeli ar gyfer y Tecstil. Am fod y darnau mor fregus, fe wnes i greu tagiau bach a’u gwnïo ar gefn calico y mowntiau fel bod modd eu cuddio pan maen nhw’n cael eu storio neu eu tynnu allan os fydd rhywun angen eu hastudio. Mae hyn yn golygu na fydd y tagiau yn llusgo ar draws wyneb y Tecstil. Fe wnes i hefyd ysgrifennu’r rhifau ar y calico, rhag i’r tagiau fynd ar goll.

Y cam olaf oedd meddwl sut i’w storio. Y broblem gyda’r hen ddull storio oedd bod y darnau yn llithro, a dyma oedd y brif broblem i’w hystyried. Roedd ymyl y defnydd yn atal symudiad i ryw raddau, ond ddim digon. Felly fe lenwais i focs gydag ewyn, a rhoi pinnau o gwmpas y darnau wedi’u mowntio i’w dal yn eu lle. Bydd yr ewyn yn lleihau effaith ysgytwad, ac mae’r pinnau yn sicrhau na fydd y darnau’n symud o fewn y bocs.

                                             Bocs o ddarnau o’r defnydd wedi’i fowntio (Llun: E. Durrant)

Roedd hwn yn gyfle gwych i weithio ar ddarn unigryw o dreftadaeth Gymreig, a hoffwn ddiolch i holl staff cadwraeth yr Amgueddfa am eu croeso ac am rannu eu gwybodaeth helaeth.

 

Darllen pellach:

Amgueddfa Cymru. 2007. Gweolyn Llan-gors: campwaith canoloesol cynnar. Ar gael yn: https://amgueddfa.cymru/erthyglau/1344/The-Llan-gors-textile-an-early-medieval-masterpiece/ [Cyrchwyd 4 Ionawr 2022]

Lane, A. a Redknap, M. 2019. Llangorse Crannog: The excavation of an early medieval royal site in the kingdom of Brycheiniog. Rhydychen: Oxbow Books
 

 

Blwyddyn Ryngwladol Tabl Cyfnodol yr Elfennau Cemegol y Cenhedloedd Unedig: Mis Hydref – Sylffwr

Christian Baars, 23 Hydref 2019

Yn 2019 mae Tabl Cyfnodol yr Elfennau Cemegol yn 150 mlwydd oed (gweler UNESCO https://www.iypt2019.org/). Mae hyn yn gyfle i feddwl am wahanol agweddau’r tabl cyfnodol, gan gynnwys effeithiau cymdeithasol ac economaidd elfennau cemegol.

Sylffwr yw’r bumed elfen fwyaf cyffredin (yn ôl màs) ar y Ddaear, ac mae’n un o’r sylweddau cemegol gaiff ei ddefnyddio fwyaf. Ond mae sylffwr yn gyffredin tu hwnt i’r ddaear: mae gan Io – un o leuadau Galileaidd y blaned Iau – dros 400 o losgfynyddoedd byw sy’n lledaenu lafa llawn sylffwr, gymaint ohono nes bod arwyneb y lleuad yn felyn.

Alcemi

Câi halwynau sylffad haearn, copr ac alwminiwm eu galw’n “fitriol”, oedd yn ymddangos mewn rhestrau o fwynau a wnaed gan y Swmeriaid 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Câi asid sylffwrig ei alw’n “olew fitriol”, term a fathwyd gan yr alcemydd Arabaidd Jabir ibn Hayyan yn yr 8fed ganrif. “Brwmstan” oedd yr hen enw am sylffwr yn llosgi, ac arweiniodd hyn at y gred fod Uffern yn arogli fel sylffwr.

Mwynoleg

Anaml iawn y gwelir sylffwr pur – mae fel arfer i’w ganfod fel mwynau sylffid a sylffad. Mae sylffwr elfennol i’w weld ger ffynhonnau poeth, daeardyllau hydrothermol ac mewn ardaloedd folcanig lle gellir ei fwyngloddio, ond prif ffynhonnell sylffwr ar gyfer diwydiant yw’r mwyn haearn sylffid, pyrit. Ymysg mwynau sylffwr pwysig eraill mae sinabar (mercwri sylffid), galena (plwm sylffid), sffalerit (sinc sylffid), stibnit (antimoni sylffid), gypswm (calsiwm sylffad), alwnit (potasiwm alwminiwm sylffad), a barit (bariwm sylffad). O ganlyniad, mae’r cofnod Mindat (cronfa ddata wych ar gyfer mwynau) ar gyfer sylffwr yn un go hir: https://www.mindat.org/min-3826.html.

Cemeg

Mae sylffwr yn un o gyfansoddion sylfaenol asid sylffwrig, gaiff ei alw’n ‘Frenin y Cemegau’ oherwydd ei fod mor ddefnyddiol fel deunydd crai neu gyfrwng prosesu. Asid sylffwrig yw’r cemegyn gaiff ei ddefnyddio amlaf yn y byd, ac mae’n ddefnyddiol yn bron bob diwydiant; gan gynnwys puro olew crai ac fel electrolyt mewn batris asid plwm. Caiff dros 230 miliwn tunnell o asid sylffwrig ei gynhyrchu bob blwyddyn dros y byd.

Rhyfel

Powdr gwn, cymysgedd o sylffwr, siarcol a photasiwm nitrad a ddyfeisiwyd yn Tsieina yn y 9fed ganrif, yw’r ffrwydryn cynharaf y gwyddom amdano. Sylwodd peirianwyr milwrol Tsieina ar botensial amlwg powdr gwn, ac erbyn OC 904 roeddent yn taflu lympiau o bowdr gwn ar dân gyda chatapyltiau yn ystod gwarchae. Mewn rhyfel cemegol 2,400 o flynyddoedd yn ôl, defnyddiodd y Spartiaid fwg sylffwr yn erbyn milwyr y gelyn. Mae sylffwr yn un o gyfansoddion pwysig nwy mwstard, sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio fel arf cemegol ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fferylliaeth

Mae gan gyfansoddion sylffwrig bob math o ddefnydd therapiwtig, gan gynnwys trin microbau, llid, feirysau, clefyd siwgr, malaria, canser a chyflyrau eraill. Mae llawer o gyffuriau yn cynnwys sylffwr. Ymysg yr enghreifftiau cynnar mae sylffonamidau, “cyffuriau sylffa”. Mae sylffwr yn rhan o sawl gwrthfiotig, gan gynnwys penisilin, ceffalosborin a monolactam.

Bywydeg

Mae sylffwr yn un o elfennau hanfodol bywyd. Mae rhai asidau amino (cystein a methionin; asidau amino yw cyfansoddion strwythurol protein) a fitaminau (biotin a thiamin) yn gyfansoddion organosylffwr. Mae deusylffidau (bondiau sylffwr-sylffwr) yn rhoi cryfder mecanyddol ac anhydoddedd i’r protein ceratin (sydd mewn croen, gwallt a phlu). Mae gan lawer o gyfansoddion sylffwr arogl cryf: mae arogl grawnffrwyth a garlleg yn dod o’r cyfansoddion organosylffwr. Nwy hydrogen sylffid sy’n rhoi arogl cryf i wyau drwg.

Ffermio

Mae sylffwr yn un o’r prif faetholion ar gyfer tyfu cnydau. Mae sylffwr yn bwysig gydag ymlifiad maetholion, cynhyrchu cloroffyl a datblygiad hadau. Oherwydd hyn, mae asid sylffwrig yn cael ei ddefnyddio’n helaeth fel gwrtaith. Mae tua 60% o’r pyrit gaiff ei fwyngloddio yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu gwrtaith – gallech ddweud mai pyrit sy’n bwydo’r byd.

Yr Amgylchedd

Mae anfanteision i ddefnyddio sylffwr: mae llosgi glo ac olew yn creu sylffwr deuocsid, sy’n adweithio gyda dŵr yn yr atmosffer i greu asid sylffwrig, un o brif achosion glaw asid, sy’n troi llynnoedd a phridd yn asidig ac yn difrodi adeiladau. Mae draeniad asidig o fwyngloddiau, un o ganlyniadau ocsideiddio pyrit wrth fwyngloddio, yn broblem amgylcheddol fawr, ac yn lladd llawer o fywyd mewn afonydd ledled y byd. Yn ddiweddar, defnyddiwyd carreg galchaidd yn cynnwys llawer o pyrit fel ôl-lenwad ar gyfer stadau tai o gwmpas Dulyn. Achosodd hyn ddifrod i lawer o dai wrth i’r pyrit ocsideiddio. Cafodd yr achos ei ddatrys gan y “Pyrite Resolution Act 2013” a roddodd iawndal i berchnogion tai.

Cadwraeth Sbesimenau Amgueddfa

Oherwydd bod sylffidau haearn yn fwynau hynod adweithiol, mae’n anodd eu cadw mewn casgliadau amgueddfeydd. Am ein bod ni’n gofalu am ein casgliadau, sy’n cynnwys gwella arferion cadwraeth o hyd, rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o warchod mwynau bregus. Mae ein project diweddaraf, ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen, yn cael ei gynnal gan ein myfyriwr ymchwil doethurol, Kathryn Royce. https://www.geog.ox.ac.uk/graduate/research/kroyce.html.

Dewch i’n gweld ni!

Os yw hyn wedi codi awydd arnoch i ddysgu mwy, dewch i weld ein sbesimenau sylffwr a pyrit yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. amgueddfa.cymru/caerdydd, neu gallwch ddysgu am fwyngloddio a diwydiannau tebyg yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru https://amgueddfa.cymru/bigpit/ ac Amgueddfa Lechi Cymru https://amgueddfa.cymru/llechi/.