Pwy oedd yn gwneud arian ffug, a pham?
Câi darnau arian ffug eu cynhyrchu am sawl rheswm yn y gorffennol. Weithiau, pan nad oedd digon o’r ceiniogau gwerth is, byddai pobl yn mynd ati i’w cynhyrchu’n answyddogol er mwyn gwneud yn iawn am y diffyg. Ym Mhrydain y Rhufeiniaid, roedd yr arfer hwn mor gyffredin fel ei bod yn bosibl bod llawn cymaint o ddarnau arian ffug yn cael eu defnyddio â rhai iawn ar rai cyfnodau. Ar ôl i Claudius lanio yma yn 43 OC, hwyrach fod y fyddin Rufeinig ei hun wedi bod yn gyfrifol am lawer o’r arian ‘afreolaidd’ hwn. Weithiau byddai llywodraethau’n goddef yr arian ffug fel rhywbeth annymunol ond angenrheidiol.
Mewn achosion eraill, byddai pobl yn ffugio darnau arian am un rheswm syml - i wneud elw. Wrth gwrs, nid ar chwarae bach roedd gwneud hyn. Roedd angen cyflenwad o fetel, ffwrnes neu grwsibl, ac offer o bob math, yn cynnwys deiau neu fowldiau gyda chopi digon da o’r darn arian i’w atgynhyrchu wedi’i ysgythru arnynt. Roedd hyn yn golygu bod mwy nag un person yn rhan o’r fenter gan amlaf, a bod angen rhywfaint o fuddsoddiad ariannol cyn cychwyn. Felly nid gobaith olaf dynion neu fenywod tlawd heb unrhyw ffordd arall o gael arian oedd y mentrau hyn.
Roedd rhai ‘bathwyr’, eisoes yn unigolion cefnog. Ym 1603, darganfuwyd menter fathu yng Nghaer Duncannon yn Iwerddon. Daethpwyd o hyd i fowldiau, darnau o bres, crwsiblau, ynghyd â chemegau a golosg, yn nesg cadlywydd y gaer, Syr John Brockett. Roedd Syr John wedi bod yn cynhyrchu darnau arian Seisnig a Sbaenaidd ffug, a chafodd fynd o flaen ei well am frad.
Doedd dim bwriad defnyddio rhai o’r darnau ffug fel arian bob dydd, serch hynny. Cyn belled yn ôl â’r 16eg ganrif, roedd hynafiaethwyr a chasglwyr wedi dechrau ymddiddori mewn hen ddarnau arian, ac o ganlyniad dechreuodd rhai unigolion diegwyddor wneud busnes o gyflenwi darnau ffug i demtio’r diniwed. Yn Llundain ar ddechrau oes Fictoria, bu dyn o’r enw Edward Emery yn gyfrifol am ychwanegu 5–7,000 o ddarnau ffug o’r oesoedd canol a chyfnod y Tuduriaid at y farchnad casglwyr. Roedd darnau arian Rhufeinig yn boblogaidd tu hwnt hefyd, a chafodd darn ffug a gynhyrchwyd yn yr oes fodern ei ddarganfod gan Mr Rogers ym Mrynbuga yn 2007. Roedd wedi’i wneud o aloi metal cyffredin gwyn er mwyn edrych fel arian. Tybed a wnaeth y perchennog ei daflu i ffwrdd yn ei ddicter pan sylweddolodd ei fod wedi cael ei dwyllo?
Sut roedd darnau arian ffug yn cael eu creu?
Roedd dau brif ddull o gynhyrchu darnau arian ffug - eu curo o ddeiau a oedd wedi’u dwyn neu eu ffugio, neu eu castio mewn mowldiau. Roedd menter bathu darnau arian yn Iwerddon ym 1601 yn defnyddio deiau sialc a metel i guro’r darnau, a oedd wedi’u gwneud o aloi a oedd yn cynnwys digon o dun i greu’r lliw arian angenrheidiol, ond nid oedd y darnau, wrth reswm, yn cynnwys unrhyw fetel gwerthfawr. Roedd hyn yn amlwg yn waith swnllyd ac felly roedd mentrau o’r fath yn aml wedi’u lleoli mewn ardaloedd prysur fel canol trefi lle byddai’r sŵn a’r gweithgarwch yn cael eu celu gan y mynd a’r dod ar y strydoedd, neu mewn mannau anghysbell y byddai pobl yn annhebygol o fynd iddynt. Dyma oedd dewis y ffugwyr Rhufeinig a oedd wrthi’n bathu arian ffug yn y mwynglawdd plwm yn Nraethen, ger Caerffili, lle daethpwyd o hyd i ddarnau arian, y ‘fflaniau’, neu’r darnau metel gwag, a ddefnyddiwyd i guro’r darnau ffug, yn ogystal â’r ffyn metel y torrwyd y fflaniau oddi arnynt. Darganfuwyd yr eitemau hyn o amgylch lle tân, ac ni allwn ond dyfalu pa mor boeth, annifyr a pheryglus oedd creu darnau arian o dan y ddaear fel hyn.
Roedd castio’n broses wahanol, ond roedd gofyn cael ffynhonnell bwerus o wres serch hynny am fod angen metel tawdd. Gwnaed argraff o ddwy ochr darn arian go iawn mewn clai, cwyr neu ludw. Yna, ar ôl iddynt galedu byddai’r mowldiau’n cael eu rhoi at ei gilydd a’u llenwi ag aloi metel tawdd. Mae modd dweud bod rhai darnau arian wedi cael eu castio am nad yw’r sianel lle cafodd y metel ei dywallt wedi cael ei thorri i ffwrdd neu ei llyfnu yn iawn. Mae digon o dystiolaeth i ddangos bod y dull hwn o ffugio ar waith yn Llundain adeg y Rhufeiniaid, yn cynnwys y darnau a gastiwyd eu hunain (mewn aloi efydd neu dun lliw arian yn aml) ynghyd â channoedd o fowldiau.
Nid defnydd cyfrwys o aloiau oedd yr unig ffordd o ffugio metel drudfawr er mwyn creu darnau arian a oedd yn argyhoeddi (roedd rhai’n cynnwys arsenig er mwyn gwynnu’r metel!). Roedd rhai darnau – fel yr hanner coron Siarl I y soniwyd amdani gynt – yn cael eu gwneud o fetelau cyffredin ac yna’n cael eu platio â haen denau o arian neu aur er mwyn iddynt edrych fel y dylent. Roedd darnau ffug yr Oesoedd Canol yn aml yn defnyddio techneg o’r enw euro â thân. Byddai darn gwag o fetel cyffredin yn cael ei rwbio â chymysgedd o aur a mercwri ac yna’n cael ei gynhesu. Byddai’r mercwri’n anweddu a’r aur yn cael ei fondio i wyneb y metel. Yna byddai modd curo’r darn rhwng y deiau.
Yn amlwg, roedd y broses hon yn gofyn am rywfaint o sgil dechnegol, ac mae yna dystiolaeth fod ffugwyr yn arbrofi gyda dulliau a fyddai’n cael eu defnyddio at ddibenion mwy cyfreithlon maes o law. Gwelwyd bod darn arian ffug yn dyddio o deyrnasiad Wiliam III (1689–1702) wedi cael ei wneud gan ddilyn enghraifft gynnar o dechneg platio Sheffield. Byddai plât copr yn cael ei rolio neu ei forthwylio rhwng dwy haen denau o arian, cyn torri’r darnau arian gwag ohonynt. Yna, byddai’r ymylon yn cael eu gorchuddio ag aloi copr ac arian cyn i’r darnau gwag gael eu curo gyda deiau swyddogol wedi eu smyglo allan o fathdy Llundain.
Byddai’r aur a’r arian oedd eu hangen ar gyfer y platio yn cael eu cyflenwi drwy docio arian go iawn (a oedd yn drosedd ynddo’i hun) yn ogystal â thoddi darnau o blât neu ddarnau arian eraill.
Cosbau
Roedd y cosbau llym ar gyfer ffugio arian yn adlewyrchu natur ddifrifol y drosedd ond hefyd pa mor anodd oedd dod o hyd i’r troseddwyr. Fel llawer o gosbau yn y cyfnod cyn fodern, roeddent yn gosbau corfforol eu natur. Yn yr hen Rufain, roedd yn drosedd ddifrifol iawn, a oedd yn gyfystyr â brad, a’r gosb oedd alltudiaeth neu gaethwasiaeth os oeddech chi’n lwcus neu, fel arall, byddech yn cael eich croeshoelio. Ar ddechrau’r 4edd ganrif, cyflwynodd yr Ymerawdwr Cystennin – sy’n enwocach am wneud Cristionogaeth yn grefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig – losgi fel cosb i ffugwyr.
Yn Lloegr yn y 10fed ganrif, o dan y brenin Athelstan (927–939), byddai’r ffugiwr yn colli llaw, ond aeth un o’i olynwyr Normanaidd, Harri I (1100–1135), un yn well. Ac yntau’n amau bod gweithwyr ei fathdy swyddogol yn cynhyrchu arian afreolaidd yn ddistaw ar y slei ac yn anfodlon â safon yr arian rheolaidd, gorchmynnodd iddynt ddod i Gaer-wynt i ddathlu’r Nadolig a thorrodd law dde a cheilliau pob un ohonynt i ffwrdd.
O dan Edward I a brenhinoedd diweddarach, marwolaeth drwy grogi oedd y gosb arferol i ddynion, gyda menywod yn cael eu llosgi a’u tagu. Dioddefodd tair anffodus y gosb erchyll hon yng Nghaeredin yn yr 16eg ganrif, ac ym 1560 cafodd Robert Jacke, masnachwr o Dundee, ei grogi a’i chwarteru, dim ond am fewnforio arian ffug. Cafodd 19 o bobl y gosb eithaf am ffugio arian ym 1697 pan oedd Syr Isaac Newton yn Warden y Bathdy Brenhinol.